Collection Title: Llan

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 2 of 8 Next Last
Full Screen
5 articles on this page
CWRS Y RHYFEL

(P,arAnd < tudalen i) curo pan oedd ef yn gryf a ninau yn wan. Erbyn heddyw y mae efe yn gwanhau, a ninau yn cryfhau, bob wythnos. Mae genym eisoes fwy o filwyr ac o gyfarpar nag sydd ganddo. Pe dewisem gallasem dori drwy ei rengoedd yn Ffrainc cyn y Nadolig. Golygai hyny golledion ar- swydus i ni. Ymataliwn am y rheswm y bydd i'r gaeaf ein helpu ni drwy ei wanhau ef ymhellach, a gwneyd ein buddugoliaeth yn y diwedd yn llai costus i ni.- CYMERWCH GYBUR. DYDD IAU, Rhagfyr 9. FFOADURIAID YN TRENGU AR Y FFYRDD. Erlidiwyd y Serbiaid yn greulon gan y Bwlgariaid, ac yr oodd gan rai ohonynt a gyrhaeddasant Flovina hanesion arswydus i'w hadrodd. Yr oedd y ffyrdd o Prizrend a Dibia yn orchuddiedig gan gyrff merched a phlant, oeddynt wedi marw mewn can- Hyniad i oerni, diffyg ymborth, a. lludded; allan o 300 o'r trueiniaid a ddiangasant o Prizrend, ni chyrhaeddodd ond 120 i Flovina; bu y gweddill farw ar y ffordd. ENCTLIAD Y FFRANCOD. Adroddiad Bwlgaraidd a ddywed fod y Ffrancod yn encilio ar y ddwy ochr i'r afon Vardar, ac yn cael eu dilyn gan fyddinoedd Bwlgaraidd. Dywed adrodd- iad arall o Athens fod y Cynghreiriaid yn parhau eu hericiliad yn nghyfeiriad ffindir Groeg. Adroddiad swyddogol y Ffrancod a fynega fod y Bwlgariaid wedi gwneyd ymosodiad ffyrnig ar y bont yn Demir Kapu, 30 milldir i'r de-ddwyrain o Kup- rulu, lie y mae y rheilffordd i Salonica yn myned heibio, ond llwyddwyd i yruJ Bwl- gariaid ymaith gyda cholledion. YMLADD CALED YN FFRAINC. Yn Belgium, darfu i beirianau saethu y Ffranood atal y gelyn i adgyweirio y gwaith a ddinystriwyd gan y Ffrancod yn nghyffiniau Het Sas, i'r gogledd o Ypres. I'r gogledd o Arras, ac i'r gorllewin i Fryn 140, llwyddodd y Ffrancod i atal ymosod- iad gan y Germaniaid, yr hwn fwriedid ei wneyd dan gysgod ffrwydrad mwnfa. Yn ystod y dydd ddoe, darfu i'n magnelwyr dan-belenu a dinystrio melin St. Auria, yn nghyffiniau Roye, yr hon oedd wedi ei hamddiffyn yn ofalus gan y gelyn. Yn Champagne, bu gornestau pwysig, a gwnaed defnydd helaeth o dan-bclenau gan y Ffranood, drwy yr hyn y llwyddasant i yru allan y Germaniaid o ffosydd oeddynt wedi feddianu y diwrnod blaenorol. Y BWLGARIAID A MONASTIR. Hawlia y Bwlgariaid eu bod wedi gorchfygu y Serbiaid oeddynt yn encilio o Monastir, ac wedi meddianu Roma, 26 milldir i'r gorllewin o Monastir. DYDD GWENER. Y MILWYR PRYDEINIG AR BWL- GARIAID. Adroddiad o'r Swyddfa Ryfel a ddywed fod y Bwlgariaid, ar ol tan-beleniad trwm, wedi ymosod ar ein milwyr i'r gorllewin o Lyn Doiran. Aethpwyd i mewn i rai o'n ffosydd gan