Collection Title: Llan

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

Image 1 of 8 Next Last
Full Screen
8 articles on this page
Advertising

{ YR HAUL. OYNWYSIAD AM MAI. Y Mis. Dr. Rees, Bronant. Cad wen o Englynion. A phyrth Uflern nis gorchfyg- ant hi. Cofta am Mr. W. Williams, Port Penrhyn Lodge, Bangor (gyda darlun), Bwrdd y Golygydd. Adgyfodiad y Catecism. At y Beirdd. Mam. Y Methodistiaid ar y Gori- waered. O'r Arsyllia. Nodion Eglwysig.

Advertising

PKK1, Y nANi, CYNWYSIAD AM MAI. ■*$ Dadleuon Magi Jones. Un o Chwedlau'r Paganiaid. Seiat y Capel. Fy Athrawon. Plant y Perl' ym Mlaenau Ffes- tiniog (gyda Darlun). Holwyddoreg; Y Conffirmasiwn. TON-I Mi glywais lais yr Iesuu Dweyd.' Darn beb Atalnodaa. Dyled Cymru i'r Eglwys. The Voyage (gyda Darlun). Seryddiaetb fel Llaw-forwyn i Grefydd (gyda Darlun). Addurniadau'r Eglwys. Kfyddloniaid yr Ysgol Sul. Dechreuad a Nodweddiadau Bywyd Dynol. Dalen Dirwest. Beth mae yr Eglwys yn ei Wneyd Y Gystadleuaeth. Mis Mai. Y Paganiaid Bach Duon. Llithiau Priodol am y Mia. Perlau y Perl.' Barddoniaeth.

