Collection Title: Llan

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

Image

A PHP Error was encountered

Severity: Warning

Message: A non-numeric value encountered

Filename: views/newspaper_view.php

Line Number: 100

1 of 8

A PHP Error was encountered

Severity: Warning

Message: A non-numeric value encountered

Filename: views/newspaper_view.php

Line Number: 103

https://cymru1914.org/en/view/newspaper/3687406/1" title="Next Page">Next Last
Full Screen
5 articles on this page
Advertising

YR HAUL. I OYNWYSIAD AM HYDREF. j Y Mis. Dadsefydliad a Dadwaddoliad yr j Eglwys yng Nghymru, Cyleh- > lythyr Pwysig oddiwrth yr < Esgobion Oymreig. > Llyfr y Barnwyr. j Daioni Rhagluniaeth. > Y Diweddar Mr. Henry Williams (Alaw Llechid), (gyda Darlun) At y Beirdd. j Prynhawn yn Mynwent Llangian j "Mae Peth Daioni Ymhawb." } Or Arsyllfa. Remember the Lord's Day, to | keep it floly. Y mbil. j Edward Richard, Yatrad Meurig j Gobebiaeth. | Yr Allor Deuluaidd. j Adolygiadau. 5 Nodion Eglwysig. I Bwrdd y Golygydd < t,Y

Advertising

PKKL V PLA%$$ OYNWYSIAD AM HYDREF. Dadleuon Magi Jones. Pysgodyn a Dwy t 4eg (gyda Dar- lun). Gweddiwn. Emyuwyr Cymru, D&len Dirwest. | Y GorlAn Dramorol. | Seryddiaeth. Mis Rydref. < Yr Arcbddiacon Evans (gyda Darlun). Mawrfrydedd. j Hen Gydnabod (gyda Darluniau) r Cychod Gwenyn yn Affrica(gyda | Darlun). The Church. Bryncyn o Drwynau a Chlustiau (gyda Darlun). Bwrdd y Gan Y Dvn a'i Dri Cyfaill. Y Pagan Bach Du. Betb mae yr Eglwys yneiWneyd. Y Gystadleuaeth. Perlau y 4 Perl. I Llithiau Priodol am y Mis. Barddoniaeth.

