Collection Title: Llan

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

Image 1 of 8 Next Last
Full Screen
1 article on this page
CWRS Y RHYFEL

CWRS Y RHYFEL. ADOLYGIAD YR WYTHNOS. BRYN Y MEIRW-Y TRENTINO- CAETHGLUD ISRAEL. POB GWR PRIOD YN FILWR. MEHEFIN 24AIN. CYMORTH I'R ANGHENOG. Dydd Lluii, Mai 29ain, bydd y Rhyfel wedi parhau am flwyddyn a 300 niwrnod. Dydd Mawrth, Mai 30ain, bydd Brwydr Verdun wedi parhau am 100 niwrnod. Dydd Sadwrn, Mehefin 24ain. bydd pob gwr yn Mhrydain rhwng y 18 a'r 41 mlwydd oed, aiseugl ai priod a fyddo, yn filwr trwy orfod—os na bydd wedi cael ti esgusodi am resymau neillduol. Dengys y tair ffaith syml uchod mor ofnadwy yw y RhyM Mawr. Bu Rhyfeloedd Mawr cyn hyn, rhai yn parhau yn llawer hwy na hwn. Ond ni bu Rhyfel yn hanes y byd yn yr hwn y cead cynifer o ddynioti yn brwydro, na haner cymaint o aberth bywyd ag a welwyd yn hwn. Y DDEDDF GORFOD NEWYDD. Mae y Ddeddf Gorfod Newydd wedi paaio drwy'r Seiiodd. Daw i weithrediad dydd Sadwrn, Mehefin 24ain. Ar y dydd hwnw. bydd rhaid i bob gwryw o fewn oed milwrol yn Mhrydain, os na. esgusodir ef am resymau neillduol, fod yn filwr. Tryw'r Ddeddf Newydd- 1. Gwneir Tystysgrif y Meddygyn ddi- Iwdd, a gorfodir pob un fo'n meddu tyst- ysffrif meddyg, i fyned o dan artchwiliad Bwrdd Meddygol y Fyddin. yn Ngwrec- sam, neu Gaerfyrddin, neu Gaerdydd. Ac barna,'r Bwrdd hwnw fod y dyn yn vaq,t gymhwys i unrhyw waith yn y Fyddin, rhestrir ef yn Filwr. 2. Difodir Tystysgrif Khyddhad y Tr-i- biwnal.—Rhoddwyd canoedd o Dystys- grifau Rhvddhad Hollol (Absolute, Exemp- tion) gan y Tribiwnalau drwy'r deyrnas. Difodir yr oil o'r cyfryw o dan y Ddeddf Gorfod Newydd. Rhaid i bawb fo'n dal y cyfryw Dystysgrif geisio eto am Dyst- ysgrif newydd gan y Tribiwnal. 3. Gwtogir y Rhyddid i Ddewis ei Gat- rawd.—Cwtogir y rhyddid a geid gynt i ddewis Catrawd. 4. Rhoi.Pythefnos yn lie Dau FÙ.-O dan yr hen loruchwyliaeth medrai bachgen oedd heb atestio hawlio dau fis o ras dros ben yr amser a ganiateid iddo gan y Tri- biwnal; o dan yr oruchwyliaeth newydd, chwarter cymaint o ras a ga, sef pythefnos yn lie dau fis, ac felly arbedir gwa,straff a°Dar genyf allu dweyd fod y tri swyddog uchaf yn Ngwrecsani, yn Gymry yn medru ac yn barod i siarad Cymraeg a r neb a elwir i fyny i Wrecsam, a gall y Cymro, os mynn, vsgrifenu ei lythyrau yn @Vm- raeg at y^ Awdttrdodau Milwrol janhob man yn Nghymru,—a phan elwir ei I tyny i rywle yn Nghymru, geill siarad yn Gym- raeg, ac os na bydd y swyddog fydd yn ei dderbyn yn medru Cymnaieg dyledswyd y cyfryw swyddog yw cael rhywun fan medru Cymraeg i'w gynorthwyo. FFEITHIAU I'W HYSTYRIED. Cyfyd ffeithiau pwysig y dylid eu hys- tyried ynglyn a'r Ddeddf Gorfod. Mewn cenadwri a anfonwyd allan yr wyfchnos hon gan y Brenin i'w ddeiliaid, dywed