Collection Title: Llan

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

Image 1 of 8 Next Last
Full Screen
17 articles on this page
Advertising

"V R HAUL.! OYNWYSIAD AM MEHEFIN, < Y Mis. j Y Deffroad yn Ffrainc. Llyfr y Barnwyr. Y diweddar E. W. Thomas, | Orgaaydd ac Arweinydd Cor j St. Ann's (gyda Darlun). [ Cerdd Gotta y diweddar F. S. Percival, Vsw., Bodawen, i Porthmadog. j Eglwys y Siarter. Hwyr-ddydd Haf. | O'r Arsyllfa. Safle'r Eglwys ar ol yr Helynt. j Achub Cymru. < Capelulo. Hauesyn am Hen Chwarelwr. j Nodion Eglwysig. j Bwrdd y (Jolygydd. Sonedau. | Adolygiadau. j

Advertising

PtiRL V PLANT J CYNWYSIAD AM MKHBPIN. Dadleuon Magi Jones. [ Tridiau ar y Mynyddoedd (gyda Darluniau). Mis Mehefin. Y Paganiaid Bach Duon. Drama—Trafferthion Bywyd. | Esiampl (gyda Darlun). Beth mae yr Eglwys yn ei Wneyd, Dalen Dirwest. Ffyddloniaid yr Ysgol Sul. Holwyddoreg: Y Conffirmasiwnf Marconi. Bwrdd y GAD. Seryddiaeth fel Llaw-forwyn i Grefydd (gyda Darlun). Yr Eglwys L&n Gatholig. Y Gystadleuaeth. Llithiau Priodol am y Mis. Perlau y Per! Barddoniaeth.

Llythyr Llundain

Llythyr Llundain. ETHOLIAD GER LLAW. Credir yn gyffredinol mewn cylohoedd politicaidd fod dydd yr Etholiad Cyffred- inol wrth y drws, ac mai anmkosibl fydd i'r Llywodraeth bresenol oedi hyd mis Gor- phenaf, Erbyn hyny bydd mesur y Dad- gysylltiad a Hunan Lywodraeth yn yr Iwerddon wedi eu dodi yn llyfr y deddfau, os rhydd y Brenin ganiatad i hyn. Trwy wneyd apel yn fuan i'r wlad, bydd Mr. Asquith. yn esgusodi ei hun oddiwrth ddwyn y mesur o welliant addawedig ynglyn a Hunan-Lywodraeth, mesur sydd yn sicr o amddifadu y Llywodraeth o gefn- ogaeth y Cefnedlaetholwyr. Mewn pa sef- yllfa mae'r Llywodraeth yn aros mewn per- thynas i'r Senedd a'r wladwriaeth, nid oes dim ond eisiau taflu cipolwg ar ddigwydd- iadau y tri mis diweddaf, a cheir yr ateb ar unwaith. Maer Gweinidogion wedi colli tipyn o'u dylanwad yn y Ty, a llawer o gefnogaeth yn y wlad. Mae'r Llywodraeth yn wanach o lawer nag yr oeddynt pan gyfarfyddodd y Ty yn mis Chwefror di- weddlaf, ac y maent yn colli eu gafael yn eu mwyafrif cymyaglyd fel ag y mae.

0 EITIIAFNOD I EITHAFNODI

0 EITIIAFNOD I EITHAFNOD. Edrychwn am ychydig ar ddigwyddiadau y tymor sydd yn awr wedi myned heibio. Collodd y Cyfriri-Gyngor un o'r Gweinid- ogion trwy ymddiswyddiad, sef Col. Seely. Maent wedi bod heb gynorthwy un arall er tymor, sef Mr. Masterman, Mae ef wedi dioddef mwy nag a ddioddefodd un aelod o'r Cyfrin-Gyngor erioed o'r blaen, sefcas1 ei wrthod mewn dauetholiad ar ol ei ddewis i swydd. Nid oes chwaith llawer o obaith am ei. bresenoldeb buan. Mae'r Llywodraeth wedi myned o un eithafnod i'r Hall yn eu hymdriniad o bwnc yr Iwerddon. Ymladdwyd saith brwydr ger bron yr etholwyr er mis Chwefror, ac o'r saith dim ond dwy o honynt eodd yn eiddo'r Undebwyr> sef South Bucks a Grimsby. Mae chwech o honynt yn awr yn meddiant yr Undebwyr, gan eu bod weda enill Beth- nal Green, Leith, North-East Derbyshire, ac Ipswich. Mewn gwirionedd, dim ond un aedd achubwyd i'r Llywodraeth, sef Poplar.

