Collection Title: Llan

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 2 of 8 Next Last
Full Screen
5 articles on this page
CWRS Y RHYFEL

collodion y Ffranood yn drwm, nid ydynt i'w cymharu a cholledion y Germaniaid, y rhai sydd wedi gwanhau yn rhyfeddol y dyddiau diweddaf. Mae y ffaith fod 57 o gerbydresi llawn o glwyfedigion German- aidd wedi gadael Verdun am Germani yn dangos effeithiau y brwydro caled sydd wedi cymeryd Ile- CAMDRIN CACHARORION PRY- DEINIG YN GERMANI. Yn Nhy y Cyffredin, ddydd Iau, galwyd sylw at greulonderau y Germaniaid tuag at garchaxorion Prydeinig yn Ruhleben, lie na dderbynient ymborth digonol er eu cynhaliaeth. Cyfeiriodd Arglwydd New- ton hefyd at y siefyllfa adfydus yn Nhy yr Arglwyddi. Dywedai yn bendant y dylid gwneyd ymdrechion egniol i ddarbwyllo y Germaniaid i anfon yn ol y carcharorion Prydeinig, a'u cyfnewid hwy am nifer cyffelyb o garcharorion Gennanaidd yn y wlad hon. Yr oedd pob rheswm yn galw ar i hyn gael ei wneyd, gan fod 11a wer o'r rhai a garcherid yn Germani wedi derbyn y fath greulornderu nes colli eu synwyrau. Anfonid sypynau o ymborth, etc., i'r car- charorion gan berthynasau a chyfeillion o'r wlad hon, ond nid oedd eu haner yn eu cyraedd, gan fod eu cynwysiad yn cael eu lladrata. Dangoswyd fod y carcharor- ion Germanaidd yn cael gwell triniaeth yn y wlad hon. Yn ol y mynegiadau yn y Senedd, ymddengya fod y Germaniaid yn ymddwyn yn greulonach o hyd at y car- • charorion anffodua. Y BRENIN SIOR AG YMRESTRU. Mewn cenadwri a gyhoeddwyd gan y Brenin Sior, amlyga foddlonrwydd neill- duol yn y ffaith fod cynifer o'i ddeiliaid wedi arddangos y fath deyrngarwch, gan fod 5,041,000 o honynt wedi ymrestru yn wirfoddol yn y fyddin. Yr oedd ei fawr- hydi yn gwbl hyderus y byddai i'r ysbryd ardderchog oedd wedi cael ei ddangos gan ei bobl fodoli hyd nes y sicrheid buddugol- iaeth i ddiogelu heddwch Ewrop. DYDD SADWRN. BRWYDRO YN YR AIPHT. Derbyniwyd newyddion am frwydr ben- derfynoli yn y Sudan Aiphtaidd. Yr oodd. Swltan Dar-Fur wedi crynhoi gallu cryf ar ffindir Kordofan, ac ymosodwyd arnynt gan filwyr Prydeinig, gan eu gorchfygu, a gorfodi y gweddill i ffoi. Dywedir fod mil o leiaf o'r gelyn wedi eu cymeryd yn gar- charorion. $ Y BRWYDRO YN FFRAINC. Mae y brwydro yn Verdun yn cael ei gario ymlaen yn ddibaid, ar Germaniaid yn rhoddi ar waith bob dyfais i orchfygu y Cynghreiriaid. Ymdrecha y German- iaid wneyd i fyny eu oolledion yn Douau- mont, a hawliant eu bod wedi gyru yn ol yramddifIynwyr i'r de o'r amddiffynfa, ac wedi cymeryd 600 o garcharorion. Ad- roddir fod y Ffrancod wedi liwyddo yn dda rhwng coedwig Hudromont a fferm Thiau- mont, ac wedi adenill ffos a gymerwyd oddi arnynt gan y gelyn y dydd blaenorol. I'r gogledd o'r fferm gwnaed dinystr gyda than-belenau, a chymerwyd rhai