Y FRWYDR FAWR YN PARHAU

Y FRWYDR FAWR YN PARHAU. YSTRYWIAU ANNHEILWNG Y GERMANIAID. GLANIAD Y MILWYR INDIAIDD. Dywedir fod tyrfa anferth wedi ym- gasglu yn Marseilles yr wythnos ddiweddaf i weled y miloedd o filwyr India yn glanio, a golygfa nad anghofir ydoedd. Llanwyd ugain o ryfel-longau a'r milwyr hyn, ac yr oedd y modd hwylus y glaniwyd hwy yn destyn edmygedd y tyrfaoedd o Ffrancod oeddynt wedi ymgynull i'r porthladd. Nid oedd cymaint ag un o'r Indiaid hyn yn glanio yn Ffrainc heb fod yn hollol gyfar- wydd a'r hyn ddisgwylid ioddiwrtiho yn ystod y rhyfel echryslonaf fu yn y byd erioed. Llenwid pob un o honynt gan deimladau gwladgarol, ac ymawyddent am gyfarfod y gelyii, gan y teimlent mai eu dyledswydd ydoedd amddiffyn buddianau y fam-wlad hyd yr eithaf. Yr oedd golwg ardderchog ar y gwyr duon hyn yn ym- b I deithio drwy heolydd Marseilles, a'u swyddogion gwynion gyda hwy. Gallai y rhai diweddaf farchogaeth i'r gwersyll, and dymunent yn hytrach gyd-gerdded a/u milwyr. Rhoddwyd derbyniad ysblenydd iddynt ymhob man gan y miloedd o wyr, gwragedd, a phlant, nid yn unig o Marseilles ond o r ardaloedd amgykhynol, oeddynti yn awyddus i ddangos eu parch iddynt. Ni welwyd erioed olygfa mor ogoneddus a hyn yn Marseilles o'r blaen, a buasai dineswyr Llundain wrth eu bodd pe gwelent y fath lu o ryfelwyr fyddant yn sicr o droi y fantol pan gant gyfleusdra i fyned i frwydr. Ymddangosai y milwyr fel yn gwerthfawrogi y croesaw diball a dderbynient, ac enynwyd brwdfrydedd y Ffrancod i'r man uchaf pan clrwareuodd y Gurkbaa anthem genedlaethol Ffrainc—y 'Marseilles.* Erbyn yr hwyr yr oeddynt wedi gwersyllu mewn parciau eang, a hardd, yn ngolwlg bryniau draw yn y pell- der, a miloedd: wedi ymgasglu ar y ffyrdd amgylcliynol i weledi, yn ngoleuni arian- aidd y lloer, y dwyreinwyr yn myned drwy eu defodau. Dygwydi hwy i'r wlad hon, taitli o filoedd o filldiroedd, mewn modd tawel, a thra y mae llestri Germanaidd yn barod i ymosiod ar longau unigol, ni feidd- iant geasio rhwystro tramwyaeth yr ugain rhyf el-long Indiaidd. CYMRO DEWR. Ddiwedd yr wythnos, cymerwyd, milwr o'r enw William Henry Gollimore i ysbytty yn Paris, gan ei fod wedi ei glwyfo yn drwm. Dywedai ei fod wedi cael ei saethu ,( gyntaf fis i ddydd Llun diwedaf. Yr ydoedd ar y pryd mewn cae yd, a saethwyd ef yn ei goes a,'i forddwyd. Yr oedd nifer o Germaniaid meirw gerllaw iddo, a swyddog Germanaidd clwyfedig. Deallai hwnw yohydig Saesneg, a rhoddodd damaid o fara i Gallimore, yr ymborth cyntaf oedd wedi gael am bum' niwrnod. Cludwyd y swyddog ymaith, ond methwyd ei gymeryd ef, gan fod ergydion yn dyfod o bob cyfeir- iadi. Wedi bod yn ymguddio mewn twll, saethwyd ef draohefn. Wedi bod yn y twll am beth amser, aeth i chwilio am fwyd a dwfr. Llwyddodd i gael potel o ddwfr gerllaw un o'r Germaniaid marw, a thra yn gorwedd i lawr yn lluddedig saeth- wyd ef dracliefn drwy wadn ei droed. Gwaeddodd am gynorthwy, ond nid oedd neb i ateb. Tua milldir a, haner o ffordd draw, canfyddai gatrawd o filwyr, yr hon drodd allan i fod yn gatrawd Gymreig, yn cloddio ffosydd. Yr oedd erbyn hyn yn newynog a, nyohlyd, ond ni aflonyddwyd arno y nosi. Boreu dranoetli. cripiodd tua 80 Hath yn nghyfeiriad y ffosydd. Llwydd- odd i ddarganfod yohydig wirod mewn 9 potel yn un o logellau Germaniad marw, a chredai mai dyna a'i cadwodd yn fyw y noson hono. Ar y dydd canlynol—dydd Gwener—y pumed diwrnod iddo dreulio yn y cae yd, ail gychwynodd gripian yn nghyfeiriad y ffosydd. Teimlai yn boenus iawn, gan fod ei forddwyd chwith wedi ei dryllio, a'i goes dde wedi ei hanafu, ond ymben rhai oriau yr oedd wedi myned tua haner milldir. Yr oedd bron marw, pan y canfyddwyd ef gan filwr o'r gatrawd Gymreig, yr hwn aeth ato ar unwaith. Meddai Gallimore, 'Dylai y dyn hwnw gael y Victoria Cross. Hi ofynais iddo ei enw, ac nis gwn beth ydyw, ond yr oedd yn ddyn da mewn gwirionedd. Cododd fi ar ei ysgwyddau, achludodd fi i'r gwersyll. Saethai y