Collection Title: goleuad

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 7 of 16 Next Last
Full Screen
4 articles on this page
CRANOGWEN

CRANOGWEN. (CAN Y PARCH. J, JENKYNSJONES, B.A., PENSARN). —o— Teimlwn ein calon yn llosgi ynom heddyw-tran- ceth dydd angladd Cranogwen, gan awydd i ro'i ar bapur rai argraffiadau am dani sydd ar ein meddwl o'n hadnabyddiaeth bersonol ohono ynghyda'r tyst- 101aethau lu o wahanol gyfeiriadau gaed yn ei gwas- atnaeth angladdol i ragoriaeth ei chymeriad, dis- gleirdeb ei hathrylith, eryfder ei galluoedd meddyliol a mawredd y gwaith gyflawnodd yn ei bywyd mewn ùes hirfaith yn ymylu ar y 80 mlynedd. Gobeithnvn yn fawr yr ymgymer rhai o oreugwyr y genedl a'r gorchwyl i ysgrifenu ar Cranogwen. Gwaith anhawdd fydd gwneyd cyfiawnder a'r gwrthrych. Yr oedd ynddi y fath gyfuniad eithr- :adol—disgleiriai mewn cymaint o gylchoedd gwahan ol. Yr oedd yr athraw, y bardd, y lienor, y cerdd- or, yr areithiwr, y pregethwr a'r dyngarwr wedi cyd-gyfarfod yn ei pherson. Ni pherthyn i ni fyned i mewn i'r cylchoedd yna heddyw. Ein hamcan fii yw ysgrifenu gair fel tipyn o weinidog wedi byw rhyw naw mlynedd yn gymydog i Cranogwen, a phwysleisio rhai agweddau yn ei bywyd fel cymydog ag y mae perygl iddynt fod fyth dan len. Cranog- wen yn ei chartref, fel yr ymwelai a'i chyfeillion a'i chymydogion ynghylch -Llangranog—y pentref taw- el, anghysbell ar draethau bau Aberteifi, yn teimlo y jdyddordeb mwyaf ym mhawb, yn ymholi i hanes pawb, yn dymuno y goreu i bawb, yn gweddio Duw ar ran pawb. Tystiai un o ferched y De yn ei hangladd fod Cranogwen pan ar ei theithiau ym Morganwg a Chaerfyrddin yn cario Llangranog yn ei mynwes gyda hi yn wastad-yn cofio yn ei gwedd- iau hyd yn oed am fechgyn y pentref gyflawnent eu goruchwylion ar y dyfroedd dyfnion, gan ddymuno ar iddynt gael eu tywys i'r porthladd dymunol; Cranogwen fel yr ymwelai ag eglwysi bychain De Ceredigion ar y Sabbothau, y dyddordeb mawr a gymerai ynddynt, y cynghorion dwys a buddiol roddai iddynt a'i llafur diflino ar eu rhan. Er cael ei gwahodd yn barhaus i'r rhai mwyaf, nid anghof- iai y rhai gwanaf. Mae eglwysi gweiniaid Cered- gion wedi cael colled fawr yn ei symudiad hi. •Cymeriad ar ei phen ei hun ydoedd—yr oedd yn eithriad ym mysg ei rhyw. Ni ddeuai o dan yr un ddeddf 6 dynoliaeth yn gyffredin, Yr oedd yn ddeddf iddi ei hun. Yr oedd yn orchwyl go rwydd i gam- ddeall Cranogwen. Da oedd genym weled, er hyny, ddydd ei hangladd, fod, ugeiniau wedi ei deal! i berffeithrwydd-y llu Merched y De fu'n siarad. Un anwyl, dwym-galon, garedig, ydoedd yn ol tyst- iolaeth pawb a'i deallodd. Gwnaeth waith mawr yn gyhoeddus. Gwnaeth lawn cymaint yn ddirgel. Nid oedd ganddi y ddawn i gasglu y byd. Ni ddeuai yn