BRWDFRYDEDD YN DIFLANU

BRWDFRYDEDD YN DIFLANU. Eto, ar ddiwedd hyrn. oil ceir y Llywodr- aeth yn aros mewn swyddogaeth. Seroh eu bod wedi gwanhau yn ddiogel yn ystod y tri mis diweddaf, ato maent yn dal yn! dyn yn eu cyflogau. Mae ganddynt fwy- afrif yn cynwys sawl plaid pan ranir y Ty, ond nid oes yr un brwdfrydedd yn y gwaith. Mae yna ddwy ran ymhlith y Gwednidogion ar bob achlysur. Ceir un yn oefnogi cauedigaeth Ulster a Han o'r mesur am IIunan-Lywodraeth t y llall yn datgan ei fam ynghylch y gyfraith a'i dylanwad yn Ulster. Rhai yn beio Mr. Asquith am gynyg y meaur o welliant ar y mesur blaenorol, y lleill yn wallgof am ei fod yn bwriadu e-i roddi ger bron Ty'r Arglwyddi, ac nid o flaen T}r r Cyffi'edin. Mae'r Gyllideb ddiweddaf yn peri ymran- iadau yn eu plitli. Ceir llawer o honynt, yn datgan eu meddyliau yn gyhoeddus. Y Blaid Weithiol yn ddigllawn tuag at y Rhyddfrydwyr am iddynt ymosod ar y sedd I' yn Derbyshire, y Cenedlaetholwr (Nation- alist) wedi myned mor bell gyda'r Llyw- odraeth yn dywedyd yn bendant na ant ymhellach ar hyd llwybr y ddwyblaid.

POB LLYGAD AR YR ARGLWYDDI

POB LLYGAD AR YR ARGLWYDDI. Dengys y cipolwg hwn sefyllfa druenus y Llywodraeth, ac y mae'r dyfodol yn llawn peryglol1 tu fewn a thu allan i'r blaid. Pan ddeohreuir y benod nesaf yn hanes y wlad- wriaeth, ar ol y Sulgwyn, bydd pawb yn troi tuag at Dy'r Arglwyddi. Mae'r mesur o Hunan-Lywodraeth yn awr yn eu gofjal. Mae'r mesur o welliant, yn ol Mr. Asquith, i fod ger bron yr Arglwyddi cyn ei ddwyn o flaen Ty'r Cyffredin. Erya mesur Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys yn Nghymru tu fewfi i'w iiiuriau, i gan ddisgwyl ei ail ddarlleniad yno. Dim ond un diwrnod o ymddadleusydd, rhwng y mesur 'Plural Voting' a Thy'r Ar- glwyddi. Beth wna aelodau Ty'r Cyffred- in tra bydd y sefyllfa yn Nhy'r Arglwyddi fel y mae? Feallai y troant eu meddyliau tuag at faterion arianol a'r Gryllideb. Os nad aeth yn anghof gan Mr. Asquith, mae wedi addaw dangos pa fodd mae yn bwr- iadu ail ffurfio Ty'r Arglwyddi.

