Collection Title: Llan

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 2 of 8 Next Last
Full Screen
5 articles on this page
Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd

Dilynwyd gan Mr. Herbert Samuel (y Postfeistr-Cyffredinol), yr hwn a ddywed- odd fod araeth yr Aelod An/hydeddus (Mr. Rees) yn dangos anibyniaeth meddwl, yr hyn a werthfawrogid bob amser yn y Ty. Nid oedd dim llai na chwe' miliwn o ddynion y wlad mewn oedran milwrol wedi dod ymlaen yn wirfoddol i gynyg eu hunain i wasanaethu eu gwlad. Yr oedd ef yn oetfnogi y Mesur, er ei fod. yn croon yn gryf mewn gwirfoddolaeth, oherwydd y ffeithiau roed gerbron. Dylent anfon i'r rhyfel yr holl ddynion ellid eu fforddio. (Cymelradwyaeth). Yn nghwrs trafqdaeth pellach, dywed- odd Mr. Hemerde (R.), ei fod o'r farn fod y gyfundrefn wirfoddol wedi bod yn Tlwyddiant perffaith. Ymranwyd. a dyma/r canlyniad:- Dros y Megur 405 Yn Erbyn 1*07 Mwyafrif dros y Mesur 298 DYDD SADWRN. NEWYDDION CALONOGOL 0 RWSIA. Newyddion o Petrograd a hysbysant:- Yn nghyffiniau Riga, gollyngodd y Ger- maniaid nwyau gwenwynllyd yn erbyn amddiffynieydd y Rwsiaid, ond ni wnaed nemawr niwed. Gerllaw Dukno, darfu i 30 o ysgawtwyr Rwsiaidd frwydro law-yn-llaw a. nifer o ysgawtwyr Germanaidd oeddynt wedi colli eu ffordd, a defnyddiasant eu bidogau ar nifer dda o honynt, a chymerasant 36 ereill yn garcharorion,, ynghyd ag un swyddog. Llwyddodd cwmui o Rwsiaid i feddianu Czarttorysk, ynghyd a dau uchoJper i'r gwllewin or dref. Cymerwyd tri o swyddogion a 75 o filwyr yn garcharorion, a chywierwyd ystoc helaeth o wifrau pigog. Darfu i'r Germaniaid wneyd ymosodiadau egmol i ddadwneyd yr hyn gyflawnodd y Rwsiaid, ond y cwbl yn ofer, gan y gorfu iddynt ffoi mewn annhrefn. Mae y newyddion o'r ffrynt ddeheuol yn galonogol iawn, a gellir disgwyl dad- blygiadau pwysig pan yeyrhaedda prif gorffluoedd y Rwsiaid i'r ffrynt. COLLEDION Y GEDYNION, Cenadwri o Zurich a fynega fod colled- ion y gelynion fel y canlyn:—Germani 3,700,000 wedi eu lladd, eu clwyfo, neu ar goll. Awstria: 3,100,000. Tyrciaid a Bwlgariaid, 500,000. Lladdwyd neu anafwyd 990,000 o Germaniaid, 840,000 o Awstriaid, a 1'0,000 o Dyrciaid a Bwl- gariaid. I TAN-BELENWYR YN CAEL EU GYRU YMAITH. Dydd Gwener, ymoeodwyd gyda tEAn- belenau, yn cael eu cynorthwyo gan fag- nelwyr y Germaniaid yn nghyffiniau rheil- ffordd Armentieras-Lille, ond llwyddodd y Cynghreiriaid i'w gyru yn ol. Yn ddi- lynol tanbelenodd y Cynghreiriaid lin- edlau y gelyn, gan beri colledion trymion, yn enwedig yn y ffosydd. ) DYDD LLtJN. YMADAWIAD Y CYNGHREIRIAID O'R DARDANELLES. Nos Sul, derbyniwyd adroddiad oddi- wrth y Cadfridog Syr Charles Monro i'r perwyl