0 Wythnos i Wythnos

0 Wythnos i Wythnos. Ail-etholwyd yr Arglwyddes Cawdor fel un o wardeniaid Shottisrmill, Surrey. 0 herwydd marwolaeth tri o'r tystion bu gorfod tori allan un achos yn Nghwrt Bach Mansfield. Pan ddaeth amaethwr o'r enw West i fewn i'r llys yn Aberavon gwelwyd fod ei ddillad jrn llosgi am dano. Diffoddodd yr Heddgeid- waid y tan. Achos y ddamwain oedd esgeu- lusdod wrth roddi ei bibell yn ei logell cyn ei diffoddi. Cyflwynwyd swm o arian i'r Parch. Robert Gardiner, rheithor Bretherton, gan y plwyf- olion, fel arwydd o'u parch iddo, ac i nodi eu Ilawenydd yn y ffaith ei fod wedi llafurio yn eu mysg am ddeugain mlynedd. Yn ystod y v blynyddau hyn llanwodd ei le yn ardderchog, gan roddi help llaw i bawb. Cymerodd le yr ysgolfeistr am ychydig amser, ac hefyd eynorthwyodd y llythyrwr ar rai adegau. Drwy farwolaeth Dr. Griffiths, Abertawe, mae Cymru wedi colli un o'i llawfeddygon enwocaf. Cafodd ei anrhydeddu trwy ei ethol yn Llywydd i'r 'British Medical Association.' Bu farw yn 78 mlwydd oed. Pan aii-etholwyd Mr. W. Talley Wood fel Warden y Bobl yn Uffculme, Dyfnaint, dy- wedwyd fod ei dad wedi llanw yr un swydd am 45 mlynedd, ac fod cysylltiad agos rliwng y teulu a'r plwyf er y flwyddyn 1550. Mae haid o gler wedi peri cymaint o anghysur i'r gyllulleidfa yn Eglwys Sant Marc, Tunbridge Wells," yn ystod y pythefnos diweddaf fel y penderfynwyd cau yr eglwys ft mwyn myg-darthu yr ado-qlad. Dydd Gwener diweddaf priododd Mr. Norman Dowling yn Buildford, ac yn union ar ol y gwasanaeth aeth ar frys i Camberley, lie bu yn was y priodfab yn mhriodas ei ehwaer. Cafodd Eglwys Baschurch, ger Shrews- bury, golled o lOp. trwy fod cath wedi myned i'r adeilad, gan ddringo i fyny i'r organ. Mae Arglwydd Bute wedi rhoddi darn o dir i Gaerphilly er mwyn adeiladu gorchwyl- dai trefol arno. Trwy wnieyd hyn, mae yn cario allan dymuniad y Brenin, gan sicrhau cadwraeth cstellê enwpg Caerphilly. Yr oedd y Cyngor wedi bwriadu adeiladu y gor- phwyldai yn agos i'r Castell, ond mae hael- ioni Arglwydd Bute yn eu galluogi i'w had- ailadu ynghanol y dref. Pan oedd Harry Bradbury yn aros tu allan i'w dy yn Ashby-de-la-Zouch, yn ddisymwth auddodd i'r ddaear. Yn ol yr hanes, yr oedd yna hen ffynnon ddofn yn arfer bod yn y fan Jna, ac er ei bod wedi ei llanw gan bridd yn ddiau yr oedd yna wagle mawr. Llwyddodd i achub ei hun trwy bwyao ei freichiau air ochr y ffynnonnes i'w gySeillion ei dynu 8f allan gyda rhaffau. Cymerodd gwasanaeth dyddorol iawn le yn Eglwys y Plwyf, Trallwm, pan roddwyd hen faner Militia, Trefaldwyn i'w chadw gan F ficer a'r wardeniaid ymhlitli, y nifer baner- SiU sydd yno yn bflssenol. Codwyd y militia yma yn y flwyddyn 1816, ac am amser bu *y faner ar goll, ond cawd hi ymhlith banerau colledig eraill yn Nhwr Llundain. I Cafodd bachgen tair mlwydd oed o'r enw Charles Jessiman ymwared rhyfedd oddwirth farwolay.-tl-i. Yr oedd yn byw yn Edinburgh, a.eth o olwg ei fam am ychydig funydau i ystafell arall, cododd y ffenestr i fyny ac Qdrychodd allan. Rhywfodd neu gilydd, gor- bwysodd ei hun, gan syrthio rhyw 50 troed- tedd i'r ddaear. Er syndod pawb,, pan awd ago ef i'r clafdy, mothodd y physigwr ganfod mili asgwrn wedi tori, neu ddim allan o le, ond tfhag ofn fod yna niwed tufewnol penderfyn- wyd ei gadw am ychydig ddyddiau yn y clafdy. Traddododd y Parch. T. Edwin Jones, ficer Oa.ergybi, bregeth ryfedd ychydig Suliau yn 01 yn Eglwys St. Seiriol, gan gefnogi chwareu ffolff, neu rhyw gamp arall ar y Sul os byddai T chwareuwyr yn mynychu y boreuol a y liwyrol weddi, ac os nad oeddynt yn peri i neb weithio o'u hachos. Dywadodd eu bod hwy yn Nghymru yn siarad bunydd Fnghylch Sul y Cyfandir, ond dylent gofio tod y bobl ar y Cyfandir yn mynychu eu i femlau am bump o'r gloch yn y boreu. ac md am ddau neu chwech yn y prydnawh fel Y Cymry, Yn ol crybwylliad y swyddogion gwariodd Cyngor Bwrdeisdref Holborn 85p. i wneyd mynwent St. Giles, Holborn, yn chwareudir i'r plant. Mae Cymdeithas Llyfrau Crefyddol (Re- ligious Tract Society) wedi argraffu 'Taith y Peierin' (John Bunyan) yn iaith Swahili. Mae y llyfr enwog hwn i'w gael yn awr mewn 115 o wahanol ieithoedd, ac i'r Gymdeithas hon y. mae diolch am hyny. Maent yn bwr- iadu argraffu y llyfr mewn dwy iaith arall cyn bo hir. Er mwyn dangos eu diolchgarwch i'r tir- leddianwyr yn Croydon am eu caredigrwydd yn rhoddi caniatad iddynt wersyllu ar eu tir, cyweiriodd 'Boy Scouts' yr argaeon a'r clwydydd yn yr ardal. Mae Esgobion Sheffield, Chelmsford, a St. Edmundsbury, y tair esgobaeth newydd, wedi cydsynio i lanw y swydd o Is-lywyddion i Gymdeithas Amddiffynol yr Eglwys. Yn ol pob haue's, ceir cryn dipyn o aflon- yddwch yn Crosland Abbey, Lincolnshire, o herwydd i'r rheithor newydd ddatgan ei ben- derfyniad na fynnai ddynes i lanw y swydd o glochydd yn y plwyf, ac felly gorfod i'r clochydd presenol, stef Miss S. J. Hill, ym- ddiswyddo. Mae y swydd wedi ei chadw gan yr un teulu er's 200 mlynedd.

