Collection Title: Llan

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 8 of 8
Full Screen
9 articles on this page
LLANBEDRPONTSTEPHAN

LLANBEDR-PONT-STEPHAN. GWYL DEWI SANT.-Dathlwyd yr wyl hon yn y dref fel arferol. Nos Sul, cafwyd pre- geth ar ein nawddsant yn eglwys y plwyf gan y Parch. Ganon Camber-Williams, ficer. Dydd Llun, ymwelwyd ag ysgolion elfenol y dref gan y Cyngborwr D, F. Lloyd yr hwn a gyn- rchiolai y maer am y dydd yn ei abaenoldeb anocheladwy) a nifer o'r Cyngor Trefol, ac jnqhob ysgol aethpwyd drwy ragleni o gyd- ganau, caneuon, adroddiadau, kc" yr oil jr. Gymraeg er boddhad i'r nifer fawr o wahodd- edigion, Rhanwyd melusion rhwng y plant gan Mrs. Walter Davies, priod y maer, a threuliwyd amser dedwydd. Y GROGLITH.—Pregethwyd nos Fercher yn eglwys y plwyf gan y Parch. D. James, Pen- carreg, a thraddodir pregeth heno (nos Wener) gan y Parch. T. Madoo Jones, Tre- garon. Y GARAWYS.—Mae cor eglwys St. Pedr yn bwriadu rhoddi dadganiad o'r 'Crucifixion' (Stainer ddydd Gwener y Groglith.—X.

BODFEAN

BODFEAN. UNDEB Y MAMAU.—Nawn Llun, yr 22ain cynfisoi, bu y Parch. H. Manley, y Deon Gwladol, yn yr I eglwys hon yn traddodi an- erchiad canopas, ao yn sefydlu cacgen o Un- deb y Mamau. Diameu, pe buasai pob mam yn dwyn ei phlant i fyny yn ol y cynghorion doeth a gawsom gan y Deon Gwladol, byddai yr oes sydd yn codi yn oes y gellid edrych i fyny ati. Ymunodd saith A'r Undeb. Y C.E.T.S.— Da genym weled fod ein cyfaill ieuanc, Mr. J. H. Roberts, Gwnhingar, wedi ei ddewis yn ysgrifenydd y Gymdeithas Ddirwestol (C.E.T.S.) dros ddosbarth Deon- laeth Lleyn. Mae yn sicr na fuasal bosibl cael neb mwy addas I lenwl y swydd. Y mae Mr. Roberts yn ddirwestwr trwyadl o'i febyd. NBWID PWLPUDAU. Y Sul diweddaf, yr oedd y Parch. G. Salt yn pregethu yn Eg- lwys St. David's, Lerpwl, a ficer yr Eglwya hono yn pregethu yma. Cawsom ein bodd- hau yn fawr ytiddo.-O.D.

CAIO SIR GAERFYRDDIN

CAIO, SIR GAERFYRDDIN. LLWYDDIANT EGLWYSIG. Dydd Gwener, Chwefror 26ain, cynhaliwyd gwasanaeth con- ffirmasiwn yn eglwys blwyfol Caio am 3.30 y prydnawn gan Arglwydd Esgob Ty Ddewi. Rhif yr ymgeiswyr ydoedd 15, sef 12 o Caio a thri o Llansawel. Yn eu plith, da oedd genyf weled rhai Ymneilldu- wyr parchus, y rhal yn wirfoddol a ddat- ganaaant eu hawydd i gael eu conffirmio. Yr oedd y gwasanaeth yn ddwy-ieithawg, a darllenwyd y rhagymadrodd gan y Parch. Griffith Jones, ficer. Arweiniwyd yr ym- geiswyr at yr eagob i dderbyn arddodiad dwylaw gan y Parch. R. P. Lewis, curad, Cafwyd anerchiad dwys ac ymir-ferol i'r ym- geiswyr gan ei arglwyddlaeth yn Gymraeg. Rhoddodd ei ail anerchiad yn Saesneg, yn yr hwn y cyfeiriodd at y cyfnewidiad yn y ficer oddiar ei ymweliad diweddaf i'r plwyf. Hefyd sylwodd ar gyflwr blodeuog a llew- yrchus yr eglwys, a gadawodd genadwri o galondid am ddyfodol yr Eglwys yn Ngbymru. Daeth cynulliad lluosog ynghyd, ac yn eu plith sylwais ar y Cadfridog Syr James Hills-Johnes a'r Arglwyddes Hills-Johnes, Dolaucothi; Mr. a Miss Davies, Froodvale; Mrs. H. Meuric Lloyd a Miss Lloyd, Del- fryn Mrs. Griffith Jones a Master Donald Jones, Ficerdy; Mrs. R. P. Lewis, Llan- sawel; Misses Methuen a'r Cadben H. Methuen, Llystroyddin Misses Owen, Palas, Abergwill. Chwareuwyd gan yr organydd. ea, Miss Casburn, ao yr oedd y canu yn dda a hwyliog dan arweiniad Mr. Evan James. Mae golwg addawol lawn ar yr eglwys yn Caio a Llansawel, a'r ficer newydd, y Parch. Griffith Jones, yn gweithio i'i holl egni yn ngwlnllan ei Arglwydd.—Troyddinfab.

GARTHELI

GARTHELI. Gwleddoedd te a chyfarfodydd adloniadol yw y prif bethau ag sydd wedi bod ynghorff yr wythnos flaenorol. Dau gapel ao Eglwys sydd yn y plwyf bychan; a chynhaliodd Methodistiaid Calfinaidd Abermeurig eu gwyl dd a'a cyfarfod adloniadol ar y 17eg oynfisol, a M.C. Llwyngroes eu gwledd flynyddol, gyda chyfarfod cystadleuol eleni, ar y 19eg. Cyn- haliodd Ysgol Sul Gartheli ei gwyl d3 flyn- yddol ar y 24ain, pan oedd y byrddau wedi cael eu llwytho a/r danteithion arferol, a gweinyddid wrthynt gyda gwenau a serohog- rwydd o'r fath oreu gan Misses Davies, Ficer- dy Misses Davies, Taincwm; Miss Jones, Tynrhelig Miss Davies, Parcybedw Miss Davies, Pantyrhwch; Miss Daviea, Llwyn- madog; Mrs. Jones, Emporium; Mrs. Jones, Herdrephilip, a Mrs. Davies, Pwllybadell. Drwg oedd genym am absenoldeb Miss Jones, Gwastod. Wedi gwneyd y goreu o'r arlwyaeth, cliriwyd y byrddau erbyn saith 1 gael gwledd o natur arall, sef gwledd i'r meddwl, pan y eymerwyd y gadair gan y Paroh. T. Daviea, ficer; ac arwelaiwyd yn ddeheuig gan Mr. E. J. Davies, Llettycybl. Yr oedd rhaglen faith wedi cael el pharatol, ac ofnaf y bydd yn dresmas ar eich gofod el chyhoeddl. Cafwyd gwrandawiad da y rhan gyntaf o'r eyfarfod, ond am y rhan olaf gellid hebgor liawer lawn o'r 8wn oedd yno, a sparlo cryn ddwsln neu ddau o'r cyfarfod I fyned I gwrdd y German- laid, fel y gellid myned dros y rhaglen I gyd; oherwydd fe derfynwyd y cyfarfod pan yr oedd rhal enwau ar ol er el bod wedi deg o'r gloch. YR YSGOL SUL.-Dylaawn fod wedi dywedyd fod Miss Jones, yr Arolygyddes, wedi rhanu, un o'r SuHau diweddaf, lawer o lyfrau, ar draul yr ysgol, i'r plant ag oedd wedi dysgu a phresenoli eu hunain oreu yn yr ysgol y flwyddyn ddlweddaf.-M.