fod y gwaith o ymadael o'r Dar- danelles wedi ei gario allan yn ddistaw, diogel a llwyddianus, a dim ond un milwr Prydeinig wedi ei ghvyfo. Llwyddwyd i symud yr holl fagnelau, a dinystriwyd 17 o rai diwerth. Ni achoswyd unrhyw syn- dod fod y Prydeinwyr a'r Ffrancod wedi gymud oddiyno, gan fod yr ymadawiad o Suvla, ac Anac y mis diweddaf wedi paro- toi pawb i ddisgwyl yr hyn gyflawnwyd yn Mwr. Y rhyfeddod yw fod y gweithred- viadau wedi eu cario allan heb golli bywyd- au. PAn ymadawyd o Suvla ac Anzac, yr oedd y Tyrciaid yn cysgu, ac nid oedd- ynt yn ddeffro-yn awr. Desgrifiwyd yr ymadawiad o Suvla ac Anzac fel prif ryfeddod y rhyfed, ond nid oedd yn ddim o'i gymharu a'r anturiaeth lwyddianus hon. Nid yw yn wybyddus faint yw rhii y byddinoedd Cynghreiriol, ond hysbyaai Syr Ian Hamilton yn ei genadwri yn mis Awst fod 23,000 o filwyr Prydeinig a 17,000 o rai Ffrengig yno. Ar Rhagfyr 2, cyhoeddwyd fod ein coll- edion yn y Dardanelles i fyny i'r dyddiad hwnw fei y canlyn:— Lladdwyd. Clwyfwyd. Ar coil.. Cyfanrif. SwyddoeJon. 1504 2860 356 4720 Safleoedd ereiH 21,53100,148 \0,567 101,890 23,035 73,008 10,923 106,611 DINYSTR ENFAWR GAN AWYR- LONGAU. Newyddion o Athens a fynegant fod teithwyr a gyraeddasant Gaercystenyn yn cadarnhau yr adroddiad fod ystorfa bylor Haskisy wedi ei than-belenu gan awyr- longau v Cynghreiriaid, y rhai a wnaeth- ant ddinystr mawr. Hysbvsir. yn ycb wanegol at ddinystriad yr ystorfa, fod tair mil o weithwyr Tyrcaidd a Germanaidd wedi eu lladd neu eu clwyfo gan rym v ffrwydrad. SUDDIAD RHYFEL-LONG BRYD- EINIG. Gyda gofid y derbyniwyd y newydd.fod y rhyfel-long 'King Edward VII.' wedi taraw yn erbyn mwnfa, a suddodd cyn pen ychydig funydaur Mewn canlyniad i sefyllfa gythryblus y mor ar y pryd, pen- derfynwyd gadael y llong, a llwyddwyd i achub y canoedd swyddogion a dwylaw yn ddlogeL Yr oedd yn uin o'r Honigau goreu, ac wedi ei hadeiladu yn 1902. Lansiwyd hi yn 1903, a chafodd ei chwbl- hau ar gyfer ei gwaith yn 1905. Bu o dro i dro dan lywyddiaeth v rhai can- lynol Y Llyngesydd Syr W. H. May, y Llyngesydd Arglwydd Charles Beres- ford, y Llyngesydd Syr H. Milne, y Llyngesydd Syr G. A. Callaghan, y Llyngesydd Cecel Burney, y Llyngesydd Lewis Bayley, a'r Llyngesydd E. E. Brad- ford. Adeiladwyd hi ar draul o l,473,245p., a rhifai ei swyddogion a'i dwvlaw 825, ac yr oedd 42 o fagnelau ar ei bwrdd. DYDD MAWRTH. METHIANT Y GERMANIAID YN FFRAINC. Dechreuwyd ar frwydr ffyrnig yn Cham- pagne, Ffrainc, ddydd Sul, pan y cymer- odd y Germaniaid yr ochr ymosodol ar ffrynt o bum' mill dir. Wedi i'r German- iaid dan-belenu ar hyd yr holl ffrynt, gan ddefnyddio tan-belenau nwyol, darfu iddynt ymosod bedair