Collection Title: Llan

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 2 of 8 Next Last
Full Screen
6 articles on this page
A HANES MON

v. KfiSEJiVED.] A HANES MON, GAN Y DIWEDDAR 0. WILLIAMSON, DWYRAN. (PARHAD).. Gydag ychydig gyfarwyddyd gallai ym- welydd sylwgar weled arwyddion yr effeith- iau ar yr ochr i'r pentref oedd yn agored i wynt y gorllewin, a hynny yn amlwg hyd y dydd hwn. Gwelir meusydd â'u har- wyneb yn lefel a phennau y cloddiau, a'r ffyrdd isel cyfochrog yn dangos fel y bu'r trigolion yn bwrw y tywod i'r meusydd er mwyn clirio yr atalfeydd i'r tai. Mae amryw leiniau o dir a gerddi wedi eu gostwng er yr adeg honno, y nail ar ol y llall, drwy i'r tywod gael ei drolio i feusydd cleiog, neu ei gymysgu a thail yn wrtaith rhagorol i dir afrywiog. Mewn un am- gylchiad, tua thri ugain. mlynedd yn ol, tra yn gostwng gwyneb gardd, demvyd i gyffyrddiad a, ehsrrig a droisant allan i fod yn balmant yn amgylchu g&nau p,y.dew, dwfr yr hwn sydd dra gwerthfawr i'r lie oherwydd ei burdeb a'i gyflenwad. Gwelir hyn, a mwy o lawer, yn y pen- tref. dair milldir o lan y mori lie cychwynol y dinystrydd. Mae'r tywod yn awr yn gorchuddio dim llai na chwe' milltir ysgwar o dir, y rhan fwyaf o hono gynt yn dir am- aethyddol. Fe all y dieithr amheu llawer, ond y mae rhai eto yn fyw a allant dystio i'r cyfnewidiadau ynghorph tri ugain mlynedd sydd wedi troi tir glas yn dowyn gwyn. Mae'r gweledig yn peri syndod, ond y mae ychydig iawn o ystyriaeth ynghyd ag ymholiad, yn taro dyn a'r ymof- yniad, ond heb obaith y ceir atebiad., pa faint fu y golled fawr hon a achoswyd gan fan ronynau wedi eu gollwng o'u lie fel terfyn i'r mor, a rhedeg ymaith gyda mwy a pharhaol effaith nag ymweliad llu mawr Rhagluniaeth farnol, haid aii-nifeiriol o locustiaid. Rhoea y llywodraeth gynghor, a dim mwy, i drigolion Niwbwrch i blannu mor- hesg ar hyd min y mor; yr hyn a wnaed gyda pheth llwyddiant; oblegid tyfodd, gwreiddiodd; ac ymledodd dros arwynebedd o filldiroedd. Mae'r un tusw a dyf o gaingc yn y gwreiddyn a ymddengys yn ddiddechreu a diddiwedd, yn cyfansoddi- rhwydwaith dyrys am fodfeddi o drwch islaw yr arwyneb, a'r morhesg yn freisgeni o dair i bump deilen las fain yn tyfu o un bonyn, ao i tua- phymtheng modfedd o uchder. Os na thorir y tusw o ychydig nifer o freisgeni ychydig islaw y wyneb, y mae ymhen ychydig amser yn bwrw y dail, neu wellt, i wneyd lie i forhesg newydd. Yn yr hen amser crybinid y gwellt llwyd i'w ddefnyddio i wneyd tan i bobi 'bara dan badell,' neu i ryw ddiben arall. Tua chant a haner o flynyddoedd yn ol, dyfeisiodd, neu dynwaredodd rhywun cyw- rain y plethwr hesg hir y gors a wnai fat- resi a choleri ceffylau. Pan ddarfu yr hesg.o'r Gors Ddygau, daeth morhesg