Collection Title: Llan

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

Image 1 of 8 Next Last
Full Screen
1 article on this page
CWRS Y RHYFEL

CWRS Y RHYFEL. ] ADOLYGIAD YR WYTHNOS. GORCHESTWAITH RWSIA. EI EGLURO YN NGHYMRU. EI WERSI YN Y GORLLEWIN. BRWYDRO ETO AR Y MOR. ABERTHU I MOLOCH YN VERDUN. PAHAM Y GWNEIR. Pan yn ysgrifenu yr erthygl am yr wyth- noa ddiweddaf dywedais fod ymosodiad mawr Rwsia. wedi dechreu, ac wedi dechreu ynaddawcfl iawn, yn gymaint a bod 60,000. o'r Awstriaid wedi cael eu cymeryd yn gar- charorion. Awgrymais hefyd y oeid cweled fod buddugoliaeth fawr Llynges liydain yn Mor y Gogledd, yn debyg o ddylanwadu yn amliycach fyth ar GWTs y Dengys hanes yr wythnos ddiweddaf fod yr olwg a gymerwyd ar y aafle yn yr erthygl bono yn hollol gywir. Parhau i fyned rnagddynt yn eu llwyddiant digyffelyb y maw y Rwsiaid. Erbyn hyn maent wedi cymeryd DROS 120,000 0 GARCHARORION ae wedi gyru yr Awstriaid ar ffo, a'r Germaniaid i fraw a dychryn. Er mwyn i'r darllenydd ddeall yr am-1 gylbhiadau oeiaiaf ddarlunio y safle mewn cyffelybiaeth yn Nghymru. Yr ydya wedi egluro droion yn yr erthyglau hyn fod y Germaniaid a'r Awstr- iaid yn wynebu y Rwsiaid ar hyd llinell hir yn ymestyn am o 700 i 800 milltir o Tor y Baltic i gyffiniau Rwmania. Mewn cyffelybiaeth nid yw y llinell hon yn an- hebyg i linell y rheilffordd o Gaør. (Chester) i Gaerdydd, ond fod yr Am- wythig (Shrewsbury) amryw filltiroedd yr ochr draw i'r rheilffordd, a bod y pell- teroedd lawer yn fwy nag ydynt ar y llinell ymddangoeiadol yn Nghymru. Yn awr meddylier mai Cymru yw Rwaia, ac mai canolbarth Uoegr yw Awstria, a Gogledd Lloogr yw Germani, tra Siroedd Iforganwg a Mynwy, a Chaerloew (Glo&- ter) yw Rwmania. 0 ran lleoliad y naill i'r llall o'r gwledydd mae y darlun yn ddigon cywir i alluogi'r darllenydd i ddeall yr amgylohiadau. Wele eto dabl o enwau Ucoedfl ddont yn bwysig yn hanes y brwydro presenol a dyfodol yn ymgyrch mawr Rwsia. Rusk yw Lerpwl. Brest Litovsk yw Manchester. Kovel yw Chester. Kolki yw Corwen. Lutsk yw Ruabon. Dubno yw Croesoewallt (Oswestry). Lemberg yw'r Amwythig (Shrews- bury). Praemysl yw Stafford. Stainslaw yw Craven Arms. Potok Slotz yw Knighton. Tchernowits yw Henffordd (Hereford) Mae y manau hyn oil yn Gyffyrdd (Junctions) pwysig af y rheilffyrdd-ac I r eawl sydd wedi dilyn yr erthyglau hyn mae pwysigrwydd rheilffyrdd a chyffyrdd yn y Rhyfel presenol yn ddigon amlwg. Diwedd Mai a dechreu Mehefin, h.y., ar yr adeg y oymerodd y Frwydr Fawr ar y mor le, rhedai Byddinoedd Germani ac Awstria o Rusk (Lerpwl) heibio Kolki (Oorwem), Dubno (Croesoswaflit), Polok Sloty (Knighton) a Tchenowits (Hen- ffordd). Os majrciwoh y llinell yna ar y map gwelwcli ei bod yn rhoi yn Haw y gelyn ddarn helaeth o Rwsia (Cymru'. Heddyw, fel canlyniad buddugoJiaethau Rwsia yn y pythefnos diweddaf ceir Kolki (Corwen', Lutsk (Ruabon). Dubno (Croes- oswaut), a Potok Sloty (Knighton) oil wedi cael eu henill yn 01; oddiar y gelyn o fewn y pythefnos. Y BYLCHAU MAWR A DORWYD. Os sylwn eto'n fauylach ar y ddwy linell, gwelir fod Rwsia wedi tori dau fwlch mawr vn 13inell Awstria, 1. Y blwoh o Kolki i Lutsk (sef o Gorwen i Ruabon), a 2. Y bwlch yn neai i'r deheu o Potok Sloty (Knighton) i Koropets (Y Cnwo Glasi—Knucklas). Sylwer