Collection Title: Llan

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

Image 1 of 8 Next Last
Full Screen
7 articles on this page
Advertising

) YR HAUL J CVNWRSTAO AM TACHWEDD. f Nodion j Y Gydwybod Grefyddol yn | Llefaru I Wndeb Yagolion Sul yr Eglwys • Y Degwm yn N gbymru • j Yspryd y Puritan j Morgan Llwyd o Wynedd a j Llyfr y Tri Aderyn Y Parch. William Evans < Adolygiad | Arholiad Gorsedd y Birdd Y Cariad Mawr ? I )

Advertising

PEKL YjPLANT CYXVTTSIAD AM RHAQFTR. 'Diolchiadau. Johni Jones yn Myn'd i Gered drog y Nadolig (Barlun). Dadleuon Magi Jones. iActio Pie Nos Nadolig (Darinn). Pa. fodd y Cyfododd y Plant y Gwynt. j" Nid oedd ofn arno." Efrydydd Ieuainc. Almanac i Blant yr Eglwys. (Tystynau Cyfarfodydd Cystadleuol. (Tsgwrsio gyda Santa Claus (Darlun). Carol Nadolig. Coeden welodd Mary Jones nos ( Nadolig (Oarlun). Cor Eglwysig Gan' mlynedd yn ol (DarJun). Y Gystadleuaeth j Beth mae yr Eglwys yn ei wneyd. Y Bachgen yn y Clafdy. Y Paganiaid Bach Duon. Perlau y Perl.' Llithiau Priodol am y Mis. Barcldoniaeth-

1912

1912. Carem wneyd sylwadau helaeth ar ddig- wyddiadau y flwyddyn sydd newydd ein gadael, ond mae prinder gofod yn gyfryw fel nas gallwn ond cyboeddi cipdrem. Blwydd- yn nodedig fu ar lawer cyfrif, blwyddyn ag y bydd ei dylanwadau yn aros am lawer blwydd- yn yn y dyfodol. Y TEULU BRENHINOL. Ar ei dechreu, cafodd deiliaid teyrngarol Prydain Fawr yr byfrydwch o groesawu v Brenin a'r Frenbines ar eu dychwelyd o'u taith fuddugoliaethus a gogoneddus yn India, lie y rhoddwyd derbyniad hynod frwdfrydig iddynt yn y rban bell bono o'r Ymerodraeth Brydeinig. Meddianwyd yr Indiaid a, brwd- frydedd, a bu yr yrnweliad o les neillduol i India a'i deiliaid lluosog. Oddiar pan ddych- welodd, mae y Brenin wedi cymeryd dyddor- deb neillduol yrnhob rhan o waith ei Ymer- odraeth, ac yn dyfod yn fwy poblogaidd yn barhaus, tra y mae y Frenhines drwy ei lled- neisrwydd, ei charedigrwydd, a'r dyddordeb a gymer yn hyrwyddiant pob mudiad daionus, wedi enill serch ei boll ddeiliaid. Talasant ymweliadau a Chymru, a bydd adgofion hyfryd gan bawb a'u gwelsant yn Nghaer- gybi, Caernarfon, Bangor, Machynlleth, ac Aberystwyth. Dangosorid Cymru ei theyrn- garwch mewn niodd neillduol, a diau fod- y Teulu Brenhinol wedi eu boddbau gan yr hyn a welsant ac a glywsant yn ngwlady bryn- iau. Mae Tywysog Cymru hefyd wedi enill lie dwfn yn serchiadau pobl y Dywysogaeth, a