gyfoethog byth. Ni wyr neb ddegwm y cymorth mewn aur ac arian estynodd i weddwon, amddifaid a thlodion gwlad pan ar ei theithiau a'i hymweliadau. Cafodd gladdedigaeth tywysogaidd. Yr oedd hi yn fam yn Israel, ac fel yr oedd yn gweddu daeth llu o'r merched ynghyd i Langranog i dalu y gym- wynas olaf iddi. Iddynt hwy y rhoddwyd y fraint o gymeryd y rhan fwyaf blaenllaw yn y gwasanaeth, a cliyflawnodd pob ei rhan yn ardderchog. Er yr ymddengys fel gwrth-ddywediad, gwledd oedd bod yn yr angladd. Yr oedd y gwasanaeth drwyddo yn hyfryd iawn. Dygodd y llu Merched y 'De fu'n siarad dystiolaeth uchel iawn i gymeriad a bywyd y Dywysoges oedd wedi syrthio- yr hen general," fel y'i galwent. Dywedwyd yno bethau bendigedig-digon i brofi i bob dyn gonest fod y sefydliad,—Undeb Dirwestol Merched y De—creadigaeth arbenig Cranogwen, yn cyfiawn- hau ei fodolaeth. Tystiai amryw o'r merched mai Cranogwen—yr anwyl Cranogwen, fel ei galwent yn ddieithriad, a'u darganfyddodd hwy; mai hi a'u dysgodd i sefyll i fyny a cheisio siarad yn gyhoedd- us y tro cyntaf erioed. Llawenydd digymysg gen- ym allu tystiolaethu am y wledd gawsom i glywed y chwiorydd hyn yn siarad gyda'r fath ddeheurwydd ac awdurdod. gyda'r fath deimlad o hiraeth a galar, ond eto o ddiolchgarwch. Yr oedd golwg urddasol arnynt—goreuon merched Deheudir Cymru, y tan dwyfol yn llosgi yn eu mynwes ac yn amlwg ddigon wedi derbyn yn helaeth o yspryd Cranogwen, eu harwres a'u harweinyddes. Teimlwn yn sicr y gellir bod yn ddibryder am ddyfodol Undeb Merched y De. Er symud y syl- faenyd'd hwnt i'r lien, bydd y sefydliad byw. Ond nid oedd Cranogwen yn ewyllysio marw. Er cyrhaedd cyffiniau y 80 mlynedd, ewyllysio byw a gweithio yr ydoedd. Yr oedd ei chariad at waith yn ddi-hafal. Dyna oedd y wledd iddi—gwaith. Trugaredd fawr a Chranogwen oedd i Dduw ei sym- ud o ganol ei gwaith. Symudwyd hi o ganol ei defnyddioldeb. Ar daith ym Morganwg yr ydoedd ttr y pryd. Ond ynghanol y trefnu ar gyfer y dv- fodol a'r cynllunio, daeth yr alwad oddi fry. Sym- udwyd hi oddiwrth ei gwaith at ei gwobr. Rhaid oedd cludo yr hyn oedd farwol ohoni yn 01 i Langranog, i huno yr hun olaf, gyda pherthyn- asau a llu cyfeillion mynwesol. ym mynwerit Eglwys y Plwvf, 0114 gerllaw Capel Balicyfelin-Ilanerch oedd yn gvsegredig iawn iddi hi. Yr oedd i Cran- ogwen edmvgwyr lawer, ond neb mwy nag ydoedd yng nghylch Llangranog. Trwyddi hi yr anfar- wolwvd y pentref. Yr oedd i'r broffwydes hon an- rhydedd yn ei gwlad ei hun. Yr oedd iddi ar hyd y blynvddoedd lu o garedigion yma mewn llawn gydymdeimlad a'i dyheadau a'i gwaith. Pan ddvchwelai yn ol o'i theithiau cenhadol, yn lludd- edig ei chorff, a,c yn ami yn brudd ei hysbryd, caf- odd yma garedigion i'w sirioli a'i chalonogi. Nid