LLANBEDRPONTSTEPHAN

LLANBEDR-PONT-STEPHAN. MARWOLAETH A CHLADDBDIGAETH. Yr wythnos bbn, mae genyl y gorchwyl o gof- nodi marwolaeth Mrs. Margaret WilHams, anl brlod Mr. David Williams, Bryn Teifi, yr hyn gymerodd le ddydd Mercher, yn 80 mlwydd oed; Merch ydoedd t'r diweddar Mr. John Price a Mrs. Mary Price, Fronbedr, ger y dref hon. Daeth tad Mr. John Price yma o Swydd Efrog. Hanai teulu el mam o Lundain, ac yr oeddynt yn ddisgynyddion i John Bankes, yr hwn dderbynlodd ryddid dinas Llondain, ao a sefydlodd Gwmni yr Haberdashers.' Mae darlun o bono yn meddu safle ganolog ar furiau neuadd y cwmni. Claddwyd John Bankes yn Mynach- log Wimborne. Ymbrlododd a. Mr. David Williams, Glancreuddyn. Bu iddynt chweoh o blant, pedwar o ba rai sydd yn awr yn fyw, sef y Parch. D. Bankes-Williams, ficer Cwm- afon Mr. Joseph Price Williams, yr hwn sydd yn America er's 30 mlynedd y Parch. W. Bankes-Williams, Y.H., ficer Acton, ac un ferch, yr bon sydd yn briod a Mr. John Davies, Maesllanwrthwl. Yr oedd yryma- dawedig yn feddianol ar bersonoliaeth gref, ae fel el gr yn grefyddol, ac yn cymeryd rhan helaeth mewn pob mudiad da. Cymer- odd yr angladd le yn mynwent blwyfol Llan- bedr, a gweithredai blaenoriaid capel SHoh fel cludwyr. Angladd breifat ydoedd, ac yr oedd yn bresenol:—Y ferch a'r mab-yn. nghyfraith; dau fab, a brawd. Nis gallal y g*r oedranus fod yn bresenol oherwydd llesg- 9- edd. Gweinyddwyd gan y clerigwyr canlyn- 01 (yn absenoldeb y ficer, Parch. Ganon Camber-Williams) Y Parchn. D. J. Evans, R. Keble Williams, Canon Jones (Penboir gynt), ben gyfaill i'r teulu. Gwasanaethwyd wrth y bedd gan ficer Cwmafon. Derbyniodd y teulu lawer o ddatganiadau o gydymdeim- lad gan drigoHon y dref, a dangoswyd parch neillduol pan ydoedd yr orymdaith yn myned drwy yr heolydd i fynwent St. Pedr. PRIODAS.—Llanwyd Eglwys St. Pedr pryd- nawn ddydd Mercher, ar achlysur priodas Mr. Arthur Llewelyn Roberts, arolygydd Ariandy Lloyd, Tredegar, a. Miss Myfanwy Gertrude Jones, merch henaf y diweddar Mr. David Jones, arolygydd Ariandy Lloyd yma, a Mrs. Jones, Gwynfryn. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. Ganghellydd I Jones a'r Canon Camber-Williams, ac yr oedd y Parchn. D. J. Evans, R. Keble Williams, a W. A. Jones, yn bresenol. Canodd y c6r Salm a dwy emyn yn swynol iawn, Mr. Ivor Caradoc Jones, organydd, yn chwareu yr organ yn ei ddull boddhao! arferol. Rhodd- wyd y briodasferch ymaith gan ei brawd, Mr. Emrys Jones, Reigate. Gwasanaethai Mr. George Brymer, Caertiarfon a'r forwyn briodas ydoedd Miss Mabel Jones (chwaer y briodasferch). Ar ol y seremoni, eisteddodd nifer o wahoddedigion wrth fyrddau llawn o ddantelthion a barotowyd ar eu cvfer gan Mrs. Walters, y Gwesty Dirwestol. Ym- adawodd y par ieuanc am Cernyw yn y pryd- nawn, He treulir y mis mel.—X.

