Collection Title: Llan

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 2 of 8 Next Last
Full Screen
8 articles on this page
Nodiadau ar yr Actau

Nodiadau ar yr Actau. [GAN Y PROFFESWK LORIMBR THOMAS]. Y Proffwydi. Dan yr hen oruchwyliaesth gwaith Proffwyd oedd mynegi ewyllys Duw i'w bobl. Gwr Duw ydoedd, yn mwynhau cyfeillach agos ag Ef, fel Samuel ac Elias. Gwelir hwynt weithiau yn datguddio ac yn rhagfynegi'r dyfodol, eithr fel rheol pre- gethwyr diwygiad personol neu genedl- aethol oeddynt. Fel cenhadon oddiwrth Dduw dehonglent Ei amcan wrth gospi ac yn amser helyntion gwleidyddol rhoddent eu cyngor ysprydoledig i'r brenin a'i wlad- weinwyr. Gadawodd rhai ohonynt ysgrif- eniadau ar eu hoi, a elwir proffwydoliaeth- au, eithr dengys eu cynnwys mai nid dar- ogan a dewiniaeth ydynt, ond pregethau grymus a chynghorion ymarferol. Yn 61 hanes y Testament Newydd, tra y ceir ambell i ddyn a'r ddawn ganddo i rag weled y dyfodol, megys Agabus, gwaith pennaf y proffwyd ydoedd pregethu'r efengyl. Pregethent gydag arddeliad neill- duol a "llefarent wrth ddynion er adaelad- aeth a ehyngor a chysur" (1 Cor. xiv, 4), canys meddent ddawn arbennig, wedi ei derbyn gan yr Yspryd Glan, tuag at weini- dogaeth y gair. Ni chyfyiigwyd y ddawn i swyddogion awdurdodedig yr Eglwys. Cawn hyd yn oed fenywod yn proffwydo fel merched Phylip (Act. xxi, 9), ac fe ddywed S. Paul wrth y Corinthiaid, "Canys chwi oil a ellwch broffwydo bob yn un" (1 Cor. xiv, 31). Ar yr un pryd dylid cofio nad oedd y ddawn gan bawb at ei wasanaeth bob amser, eithr yn unig fel y cynhyrfid hwy gan yr Yspryd, canys mewn man arall ys- grifenna'r Apostol, "Ai proffwydi pawb?" (1 Cor. xii, 29). Nid oedd pawb yn per- thyn i gorff neu ddosprath y Proffwydi a'r Athrawon, y sonir am danynt yn Antioch ac mewn dinosoedd eraill. Rhestrir y cyfryw yn nesaf at yr Apostolion eu hunain yn 1 Cor. xii, 28, gan mor bwysig oedd y fath weinidogaeth yn y gwaith o ledaenu'r efengyl. Breintiwyd rhai a, dawn llefaru ac esponio, a neillduwyd hwy i gadw at y gwaith hwn yn barhaus. Dyma y proffwydi. Ni olygir wrth yr enw fod yma urdd arall, yn yr Eglwys heblaw'r tair urdd benodedig, canys proffwydai'r diaconiaid (fel S. Stephan) a'r henuriaid (neu offeiriaid) yn gystal a'r Apostolion; yn wir mor gyffredin oedd y ddawn yrnhlith aelodau'r eglwys ar y pryd, nes bu raid i S. Paul rybuddio rhai rhag ei cham- ddefnyddio er mawr niwed i'r cynulleidfa- oedd. Ynghylch proffwydo yn fwyaf neill- duol y dywedodd wrth Eglwyswyr Corinth, "gwneler pob peth yn weddaidd ac mewn trefn" (1 Cor. xiv, 40). Hawdd i'r dyn hyawdl ymhob 003 gam- y b arfer ei ddawn er mwyn dangos ei hun. Hawdd i'r anaddas a'r anwybodus godi ei gloch a bwrlymu, pan fyddai'n well iddo dewi. Hawdd cael gau-broffwydi yn cy meryd arnynt eu danfon gan Dduw. 0 achos ei chamarfer gan rai, dechreuwyd di- brisio'r ddawn bron ar unwaith, a dirmygu proffwydoliaethau (1 Thess. v, 20) mor fore A 49 o.c. Dengys Act. xiii, 1.2 fod yr eglwys yn Antioch dan oruchwyliaeth pump o "Bro- ffwydi ac athrawon,' set Symeon, Lucius, Manaen, Barnabas a Saul, ac iddynt ar air yr Yspryd Glan neillduo- SS. Barnabas a Paul drwy arddodiad dwylaw at waith oenhadol yn Asia Leiaf; y tri cynta.f yn dodi eu dwylaw ar y ddau olaf. Y pwnc yw, ai ordeiniad i swydd a safle esgob sydd yma, neu ynte fath o wasanaeth ymadawol, a thri o flaenoriaid yr eglwys yn rhoi eu bendith ar ddau o'u nifer yn ol dull yr Iddewon yn rhoi bendith drwy arddadiad dwylaw ? Sylwer na alwyd ac na ddanfon- wyd y ddau gan y gynulleidfa neu lais yr aelodau eglwysig, eithr gan yr Yspryd Glan a swyddogion yr Eglwys. Dyry S. Luc yr hanesydd bwys neilldnol ar ddifrifoldeb yr achlysur drwy gyfeirio at orchymyn pendant yr Yspryd Glan, at yr ymprydio, y gweddio a'r gwasanaeth cyhoeddust yr oil megys y bu gynt yn or- deiniad y Saith Diacon (vi). Ano({d credu gan hynny nad oedd yma wasanaeth urddo, a chadarnheir y syniad wrth sylwi nas gelwir y ddau yn Apostolion gan S. Luc, nea iddynt gael arddodiad dwylaw yn Antioch (xiv, 4.14). Pa fodd y gallai proffwydi neillduo neb i swydd esgob neu apoistol? Nid oes hanes am eu hordeinio hwy gan yr apostolion. Y tebyg yw fod yma ger ein bron un eto o'r digwyddiadau anarferol a dieithriol, a gymerai le o bryd i'w gilydd yn hanes boreuaf yr Eglwys gyntefig. Megys ar ddydcl y Pentecost pan neillduwyd yr Apostolion i'w gwaith a'u swydd, felly yn Antioch wed'yn cafwyd amlygiad o'r Yspryd Glarn a chyfarwyddyd uniongyrchol i ganddo, ac ar Ei air Ef y cymerodd y proffwydi arnynt i weithredu ar y pryd, fel pe baent yn apostolion eu hunain. Gwelir fod rhywbeth allan o'r cyffredin yn yr or- deiniad hwn, canys ymhen tipyn amheuwyd hawl S. Paul i weinidogaethu fel y gwnai, a chawn ef yn Gal. i.ii. yn cydnabod na urddwyd ef yn ol y dull a'r ffurf arferol. Eithriadol ydoedd amgylchiadau ei ordein- iad yn Antioch. Awgrymir hyn hefyd gan S. Luc wrth ddweyd, "A hwythau, wedi eu danfon ymaith gan yr Tspryd Glan, a ddaethant i Selencia." Act. xiii, 4. Dylid nodi, efallai, yngwyneb gwrth- ddadleuon yr Ymneillduwyr, mai nid ar lun a delw eithriadol o'r fath y dadblygodd I cyfundrefn a chyfansoddiad yr Eglwys, ond yn 61 traddodiad, sefydledig, ar athraw- iaeth ac arferiad yr Apostolion eu hunain. Oddieithr yn achos yr Apostolion a SS. Paul a Barnabas, drwy arddodiad dwylaw yn unig y gellid derbyn urddau Eglwysig ar hyd y canrifoedd, ac ni fuasai enwadwyr y XVIeg ganrif erioed wedi gwrthod defod mor ysgrythyrol, oni bai eu gorfodi, canys trwy wxthod eegobyddiaeth yr oeddynt lieb esgobion i arddodi dwylaw.