dymunir pob llwvddiant iddo yn y paratoadau wneir i'w addysgu yn bricdol ar gyfer yr adeg pan y gelwir arno yntau i ddilyn ei dad yn y frenbiniaeth. Cafodd y Teulu Brenhinol eu rhan o ofid yn ystod y flwyddyn drwy farwol- aeth Due Fife, a marwolaeth Brenin Denmarc, tad y Fam-Frenhines. DIGWYDDIADAU TRAMOR. Rai misoedd yn ol, torodd rhyfel flin allan yn y Dwyrain mewn canlyniad i drahausder a chreulondeb Twrci tuag at y Taleithiau Balkanaidd. Methiant bollol fu gwladlywiaeth y Swltan newydd a'i blaid, ac ni chariwyd allan y diwygiadau addawedig yn Macedonia yn unol a gorchymynion y Gallu- oedd mawrion. Cyhoeddwyd rhyfel gan Bwlgaria, Servia, Montenegro, a Groeg, a llwyddwyd i orfodi y Tyrciaid i ffoi, a buasent wedi eu harifon allan o Ewrop oni b'ai am yr amddiffyniad gawsant yn Adrianpole a Chataldja, y rhai amddiffynantCaercystenyn. Mae llywodraeth Twrci yn Macedonia ac Albania ar ben, a disgwylir y cyboeddir heddwch yn fuan bellach, gan fod cynhadledd yneistedd ar hyn o bryd i drefnu y telerau. Ar ol pedair oanrif o erledigaeth a dioddefiad- au, mae y Cristionogion yn Twrci wedi cael rhyddhad bendithiol. Mae Germani wedi cyfarfod a. rhai blin- derau yn ystod y flwyddyn, ac ofnid un waith y buasai yn yrnyryd &'r rhyfel yn y Dwyrain. Darfu i'r etholiadau yno ar ddechreu y flwyddyn adgyfnertbu y blaid Sosial- aidd i raddau mawr ar draul y Rhydd- frydwyr, ond ychydig gollodd y pleidiau Ceidwadol a Phabyddol. Parwyd peth aflon- vddwch yn Prwssia, gan fod y boblogaeth yn hawlio etholfraint gyffredlnol yn lie yr hen ddull a fodola. » YnFfrainc, y mae Gweinyddiaeth newydd wedi ei ffurfic, gycla M. Poincare fel Plif Weinidog. Gwr doeth yw, ac edmygydd cy- wir o'r ddiweddar Frenhines Victoria a'r Brenin Iorwerth, ac y mc wedi amlygu eisioes awydd ddwfn I ddal i fyliy gymirndeb cyfeillgar a Lloegr, tra y mae ei ymweiiad a Hwsia wedi dangos yn amlwg ei fod yn fedd- la-, ianol ar gynheddfau personol cryf »ydd^ yn bleidiol i feithriniad heddwoh Ewropeaidd. Mae llwyddiant Ffrainc yn ystod y flwyddyn wedi bod yn rhyfeddol, er fod cynydd y trethi wedi bod yn arukhrol, ac y mae y priodoldeb o sefydlu treth yr incwm yno wedi bod dan ystyriaeth ddifrifol. Blinid ltaii a rhyfcl gostfawr rhyngddi a Twrci ynglyn â meddu-niad Tripoli, yr bon nodweddid gan greulondeb etchyll o'r ddwy ochr, ac a ddiweddodd drwy i Itali fedd- lanu Libya. Yn ffudus, aflwyddianus fu yr '¡.I'"