y Brenin fod 5,041,000 (pum' miliwn, ac un fil a deugain) o ddeiliaid Prvdain wedi ymrestru yn wirfoddol yn y d Fyddin er deehreu y Rhyfel. Ni bu, ebe'r Brenin yn ei lythyr, y fath beth or blaen yn hanes unrhyw genedl ar wyneb y dda,e.ar. Dywedodd Mr. Lloyd George yn y Senedd fod y Ddeddf Gorfod N ewydd yn de-byg Q, wneyd y gwahaniaeth rwhng enill a cholli y Rhyfel. Pe gwir hyn sicr yw na, cheid nemawr neb yn yr holl deyrnas a betrusai am foment i basio'r Ddeddf er mwyn enill y fuddugoliaeth. CYMORTH I R PRIOD ANGHENOG. Da yw deall fod y LlywocLraeth o'r dAY-add yn ceisio cyfarfod ag enghenion y gwyr priod a elwir oddiwrth eu gwaith, neu eu busnes, neu eu galwedigaeth i ymuno a'r Fyddin. Darperir rhoddion arbenig gan y Llywodraeth i gyfarfod ag angheniom y cyfryw. Bwriedir y rhoddion hyn i gyfarfod a'r galwadau møwn rhent, trethi, yswiriant, mortgages, ad-dalu ben- thycion, a'r cyffelyb. Rhaid i'r neb fo'n hawlio y rhoddion hyn ateb yn ofalus nifer o gwestiynau manwl a geir ar Ffurflen Swyddogol. Gellir oael y Ffurflen hon ymhob Llythyr- dy yn y deyrnas, ond ei cheisio. Y DIRPRWYWYR I GYMRU. At amcanion y ddarpariaeth newydd hon, rhenir Cymru yn dair Adran, gyda Bargyfreithiwr yn Ddirpwywr ymhob Adra,n. Yr Adranau ydynt Gogleddbarth, Canolbarth, a Deheubarth. Gwaith y Dirprwywyr yw holi i mewn i'r anigylch- iadau ymhob achos, er gweled maint a phwysau y galwa-dau, a, gallu yr ymgeisydd i gyfarfod y galwadau hyny. Amrywia y rhoddion newydd hyn yn ol yr angen ymhob amgylchiad, ond ni roddir mwy na Dwy Bunt yr wythnos i neb. Anaml, o bosibl, y cyrhaedda. i'r swm hwn. Mae y rhoddion hyn yn ychwanegol at bob tal a rhodd a geir yn bresenol gan y Llywodraeth i Filwyr a'u teuluoedd.' Cymry yw y tri Dirprwywr dros Gymru, sef:— I'r Gogleddbarth, Mr. David Rhys, o Sir Aberteifi, a fu yn YMgeisydd Seneddol (Ceidwadwr) dros Etholaetli Gymreig un- waith neu ddwy. I'r Canolbarth, Mr. T. E. Morris, Porthmadog, a fu yntau yn Ymgieis.ydd Seneddol (RhydAfrydwr) dros Etholaeth yn Llundain. I'r Deheubarth, Mr. Milner Jones, Caerdvdd gynt, a genedigol, os nad wyf yn camgymeryd, o Lanymddyfri, Sir Gaerfyrddin. BRWYDRAU BRYN Y MEIRW. Pan drown oddiwrth amgylchiadau car- trefiol ynglyn a'r Rhyfel at feusydd y brwydro, cawn mai o amgylich Bryn y Meirw, ger Verdun, y bu'r brwydro caletaf. Feili yr amlygwyd eisoes mae Brwydr Verdun wedi parhau am gan' niwrnodac i bob ymddangosiad ymhellach o derfynu heddyw nag yr ymddangosodd y dydd y dechreuodd. Enillodd y Germaniaid fwy o dir y pum' niwrnod cyntaf o'r brwydro ger Verdun niag a enillwyd ganddynt mewn deng wythnos wedi hyny. Er mwyn deall amgylchiadau y brwydro dylid cofio fod Verdun yn y dehau rhyw- beth yn debyg i'r hyn oedd Liege yn Bel- gium yn y gogledd—yn amddiffynfa gadarn ar y brif-ffordd