CORWEN

CORWEN. Cyahallwyd cyfarfod llenyddol a chyatadl- euol ynglyn A'r Yagol Sul yma ar ddydd Gwyl Dewi Sant. Cadeiriwyd gan Mr. Henry Jones, Plas Bonwm, un o ffyddlonlaid yr Eglwys. Beirniadwyd y canu gan Mr. Hugh Jonea o Langwm, a'r adroddiadau gan Mr. William Owen, Undebwr pybyr o Lawr- y-Bettws. Rhoddodd Mr. Myddelton, yagol- feistr Plas Adda, el wasanaeth i ni fel belrniaid yr arholiadavi gyphaliwyd yn yr ysgoldy, nOs Fercher, 24,ain o Chwefror. Yr oedd y cyfarfod drwyddo draw yn ddyddorol, difyr ac adeiladol. Dyma'r dull dreuliodd Eglwyswyr Corwen eu gwyl Dewi y flwyddyn hon. Gwledda yn y gwestal fyddai arfer penaethiaid y dref ar y dydd hwn, ond oheJwydd y rhyfel, a'r nifer lluosog sydd wedi ymadael, ac wedi ymuno i'r fyddin, ni chynhaliwyd yr un swper y tro hwn.

BLAENAU FFESTINIOG

BLAENAU FFESTINIOG. WEDI YMADAICL.Cyfeirio wnawn at ymadawiad Mr. William Lewis Griffith, Dorvil street. Hyn yn ddiamel1 oherwydd amgylchiadau gwasgedlg ein hardal. I Llynlleifiad mae ef wedi myned. Mae ei ymadawiad ef o Eglwys S. Dewi yn golled fawr. Yr oedd yn un medrus a miniog yn amddiffyn cam ein Heglwya trwy y wasg. Gofalai bob amser am saethau slcr yn ol. Fel cerddor yr oedd yn gerddor eglwysig. Hawdd yn fynych cael cerddor mewn Eglwys, ond yr oedd efe yn fedrus, ac yn gynenn a'r gerddoriaeth o delthi Ambrose, Gregori, hyd ein cerddorion clasurol heddyw. Rhoddodd yr holl dalentau hyn o'i eiddo yn wirfoddol a di-dal I Eglwys S. Dewi am y deunaw mlynedd diweddaf yma. Er's amryw &wyddi yn awr yr oedd yn organydd yn y gwasan- aeth Seimig. Credaf mai gorchwyl pleserus ydyw croniclo ar dudalenau y LLAN ambell i leygwr o'r safle yma. Hefyd cefnogai y LLAN. DYGWYL DswI.- Yo yr ysgolion dyddiol mae gwyl heddyw. Bydd yma heno gyngerdd er budd ein mllwyr. Diameu mal yohydig o s6n am yr hen Dad Dewi Sant fydd yn ein hardal. Diameu pe buasai yn un o'r tadau Methodistaidd y buasai ein hyagolion yn siorhau y plant yn bre- senol yn yr ysgolion er cael eu trwytho A'i ysbryd. Ond rhag tynu Uinyn ar antur, di- ameu fod hyd yn nod ganoedd o Eglwysi Cymru yn sefyll yn fyr o wasanaeth er dathlu ei goffadwriaeth. Da oedd genym weled Mr. Wm. Lloyd Roberts yn gwerthu, y dydd o'r blaen, draethodyn ceiniog ar Dewi Sant' ymhlith Eglwyswyr S. Dewi. YN YR HIIN FAM.