carchar- orion. Y RWSIAID YN Y CAUCASUS A MESOPOTAMIA. Hysbysir fod y Rwsiaid yn hynod Iwydd ianus yn y Caucasus ac yn ^Mesopotamia. Maent ar hyn o bryd wedi ymgasglu rhwng Diarbekr a Mosul, ac wedi gwahanu y llinell Dyrciaidd rhwng y ddwy dref uchod. Mae yr ymosodiad yn Mesopotamia wedi ei rwyddhau yn fawr drwy ddefnyddio. y rheilffordd Bersiaidd, a gellir disgwyl can- lyniadau pwysig yn fuan yn y partb.iu hyny, pan fydd y Rwsiaid a,'r Prydeinia:d yn cyd-daro yn erbyn y gelyn. Mae can' mil o'r milwyr Tyrciaidd mewn helynt blin drwy eu gwahaniad, a bydd yn anmhosibl i adgyfnerthion gael eu hanfon i'w g waredu. Maent wedi apelio am gy- northwy at Germani, ond nis gall y wlad hono estyn unrhyw ymwared iddynt. Dy- wedir fod sefyllfa y Tyrciaid yn y Caucasus yn ddifrifol iawn, a phan gyrhaedda y galluoedd Rwsiaidd i uno a byddin y Cad- fridog Gorringe yn nghyffiniau Kerman- shah, ychydig fydd dylanwad y Cadfridog Mackensen yno, gan fod achos y Tyrciaid yn anobeithiol. CYRFF GERMANAIDD. Newyddion o Amsterdam a fynegant fod 19 o gerbydresi yn llawn o gyrff meirw Germanaidd wedi cyraedd Serating o gyffiniau Bryn 304. Gosodwyd hwy mewn ffwrneisiau i gael eu llosgi. Swyddog Germanaidd uchel! a ddywed fod y Ger- maniaid wedi gadael 1,700,000 o gyrff ar faes yr ymdreohfa yn Verdun, ac naa gall y Germaniaid oddef y syniad o ymadael o Verdun, gan yr ymddangosai hyny fel yn addefiad o 6rchfygiad. SUDDO PYMTHEG 0 AGERLONGAU GROEG. Mae teimladau cyffrous wedi eu hachosi yn Groeg gan y newydd fod sudd-longau Germani ac Awstria wedi suddo pymtheg o agerlongau Groeg yn ystod y rhyfel bre- senol. DYDD LLUN. Y BWLGARIAID YN YMOSOD AR GROEG. Mae 25,000 o'r Bwlgariaid wedi croesi y ffiniau i Macedonia, Groeg, rhyw 50 milldir i'r gogledd-ddwyrain o Salonica. Aethant drwy fwlch cul Rupel, ac ar un- waith cymerasant feddiant o Demir Hissar. Dywedir fod gallu cryf o filwyr Bwlgaraidd wedi ymgaaglu yn Xanthi, ar ffiniau dwyreiniol Groeg, y rhai a fygyth- iant KavuELa. Ni wyddai awdurdodau Groeg ddim am fwriadau y Bwlgariaid, gan fod gwifrau y pellebyr wedi eu tori, ond adgyweirir hwy ar unwaith. Y RWSIAID YN YMLID Y TYRC- IAID. Yn y Caucasus, ddydd Gwener, ym- drechodd y Tyrciaid, yn cael eu cynorth- wyo gan y Kurdiaid, ymdaith o Mosul yn nghyfeiriad Serdesht, ond drwy gyfrwng bidogau a meirchfilwyr darbwyllodd y Rwsiaid hwy i ddianc gyda phob brys, gyda, cholledion trymion. PENDERFYNIAD ROUMANIA. Hysbysir fod Gweinyqdiaeth Roumania wedi dyfod i benderfyniad i beidio gwneyd unrhyw drefniadau mcsnachol a Thwrci na Bwlgaria. MARWOLAETH Y CADFRIDOG GALLIENI. N ewyddion o Paris a fynegant fod y Cadfridog Gallieni, cyn-Weinidog Rhyfcl Ffrainc, wedi marw. Cofir am y Cadfridog dewr hwn cm c-mscr maith, gan iddo gyf- la,wni gwrhydri ar ddschrcu y rhyfol pan fygythiodd y Germ aniaid gymeryd Paris. Efe ydoedd y llywodrasthvTr r y pryd, ac anfonodd ci filwyr i roddi atalfa ar Von KTuck a'i wyr, a. thrwy hyny achubwyd Paris rhag cael; ci meddianu gan y gelyn. DYDD MAWRTH. Y SEFYLLFA YN VERDUN. Ar doriad gwawr ddoo, yr oedd Tywyoog Coronog Germani yn dechrou ei ganfed dydd o'r ymosodiad ar Verdun. Dechreu- odd y frwydr ynghanol eira, ac y ma,e wedi parhau hyd boethder haf. Amcangyfrifir fod y Germaniaid yn colli tair mil o wyr bob dydd, fic oto doingys y newyddion swyddogoll heddyw eu bod yn dyheu am ragor o ymosodiadau. yn eu nawydd i fcddianu Verdun. Er eu holl ymoaod- iadau, nid ydynt agosach i gyraedd eu hamcan nag ooddynt yn mis Chwofror. Dywedir fod ymosodiadau ffyrnig i gael eu gwneyd gan y Gormaniaid yn y dyfodol agos, ond nid yw yr hysbysrwydd yn peri unrhyw flinder i'r Ffranood. YMOSODIADAU MORAWL AC AWYRAWL AR BRYDAIN FAWR. Hysbysodd Mr. Samuel yn Nhy y Cyffredin ddydd Llun, mewn atebiad i Mr. Kellaway, ganlyniadau yr ymosodiadau a wnaed ar y mor ac yn yr awyr oddiar ddechrcu y rhyfel:— I TRI YMOSODIAD O'R MOR. Lladdwyd. Dynion .+ 61 Gwragedd 40 Pla.nt .L 40 Clwyfwyd 611 46 0 YMOSODIADAU AWYRAWL. Lladdvryd. Dynion 222 Gwragedd 114 Plant 73 Clwvfwvd 1005 J J Gwna hyn gyfanrif o 550 o bersonau wedi eu lladdj a 1616 wedi eu clwyfo. DYDD MERCHER. YMOSODIADAU GWALLGOFUS Y GERMANIAID YN VERDUN. Mae y Germaniaid wedi derbyn ad- gyfnerthion cryfion yn Vordun, ac yn gwneyd ymosodiadau gwallgofus a llof- ruddiog yn barhaus, ond nid ydynt yn enill dim, gan fod y Ffrancod yn gweithredu yn benderfynol yn eu herbyn. Gwnaed llawer o ymosodiadau ar yr amddiffyn- feydd, a symudodd y milwyr Ffre.iigig i Bethincourt a Cumieros. Er yMidrechu yn galcd lawer gwaith, methodd y Ger- maniaid yn eu ceisiadau i ymlid y Ffrancod o Cumieros. Yn ol pob hanes, nid oes gan y Germaniaid y gobaith lleiaf o enill Verdun, ac y mae eu colledion yn cynyddu bob dydd. BYDDIN SERBIA YN SALONICA. Newyddion o Paris a, fynegallt fod yr oil o fyddin Serbia wedi cu symud i Salonica o Corfu. Telir gwarogaeth uchel i Lynges Ffrainc am y modd llwyddianus y cludas- ant hwy o'r naill fan i'r llall. Y BWLGARIAID A GROEG. I Teimla y Groegiaid yn ddigllawn oher- wydd fod y Bwlgariaid yn bygwth eu gwlad, a deisyfant ar y Llywodraeth i roddi heibio eu penderfyniad aiinihleidiol

Yn Nyffryn Teift

Yn Nyffryn Teift. (Gan Jonx Y GWAS). V HENLLAN.. Yr wythnos ddiweddaf cadwyd pwyllgor yn Ysgoldy Aberbanc o gynrychiolwyr Ysgolion Suli Eglwysig Llangynllo, Llandyfriog, Llanfair Or- Uwyn, Henllan, a. Bangor Telfi. Amcan y cyfarfod oedd trefnu gwaith yr adarn hon o Undeb yr Ysgolion Sul. Dewiswyd y Parch. E. O. Jones, Llangynllo, yn llywydd; Mr. Enoch Oliver, Gilwen Ter- race, yn drysorydd; a'r Parch. E. J. Davies, Bangor a Henllan, yn ysgrifenydd. Trefnwyd i gadw cynhadledd yn Bangor yn Mehefin> a chyfarfod cyjioeddus yn yr hwyr, pryd y oeir anerchiad gan y Parch. E. J. Da,vies. PENBOYR.