Collection Title: Llan

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 2 of 8 Next Last
Full Screen
19 articles on this page
YMOSODIAD GERMANAIDD YN LORRAINE

(Parhad o tudalen 1). Germaniaid ydyw cyhoeddi yr hyn nad yw wir, ac nis gellir rhoddi unrhyw ymddir- iedaeth yn eu hadroddiadau.

ANGHYDWELEDIAD Y GLOWYR

ANGHYDWELEDIAD Y GLOWYR Cynhaliwyd cynhadledd yn Llundain ddydd Sadwrn, er ceisio terfynu yr anghyd- welediad difrifol ynglyn a. glofeydd Deheu- dir Cymru. Yn gynar yn y dydd, dat- ganodd y perchenogion eu bod yn ym- ddiried y cwbl i Mr. Runciman, a. bu Mr. Runciman yn trafod y sefyllfa gyda. chynrychiolwyr y gweithwyr, ond ri ddaethpwyd i unrhyw benderfyniad bodd- haol. Tedmlir Riomedigaet-h oherwydd hyn, a cheiair tadogi y bai am y streic gan rai ar arweinwyr y gweithwyr, tTa y beia ereill y perchenogion, ac y mae adran arall yn beio y Llywodraeth. Teimla pawb heddyw fod y sfyllfa bresenol yn gyfryw y rhaid rhoddi terfyn arni yn ddioed, gan fod y deyrnas mewn, perygl, a'r rhagolygon yn dywyll iawn. Beth bynag yw yr achos o'r streic, yn sicr nid dyma. yr adeg i herio pob awdurdod, a gobeithio y daw rhyw oleuni ar y mater yn fuan, neu bydd y canlyniadau yn ofnadwy.

YMDAITH Y GERMANIAID

DYDD LLUN. YMDAITH Y GERMANIAID. Mae y byddino-edcl Germanaidd ar y ffrvnfc dwyreiniol yn gwthio ymlaen ar raddfa aruthrol ar hyd HineU wyth can' milldir o hyd. Dywedir fod un fyddin o fewn haner can' milldir i Riga, porthladd mwyaf y Rwsiaid yn y Baltic. Mae bydd- inoedd ereill, dan lywyddiaeth y Maes- lywydd von Hindenberg, yn symud \n nghyfeiriad Warsaw o'r gogledd, a ha vha y pencadlys Germanaidd eu bod wedi myned yn mhellach na Praznysli, wedi cy- meirVd nifer o safleoedd Rwsiaidd, Pe wedi gorfodi y Rwsiaid i encilio i'r afon Nerw. Gwneir ti-ydydd ymosodiad ar y de- ddwyrain i Poland yn erbyn y rheilffordd enfawr a red o Warsaw i Kiev ac Odessa, i'r de o Lublin, ac felly yn bygwth y bydd- inoedd ydynt yn amddiffyn Warsaw. Dy- wedir fod y Germaniaid wedi gwneyd peth cynydd yn y parth hwn, ac wedi gwthio ymlaen am lllo filldiroedd rhwng Lublin a Cholm. Yn mhellach. na hyn, hawliant eu bod wedi tori y llinell Rwsiaidd, ac wedi cymeryd 6408 o garcharorion. Am- cangyfrifir fod tair miliwn a haner o Ger- maniaid ac Awstriaid yn ymosod ar ddwy filiwn a haner o Rwsiaid.

ADRODDIAD SYR JOHN FRENCH

ADRODDIAD SYR JOHN FRENCH. Yn ei adrcddiad 1l0 Sul, dywed Syr John French, er nad oedd dim wedi di- gwydd yn galw am adroddiad neillduol, oedd llawer o fywiogrwydd wedi cael ei amiygu gan y Gennaniaid a ninau, a nifer o fwnfeydd ffrwydrol wedi eu tanio gan y ddwy ochr. Ar y 13eg, rhuthrodd y gelyn ar fan neillduol ar ffordd Ypre-j, ond gyrwyd hwy yn ol yn ddiseremoni ar un- waith. Yr un noson, tan-belenwyd safle arall i'r gogledd, a chollasom ffos bert-hynol i un cwmni. Unwaith yn rhagor, gorfod- wyd y Germaniaid i encilio gan ein tan- belenwyr, ac adfeddianwyd y ffos. Prif nodwedd yr ymosodiad hwn gan y German- iaid ydoedd eu bod wedi gwneyd defnydd helaeth. o dan-belenau nwyol.