y Bwlgariaid, ond an- fonwyd hwy allan oddiyno yn ebrwydd drwy rym y bidog. Boreu ddydd Mawrtli, y gwnaed ymosodiad drache.fn gan nifer ad- gyfnerthol o'r Bwlgariaid, y rhai a lwydd- asant i yru ymaith ein milwyr o'u safle- oedd. Dan leni y tywyllwch, symudodd ein milwyr i le newydd. Nid yw ein colledion yn wybyddus eto. Dydd Mer- cher llwyddodd ein milwyr i wrthsefyll ymosodiadau erefll yn llwyddianus, a* meddianasant safle newydd. PRYDER YN PARIS Mae y ffaith fod Cyngor Rhyfel y Cynghrciriaid wedi ei gweled yn angen- rheidiol i gyfarfod am bedwar diwrnod yn ddilynol, yn profi fed rhyw anhawsderau yn bodoli ynglyn i'r Balkans. Gofyniad pawb yw. Beth sydd i ddigwydd ynglyn a r Balkans, a'r farn a goledclir mewn cylch- oedd gwleidvddol a milwrol yn Ffrainc yw fod y sefyllfa yn y Balkans yn fwy difrifol nag a "ddvehymygodd neb, ac yn peri prvder goriethol. Brysnegeseuon o Sal- onica heddyw a fvnegant fod y Bwlgariaid yn ymgvnull yn lluoedd ar ddeheulaw y Cynghreiriaid, lie mae y milwyr Pryd- einig, a bod v Germaniaid yn eu bygwth ar ffrvnt eu llinellau. Yn sicr nid oes haner digon o filwyr Prydeinig a Ffrengig yn y Balkans i wrthsefyll ymosodiadau y gelyn yn y ffrynt, a'r bygythion o'r tu ol. Dywed un newyddiadur Ffrengig: "Os, mewn canlyniad i'w camgymenadau, y bydd i'r Cynghreiriaid gael eu gorchfygu, ni, fydd Salonica mwyach yn Fwlgaraidd na Groeg, ond yn eiddo y Germaniaid." Bydd yn rhaid cael llawer iawn mwy o filwyr yno, neu rhaid tynu yn ol, ac anfon ein milwyr gartref. Ar hyn o bryd mae y sefyllfa yn ddu iawn, ond gobeithio y tora rhyw oleuni allan yn fuan. YMFFROST Y GERMANIAID. Yn y Senedd Germanaidd ddoe, dat- ganodd y Canghellydd Bethmann-TIollweg fod y Cynghreiriaid yn ceisio argyhoeddi y byd fod Germani bron ar ben. Po hwyaf y gorfodai v Cynghreiriaid y Germaniaid i barhau y rhyfel, byddai y telerau heddwch gymaint a hyny yn fwy llym. 09 na chydnabyddai gelynion Germani ei. ekedernid, darganfyddont hyny yn mhellach ymlaen. Yr oedd ganddi ddi-1 gonedd o gopr a rubber, ac yr oedd cyflen-! wadau helaeth o gotwm yn dyfod i fyny y Danube. DYDD SADWRN. COLLEDION Y BWLGARIAID. Cyfeiria pob adroddiad am y brwydro yn Vardar ddydd Mercher fod y Bwlgar- iaid wedi derbyn colledion trymion oddiar law y Cynghreiriaid, a bod y tan-belenau ar ran y Ffrancod, tra yr oedd y Prydein- iaid yn cilio yn ol, yn effeithiol iawn. Hawlia y Bwlgariaid eu bod wedi medd- ianu deg o fagnelau Prydeinig. Dywedir nad oedd colledion y Prydeinwyr yn drwm. Dywed gohebydd Italaidd fod y milwyr Prydeinig wedi arddangoa dewrder can- moladwy ag ystyried fod rhif y Bwlgar- iaid gymaint yn fwy. Er fod pobpeth yn dawel ar y ffrynt Brydeinig foreu Iau, mae