gwaith. Yr oedd y Ffrancod yn eu gwylio yn fanwl, a chyda grymusder a phenderfyniad amddiffyn- asant eu hunain. a llwyddasant i roddi atalfa buan ar yr ymosodiadau. Torwyd drwy y llinell ddwy waith, ond llwyddwyd i ymlid y gelyn, oddigerth o yohydig ffosydd yn y pellder. Y BRWYDRO YN MESOPOTAMIA. Hysbysir am ymladd caled eto yn Mesopotamia: Llwyddodd y galluoedd Prydeinig i gymeryd dwy fagnel oddiar y gelyn, a chymerasant 700 o garcharorion, ac ar y 9fed cyfisol rhedodd y gelyn ym- aith, a dilynid ef gan y Prydeiniaid. Ar y Haw arall, dywed adroddiad Tyrcaidd fod y Prydeiniaid wedi colli tair mil o wyr. YR YN SALONICA. Mae adroddiadau yn cael eu lledaenu fod yr ymosodiad bygythiedig ar Salonica i gymeryd lie yn fuan. Dywedir y daw o'r gorllewin, o'r Vardos. Yn y cyf- amser, mae ymladd caled yn cymeryd lie yn Montenegro. DYDD MERCHER. MiEDDIANIAD MYNYDD LOVEHEN GAN YR AWSTRIAID. Ar ol brwydro yn galed am chwe' di- wrnod, llwyddodd yr Awstriaid i feddianu mynydd Lovehen. Mae yn bosibl y bydd i hyn beri i'r Mantenegriaid gilio i du- eddau Albania. Ymladdodd y Monteneg- riaid yn ddewr i gadw Lovehen, ond gorth rechwyd hwy gan ddefnyddiad nwyon, a'r ffaith-fod y gelyn yn llawer lluosocach, a. than-belenid arnynt gan y llongau ac o'r amddiffynfeydd yn Cattaro. ,COLLEDION Y GERMANIAID YN CHAMPAGNE. •Newyddion diweddarach o Ffrainc a fynegant fod y Germaniaid wedi eu gorchfygu yn llwyr yn Champagne, ac wedi colli bron yr holl dir a feddianent. Mae ganddynt lain bychan ger Maisons de Champagne, ond nis gallant ddal hwnw yn hir. Yr oedd tua. 60,000 o. Germaniaid yn cymeryd rhan, a lladdwyd a, chlwyf- wyd miloedd o honynt. Y MESUR GORFODOL. Hysbysir heddyw fod y blaid Wyddelig wedi datgan na fwriadant wrthwynebu y mesur uchod yn yr ymraniad yfory. Y GWEITHREDIADAU YN MESOPOTAMIA. Yn Nhy y Cvffredin, nos Fawrth, hys- bysodd Mr. Austen Chamberlain fod y Cadfridog Aylmer yn methu myned ymlaen oherwydd sefyllfa, v tywydd, a bod y gelyn yn Essen, chwe' milldir i'r dwyrain o Kut, ac felly rhwng byddin- oedd y Cadfridog Aylmer a'r Cadfridog Townshend, fel y gellir disgwyl brwydr galed yn fuan. M ANION. Mae bechgyn 13 a 14 mlwydd oed yn enill 13s yr wythnoe yn y gweithfeydd edau yn Rochdale oherwydd prinder dynion., Parodd cyhoeddiad hysbysleni yn erbyn ymuno yn Llanelli dipyn o gynhyrfiad, a dinystriwyd hwynt oil gan y werin. Am wrthod cymeryd milwyr i aros yn ei dy gorfodwyd Sidney Page i dalu 3p. gan ynadon Andover. I Trwy arfer cynildeb mae Cvngor Tun- bridge Wells wedi achub 10,000p. Bwr- iedir defyddio'r arian trwy eu rhoddi yn y benthyciad cenedla-ethol. Mae yna dros 6'300 o vsbyttai snilwrol yn Ffrainc ar yr adeg presenol.