Ymneillduwyr Cymru y Babaeth ac Ulster

Ymneillduwyr Cymru, y Babaeth ac Ulster. (Gan y Parch. R. PRICE HUGHES, Tottington) Y peth mwyaf cyson yn hanes cenedl a'r unigolyn ydyw anghysondeb. Nid oes eisieu dim cryfach, hyd y gwn i, i attegu y wireb yna nag ymddygiad Ymneillduwyr Cymru ynglyn a chwestiwn Ulster. Siaredir yn seiadau Cymru gydag arswyd am y Babaeth. Nid oes ond ychydig flwyddi wedi pasio er pan roddwyd y Parc.h Robert Jones, Llan- llyfni, i huno gyda marwolion daear, a gellid dweyd am dano ei fod yn ymgorphor- iad o bethau goreu a phethau gwaelaf Piwritaniaeth Gymreig. Ychydig fechgyn wedi eu magu yn Mon neu Arfon sydd heb wybod am ei ddarlith ar y Babaeth. Yr enw ddyrai i Eglwys Rufain ydoedd 'y butain fawr: Ni chydnabyddai hi yn Eglwys Grist- ionogol, a phriodolai iddi ormes, traha, twyll a chyfrwysdra annuwiol. Yr oedd y ddairlith hono yn fynegiad gonest o deim- ladau Ymneillduwyr y Dywysogaeth tuag at Eglwys Rhufain ddeng mlynedd ar hugain yn ol. Yr oedd Croes ar yr allor yn Babaeth! Yr oedd gwisgo gwenwisg yn Babaeth. Yf oedd darllen ffurfweddiau yn Babaeth! Wrth edrych yn ol i'r gorphenol pell, mae'n syndod fod y Piwritaniaid wedi dal at gymaint o athrawiaethau sylfaenol y Ffydd, a hwythau yn gorwedd yn daclus o fewn credoau Eglwys Rhufain. Agosrwydd tybiedig Eglwys Loegr i Eglwys Rhufain a'i gwnai yn anmhoblogaidd gyda Ymneillduwyr Cymru. Wel, gadewch i ni weled pa mor bell y cydymdeimla Ymneill- duwyr Cymru gyda Phrotestaniaid ac Ym- neillduwyr yr Iwerddon yn eu gwrthwyneb- iad i Lywodraeth Gartrefol, yr hyn olyga Lywodraeth Rufain. Mae cylch-lythyr yn enw prif swyddogion pob enwad yn yr Iwerddon wedi ei dda;nfon i weinidogion a swyddogion gwahanol gyfun- debau Cymru, yn erfyn am eu cydymdeimlad yn y cyfwng ppesenol. Gofynant am gael eu gwared o ddwylaw y Babaeth. Beth wneir a'r llythyr? Defnyddia y rhai sydd yn ysmygu ef i danio eu pibell. Chwarddant am ben eu brodyr a siglant ddwylaw a'u harchelyn. John Redmond! Piwritaniaid Cymru yn rhoddi eu pleidlais yn y Senedd dros i'r Babaeth gael yr oruchafiaeth ar Biwritaniaid yr Ynys Werdd, ac ar yr un gwynt yn gwaeddi 'putain fawr' ar y Babaeth pan yn ysgrifenu i'r wasg neu yn pregethu yn y Sasiwn. Mae p-et-h fel yna yn ein gwneyd i ymddangos yn genedl blentynaidd a di-ddarfeledd neu yn egnedl ragrithiol ag anonest yn ngolwg ein cymydogion y Sa-eson. Nid oes ond un o ddau esboniad ar y petli. Mae arweinwyr Ymneillduol Cymru wedi pallu a chredu fod yna ddim drwg yn y Babaeth, neu y ii-iiei-it wedi colli eu ffydd yn gyfangwbl mewn Cristionogaeth fel dim mwy nag ofergoeledd manteisiol i'r wladwriaieth. Pa fodd y gallwn in egluro y darlun adfydus o'u brodyr ar eu gliniau yn Ulster yn erfyn am amddiffyniad Duw a'u cynorthwy hwythau, a hwythau yn troi eu cefn