YMOSODIAD CYFFREDINOL YN Y DARDANELLES

YMOSODIAD CYFFREDINOL YN Y DARDANELLES. Cerir ymlaen frwydrau celyd a phender- fynol gan y Cynghreiriaid yn Gallipoli. Blaenoi-ir pob ymosodiad gan dan-beleniad y magnelau Ffrengig trymion a chan fag- nelau y llongau. Mynegir fod pob ym- osodiad ar ran y Cynghreirwyr wedi bod yn llwyddianus, ond ni chafwyd manylion ^wyddogol. Mae colledion y Tyrciaid wedi bod yn drymion iawn, yn enwedig oddi- wrth ergydion y magnelwyr Ffrengig. L-

EFFEITHIAU STREIC Y GLOWYR

EFFEITHIAU STREIC Y GLOWYR. Pan yr ydym yn ysgrifenu, tyvvyll ydyw rhagolygon streic y glowyr. Cyfrifir fod 100,000 o dunelli y dydd o lo, neu filiwn o dunelli yr wythnos, wedi eu colli yn ystod yr adeg mae y dynion wedi sefyll allan. Ar hyn o bryd, nid yw yn ymddangos yn debygol cael y dynion yn ol i weithio cyn dydd Mercher, 03 terfyna y pryd hwnw. a-c erbyn hyny byddis wedi colli miliwn o dunelli o'r glo goreu yn y byd. Ond y mae y golled yn llawer mwy na hyn. Eisoes mae lluaws o weithfeydd wedi eu can oherwydd prinder glo. Ymddibyna canoedd o weithfeydd haiarn, dur, alcan, 4C., ar y fasnach lo, ac nis gellir am- gyffred y dyryswch a'r atalfa mae y streic wedi achosi mewji gwahanol ranau o'r wlad. Bwriedid cael cyfarfod rhwng cynrychiolwyr y glowyr a Mr. Runciman ddydd Sadwrn, ond rhoddwyd y bwriad heibio. Ceisia rhai ar i Mr. Lloyd George fyned i anerch y dynion, ond nid oes tebygolrwydd y gwna efe hyny ar hyn o bryd. Hysbysa y Llyngeslys fod gan- ddynt ddigon o lo ar t,J"yfer y Llynges mewn jlaw.

YMLADDFEYDD FFYRNIG YN RWSIA

DYDD Ma.wrth. YMLADDFEYDD FFYRNIG YN RWSIA. CVrhaeddodd y frwydr yn erbyn Mac- kersen rhwng y Vistula a'r West-ern Bug ei hangerddolrwydd mwyaf ddydd Sul. Chwalwycl y milwyr Gennanaidd ymhob cyfeiriad gan y Rwsiaid. Yn nghyfeiriad Lublin, gorfodwyd y Gennaniaid i encilio ddeg gwaith yn ystod y dydd gyda choll- edion trymion. Ymgynullodd galluoedd cryfion o filwyr Germanaidd yn erbyn y Rwsiaid hefyd ar lanau chwit.h yr afon Vieprz, a llwyddasant i gyraedd liihan- barth Izdebno. Bu ymladd caled, a gor- fodwyd i'r Grermaniaid .ffoi. Ar lanau dehcuol yr afon Vieprz, cafodd y German- iaid golledion t.rymion, a gadawsant domenydd o gyrff ar eu holau pan yn ffoi. Yn Galicia, cymerodd y Rwsiaid droa ddwy fil o Awstriaid yn garcharorion, tra y cymerwyd 500 o garcharorion German- aidd gerllaw pentref Popeliany, ynghyd a naw o swyddogion, a. meddianwyd saith r, beirianau saethu.

Y COLLEDION YN Y DARDANELLES

Y COLLEDION YN Y DAR- DANELLES. Yn Nhy y Cyffredin ddydd Llun, hysbysodd Mr. Asquith fod y colledion yn y Dardanelles i fyny i Mehefin fel y ranlvn j Lladdwyd, ClwyfwyJ. At gol). Cyfanrif. Swyddogion 541 1257 135 1933 Dynion 7543 25,547 7401 40,501 Cyfanrif 42,434 Am tis Mehefiu safent fel y canlyn Swyddogion 45 123 43 211 Dynion 616 2015 956 3687 Cyfanrif 3798

METIIIANT Y GERMANIAID YN ARGONKE

METIIIANT Y GERMANIAID YN ARGONKE. Yn ol adroddiadau o Ffrainc, ym- ,ini ddengys fod y Germaniaid wedi derbyn colledion trymion yn yr Argonne, a chyf- rifir gwaith y Tywysog Coronog yn ym- osod yn baVhaua fel annoethineb o'r mwyaf, gan nad oes ganddo y gobaith lleiaf o enill. Mae ei golledion wedi bod yn aruthrol.