oedd Cranogwen uwchlaw yr angen am air caredig. Gwyddai hi cystal a neb beth oedd nisgyn i'r dyfn- deroedd tywyll a niwlog. Ar ol odfaon grymus a hwyliog, pryd y canfyddai y tir pell, deuai ad- weithiad i fewn. Ymollyngai, suddai i'r dyfnder- oedd. Ai yn amheus iawn o'i chyflwr. Ofnai nad oedd y sylfaen dani. Perthyn i'r Hen Ysgol yr oedd ar gwestiwn sicrwydd cadw. Nid yn ami y clywodd neb Cranogwen yn tystio i sicrwydd ei chadwedigaeth. Yr oedd os yn ei chrefydd. Cofus genym glywed y diweddar Barchedig Evan Phillips yn dweyd fod os dynion fel Henry Rees wedi bod yn help mawr iddo ef ar lawer achlysur- fod yn well ganddo am amheuaeth un dosbarth na sicrwydd y Hall ar y pwnc hwn. Ofni yr oedd Cranogwen yn ami, ond nid oedd neb arall yn ofni am dani. Y darlun fydd gan y lluaws o honi fydd hwn—Cranogwen, yr arwres, yr yspryd dewr, cad- am, penderfynol, yr un allasai daro astell y pulpua a'i dwrn a gofyn i'r gynulleidfa aros ar haner y canu a dechreu o'r newydd, a chanu yn lie llusgo, gan gymeryd yr arweinyddiaeth ei hunan. Ond gwyr y cylch mewnol fod agwedd arall i'w bywyd. Am y medrai ymddyrchafu i'r fath uchelderau, gall- asai hefyd ddisgyn i'r dyfnderau cyferbyniol mewn ofn, pryder, pruddglwyf. Awr cyn dechreu oedfa gwelid Cranogwen ambell dro yn ymbarotoi i farw- teimlai fod awr yr ymddatodiad wrth y drws. Yr oedd gwir angen am rywun cymhwys i'w sirioli y pryd hwn. Ond bron yn ddieithriad ar ol gwasgfa felly caffai odfa i'w chofio. Y mae anrhydedd wedi el ro'i ar y cartrefi hyny trwy y wlad gawsant y fraint o'i derbyn a'i chroes- awu—y ferch enwocaf ar lawer cyfrif welodd Cym- ru. Hi wnaeth v pionoer work." Rhag-redeg- ydd ydoedd. Nid yw y ferch wedi dod i'w theyrnas yn gyflawn eto. Yr oedd ymhell iawn o honi pan y cychwynodd Cranogwen, 50 neu 60 mlynedd yn ol. Cafodd ami groes a llawer sen. Teimlai i'r 'byw^o'u herwydd, ond yr oedd yspryd dewr, pen- derfynol yn ei mynwes yn ei hysgogi ymlaen. Gorchfygodd. Ni wnaeth ddim i dynu anfri ar y gwaith da. Yr oedd ei chymeriad yn ddisglaer. Cadwyd hi yn ddi-gwymp hyd y diwedd. Wedi rho'i ei chopff i orffwys yn y fynwent, caf- wyd cyfarfod drachefn yn yr hwyr—" Cyfarfod Diolchgarwch i Dduw am Cranogwen," dyna yr enw roed arno. Y chwiorydd gymerasant y rhan fwyaf blaenllaw yn hwn eto, a.throdd allan yn ardderchog fawr hon o'i eiddo i'n gwlad a'n cenedl am iddo ei Cyfarfod diolch i'r Pen Mawr am y rhodd werth- fawr hon o'i eiddo i'n gwlad a'n cenedl am iddoei gadael gyda ni am gyfnod mor faith a'i chvmeryd yn ol iddo'i Hun yn y diwedd yn ddisglaer a hardd. Mae bedd Cranogwen mewn man hynod. Un hyn- od ydoedd hi; hynod yw man ei beddrod. Yng nghysgod y creigiau uchel, ysgythrog yr huna hyd ganiad yr udgorn mawr. A thra y