Collection Title: goleuad

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 4 of 16 Next Last
Full Screen
2 articles on this page
0 FON I FYNWY

= 0 FON I FYNWY. Bydd adroddiad llawn am Sasiwn Treed y Rhiw yn rhifyn nesaf y "Goleuad. Gwelir araeth y Parch. D. Harries Williams D.D. wrth acLael y gadair yn y rhifyn hwn. Cynhaliodd Eglwys Bethlehem, Pont- lottyn, ei chyfarfodydd pregethu blynyddol Sul a Llun Medi y 17 a'r 18, pryd y gwas- anaethwyd gan y Parch. Wm. Davies B.A., Crwys Bead, Caerdydd.. Cafwyd pregethau grymus iawn. Llithrodd1 gwall argraff i ysgrif y Parch. Ellis Jones ar wersyll Kinmefl yn ein rhifyn d.iweddaf. Mrs. Da,vies, Trebcrth, (merch Henry Bees), a reddodd sypynau o Desta- mentau i'r eaplaniaid eu rhanu rhwng y milwyr. Wrth ysgrifennu i gywiro, dywed Mr. Jones "Hi yw yr hael a ddychmygoddl yr haelioni hwn, a llawenhai eich calon at, y galw mawr sydd! am danynt gan y bedhgyn; deuai rhywun yn feunyddioil ataf i ymofyn copi o'r Hen Lyfr annwyl." ,Dydi Gwener, yr 22ain cyfisal rhoddwyd cof-lech a farmor gwyn hardd a, chostus ar furiau capel Blaenyplwyf er cof ami Mr. William Rowlands, Cwrt-y-cwm. Yr oedd Iynl mwriad Miss Rowlands, ei wyres, yr hon a reddodd y goflech, gaefl. cy far fed cyhoeddus i'w dadcrchuddio, end yn wyneb yr amgylch- iadau presennol, ynghyd a phrysurdeb y tymor, meddyliodd mai doethach oedd peidio cynnail cyfarfod ar hyn o bryd. Ar y gof- lech y maeyn gerfiedig y geiriau canlynol:— "Hau yn helaeth, medi yn helaeth. Er cof- am William Rowlands, Cwrt-y-Cwm. Gan- wyd 1778, Hunodd 1859, Blaencr llafurus yn yr eglwys hen am 55 mlynedd. AmCwg ac anwyl yn ei Gwrdd Misol a. Chymdeithasfa- cedd y De a'r Bala, ac arweinydd y ganiad- aeth yng Nghymdeithasfaoedd Llangeitho ac Aberystwyth am 50 mlynedd. Argraftwydl cofiant gy-da rhagdraeth gan Roberts, Llan- geitho. Rhoddedig gan ei wyres. Ymhlith y rhai sydd wedi enill y D.S.O. y mae Capteini James Walker Jones B.A., o'r Gwasanaeth M eddy gel Indiaidd, am wroldeb neilltual. Mab ydyw Capten Jones i Syr Henry Jones, Glasgow. Y mae gan Syr Henry dri mab yn y fyddin. Y mae'r hynaf, Mr. Elias Jones, sydd yn ynad yn India adeg heddweh, yn awr yn garcharor yn llaw'r Tyrccd. Cyrnerwyd ef yn garchaxor yn Kut-el-Aniara. Yr wythnos ddiweddaf, yn y Bontnewydd, ger Gaern, cyfl wyn wyà desc a' phin ysgrifennu i'r Parch Lewis Williams, Boat- I newydd, i ddathlu ei jiwbili fel gweinidog gyda'r Annibynwyr. Brcdor a Ddyffryn Ardtidwy yw Mr. Williams, a bu'n weinidog eglwysi Bontnewydd a Sa,ron am saifch mlyne.&1i a deugain. Cadeiriwyd yn y cyfar- fod gaii, hen gyfaill Mr. Williams, Mr. H., R. Rogers, Stockport, a chyflwymwyd yr anrhegion iddo gan y Parch. D. Stanley Jones, C aernarfon. Y mae'r gynhadiledd a, gynhaliwyd yn Rhydychen i ystyriedi cynygion y Parch. J. H. Shaikespeare parthed undeb agosach rhwng yr eglwysi rhyddion a,'i gilydd wedi pasio nifer o benderfyniadau. Y cyntaf ydyw fed yr aelodau sydd mewn cymundeb ag un- rhyw eglwys a fo'n aelod o'r cyngrair i gael cyd-gyfranogi o Swper yr Arglwyddi ag aelod- au yn yr eglwysi ereill. Yr ail benderfyniad ydyw fod yn rhaid cael Cyngor (Federal Council) yn cynnrychioli'r holl eglwysi, a'r trydydd ydyw Tod y Cyngor hwn i gael awdurdod neilltuol i gynghori ac i weithredu. Penodwyd pedwar pwyllgor i ystyried gwa- hanol faterion, ac y mae'r Gynhadiledd i gyfadod etc yn y gwanwyn, i ystyried eu baidroddiad. Etholwyd y