IFFUG ADDEWIDION

FFUG ADDEWIDION. Addawodd y Llywodraeth yn Araeth y Brenin ddwyn meaurau ger bron y Ty ynglyn a thai byw gweithwyr, ac hefyd fesur addysgiadol. Nid oes lawer o obaith am un mesur pwysig yn rhagor, ar ol y ddau sydd yn awr yn nghadw gan yr Arglwyddi. Dyma ffrwyth y Ddeddf Seneddol, ac ar ol hyny mae Mr. Asquith yn myned i ail ffurfio Ty'r Arglwyddi. Os ydiyw'r Ty yn bresenol yn anaddas, amlwg yw mai anaddas fydd y mesurau ddaw allan o hono. Ac i'r Ty yma, sydd yn llawn o wallau, yn ol Mr. Asquith, mae yn bwr- iadu dwyn y mesur o welliant i'r Hunan- Lywodraeth. Mae ganddo fwy o ffydd mi gredaf yn yr Arglwyddi eto nag sydd gan- ddo yn ei gyd-aelodau. Gwelir felly mai dimondJ y Gyllideb sydd gan y Llywodr- aeth i'w cadw yn brysur mewn gwaith, ac oni bai y gwaith yma nid oes dim i'w rhwystro hwy i fyned i'r wlad. Cred llawer o'r aelodau yw na wel y mesur o welliant byth Dy'r Cyffredin, a chre-dant y bydd Etholiad Cyffredinoil yn mis Gor- phenar, a hyny cyn diwedd y drydedd wytihnos.

DOLWYDDELEN

DOLWYDDELEN. DYRCHAPABL A'R SULGWYN.—Dydd Iau y Dyrchafael, cynhaliwyd gwasapaeth boreuol a hwyrol yn Eglwys y Plwyf. Y Sulgwyn, gwasanaeth y Cymun am 8.30, 10, ac 11.15. Yn ystod y gwasanaethau hyn, cyfranogodd nifer dda o'r Sacrament Sanctaidd, yn arbenlg am 10. ADGOF AM Y PAsa.—Aeth helbio weith- rediadau'r wyl fawr bono heb nodion. Y cyfryw oeddynt dda iawn. Nifer y cymun- wyr yn nodedig. FESTRI.—Cynhaliwyd ar yr 28ain (j Ebrill. Bwriwyd y coelbrenau ar y canlynol:—War- deniaid, Mri. W. O.^en a J. LI. Hughes; 'sidesmen,' Mri. R. Lloyd, Ifor Evans, D. E. Davies, Morris Owen; Saesneg, Mri. J. Davies, H. E. Roberts, a G. Foster. Pont-y- Pant, Mri. D. Jones a Gwilym Williams. Y nodweddion a ddylai y swyddogion hyn fod yn feddlanol arnynt ydynt ffyddlondeb a duwioldeb. Oobeithlwn y teimlant y nod- weddion fel eu cymwysderau penaf, fel felly y dilynant eu blaenoriaid. DATOD A'R DWYN, AC YMREOLAETH. — Maent, fel y gwyddis, wedi pasio trwy eu trydydd darlleniad yn y Commons. Os y gwelwn hwy mewn gweithrediad, gwaith penaf a'r caletaf yn eu banes fydd, y naill yn dwyn eiddo'r tlawd, a'r llall, fel y sylwodd un, yn agor porth llofruddiaeth. Gwareder ein gwlad rhag y cyfryw aotau annuwiola gormesol. Y GWYLIAU. Plant y plwyf adref am seibiant. Edrychant yn dda iawn. Ar- wyddion diamheuol o'u gofal am eu hunain pan oddi cartref; da. Y mae y cyfaill, Mr. J. Davies, a'i briod hawddgar, wedi v 0 d'od eto eleni am bythefnos I awyrgylch iaehusawl bryniau Eleo, a mangre magwr- aeth Mr. Davies, am eu gwyliau, sef Gelli Pant. Yr oedd trefniadau y fam oedranus yn Hawn a helaeth ar gyfer ei hoff blant. Da genym eu gweled mor siriol, lion, a hawddgar, ac yn mwynhau iechyd mor dda, Elddnnwn iddynt wyliau Uawen a hapus, a phob llawnder a daioni fyddo eu rhan yn y dyfodol. YNA8 HEDDWCH..—Yr yd)m yn dymuno llongyfarch ein parchus fieer ar ei ddyrchaf- iad i fod yn gadeirydd Cyugor Gwledig Geir- ionydd, ac hefyd yn Ynad Heddwch. Fel aelod a'r cyngor uchod teilynga yr anrhydedd o fod yn gadeirydd iddo ar bwysel ffyddlon- deb a'i weithgat-woh dibafal. Teilyngdod a ddyrehaf wyd. -Rolando. ARGRAFFU BRAD, CYFLYM, A DESTLU8 YN SWYDDFA'R "LLAN."