IIELYNT Y GLOFEYDD

IIELYNT Y GLOFEYDD. Yr oedd ymgyfarfyddiad i gymeryd lie ddoe rhwng cynrychiolwyr y glowyr a Mr. Runciman yn Llundain, ond pan oedd y cynrychiolwyr ar fin ymadael o Gaerdydd derbynias.ant frysneges i aros yno, gan fod Mr. Runciman, Mr. Lloyd George, a Mr. Henderson yn dyfod i lawr i Gaerdydd i ymgynghori a hwy. Cymerodd yr ym- grnghoriad le neithiwr, ond gohiriwyd y gweithrediada.u hyd heddyw. Mae y sefyllfa yn llawer mwy gobeithiol nag ydoodd.

ENCILIAD Y RWSIAID

DYDD IIERCHER. ENCILIAD Y RWSIAID. Y prif newydd o'r dwyrain yw fod y Rws iaid wedi gorfod encilio rhwng y Vistula a'r Bug. Dygwyd hyn oddiamgylch oherwydd fod y Germaniaid wedi enill glanau gogleddol yr afon Wolioa, lie yr oedd y Rwsiaid wedi gwneyd gwrthsafiad dewr, gan wrthsefyll yn llwyddianus amryw ymosodiadau. Llwydd- odd yr Awstriaid i groesi yr afon Bug ger- llaw Sokal, ac y maent wedi meddianu Radom. Mae y RwBlaid wedi ymgasglu yn lluoedd o amgylch Warsaw, a chymer brwydr ofnadwy Ie rhyngddynt a'r Germaniaid a'r Awstriaid.

LLWYDDIANT YR ITALIAID

LLWYDDIANT YR ITALIAID. Mae yr Italiaid, ar ol eu llwyddiant ar wastadeddau Carso, wedi adnewyddu eu bymdrechion ar yr Isonzo, a'r Awstriaid yn gorfod ffoi rhagddynt.

BUDDUGOLIAETH BRYDEINIG

BUDDUGOLIAETH BRYDEINIG. Adroddir fod y milwyr Prydeinig wedi enill brwydr gerllaw Hooge, ac y mae y Serb- iaid, ar ol cael ychydig orphwysdra, yn barod i gymeryd yr ochr ymosodol eto.

TERFYNIAD STREIC Y GLOWYR

TERFYNIAD STREIC Y GLOWYR. Da genym hysbysu fod streic y glowyr wedi ei therfynu yn foddhaol. Cywhallwyd amryw gyfarfodydd ddoe, a bu Mr. Lloyd George, Mr. Runciman, a Mr. Henderson yn ymgynghori & cbynrychiolwyr y perchenog- ion a'r gweithwyr. Credir y bydd yr boll byllau ar lawn gwaith yfory, gan fod adrodd- iadau calonogol o bob man fod y glowyr wedi eu boddhau yn y telerau a gynygiwyd iddynt. Arosodd Mr. Lloyd George yn Nghaerdydd heddyw, gan ei fod yn benderfynol o aros yno hyd nes y byddai pobpeth wedi ei ben- derfynu. Dan y telerau newydd, bydd y gweithwyr yn elwa oddiwrth y fasnach yn y dyfodol, a bydd y dynion a weithiant ar y wyneb yn derbyn o lefaf 5s. y dydd o gyflog. Mae y newydd fod pobpeth wedi el derfynu yn foddhaol wedi rhoddi boddlonrwydd mawr i bawb.

DINYSTRIAD LLONGAU TYRCAIDD

DINYSTRIAD LLONGAU TYRCAIDD. Newyddion o Petrograd a hysbysant fod 59 o longau hwyliau Tyroaidd, oeddynt yn llwythog o gid-ddarpariadati rhyfel i'r fyddin Ottomanaidd, wedi eu dinystrio ddydd Mawrth gan nifer o longau ymsuddawl per- thynol i'r Rwsiaid. Cymerwyd y dwylaw oil yn garcharorion.