Capten William R Jones Pensylvania

Capten William R. Jones, Pensylvania. Nid yw Cymru hyd yn hyn wedi magu llawer o Dywysogion Masnachol na Gweithfaol, er fod ein mwngloddiau, ein ehwarelydd, ein porthladdoedd, a'n gweithiau haiarn, dur ac alcan yn adna- byddus trwy'r holl fyd. Gellir enwi Arglwydd Merthyr, Mr. D. A. Thomas, Mr. Windsor Richards fei gwyr sydd yn sefyll yn y dosparth uchaf ymhlith tywys- ogion llafur Prydain Fawr. Rhaid troi ein Ilygaid tua'r America i weled beth all Cymro ei wneyd yn y gyd- ymgais am flaenoriaeth masnachol. Rhyw- fodd mae yn y wlad eang a newydd hono well siawns i ddyn o ddawn ac anturiaeth i ddadblygu ei allu, ac ymestyn ei ewynau. Engraifft hynod o Iwyddiant Cymro yn ngwlad y Gorllewin ydoedd Capten Wil- liam R. Jones. Gwyr pawb fod Pensyl- vannia yn fath o ail Gymru yn yr America. Ymsefydlodd Ilawer iawn o Gymry yno er yn fore iawn, ac y mae yr hen iaith ar lafar yno hyd heddyw, ar yr aelwyd, 'ac yn yr addoliad. Mae yn iach ac yn groew yn y wasg hefyd. Cafodd "Bil Jones" (canys dyna fel yr adnabyddid y gwr enwog hwn, hyd iddo ac wedi iddo. gyraedd pinacl Uwyddiant ac anrhydedd) ei eni mewn pentref bychan, Catasauqua, Pensylvannia. Pattern-maker oedd ei dad wrth ei alwedigaeth-gwr crefyddol a chyfrifol ymhlith ei ardalwyr. Eithr prif ddyn y pentref oedd David Thomas—ftad jy Fasnach Haiarn yn yr America.' Aeth William R. i'w wasanaeth yn y gwaith haiarn pan yn ddeg oed. Pan oedd yn ddeunaw oed ym- adawodd oddiyna ac ymsefydlodd yn Chat- tanooga, a chafodd waith yn y "Cambria Works, Johnstown, a chyflog o ddwy ddolar y dydd. Arosodd yno am un flyn- edd ar bymtheg, a phan fu farw arolygwr y gwaith hwnw bu yn gydymgais rhyngddo a Daniel N. Jones am y lie, y ddau yn gyfeillion mawr ac wedi eu magu yn Catas- auqua gyda'u gilydd. Dan Jones ddewis- wyd. Meddai Dan wrth Billy, 'Yr wyf wedi fy synu; yr oeddwn yn sicr mai tydi fuasent yn ei benodi.' Ac medde Bil, 'Felly finau. ond ymddengys mai fel arall y mae i fod.' Petrusai Dan am foment, ac yna dywedodd, 'Ti aydd yn haeddu y swydd, nis cymeraf hi.' Atebodd Bil, 'Mae yn rhaid i ti ei derbyn. Ti y mae y Cwmni wedi ei ddewis, ac y mae yn gyf- leusdra da i ti. Am danaf fy hun, yr wyfeisieu unioni tipyn arnaf fy hun, a dan COP iddynt beth allaf ei wneyd." Dechreuodd hyn gyfnod newydd a phwysig yn ei yrfa, a daeth Bil Jones a Carnegie, 'Brenin y Dur,' yn adnabyddus. Hyd yn hyn nid oedd wedi ymarfer a 'gwaith dur.' Yr oedd dull newydd o wneuthur dur wedi ei ddarganfod gan Kelly a Bessemer, a'i gychwyn yn Brad- dock, yn agos i Pittsburgh. Penododd Carnegie Bill Jones yn feistr y gwaith yn Brad dock; ac oherwydd ei fod yn gy- meradwy iawn ymhlith gweithwyr ei hen le yn Johnstown, ymfudodd lluaws o'r gweithwyr oddiyno ar ei ol, ac yn y flwydd- yn 