yn ddefnydd rhagorol i blethu lleiniau hirion o-hono, eyffelyb i bleth matres, a wniant yn fatiau llydain a ddefnyddir i archuddio teisi yd a gwair hyd nes cyfleustra i'w toi. Defnyddir morhesg hefyd i wneud tan-- nau neu raffau, ysgubau, a ohlustogau. Dirmygodd yr anwybodus y diwydiant hwn. sydd heb ei fath ym Mhrydain, os yn unrhyw wlad arall yn y byd. Bu'n archwyl ac yn foddion cynhaliaeth anrhydeddus i'r plwyfolion pan oedd trigolion lleoedd eraill mewn angen oherwydd cyflogau isel y llafurwyr. Nid dynion a bechgyn yn unig a fanteisient o'r diwydiant, ond merched hefyd o bob oedran a enillent yn ami fwy na dynion oherwydd yst-wythder eu bysedd. Ac heblaw y rhai y cyfeiriwyd attynt, ceir plant ac anafusion yn gallu manteisio o'r grefft. Mae amser ymadawiad yr hen frodoric.. o Landdwyn a bryniau tywod Niwbwrch yn awr yn anhysbus ond drwy gasgliadau. Ymysg ponciau tywod Llanddwyn, mewn cyfeiriadau neilltuol, ceir tomenau cregyn, yn agos i leoedd y gwelwyd olion adfedlion tai na wyr neb yn bresenol pa bryd y pres- wylid hwynt. Ond y mae'n hawdd casglu i'r preswylwyr aros yn hir yn eu tai ar ol i'r meusydd gael eu gorchuddio gan drwch tew o dywod gwyn a gwyllt. Gor- fodid hwy i aros oherwydd na oddefid i rai dibyaiol newid eu plwyfi, am hynny aeth- ant i'r traeth cyfagos i gasglu cregyn, a'r dynion a wnaent eu goreu yn eu dulliau hwythau i bysgotta a saethu. Darperid y pysg-gregyn i farchnad helaeth y wlad o ben i ben yr Ynys hyd Amlwch, lle'r oedd cyfoeth Mynydd Parys yn achosi bywiog- rwydd mawr, a diwydiant dyblyg Niw- bwrch, fel y gelwir ef yn awr, ond Llan- ddwyn yn wreiddiol, yn cael cwsmeriaid i'w nwyddau a u darpanaetliau. Ymhonciau tywod Llanddwyn ymysg olion, yn enwedig wrth ohwalu y tomenau cregyn, ceir arian bathol yn geiniogau a dimeiau, gyda Hun mwnwr a'i gwccwll yn gorchwyddio ei ben ar un tu, a'r llythyr- enau breision P.M.Co. (Paryis Mountain Company), ar y tu arall. Heblaw hyny, y mae argraff arall ar y ceiniogau a'r dimeiau yn mynegu ou bod yn arian oyf-I reitblon a derbyniol yn Lerpwl. O'r ychydig hyabysrwydd a'r arwyddion, ynghyd. a'r dyddiad ar y ceiniogau, sydd fel bob amser yn y ddeunawfed ganrif, cesglir heblaw y casgliadau grybwyllwyd, fod tai hen dyddynod Llanddwyn yn drigianol hyd ddiwedd y ddeunawfed ganrif beth bynag. Cesglir hefyd eu bod yn dai na welwyd eu tebyg y ffordd yma, oblegid nid oes olion ond ylfeini heb or- uchadeilad o-fath yn y byd, fel pe buasai y trawstiau yn gorphwyso ary sylfaen, ac ar osgo at i fyny yn cynnal y nenbren. Ond y mae'n rhyfedd na buasai genym well a mwy o hysbysrwydd ynghylch pobl oedd yn byw yn yr hen blwyf coil mor ddi- weddar, a hynny yn cael ei brofi mor amlwg mewn llythyrenau eglur. (I'w barhau).