Parch. J. H. Shakespeare yn llywydd, gyda Dr. Meyer, Dr. J. Scott Hdgett, a/r Parch. R. J. Wells, yn ysgrifenyddion cyffred.inol; y Parch. A. T. Guttery yn ysgrifenydd gohebol, a'r Parch. W. L. Robertson yn ysgrifenydd y cofncdicn. > Y mae Syr Henry Jones, Glasgow, wedi addo llywyddu yn un o gyfarfodydd Eistedd- fod Birkenhead. Y mae'r ail-lifftenant Ieuan Vaughan Hoskins, mab hynaf y Parch. David Hoskins M.A. Caernarfon, wedi ei glwyfo yn Ffrainc. Da genym .ddeail nad yw y clwyf yn ddifrifol. :¡ # Nos Sul diweddaf rhcddodd eglwys Caer- salem, Pant y ffynon, sir Gaarfyrddin, alwad unfrydol i Mr J. L. Mostyn Owen, Garneddi, Arfon. Mab ydyw Mr. Owen i Mr. William Owen, ysgolfeistr, a blaencr yn eglwys y Carneddi. Y mae Mr. R. R. Davies a, Miss M. M. Davies, brawd a chwaer y ddiweddar Mrs. Stephens, gwedd'.v Thomas Stephens, Mer- thyr, wedi cyflwyno llaw ysgrifau Thomas Stephens yn rhodd1 i Lyfrgell Genedlaethol Gymru. Mewn colofn arall cyhoeddir apel pwyllgor tysteb y Parch. G. Ceidiog Roberts. Hyder- wn y bydd y mudiadl hwn yn llwyddiant. Y mae Mr. Roberts, fel yr hysbyswyd o'r blaen yn bur wael ei iechyd. Gwnaeth waith miawr yn ei ddydd, ac yr oedd yn wr parod ei gym\vynas bob a,mser. Hyderwn y bydd teyrnged ei gyfeilucn iddo yn awr yn zan- yfrynv ag a'i llona yiu ei gystudd. :¡¡;: Yn aclroddiad pwyillgor y Grcnfa Ganclog, (Cynhaiiaeth y Weinidogaeth), a gyflwynwy

0 GAERDYDD I GERED IGION

0 GAERDYDD I GERED" IGION. (GAN Y PARCH. T. 0. PHILLIPS, ST. FACANS')- Dywedodd un athronydd ryw dro fod ar ddyn angen am dri o bethau yii y byd yma, sei ymborth, gwaith, a gorphwys. Y mae yn fyw i'r angenrheid- rwydd am y adau flaenaf ,ond nidydyw mor ofalus am y gyfran haeddianol o'r olaf. Aaeg gwyliau ar- feroi Cymry ydyw o ddiwedd Mehefin tiyd ddiwedd Awst. Dyma adeg delfryd gorphwys; amser i gael hollollonyctdwch oodiwrth bob math o bryder a gor- ofal. Ni welwyd y fath nifer o ymwelwyr ar lannau mor Aberteifi er's blynyddoedd lawer, os erioed. Per- wyd hyn i raddrm gan cfn a dychryn rhag y Zeppel- ins. Er mwyn arbediad, dewisasant lecedd yn hyt- rach fel Aberystwyth, Aberaeron, Lei Jsewydd, Llangranog, a Thraeth Saith ac Aberporth, &c. Cychwynais tua'r Cei Newydd, lie fy maboed, trefian yn agos i haner y pellder rhwng Aberystwyth ac Aberteifi, y Llun, Awst 30. Treuliais y Sabboth blaenorol i hyny yn Aberdu- lais, yr eglwys sydd yn faes gofalaeth y Parch. W. Jones, Treforris gynt, un o gyn-lywyddion Cym- deithasfa y Deheudir. Lletyir gweision yr Arglwydd yn glyd a gofalus gyda Mr. a Mrs. Llewelyn D. Howell, teulu ag y mae ei garedigrwydd i'r Cyfun- deb yn ddiarhebol. Cyfranodd y gwr da yma yn ddiweddar lOOp. at Drysorfa Gynorthwyol y Wein- idogaeth yn y De. Bendith yr Arglwydd a arhoso yn amlwg arno, ac ar ei- holl hiliogaeth. Gyda Ilaw, cefiis gymdeithas ddyddanus y no Sadwrn fiaeliorol gyda'r Parch. Dewi G. Jones, D.D., Tonnau, ger Castell Nedd. Cawsom drafod- aeth pur fuddiol ar y ddwy Gymdeithasfa, sef Llan- wrtyd a Phenllwvn. Dywedai yn bur ddifloegni fod. absenoldeb y Parch. J. Oynddylan Jones, D.D., yn boenus o deimladwy yn yr olaf, a charasai weled y llywydd etholedig yn cael y gadair gyda mwy o an- rhydedd. Nid oes neb ffyddlonach na Dr. Dewi Jones yn y Gymdeithasfa, yn cymeryd rhan mewn 11awer o'i thrafodaethau. Tybed a ddaw y gadair iddo ef, nid yn gymaint ar gyfrif ei allaoedd, dis- glaer, ond ar bwys ei ffyddlondeb diwyro? Dywed- ai yr Hybarch