1875 cafodd y byd i gyd weled cyfnew- idiad anferth yn maintioli marchnad dur yr America. Yr oedd Lloegr hyd yn hyn ymhell ar y blaen. America oedd yn prynn ac nid yn gwerthu. Yr oedd Lloegr yn troi allan gymaint o ddur mewn pedwar miSi ag a wnai yr America mewn blwyddyn. Yr oedd Lloegr wedi mabwysiadu trefn Bessemer ddeng mlynedd o flaen yr America gyda dyfodiad Bil Jones i mewn haiarn a dur. Yr oedd mwy na haner cant o reilffyrdd yr America yn defnyddio 'rails' dur o Loegr. Dechreuodd y llanw droi o Loegr i'r America gyda dyofdiad Bil Jones i Braddock. Wele daflen o'r cynydd dan ei arolyg- iaeth yn Braddock:— 1875 (tri mis). 41.970.06 doleri. 1876 181.007.18 1877 190.379.33 H 1878 250.000.00 1879 401.800.00 1880 1.625.000.00 A dydd y pethau bychain oedd hyn, Nid oedd ond gwawr. y cynydd a ddaeth yn fuan wedi hyn pan gymerodd Carnegie afael yn y fasnach. Yr oedd Bill Jones wedi curo Dan Jones yn Johnstown allan o wynt. Pan ddaeth ei hen feistr, Morrell, yn-Johnstown, i ymweled a. Brad- dock, dywedodd, 'Well, Bill, I ooethat I hired the wrong Jones.' Pan glywodd Lloegr hanes Jones, ys- tyrid hi fel chwedl gwr ac hod.. 'Anghred- TOeddai Windsor Richards. 'Hollol anmhosibl, meddai Syr Isaac Lowthian Bell. Pan ymgyfarfyddodd y British Iron and Steel Institute, yn y flwyddyn 1881 dar- llenwyd papur Capten W. R. Jones gan yr Ysgrifenydd, yn yr hwn y dywedodd 'Bill Jones' fod Lloegr ar ol yr America yn n,gwneuthwiad Dur Bessemer, aJc yn mhell ar ei hoi yn null ei wneuthuriad. Priodolai Jones ei lwyddiant i bum' rW.b 1. Crefftwyr ieuaine ac awyddus am I Iwyddiant eu gwaith. 2. Cvdymgais egniol a tibeg rhwng y gweithfeydd. ° 3. Cvmvpgedd gweithwyr o bob gwlad. 4. Wyth awr o laf(ir. 5. Defnyddio y peaiianau goreu a di- weddaraf. Yn mhen chwe' mis cyfarfyddodd y British Iron and Steel Institute drachefn. ) Darllenwyd ail bapur oddiwrth Bill Jones. Yr oedd Syr Henry Bessemer yn bresenol. Dangoaodid Mr. Holley, y Gwyddonwr mawr, fod gweithwyr haiarn Lloegr yn troi allan ar gyfartaledd bedwar cant a haner o dunelli mewn blwyddyn, tr* yr oedd gweithwyr haiarn yr America yn troi allan bum' cant a phymtheg a, deugain. Ac ychwanegodd gyda gwen o foddhad ar ei wyneb, 'Wrth! gwrs,«gan fod y rhan fwyaf o'm haiarn wedi eu gosod allan yn yr America ac nid yn Lloegr, yr wyf yn edrych gydag ymostyngiad os nad gyda gradd o foddlonrwydd." Ni pharodd yr ymdrafodaeth ar y testyn yn faith. Nis atebodd neb ddim.. 'Yr oedd seren ymerodraeth y dur wedi symud i'r Gorllewin.' Ac hyd yn hyn, am a. wyddom, yno y saif. Gofyna y darllenydd pa gyfoeth enillodd Bill Jones am ei oruohafiaeth. Gofynodd Mr. Carnegie iddo gymeryd 'shares' yn Carnegie Company. 