Anrhydeddu Ficer Llanddeusant Mon

Anrhydeddu Ficer Llanddeusant, Mon, Cynhaliwyd cyfarfod yn Ysgoldy y Plwyf uchod nos Fercher, y 6ed cyfisol, i gyflwyno tyateb i'r Parch. T. Davies a Mrs. Davies ar eu hymadawiad a'r plwyf a'u dyrchafiad i Bersonoliaedh Penmynydd, a ddaeth yn wag ychydig amser yn ol trwy farwolaeth y Parch. Morris Griffith, yr hwn a fu yn ficer y plwyf er y flwyddyn 1907. Yr oedd hwn yn gynulliad unedig o'r plwyfolion, yn Eglwyswyr ac Ymneillduwyr, ac yr oedd yn gyfarfod bn\7dfrydigdros ben. Yr oedd yn arddangosiad rhyfedd o'r modd yr oedd Mr. a Mrs. Davies, yn ystod -eu harosiad yn y plwyf am y tair mlynedd ar ddeg diweddaf, wedi llwyddo i weithio eu hunain i serchiadau y plwyfolion yn gyffredinol. Aethpwyd trwy raglen faith o ganau ac areithiau brwdfrydig fel yr hedodd yr amser ymlaen heb fod neb yn teimlo y meithd a gyrhaeddodd. oJ Cadeiriwyd gan y Parch. T. R. Owen, gweinidog gyda'r Annibynwyr, ac arwein- iwyd gan Mr. J. C. Jones, U.H., diacon gyda'r Metliodistiaid Calfinaidd. Cyflawn- odd y ddau eu gwaith yn anrhydeddus, a llefarasant yn uchel am garedigrwydd a lledneisrwydd Mr. a Mrs. Davies tra yn byw yn eu plith, a dymunasent bob hapus- rwydd iddynt hwy ill dau a Miss Williams, chwaer Mrs. Davies, yn eu lie newydd. Dilynwyd hwynt gan Mri. J. Parry, Tyddynblawd; Lewis Jones, Brynbrith; Thomas Jones, Fferam Uchaf Hughes, Y Groes; Rowlands, Y Felin; Win. John Roberts ('Deusant Mon'), Wil- liams, yr ysgolfeistr, a Richard Jones. Yr oeddynt oil o'r un farn am ragoriaethau Mr. a Mrs. Davies, ac yn dymuno iddynt bob hawddfyd a chvfleu-iderau yn eu plwyf newydd i gario ymlaen weithredoedd o gariad a chydymdeimlad. Hefyd cafwyd anerchiad gan y Parch. D. Jones, Llan- fachraeth, Deon Gwladol, yr hwn a ddyg- odd dystiolaeth o'r gwaith da a diymhongar a wnaethpwyd gan Mr. a Mrs. Davies yn Llanddeusant. Cyfeiriodd at y cofgolofnau o'u gweithgarwch mewn adeiladu Persondy ac adgyweirio hen Eglwys Llanbabo, a phwyntiodd allan nad oedd y sylw a dalwyd i'r allanolion wedi bod yn niweidiol i'r Eglwys mewn ystyr ysprydol oherwydd eu bod yn gadael ar eu hoi Eglwys fyw a llewyrchus. Dywedodd hefyd nad cedd Mr. Davies yn cael ei lywodraethu gan olygiadau y 'Little Englanders,' ac yn cyfyngu ei weithgarwch i'r plwyf yn unig, ond ei fod wedi bod yn ddefnyddiol dros ben i gynorthwyo gyda gwaith Eglwysig y Ddeoniaeth fel arweinydd yr wyl gorawl a gerir ymlaen er gwellhau a pherffeithio caniadaeth y cyssegr yn y rhan hon o'r Esgobaef Dechreuwyd a diweddwyd y cyfarfod gyda thon gynulleidfaol. Rhwng yr ar- eithiau canwyd yn swynol gan Miss Helena Pritchard a Miss Rowlands. Yr oedd y dysteb yn gynwysedig o 'candelabra centre-piece' (hardd a chootus), gyda 'case o cutlery,' ac arnynt yn argraph- edig: 'Cyflwynedig i'r Parch. T. Davies, B.A., a Mrs. Davies gan blwyfolion Llan- ddeusant a Llanbabo fel arddangosiad o barch ar eu hymadawiad o'r plwyfi ar ol gwasanaeth ditlino o 1901 hyd 1914." Cyf- lwynwyd yr anrhegion gan Mrs. Wright, Mrs. Farrell, Miss Jones, a Miss Pritchard. Diolchodd Mr. Davies ar ei ran ei hun a'i briod mewn araeth dyner ac arddangos- iadol o deimladau drylliog wrth feddwl am dori eu cysylltiad a'r plwyfolion ag oedd wedi dangos y fath serch tuag atynt.— Gohebydd.