MAN ION

MAN ION. Yn ysuxi mis Mai rhoddwyd 1140 o Yn ysuxi mis Mai rhoddwyd 1140 o alltudion gelynol mewn gofal, a danfonwyd 573 yn ol i'w gwledydd eu hunain. Rhoddwyd y 'walking sticks' a adawyd c' o bryd i bryd yn tram-cars Sheffield i'r j milwyr clwyfedig sydd yno. I Nifer y cyfreithwyr sydd wedi ymuno hyd yn hyn ydyw 2122. Credir fod yn agos i bum' mil o fas- nachdai cigyddion wedi gorfod cau oblegid pris uchel y cig. Er mwyn cynildcb ni chynelir ysgolion nos y gauaf nesaf yn Sir Gaernarfon. Gwelir menywod yn dosbarthu llythyron yn Hampstiead a Go"d-ers Green, Llun- dain. Yn ol Dr. C. W. Saleeby, mae mwy o filwyr wedi dioddef oddiwrth y frech- goch nag oddiwrth pob dwymyn arall gyda'u gilydd. Nid yw Cyngor Sirol Llundain yn bwr- iadu gwasgu am drethi y modor-gerbydau sydd yn cael eu defnyddio fel ambulances yn unig. Casglwyd dros 3000p er mwyn codi cof- golofn i aelodau y 'Royal Scots' a gollasant eu bywydau yn ngalanastra rheilffordd Gretna Green. Mao pob dyn ag sydd yn abl i ddwyn arfau wedi gwneyd hyny mewn heol or enw Elm Place, Ormskirk. Dim ond uga.in o dai sydd yno, ac y mae 17 wedi ymuno oddiyno. Talodd Archesgob Efrog ymweliad a'r Llynges yn y gwahanol fanau He ma.e'r Jlongau wedi ymgasglu ynghyd. Llwyddodd Corporal Dw-voi-, V.C., i ga.sglu tri chant o wirfoddilwyr i ymuno mewn tair wythnos. Newydd gael y V.G. v mae ar law y Brenin am wroldeb neill- I duol yn y rhyfel presenol. Yn ol carcharorion milwrol o Awstria mae morbus wedi tori allan yn eu plith, gan roddi terfyn ar fywyd lluoedd. Cafodd Syr Edward Grey dderbyniad gwresog pan ymddangosodd 01 yn y Senedd ar ol bod oddiyno am wythnosau oherwydd afiechyd.