'Na,' meddai Bill Jones, 'yr wyf yn dra diolchgar. Nis gwn ddim am faanachu, ac nis mynaf gael fy mhoeni gan ei ofalon. Mae genyf ddigon o drafferth gyda'r gweithfeydd. Ond mi ddywedaf beth a fedrweh wneyd,' a dyma ei eiriau ei hun: 'You can give me a hell of a. big salary.' Ac meddai Carnegie yn ol, 'Wel yna, Capten, cewch gyflog Presi- dent yr Unol Dfcdeitha u— pum' mil ar hugain o ddoleri.' Nid oedd hyn ond megis ychydig friwsion oddiar fwrdd gorlwythog y cyfranddalwyr. Mid oedd Capten W. R. Jones yn ddarganfyddwr mawr, er fod llawer o welliantau peirian- yddol wedi eu dwjni ganddo i weithrediad. "Gellwch ddweyd yn bendant fod Capten Jones,' meddai Mr. Gayley, is-lywydd cyntaf y 'Steel Trust,' 'wedi gwneyd cy- maint i ddatblygu gwaith dur ag a wnaed gan Mushet a Syr Henry Bessemer.' Dyn y gweithiwr ydoedd, dyn ynxarferol, yn gwybod pob peth am ei waith ac yn adnabod pawb o'i weithwyr, ac yn eu mysg ddydd a nos. Yr oedd iddo wen- didau a rhinweddau y Cymro. Yr oedd yn bur wyllt ei dymher. Elai yr ystorom heibio yn fuan, a siriolai fel yr haul ar ol cawod Ebrill yn y fan. 'Wel di, Smith, os na thali di dy ddyled ni chei ragor o waith yma. Dos a settla gyda'r siopwr, neu mi fyna. i wybod pam.' 'Weli di, Jim. Pan ei adref heno cymer y papur yma, a rhoi fo i wraig Jack Sullivan. Bu farw Jack yn yr hospital neithiwr, ac y mae ganddi bump o blant.' Byddai yn rhanu miloedd rhwng gweddwon a thlodion gyda llaw agored, calon gynes, a gair caredig. Nid rhoi y byddai trwy law eraill ond yn amlach rhoi a'i law ei hun. Digiai yn enbyd, eithr maddeuai yn fuan. Adroddir yr hanes a ganlyn am dano gan wr crefyddol yn byw yn Pitts- burg:—'Carnegie oedd y, cyntaf i fynu gweithio ar y Sld yn yr ardal hono. Yr oeddwo: yn wrthwynebol i hyn, a dywedais hyny wrth Jones. Bu ymrafael rhyngom ar Y mater. Yn fuan ar ol hyn deallaisi ei fod wedi dweydi y byddai yn sicr o'm saethu y tro nesaf y gwelai fi. Yr oedd yn llawer cxyfach na mi, a byddwn yn cario llawddryll er amddiffyniad. Naw mis cyn ei farwolaeth daeth ataf rhyw foreu ac a ddywedodld o'i fodd ei hun, 'Yr oeddych yn iawn ynghylch llafur ar y SuJ; á minau ar gam. Pe hnaswn yn ail- dreulio fy oes ni buasai i mi byth yrui gwaith ymlaen ar y SuI. Daeth lawer gwaith ar ol hyn i'r Ysgol Sul fechan, ar yr hon yr oeddwn yn arolygwch, a phob amser gadawai fil pum' neu ddefr doler mi y casgliad'/ Bu farw yn nghanol ei waith yn y flwyddyn 1889. Yroedd un o'r ffwrneisiau wedi dyrysu, ac wrth ei hadgyweirio syrthiodd gan archolli ei ben. Bu farw dranoeth yn yr hospital. Ni bu mwy 0 alar cyffradinol mewn un ardal erioed. Wylai Mr. Carnegie fel plentyn pan yn ymweled1 a'r hospital. Hebryngwyd Bill Jones i'r bedd gan tua deng mil o weithwyr yn orphwyllog gan alar. Ymffrost hten weithwyr dur hyd heddyw ydyw, 'Bu'm yn gweithio gyda Bill Jones.' Detholiad o 'The Romance of Steel by Herbeirt A. Casson.