Y Gorlan Dramorol

Y Gorlan Dramorol. DYDD GWYL SANT LUC. Eleni syrth yr wyl uchod ar y Sul, sef Hydref 18fed, felly ceir cyfleusdra i ddwyn i sylw dynion y gwaith cenhadol, yn en- wedig y Genhadaeth Feddygol (Medical Missions). Dyma 'red letter day' yr adran hon o'r gwaith hwn. Eleni dethlir ei haner can' mlwyddiant- gan y G.G.E. Pan ddaeth y gymdeithas. i fodolaeth, ni thybiwyd yn angenrheidiol i gyflawni y gwaith meddygol, a phan y dechreuwyd o ddifrif,. ni feddylid ar y pryd ond cael rneddyg o fewn cyrh aiedd i gynorthwyo y cenhadon yn eu hanhwyldeb, ond buan y gwelwyd mai Uawfor-wyn yr Efengyl oedd, ie, a mwy na hyny, rhan hanfodol ydyw. Y rhyfeddod ydyw i'r gwaith gael ei esgeu- litso gymaint, pan gofier y darfu i Iesti Grist dreulio cymaint o'i amser i 'fyned oddiamgylch gan wneuthur daioni.' Blwyddyn y a*wyrthiau oedd y flwyddyn gyntaf o fywyd cyhoeddus yr lesu. 'A'r Iesu a aeth oddiamgylch, gan ddysgu a phregethu b a iachau pob clefyd a phob afiechyd ym mhlith y bobl. A thorfeydd lawer a'i canlynasant ef A phan welodd efe y torfeydd—(efe)— a'u dysgodd hwynt.' Iachau y bobl, ac yna eu dysgu hwynt. Pen cenhadwr oedd Iesu Grist, ac yr oedd Medical Missions yn rhan bwysig yn ei genhadaeth. Dyddorol ydyw ein hadgofio sut y dech- reuwyd y gwaith meddygol gan y G.G.E. Ychydig dros gan' mlynedd yn ol darfu i'n agent cyntaf yn India, Abdul Masib, gwr hyddysg ac yn un o golofnau Islam cyn iddo gofleidio crefydd lesu Grist, darfu iddo ddefnyddio ei gyfoeth mewn prynu physdg i geisio lleddfu poenau ei gydwlad- wyr, ac am haner can' mlynedd ar ol hyn gwnawd ychydig, ond yn 1864 y danfon- wyd Dr. Elensilie i Kashmir, fel y meddyg cenhadol cyntaf, yn swyddogol o'r Gym- deithas. Heddyw perthyn i'r Gymdeithas Genhadol Eglwysig:— Gorsafoodd 46 Doctoriaid (13 ohonynt wedi graddio yn M.D.) 87 Nurses 69" Doctoriaid a Nurses Brodorol 359 Gwelyau. 3,983 In-patients (llynedd) 41,943 Out-patients 1,270,825 Pwy all ddirnad y gwaith wneir gan y dynion hyn. Meddylier am aberth y meddygon hyn, dynion a fedrent fod yn specialists, lawer o honynt, yn Harley Street, eto Iyn aberthu eu bywydau er mwyn Ueddfu poen. Cerir allan fwy o operations ar y llygaid gan rai o'r doctor- iaid hyn mewn mis nag a wneir gan y specialist galluocaf mown blwyddyn yn y wlad hon. Meddylier am y Haw fedrus mewn hin boeth. Nis gwn am well yspryd aberthol yn holl Eglwys Dduw, nag a ddangoeir gan y meddygon. Llawer o honynt yn tori i lawr yn anterth eu dydd. Gwn am un a fwriwyd i lawr gan dwymyn bedair gwaith, ondeto yn awyddus i fyned allan. Gomeddir iddo, ond y mae yn heinyf ei yspryd ac yn gweithio hyd fer ei esgyrn dros y gwaith. Cyfeirio yr ydwyf at Dr. T. Jays. Mae yr yspryd aberthol ynddo o hyd, ac heddyw ceir ef yn feddyg yn myddin Lord Kitchener. Ceir amryw o bobl nad ydynt yn hoff o'r gwaith cenhadol, a ohwiliant am bob math o esgusodion. Dyma un, 'Treulir llawer o offrymau y bobl ar swyddogion gartref.' Yn gyntaf oil, llawenydd genyf groniclo nad oes yr un Gymdeithas yn y wlad yn gwario cyn lleied ar 'organisation' a'r G.G.E. Mae mwy o offrymau y bobl yn myned yn uniongyrohol i'r maes cenhadol gan ein Gymdeithas ni nag un Gymdeithas arall. Yn ail, mae pob ceiniog roddir i'r Gen- hadaeth Feddygol yn cael ei gwario ar y th 0 gwaith yn