arnynt ac yn cynorthwyo y blaid genedlaethol Wyddelig i'w llyfetheirio a gefynau helyrn, ond yn y wedd yna ? Mass pobl Ulster yn adnabod yr Iwerddon yn well na neb yn Nghymru neu yn Lloegr. Hwy fydd raid byw yn Ulster wedi pasio Llywodraeth Gartrefol. Maent hwy yn dweyd fod yn well ganddynt farw na cholli eu breintiau dinesig presenol. Mae arweinwyr Ymneillduol Cymru yn dweyd 'marwclx ynta!' Tasach chwi. yn Formoniaid neu yn Fwdistiaid neu yn Dervishes o ran eich crefydd, a'ch bod chwi yn y mwyafrif ac yn Ehyddfrydwyr buasem ni yn codi gavyn ein llygaid tua'r nefoedd, yn gweddio drosoch chwi, ac yn pleidleisio dros i chwi gael dy- muniadau melusaf eich calon, eithr hen Doris d'rwg ydach er y' cb bod chwi yn Bro- testaniaid. Felly, job dda, tasa Winston fawr wedi llwyddo i'w chtuio hi allan, fasa'ch cau chwi fel llygod mewn trap a chael y Navy i danio arno chwi o'r .mor, a'r milwyr i'ch medi ar y tir. Pa werth ydach chwi i iii, P Dydach chwi ddim ,ond crew bach tasach chwi yn addaw ein helpu ni i da.lu yr hen. score i'r Eglwys Gymraeg. Mae'r Cenedlaetholwyr yn bedwar ugain mewn rhif. Dydan ni ddim fel yr hen bobl yn gosod pwys ar ein cwmni. Yr ydan ni yn gosod pwys ar beth gawn allan o honynt.' Dyna iaith yr agwedd fabwysiedir gan arweinwyr Ymneillduol Cymru tuag at gwestiwn Ulster. Mae'r hyn oedd yn llosgi yn mynwes sylfaen- wyr y cyfundebau1 Ymneillduol yn Nghymru wedi myned yn lludw. Yr oeddynt hwy beth bynag o ddifrif yn eu hargyhoeddiadau crefyddol. Yr oedd cyfiawnder a gwirionedd yn cyfrif mwy iddynt hwy na holl Asquiths y greadigaeth. Ni fuasai gwleidyddiaeth dyn yn cyfrif dim o'i du nac yn ei erbyn gyda'r hen dadau Ymneillduol. Yr oedd John Elias o F6n, Williams o'r Wern, a Christmas Evans yn rhy brysur wrth y gwaith o geisio fflamio brwdfrydedd crefyddol eu cydwladwyr i wastraffu moment ar lwyfan wleidyddol. Mae yna rai tebyg iddynt yn awr—R. S. Jones a Keri Evans, eithr y maei eu nifer yn anaml, ac y maent yn anmhoblogaidd gyda'u brodyr yn y weinidogaeth. Edrychir ar y gweinidog Ymneillduol mewn ami bentref yn y Dywysogaeth yn fwy fel arweinydd gwleid- yddol nag fel iachawdwr ysbrydol. Mae Baal ar ei orsedd mewn myrdd o gapeli Ym- neillduol. Bod yn ddylanwad yn y Bwrdd Sirol, yn y Cyngor Dosbarth, etc., sydd yn cyfrif yn awr. Mae'r darfelydd ysbrydol wedi ymadael i wneyd lie i'r ddoethineb wleidyddol. Mae Ymneillduaeth, mae Cymru yn dylotach yn herwydd hyny. Pe buasai cylch-lythyr gwyr Ulster, cysegredig gan bangfeydd eu pryder, wedi ei ddanfon i John Elias yn 1834, nid oes neb all ameu beth fuasai ei atebiad ef a Chymanfa'r Methodistiaid iddo. Buasai maes y Sasiwn yn faes gweddi, a buasai dwy fil o eneidiau yn bwrw eu gweddiau wedi eu mwydo a dagrau getbron gorwedd 16n ar ran eu brodyr yn yr Ynys Werdd! 