llecha ei chorff yng nghysgod hen greigiau anian ym mhentref Llan- granog, llecha ei henaid mawr yng nghysgod Craig yr Oesoedd byth. Mae wedi ei symud at ei gwobr, a gwobr fawr yw gwobr Cranogwen heddyw. Gwnaeth y Parch. Daniel Lewis, gweinidog Banc- yfelin, sylw tarawiadol ar derfyn cyfarfod yr hwyr, gwerth ei gofio gan bawb a deimla awydd i wneyd daioni dros ei Geidwad. Dyma ei sylwedd—Dech- reu gartref wnaeth Cranogwen; dal ar y cyfleuster- au ddeuai ar ei llwybr, yn yr Ysgol Sul, a chylch yr eglwys. gartref-llanw hwn a gwaith. 0 lanw vjjwriw ymeangai y cylch. Aeth yn rhy fawr i gylch y cartref a'r eglwys maes o law. 'Daeth galwadau o'r tu allan. Ymhelaethodd y cylch o'r diwedd nes y cynwysai genedl y Cymry ymhob man—Cymru, Lloegr, ac America. A'r doethion (yr athrawori) a ddisgleiriant fel disgleirdeb y ffurf- afen; a'r rhai a droant lawer i gyiiawnder a fyddant fel y ser byth yn dragywydd.-(Daniel 12, 3). A O -^>

YN ANGLADD CRANOGWEN

YN ANGLADD CRANOGWEN. Yr oedd ein hedmygedd a'n parch i'r anwyl Cran- ogwen yn fawr, yn herwydd ei hoes ddisglaer a di- lychwin, wedi rhoddi heibio ac ymwadu a, phob pwys, er mwyn aberthu ei hunan yn fwy llwyr yng ngwaith ei Harglwydd—yr hyn a wnaeth gyda phenderfyniad diflino, heb wyro ar dde nac aswy, ond gweithio yn ddiorphwys mewn amser ac allan o amser, yn ddifefl ac ymroddgar am gyfnod o dros dri-ugain mlynedd. Mae llanerchau yng Nghymrn heddyw sydd a'u henwau yn gysegredig ac anwyl iawn genym, ac yn eiriau teuluaidd ar ein haelwyd- ydd, a hyny o herwydd eu cvsylltiad a, phersonau neillduol, megis y Bala, Trefecca, Dolyddelen, Blaenanerch, Pontycelyn, &c. A thithau, Llan- granog fechan, dawel, dlos, nid y lleiaf ydwyt yn eu plith, canys o honot ti y daeth yr enwog Cran- ogwen, ac vmhlith plant gwragedd mewn unrhyw oes yng Nghymru, ni chododd prophwydes fwy na hi. Ystyriaethau fel hyn a wnaeth bellder ac anhaws- derau y daith i'w hangladd ond pethau bychain yn ein golwg. Wedi cyrhaedd y pentref, cyfeiriasom ein camrau tua Green Park, sef y lie yr oedd wedi bod yn aros am oddeutu ugain mlynedd, gyda chwaer rinweddol, hynaws a charedig, o'r enw Miss Thomas. Bydded ei thy fel ty Obed Edom gvnt. Fel v dynesem at y lie, yr oedd y ffyrdd am bellder maith yn llawn o gerbvdail a phobl o bob parth o'r wlad. nes peri i ni feddwl am angladd Jacob yn yr Aipht gynt. Cyn cychwyn cawsom v fraint o ed- rych ir ei liwvneb am y tro olaf, ni welodd ein llygaid erioed features mwy naturiol, prydferth ac intelh' o-ent,' buasai 'photo ohono yn gaffaeliad mawr. iWedi canu emyn. cychwynwvd yn orym- daith fawr am faes Macpelah, tua milldir 0 ffordd. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol vncr nghapel Bancvfelin, vn yr hwn le v bu vn addoli. ac yn llafurio vn ddiwyd a chaled ar hyd ei hoes faith, ac nid nodd mahgre ar wyneb daear, mor hoffus ac anwyI ganddi a'r deml hon., Gwasanaeth bendig- edig oedd hwn. rhyw eneiniad rhyfedd a dwvs drwyddo oil. iLlywyddwyd gan y Parch. Daniel Lewis, gweinidog. Y rfeyw deg. yn naturiol, oedd yn cymeryd y rhan bwysicaf ynddo, a gwnaethant eu gwaith yn rhagorol. Ow Ow meddem (wrthym ein hun), Cranogwen yn bresenol yn ei harch, yn ddistaw, fud, wedi tewi. Na, na, meddai Ileferyd(i dwyfol, y mae yn Ilefaru eto, y mae yn lletaru eto. Yr oedd hanes y dyddiau diweddaf am gat- l'wd Gymreig yn ymladd ac yn ymlid y gelyn ar faes y gwaed yn Ffrainc, clwyfwyd a chwympwyd ei harweinydd, ond er methu' dilyn, gwaeddai a.'i holl egni, Go on, Welshmen! Go on, Welsh- men! Go on!" Felly yma, Cranogwen yn llefara ac yn gwaeddi eto trwy ei gweithiau, ei phregethu, ei chynghorion, ei hesiampl, &c., "Go on, merched Bancyfelin a Llangranog Llenwch y bylchau yn y rhengau; brwydrwch yn eofn a dewr yn achos ein Gwaredwr bendigedig. Merched Undeb Dirwestol y De,—go on Peidiwch llaesu dwylaw ddim, ond ewch rhagoch, ymleddwch hyd farw i gael teyrnas y gelyn dinystriol i lawr Ac felly bydded ei lleferydd mewn llawer dull a modd yn symbyliad i ni oil i fwy o weithgarwch ac ymroad yng ngwinllan ein Harglwydd, ac i ymdrechu mwy i gyrhaedd y gamp fawr. Y mae mangre dawel a chysegredig ei bedd yn gorwedd wrth droed mynydd uchel a chadarn, yng ngolwg ei theml sanctaidd, Bancyfelin, oddeutu can' Hath oddiwrtho, uwchben y bedd y mae coed- en (Irish yew) a'i changhenau yn cyfeirio yn syth at i fyny, fel myneg-byst tuag at y diogelwch tra- gwyddol, a'r waedd o'r ddaear tanodd yn dweyd, Rhedwch." Mae llawer o gyrchu tua'r lie, a diau y bydd llawer eto o bob rhan o Gymru. Rhyw wraig weddw o Gwm Rhondda yn gwlitho ei bedd a'i dagrau, ac yn adrodd mai gweddio gyda hi a'i merch amddifad oedd y weithred olaf iddi wneud cyn ymadael o'i thy, ac y mR" ar fin ei bedd yn gwneud llw o ffydd- londeb o'r ntv\ydd i'r Brenliin Iesu. Un arall, a adwaenom yn dda, yn cyrchu yn ostyngedig a. gwylaicld tua'i gorweddle, achan bwyso megis ar erchwyn ei gwely pridd, y mae yn distaw sibrwd yn ei dagrau, ei hadgofion o'r addysg a'r hyffordd- iant a dderbyiuasai ganddi pan yn blentyn yn eglwys Bancyfelin, ei hysgrifen ar y Beibl hardd a roddwyd yn anrheg iddo ar ei hymadawiad o'r Ile, a'r modd y byddai yr ymadawedig y dyddiau di- weddaf hyn yn gwlychu ei ddalenau a'i dagrau pan ar ddyledswydd yn ei thy (canys mynych y cyrchai yno pan yn y Rhondda), ei hymddiddanion blasus a'i chynghorion gwerthfawr, y corph marwol yn enyn ail-fywyd yn y rhai'n oil, gyda phenderfyniad o'r newydd i'w dilyn a'u cadw. Arall yn dyfod ac yn tystiolaethu mai trwyddi