o Germani i Paris. Ond gyda hyn o wahaniaeth, fod y bwlch drwy yr hwn y medrai'r Germaniaid ddod i Ffrainc yn y dehau ac a amddiffynir gan Verdun, yn gulach, ac am hyny yn rhoi mwy o anliawsterau yn ffordd y gelyn nag I' ydoedd Liege yn Belgium. Rhed yr Afon Meuse heibio'r ddinas, a rhed llinell Byddin Ffrainc rai milltiroedd i'r gogledd oddiwrth 'y ddinas ar draws y iwlad. Ceir mynydd-dir anhawdd rhwng llinell y Fyddin a'r ddina& tua'r gogledd | yr Afon Meuse i'r gorllewin a llawer o dir corsog tua'r dwyrain. Cyn y gall y gelyn enill y ddinas rhaid iddo enill ai Ddyffryn y Meuse tua'r gorHewilJ, neu y mynydd-dir tua'r gogledd. Mae llinell Byddin Ffrainc yn rhedeg ar draws y myn- ydd-dir ac ar draws y Afon a'r Dyffryn. I' Ar du y dwyrain i'r afon, ac i'r gogledd oddiwrth y ddinas, ceir Douamont, a Vaux, enwau a fvddant byw oesau'r ddaear yn hanes v Rhyfel Mawr. I'r gorllewin o'r afon, ac i'r gog- ledd oddiwrth y ddinas ceir Malancourt, IBetliincourt, Mort Homme. Bryn 304. a phentref bychan Curmiers, enwau a fydd- ant byw fel y lleill. Enillodd v gelYll Handromont, Douamont, a rhan o Vaux tua'r dwyrain", a Malancourt a Bethin- court tua'r gorllewin yn gynar yn mis Mawrth. O'r manau hyn oil Mort Homme, Dead Man's Hill, Bryn y Gwr Marw, yw yr en- wocaf. Nid yw yn fryn uchel iawn, rhyw 800 troadfedd efallai neu lai na chwarter uchder y Wyddfa. Nid yw ychwaith yn fryn eang iawn. Ond rhaid oedd ei enill cyn y gallasai'r gelyn fentro i'r Dyffryn; canys pe elai Byddin Germani i'r Dyffryn tra'r Ffrancod yn dal Bryn y Marw, gall- asai cyflegrau'r Ffrancod ddifodi'r fyddin yn y Dyffryn. Nid oes wybodaeth paham y galwyd ef yn Fryn y Marw ar y dechreu, ond llawn deilynga'r enw heddyw. Tebyg yw fod mwy o ddynion wedi cael eu lladd yn y ddau fis diweddaf ar, ac o amgylch Bryn y Marw, nag a laddwyd erioed ar unrhyw lanerch o gyfartal faintioli yn y byd i gyd. Bu brwydro. caled ar y Bryn Glas, yn Maesyfed, yn Hyddiau Glyndwr, ac o am- gylch Bryncyn bychan y Dryslwyn, yn" Nyffryn Tywi, yn nyddiau Gwenllian o Gidweli, ac mewn ami i lecyn arall yn Nghymru. Llifodd Afon y Fenai yn goch gan waed droion. Dywedir mai y bwlch rhwng Castell Gwrych a'r mor yn Aber- gele, yr Sir Ddinbych, yw'r man mwyaf gwaedlyd yn Nghymru oil; bu yno ami i frwydr a rhif y lladdedigion o fewn cylch bychan yn fawr bob tro. Ond Iladdwyd mwy ddengwaith 0 fewn y ddau fis diweddaf ar, ac o amgylch Bryn y Meirw yn Vredun, nag a laddwyd erioed yn y Brynglasi yn Maesyfed, yr Hydgant yn Mhenfro, y Dryslwyn yn Nghaerfyr- ddin, yn Hirwain Wrga,nt yn Morganwg, ar lanau'r Fenai yn Mon ac Arfon, ac yn Mwlch Gwrych yn Ninbych oil gyda'u gilydd erioed. Pe gosodid lladdedigion Bryn y Meirw am y ddau fis diweddaf i orwedd ochr yn ochr yn rhesi, a'r rhesi hyny yn gorwedd