yn ymddangos fod yr ymladd wedi ei adnewyddu yn mhellach ymlaen ar y dydd. SAFLE GROEG. Ymddengys fod Llywodraeth Groeg wedi penderfynu rhwystro ychwaneg o drafnidiaeth o'r gogledd i diriogaetliau Groeg. Ofnir yn fawr oherwydd prinder glo yn Groeg, ac y mae llywodraeth y wlad hono wedi galw svlw Llywodraeth Prydain Fawr at ddifrifoldeb y sefyllfa. Er fod archebion am gyflenwadau helaeth o lo wedi eu hanfon i'r UnoT Daleithau ar ran Groeg, dywedir fod gwahanol gwmniau yno yn gomedd am y presenol gludo glo i Groeg. Teimlir pryder yn Athens. gan fod hysbysrwydd wedi eu cyraedd y myn y Cynghreiriaid yr hyn a geisiant. Y DARDANELLES. Adroddiad Tyrcaidd a fynega fod byw- iogrwydd mawr yn cael ei arddangos gan filwyr a morwyr y Cynghreiriaid yn y Dardanelles, a lluaws o ryfel-longau wedi bod yn brysur wrth y gwaith o dan- belenu safleoedd Tyrcaidd. Brysneges o Turin a ddywed fod tebygolrwydd y bydd i Germani wneyd ymosodiad buan yn Gallipoli, a dywed gohebydd o Athens fod y Cadfridog Mackensen yn cael ei gynorthwyo yn Nghaercystenyn gan filwyr a magnelau o Bavaria. MILWYR ITALAIDD YN ALBANIA. Dydd Iau, ymosododd y Ilynges Awst- riaidd ar San Giovannie di Medua, Albania, ond pan oedd hyny yn cymeryd lie daeth nifer o ryfel-longau Italaidd yno, a chymerodd brwydro le rhyngddynt, ond ni W'yddis y canlyniadau. Mae yr Ital- iaid mewn meddiant o Valona, a gobaith gwan sydd gan y Germaniaid a'r Awst- riaid i'w haflonyddu, gan fod digonedd o filwyr Italaidd a Serbiaidd yno yn ei ham- ddiffyn. DYDD LLUN. Y PRYDEINIAID WEDI COLLI 1500 0 WYR. Ar ol ymladd yn ngogleddbarth Salonica —lie y bu raid iddynt wynebu lluoedd an- eirif, llwyddodd y lOfed gatrawd o'r Pjfyd- einiaid, gyda chynorthwy adgyfnerthion, i encilio i safle gadarn yn nghyfeiriad Dyffryn y Vardar. Ymladdasant yn galed ac yn wrol yn erbyn galluoedd llawer mwy lluosog. Mewn canlyniad i natur fynyddig ac anhygyrch y wlad lie y brwydrent bu raid iddynt adael wyth o fagnelau ar ol pan yn encilio. Dywedir fod ein colledion yn cyraedd 1500 o wyr. MEDDIANIAD SALONICA. Mae llawer yn ychwaneg o filwyr Pryd- einig wedi glanio yn Salonica. Anfonwyd Nodyn arall gan y Cynghreiriaid at aw- durdodau Groeg, ac yn ol pob argoel gellir disgwyl cytundeb terfynol yn fuan. Ym- welodd Gweinidogion y pedwar gallu Cynghreiriol a Phrif Weinidog Groeg ddydd Gwener, gan ofyn am atebiad buan gyda golwg ar leoliad y milwyr yn Mace- donia. Ar ol yr ymweliad hwn5 cynhal- iwyd cyfarfod o'r Cyfrin-Gyngor Groeg- aidd, pryd y darllcifvvyd adroddiad y Milwriad Pal lis, y swyddog Grocgaidd a anfonwyd i arolygu safle y Cynghreiriaid yn Salonica. Dywedai ei fod yit ffafriol i gp is y Cynghreiriaid gael ei ganiatau. Y prif