TYDDYN GWYN

TYDDYN GWYN. SWTDDOGION.—Dewiswyd y rhai canlynol yn awyddogion am y flwyddyn:- Ystlyswyr, MrK J. Vaughan Williams, Tanymanod Hall; Richard Morris, a Hugh Pugh; trysorydd, Mr. William Williams, Bwlch locyn ys- grifenydd, Richard Lewis, Llys Iorwerth. NEWID PWLPUDAU.—Gesper, Mai 3, gwas- anaethai y Parch, T. H. Hughes, ficer, Blaen- au Ffestiniog, yn St. Martha, Parch. J. Jervis I yn St. Michael, Parch. J. Davies yn St, Dewi, a'r Parch. W. G. Jones yn Trawsfynydd, yn cynorthwyo y Rhelthor yno yn ei waeledd. YN WAHL. Drwg genym, fel Eglwys, glywed am waeledd Richard Parry, pientyn bachjtair blwydd oed Mr. a Mrs. Owen Parry Roberts, Manod Road. Dymunwn iddo ad- feriad buan. AGOR CHWAREL. — Mae Chwarel Setts newydd ei hagor yn y rhan hon o'r aidal, a nifer bychan yn gweithio ynddi yn barod; ac os y ceir rhad a bendith arni, cymerir Ilawer rhagor i mewn iddi, a bydd hyny yn gaffael- iad nid bychan mewn ardal ag y mae mas- nach wedi bod mor hynod o wan ynddi am gynifer o flynyddau.-R,L. Myner PERL Y PLANT yn mhob *,y yn Nghymru.