yr' hospitals. Telir treuliau y swyddfa oddiwrth y General Fund. Felly, yn te, Mr. Ficer, os dywed Mr. Cybydd lMid yw am gyfranu i'r gwaith cenhadol, o dan yr esgusawd y treulir cymaint o arian gartref, cynygiwoh iddo focsl y Medical Missions. Os rhydd Is. Ie. yn y flwyddyn, caiff y tair ceiniog ar ddeg eu defnyddio mewn hospital. Wrth ddathlu ein haner can mlwydd- iant gawn ni apelio am gasgliad ar ddydd Sant Luc. neu rhan o'r casgliadau, pe ond casgliad Cymmun y boreu, neu yr Ysgol Sul, neu ychydig sylltau o'r casgliadau am y dydd? Danfoner hwf nt i'r Rev. H. G. Harding (M.M.A.), C.M. House, Salisbury Square, E.C. Wrth ddarllen y Testament Newydd a sylwi ar weinidogaeth Crist, yr ydym yn naturiol yn dyfad i'r casgliadau hyn:— (1) Fod Iesu Grist yn Iachawdwr y corff, ac yn rhoddi lie blaenllaw i'r gwaith hwn. (2) Defnyddiodd Iesu Grist y gallu hwn fel attegiad i brofi Dwyfoldeb ei Berson a'i neges. (Gwel ei atebiad i ddisgyblion loan). (3) Dygwyd y bobl o fewn cyrhaedd yr Efengyl trwy y gallu iachaol. (Gwel yr adnodau a ddefnyddiwyd yn nechreu yr ysgrif). (4) Dysgodd fod cysylltiad agos rhwng anhwyldeb a phechod, ac yn naturiol o herwydd hyny y dylai iachad y corff ac iaohad yr enaid fyned law yn Haw. (5) Pan yn danfon ei ddisgyblion, gor- chymynodd hwynt i 'iachau y cleifioii., It was the path the Master trod, Should not His servant tread it still?' Nid gwaith anhawdd ydyw cyfiawnhau y gwaith meddygol, oherwydd:— (1) Dyma ddiill Iesu Grist o weinidog- aethu. (2) Cyflwynir i Anghristionogion Efen- gyl gyflawn. (3) Arddengys yr Efengyl yn ei nod- weddion amlycaf, sef cariad a chydym- deimlad. (4) Cyfiawnheir hwynt yn eu ffrwythau. Nid oes ar y Mahomed ofn ein Heglwysi na'n hysgolion, ond ofnant ein meddygdai canys cyffyrddant a chalonau y bobl. Mae yn anmhosibl croniclo nifer dy- chwledigion trwy offerynoliaeth y medd- ygdai hyn. canys ar wyneb y dyfroedd y teflir yr had, ac ni wyddom pa un a ffyna. neu beidio, ond gwyddom fod canoedd a miloedd wedi tystio mai yn nghlafdy yn y fan a'r fan y clywsant gyntaf am Iesu Grist. Hefyd mae cariad ac addfwynder, amynedd, dyfalbarhad ac anhunanoldeb y meddygon yn apelio y tu hwnt i alluoedd piregethwr. Heifyd mae maes neu gylch y meddyg yn eangach na chylch yr efengylydd. Daw pobl o bellderoedd i feddygdy ac ant adref i son am yr hyn welsant, ie, a chanmil mwy am yr hyn glywsant am y 'Gwr cynefin a, dolur.' Nid y ni sydd i benderfynu mesur eu llwyddiant. Duw yn unig wyr fesur ym- drechion ei blant. Hyn a wyddom, fod llawer wedi cael estyniad einioes, llawer i boen wedi ei leddfu, llawer o aelodau'r corff wedi eu hachub rhag diwreiddiad, a llawer i un ar fin dallineb weled 'Toriad Dydd,' ie, ac i wenu yn ngwyneb Haul Mawr y Cyfiawnder. Gawn ni ychydig o gymorth ar ddydd Sant Luc gan Eglwyswyr Cymru? Yr ydym wedi hen gynefinoi a byw yn nghanol meddygon a meddygdai. fel mae perygl i ni beidio iawn sylweddoli beth yw sefyllfa pethau mewn gwlad baganaidd. Dyma engraifft o drin coriiwycl:-Gwthir haiarn poeth i'r clwyf. Paham? Er mwyn i'r yspryd aflan adael y corff, ac i'r mwg gyfyd o'r clwyf fyned at eu duw. Os dymuna rhywun ddanfon hyd yn od ychydig geiniogau (os na fydd casgliad yn yr Eglwys) byddaf yn ddiolchgar i'w gyru i fyny i Lundain. ESGAIR. Llanerch, Penmaenmawr.