gwestiwn mown dadl yw symnd- iadau rhwvdd y mil wyr Cynghreiriol yn y diriogaeth. n BYWIOGRWYDD YN Y DAR- DANELLES. Am dri diwrnod yr wythnos ddiweddaf bu magnelau y Tyrciaid yn tan-belenu y safleoedd Cynghreiriol yn drwm. Anelid y saethau yn benaf at y Ffrancod yn y culfor. Maent yn gwneyd clefnydd helaeth o fwnfeydd hefyd. Dengys y newyddion fod agoriad y fforcld o Berlin i Gaercysten. yn eisoes yn effeithio ar sefyllfa pethau yn y Dardanelles. Yr oedd y Tyrciaid yn fyr o gad-ddarpariadau cyn i'r German- iaid a'r Bwlgariaid dori drwy y ffindir Serbiaidd. Hysbyswyd yn flaenorol fod nifer o fagnelau a chad-ddarpariadau wedi cyraedd Caercystenyn o Germani. DYDD MAWRTH. GWEITHFEYDD PYLOR WEDI EU DINYSTRIO. Newyddion o Havre a hysbysant fod gweithfeydd pylor y Belgiaid yn Havre wedi eu dinystrio drwy foddion anhysbys. Digwyddodd hyn am ddeuddeg o'r gloch y nos, a chollodd 110 o'r gweithwyr eu bywyda.u, tra yr anafwyd oddeutu mil. Parha y digwyddiad alaethus mewn dir- gelwch, ond y farn gyffredin yw mai gwaith dyhirod ydyw. BRWYDR GYDA'R CYFLEGRAU. Yn ol yr adroddiad Ffrengig swyddogol, yr oedd ymladcl ffyrnig yn myned ymlaen yn Belgium yn Dest of Het Sas, yn ogystal ag yn Artoe, yn ymyl Bully a Roclincourt. Yn nghymydogaeth Roce gwasgarodd ein batteries fyddin oedd ar daith, a'u clud- feni ar y Villers. Yn Argonne, i'r gogtedd o Fair de Paris, fftrwydrasom ddau 'mine,' y rhai a ffrwydrasant galeri lie yr oedd mwnwyr y gelyn yn gweithio. Ymosododd y Bwlgariaid, ddydd Sadwrn, bron ar hyd yr holl ffrynt, ond methiant fu eu hymgais. Yn y Dardanelles ar y 7fed, 8fed, a'r 9fed o Ragfyr, bu ymosod- iad dewr ar ran o ffrynt y Tyrciaid, cyf- legrau y rhai a ymosododd yn ffyrnig ar ein llinellau cyntaf ni. SUDDO LLONGAU TYRCAIDD. Dywed yr adroddiad Rwsiaidd swydd- ogol fod tri o'n cychod torpedo, ar ol brwydr gyda'r cyflegrau, wedi suddo, ar y lOfed, yn y Mor Du, yn ymyl Ynys Kephren. iir dwyrain o'r Bosphorus, ddau wn-fad Tyrcaidd. Ni chafodd y Rwsiaid golledion o gwbl. DYDD MERCHER. Y BWLGARIAID WEDI CROESI FFINIAU GROEG. Hysbysir fod y lluoedd Bwlgaraidd i'r de o Lyn Dorian wedi croesi i diriogaethau Groeg. Mae hyn yn peri pryder i awdur- dodau Groeg, y rhai ydynt wedi pender- fynu peidio ymyraeth a hwynt am y pre- senol o leiaf. Y PRYDEINIAID YN, SALONICA. Dywedir fod ein milwyr yn berffaith ddiogel yn Salonica pe ymosodid arnynt, ac y gallant wrthse-fyll unrhyw ymgaig a wneid yn eu herbyn. YR YMRESTRU. Er nad yw manylion yr ymrestru di- weddar drwy y wlad wedi eu cyhoeddi eto, disgwylir y ceir niynegiad y Prif Weinidog yn Nhy y Cyffredin ddydd Iau, pryd y ceir gweled a fydd angen rheidrwydd i ddefn- yddio mesurau gorfodol i peidio.