ALL RIGHTS RESERVED j A

[ALL RIGHTS RESERVED, j A HANES MON. GAN Y DIWEDDAR 0. WILLIAMSON. I)WYEAN. (PARHAD). Tybiodd rhai oherwydd y camgymeriad mai Gwyddel o'r Gwyddelod tybiedig a oresgynasent Mon yn y cynoesau oedd Sitric. Rhoddir yma olygiad arall, sef, mai Goidel o Fon oedd efe, yr hwn yn an- foddlon i'r Brythoniaid oresgyn a chyf- newid arferion cenhedlaethol Mon Goidelig mewn dull mor heddychol, ac i'r Brython- iaid gael eu derbyn fel cyd-berchenogion a ymgododd yn erbyn yr ymdoddiad araf oedd yn cymeryd lie; ac i'r diben efe a ffurfiodd gyngrair rhwng anfoddogion yn Mon a Goidelod o'r Ei*yri. Casglodd' Sithic ei nerth milwrol yng nghanolbarth Mon yn agos, nieddir, i'r lie a elwir Cerrig y Gwyddel, lie bu brwydr galed rhwng y ddwyblaid, yn yr hon y lladdwyd yr ar- weinydd Goidelig; ac wedi hyny ymos- tyngodd ei (Idilyriwyr i'r cyfnewidiadau oedd yn cymeryd lie. Mae'r hyn ddywedwyd yn cyd-redeg yn ddigon esmwyth a'r syniad Brythonig mai mor-leidr oedd yr arwr Goidelig; end os yw y traddodiad, neu'r hanes, yn wir o gwbl y mae golwg arall i'w chael, a chwestiynau eraill i'w gofyn. Paham na chladdwyd ef ar faes y frwydr, os mor- leidr oedd efe? Paliaiii -y dygwyd ef i y ny Sanctaidd Ca.er Gybi, ac y claddwyd ef yno. lie, meddir, y codwyd Capel coffa- dwriaethol iddo yn ymyl yr Eglwys nodedig ? Mae y parch roes hanes a thraddodiad i'w enw yn gwrth-daro yn rhyfedd yn erbyn y dyb mai mor-leidr o'r Werddon bellaf a dderbyniodd y fath barch a ddangoswyd iddo. Os oes sail i'r hanes, y mae'n debyccach o lawer mai Goidel gwla-dgarol o Fon oedd Serigi, neu Sitric. Nid yw fod yr enw Sitric ymysg enwau seintiau Gwyddelig yn profi dim mwy na bod enwau o'r ddwy wlad yn gymniysg oherwydd fod y ddwy genedl yn tarddu o'r un boncyff cyntefig. Yr oedd Padrig a Ffraid yn enwau fawrygid yn y ddwy wlad. Gall hyn awgrymu llawer mewn cysylltiad ag enwau rhai o blwyfi Mon, sy'n eglur gyfeirio at y ffaith ddi- amheuol fod dwy genedl wedi bod a Haw yn y gwaith o sefydlu y Grefydd Gristion- ogol yn Ynys Mon. Ceir pennod ar ei phen ei hun ar y pwnc hwnnw. RHODRI MAWR. Yr ydym yn awr wedi cyrraedd i ar- gyfwng pwysig iawn yn hanes Mon. Nid Z3 a yw'n hawdd egluro y sefyllfa i foddlon- rwydd hollol. Cwestiwn pwysig yw: Paham y daeth Rhodri Mawr i Fon ? Yr ateb tebyccaf i fod yn gywir yn ol y wybodaeth wrt,h law ydyw: I lielpu y Goideliaid yn erbyn y dieithriaid oedd yn ymdyrru i Fon yn barhaus, fel yr eglurwyd yn y bennod o'r blaen. IVrae'n rhaid egluroeto yn y fan yma, yr un modd ag y cyffyrddwyd o'r blaen, mai y genedl lywodraethol yn Mon, fel mewn gwledydd eraill yn yr hen amser, oedd yr hon gadwai arfau rhyfel yn ei Haw ei hun. Y Goideliaid gan hyny, ffurfiai fyddin Mon. Y Pictiaid oeddynt y crefyddwyr a'r crefft- wyr. Ni fyddai gwerin un wlad yn ymyrru a dim, ond gweithredu fel Gibeon- iaid y .wlad. Y