Yn Nyffryn Teifi

Yn Nyffryn Teifi. GAN 'JOHN Y GWAS.' PHNODIAD,—Da oedd genym weled y Parch. E. Jenkins, curad Penoader, wedi cael ei ddyrchafu i fod yn ficer Cilycwm. Mae Mr. Jenkins wedi bod yn un o oreugwyr offeiriad- ol Dyffryn Teifi, a mawr yw ein paroh iddo. EMLYN.—Da genym weled fod cychwyn- iad da wedi ei wneyd yn Castellnewydd- Emlyn gyda'r Eglwys newydd. Yn mlaen y bo'r nod dan nawdd y Ficer Evans. GWYL Y LLUNGWYN. Daeth corau Eg- lwysig Dyffryn Teifi yn gryno i eglwys Cagtellnewydd Emlyn y Llungwyn, ac yr oedd yno gynulliad da iawu. Arweinydd yr wyl oedd Mr. D. Jenkins, ysgolfeistr Velindre, ao arweinydd bytl-enwog C6r Meib. ion Bargoed Teifi. Yr undonwyr oeddyut: —Y Parehn. E. 0. Jones, Llangynllo, a D. T. Alban, Abertelfi. Pregethwyd yn daraw- iadol gan y Parch. E. J. Davies, Bangor Teifi. Cafwyd gwyl ardderchog ymhob ystyr, a dangosai y corau fod yr Eglwyb mor fyw ag erioed. Yn yr hwyr cafwyd cynulliad da o'r Eglwyswyr ar fane y Castell o dan lywydd- iaeth Mr. Roy Evans. Anerchwyd y cyfar- fod yn hyawdl a llithrig gan y Parehn. G. Evans, B.D., Castellnewydd Emlyn, a J. H. Jenkins, Cilrhedyn. Ni chafwyd yn Nyffryn Teifi well dau areithi wr erioed. Wedi marwr lladron beddau, bydd yr eglwye yn byw uwchlaw yr oll. Peidiwch cbwi, offeiriaid Dyffryn. Teifi^a gwneyd bargen a. Uadron beddau. Yr eglwys a saif yn fwy na Guineas Capel Drindod.

DYDD 0 YMBILIAD

DYDD 0 YMBILIAD. Mae dymuniad taer wedi ei anfon at y clerigwyr yn nhaleithiau Caer- gaint ac Efrog, drwy lythyr swydd- ogol, i gadw Mehefin 12fed fel Dydd 0 Ymbiliad Cyffredinol, sef y dydd a benodwyd gan yr Archesgobion yn unol a phenderfyniad y Confocas- iwn. Mae trefn neillduol o Wasan- aeth ar gyfer y dydd wedi ei awdur- dodi i'w ddefnyddio yn mhob plwyf. Gellir cael y tafleni hyn drwy anfon i Swyddfa y LLAN am y prisiau canlynol :— Cymraeg 2/6 y cant. Saesneg 2/6 y cant. Dwyieithawg 4/8 y cant. RHAID i bob archeb gynwys blaendal.

Advertising

Anfoner archebion— THE MANAGER, "LLAN" OFFICE, LAMPETER.

BRYNEGLWYS

BRYNEGLWYS. Ar ddydd Llun Sulgwyn yn Eglwys y plwyf, unwyd Mr. J. Griffiths, Nant, a Miss Maud Smith, metch y diweddar Mr. Joshua Smith a Mrs. Smith, Llanucha, mewn clit) briodas. Y gwas priodas oedd Mr. Peter Jones, a'r forwyn oedd Nurse Smith, St. Asaph, chwaer y briodasferch. Cyflwynwyd y briodasferth gan ei brawd. Gweinyddwyd gan y ficer, y Paroh. Gomer Edwards. Llon- gyfarchwyd hwynt gan en lliaws cyfeillion. Ar ol cofrestru, aethpwyd i Llanucha, cartref y wraig ieuanc, lie v cvfranogwyd o'r wiedd ragorol a baratowvd. Yr oedd yn bresenol y par leuanc, Mrs. Smith (mam y wraig ienanc), Nurse Smith, Miss H. Smith (chwiorydd), a Mr. T. Smith (brawd), Mrs. Parry a'i mhab (perthynasan), Miss A. LI. Jones, Shop; Mr. Peter Jones, Mr. David Jones (clochydd), y Ficer a Mrs. Edwards. Dymunwyd o galon i'r gwr a'r wraig ieuanc bob hapnsrwydd a llwyddiant yn eu bywyd priodasol.