Nis gall Amheuneth Fod

Nis gall Amheuneth Fod. Nis gall ymchwiliad ond cadarn- hau y prawf a roddwn am Llan- bedr. Pa fodd y gall amheuaeth fodoli yn ngwyneb y fath dystiolaeth? Darllenwch ynia gadarnhad preswylydd ycnrychioliad- ol 0 Llanbedr:-— Ar Medi 5ed, 1911, Miss J. Walters, o "Caronia," gyferbyn ag Ysgol y Bechgyn, Bryn Road, Llanbedr, a ddywedodd:— "Arferwn gael fy nilino ar adegau gan boenau llym yn fy nghefn a'm Iwynau. y t, Pan gawn anwyd, oyddai yn arfcrol o effe-ithio, ar fy elwlenod. Blinid fi hefyd ar un acleg gan anhwylder dyfrol. <> ::> "Darganfyddais wellhad ardderchog yn Doan's backache kidney pills. Darfu iddynt yn ebrwydd symud y poenau o'm cefn. a theirrtlwn yn siriolach ac yn well ynxhob modd. "Gallaf yn hyderus gynghori ereill i ny roddi prawf ar beleni Doan at anlnvyl- derau yr elwlenod, gan fod genyf ffydd ynddynt. "(ArwyddwA'd) J. WALTERS." Ar Ebrill 8fed, 1915-yit agos i bedair blynedd yn ddiiveddarach—dywedodd Miss WFtlterp:Teimlaf yn dda iawn yn awr. Yr wyfyn cymeryd peleni Doan yn awr ac yn y man, a phob amser yn eu cael yn effeithiol iawn Gallaf gymerad- wyo yn gryf y feddyginiaeth hon at anhwylderau yr elwlenod, Yr wyf ýn 74 mlwydd oed, ac wedi bod bob amser yn iach o'm genedigaeth. Yr wyf hefyd wedi bod yn llwyrymwrth- odwr ar hyd fy oes." Fel yr heneiddiwn, mae holl organau y corff yn darganfod anhwylder mawr i gario allan eu dyledswyddau yn briodol. Mae hyn yn neillduol o wir gyda golwg ar yr elwlenod, gan eu bod mor dyner nes y mae y dirdroad lloiaf, anwyd neu oerfel yn effeithio arnynt, fel nas gallant hidlo y gwaed yn briodol. Felly, pan y mae grafel, gwendid yr yswigen, poenau y crydcymalau, cefn poenus, neu chwydd- iadau y dropsi, Y11 eich rhybuddio fod yr elwlenod yn gwanhau, peidiwc-h colli amser cyn dcehreu cymeryd Doan's backache kidney pills, gan mai peryglus iawn yw esgeuluso yr elwlenod. Pris 2s. 9c. y blychaid ar werth gan bob masnachwr, neu i'w cael oddiwrth Foster McClellan Co., 8, Wells Street, London, W. Peidiwch gofyn am back- ache and kidney pills,-gofynweh yn hen dart am Doan's backache kidney pills, yr un fath rai ag a gafodd Miss Walters.

Y Fyddin Gymreig

Y Fyddin Gymreig. EI NODWEDDION CENEDLAETHOL. IAITH A CHREFYDD. CYNLLUNIAU Y DYFODOL. YMGOM GYDA'R CADFRIDOG OWEN THOMAS. Ie," ebe'r Cadfrilog Owen Thomas wrth ohebydd fu ar ymweliad Ag ef ddydd Sadwrn diweddaf yn Mharc Kinmel, hon yw y Fyddin Gymreig fwyaf teilwng o'r enw a wel- wyd er's 400 mlynedd. Ac wrth y Fyddin Gymreig yr wyf yn cyfeirio at y Welsh Guards, Royal Welch Fusiliers, South Wales Borderers, Welch Regiment (y tair olaf yn cynwys y Bataliynau o'r Tirlogaethwyr-Ter- ritorialia-sydd wedi ymladd mor ddewr eis- oes ar faes y gwaed), y Denbighshire, Mont- gomeryshire, Pembrokeshire, a'r Glamorgan- shire Yeomanries, yr Anglesey Engineers, y Carnarvonshire R.G.A., a'r Welsh Horse. Nid wyf yn credu fod dim tebyg iddi wedi bod er dyddiau Syr Rbys ap Thomas, o Abermarlais, yn Sir Gaerfyrddin. Am