Emyn iw Ganu yn Amser Rhyfel

Emyn i'w Ganu yn Amser Rhyfel. Ton, Litani I. Emyn 483 Emyniadur yr Eglwys. Grasol Deyrn y nefol lu, Yn Dy nerth ymffrostiwn ni; Tri yn Un, ac Un yn Dri, Clyw ni, Drindod Sanctaidd. Pan gyffeswn wrthyt Ti, Mor anffyddlon ydym ni, Diog, balch a bydol fri, Maddeu Arglwydd Sanctaidd. Ymddiriedwn ar bob awr, Mewn gwael lwyddiant ar y llawr, Gwastraff wnawn o'th roddion mawr, Maddeu, Arglwydd Sanctaidd. Maddeu ein pechodau oûdd; Nerth rho i bob rhinwedd sydd; Tro'n oolledion oil yn fudd, Clyw ni, Arglwydd Sanctaidcl. Nertha'r dewr mewn anial dir, Bendith rho ar iawn a gwir, Tro y nos yn oleu clir, Clyw ni, Arglwydd Sanctaidd. Tywallt i'n calonau briw, Gysur liael a Gras i fyw, Balm i'n clwyfau o bob rhyw, Clyw lli, Arglwydd Sanctaidd. Claf a chlwyfus, drwy eu hoes, Milwyr pan mewn marwol loes; Nerth rho iddynt ddal y Groes, Clyw ni, Arglwydd Sanctaidd. Ar ein gwlad a'n Brenin cu, Rho fendithion yn ddiri', Cymhorth rho i'th garu Di, Clyw ni, Arglwydd Sanctaidd. Boed i feibion Prydain bur, Fod yn dystion i Ti'n wir, Yma' thraw ar for a thir, Clyw ni, Arglwydd Sanctaidd. Heddwch anfon etc i lawr, Amddiffyna'n gwlad yn awr, Gad i'n wel'd y boreu wawr, Clyw ni, Arglwydd Sanctaidd. Pan ddaw twrf y byd i ben, Yn Dy Deyrnas uwch y nen, Carwn oil dy.wel'd heb len, Clyw ni, Arglwydd Sanctaidd. Amen. A.D.

Nodion o Chubut

Nodion o Chubut. Fel y crybwyllwyd jyn fy nodion di- weddaf, cawsom ymweliad oddiwrth Esgob Evry—esgob Argentina a'r rhan ddwy- reiniol o Ddeheudir America. Cyrhaedd- odd ar ddydd Llun, Gorphenaf 27ain, a thrwy hyny collodd un Sul ar y mor. Ar y goreu byr oedd ei ymweliad i fod y tro hwn, am y rheswm fod ganddo gymaint i'w wneyd yn Buenos Aires a'r cylchoedd cyn cychwyn am yr hen wlad yn mis Medi. Mwynhaodd pawb ei ymweliad yn fawr, a chawsom lawer o gysur a, chalondid oddi- wrth yr olynydd hwn o'r Apostolion Sanct- aidd. Tailwyd yinweljlad a jpliawb bron o"r Eglwyawyr yn y Dyffryn Isaf. Ein harferiad oedd cychwyn allan yn y cerbyd yn y boreu, gan ddwyn ein lunch, mynd o amgylch y lie, ac yna ymborthi ar ymyl y ffordd mewn rhyw le cysgodol. Yna "am ychydig o amser ar ol bwyta aem i chwilio am betris chwiaid gwylltion, neu wyddau gwylltion. Ac felly unwyd dyledswydd a mwyniant mewn modd pleserus iawn. Nos Wener, yr 31ain, cynhaliodd yr Esgob wasanaeth y Conffirmasiwn. Nid oedd ond ychydig yma y tro hwn—tair o ferched, ond gobeithio y bydd rhagor y tro nesaf. Ni chafodd yr Esgob ond