DEWI SANT PADDINGTON

DEWI SANT, PADDINGTON. DIFFYG COFNODIAD.—Drwg genym I enw Mr. W. Rhys Good win gael ei adael allan o'r adroddiad yn eich rhifyn diweddaf fel y g*r a draddododd yr anerohiad godidog yn ein cyngerdd eysegredig ar y moldion gorea i enyn dyddordeb yn yr Ysgol Sul. YMADAWIAD GWR IHUANC DZFtfYDDIOL. Parodd y newydd fod Mr. Evan Evans, Oxford Street, yn ymadael am Brighton, ofid dwya i aelodau'r Ysgol Sul ao 1 eraill o'i ed- mygwyr. Gweithiodd yn rhagorol fel un o ysgrifenyddion y Gymdeifchas Ddiwylliadol, a bu yn dra ymdrechgar a brwdfrydig fel ys- grifenydd yr Yagol Sal. Gwnai ei ddull dengar, el foe8au awynol, a'i wyneb siriol ef, yn ffafr-ddyn ymhlith yr aelodau, a gwnai ei ffyddlondeb i'r Eglwys a'i gymeriad disglaer ef yn adduru i'r gynulleidfa. Beth bynag ymddiriedid iddo, gellid bod yn sior y gwneid ef yn drwyadl. Eiddunwn iddo bob bendith yn ei gylch newydd, a gwyddom yn dra sicr y bydd ein colled ni yn onill i ryw Eglwys arall. GWIEDAITE FLYNYDDOL YR YSGOL SUL.— Aeth aelodau'r Ysgol Sul ac eraill, ar y Llungwyn eleni, i dreulio dydd yn Boxmoor, rhyw ddeugain milldir o Lundain, yn Swydd Buckingham-lle tlws dros ben, a tbebyg iawn i rai parthau yn nghanolbarth Cymru. Safai'r mtes y chwareuid arno ar godiad tir, ac oddiyno edrychid I lawr ar ddyffryn cut prydferth, fel un o gymoedd Sir Drefaldwyn. Caed yr un peth angenrheidiol i wneyd yr anturiaeth yn llwyddianus, sef diwrnod heulog, hafaldd, a dymherid ganawel dyner. Yn ystod y rhan gyntaf o'r dydd, mwynhaodd y bobl ieuainc eu hunain gyda chwareuon, a'r rhai mewn oed yn rhodio oddlamgylch gan anadlu awyr pur ac arogli per lysiau'r wlad. Am bedwar o'r gloch, yn y babell ar Gomins Shothanger, caed t6 ardderchog, a digonedd o arnrywiaeth enllyn o ferw ddwr hyd y danteithion tyneraf, a ddarparwyd gan Mrs. Howes. Gwedi'r te, ymdyrodd y fintat ar y maes i wylio'r mabol-gampau oedd- ynt wedi eu trefou gau y pwyllgor. A ganlyn ydoedd y, buddugwyr :-Rhedfa Bechgyn dan 10 oed 1, Tudor Smith 2, Jacky Davies. Rhedfa Genethod dan 10 oed 1, Milly Evans; 2, Sissle Pritchard. Rhedfa Bechgyn dan 15 oed: 1, Tommy Davies 2, Wilfrid Jones. Rhedfa Genethod dan 15 oed 1, Katie Evans; 2, Annie Evans. Rhedfa Merched Ieuainc, can llath 1, Mary Jones. Rhedfa Gwyr Ieuainc, deu- can' llath: 1, Harris. Rhedfa Teirgoes Gwyr Ienainc: I, Evan Lloyd a chyfaill. Rhedfa TelrgoesMerohed Ieuainc: 1, Miss J. Owen a Miss M. Davies. Naid hir gwyr ieuainc: 1, Willie Parry. Rhedfa wy a 11 wy i ferohed 1, R. Griffith. Rhedfa edau a nodwydd i fere bed 1, Anne Owen. Rhedfa Slgaren: 1, E. C. Jones. Taflu pel criced i wyr ieuainc: 1, E. Lloyd. Tafln pel criced i fechgyn 1, Wilfrid Jones. Tyniad Rhyfel i feibion 1, Mlntal y Parch. W Griffith. Tyniad Rhyfel i ferched: Min- tai Dewi Sant. Gweinyddwyd fel beirnlaid gan y Parch. T. Smith, Parch. W. Griffith, a'r Wardeniaid, Mr. John Williams a Mr. Morris Parry; fel cychwynwr gan Mr. D. Evans, Hampstead, ac fel amserwr a stiward p yr yrfa gan Mr. Tom Jenk ns. Gwnaed y itrefniadall gan bwyllgor cynwysedig o'r per- sonau a ganlyn Mr. J. Williams, Mr. Morris Parry, Mr. D. Evans, Mr. T. Jenkins, Mr. E. C. Jones, Mr. T., D. Davies a'r ysgrifenyddion anrhydeddus, Mr. G E. James a Mr. E. Evans. Y mae can' diolch yn ddyledus iddynt i gyd am drefnu a gweinyddu mor effeithiol ac yn anad neb i'r ysgrifenyddion am eu nafllf a'u brwdfrydedd. Credwn i'r gwylwyr a'r oystad- lenwyr fwynha)1 eu hunain yn rhagorol. Dymunol oedd genym weled deadell Padarn Sant yn ymnuo a ni yn y td a'r campau. Parhaed brawdgarwoh.' ENWAU CYMRAEG.—Yn y gerbydres tra yn dyohwelyd o Boxmoor, bu peth ymdrafodaeth ymhlith ychydig gvfeillion beth oedd yr enwau Cymraeg am Chestnut' a I Walnut, Yn Ngeiriadur Silvan Evans ceir yr enwan a ganl.VI] :Chestullt castan, castanwydd. chestnuts: pibgtiau, castanaiiaii walnut, collen Ffreinig; walnuts cnau Ffrelnig elm: llwyfen. Myner y PERL ymhob ty vn N ghymru