PENTIP

PENTIP,. EGLWYS ST. KEDOL A I MjLWYR IEUAIXC. Anfonodd aeJodau a mynychwyr Eglwys St. Keckil 'barseli'—Cluistfas Boxes, i fechgyn Pentir, sydd yn mheH ac yn agos wedi ymrestru ac ydynt yn barod i Wneyd eu rhan dros eu Brenin a'u gwlad. Casgl- wyd at yr a mean hwn, gan Mrs. Herbert Jones a Mrs. A. Hughes, diolch am eu hunan-ymwadiad. DeaJlwn fod y Ficer wedi derbyn Uythyrau oddiwrth yr hogiau, yn cyfleu diolchgarwch g'wresog i'r Eglwys L C> ö,1 am gofio am danynt. Yr oeddynt yn wir falch. Ymhob parsel yr oedd llun Edwys St. Kedol. Clywsbm fod Edward Hugh Da vies yn teimlo yn gystuddiol mewn hospital yn Alexandria. Mae John Griffith, Hen Durnpike, yn wael wedi ei glwyfo mewn hospital yn Llundain,—dan gvfaill pur i t. Kedol. Eiddunwn i'r ddau, y naill a'r llall, Iwyr adgyfnerthiad buan. t

Lloffion

Lloffion. Wedi cael ei gyhoeddi am 47 mlynedd y mae y 'Sheerness Times' i gael ei atal hyd derfyn y rhyfel oherwydd prinder dynion yn y swyddfa. Y moo dynes Germanaidd o. Frankfort wedi ei hanfon i garchar am fis. am roddi dillad, newyddiadur, a cigarettes i gar- charor Prydeinig. Diwedd y flwyddyn cododd plant ysgol Coventry 1200p o ariandai yr ysgolion, mwy o lawer na godwyd yr un flwyddyn flaenorol. Ami ddyrnu ei blentyn pum' mis oedi vn ei wyneb am ei fod yn 'crio yn barhaus' anfonwyd Albert Shaw, porter o Totten-% ham, i ddau fis o garchar gyda llafur calcd. Dydd Iau, yn Amsterdam, priodwyd Lieutenant Harold Gay Hawkins, o Bournemouth, un o'r carcharorion sydd yn Holland, a. Miss Elly de Jong, merch i feddyg o Amsterdam. Bu Dr. de Jong yn gweinyddu ar Lieut. Hawkins pan y clwyfwyd ef. Cymerodd angladd y diweddar Arch- ddiacon Madden le yn mynwent Southport ddydd Mercher. Yma-dawodd Mr. T. P. O'Connor am y ffrynt yn Ffrainc ddydd Llun. Pan y galwodd gwerthwr llaeth mewn ty yn Hull, boreu dydd Llun, cafodd Mrs. Brown, y wraig, yn gorwedd ar y tan wedi llosgi yn ddifrifol. Y mae Cyngor Eglwysi Rhydd Rhyl wedi gwneyd cais ar i holl fasnachwyr y dref gau eu masnachdai am 7 yr hwyr trwy y gauaf er galluogi eu cynorthwywyr i fyned i wasanaethau crefyddol. Yn Brighton, ddydd Mawrth, dirwywyd Edward Gilot i 20p. am feddu goleu rhy lachar ar ei fodur, a 2p am fod yn feddw yngofall modur. Cyn i Esgob Birmingham bregelthu yn High Wycombe, gofynodd y Ficer, y Parch C. P. S. Clarke, os cedd rhywun eisiau pesychu am iddynt wneyd yn ystod yr emyn neu fyned allan i wneyd. Yn ystod rhuthr y Nadolig gwerthwyd gwerth 4000p mwy o stamps yn nghorff y pum' diwrnod i fyny i Rhagfyr 