1912

ymgais a wnaed gan rhyw ddyhiryn i lofruddio Brenin Itali. Ymwelwyd a Rwsia gan newyn blin, yr bon, achosodd ddioddefiadau annisgrifiadwy yn mhlith tlodlon amryw daleithau. Bu Talaethau Unedig yr America yn ddi- weddar drwy y gwaith enfawr a phwysigo ethol arlywydd, pan y safai tri o ymgeiswyr, sef Mr, Roosevelt, Mr. Taft, a Dr. Wilson, a'r diweddaf a etholwyd gyda mwyafrif mawr. Mae ganddo hanes clodwiw fel dyn cyhoeddus, a disgwylir llawer oddiwrtho yn el swydd uehel. Bydd penderfynu amryw fanylion ynglyn a Chamlas Panama yn galw am ystyr- iaeth ofalus, ond credir y bydd i America wneyd ei goreu i osod pobpeth mewn trefn. Yn y Dwyrain Pell, dilynwyd gwaghad gorsedd frenhinol China gan sefydliad gwerin- lywodraetb, ac y mae dadblygiadau rhyfedd- ol wedi cymeryd lie mewn canlyniad. Collodd Japan ei hymerawdwr godidog, yr hwn a ddygodd ei wlad i reng flaenaf cenhedl- oedd y ddaear. Darfu i gorwynt dinystriol a ymwelodd a'r wlad beri colledion o bedair miliwn o bunau iddi, a hyny ar adcg pan nad ydoedd wedi unioni ar ol ei rhyfel a Rwsia. Gymaint yw awydd Japan i fedd- ianu Awstralia, o'r hon y gwaherddir y Japaniaid, fel y tuecldlr rhai i gredn y ceir helynt flin ynglyn a hi yn y dyfodol.* DIGWYDDIADAU SENEDDOL. Yn y wlad hon, mae y pleidiau gwleidydd- ol wedi bod yn hynod brysur. Canfu y Uywodraeth, yn ei hawydd i basio amryw fesurau gyda'u gllvdd, ei hun mewn trafferth- ion parhaus. Collodd amryw o'i haelodau mewn etholiadau achlysurol, a rhai o honynt yn cael eu hystyried yn seddau diogel, tra yr oedd y mwyafrif yn y lleill yn fychan lawn, Cafwyd helynt blin ytif-,I;ti a (Ivoiad Mosiir Ymreelaeth i'r Iwerddon drwy Dy y Cyffred- in. Fel y gwyddis, m&e talaeth Ulster wedi datgan ei phenderfyniad diysgog na fyn ddim i'w wneyd ag Ymreolaeth, a'r tebygolrwydd presenol yw y bydd Ulster yn cael ei chau allan o reolaeth y mesur yn gyfangwbl. Dygodd y Llywodraeth ymlaen fesur i wneyd oyfnewidiadau yn yr etholfraint drwy roddi pleidleisiau i ddynion wedi cyrae(ld 21 mlwydd oed, diddymu pleidleisiau dwbl, a therfynu cynrychioliad y Prifysgolion. Ond bu raid taflu hwn o'r neilldu, gymaint ydoedd awydd y Llywodraeth i ruthro Ym- reolaeth a Dadgysylltiad yr Eglwys drwy y Ty, ac y mae y ddau fesur pwysig hyn dan sylw yr aelodau y dyddiau hyn. Y DDEDDF YSWIRIOL. I Un o'r mesurau mwyaf anorphenedig a llymrig a ddygwyd ymlaen yn Nhy y Cyffredin ydoedd y Mesur Yswiriol, ac nid oes raid dweyd ei fod wedi creu anfoddog- 0 rwydd drwy y deyrnas. Nid oedd y rhai a ffurfiasant y mesur ar y cyntaf yn deall ei ddarpariadau, a rhuthrwyd ef drwy y Ty gyda'r fath frys fel na ehafwyd cyfleusdra i'w ddadleu na chynyg gwelliantau. Yn ddilyn- ol, anfonwyd ugeinial1 o bersonau ar hyd a lied y wlad, ar draul o ugeiniau o filoedd o bunau, i'w egluro, ond ychydig sydd yn gy- farwydd A' idrefiiiad;iu hyd yma. Darpoi,ir fod y buddianau i'r rhai aftach i ddechreu ar y 15fed o'r miti hwn, ond nid yw y mwyafrif o'r meddygon yn barod i gario allan ei ddar- pariadau, gan nad yw y tal a gynygir yn ddigonol ganddynt, Mae y ddeddf wedi peri mwy o anhunedd a dyryswch drwy y deyrnas nag unrbyw ddoddf hyd yma, a bydd yn rhaid gwneyd llawar o gyfnewidiadau ynddi cyu y boddlonir y wlad. SUDDIAD Y TITANIC," Dydd Sill, Ebrill 14eg, brawychwyd y byd gan y newydd torcalonus a ledaenwyd am y trychineb alaethus ar y mor, sef suddiad y Titanic,' pan y collodd 1501 eu bywydau-y nifer fwyaf yn hanes y canrifoedd niweddar. Perthynai y Titanic i gwmni y White Star,' a bon ydoedd ei mordaith gyntaf ar draws y weilgi. Yr oedd 2206 ar ei bwrdd, yn cynwys teithwyr a dwylaw, ac ni fuwyd yn alluog i achub ond 705 o honynt. Ar- ddangoswyd dowider a hunau-feddiant an- nghyffredin pan