—Dydd Sul diweddaf, yn St. Barnabas a Penboyr, pregethwyd gan y Parch. E. Teify Evans, offeiriad ieuanc ac addawol o Cwmllynfell. Da oedd genym weled Pte. T. A. Davies, Wernlwydd, gynt o Goleg Dewi Sant, adref ar ei wyl- iau. Heddyw (dydd Llun) aeth Mr. E. Powell, C.M., Velindre C. of E. School, ymaith i uno a'r fyddin. Eiddunwn iddo bob llwydd. Y Sul diweddaf, yr oedd y Parch. D. Jenkins, rheithor, yn gwasan- aethu yn Brynamman. YMBARATOAD. Yn Eglwys Henllan, ddydd letu diweddaf, bu gwasanaethau o ymbaratoad ar gyfer y Genhadaeth fedwir yn yr Hydref. Trefn y gwasanaethau.oedd Cymun Bendigaid am wyth, cyfarfod i ddynion yn y boreu, gwasanaeth i'r gwragedd yn y prydnawn. a, gwasanaeth cyffredinol yn yr hwyr. Anerchwyd y cynulliadau yn efféthiol iawn gan y Parch. E. Lloyd, rheithor Llanllwchaiarn. Caf- wyd cynulliad gwych ymhob gwasanaeth. Bu gwasanaethau cyffelyb yn Bangor Teifi. MILWROL.—Da oedd gan ei luaws cyfeill- ion wered Staff.-Sergt. David Jones, Waunderwen, Henllan, adref am dro wedi misoedd o brofiad yn Ffrainc. Edryohai yn rhagorol, a theimlai yn 'ga,lonogol. Un arall groesawyd adref yr wythnos hon oedd CPte. Tom., Thomas, Lan attage, Tre- bedw, yr hwn sydd o dan ymarferiad yn Rhyl. Campus yw meddwl fod nifer dda o aelodau Henllan wedi ymrestru tan faner eu gwlad. LLANGYNLLO. Pruddaidd iawn yw croniclo hanes marwolaeth yr eneth fechan Ditiah Margaret, merch Mr. a Mrs. Beesley, Post Office, Measllyn, yn yr oed- ran cynar, bron deng mlwydd ced. Yr oedd pawb yn ffrynd i'r un fach oedd mor knwyl yn isercwada.u( ei rhieni. Dydd Mawrth, cymerodd y gladdedigaeth le yn mynwent Llangynllo. Gweinyddwyd gan y Parchn. E. O. Jones, rheithor, a T. Davies, Horeb. Cafodcl-aiagladcl parch us, ac yr oedd plant Ysgol Ddyddiol Coedy- bryn a'r athrawesiau yn bresellol, a chan- asant yn swynol iawn. Y galarwyr oedd- ynt Mr. a, Mrs. Beesley (rhieni) a'r plant; Mr. Beesley, Bronwydd (taid) Mr. a Mrs. Jones a'r teulu, Tonypandy (ewythr). Yr oedd 25 o flodeudyrch wedi eu danfon, yn cynwys rhai odduprth Lady Lloyd and family, Bronwydd; Miss Butt, Mr. Beesley (taid), ac aelodau Ysgol Sul St. Cynllo. Estynir y cydymdeimlad llwyraf a'r per- thynasau, a, boed iddynt nerth i sugno eu Jcysuron o'r meddwl ,hapus fod eu han- wylyd fechan wedi ei symud yn gynar o fyd poen a dolur i wlad hedd a llawenydd. Dymuna y teulu ddatgan eu diolchgarwch i'w haml gyfeillion am eu cydymdeimlad caredig. CASTELLNEWYDD-EMLYN.—Dydd Iau di- weddaf, leu yr Hybarch Archddiacon Williams yn Eglwys y Drindod Sanctaidd yn gosod y Wardeniaid mewn swydd. Cymerwyd y gwasanaeth gan y Parch. G. Evans, D.G., a chafwyd anerchiad difrifol ac amserol gan yr Archddiacon.