hi y cafodd war-urfg- ■ aeth rhag marwolaeth anamserol ym medcf meddw- dod, ac yn adnewyddu y penderfyniad i gadw y pledge,' sef yr ardystiad dirwestol. Ychydig ddyddiau cyn ei symudiad yr oeddym yn ei chymdeithas, pryd y dywedai wrthym ei bod yn bur brysur, yng nghanol gormodedd o waith, ond ei bod yn teimlo fod y cynheddfau yn prysur ddad- feilio, ac yn llesgau—er fod yr yspryd cvstal ag erioed. Gwyddai ei Thad fNefol hyn oil, Yr yspryd yn ddiau yn barod, ond y cnawd yn wan." Wel, fy mhlei-ityn meddai, vr wyf am dy gael adref, a chynysgaeddaf di a chynheddfau na fydd marweiddio a llesgau yn eu hanes byth. Byddant gyd-nerth a'r yspryd sydd ynot, ymhyfryda yn y gwaith heb flino mwy—mewn gwlad Lie mae'r awel fyth yn dyner, Lie mae'r wybren fyth yn glir. Ac yna mae yn ei chymeryd ato Ei Hun, croesi trosodd mewn lie cul, dim ond megis cam. Y mae hiraeth calon ynom am dani, ond Henffych i'r dydd cawn eto gwrdd, Yn Salem Ian, oddeutu'r bwrdd. CYFAILL.

CAPEL MC 31IDDLESBROUGH

CAPEL M.C. 31IDDLESBROUGH. Y Sabboth diweddaf cynhaliwyd ynglyn .a'r eg- lwys uchod, gyfarfodydd blynyddol yr Ysgol Sui. Yn y bore pregethwyd gan y Parch. 'R. Pryce Jones, B.A., ar "Werth a dylanwad yr Ysgol Sabbothol," a datganodd cor y plant yn hynod o swynol. Y prydnawn hefyd caiwyd gwasanaeth gan go^ r y plant, o dan arweiniad Miss Elsie Thomas a Miss\ Sarah Evans. Y Uywydd ydoedd Mr. Pierce Ed- wards, brodor o Gonwy, a siaradai yn uchel am -daleut y plant, a gallu eu hathrawesau. Yn y cy- farfod hwn rhannwyd y gwobrwyon gan Mrs. Rich- ard Jones. Yn yr hwyr, o dan lywyddiaeth Mr. W. IR. Backenbury, mwynhawyd óedfa gerddorol gan y cor mawr, Mr. Harry Jones i(Pwllheli) yn arwam gyda'i fedrusrwydd arferol. Y darnau ganwyd oedd, 'O Gladsome Light' (Sullivan), 'I'he'Snow (Elgar), Hear My Prayer' (Mendelssohn).1i chlybuwyd y fath" ddatganiad er pan pl,"i,-wi-d y capel. Godidog iawn oedd datganiad Mrs. Alec- Thomson o'r unawd yn Hear My Prayer.' Cod- wyd ni i dir uchel hefyd gan Mr. W.J. Jones, Stockton, yr hwn ganai Father, why hast Thou forsaken Me?' nes gwefreiddio'r dorf anferth ddaethai ynghyd. Yn swn y moliant aruchel hwn- hawdd ydoedd addoli a gogoneddu Duw. Yr wythnos ddiweddaf bu y cor yn gwasanaethu yn eglwys v Primitive Methodists. Llywyddwycl" gan Mr. E. Denis Owen. Da genym yn achlysurol fod o gynorthwy i eglwysi y dref.

No title

Ymunodd yr Aiii-tibynwyr a'r Methodistiaid i fyned o amgylch ardal Abererch i geisio gael rhai i arwyddo y King's Pledge.' Gwrthododd yr Eg- Iwyswyr gydweithredu, a dewiswyd Mrs. O\ven, Bryn Ynvs; Miss Jones, tPenbrvn Neuadd; Miss- Davies, Glwysfa, a Miss 'Roberts, Ynys, dros T ddau enwad. Ymwelwyd a 173 o bersonau, a chaf- wyd yr ardystiad gan 150, 23 yn erbyn.