Germaniaid yn barhaus, ac yr oeddwn mor lluddedig, fel y dymunais. arno fy ngollwng, a gadael i mi farw. Ni cliredwn ei fod yn iawn iddo beryglu ei hun eir fy mwyn. Yr oil a ddywedodd ydoedd, 'Gafaelwch yn dyn, hen wr; yr wyf wedi cael gafaeil arnoch, ac nid wyf yn bwriadu gadael i chwi fyned.' Gresyn na fynegid enw y Cymro dewr hwn a, gyflawnodd y fath wrhydri. Daitganai y meddygon fu yn archwilio Gallimore fod ei achubiaeth yn I rhyfeddol, a da yw genyni hysbysu fod y dyn yn gwella yn dda dan driniaeth ofalua y meddygon. Y BELGIAID YN GWYNEBU NEWYN. Mae Mr. Whitehouse, A.S., wedi cy- hoeddi adroddiad difrifol am y perygl sydd yn bygwth oenedl y Belgiaid, gan fod y Germaniaid yn greulon iawn tuag atynt. Parha y Germaniaid i dan-belenu Ant- werp, ond y mae catrawd o filwyr Ger- manaidd mewn rhan arall o'r wlad wedi eu cosbi yn drwm gan filwyr Belgium, pan yn ceisio gwneyd eu ffordd rhwng yr amddi- ffynFeydd. Credir y gellir disgwyl rhydd- had i Antwerp fel y byddo y milwyr undebol yn ymdaith ar y Somme a'r Aisne, yr hyn orfoda Germani i ddefnyddio ei boll luoedd i'w gyfarfod1. MEDDIANIAD GWNFAD A NAW 0 LONGAU MASNACHOL GERMANI. Llwyddodd y rhyfel-long 'Cumberland' i gymeryd meddiant o saith o. longau Uinell Woermann yn Ngorllewinbarth Affrica. Cymerwyd hefyd feddiant o lestr German- aidd arall, sef gwnfad, a, darfu i'r German- iaid suddo dwy o'u llongau rhag i'r Pryd- einwyr eu meddianu, ond credir y gellir eu oodi eto. Y FRWYDR FAWR. Dydd Gwener ydoedd y triugeinfed dydd er pan dorodd y rhyfel allan, a'r unfed dydd ar liugain er pan ddeclireuodd y frwydr fawr rhwng yr afonydd, ao y mae yn cael, ei cliario allan gyda ffyrnigrwydd y naill ddydd ar ol y llall. Y diwrnod a nodwyd, cymerodd ymladdfa galed le yn nghwmpasoedd y Roye, lie yr ymddengys fod y Germaniaid wedi ymgrynhoi yn llu- oedd mawrion. Mae yr ymladdfa yn vm- estiyn fwy-fwy i gyfeiriad y gogledd, a chyr- haedda ar hyn o bryd mor bell a chyfeiriad deheuol Arras. Ceisiodd y Germaniaid ddodi pont dros yr afon ger St. Mihiel, ond dinystriwyd hi yn ebrwydd gan y milwyr undebol. Cerir ymlaen ein hymosodiadau yn effeithiol yn y Weerre, ac enillir tir yn barhaus, yn neillduol yn y rhanbarth rhwng Apremont I a St. Mihiel. Ar hyd y gweddill o'r ffrynt frid pet; ond ynidrechion frlianol wedi (eu gwneyd gan y naill ochr a'r llall. YMGYRCH LWYDDIANUS Y RWSIAID. Ymosododd y Germaniaid ar Suwalki, Rwsia, ond cyfarfyddasant a phrofedig- aethau, gan golli 30,000 rhwng y lladded- igion a chlwyfedigion, a chymerwyd 20,000 ereill yn garcharorion. Bu raid i'r Ger- maniaid ffoi mewn annhrefn. Mae y Rwsiaid wedi ail-oresgyn Prwsia islaw Suwalki, ac wedi cychwyn brwydr yn Gracow, lie y mae pedair miliwn o filwyr Germani, Rwsia, ac Awstria wedi ym- gynull. Ofnir y bydd galanastra ofnadwy yn dilyn y frwydr hon, gan fod 11awer mwy yn cymeryd rhan ynddi nag yn y frwydr fawr ar yr Aisne, a'r llinell frwydrol yn ymestyn dros 240 milldir. Y GERMANIAID MEWN DYRYSWCH Newyddion o Paris ddydd Sul a fynegant fod ymladd caled yn nhref Douai a'r am- I gylchoeddJ, a, bod y Cadfridog von Kluck a'i fyddin mewn dyryswch, gan eu bod mewn perygl o gael tori eu cymundeb, a'u hamddifadu o ymborth a phylor. Gallent adgyfne,rthu eu liaden orllewinol o Bel- gium, ond pe gwnaent hyn deuai y Belgiaid ar unwaith o Antwerp gan ddinystrio y milwyr adewid ar ol. Ar y Haw arall, os na. dderbynia y Cadfridog von Kluck ad- gyfnerthion, ei unig obaith o ddiogelwch fyddai encilio, ond byddai hyn bron yn sicr o esgor ar gyflafaii. Golygai enciliad sydyn i'r fath fyddin anferth ag sydd gan y Cadfridog von Kluck, gyda'r gelyn yn gw,asgu o'r tu cefn, golledion ac annhrefn, deuai y ffyrdd yn anhawdd eu defnyddio, a thorfynyglid y milwyr enciliedig. I ba gyfeiriad bynag y try y cadfridog hwn, gwyiiebir ef gan alluoedd cryfion o filwyr Ffrengig. Mae wedi derbyn yr holl ad- gyfnerthion ellir ganiatau iddo, ond ar bob pwynt gwynebir ef gan alluoedd cryfach.