LLANBEDRPONTSTEPHAN

LLANBEDR-PONT-STEPHAN. BRAWDLYS SIR ABIERTEIFI.-Mewn cysyllt- iad a'r frawdlys. aeth y Barnwr Ridley, yr uchel-sirydd (Mr. H. M. Vaughan), Llan- goedmore; y Parch. Llewellyn Davies, rheithor Llangoedmore (caplan yr uchel- sirydd), i'r Eglwys am 11.30 foreu Sul, pryd y pregethwyd gan y caplan. Foreu Llun, agorwyd y frawdlys yn y Neuadd Drefol. Cyhuddwyd Evan John Jones, 16 mlwydd oed, o achosi marwolaeth Miss Julia Harris drwy ei saethu. Yr oedd priodas yn cael ei ddathlu, pan y gollyngwyd amryw ergydion, ac yn ddamweiniol saethwyd Miss Harris, a bu farw cyn pen ychydig funydau. Dych- welwyd rheithfarn o I Ddletiog,' a rhyddha- wyd y bachgen, ac awgrymodd y rheithwyr y dylai mesurau gael eu mabwysiadu i roddi terfyn ar saethu ar achlysuron o'r fath. Cy- merodd digwyddiad brawychus le yn y Neuadd Drefol yn ystod y frawdlys, gan i Mr. R. Geddes Smith, cyfreithiwr, Aberys- twytb, syrthio i lawr yn farw yn y llys. Symud wyd y corfI i westy y Llew Du yn ebrwydd, ac am 6 yn yr bwyr cynhaliwyd trengholiad ar y corff yn Neuadd y Dref gerbron Dr. Lloyd, trengholydd, Tregarou, a deuddeg o reithwyr, blaenor y rhai ydoedd Mr. Roderick Evans. Cafwyd tystiolaotbau gan Mr. H. Hughes, cyfreitbiwr, Aberystwyth, a Mr. J. Emrye Jones, cyfreithiwr, Llanbedr, i'r perwyl fod y trancedig ) n eisted,t rhyng- ddynt yn y llys, ac yn sydvn canfyddwyd ef yn pwyso ar y naill a'r llall, a bu farw cyn i feddyg gyraedd. Datganojd Dr. Powell, Aberteifi, mai .ei farn ydoedd i Mr. Smith farw mewn canlyniad i appoplexy, a phasiwyd rheithfarn yn unol a'r golygiad meddygol. Ar gynygiad Mr. Roderick Evans, eiliad Mr. Walter Daviea, a chefnog- iad y trengholydd, pasiwyd i anfon pleidlais o gydymdeimlad a Mrs. Smith a'r teulu yn eu cyfyngder, ac ymgymerodd Mr. Hugh Hughes, cyfreithiwr, Aberystwyth, yn gared- ig a'r gorchwyl o gludo y genadwrl i Mrs. Smith a'r teulu. Y FARCHNAD FISOL.-Daeth nifer dda o brynwyr ynghyd i'r farchnad fisol ddydd Llun, ond prin mewn cymhariaeth ydoedd y perchyll. Yn gynar ar y dydd, gwerthwyd perchyll dau fis oed am 35s. y pen, ond cyn deuddeg o'r gloch yr oedd y prisiau wedi codl i 42s. y pen. Gwerthid hwyaid am 7s. 6c. y, cwpl; hen leir, 5s. y cwpl; ieir ieualnc, 6s. y cwpl.—X.

PORTHMADOG AR CYLCH

PORTHMADOG A'R CYLCH. NEWID DAU BLWYF.—Y mae yn dda genyf am ddyrchafiad y Parch. R. Hughes, M.A., ein curad henaf, ar ei symudiad i fod mewn gofal o blw/f Criccieth yn ystod absenoldeb yr Hybarch J. Lloyd Jones, Archddiacon Meir- ionydd, am dri mis yn Nghanondy Bangor. Bydd yn chwith iawn genym yn Mhorthmad- og am ymadawiad Mr. Hughes, wedi bod o hono yn llafurlo yn ein plith am gynifer o flynyddoedd, gan ei fod yn ymwelydd oyson &'i ddeiliaid, a bydd yn chwith gan lawer am wyneb siriol a llawen bob amser, a dymunaf bob llwyddiant ac iechyd iddo yn ei faes newydd yn Neoniaeth Effionydd. MARWOLAETH A CHLABDEDIGABTH.