LLANRHAIADRMOCHNANT

LLANRHAIADR-MOCHNANT. Ar y Llungwyn cynhaliwyd Gwyl Gerddorol Deoniaeth Llanfyllin yn Eglwys Blwyfol Llan- rhaiadr. Yr oedd y oantorion yn rhifo 350 —o blwyfi Llanfyllin, L'anrhatadr, Bwloh- yclbau, Hirnant, Llanfechain, Llwydi;rth, Llanfihangel, Littisantffraid, Llangedwyn, Llanwddyu, Llangynog, P enybontfawr, a Meifod, a ohyruerw yd rhan yn y gwasanaeth gan y Parchn. L. W. Davies, deon gwladol Jenkins Menlove, Hirnant; R. Roberts, Llangynog A. H. Hughes, Llanfechain W. Roberts, Llangedwyn; J. R. Roberts, Llan. fihangel; J. Williams, Penybontfawr; E. Thomas, Meifod; J. Silas Evans, Edward Evans, Llwydiarth R Morris, Bwlcycibau, a R H. Hughes, Llanwddyn. Pregethwyd yn odidog yn y ddau wasauaeth gan Canon Dauiel Davies, Gwreosam. Y Parch. J. R. Roberts, Llanfihangel, oedd yr arweinydd, a gwnaeth ei waith yn ardderchog. Mr. Charles oadd yr orgauydd. Yr oedd yr Eg- lwys fawr yn orlawn, ac ni welwyd erioed wyl mwy llwyddianus ymhob ystyr yn y Ddeouiaeth.