un Sul yma, a gorfodwyd ni i adael Porth Madryn heb un cyfarfod. Meddyliom gael cyfarfod yno nos Lun os byddai ymadawiad y Hong yn caniatau hyn, ond gorfodwyd ni i adael yr amcan hwn trwy orchymyn oddiwrll:4 swyddogion y Hong i'r perwyl fod rhaid i bob ymdeithydd fod ar y bwrdd am haner awr wedi tri. Er hyniTy cafodd yr Esgob ran o ddau ddiwrnod yn Madryn i dalu ymweliad a, phob aelocl, beth bynag, a'r rhan fwyaf o honynt, sef y dydd y glaniodd a'r dydd yr ymadawodd. Ar ddydd Sul, yr 2il o Awst, cynhaliwyd cyfarfod yn Nhrelew yn y boreu ac yn y Dyffryn Uchaf yn yr hwyr. Ar y cyfan ystyriwn y nifer oedd yn bresenol yn y ddau gyfarfod yn foddhaol. Mae'n wir y gallai ychwaneg fod yn bresenol, ond mewn gwlad fel hon mae'n anhawdd dychymygu faint o wahanol bethau all rwystro y bobl ddyfod i'r Eglwys. Nid oes raid eu henwi. Cawsom lawer o gyngborion a chynorthwy. Derbyniasom hefyd" yr anogaeth, bob amser yn gymorth i'r Cristion, mai nid mewn nifer mae nerth bob amser, ac nad yw'r rhyfel ohwaith yn eiddo y cedyrn. Clywsom eiriau o gysur, o ddyledswydd ac o nerth wrth law, yn nerth pa un y gallwn redeg yr yrfa a osodwyd o'n blaen, nid yn gyflym, nid megis ar amcan, ond fel y caffom afael. Cychwynasom oi t)relew ar 01 cyfarfod y boreu a chiniaw am ddau o'r gloch mewn cerbyd, a, chyrhaeddasom Llanddewi haner awr wedi pump-taith o dair milldir ar hugain. Cawsom de ar y ffordd yn Gaiman. Cafwyd cyfarfod blasus as ysibrydol, ac yna dechreuwyd y ffordd yn ol j. Drelew am fod rhaid i'r Esgob wneyd ei hun yn barod i fynd i ffwrdd gyda'r train dydd Llun. Cyrhaeddasom adref am haner awr wedi un ar ddeg yn yr hwyr. Yr oeddem wedi meddwl aros am ychydig ddyddiau yn y Dyffryn Uchaf er mwyn i'r Esgob gael cyfleusdra i weled rhai o'r bobl yn eu teiau eu hunain, ond tarawyd yr amcan hwn hefyd ar ei ben gan ym- adawiad y Hong yn gynt nag a, feddyliwyd. Ar yr 2il o Awst, bedyddiwyd yn Llan- ddewi, Norman, mab Thomas ac Elizabeth Brunt, ac yn St. Marc, Trelew, ar y 12fed cyfisol, George Wellington, mab George a Jane Davies, o'r Dyffryn Uehaf. Oddiar pan yr ysgrifenais y nodion di- Weddaf derbyniais dair rhodd tuag at ail- adeiladu Llanddewi—un o 16s. 8c, un 8s. 4c, ac un o X2 15s. 9c, yr olaf yn dod o blwyf Penboyr, yn Sir Gaerfyrddin. Os daw y nodyn hwn i olwg un o'r cyfranwyr cymeraf y cyfleusdra hwn i dalu fy niolch- garwch gwresocaf iddo am yr hyn a wnaeth. GWYL Y GLANIAD. Glaniodd y Cymry g-yntaf yn Mhata- gonia yn y flwyddyn 1865, ar