Fy Ewyrth Owen

Fy Ewyrth Owen. (Gan Eliphelet). 'Tyred i fewn,' ebai fy Ewyrth Owen. 'Pa newydd sydd genyt heno' 1 'Nid oes dim neillduol ar a wn i,' medd- wn inau mewn atebiad. 'Pa beth sydd genych chwi' ? 'Ychydig iawn,' ebai fy eyyrt.h. 'Fe ddaeth William Twrdu heibio prydnawn ddee, ac fel arferol cawsom ysgwrs am yr Eglwya ac Y mneillduaueth. Honai William yn ei anwybodaeth mai da fyddai i'r Eglwys i gael ei dadgysylltu a'i dad- waddoli, ond pan aethum i bwyso arno am resymau i ategu ei honiadau nid oedd ganddo fawr o synwyr i'w draethu. Ac a 5 wyddot ti beth, y mae wedi fy nharo i lawer gwaith fel peth rhyfedd fod Ymneill- duwyr yn ymfoddloni ar mor ychydig c. resymau dros eu haeriadau. Y peth hawddaf yn y byd i'w gornelu ydyw Ym- neillduwr pan ddechreua ddadleu naill ai yn erbyn yr Eglwys neu o blaid ei enwad ei hun, ac y mae yn resyn na wnai Eglwys- wyr ragor o ymdfech i oleuo Ymneilldu- wyr. Yr unig ffordd effeithiol i'w goleuo ydyw drwy siarad a hwy wyneb yn wyneb. Nid ydyw o un dyben yn y byd i geisio eu goleuo drwy gyfrwng y newyddiaduron oherwydd ni ddarllenant ddim ond yr hyn sydd yn ymddangos yn eu papurau hwy eu hunain, a gelli fod yn sier na, cha dim ym- ddangos yn y newyddiaduron hyny ond yr hyn sydd yn ffafriol i'w hochr hwy. Gofala y golygwyr am gadw allan o'r pa.purau enwadol bobpeth pleidiol i'r Eglwys, ac y maent yr un mor ofalus a hyny i gyhoeddi pobpeth a thuedd ynddo i ddiraddio a byehanu yr Eglwys. Felly nid ydyw wiw yn y byd i gcisio amddiffyn yr Eglwys yn Nghymru drwy gyfrwng y wasg, am nad ydyw y rhan hono o'r wasg a ddarllenir gan Ymneillduwyr yn caniatau ond i un ochr yn unig ymddangos.' 'Credaf eich bod yn llygad eich lie am hynyna., fy ewyrth,' ebai finau, 'ond dy- wedwch i mi paham na wnai Eglwyswyr fwy o ddefnydd o gyfarfodydd cyhoeddus i addysgu y werin Ymueillduol. Paham, er engraifft, na wnai yr Eglwyswyr yn y plwyf hwn gynal cyfarfodydd i drin a thrafod cwestiynau yn dal cysylltiad a'r ddeddf yma sydd wedi ei phasio i yspeilio r Eglwys? A phaham na wnaent wahodd yr Ymneillduwyr i'r cyfarfodydd hyny er mwyn iddynt glywed pa beth sydd gan Eglwyswyr i'w ddywedyd drostynt tu hunain? Yr ydwyf fi yn yktyried fod bai mawr ar ein ficer ni na byddai yn galw ei holl blwyfolion at eu gilydd, dywedwch unwaith bob mis, a dweyd wrthynt yn eglur, mewn geiriau syml, pa beth y mae y ddeddf hon yn myned i'w wneyd, a dangos i'r bobl mewn modd dealladwy anghyfiawnder erchyll y ddeddf, a'r niwed dirfawr a wna i achos erefydd yn y plwyf, a thrwy yr oil o'r wlad o ran hyny.' 'Da machgen i,' ebai fy ewyrth; 'y mae yn dda genyf dy glywed. Nid ti ydyw y cyntaf chwaith i roddi mynegiant i'r syniad yna. Y mae llawer wedi gwneyd hyny o dy flaen, ond y felldith ag ef yw dy fod di a hwythau yn dangos diffvg ys- tyriaeth. Y mae yn hawdd iawn beio ar y ficer. Un or pethau rhwyddaf yn y byd ydyw hyny, ond cymer di hyn yn garedig genyf fi, dyn gwan ydyw hwnw sydd bob amser yn bwrw y bai ar ei gyd- ddyn. Rhagor hefyd na hynyna. Y mae y cynllun yr ydwyt ti yn ei gymeradwyo wedi-ei fabwysiadu lawer iawn o weithiau, ac y mae hefyd wedi troi allan yn fethiant. ac nid bai y ficer ydoedd hyny. Meddwl di yn awr, pe buasai Eglwyswyr y plwyf hwn, o dan arweiniad y ficer, yn trefnu i gynal cyfarfod o natur yr un a ddesgrifir genyt ti, yn y plwyf hwn, yr wythnos nesaf, fe fuasai yn anhebgorol angen- rheidiol i wneyd y cyfarfod yn hysbys. Byddai yn ofynol i'w gyhoeddi. Wei, pa