tenantiaid oeddynt mewn ystyr, ac ymostyngent i'r ffawd gyfarfyddai y bendefigaeth a hi. j" Gwelir yn awr y posiblrwydd, os nad y tebygolrwydd, i Rhodri Mawr ddyfo-d i Fon i'w chymeryd dan ei amddiffyniad. Pe buasai wedi dyfod yma yn oresgynydd ni fuasai Mon, mae'n debyg, yn ei groeisawu, fel y gweddill o Gymru a'r teitl Mawr." Os oedd ei amddiffyniad o Fon, a'i ym- drechion dros y trigolion yn rhan o'i brif fwriad o uno y g-vvahanol lwythau a phobl- oedd gyfansoddent Gymru er mwyn hunan- amddiffyniad cyffredinol, mae'r teitl "Mawr" yn addas iawn yiaglyn a'i goffa- dwriaeth. Peth rhyfedd iawn fod ei hanes yn Mon mor brin. Ond o ran hynny nid rhyfedd chwaith, pan ystyriom y cwerylon fu ymhlith aelodau o'i deulu am yr oruch- afiaeth. Gwelir yn awr paham y troes Mon yn Frythonig. Brython o'r Deheudir oedd Rhodri Mawrt ac mae'n sicr ei fod wedi ei drwytho yn egwyddorion llywodraethol y Brythoniaid, y rhai drwy fabwysiadu cynllun a dilyn esampl eu henafiaid Cunedda Wledig a'i olynwyr—a benodent ben-tywysogion talaethau, neu y g-welyau Cymreig. Wrth geisio egluro fel hyn ni cheisir profi i Goideliaid Mon roddi heibio eu cenedligrwydd neillduol. Ni wnaeth ant hynny, gan y buasai'n brawf mai eu gorchfygu gawseiit. Derbyn cynhorthwy Brythonig yn erbyn tramorwyr wnaethant, ac ynglyn a hynny aeth y cyngreirio yn gyfeillgarwoh, ac yn gyfathrachu, fel y gwelir ymhellach ymlaen. Ac heblaw I hynny cymerodd y Goideliaid ymddygiad y Brythoniaid yn esiampi mewn amryw gyf- eiriadau. Man lywodraethwyr tylwythol ac annibynol mewn llawer ystyr a ddilynid ymhlith y Goideliaid, ac am hynny gadewid i bennaeth llwyth ymosod ar lwyth cymydogol arall a'i ysbeilio heb ymyrriad ar ran penaethiaid eraill. Ac yn wir, dan rai amgylchiadau, gallai pennaeth estronol ysbeilio Goidel heb i'w gymydogion, yn ol arferiad, neu oddiar ofn, geisio ei am- ddiffyn. Onid ydyw y ffaith nodedig fod meibion Osmael y Brython wedi gallu treiddio i ganolbarth Mon ac ymsefydlu yno, yn profi y gallai diffyg undeb ymhlith y Goideliaid roi cyfleusdra i oreegynwyr feddianu parthau o Fon a bod yn ddrain yn ystlysau y brodorion Goidelig. Ond yn aivaf ymdebygolodd y Goidelod i'r Brythoniaid, gan fabwysiadu egwyddorion ac arferion pobl oedd a nerth mawr o'r tu cefn iddynt yn ymledaeniad y dylanwad Brythonig oedd yn myned ar gynnydd yn barhaus. Ac yn enwedig, cylymwyd y ddwy genedl ynghyd mewn dull rhyfedd iawn. Yn y chwyldroadau ymhlith Brythoniaid Lloegr aethant hwy yn Angliaid, neu Saeson fel y gelwir hwy yn awr; ni fu gorlethu yn Mon Frythonig. Yn y chwyldroad heddychol yno rhan- nwyd yr amraefael rhyngddynt drwy i'r ddwy oohr daflu eu henwau gwahaniaetho1 o'r neilldu a mabwysiadu yr enwau cy- ffredin Cymro, Cymru, a Chymraeg, a phlethu yr Iaitli Gymraeg o eiriau cyfaddas i'r amgylchiadau o'r ddwy hen ieithoedd Celtaidd. (I'w barhau). J