Y FRWYDR FAWR YN PARHAU

RHYBUDDIO LLONGAU. Cyhoeddodd Ysgrifenydd y Morlys yr hyn a ganlyn ddydd Gwemr Y mae polisi Germani o osod mines i lawr, a'u hymddygiadau gyda'u badau-tanforawl. yn ei gwneyd yn angenrheidiol i ni, fel Mor- lys, ar seiliau gwleidyddol, i fabwysiadu mesurau cyffelyb. Felly, y mae Llywodr- aeth ei Fawrhydi, yn awdurdodi'r polisi o osod mines i lawr mewn lleoedd arbenig, ao y, mae cynllun wedi ei sefydlu a dat- blygir ef ar raddfa eang. Er mwyn lleihau peryglon y gwdedydd nad ydynt elyniaeth- us, y mae'r Mor lya yn cyhoeddi y bydd yn beryglus o hyn ymlaen i longau groesi'r mor rhwng lledred 51.15 a 51.40 i'r gogledd, a hydredd 1.35 a 3 yn y dwyrain. Ynglyn a hyn rhaid cofio mai ffiniau deheuol y maes lie y mae'r Germaniaid wedi gosod mines ydyw lledred 52 i'r gogledd. Er fod y lleoedd hyn wedi cael eu nodi fel lleoedd peryglus, ni raid tybio fod y fordwyaeth yn ddiogel mewn unrhyw le yn rhanau deheuol Mor y Gogledd. Y mae llongau ei Fawrhydi wedi eu cyfar- wyddb i rybuddio yr holl longau sydd yn hwylio i'r cyfeiriad dwyreiniol am y mines hyn. GWERSYLL 0 GERMANIAID. Telegram o Ostend a edrydd fod 40,000 o Germaniaid yn gwersyllu o amgylch Waterloo er dydd Sadwrn. Mae eu swydd- ogion yn Ruysboeck. Mae y Germaniaid yn Brussels yn gwrthod rhoddi ychwaneg o 'passports' i fyned i Mons, a'r rheawm am hyny ydyw nad ydynt yn dymuno i neb weled eu gynau mawr, y rhai moodir, sydd wedi eu dychwelyd o Ffrainc i Mons. Mae'r Germaniaid wedi gosod gwn mawr yn Grimbergen ac un arall yn Meysse, ger Brussels. Rhag i'r trigolion weled eu gweithrediadau mae'r Germaniaid wedi cau. i fyny yr holl ddynion mewn eglwysi, ac mae'r merched wedi eu hanfon i Brus- sels. Mae cigydd aeth i bwrcasu moch i Fysse heb ddychwelyd, a dyna hefyd yw hanes am ei fab aeth i chwilio am dano. Yna aeth y mab-yn-nghyfraith allan dra- chefn i chwilio am ei beithynas ac ni ddychwelodd yntau. TANIO AR ANTWERP. Yn ol adroddiad o Antwerp, ddydd Mertcher, ymddengys fod y Germaniaid wedi tanio ar gaerfeydd Waelhem a Wavre, ger Antwerp, dydd Mawrth. Ni lwyddodd y gelynion i dawelu gynau y caer- feydd. Mewn un pwynt bu raid i'r gelyn- ion encilio gyda cholledion trymion. Fel canlyniad y tanio cafodd amryw dai yn nhref Lierre eu rhoddi ar dan, a ffodd y trigolion i gyfeiriad Antwerp. Yn ystod y tanio ar Lierre, dydd Mawrth, disgynodd rhai llosg-belenau ar ysbytty, oddiar ba un y chwyfiai baner y Groes Goch. Lladd- wyd pedwar o ddynion clwefedig ac un wraig. Y mae adroddiad wedi ei gyhoedtli yn hysbysu yr anrhaith wnaed, gan y Ger- maniaid ar dref Aerschot. Y mae yr eglwys yn