'Yr ydych chwi yn gwneyd gormod o'r peth,' medde rhywun. Na, yr wyf yn cymeryd fy nhywys nid gan fympwy, ond gan argyhoeddiadau dynion sydd wedi treulio eu holl oes yn yr Iwerddon, ac yn gwybod pa fodd mae'r mwyafrif Pabyddol yn gwneyd eu penodiadau dan y Cyngor Sirol, Byrddau Gwarcheidol, ac yn y blaen. Nid oes obaith i Brotestant gael hyd yn nod y penodiad distadlaf os y gellir cael Pabydd i lanw'f bwlch. Nid oes angen ymwneyd a'r Babaeth fel gallu crefyddol. Yr hyn sydd yn bwysig i'w gofio ydyw camgy- meriadau gwleidyddol y Babaeth ar hyd y canrifoedd, a bod gan y Babaeth well gafael ar yr Iwerddon na'r un wlad arall yn Ewrob. Hawlia'r Babaeth y fraint o fiurfio gwleid- i ad a eth y teyrnasoedd y medd fwyafrif o ddi- bynwyr ynddynt. Gwyr pawb sydd wedi darllen Canonau Cyngor Trent fod hyn yn ddim ond y noeth wir. Nid yw dweyd fod Eglwys Rhufain yn ein hoes ni yn llawn o sel grefyddol yn gwneyd dim i liniaru pryderon gwyr Ulster. Nid oes neb mor ddwl yn y dyddiau hyn ag edrych ar y Fren- hines Mari Tudur fel dynes anuwiol a di- grefydd am ei bod wedi rhoddi cymaint o ddynion a merched i farwolaeth am eu Pro- testaniaeth. Nid oedd yr erledigaeth osododdi hi ar waith yn ddim amgen na mesur ei brwdfrydedd crefyddol Felly mae aidd- gar-weh yr Eglwys Babaidd yn yr Iwerddon yn wystl na adewir yr un garreg heb ei throd hyd nes bydd Protestaniaeth o dan Lywodr- aeth Gartrefol wedi ei osod mewn arch, i'w gladdu dan erledigaeth drefnus ac anatebol i gyfraith gwlad. Nid oes neb mor ffol a meddwl y bydd yr ystanc yn cael ei godi yn mhob ardal yn yr Iwerddon, y bydd y Pro- testaniaid yn cael eu gosod i farwolaeth am eu ffydd wedi'r Mesur Gwyddelig gael ei basio. Mae yna ffordd mor effeithiol a'r ystanc o erlid dynion heb fod mor beryglus i'r erlidwyr. Tra y mae urddas Liturgi Eglwys Rufain, y gofal gyda pha un y mae wedi cadw yn ddianaf athrawiaethau syl- faenol y Ffydd, ac olyniaetti annhoredig ei gweinidogaet.h yn deilwng o edmygedd, rhaid cofio fod yr Urdd Jesuitaidd, yr hon sydd dan y Pab yn rheoli'r Eglwys, yn dal yn dyn at wladweiniaeth y gorphenol, ac na fu dim, ac hyd y gellir gweled, na fydd dim yn rhy iselwael ganddi wneyd er cyraedd ei ham- canion. Rhaid i'r Eglwys ag sydd yn cael ei chyhuddo o fod yn Babyddol yn ei eliydyin- deimlad, arbed Protestaniaid Ulster rhag syrthio i ddwylaw eu gelynion. Mae'n bwrw holl rym ei dylanwad a'i hyni i'r pwrpas hyny, ac os y Uwyddir i ddiogelu buddianau y Protestaniaid, bydd gan Eglwys Loegr ac Eglwys y Cymry adgofion melys i dreulio ami awr yn y dyfodol uwch eu pennau. Nid mor felys fydd adgofion Ymneillduwyr Cymru. Byddant hwy wedi gwneyd eu goreu i am- ddifadu Protestaniaid Ulster o'r edlychyn olaf o'u rhyddid, ac i goroni John Redmond yn frenin yr Iwerddon yn mhob peth ond mewn enw.