Adolygiad y Wasg

Adolygiad y Wasg. GEIKIADUK CYMBAEG A SAESNEG SPUR- HELL. Y mae fod argxaffiad diwygiedig o'r Geiriadur hwn wedi ei ddwvn allan o dan olygiaeth y Parch. J. Bodfan Anwyl gyda 9-1 e-, Rhagair gan Syr Edward Anwyl, yn gyd- nabyddiaeth i lafur di-fiino y diweddar Mr. SpuiTell g}-da'r Gymraeg, a'i wybodaeth eang o'i hanianawd a'i theithi. Amcan dwyn allan yr argraffiad diwygiedig pre- sennol yw ymdrechu sefydlu orgraff yr iaith. A rhwng Gramadeg yr Athro J.; Morris Jones a Geiriadur Spurrell yr ydys yn nes nag y buwyd er's canrifoedd i gyr-1 raedd yr amcan dymunol hwnnw. Dygwyd j yr argraffiad cyntaf allan yn y flwyddyn 1848, pryd yr oedd orgraff yr iaith yn bur derfysglyd mewn canlyniad i gyhoeddiad Geiriadur y Dr. W. O. Pugh. Nid gair- darddol yw yr orgraff Gymraeg fel y tybiai Dr. Pugh, ond aeinyddol a thraddodiadol. Nid yn ol tarddiad y gair, ond sut y seinid y gair mewn gwahanol oesau, y mae pen- derfynu yr orgraff, ac yn unol a'r org-raff yma y sicrheir perseiniaeth yr iaith. Amcan orgraff gyda chystrawen yw per- seiniaeth mewn iaith. Ni cheir hyn o ddilyn orgraff eir-darddol yn rhy gaeth- iwus. Geir-darddol oedd yr orgraff a fab- wysiadodd William Salesbury yn yr 16eg ganril, ac mor amhersain yw ei iaith Yn yr un cyfnod mabwysiadodd yr Esgob Morgan yr orgraff seiiiyddol a thraddod- iadol, a chafwyd perseiniaeth yr iaith ymrou i berffeithrwydd. Diwygiwyd ei waith gan ereill, eithr ar hyd yr un llin- ellau orgraffyddol. Felly gyda Dr. W. O. Pugh, rhedeg ar ol yr orgraff eir-darddol a wnaeth yn rhy gaethiwus. Nid nad yw Dr. Pugh, fel ei ragfiaenydd Salesbury, wedi cyflawni gwaith ii-iawr -a pharhaol gyda'r iaith, y dywodir hyn. Ond i ddangos y gwahaniaeth sydd rhwng" y ddwy orgraff a derfysgodd gymaint ar yr iaith. Dengys popeth mai seinyddol yw anianawd yr orgraff Gymraeg, ac at hon y cadwodd William SpuiTell yn y flwyddyn 1848, ac argraffiad diwygiedig o'i eiriadur ef sydd dan ein sylw yn awr. Fel ag y mae, y mae mor agos ag sy'n bosibl i orgraff hanes- yddol vr iaith, a'r orgraff hon bob yn dipyn a fydd yr unig un a gydnabyddir yn glasurol. Ar gyfer pwy y mae y Geiriadur? Ar gyfer pawb sydd yn dymuno ysgrifennu Cymraeg Cymreig> a sicrhau perseiniaeth yn yr hyn a ysgrifennant. Nid yw llawer o'r hyn a ysgrifennir y dyddiau hyn fel Cymraeg ond priod-ddulliau y Saesoneg. Deillia hyn o ddiffyg sylw priodol i briod- ddttlliau y Gymraeg. Gyda Gramadeg yr Athro J. Morris Jones a Geiriadur Spurrell ni raid i neb fod yn ansicr sut i ysgrifennu Cymraeg cywir a pherseiniol. Y mae nod- iadau rhagarweiniol y Gol., y Parch. J. Bodvan Anwyl, yn eglurhaol a chyn- northwyol i'r efrydydd, a'r un peth ellir ddweyd am Ragair ei frawd, Syr Edward Anwyl. Cyflwynir yr Argraffiad i Syr John Rhys, ao ni raid i unrhyw lyfr Cym- raeg wrth gymeradwyaeth fwy. Llyfr Hanner Coron ydyw, hawdd i'w ddwyn gyda ni, ac wedi ei droi allan yn drefnus. Nis gall yagrifenwyr ieuainc, na hen o ran hynny, wneud yn well na sicrhau copi o'r Geiriadur rhagorol hwn. ISFRYN.