adfeilion, a'r allorau wedi eu gwneyd yn deilchion. Mewn rhanau eraill o'r dref ceir lliaws o dai wedi eu llosgi. Cafodd maer y dref, ei fab, ei frawd, a dinasyddion eraill, eu lladd. GERMANIAID YN RWSIA. Y mae y byddinoedd Germanaidd sydd wedi bod yn ysgubo trwy Ddwyrain Prwssia yn gwneyd ymdrech fawr i ortb- rechu y Rwsiaid. Credir mai eu hamcan ydyw tori liinellau y ffyrdd haiarn o St. Petersburg a Gogledd Rwsia i Warsaw, ac felly i ymryddhau y wasgfa sydd ar yr Awstriaid yn Galicia, ac ymyryd a chyn- lluniau y Rwsiaid er goresgyn Germani. Dywedir fod yna fyddin o haner miliwn o ddynion yn agos i'r terfyndir Rwsiaidd, gyda'r Caisar fel maes-lywydd. Ar hyd yr wythnos y maent wedi bod yn ymosod ar y safle Rwsiaidd ar yr afon Niemen yn Rwsia, ond hyd yma y maent wedi eu curo yn ol ar hyd y llinell o tua chan' milldir. Yn Galicia y mae yr Awstriaid yn parhau i encilio, ac yn gadael ymborth, cad-ddarpariaethau, ao ystorfeydd eraill, ar eu holau, pa rai yr oeddynt yn ceisio eu cludo yn ol i Awstria. ARWYDDION FOD Y GERMANIAID YN ENCILIO. Gohebydd o Rotterdam, dydd Mercher, a ddywed fod newyddion wedi cyraedd yno ydyna yn awgrymu fod y Germaniaid ar yr aden dde yn paratoi i encilio. Y mae bydd- inoedd Germanaidd wedi eu gweled yn encilio o Ogledd Ffrainctuag at Tonrnai, a Mons, ae y mae rbanau o'r ddau le hyn wedi eu gosod ar dan. Yn Mons yr oedd pencadlys y Cad- fridog Von Kluck, a dywedid fod y dref mewn fflamau dydd Mawrth. Y mae y Germaniaid hefyd wedi tanio ar Tournai, ac wedi bawlio dirwy rhyfel. LLONGAU GERMANAIDD WEDI EU SUDDO. Mae y llestr tanforawl E9, yr hon a sudd- odd y rhyfel-long Hela' yn nghyffiniau Heli- goland, wedi llwyddo i suddo Hong German- aidd beryglus ar yr afon Ems gerllaw un o ynysoedd y Trisian. Adroddir hefyd o Japan fod y rhyfel-long Germanaidd Cormoran,' ynghyd A dau wnfad weril en snddo yn Man Kio chau. -A» r. _.1&> DENG MIL 0 FFOEDIUlOtf BELGIAIDD YN AMSTERDAM. Oherwydd y sefylifa ddifrifol yn Antwerp, mae deng mil o'r trigolion wedi ffoi i Amster- dam, lie y gofelir am danynt am y presenol o leiaf. Hefyd diagwylir llawer iawn o glwyf- edigion yno yr wythnos hon. Y RWSIAID YN YMLID. Mae y Rwsiaid yn ymlid y Germaniaid yn ddibaid yn Nwyreinbarth Prwsia, ae yn eu gorfodi i ffoi ymhob cvfeiriad, gan adael ugeiniau o geffylau yn feirw ar y ffyrdd. TAN-BELENIAD ANTWERP. Am dros wythnos bu y Germaniaid yn tan- belenu amddiffynfeydd Antwerp, ac yn anfiod- us maent wedi llwyddo i raddau, ac yn awr yn ceisio dinystrio y ddinas. Mae y IIy. wedi ei symud i Ostend, ond parha y milwyr amddiffynol yn yr amddiffynfeydd. Bydd