—Yr oedd Mr. Dd. Humphrey Owen, y Sul diweddaf, adref o'r Deheudir. Yn y gwasanaeth Saesneg boreu Sul yr oedd hen aelodau o'r gynulleidfa ar dro o'r gwersyll milwrol. Gwnaeth y ficer sylw yn ei bregeth arnynt wrth eu henwau, a sicrhaodd hwy y byddai gweddiau yr Eglwys drostynt, ac ar iddynt ymddiried yn eu Duw. CYFARFOD CYISTADLIMUOL. -Nos Iau, cafwyd ynglyn A'r Gymdeithas Lenyddol Gymroig gyfarfod cystadleuol llewyrchus. Yn y gadair yr oedd y Ficer, a Mr. Lloyd Jones yn arwain. Clorianodd Mr. Richard Lewis y rhan lenyddol, a Mr. David Morris, gynt Trawsfynydd, y canu. Gan nad oeddem ein hunain yn bresenol, waeth heb esgus pellach tros fod ein hadroddiad yn fyr o enwau y buddugwyr ynghyd a'r testyn- au. EIRA.—Yr ydym wedi oael y dyddiau yma gnydau trwehus o eira yn ein hardal fynyddig. CLADDEDIGAETH. -Teilynga yr hen gyfail I dyddan a charedig 0. R. Owen, Benar View, nodyn o goffadwriaeth amlwg ar dudalenau y LLAN. Ei bapyr safonol oedd fel y dywedai bob amser Y LLAN A'R DYWYSOGAETH. I'r gweithdy neu le cyffelyb y dygai y LLAN, ac ar bwys y LLAN dadleual tros ei Eglwys. Glywaist tl y Canon Camber-Williams yn ei rhoddi hi lddynt hwy I' fyddai ofyniad mynych o'i eiddo. Heddyw deallasom ddar- fod iddo fod yn rhy wael i nol ei LAN arferol pan oedd genym nodiad am ei waeledd ynddo, ac mor falch fuasai weled fod y LLAN yn son am dano. Dydd Sadwrn diweddaf daeth tyrfa barchus i'w gladd- edigaeth, ac hebryngwyd ef i Llan Festiniog. Yr oedd yn wr gweddw, a thrigai gyda'i hoffus ferch yn Benar View. Gweinyddodd Ficer St. Dewi a'r Paroh. J. L. Davies, Ffes- tiniog, ei wasanaeth claddu. Ddoe (y Sul), bu i'r Ficer wneyd sylwadau hynod o addas yn ei wasanaeth coffadwriaethol yn S, Dewi. Bu farw yn 68 mlwydd oed, ao nid yn ami y cawn un wedi bod mor hir yn gustuddedig. Bu felly yn yatod y deg-ar-hugain-mlynedd diweddaf. Ei dalent amlwg oedd cerddor- iaetb, felly y teulu. Ei dad a'i frodyr oedd- yat nelllduol felly. Adnabyddid Owen R. Owen fel Llew Meiricn; pan yn ei ieohyd ys- tyrid hi yn wledd i glywed y Llew yn canu. Yr oadd unawdau y clasuron megis Handel, &c., wedi eu llwyr argraffu ar ei gdf hefyd unawdau ac anthemau Owain Alaw. Yn nydd ei nerth rhoddodd yr holl dalentau hyn yn ngwasanaeth c6r S. Dewl. Yn el ddyddiau olaf yr oedd yn canu. Tra y gweinyddai ei hoffua ferch arno yn ei ddyddiau olaf, un o'r cymwynasau a ofynai iddl ydoedd canu alaw- on o'r Messiah er mwyn iddo gael canu y bass. Sylwodd el ferch gerddgar wrthyf na fu iddi wan obelthio am adferiad el thad hyd nes y deallodd fod ei donyddiaeth ar ei gog- wydd pan yn cydganu gyda hi. Wel, bellach mae y Llew wedi ei alw adref o'r Eglwys a garal mor fawr i'r Eglwys fry. Heddwch foed i'w lwch. Sylweddoled hefyd blant ieuaino St. Dewi mai hwy sydd yn awr i wneyd 1 fyny fylchau ein hen aelodau cywir. -D. D. Rabort8.