PENRHYNDEUDRAETH

PENRHYNDEUDRAETH. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH Miss WINIFRED (GWEN) ROWLANDS, CHURCH PLACE.—Dydd Sadwrn, Ebrill 25, aeth Miss Rowlands ar ymweliad a. Deheudir Cymru; nos Sul; Ebrill 26, cymerwyd hi yn sal iawn, a jios Lun, Ebrill 27, bu farw, yn 30 mlwydd oed. Gwnaeth pawb eu goreu iddi yn yr ardal ddyeithr, lie na bu erioed o'r blaen, y meddyg a'r nurse, cyfeillion, perthynasau a chymydogion, ond ymadael oedd raid, a hithau yn sylweddoli fod y diwedd wedi dod, ac yn credu ei bod yn myned i'r lie braf, lie y mae yn haf o hyd. Taflwyd yr ardal i fraw pan glywyd am ei marwolaeth, ac y mae cydymdeimlad yr ardal a'i mham weddw, a'i chwaer, Mrs. Griffith Evans,, Aberllefenni (Corris), ac a'i thri brawd, yn eu trallod a'u galar. Yr oedd ein chwaer ieuanc ymadawedig yn un o'r cymmunwyr, 1fc yn aelod o'r cor canu yn Eglwys y Drindod, a bydd colled dir- fawr ar ei hoi. Nos Fercher, Ebrill 29, pasiodd yr Eglwyswyr bleidlais o gydym- deimlad a'r fam a'r teulu yn eu galar, a dydd Sadwrn, Mai 2, claddwyd yr hyn oedd farwol ohoni yn mynwent yr Eglwys, Penrhyndeudraeth, a chafodd gynhebrwng tywysogaidd, a theimladau dwysion yn mynweim pawb. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth claddu gan gor Eglwys y Drindod, y Parch. R. Joel Hughes a'r Parch. John Hughes, ficer; Miss Hughes, The Vicarage, yn chwareu yr organ. Gwelsom amryw blethdorchau oddiwrth berthynasau a chyfeillion yr ymadawedig. Y Diddanydd Mawr a gysuro y teulu oil yn eu profedigaeth lem. Traddododd y Ficer bregeth angladdol y nos Sul dilynol; Mr. J. O. Hulme yn chwareu yr organ. REHEARSAL.—Cafwyd rehearsal gan y cantorion ar gyfer yr wyl dranoeth dan ar- weiniad y Parch. Robert Jones, Talsarnau.