MAENTWROG

MAENTWROG. Nos Sadwrn, y 25ain cynfisol, cynhaliwyd cyngejdd mawreddog yn yr Yagoldy Cened' laethol dan nawdd GymdeithaB Undebol y Merched. Cadeirydd y cyfarfod oedd Mr. E. Bowen Jones, Ynysfor, a chafwyd ganddo ar- aeth sylweddol a brwdfrydig iawn. Awd trwy y rhaglen a ganlyn :—1 Hen Wlad fy Nhad. au,' Mrs. Williams; unawd ar y berdoneg, Miss Doris Morgan rhan-gan, Our home in the Ocean,' C6r Tynant; can, Tiddly om pom,' Mr. Gus Foster; chwareuad, I Slumber- land,' 8 o fabanod cin, 0 Margarita,' Mas- ter Noel Humphreys; rhan-gan, Nid oes ar wyneb daear,' C6r St. Twrog; can, Y Bach- gen Dewr,' Mr. Jno. Williams (encore); c&n, • The Tiddler,' genethod Tynant; anerchiad gan y Cadeirydd unawd ar y berdoneg, Misa Doris Morgan deuawd, Let her rest,' Misses Jem a Maria Williams; can, 'The Spaniard that blighted my Life,' Mr. Gus Foster; rhan- gan, Frost,' Cdr St. Twrog; cLo, Thora," Mr. John Williams; encoriwyd a chanodd Mentra Gwen;' rhan-gan, Beautiful in fad- ing,' C6r Tynant; cAn, Who is Sylvia,' Master Noel Humprheys; ein, 'Ragtime Band,' Mr. Gus Foster; rhan-gan, Good- Night, beloved,' Cor St. Twrog. 'God Save the King.' Cafwyd noswaiCh wir hwyliog, ac y mae clod mawr yn ddyledus i'r ysgrifen- yddess Miss Leeke, a phawb a waethant eu rhan er ei wneyd yn llwyddiant. Y mae yn wir ddrwg genyf ddeall am af- iechyd blin ein parchus reithor, y Parch. T. A. Williams, ond da genym ei fod yn well y dyddiau hyn. Bu gorfod iddofynedat foddyg neillduol i Gaerdydd. Eiddunwn iddo ad. feriad buan a hollol i lafurlo yn ein plith.— Goh.

LLANDINORWIG

LLANDINORWIG. FXSTRI FLYNYDDOL.—Cynhaliwyd hon nos Iau, y 23ain cynfisol. Daeth nifer gweddol ynghyd ychydig o ddyddordeb gymer rhai ynddi. Darllenwyd cofnodion y festri ddi- weddaf gan Mr. J. Roberts, ysgolfeistr, at fe'u cadarnhawyd. Cafwyd aneichlad ar y dechreu gan ein Ficer. Cyfeiriodd ynddi al bylchau wnawd yn yr Eglwys trwy farwol- » aethau, a'r rhai hyny yn benau teuluoedd, ac yr un modd aelodau yr Eglwys sydd wedi eu clafychu gartref er's amser maith bellach. Papiodd y festri bleidlais o gydymdeimlad A'r oil, ac adferiad buan i iecbyd. Darllenwyd cofnodion y ddwy Eglwys gan y wardeniaid, ao y mae eu sefylla arianol yn fcddbaol iawn. Ail-etholwyd swyddogion Llandinorwig am flwyddyn eto, a dewiswyd Mr. J. Parry, Toel, i lanw lie Mr. W. Foulk yn St. Mair. Hefyd cawn wasanaethau blynyddol fel arfer ya Mehefin cawn wybod eto pwy fydd y pre- gethwyr.' Sylwodd y Ficer mai doeth fyddai adgyweirio ychydig ar yr Eglwys yr haf presenol, ac felly symudir ymlaen ar unwaith. Er fod ychydig o gyllid mewn Haw, nid yw ond byehan iawn i gyfarfod a'r gofynion, felly na laesed neb ei ddwylaw. Diolchwyd i bawb am eu gwasanaeth yn y gorphenol. —DP.H.

PENRHOSGARNEDD

PENRHOSGARNEDD. M.ARWOLAETH.-Nos Lun, bu farw Robert Edwards Jones, plentyn bach Mr. a Mrs. Rob- ert Jones, Tai Refail. Yr oedd y bychan yn di- oddef er's troo dan yr Whooping Cough, a bu farw braidd yn sydyn o'r afiechyd yna. Dydd hu, cymerodd y gladdedigaeth le yn mynwent Eglwys Pentir. Gwasanaethwyd wrth y ty gan Mr. H. Jones, acyn yr Eglwys gar; y Parch. Herbert Jones, ficer Pentir, a Mr. H. Jones, ac ar lan y bedd gan y Parch, Herbert Jones. Y mae geuym yeydymdeim- lad llwyraf a'r teulu yn eu profedigaeth. ¡-