yr ben Gymro hwn a'i ddylanwad ar ei gyd-genedl y canodd y bardd, onite t- Y Brenin bia'r Ynys, Ond sy' o ran i Syr Rys Byddin Syr Rhys ap Thomas enillodd frwydr Bosworih, ac a wnaeth Harri Rismwn, wyr yr hen benaeth, Owen Tudur, o Ben- mynydd, Mon, yn Frenin Lloegr. Ond prin y gellir dweyd fod cystal bawl gan hono ag sydd gan hon i'w galw yn Fyddin Cymru- gwyr Caerfyrddin, Ceredigion, a Phenfro, gydag ychydig o wyr Morganwg, oedd byddin Syr Rhys. Nid oedd ond ychydig Ogleddwyr ynddi, oddigertb, o bosibl, ddeiliaid Penmyn- ydd, Mon; ond am hon ceir ynddi fechgyn o bob sir yn Nghymru. Mae gan Gymru a phob Cymro achos ymfalchio yn y ffaith." CATRODAU GYMREIO O'R BLABN. Ond," meddwn, cyfranodd Cymru lawer o filwyr i Fyddin Prydain cyn beddyw." "Gwir," atebai'r Cadfridog, II ao y mae ganddi gatrodau yn dwyn ei henw. Dyna'r Gatrawd Gymreig &'i barwyddair adnabyddus 1 Gwell Angau na Chywilydd,' a'r South Wales Borderers a'r Royal Welsh Fusiliers, i bob un o'r rhai y mae hanes godidog a gogoneddus. Ond Catrodau oeddent yn unig, ac ni ffurfiwyd hwynt erioed yn Fyddin Gymreig. Llyncwyd hwynt i fyny bob amser yn myddin Lloegr. Ond mae'r Fyddin Gymreig heddyw yn fwy arbenig Gymreig nag y bu y Catroadau hyn erioed. Cymerwch y prawf a fynoch—y rhanbarth o'r lie y daethant, yr iaith gartref, neu eu daliadau crefyddol, ac yr wyf yn dal y cewch fod y Fyddin Gymreig heddyw yn fwy nod- weddiadol genedlaetbol nag a fu y Catroadau Cymreig erioed, nac ychwaith nag a fyddai unrhyw Frigid y gellid ei chasglu o Gatrod- au Gwyddelig neu Ysgotaidd. Y tebycaf, efallai, yw Catrodau Ucheldiroedd yr Yagot- land, er y beiddiaf ddweyd na cheid hyd yn oed y rhai hyny yn dal y prawf yn y pethau a nodais gystal ag a wna Byddin Cymru heddyw. CENEDLAETHOLDBB AC IAITH. Os edrychir ar y wlad o'r hon y daeth y beohgyn, ceir, fel y dywedais, eu bod wedi dod o bob Sir yn Nghymru. Ceir fod yn ymarferol yr oil o Swyddogion y Fyddin naill ai yn Gymry o waed, neu ynte yn dal cysylltiad agos a'r Dywysogaeth mewn rhyw ffordd arall. Dyna gwestiwn yr Iaith eto. Mae dau o bob tri o'r swyddogion yn Gymry, a'r mwyafrif o honynt yn medru Cymraeg, ac yn arfer siarad yr iaith, Ao am y dynion, daw cynifer o honynt o ranbarthau arbenig Cymreig, fel y ceir ewmniau cyfain, yn wir ymron y gallwn ddweyd fataliynau cyfain, lie y ceir y Gym- raeg yn iaith feunyddiol pob ymddiddan nid yn unig ymhlith y dynion, ond rhyngddynt a'u swdddogion hefyd. I'r fath raddau mae hyn yn wir fel y cafwyd Archeb arbenig o'r Swyddfa Rhyfel i symud uurhyw amheuaeth ar y pwnc, ac yn rhoddi awdurdod swyddogol i ddefnyddio y Gymraeg fel iaith feunyddiol yn y Fyddin. Y CWESTtWN CREFYDDOL. Cymerwcb eto y cwestiwn o enwadaetb, a gwasanaeth crefyddol. Mae Cymru yn nod" eddiadol grefyddoI yn el harferion. Ni roddwyd erioed o'r blaen y fath ystyriaeth I gan yr awdurdodau milwrol i ddaliadau crefyddol y milwyr ag a wneir heddyw yn y Fyddin Gymrefg, Blin genyf feddwl fod y gorphenol, ac yn enwedig y