beth fyddai y canlyniad ? Mi ddywedaf wrthyt. N os Sul nesaf, fo roddid siars ddifrii'ol i bob Capelwr i gadw i ffwrdd o'r cyfarfod hwnw. Ffrwyth y siars fyddai hyn, fe roddai pob Capelwr y cold; shoulder i'r cyfarfod. Ai un i'w faes ac arall i'w fasnach, a phe bai angen am hyny fe briodai pob un o'r gweddill ddwy wraig er cael esgus dros beidio ymbre- senoli yn y cyfarfod hwnw. Felly dyna 0Y gynllun di yn fethiant. Paid a beio y ficer mwyach. Fo wyr ef yn well na neb na choronir ymdrech o'r fath yna a llwydd- iant. Nid ag ug y delir hen aderyn.' '\Vel,' meddwn inau, gan deimlo dipyn yn ddolurus o dan ffrewylliad fy ewyrth, 'os na ellir cael gafael ar yr Ymneillduwyr drwy gyfi-wng y wag, na thrwy gyfrwng cyfarfodydd cyhoeddus, pa fodd yr ydym yn myned i gael gafael arnynt, ac felly eu goleuo' ? 'Dyna gwestiwn synwyrol o'r diwedd,' ebai fy ewyrth, 'a cheisiaf dy ateb. Yr unig ffordd y gwn i am dani i wneyd ar- graff ar feddyliau Ymneillduwyr ydyw drwy i Eglwyswyr siarad a hwynt wyneb yn wyneb, a gosod y mater yn eglur iddynt, megis rhwng dyn a dyn. Cofia di hyu er hyny, cyn y gall Eglwyswyr wneyd hyny yn effeithiol y mae yn ofynol eu bod hwy eu hunain yn teimlo dyddordeb yn y mater, ac yn feddianol ar ryw gymaint o wybodaeth ynghylch y materion mewn dadl. Ni wna Eglwyswr anwybodus, un nad ydyw yn gwybod dim ei hunan am egwyddorion Eglwyaig, nac wedi cymeryd y drafferth i ymgydnabyddu ag elfenau sylfaonol y cwestiynau mewn dadl fawr o ddaioni, ond yn hytrach gallai wneyd lla.wer o niwed i'r a-ohoa y dadleua drosto. Ar y llaw arall, y mae Eglwyswr pwyllog egwyddorol, un yn gwybod tipyn bach, nid oes raid iddo wybod llawer am ei deatyn, yn werth ei bwysau mewn aur fel amddiffynydd yr Eglwys'. Yr ydwyt ti yn ddyn ieuanc, cymer yr awgrym, a gweith- reda arno, fe allai y gelli fod yn offeryn yn llaw rhagluniaeth i wneyd daioni an- rhaethol i'r Eglwys yn y plwyf, a phe bai yn bosibl cael un dyn ieuanc o'r fath ymhob plwyf drwy Gymru pwy fedr draethu y daioni a allai ddeilliaw? Rho brawf amo. Paid a chymeryd yn gania- taol fod yn ofynol i ti fod yn feddianol ar wybodaeth helaeth, ar gyneddfau dysglaer, ar ddysgeidiaeth aruchel er dy alluogi i 0 91 gornelu Ymneillduwr. Anwybodaeth ydyw nodwedd amlycaf Ymneillduwyr Cyrnru ar gwestiwn yr Eglwys. Gwna di dy oreu i godi ychydig bacti ar odreu y lien. Cofia hefyd mai byr ydyw yr amser. Os na lwydda yr Eglwys yn Nghymru i gael ymwared cyn y 18fed o fis Medi nesaf fe fydd deddf yr ysipeiliad mewn gweith- rediad. Felly llai na dau fis o amser sydd genyt i weithio ynddynt.' Bu agos i'r dagrau redeg o'm llygaid pan glywais eiriau fy ewyrth. Nid oeddwn wedi sylweddoli fod dydd tynged ;r Eglwys agosed, a gofynais mewn syndod: Fyowy-rth,avA-velloddifrif? Ai gwir yw fod dadgysylitiad a dadwaddoliad yr Eglwys mor agos ag y dywedweh"? 'Nid y fi sydd yn ei ddweyd, fy mach- gen,' meddai fy ewyrth, gyda difrifwcli difrifddwys. 'Nid y fi sydd yn ei ddweyd. Gwe-ithred Se-neddol, wedi ei phasio gan Barliament Prydain Fawr, ac wedi ei llaw- nodi gan Frenin Prydain Fawr, sydd yn ei ddywedyd mewn llythyren eglur a di- amwya, ond fe allaf fi ddwedyd cymaint a hyn wrthyt oddiar sylwadaeth bersonol, y mae mor eglur a'r dydd fod melldith Duw yn gorphwys yn drom ar Ymerodraeth Prydlain o'r dydd y pasiodd y Parliament y ddeddf ac ei llawnodwyd gan y brenin, hyd y dydd heddyw. Gan ei hed wedi myned mor hwyr, ychwanegai fy ewyrth, 'fe ymadawn heno.'