yr 28ain o Gorphenaf. Byth oddiar hyny, credaf, ar yr 28ain o Gorphenaf, dathlir Gwyl y Glaniad. Ar y diwrnod hwnw gwelir yr hen gewri, yr ymfudwyr cyntaf, pa rai sydd erbyn heddyw, fel mae'r gwaethaf modd, yn ychydig mewn nifer, yn cymeryd rhan flaenllaw yn yr hyn wneir. Ni all ysgrif- bin ddisgrifio :na thafod draethu yr o-l maent wedi myned trwyddynt. Pa la bynag yr edrychwn gwelwn. 61 eu llafur .a'u hymdreohion o gyfnewidio gwyneb y tir anial gawsant yma a'i dori i fyny gan wneyd ffosydd i arwain dwfr o afon Chubut i a thrwy bob fferm yn y Dyffryn. Bydd ei effaith amlwg ar foesoi- deb, ymddygiad a chymeriad trigolion y Diriogae,th. Er mai y Wlodfa Gymreig yw yr ieuengaf yn yr Arianin (ond un, sef sef- ydliad y Boeriaid yn agos i Comodoro Rivadavia), eto mae mewn gystal os nad gwell cyflwr moesol na unrhyw ran arall. tAlc felly mae'n ddyljedu9 aT !y trigolion presenol gadw coffadwriaeth diolchgar am laniad y fintai gyntaf o'r Cymry yn Chubut. Gyda'r amcan hyn mewn golwg, mae'n debyg, cyhoeddodd Llywodraeth Arianin, yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, yr 28ain o Gorphenaf yn wyl gyffredinol trwy Dirioga,eth, -Chubut.. Gyferbyn a ni dros yr Andes yn Chile, er mwyn cadw olwynion y cart., rhaid i'r ffarmwr eu tynu i ffwrdd oddiwrth yr echel a'u gosod dan glo dros y nos rhag ofn i rhyw ffarmwr arall ddyfod heibio a chymeryd meddiant D J honynt. Ilyii allasai fod cyflwr Chubut. j Rhoddaf yr eiio-raifft i ddangos posibl j rwydd Deheudir Amerig. { Erbyn heddyw mae'r Cymry yn Chubut yn y lleiafrif mawr, a'r duedd yw colli nod- i weddion sylfaenol y Wladfa, sef cadw iaith a chenedlaetholdeb v Cymry. Mae'r duedd hon yn fwy amlwg yn yr oes sydd yn codi 'nawr. j, Eleni cafwyd llawer o hwyl a mwynhad. j Yn y bore,u eawsoiit 'fireworks' (rockets), a cherddoriaeth gan y band trefol; te yn | y prydnawn a bazaar a 'cinematograph' | yn yr hwyr. Bwriedir dathlu'r wyl v :j flwyddyn nesaf, sef haner con'mlwyddiant y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, trwy | gynal eisteddfod fawreddog yn Nhrelew. Mae rhyfel Ewrop yn cael effaith ddrwg iawn arnom yma-pri8 pob peth wedi codi, „ ac ni ellir prynu ond rhyw gymaint o 4 hono. Mae'r farchnad wlan 'ar stop.' j Hefyd, parodd i long oedd yn dyfod i gludo'r ymfudwyr i Awstralia beidio dod i j Barth Madryn o herwydd yr anhawsderau i forio o Brydain Fawr i Awstralia drwy | For y Canoldir. Os am fynd i Awstrali oddi yma, rhaid mynd i'r Hen Wlad yn gyntaf.