i'r miiwyr undebol wneyd eu goreu i yru y gelyn ymaith ar unwaith a gwaredu y ddinaa rhag unryw ymgais pellach. MANION. Derbyniwyd gorchymyn am 500,000 pir o eagidia-u. i fyddin Belgium a 100,000 pâJI i fyddin y Groegiaid gan wahanol fasnach- wyr yn Nghaerodor. Daliwyd pump milwr Germanaidd oeddi yn cuddio mewn allt gan M. Dalimer, ys- grifenydd cynorthwyol oelfyddyd yn Ffrainc, tra'r oedd yn dychwelyd ar ol bod yn edrych ar yr hyn oedd yn ol o Eglwys Gadeiriol Rheims. Yn ol y cyhoeddiad diweddaf, maen anghyfreithlawn rhanu masnach mewn un- rhyw fodd a Germani ac Awstria. Maen debyg fod rhai wedi bod yn prynu siwgr yn ddiweddar oddiwrth y gwledydd hyn. Ceir miloedd ar filoedd o ergydion heb eu saethu ar faes y frwydr wedi eu gadael yno gan y Germaniaid. Er fod yr hanes wedi ei gyhoeddi ddwy- waith fod y Milwriad W. E. Gordon, V.C., wedi ei ladd, mae'r newydd wedi dyfod yn awr ei fod yn garcharor gyda'r Germans, ac yn mwynhau iechyd ardderchog. Yn un o neolydd Guildford ceir ar yr hysbyslen 'Tippe-rary Road.' Yr enw fu gynt ar yr heol oedd Berlin Road. Pan yn ysgrifenu at gyfaill yn y Cyfan- dir. dylai pob un roddi darn o bapur ys- grifenu ac amlen tufewn i'r llythyr er mwyn sicrhau atebiad buan, am ei bod yn anmhosibl bron i'r milwyr gario y pethatt hyn ganddynt. Mae Shillingstone, pentref bychan yn Dorset, wedi danfon 66 o'i gwyr allan i'r rhyfel. Rhif trigolion y pentref ydyw 575. Trefnodd Mr. J. W. Gerard, cynrych- iolwr yr Unol Dalaethau yn Berlin, ger- bydresi i ddwyn gwragedd a phlant yn'ol i Loegr o Germani. Oherwydd y llwyddiant yn cael cymaint o adfilwyr, ni cheir bron neb yn myned allan i'r gwledydd tramor ar yr adeg bresenol. Rhaid i mi ddiolch na chefais fy nghlwyfo yn fy nheg, ac felly yr wyf yn medru mwynhau ysmygu.' Dyna ddy- wedodd un milwr tra yn gorwedd mewn ysbytty. Yr oedd wedi ei glwyfo mewn sawl man. Gorchfygwyd y Germaniaid a aethent i Rwsia yn dost, a gyrwyd hwy ar ffo. Ad- roddir i'r Rwsiaid gymeryd llawer o garchar- orion, 180 o ynau mawr, ac fod holl ynaa gwarchae y gelyn wedi syrthio i'w dwylaw. Yn Twsing-Tao yn y Dwyrain pell, ymos- j ododd y Germaniaid yn y nos ar y Japaneaid, I ond gorchfygwyd hwy a lladdwyd 47 o | honynt. Lladd wyd pump a chlwyfwyd wyth o'r Japaneaid. Y mae brwydro tost yn Nwyrain Affrica ar ffiniau'r tiroedd sydd gan y wlad hon a'r Almaen, a difiol ar fywyd yno. ..> S

Advertising

YN AWR YN BAROD. LLAWLYFR AT WASANAETH Y CONFFIRMASIWN, GAN Y Parch. E. LORIMER THOMAS, M.A., COLEG DEWI SANT. Fria lie., neu 1/3 y dwsin, yn rhad drwy'r post. CYHOEDDEDIG GAN GWMNI Y WASG EGLWYSIG GYMREIG, LAMPETER.