Evan Jones, Caernarfon, mai y bobl sydd yn y fan a'r He sydd hawddaf gan y Gym- deithasfa eu dewis i'r swyddogaethau. Cyrhaeddwyd y Cei Newydd cyn saith o'r gloch prydnawn 'Llun, ac felly cafwyd y pleser a fod yn y cyfarfod gweddi. Yn ystod yr wythnos gwelwyd amryw o'r cyfeillion yn y lie. Yr hyn sydd yn fy ■/ synu bob tro yr ymwelaf a'm hoff gartref ydyw sylwi fod yr hen bobl mor yehydig mewn rhifedi. Cawsom gymdeithas y brodyr nos Wener, ynghyda'r chwior- ydd. Yr oedd y frawdoliaeth y noson hono yn cyf- lWyno ei dymuniadau i Mr. Tudur Phillips, nai y Parch. J. Ceredig Evrms, Shillong, yr hwn oedd wedi derbyn niwed drwy y nwy ar faes y gyflafan waed- Iyd, ond yn awr ar fin gadael y lie. Y Sabboth di- lynol, Medi 3. penderfynwyd aros yng uNgheredigion, gan fod y teulu yn ymorol am aros wythnos ymhell- ach. Trefnwyd a brawd da i gymeryd at y Sabboth yn St. Fagans, Caerdydd—maes fy arolygiaeth er's- yn agos i chwe' blynedd. Bu'm yn traddodi pre- geth yng nghapel y Neuadd am 10. Yr mae yr eg- lwys hon yn gangen o eglwys barchus Pensarn. Cof- us genyf, er yn ieuanc iawn, am y diweddar Barch. William Lewis, gwr hynod am ei ffyddlondeb ac amlwg mewn duwioldeb. Gwnaeth waith mawr yn ei ddydd fel ysgol-feistr a gweinidog yr Efengyl. Cafodd y ddeadell yr anrhydedd o fagu cenhadwr, set y Parch. William Williams, yr hwn a aeth allan o Lanilltyd Fawr, Morganwa;, yr un adeg a'r Parch. J. Ceredig Evans. Da oedd genyf weled brawd a, chwaer iddo yn v cyfarfod. Yr mae yr eglwys wedi cyfoethogi y Cyfulldeb drwy roddi gweithwyr mewn rha.nau ereill o'r maes, fel Mr. T. R. Jones, Towyn, Meirionydd, ac ereill. Trwy garedigrwydd cafodd y cenad ei gludo i lawr i ardal gysegredig Penmorfa erbyn 6 o'r gloch. Daeth i'w ran gyd-bregethu a'r Parch. J. Mvddfai Jones, Cwmbach. Aberdar, yr hwn a ddaeth o Gapel Ffynon. Pregethodd yn nerthol iawn am yn agos i awr o amser. Credem, wrth wrando ar Mr. Jones yn pregethu oddiar Hebreaid vii.. 25. ei fod yn un o bregethwyr mwyaf addawol y Deheudir. Yr oedd ei gyfansoddiad yn gyforiog o athrawiaeth, ac ambell air o dduwinyddiaeth iachus yn cael ei deimlo, yn enwedig tua'r diwedd. Meddianodd y gynulleidfa ei henaid mewn amynedd am ryw haner awr i wian- do arnaf yn traetbu ar yraddangosiad grfis Duw. Aeth pawb adref yn yr hwyliau mwyaf dvmunol. Ymwelais ag amryw o'm perthynasau ar y LIun, a threuliwyd llawer o'r diwraod yn Stanley House, yng nghwmpeini Mr. a Mrs. Gronow. gynt o Bont- ardawe, teulu neillduol am eu caredigrwydd, rhin- wedd sydd yn amlwg yn yr holl ardal rhwng Cei Newydd ac Aberteifi. Gwn y bydd y teulu yma o wasanaeth mawr i'r Cyfundeb yn yr ardal. Gwen- au y Nefoedd a arhoso uwchben eu preswylfod. Da genyf weled y Parch. (Daniel Lewis yn graddol adenill ei nerth ar ol ei lesgedd diweddar. Dywedai y diweddar Bauch. Evan Phillips, tCastell Newydd, fed yr Ysgol SabBothol fwyaf all'uog yn yr holl ar- daloedd yno yn ei amser ef. Anfarwolwyd yr ardal a. phresenoldeb un o gedyrn Mynvdd ;Seioii.-y Parch. John Jones, Penmorfa. Terfynaf gan ddy- wedyd wrthyt fangre lan. Heddwch fyddo o fewn dy byrth a ffyniant o fewn dy balasa*. Dychwelwyd i ddinas Caerdydd wedi cael amser pur fendithiol, ddydd Sadwrn. Medi 9fed, a chafwyd amser hynod hapus ar y dydd canlynol yn Tabor, Ffynon Taf, ger Caerdydd. Hyderaf v bydd y seibiant bach i mi ac i errill o fy mrodyr hoff, yn adgyfnerthiad a, chymhwysder v waith yr eglwysi yn nhyiEor y gauaf