LLANIESTYN LLEYN

LLANIESTYN, LLEYN. Da iawn genym gael y fraint o longyfarch y brawd ieuanc addawol, Mr. Evan David Evans, Tyn Llidiart Farm, ar ei lwyddiant yn enill arholiad yn Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr, a diameu genyf fod pob un o ddar- Uenwyr y LLAN A'R Dywysogastii wedi gweled ei enw ymhlith eraill o'r euillwyr a fu yn llwyddianus, a'n dymuniad ninau eto yw ar iddo lwyddo fwy-fwy, a diameu genyf y bydd yn sicr o'r n6d y mae yn gyfeirio ati, sef yr Urdd Smctaidd. Y Sul, Gorph. lleg, gwel. som ef, ynghyd â'i briod hawddgar, yn yr Eglwys, a da lawn oedd genym eu gweled a'i glywed ef yn darllen y Hith gyntaf yn y boreol a'r prydtiawnol Weddi. Y mae yn dyfod ymlaen yn ardderchog fel darllen wr, fel ag y dywedodd un o'r aelodau wrthyf mai darllenwr dan gamp ydyw. Y mae yn debyg, ol genyf na chawn ei glywed yn darllen y Hith yn gyson yn ystod ei wylian, gan ei fod wedi addaw gwasanaethu mewn man arall o dro i dro yn ystod y tri mis ynia.-Hefyd da oedd genym weled Private Elias Jones, 36th Battalion R.W.F., Carnarvon Territorials, yntau yn hen aelod o'r Eglwys uchod, yn y gwasanaeth boreuol Sul, Gorph lleg, wedi d'od adref dros y Sul. Eglwyswyr cadarn ydynt fel tenlu, ac y mae Mr. Elias Jones o'i febyd yn Eglwyswr.—R.J. 0 Myner y rERL ymhob tf yn Nghymru.