Advertising

A Unique Opportunity to purchase a really valuable book at Half-price. A Popular History of The Church in Wales By the Rev. J. E. De HIRSCH-DAVIES. I Published at 5/- Nett; Now Offered at 2/6 Nett. Having bought a large number of this valuable book we are in a position to offer it at the above low price for Cash with Order only. All Orders should be addressed to MANAGER, CAXTON HALL, LAMPETER. UNDEB YSGOLION SUL YR EGLWYS. -:0 MAES LLAFUR ADFENT, 1914-1916. ESBONIAD AR YR ACTAU 

PENRHOSGARNEDD

PENRHOSGARNEDD. Y GYMDEITHAS AmRYWIAETIaOL. NOS Lun, cynhaliwyd cyfarfod o'r Gym- deithas uchod o dan lywyddiaeth Mr. H. Jones. Awd trwy y raglen ganlynol:— Adroddiad, 'A.B.C. of health,' Mrs. Arthur Edwards; can, 'O'r -niwl i'r nef,' Miss Lizzie Thomas; adroddiad, 'Cyngor i blentyn' (o'r Perl), Miss Elvira Stanley; papur, 'Cricket Match/ Mr. Samuel Stanley. Gwnawd sylwadau ar y papur yma gan y Llywydd a, Mr. P. Erwards. Can, 'Dim ond deilen,' Mr. John Jones. Hefyd, cafwyd sylwadau buddiol ac adeil- adol gan y Llywydd a Mr. P. Edwards ar 'Dewi Sant.' Cyn ymwahanu dadganwyd 'Hen Wlad fy Nhadau.'