Tanau Dinystriol

Tanau Dinystriol. Digwyddodd tan enfawr yn Bargoed, Sir Forganwg, yn gynar foreu Sul, gan achosi colledion o chwe' mil o bunau. Dechreuodd y tan yn masnachdy dodrefn cnnnni o Bontypridd. Cynwysai yr ad- eilad ddwy siop yn llawn 01 ddodrefn, gyda seler odditanodd, yn yr hon yr oedd dod- refn hefyd. Uwchben y siopau yr oedd P,,Y swyddeydd y Mri. I-laglam ac Ebsworth, cyfreithwyr Mr. 1. A. Clarke, cyfrifydd; Mr. William Harries, archadeiladydd, a Chymdeithas Ddarbodol Rhymni. Amoan- gyfrifir y golled mewn eiddo yn 6000p, ond n,id yw hyn yn cynwys gwerth y papyrau cyfreithiol, llyfrau, etc., gollwyd. Yr oedd yr adeilad a'r dodrefn wedi eu hys- 'wirio. Boreu Sul, torodd tan allan mewn ystablau perthynol i'r Mri. Lewis yn Mhontardawe, pryd y llosgwyd saith o geffylau i farwolaeth. Mae achos y tan yn ddirgelwch. Dyma y chweched tan yn Mhontardawe yn ystod y ddau fis diweddaf. Amcangyfrifir y golled yn 250p. Prydnawn Sadwrn, torodd tan allan yn masnachdy Mr. Bailey, Stow Hill, Cas- newydd-ar Wysg. Llwyddwyd i ddiffodd yr oddaeth mewn tri chwarter awr, ond nid cyn i golled o 300p. gael ei achoei. Credir i wreichionen ddisgyn o'r grat, a thanio papyrau oeddynt yn ymyl. Yr oedd y masnachdy a'r eiddo wedi eu hyswirio. Darganfyddwyd cerbyd nwyddau ar dan yn ngorsaf Alderly Park, Birmingham, ddydd Sadwrn, a bu y tan ddiffoddwyr am, awr cyn gorchfygu y fflamau. Mae yr heddgeidwaid wedi eu hysbysu i dair dynes gael eu gweled ger y fan ychydig amser yn flaenorol, a phan oeddynt yn ymadael mewn modur, sylwodd un o honynt, "Mor ardderchog y mae yn cyneu." Llwyr ddinystriwyd tref Kopys, Rwsia, ddydd Sul gan dan. Llosgwyd 90 o dai, 75 o fasnachdai, a. phedwar o synagogau luddewig, a gwnaed 200 o deuluoedd yn ddigartref. Mae dyn mewn dalfa ar y cyhuddiad o achosi y tan, adywe-dir ei fod wedi addef mai efe a'i cyflawnodd.

Llanbedr wedi cael Atebiad

Llanbedr wedi cael Atebiad. Mae Llanbedr wedi cael ateb yn awr. Yr oedd amheuaeth unwaith gyda olwg ar fod y gweUiadau am y rhai y llefarai pre- swylwyr Llanbedr mor galonog, yn well- iadol parhaol. A barhaodd y bobl yn iach? Dyna oedd y cwestiwn pwysig. A dyma yr atebiad am un a wellhawyd, ac a barha yi-i,, lach, yn cael ei fynegu yn ei eiriau ei hun gan breswylydd yn Llanbedr:— Ar Ionawr 7fed, 1913, Mr. D. J. Meg-icks, The Laurels, Llanbedr, a fyneg- odd:—" Yn ystod y ddwy flynedd ddi- weddaf, yr wyf yn aohlysurol wedi cael yni- osodiadau o anhwylder yr elwlenod. Mae y poenau yn fy nghefn wedi bod yn ar- teithiol ar adegau, ac y mae anhwylder wedi bod yn y gyfundrefn ddyfrol. 1 9"1 1 "Ond y feddyginiaeth oddiwrth yr hon Y oefais fudd dirfawr yw peleni Doan. Mae genyf bob ymddirieidaeth yn mheleni Doan fel meddyginiaeth effeithiol. Mae cy- meryd ychydig o honynt yn achlysurol yn gynorthwyol iawn, ac yn cadw pawb y11 rhydd oddiwrth anhwyldeb yr elwlenod. (Arwyddwyd) D. J. MEGICKs." Ar Chwefror 12fed, 1914, dros ddew ddeng mis yn ddiweddarach, dywedodd Mr. Megicksi Yr wyf yn mwynhau yr iechyd goreu yn awr, fel y mae yn dda genyf- ddweyd, ac yn hollol rydd oddiwrth bob arwydd o anhwylder yr elwlenod. Oy: meradwyaf beleni Doan gyda phob hyder i sylw pawb." Os oes genych unrhyw arwyddion clir o anhwylderau yr elwlenod a'r yswigeIl megis poenau yn y cefn, anhwylderau dyfrol, grafel, dropsi, y gymalwst, neu Y crydcymalau, ymegniwch gyda Doans backache kidney pills hyd nes byddo pob arwydd o afiechyd ofnadwy yr elwlenod wedi diflanu. Mae peleni Doan yn c:fw north wyo y gyfundrefn ddyfrol yn yr nn modd ag y mae moddion rhyddhaol yp. cynorthwyo y coluddion. Pris 2s. 9c. y blychaid, chwech blychai4. am 13s. 9c.; ar wertli gan fasnachwyr, nett oddiwrth Foster-McClellan Co., 8 Street, Oxford Street, London, W. reid- inveli gofyn am backache and kidney pillsi —gofynwch yn bendant am Doan '.v backache kidney pills, yr un fath rai ag a gafod« Mr. Megicks.