a thraed un at ben y llall1, gorchuddid yr holl fryn bob modfedd ohono gan gyrff y lladdedigion. Diwedd yr wythnos ddiweddaf enillodd y Germaniaid ran helaeth, os nad yr oil, o r bryn y tywalltasant am ddau fis afon- ydd mawr o waed i'w enill. Enillasant ,hefyd ran o Cwmiers. Pentref bychan yw hwn; tua haner cant- o dai a geir ynddo oll-ond mae yn agor y ffordd i Ddyffryn v Meuse. Tra yr oedd y Germaniaid yn yniosod yn y gorllewin ar Cwmiers, ymosododd y Ffrancod arnynt tua'r dwyrain yn Dooiau- mont; gan enill yn ol mewn un dydd, yr hyn a gymerodd chwech wythnos o frwydro caled i'r Germaniaid ei enill y tro cyntaf. Ac'er llwyddiant y Germaniaid ar Fryn y Mei'v ac yn Cwmiers, nid ydynt ond mcgis dechreu cyfarfod ag anhawsterau. Dywedir fod y tir y rliaid iddynt eto ei enill, cyn cyracdd Verdun ei hun yn llawer anhav/ddach -il, ydocda Douauniont na Bryn y Meirw. Y TRENTINO. Yr ail Ie: pwysig yn Varies y brwydro yr wythnos ddiVloddt yw y Tronfino. Tal- aeth Awstriaidd yw y Trentino ar gyffiniau yr Eidal. I'r Eidal y perthynai gynt, ond fod Awf,tria wedi ci dwyn oddinrni mown rhyfel flvnydclo xli yn ol. Gv/lad fyn- yddig yw, ar ffuii trioiigl, tuia chan' milltir ar draws yn y m: n lletaf o r dwyrain i'r gorllewin,, a thuc. pcdwar ugr.in milltir o'r gogledd i'r dc. Un rlcilffordd goir yn y dalaetl: oil, yn rkodeg o'r goglodd i'r de, lL;JJio Verona, dinrs ci-iv,-og yn yr Eidal. Yr oedd yr Eidal wcdi enill cyffiniau'r dalaeth o amgylch, a. rhed llinell Byddin yr Eidal yn rhywfatli o haner cylch o'r tu fewn i'r cyffiniau. of I Dygodd yr Awstriaid Fyddin -i-ef i lawr ar hyd y rheilffordd i'r gong! isaf o'r dal- actli ger Rovcreto, y brif dref, yr hon a saif tua haner can' milltir i'r goglodd o Verona. 0 Verona (yn yr Eidal) y rhed amryw reilffyrdd i bob cyfoiriad, ac yn enwedig trwy ganol Talaeth gyfoethog Venetia tua Morgainc Venice yn ngogledd Mor yr Adriatic. Ar y rheilffordd hon saif y dinasoedd emrog1 mewn Padua, Vicena-, a Venice, ac ymestyn canghenau ohoni tua'r Izonzo, yr afon ar lanau yr hon y mae prif fyddin yr Eidal yn brwydro er's misoedd yn erbyn yr Awstriaid. Yr oedd ymosodiad yr Eidalwyr o dan Cadorno ar yr Izonzo yn bygwth Trieste, prif borthladd Awstria. Nid oes lawn ugain milltir rhwng blaen-fyddin Cadorno a Trieste. Ac os enillid Trieste, byddai Vienna, prif ddinas Awstria, yn cael ei bygwth. Er mwyn ceisio gorfodi Cadorno i gilio yn ol o'r Izonzo, yn ddiameu, yr ymosododd yr Awstriaid ar yr Eidal drwy'r Trentino, gan oi daro mogis yn ei gefn. Cilio yn oli yn araf o flaen yr Awstriaid yn y Trentino y mae Byddin yr Eidal tra yr wyf yn ysgrifenu hyn, ac mae'r gelyn mewn man neu ddau wedi croesi'r cyffiniau i dir yr Eidal. Ond dywedir heno fod Byddin yr Eidal wedi cyraedd llinell ar yr hon y geill amddiffyn