LLWYDIARTH

LLWYDIARTH. Ar y 23ain o Fai cynhaliwyd cyngwdd mawreddog yn yr Ysgoldy, pryd y daeth cynulliad da ynghyd, a gwelwyd fod pawb wedi cael eu mwynhau yn fawr. Ar 01 cael can agoriadol gan Miss Jones, Melin- dwr, cyflwynodd Dilys Roberts fiodeuglwm hardd a anfonwyd gan Miss Williams Wynn, o Wynnstay, i Mr9. Pickmere, a Miss Katie Woodfine i Mr. Pickmere a'i gyfeillion. Ynacafwyd perfformiad y 'Three Merry Mascots,' etc., gan Mr. Pick- mere, ysgrifenydd trefol, Lerpwl; Mr. Percy, Mr. M. CorkhiU a Mr. Skinner. Hawdd oedd canfod fod yr holl gynulleidfa yn mwynhau eu hunain yn rhagorol. yn enwedig felly 'The Welshman at the Foot- ball Match,' pa un oedd mor ddesgrifiadof o hono. Canodd Miss Jones, Mynydd Dwlan, yn ganmoladwy iawn yr hen gan, 'Mae Robin yn swil,' yr hon hefyd a gaa- wyd gan Madame Edith Wynne yn 1858; tra y cafwyd solo perseiniol dros ben gan Miss Woodfine, 'Come, Birdie Come.' Cyf- eiliwyd gan Mrg. Evans, y Fioerdy. Caf- wyd yr Ysgoldy at yr achlysur gan Mr. Brown, Mr. Ambrose Woodfine a Mr. Edward Jones, ac fe'i addurnwyd gan Miss M. A. Williams a Miss E. Woodfine. Trwy garedigrwydd Mr Roberts, y Lodge, caf- wyd benthyg y piano.. Ar ddiwedd y cyngerdd cynygiodd y Parch. E. Evans, fioer, ddiolchgarwoh gwreaocaf i'r cyfeill- ion o Lerpwl am eu mawr gynorthwy, tra. yr eiliwyd y cynygiad gan Mr. Roberts, y Lodge. Yn mhellach diolchodd Mr. Pick- mere am y teimladau cynes tuag ato a dywedodd ei fod bob amser yn falch o gynorthwyo ei gyfeillion yn Llwydiarth, Mf y Parch. E. Evans a Mrs. Evans, Fioerdy.

BLkENAU FFESTINIOG

BLkENAU FFESTINIOG. SBFYDLU GWHINIDOG Sill ION (B.)—Yn 01 adroddiad sylwodd Dr. R D. Evans, y biaen- or, fod y gweinidog newydd yn sefyll ar yr un tir a'r Person plwyfol, Canon, Deon, neu Esgob Eglwysig yn ngolwg cyfraith gwlad. Eto v Parch. Thos. Hughes, Rhiw (M.C.), ar ran Undeb yr Eglwysl Rhyddion, a ddiolchal am gvraedd Canaan eu dvhead, gan y gallant deimlo eu hunain oystal ag un Esgob yn Nghymru. D'sgwyliai allu gwahodd yr Hen Fam, yr Eglwys Sefydlediar gynt, atynt i'r cyngor! Mewn faith gvffredin, dywedwn mai peth od i'r Parch. Thos Hughes gael brodyr Seion i'r undeb. Ychydig fisoedd sydd er pan en gwelwyd hwy, ac mae eu presenoldeb yn rhagrlthiol ac anshyfansodd- ladol, 'ond y dwthwn hwnw aeth Herod a Pilat yn gyfeillion.' Y LLYGAD A'R tILUST.-Bu cyfarfod er anog casgUad tnagat ynbytty LWnlleifiad o'r ardal bon, Cwynid nad oedd ysbytty yn ein har- dal, ag eithrio yr un ar gyfer damweinitu yn V chwarel, Eglwyswyr roddodd hon, ao y mae llygad yr ardal ar fyned a hon i amcan trefol.

Genedigaeth

Genedigaeth. C,RIFFI -THS.Nlehefivi 2il, priod Mr. J. Griffiths, 10 Mill Street, Llanbedr-pont Stepban, ar fab.