ddeallwyd fod y llong en- fawr wedi dyfod i wrthdarawiad a chraig anferth o rew, a gwnaed pob darpariaeth dichonadwy i achub bywydau. Mewn ym- chwiliad a gynhaliwyd yn ddilynol, cafwyd nad oedd y Hong yn feddianol ar nifer digonol o gychod, a pheuderfynwyd mab- wysiadu mesurau rhagocheliadol yn y dyiodol. Darfu i'r wlad wneyd a allai dros deulu- oedd y rhai a gollasaut eu bywydau mor ddisymwth, a chasglwyd canoedd o filoedd 6 bunau i ieddfu eu hangenion a darparu ar gyfer eu dyfodol. Collwyd llawer o lestri ereill ar y mor yn ystod y flwyddyn, ond drylliad y Titanic ydoedd y digwyddiad mwyaf alaethus a gymerodd le yn nghof neb sydd fyw. ANGHYDWELEDIAD GWEITHFAOL. I Yn ystod y flwyddyn cafwyd dwy streio adawant eu hoi am amser maitb, sef streic y glowyr yn Cbwefror a Mawrth, a streic gweithwyr Porthladd Llandain yn Mai, Me hefin, a Gorphenaf. Bu raid i'r Llywodraeth ymyryd yn y blaenaf, a daeth y streic i der- fyniad yn mis Ebrill. Bu y streio hon yu foddion i wario l,295,0C0p. o'r crtnfeydd un- debol, tra y collodd y gweithwyr dros chwe' miliwn o bunau mewn cyflogau. Colledwyd cwmniau y rheilffyrdd o 870,000p. oherwydd cludiad llai odeithwyr, a 3,198,OOOp. ynglin a chludiad nwyddau. Am y streic arall yn Llundain, achosodd dlodi mawr yn y brif- ddinas, ond dangeswyd llawer o haelioni a charedigrwydd tuag at y rhai a ddioddefent, yn enwedig gan y teulu brenhinol, y rhai ydyut bob amser yn amlygu cydymdeimlad a phawb mewn ing a thralJod. DYFEISIADAU. Rhoddwyd llawer dyfais gvwrain mewn arferiad yn ystod y flwyddyn, a pheriTeith- iwycl yr awyv-'on^au i'r fath raddau nes y maent yn gyffredin iawn erbyu hyn. Yn anffodus, collodd lluaws eu bywydau ynglyn a'r "rliai hyn, ond hyelerir y daw y dydd pan y dvfeisir gwelliant- fel ag i wneyd teithio ynddynt yn fwy diogel. GWLYBANIAETH. Yr oedd 1912 yn Ull o'r blynyddoedd mwyaf gwlyb a welwyd ei 's amser maith. Cafwyd gwlawogydd trymion a llifogydd a barasant niwed annhraethol i wair, yd, a chafwyd colledion trymion ynglyn a bywydau dynioll ac anifeihaid, ond cofiodd Duw yu ofalus am ei bobl drallodus, a chafwyd cynhauafau gwell o lawer nag a ddisgwyliwyd, am yr hyn y talwvd diolch- garwcli dilfuant yn y gwasanaethau diolch- garweh bendithiol a gafwycl ar hyd a lied y w ■ ad. COLLEDION EGLWYSIG. Yn ystod y Hwyddyn, collodd yr Eglwys yn Lloegr a Chymru lawer 0'1 hoffeiriadon ffyddlou, yrnadaAviad y rhai a oarasant fylchau anhawdd eu llanw. A ganlyn sydd restr or offeiriaid fuont feirw perth- ynol i'r padair esgobaeth Gymreig :—- ESGOBAETH TY DDIJWL. Y Parol). W. II. Sivmett. Llangvnidr. Y Parch. W. W. Price, Yerbeston. Y Parch. Evan Jenkins. Pontardulais. Y Parch. T. R. Walters, Caerfyrddin. Y Parch. W. Bowen, Llangors. Y Parch. A. G. Adamson. Nantmoel. Y Parch. W. Williams, Eglwvs'.vpn. Y Parch. J. T. Griffith, Brawdy Y Parch. T. Jones, Llallddarog. Y Parch. T. Jones, Llanvcehi, Civii- derwen. ESCOPAETH BANCOK. Y Parch. J. Williams, Talvllvn. Y Parch. J. Pryce. Clvnuo^. Y Patvli. Titus Lewis. Tuvvvii ESCOBAETH LLANELWY. Y Parch. Watkin Williams, Nannerch. Y Parch. E. Jpnes, L'angynhafal. Y Parch. T. H. Evans, gynt Llan- fhaiadr-yn-Mochnant. Y Parch. J. Jones, Bodelwyddan. Y Parch. F. G. Jones, gynt Llanrhos. Y Parch. Trevor Owen, Llangollen. ESGOBAETH LLAXDAF. Y Parch. D. Jones, Trecynon, Aberdar. Y Parch. W. J. Lindsay. Llanfair Cil- ceddin. Y Parch. J. W. Evass, Michaelston-y- Vedw. Y Parch. E. S. Roberts, Coity. Y Parch. C. Carne Williams, Wolves- newt on. DIOLCIIGARWCH. Wrth ddiweddu, teimlwn mai ein dyled- swydd arbenig yw diolch yn wresog i bob un o n Gohebwyr, Dosbarthwyr, a'n Dar- henwyr am eu ffyddlondeb a'u cefuogaeth, a hyderwn y parhant yr un mor fryddlon yn y dyfodol.