Advertising

THE GREATEST REMEDY OF THE AGE. ii t4 OURES RELIEVES TOOTHACHE HEADACHE EFFECTIVELY CHECKS RHEUMATISM, NEURITIS, &c., Recommended by the Medical Profession and pronounced to be SAFE. SURE. PALATABLE. Prices Single Powders, lid. each. Boxes of 1 dozen, 1/ty. To be obtained of all Chemists and Stores or direct from the Manufactory, Dewi House, Ann Street, LLANELLY. Eglwysi Cymreig Llundain. ST. BENET'S—Queen Victoria Street, E.G., Parch. J. CROWLE ELLIB, 177, Chevening Road, Brondesbury Park, N.W. DEW I SANT-St Mary's Terrace, Paddington Green, W. Parch. THOMAS SMITH, St. David's Vicarage, St. Mary's Terrace, Paddington Green. ST. MAIR-Camberwell New Road, Camberwell, S.E, Parch. D. GRIFFITH, St. Mary's Parsonage, Camberwell New Road, S.E. PADARN SANT-Gloucester Road, Holloway, N. Parch. W. GRIFFITH, 5 Japan Crescent, Stroud Green. RHYSTYD SANT Longfellow Road, Bow, E. Parch. H. WATKINS, B.A., 13a, Harley St., Bow. Cynhelir gwasanaethau ar y Sul yn yr holl Eglwysi uchod am 11 a 6.30 o'r gloch DETHOLIAD o EMYNAU ALLAN 0 Hymnau yr Eglwys AC Emyniadur yr Eglwys yng Nghymru YN UNOL A PHYNCIAU Y COLECTAU, YR EPISTOLAU, A'R EFENGYLAU YN Y LLYFR GWEDDI GYFFREDIN. YNGHYD A RHESTR 0 DESTYNAU GAN Y PARCH. D. DAVEN JONES, Ficer Llanfynydd, Ac Ysgrifenydd Mygedol Corawl Eglwysig Archddiaconiaeth Caerfyrddin. Pris 9c. drwy'r post. I'w gael oddiwrth yr Awdwr, neu MANAGER, LLAN OFFICE, LAMPETER. TEILWNG 0 SYLW. LLWYDDIANT ANARFEROL PERL Y PLANT, DAN OLYGIAETH Y PARCH. CANON CAMBER-WILLIAMS LAMPETER. Y Cyhoeddiad Cymraeg Gores i Biant Ac yn fwy peblogaidd nag erioed. Amryw nodweddion newyddion am 1916. Os am geiniogwerth dda, myner ef. Oeir samplau yn rhad drwy anfon i'r cyfeiriad isod Yr archebion i'w hanfoc MANAGER "PERL" OFFICE LAMPETEB CATECISM I BLANT YR EGLWYS AR HANES IESU GRIST o SUL Y PALMWYDD HYD I IAU Y DYRCHAFAEL. OAII Y Parch. J. Wheldon Griffith, LLANGIAN PARSONAGE, ABERSOCE. Pris Is. 8e. y dwsin. Gellir cael copiau oddiwrth yr Awdwr neu MANAGER, LLAN OFFICE LAMPETER ] COUGH MIXTURE HUGH DAVIES, Machynlleth DAVIES'S COUGH MIXTURE At Beawch DAVIES'S GOUGH MIXTURE Anwyd DAVIES'S COUGH MIXTURE Asthma. Beth yw y Feddyginiaeth Fawr Gymreig at Beawch ? Davies's Cough Mixture. Beth ddylid gymmeryd at Frest Gaeth ? Davim-w Cough Mixture. Beth yw y cymhwynaswr goreu bawb sydd yn cael el flino gan ddiffyg anadl ? Davies's Cough Mixture. Wyddoch chwi beth ddylid gymmeryd pan y bydd Anwyd trwm yn y pen, y llygaid yn goehion, y ffroen. au yn Ilawn, a'r gwynt yn fyr 1 Davies's Cough Mixture. Beth ddylal Cantorion a Siaradwyr cyhoeddal gymmeryd at glirio y Ilais Davies'e Cough Mixture. Beth iachft Ddolur Gwddf ar unwaith! Davies's Cough Mixture. Pa le y mae DAVISS'S COUGH MIXTURK I'w gaet Gan bob Druggist, mewn poteli, Is. lie. a 2s. 9c. (Cynnwysa y rhal 2s. 9c. gymmaint dair gwaith). 'SARZINE' BLOOD MIXTURE. CROEN IACH A GWAED PUR Dyna yr hyn y mae Sarzine Blood Mixture' yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honi gwella pob peth, fel yr Yankee Patent Medicines, ond os blinir chwi gan groen afiach, ysfa, pimples, toriad allan Scurvy, dol. uriau, penddynod, &c., yn tarddu o waed drwg ao anmhur, mynwch botelaid o Sarzine Blood Mixture' gan y Druggist nesaf atoch, Is. lie. a 2s. 6c. y botel, neu gyda 3c. at y cludiad yn ychwanegol, oddiwrth perchenog, HUGH DAVIES, CHEMIST, MACHYNLLETH. 28 EDITIONS PRINTED ALREADY THE EVER POPULAR HYMN BOOR HYMNAU YR EGLWYS. (ELIS WYN 0 WYRFAI) Words only, la., Is. 3d. cia. 6d Words only, large type, Iø., 2a. 6d., 4a. 6d. Words and Music (Old Notation), is 6c., to., Words and Music (Solfa), 2s. 6d., 3a., 61 Special and Reduced Terma jar Choirt on Application COMMON PRAYER and HYMNAD'R EGLWYS bound together in one volume. Just the thing for a Birthday or Christmas Present, or for a Sunday School Prize. Issued two styles: Leather, gilt edges, 3/6 Cloth, red edges, 2/6. CARMARTHEN: Published by W. SPURRELL & SON 5<1 JOSHUA. CANTATA GYSEGREDIG AT WASANAETH PLANT A FHOBL IBBAI4 Pris yn S.F., 4c. H.N. Is. 6c. Geiriau It Gwneir gostyngiad sylweddol i gorau. CANTAWDAU CYSEGREDIG At wasnaeth corau ieuainc, yr Yøgol Sabbothol, &c., &c. YR IESU. GWYRTHIAU CRIST (RHAN II) JOSEPH. MOSES. ISRAEL. SAMSON. SAMUEL. DAFYDD. I DANIEL. Mae nifer fawr ar law bob amser. Gwneir pob ymdrech i roddi y telerau iselaf. Anfoniy nifer i'w gweled, cyn dewis, ond talu y aludiad, MAX GEIRIAU SKISNIO WBTH AKBYW 0 HONTXT CERDDORIAETH Y PLANT (THE CHILDREN'S MUSIO), In two parts, Soprano and Alto and B. at option). 1. Y Deg Gorchymyn (The Ten Command- ments). 2. Anrhydedda dy Dad a'th Fam (Honour My Faint r and Mother). 3. Gadewch i blant bychain (Suffer fotU children). Pris. 60, 28. 6e. Itio, p. Yr oU i'w cael gan Mrs. DAVIES gweddw y diweddar HUGH DAVIES. L.T.S.C. (Pencerdd Maelor), PLASMARL, LANDORE, R.S.O., GLAM Ac amryw eraill. Anfonwch am restr gyflawn yn rhad Argrafiwyd a chyhoeddwyd gan Gwvtni y Waag Eglwyaig, m ArgrsfydoW Gymreig, Cyfyngedig, Caxfcon Myi Mawrth 5, 1915.