Claddedigaeth y Parch John Jones Prifathraw Coleg S loan Ystrad Meurig

Claddedigaeth y Parch. John Jones, Prifathraw Coleg S. loan, Ystrad Meurig. Hlr gofir ddydd Ian, 15ed o Gorphenaf, yn y lie tawel bwn fel dydd claddedigaeth Z5 gweddillion yr anfarwol athraw fu mewn gofal o'r athrofa glasurol hon am tua haner can' mlynedd. Er mor anghysbell yw Ystrad Meurig, ac nad oedd ymadawiad Mr, Jones a'r fuchedd hon yn wybyddus ond i ychydig mewn cymariaeth o'r hen ysgolheigion, daeth tyrfa ynghyd i dalu teyrnged o barch i'r ymadawedig o'r De a'r Gogledd. Claddwydyr athraw yn mynwent Ystrad Meurig ar Ddydd S. Swlihiu. Felly erys Dydd y Dwbwl Game' I adgoffa y byw am dano, fel y mae cawodau Gorphenaf yn adgoffa mudiad gweddillion S. Swithin ar gyfenw'r dydd hwn. Cafwyd dydd hindda i osod gweddillion ein hen athraw talentog i orphwys gerllaw beddau ei ragfiaeniaid a fu yn êr disglaer yn hanes Cymru fel prif ddysgedigion ein cenedl yn eudydd. Yma y gorphwys ef a hwythau yn nghesail mynyddoedd Ceredigion, lie y buont yn llifanu meddyliau meibloneinheglwys trwy astudiogweitblauprif lenorionGroegaRhufain gawsenteu ysbrydiaeth yn nghysgod mynydd- au y gwledydd uchtd enwog am en dyig. Erys yr hen ysgoldy yn gofgolofn i'r oe. a fu, ac yn gwlwm serch rhwng canoedd o offeiriaid Cymru. Saif Eglwys newydd Ystrad Meurig ger Haw bedd yr ymadaw- edig yn diogelu bedd Edward Richard o dan ei phwlpud, ac yn gofgolofn i'r di- weddar Barch. John Jones, a fu yn foddion i'w hadeiladu trwy gyfraniadau yr hen efryd- wyr ac ereill. Cychwynodd y gladdedigaeth o Bron- meurig, Bef y Ficerdy, am 2 p.m., yn y drefn ganlynol:—Yr offeiriaid yn eu gwenwisg- oedd yn nesaf at yr arch yr offeirlaid heb fod yn eu gwenwisgoedd, ac yna efrydwyr. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan yr offeir- iaid canlynol:—Yn y ty, y Parchn. T. Meredith Williams; D. W. Davies, LIanrhyt. tyd; J. Meredydd Williams. Yn y fynwent a'r eglwys, y Parchn. David Jones, Gorsedd H. M. Williams, Lledrod; Canon Joseph Lloyd, Llanpumpsaint; yr Hybarch Arch. ddiacon Williams, Aberteifi. Canwyd ar ol y llith yn yr eglwys yr emyn canlynol, oyf- ieithiedig gan yr ymadawedig :— Hosanua gynt, pan rodiai Yr lesu ddaear lawr, Oedd lief y plant Iuddewig A'i carai Ef mor fawr." Ar lan y bedd, canwyd emyn arall o waith yr ymadawedig, Filwyr ieuainc Iesu, Ymlaen, ymlaen & chwi." Ar ol y Fendith gan yr Archddiaoon, llafarganwyd y Nunc Dimittis." Canlyn- wyd gan y rhai canlynol o berthyn- asau yr ymadawedig: Mr. V. S. Vernon Jones, Coleg Magdalene, Caer- grawnt; Parch. S. Aurelius Jones, New Market; Mrs. Morris a Mr. Morris, Bron. llalo; Miss Hedone Augusta Jones, L.R.A.M., High School, Bournemouth; Miss A. G. Jones, Newport; Rev. G. Davys Jones; Lieut. D. J. C. Jones, R. W.F. Dr. a Mrs. Morgan, Llanymddyfri; Mr. W. P. James a Mrs. James, Aberhonddu; Mrs. Harries a Mr. Williams, Llanstephan; Rev. D. W. Davies, Llanrhystyd; Miss Davies a Mr. Wm. Davies, Pengarreg. Yn ychwanegol at yr offeiriaid a gymeras- ant ran yn y gwasanaeth yr oedd y rhai canlynol yn breseiiol :-Parchn. M. Jones- Powell, Aberystwyth; N. Jones, Eglwys Newydd; E. M. Davies, S. Iago; J. F. Lloyd, Llanilar J. M. Lewis, Llanddeiniol E. R. Davies, Cyfarthfa W. J. Williams, Gwnws T. R. Davies, Llanddewi Brefi; J. Francis, Tumble Z. M. Davies, Llanfihangel-Geneu'r- Glyn D. A. Thomas, Llanafan J. B. Jones, Abernant; Owen Jones, Conwyl Elfed; Joseph Jones, Jordanston Eben. Jones, St. John's, Caerdydd; D. Worthington, Llan- geitho, J. Davies, Llanarmon; Isaac Morgan, Eglwyswrw John Morris, Llanelidan T. C. Edmunds, Trefilan Evan Jones, Strata Florida; T. Madog Jones, Tregaron D. G. Davies, Blaenpennal; Timothy Davies, Garth ell J. R. Jones, Llanwrda J. E. Hughet, St. Paul's, Dock Street, London T. E. M. Davies, Birmingham E. H. Hughes Davies, Thomas Davies, Aberystwyth; E. Williams, S. Michael's, Aberystwyth D. M. Davies, Nantcwnlle J. Y. Evans, Eglwys Oen Duw W. Headley, Llanfihangel-y- Creuddyn; D. Edwardes, Crynfryn; T. Morgan, gweinidog y Bedyddwyr; Pryse, gweinidog y Methodistiaid. Ni chaniata gofod yn bresenol i roddi hanes yr ymadawedig a'i waith. Bu mewn gofal o'r ysgol mewn cyfnod terfysglyd yn hanes yr Eglwys, a chan mai sefydliad Eglwysig yw Coleg S. loan, Ystrad Meurig, gwnaed ymos- odiadau haerllug ar waddol yr ysgol yn mywyd Mr. Jones. Gwnaeth blaenoriaid Radicaliaeth ymgais i fyned a. rhan o'r gwaddol i arbed y dreth Ysgol Elfenol Secularaidd yn mhlwyf Lledrod ar gychwyn- iad Yagol y Bwrdd. Wedi hyn gwnaed ymgaia isymud yr ysgol o Ystrad Meurig. Y mladdodd y Prifathraw yn wrol yn erbyn yr ymosodiadau uchod. Erbyn hyn mae amser wedi profi mai ef oedd yn iawn. Agor- odd lygaid y diweddar Esgob Basil Jones i weled y byddai symud yr ysgol o Ystrad Meurig yn groes i ewyllys y Cymunrodd- wyr vn fesur o Ddadwaddoliad a Dadgysyllt- iad o'r fath fwyaf haerllag. O.Y. Gwelsom nifer o blethdorchau prydferth ar ei arch. Ni chawsum enwau y rhai I'U rhoisent i'w gosod yn yr ysgrif uchod. T.M.W.