Advertising

I LLYFRAU NEWYDD AR GYFER MAES LLAFUR YSGOLION SUL YR EGLWYS. -:0:- YN AWR YN BAROD. EFENGYL S. lOAN (AIL RAN). A Gan y PARCH. D. J. JONES, Arholydd Esgobaethol Bangor. Prisiau- 1 copi, 2s.; 6 copi, 9s 6c.; 12 copi, 18s. V r4 AWR YN BAROD. LLAWLYFR I'R PLANT Can y PARCH. J. WHELDON GRIFFITH. Pris 2s. y dwsin. Rhaid anfon Blaendal gyda phob Archeb. -:0:- Anfoner yn ddioed at- MANAGER, "Llan" Office, Lampeter.

MEIFOD

MEIFOD. ADFEST.—Y pregethwyr dieithr ymaeleni oedd y Parchn. 0. D. Williams, Llansilin 0. A. Thomas, Forden, a J. R. Roberts, Llanfihangel. CHRISTMAS THEB. -LIun diweddaf, cafodd holl blant y plwyf drwy ymdrechion Mrs. Thomas, Vicarage, de a 'Christmas Tree.' Rhoddwyd y t6 gan Mrs. Williams Wynn, a rhoddwyd presant oddiar y goeden hardd 1 bob plentyn gan Mr. Charlie Williams WynD, wedi ymwisgo fel 'Father Christ- mas.' NADOLIG. Gweinyddwyd y Cymun Ben- digaid am 9, 10, a 11, a chafwyrl gwasan- aeth am 6. Cafwyd pregeth bore a hwyr priodol i'r amgylchiad gan y Ficer (Parctt. Evan Thomas). SUL AR OL N AUOLIG,—Cafwyd gwasanaeth i'r plant am 2.30, pryd y canwyd pedair o garolau gan aelodau Cymdeithas y Plant, ac yn ngwasanaetn y Gosper yn lie pregeth canwyd pedair o garolau yn Saesneg gan gor Eglwys y plwyf, a chwech gan Eg- Iwys Cwm Nantymcichiaid, o dan arweiu- iad y 'Lay Readsr selog, Mr Joseph Daries. Yr un Sul yn y boreu, gweinyddwyd y Cymun Bendigaid, a phregethwyd yn y boreu yn Eglwys Genhadol Cwm Nanty- meichiaid gan y Parch. M. C. F. Morris. RHODDIOX. AC.—T JAW DTl l'orli Parch. M. C. F. Morris mae r Eglwys Gen- hadol wedi cael ei anrhegu a Brass Alms Dish, gerfiedig, ac arno yn argraphedig, It is more blessed to give than to receive,' a dau flwch casglu o i,ed Venetian cloth mounted on oak.' YR YSGOL SCL,-Heddyw (dydd Llun). trwy garedigrwydd Alrs. Partridye., Irg, Roberts a Mrs. Thomas, mae aelodau leuengaf yr Ysgol Sul a'r athrawon vn cael te a bara brith yn yr ysgoldy. Cafodd yr aelodau henaf yr us fraint pan gynhaliwyd Social l'i- Church Workers wvthnos vn 01. Xos Fawrth, cynhaliwyd vr ail 1 Social,' er mWVll cael ychydig brPs i'w trosghwddo I I- Organ Repair Fund.'

LLANOFER

LLANOFER. Nos Iau, y 19eg cyfisol, bedyddiwyd Ivor Howell mab Mr. William a Sarah Williams Fi'awydt4~n a dydd Sul, Rhagfvr 22ain bedyddiwyd Albert Henry a William Leslie! meibion Mr. William Henry ac Annie Richards, Neuadd Fach. PLYQAIX. —Boreu Nadolig. am chwech o'r gloch, cyrhaliwyd gwasanaeth yn Eglwys Y Plv.\f, ac yna g'vci'.iyddiad o'r Cymun Betí- digaid i un ar bynitheg o'r aelodau. Am 10.30 dracbefn, yr oedd gwaanael h a phregetb, ac, ar 01 hyny, gweinyddwyd y Cymun Bendig- aid i naw or aeledai,, a Ficer y plwvf fn gwasanaethu. Yr organyddes oedd Miss F. M. Iiugnes, y Ficerdy. Myner PERL Y PLANT yn mhob t1 yn Nghymru.