ei hun; a chan fod g-nddi o lediaf filiwn a haner o filwyr yn segur heb eu galw i'r ffrynt o gwbl, giellir yn naturiol ddisgwyl iddi yn fuan wneyd mwy na dal ei thir ar gyffiniau'r Trentino. TIR CAETHGLUD ISRAEL. Y trydydd lie pwysig yn hanes y Rhyfel yr wythnos ddiweddaf yw tiriogaeth Assyria., gwlad Tiglath Pileser a Sanecheribi enwog yn banes yr Heft Destamejnt. Droe y gwastadeddau a lafuriwyd gan Blant y Gaethglud ganrifoedd lawer yn ol, y teithiodd catrawd o wyr meirch Rwsia i ymuno a Byddin Prydain ar lanau yr Afon Tigris. Mae Rwsia a Phrydain wedi dod erbyn hyn i sefyll ysgwydd yn ysgwydd yn erbyn y Twro a'r German o fewn chwech neu saith milltir i Kut, lIe yr ildiodd Townsend ychydig amser yn ol. Mae Kut tua chan' milltir i'r dehau o Bagdad. Yn y cyfamser mae Byddin arall o Rws- iaid yn agosiiau tua Bagdad o'r gogledd, a heddyw eifallai gan' milltir oddiyno. Lie gynt y clywid gwaedd y Proffwyd Jonah, "Deugain niwrfiod fydd eto, a Ninefeh a gwympir," y clywir yn fuan rhyfelgri Cosaciaid Rwsia, yn rhuthro ar eu metr- lynod bychain, tebyg i bonis bychain myn- yddoedd Cymru, ac yn gyru'r Twro a'r German ar ffo tua Bagdad. DYDD GWENER, Mai 26. YMHEDDYCHIAD Y PLEIDIAU GWYDDELIG. Mae y Weinyddiaeth wedi penodi Mr. Lloyd George i gyflafareddu rhwng y pleddiati Gwyddel/ig, er oeisio icyfanu y rhwyg rhyngddynt, a dwyn oddiamgylchi deimladau mwy cyfeillgar. Coleddia go- beithion mvrf yn Nhy y Cyffredin nos Iau y Ilwyddid i benderfynu y dyrys-bynciau ar dir boddhaol i'r ddwy blaid ac y mae Mr. Lloyd George; wedi bod yn ymddiddan a Syr Edward Carzon, Mr. John Redmond, a Mr. Dillon ar y materion dan sylw fel rhagarweiniad i'r trafodaethau pellach fwriedir gario ymlaen. Nid yw yn hysbya a, gynhelir cynhadledd o'r gwahanol bleid- iau ai peidio, ond penderfynir hyny gan Mr. Lloyd George. Pe gellid rhoddi terfyn ar yr ymgecru a'r anhunedd parhaus yn yr Iwerddon, byddai yn ddymunol iawn i bawb. FFYRNIGRWYDD \Y GERMANIAID YN VERDUN. Yn ol yr adroddiadau o Verdun ddydd lau, mae y Germaniaid yn parhau i ym- osod gyda ffyrnigrwydd gwallgtofus yn Verdun a'r amgylcliopdd. Rhua y mag- nelau ddydd a nos yn ddidor ar ddwy ochr yr a.foll, ae i'r gogledd o chwareli Han- dromont mae y Germaniaid wedi meddianu un o ffosydd y Ffrancod. Pa fodd bynag, mae ein Cynghreii~wyr wedi enill ychydig yn Cumieres. Addefir yn gyffredinol fod y brwydro presenol yn Verdun yn fwy fiyrnig a phenderfynol na dim a, weIwyd o'r blaen, ond mae y Ffrancod yn hyderus iawn am y canlyniadau. Gymaint yw siomedigaeth y Tywysog Coronog ar ei aflwyddiant blaenorol, fel y mae yn aberthu catrodau o'i wyr yn yr ymdrech i adenill yr hyn a gollwyd, ac y mae llech- weddau y bryniau yn orchuddiedig gan gyrff y milwyr Bavaraidd ydynt wedi bod yn cynorthwvo v Germaniaid. Er fod