rhai mwyaf Piwritanaidd o'r Ymneillduwyr, yn edrych i lawr ar y Fyddin fellle andwyol i foesoldeb. Yr oedd hyn yn cyfrif i raddau pell am wrth- wynebiad cydwybodol Ymneillduwyr i wasan- aeth milwrol o gwbl. Nid wyf yn petruso dweyd mai hyn oedd un o'r rhwystrau mwyaf yn ein ffordd ar y dechreu pan yn galw ar Fechgyn Cymru i ymuno a'r Fyddin Newydd. Prin y gellid disgwyl i ddynion a ddysgwyd o'r cryd fod rhyfel yn beth pechadurus, ac a edrychent ar y milwr fel un yn perthyn i ddosbarth isel yn foesol a chymdeithasol i newid ar nnwaith eu safbwynt o edrych ar bethau hyd yn nod yn ngwyneb yr argyfwng Cenedlaethol mawr presenol. CYFNEWIDIAD DIRFAWR. Ond pan newidiasant eu barn, hawliodd hyny gyfnewid hefyd y trefniadau yn y Fyddin ar gyfer gwasanaeth crefyddol. Ni ellid disgwyl i Ymneillduwyr o'r oryd ac o argyhoeddiad i fynycbu yn wirfoddol a chym- # iryd rhan mewn gwasanaeth yr Eglwyt, fwy nag y gellid disgwyl i Brotestaniaid egwydd- orol dderbyn gweinyddiadau crefyddol yr Off- eiriad Pabaidd, neu i Babyddion gymeryd rhan mewn Cwrdd Gweddi Ymneillduol. Felly, am y tro cyntaf yn hanes Byddla Prydain, ac wtdi ei wneyd yn angenrheidiol drwy y ffaith fod genym Fyddin Arbenig Gymreig, gwnaed trefniadau digonol I gyfar- fod &g arferion ac argyhoeddiadau crefyddol gwahaniaethol y milwyr eu hunain geill pob dyn yn awr gael y aylw, a pharbau y dull o addoli, a arferai gael gynt gartref. CAPLANIAID 0 BOB BNWAD. Dywedaf yn bendant na bu erioed o'r blaen ddim tebyg I hyn yn holl hanes y Fyddin Brydeinig. Y peth agosaf oedd yn adeg y Weriniaeth yn Myddin Oliver Crom- well. Y pryd hwnw y gwr a arweinial mewn erefydd a geid yn ami yn arwain yn y brwydro hefyd; a'r dyn a geid yn pregethu i'r dynion, neu yn gweddio gyda hwynt yn y nos, a geid hefyd yn y boreu yn ymladd wrth. eu hystlys. Ond hyd yn oed y pryd hwnw ni tbelid sylw bob amser i ddaliadau orefydd- ol gwahanol y dynion. Nid oedd yr Annibyn- wyr yn hoffi gwasanaeth y Presbyteriaid, na'r Presbyteriaid yn barod i dderbyn dysg- eidiaeth yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, ao anaml y ceid gweinidogion o bob un o'r tri yn yr un gatrawd. Ond ym Myddin Cymru heddyw cyfarfyddir &g angen pawb. Ceir Caplaniald o bob enwad, a chynhelir gwasan- aeth orefyddol mor gyson ao mor rbeolaidd yn Gymraeg ag a wneir yn y Capel bach yn nghanoi y wlad. Nid oes fataliwn, He na ellid, acyn ami gwneir, cynal Cwrdd Gweddi neu Yego) Sal. Beiddlaf ddweyd fod mwy o ofal yn cael ei gymeryd am anghenion moesol ac ysbrydol y bechgyn hyn yn y Fyddin heddyw nae a geid mewn canoedd o achosion pe baent wedi aros gartref. Ceir yn ein rhengoedd, fel awyddogion ac is-swyddogion, ddiaconiaid, pregethwyr oyn- orthwyol, myfyrwyr o'r colegau duwinyddol, gweinidogion ordeiniedig, heblaw y rhai sydd yn dal y Iwydd o gaplan. Fel y dywedale, ni fu erioed debyg i hyn o'r blaen. Ao mae hyn wedi symud y gwrthwyneblad olaf oedd gan ral rhieni oydwybodol yo Nghymru I'w bechgyn ymuao a'r Fyddin. Credaf