— Gyda gofid y deallais am farwolaeth Dr. Harry Rathbone Griffith, Tanyronen, Porthmadog. Derbyniwyd y newydd trist foreu Mawrth, y 23ain cynfisol, gan gydnabod, a lledaenwyd y newydd fel trydaniaeth drwy ein tref yn gyf- lym. Yr ydoedd yn ddyn a gwen ar ei wyneb bob amser, ae efe ydoedd meddyg gweithwyr yr ardal, a byddai yn cyflawnl ei swydd bwys- 19 pa bryd bynag y gelwid arno. Yr oedd wedi ymuno & chatrawd yr R.A.M.C., ac yn swyddog gyda hwynt yn Nghroesoswallfc. Dydd Llun, yr 22ain cynfisol, rhedodd ei ysbryd at yr Hwn a'i rhoe., ac efe yn glaf yn yr ysbytty yn Press Heath, yn Whitchurch, ac yn 61 mlwydd oed. Mab ydoedd Dr. Griffith i'r diweddar Barch. Joseph Griffith, periglor Pentraeth, Sir F6n. Addysgwyd ef yn Ngholeg Crist, Aberhonddu, a graddiodd yn M.D. o Goleg y Drindod, Dublin. Olynodd y diweddar Dr. Henry Evans yn Mhorthmadog yn IoDawr, 1899. Felly bu yn ein plith am edros 17 mlynedd. Ymbriododd yr un flwyddyn a Miss Lily Jones, merch ieuengaf y diweddar Dr. J. E. Jones, Brynffynon, Dolgellau, a gedy i alaru ar ei ol briod, un mab, ac un ferch. Ymunodd &'r gwirfoddol- wyr, a bu yn un o gwnstabliaid ein tref cyn ymuno o hono A'r R.A.M.C. Hefyd yr ydoedd yn aelod o'r Seiri Rhyddlon, Madoc Lodge. Bwriadwyd claddu ei weddillion yn nghladdfa y teulu yn Bettws-y-coed, ond nid ydoedd lie, a chladdwyd ef yn Nghroesoswallt, ac aeth ein ficer, y Parch. J. E. Williams, M.A., Dr. Green, Dr. Pierce Jones, a Mr. D. Breese, Saethon, i gynrychioli ein tref yn y gladdedigaeth. Huned mewn hedd.-Gess- ianwr.

Digon wedi ei ddweyd

Digon wedi ei ddweyd! Sicrwydd Adnewyddol yn boddhau Llanbedr Nid oes unrhyw reswm arall yn aiigen- rhcidiol. Yr oil otdcl gan bobl Llanbedr eisieu gwybod ydoedd a fyddai i fynegiad Mr. Jones yn 1909 gael ei wireddu yn ddwbl gan amser. Profodd felly. Beth amgen sydd yn angenrhoidiol na'r prawf dwbl roddir yma. Dyma brpAvf Llanbedr: Ar Chwefror 5cd, 1909, dywedodd Mr. D. Jones, o'r "Britannia," gerllaw Ysgol y Bechgyn, Bryn Road. Llanbedr:—"Yr wyf wedi bod yn dioddof poenau yn fy nghefn, ynghyd ag ymosodiadau achlysurol o bensyfrdandod. Ar yr adegau hyny, 3 blinwn yn hawdd, ac nid oedd genyf awydd o gwbl at waith. "Priodolwn yr arwyddion hyn i an- hwylder yr elwlonod, ac wedi i mi ddarllen haucs am Dean's backache kidney pills, gwnaethum fy meddwl i fyny i roddi prawf arnynt. Cariais allan fy mwriad, a hyny gyda'r canlyniadau goreu. Ciliodd y poenau yn fy nghefn yn ddioed, a chefais waredigaeth lwyr o'r arwyddion ereill. Da. •' gonyf hysbysu na chefais ail-ymosodiad o'r anhwylderau. Bydd i belcni Doan gael fy nghymeradwyaoth galonog. "(Arwyddwyd) D. JONES." Arl Ch wefror 11 eg, 1916-saith mlynedd yn ddimeddarach-dy wed odd Mr. Jones :— Ar ol fy mhrofiad am saith mlynedd o beleni Doan, yr wyf yn eu cymer- adwyo gyda phob hyder ar gyfer anhwylderau yr elwlenod." NID yw Doan's backache kidney pills wedi eu bwriadu ar gyfer rhwymedd, an- hwylder yr afu, nac anhwyldcr yr ystumog. Maent yn hollol at anhwylderau yr elw- lonod a'r yswigen, megis dropsi, grafel, gwaddodion yn y dwfr, anhwylderau I dyfrol, poen yn y cefn, y gymalwst, cryd- cymalau, a dyfroedd gwenwynig. Rhwydd- ant yr elwlenod a'r yswigen fel ag y gwna cyffeiriau rhyddhaol yr yniysgaroedd. Pris, 2s 9c y blychaid, gan yr holl fas- nachwyr, neu oddiwrth y Foster-McClellan Co., 8, Wells Street, Oxford Street, London, W. Peidiwch gofyn am backache neu kidney pills,- -O,fynwch yn bendant am DOUH'H backache kidney pills, yr un fath rai ag a gafodd Mr. Jones.