2oain na wnawd y llynedd. Y mae deugain o aelodau heddlu Lerpwl wedi syrthio yn y rhyfel. Syrthiodd Private Edward Savage i lawr grisiau ger Penarth, a lladdwyd ef. Wedi gweled fod ei glercod benywaidd yn gwneyd gwaith da y mae Cyngor Ham- mersmith wedi pendelrfynu codi 5s. yr wythnos yn nghyflog pob un. Ymhlith y rhai diweddaf i gyraedcl Ysbytty Bagthorpa y mae milwr yn di- oddef oddiwrth grydcymalau a'i ddos- barthu' dros yr oed.' Pan wnawd ym- chwiliad caed ei fod dros 71 mlwydd oed. Y mae y swm o lOOp wedi ei anfon i'r Oldham Royal Infirmary gan 'roddwr dienw.' Y mae y Parch. Alcuin Jones, un o guradiaid Rhyl, wedi ei benodi yn second-lieutenant yn y Durham Light Infantry. Y mae tri brawd o'r enw Laverty wedi bod yn bresenol yn Ysgol Dipton am un ar ddeg, deg, a chwe' blynedd heb golli yr un waith.. S3 Nid oedd yr un achos i ddod gerbron Llys Misol Beaumaris dydd Sadwrn. Y mae Miss Reesi, gweinyddes-mewn- gofal yn Ysbytty Cumberland, wedi ei ty phenodi yn matron i Infirmary Caernarfon a Mon, Bangor.

Rhiwmatic ac Anhwyldeb y Kidney

Rhiwmatic ac Anhwyldeb y Kidney. TRINIAETH RAD. Y mae rhiwmatie yn ganlyniad uric acid crystals yn y llywethau a'r cymalau, effaith gormod o uric acid yn y cyfansoddiad a methodd yr elwlod (kidneys) ei symud fel y bwriadodd natur; gyda hyn y cytuna pob meddyg graddedig. A'r acid hwn yw'r achos a boen yn y. cefn, lumbago, sciatica, gout, anhwylder y dwr, carreg, grafel, a dropsy. Mae Uwyddiant Tabledi Estora at drin Rhiwmatie a ffurfiau eraill o anhwylder yr elwlod i'w briodoli i'r ffaith eu bod yn adferu'r elwlod i weithredu'n naturiol, a thrwy hynny symudir achos yr anhwylder, yr hyn o anghenrheidrwydd a symuda'r effeithfau drwg o ddeillia o hono; ac mae wedi iachau achosion dirifedigwedimethiantmeddyginiaethauereill, yr hyn sy'n cyfrif am danynt yn brysur gy- meryd lle'r meddyginiaetbau hen ffasiwn a werthiram brisiau sydd allan o gyrraedd bawb ond y cyfoethog, ac sydd yn fynych syrtbio mor fyrr o'r honiadau rhyfeddol a wneir, fel y mae ffydd ynddynt wedi mynd ar goll.' I brofi fod Tabledi Estora yn llawn deil- yagu y desgrifiad ohonynt-raeddyginiaeth onest am bris goaest-anfonir un blychaid llawn o 40 Tabled i Ddarllenwyr y LLAN fel sampl rhad, ar dderbyniad y rhybudd hwn a Sc. mewn llythyrnodau i dalu'r cludiad, y pacio, &e. Ar werth gan FferyIIwyr am 1/3 y blwch o. 40 Tabled, neu 6 blwch am .6/9. Am sampl- flwch I lawn, cyfeirier Estora Co., 132, Charine Cross Road, London, W.C. HOWELL MORGAN, MEDICAL HALL CARDIGAN AGENT. 405J—929p.