J i Lioffion

i Lioffion. Fel rhodd i'r milwyr Prydeinig y mae y i Toolona Rifle Club, Awstralia, wedi casglu '?■ 1000 o ddefaid tewion. Pan y glaniodd Rwsiad gwrthryfelgar yn » s Raumo gyda'r bwriad o ymuno a byddin y | Tsar cymerwyd ef i'r ddalfa. ? Yn ol y 'Daily Mirror,' cynaniad (pro- j nounciation) priodol enw y ddinas Rheims | ydyw Ranee. I Allan o'i ewyllys o ll,877p. gadawodd | Mr. A. Kroyer. marsiandwr Danaidd, 25p. | 'i r ohwareuydd organ methiantus oedd yn 1 chwareu ei offeryn o flaen ei dy bob wyth- j nos.' I' Rhowd dirwy drom ar wraig am dynu i vi lawr hysbyslen adfilwrol yn Atherstone. | Y mae dros fil o weithwyr rheilffyrdd Prydain wedi eu galw i gynorthwyo ar reilffyrdd Ffrainc. Dydd Iau, yn Llys Bow Street, dirwy- wyd Jack Johnson, yr ymladdwr enwog, i j Ip. a'r costau am ddefnyddio iaith an- j weddus pan y gofynodd yr heddlu iddo symud ei fodur. Tra wrth eu dyledswyddau o wylio y j rheilffordd lladdwyd dau diriogaethwr o r « enw Walton a Halton (o'r Lancashire | Regiment) gan dren gyflym ger croesffordd Steventon dydd lau. Y mae Mrs. T. A. Williams, Pen- rliwyfa, Galltmelyd, wedi cyrhaedd ei chant oed, ac yn mwynhau iechyd rhagorol. Derby ni odd cy d;-f asn achwy rj yn Leeds archeb am 100,000 o ddilladau i fyddin Rwsia. Y mae dros 3000 o yriedwyr a chyfar- wyddwyr moduriaid Llundain ar faes y gwaed. Ymhlith enwau plant a insiwriwyd yn ystad yr wythnos ceir Alsace Lorraine Jones, Kitchener Barry, John Jelicoe Walker, Louvain Nieholls, a Joffre Moris Scot. Dywed marsiandwyr o Berlin, y rhai sydd wedi cyraedd Bucharest i geisio bwyd i'r Almaen, fod cig yn 3s. 6c. y pwys yn eu prifddinas. Pasiwyd dros gant o adfilwyr gan swyddfa adfilwrol Dublin ddydd Mawrth. Yn llys B a rr o w- in Fu r 11 ess dirwywyd dyn ieuanc o'r enw James Johnson i 2p. a'r costau am fod yn feddw a dryll yn ei feddiant. Y mae Col. Wynne Edwards, Dinbych, wedi rhoddi un o'r tai mwyaf ar lan y mor. yn Rhyl at wasanaeth y Belgiaid digartref. Gwnawd 'casgliad arian' yn y Towers, Birkenhead, tuag at grolifa y Belgiaid, a chasglwyd 713p. ymhlitl1 y 3000 a ymwel- asant.a'r lie i weled y Belgiaid sydd yno.

LLANLLYFNI

LLANLLYFNI. GWASANAETHAU Y DIOLCHGARWCII.—Mae y gwasanaethau uchod wrth y drws elemi eto, a disgwylir amryw o offeiriaid dyeithr i wasanaethu, ac y mae cyfarfodydd canu yn cael eu cynal yn y tair Eglwys ar gyfer yr wyl. Gobeithio y gwnawn ein goreu gyda'r canu eleni eto, er ein bod wedi caoJ colledion mawrion trwy i lawer orfod ym- ad.a el o¡'n plith. Mae'n ddrrwg genym orfod cofnodi fod amgylchiadau ein dyffryn wedi peri i'n cyfaill a'r Eglwyswr ffyddlawn, Mr. Ben. Jones, arweinydd canu Eglwys St. loan, Talysarn, ymadael .1 'D;* i'r'Deheudir. Efe hefyd ydoedd arweinydd y Nantlle Vale Silver Band. Bydd yn golled neillduol i'r dyffryn yn gyffredinol ar ei ol. Deallwn ei fod ef a Master Willie Jones, ei fab, wedi bod yn hynod ffoortunua i gael gwaith yn Treharris, a byddant yn sicr o fod yn gynorthwy mawr i'r Eglwys yn y dref. CHURCH ROOM.—Deallwn y dechreuir ar y gwaith o adeiladuy Church Room rai o'r dyddiau nesaf yma; mae tenders allan er's rhai wythosau. BAZAAR.—Mae balance-sheet yr uchod wedi ei hargraphu, a, gwelir fod un o'r derbyniadau yn S216 10s. Gwaith mawr wnaed dan yr amgylcihiadau, ac mae Eglwyswyr y plw-yf yn haeddu eu canmol -j, am eu gwaith.-H.J. 1 I 1 I » A