pe b'ai'r ffeithiau hyn yn hysbys drwy Gymru er's tro, y buasai atebiad bechgyn Cymru i alwad eu gwlad wedi bod yn barotach a mwy calonogol hyd yn nod nag ydyw." CYNLLUNIAU Y DYFODOL. Nid ydych yn hollol foddloD, felly, ar y nifer sydd wedi ymuno o Gymru o dan gynllun Arglwydd Derby ? "Gwnaeth Cymru yn dda iawn ar y oyfan," meddai'r Cadfridog, ac nid oes ganddi achos i wrido am yr ymdrech a wnaeth. Wrth gwrs, gwnaeth rhai parthau o'r wlad yn well nag ereill, ond y mae yna eto nifer fawr o fechgyn leuaino, yn neillduol yn y rhanau gwledig, heb ymuno. Gellir priodoli hyn, efallai, i'r ffaith nad oedd y bechgyn, yn y rhanau amaethyddol, wedi deall cynllun Arglwydd Derby yn drwyadl. Yr wyf yn awr yn ail-drefnu rhat o'r Bataliynau gyda'r amcan o ddadblygu yn mhellach eu nodwedd- ion Cymreig, ao yr wyf yn disgwyl y gwna llawer ymuno a'r Bataliynau hyn oeddynt wedi ei gadael yn rhy ddiweddar i ymuno o dan gynllun Arglwydd Derby. Bydd yr apel a wnaed yn ddiweddar gan weinidogion a lleygwyr Angbydffurfiol at fechgyn ieuainc Cymru yn gymorth mawr yn y cyfeiriad hwn. Mae hyn oil," meddai'r Cadfridog cyn i mi ymadael ag ef, yn gosod dyledswyddau newydd ar ysgwyddau ein cenedl; canys os na fydd y rhai sydd wedi aros gartref yn syl- weddoli beth mae pob milwr wedi ddloddef, neu yn barod i ddioddef, er mwyn diogelu cartrefi Cymru, ni fedrant "Sylweddoll eu dy- ledswyddau tuag at y rhai a ddychwelant pan fydd y rhyfel drosodd, na pha beth yw eu dy- ledswydd tuag at y milwr clwyfedig sydd eis- oes wedi dychwelyd, ac at y rhai na ddych-. welant bytb, ond sydd wedi gadael rhai an- wyl ar eu hoi oeddynt yn dibynu arnynt. Yr wyf yn trefnu i ddwyn Cymru fel gwlad a'i byddin i gysylltiad agosach a'ti gilydd, a hy- deraf y bydd yn bosibl sefydlu pwyllgor neu bwyllgorau cryfion a gwir genedlaethol i ofalu am fuddianau moesol, ysbrydol, a materol milwyr y Fyddin Fewydd Gymreig a'r rhai sydd yn dibynu arnynt."

Llythyr at Morfa

Llythyr at "Morfa" SYR,—Mae llawer blwyddyn wedi myn'd heibio er's pan ysgrifenais air, a rhaid gofalu neu bydd un arall wedi myned at y cyfrif. Wet, atoch chwi yr wyf yn anfon y tro hwn, yn gyntaf i ddiolch yn fawr iawn i chwi am eich llithiau dyddorol ac adeiladol, a'r manlon melus. Hefyd yr hysbysiadau am lyfrau da, a pha le y maent i'w sael, ynghyd â'u prisiau. Wel, mi garwn yn fawr wybod a ydyw y don Susanah,' sef Hen Don Carol, ar gael yn rbywle, a beth yw ei phris 1 Hefyd beth ddaeth o'r Cyff LNadolig y bu cy- maint o ysgrifenu yn ei gylch i'r LLAS rhyw bum' mlynedd yn oil Os daeth y llyfr i fodolaeth, pa le y mae i'w gael, a pba faint yw ei bris. Y mae Precentor yn holiam Gerddoriaeth i'r Litani. Gallai al gael ond gyru at Mr. Tnos. Edwards, Bryn Teg, Hough Green, Chester. Bydd llawer o ganu ar betbai y gftr yma yn y lyfodol. Sweet and Simple.' Os gwelwch rn dda faddeu fy hyfdra, terfynaf gyda'm iiolch goreu eto, odifwrth EHBDYUD FACH Y MYNYDD.

No title

ABQRAFFU RHAD, CYFLYM, A DESTLUS YN SWYDDFA'R LLAN."