eto ymhellach fod yr crgyd mawr o Gorwen i Ruabon yn gwneud dau beth, sef: (a) Agor y ffordd tua Chaer (Kovel), tua'r gogledd, a (b) Dechreu agor y ffordd tua'r Amwythig (Lemborg) tua'r de- heu. Drwy dori'r bwlch hwn hefyd torwyd y cysylltiad rhwng Byddin Germani ar y gogledd, a Byddin Awstria ar y dde. Yn y bwlch hwn hefyd yr amgylchwyd ao y daliwyd y rhan fwyaf o'r 122,000 carcharorion Awstriaidd y soniwyd am danynt uohod. Edrycher eto ar YR AIL FWLCH MAWR, sof o Knighton (Potok Slaty) i gyfeiriad Craven Arms (Sta,inslaw). Gwelir fod y bwlch hwn eto yn gwneud dau beth neu dri, sof (a) Bygwth Craven Arms (Stainslaw). (b) Tori tua.'r deheu i'r Amwythig (Lemberg). (c) Tori'r Ilinell tua)r goglodd o Heaiffordd (Tchemowitz). Cofier eto ymhollach :— 1. Mae Tchemowitz (a ysgrifenir weithiau Czernowitz), yw prif ddinas Talaeth fawr Bukowina sydd yn oiddo Awstria. 2. Fod Awstria wedi cynull yno Fyddin gref a chyfarpar rhyfel difesur. 3. Naa gall y Fyddil1 Awstriaidd yn Chemowitz gilio yn ol ond yn unig i gyfeiriad y gorllewin. gan fod y Rwsiaid yn eu hwynebu ar y ddwyrain a'r gogledd, a bod tir- ioaeth Rwmania. (Siroedd Mor- ganwg a Mynwy a Chaerloew) yn yr ymyl tua'r dehesu. Pe croeaai'r Awstriaid y terfyn i Rwmania, wrth ffoi rhag y Rws- iaid, rhaid a fyddai iddynt iMio eu hunain yn garcharorion i Rwmania hyd ddiwedd y Rhyfel -yn hollol yr un modd ag y car- charwyd yn Roland y Bclgiaid a.'r Prydeinwyr a ffoisant yno pan gwympodd Antwerp. Heddyw daw'r kanes fod Byddin Rwsia gan adael Stanialaw ar hyn o bryd yn llonydd, yn troi tua'r deheu, i gyfbdriad Tchemowits (Henffordd) gyda'r bwriad o geisio moddianu y rheilffordd y tu ol i Tchemowits, ar hyd yr hon y rhaid i'r Awstriaid ffoi, os ffoi a wnant. Os llwyddir yn yr amcan hwn cymerir mwy o garcharorion ac o gyfarpar rhyfel gan y Rwsiaid yn mrwydr Tchemowitz nag a gymorwyd ganddynt yn mrwydr fawr Lutsk ei hun. A heddyw daw'r hanes fod Tchemowitz wedi syrthio ar ol brwydro cledd ynghledd a bidog ymidog yn ystrydoedd y drof. Dywedir hefyd heddyw fod y Rwsiaid yn gwthio ymlaen yn gybym o Lutsk (Ru- abon) tua Kovel (Chester) a'u bod cisoes o fewn llai nag ugain milltir i'r lie. Os gwir hyn gellir gobeithio gweled Kovel hefyd yn syrthio yn fuan. Mae Kovel yn lie mor bwysig i'r ddwy blaid ag a fyddai, dyweder Crewe pe bae, ymladd yn y wlftd hon. Edrycher ar fap y i-heilffordd a gwelir pwysagrwydd Crewe. Pe'r Saeson yn yni- osod ar Gymru, gallasent o Crewe yru cyf- arpar rhyfel ac adgyfnerthion ar hyd y rheilffyrdd i Gaer, a Rhyl, a Dinbyoh, a Ruabon, a Chorwon. Pe'r Cymry yn ym- osod ar Loegr, gallasent ar ol moddianu Crowe, yru adgyincrthkm a chyfarpar tua Lerpwl,, a Manchester, a Stafford. Rhywbeth tebyg i'r uchod ydyw medd- iant Kovel i'r Germaniaid, ac a fyddai ei h-enill yn awr i'r Rwsiaid. Kovel oedd ystordy milwrol mawr y gelyn i gyflenwi Rusk (Lerpwl), Kolki (Corwen), Lutsk (Ruabon), a Dubno (Croesoswallt). Cy- ffelyb iddi mewn pwysigrwydd yn Buko- wina yw Stainslaw (Craven Arms) a phwysicach na'r ddau yw Lemberg (Shrewsbury). Oa enillir Kovel (Chester) yn y gogledd, a Shainslaw (Craven Arms) yn y deheu, bydd yn gyfyng iawn ar Lemborg (Shrewsbury). GWERSI LLWYDDIANT RWSIA I NI. Ceir gwersi gwerthfawr i ni a'n Byddin yn Ffrainc yn llwyddiant mawr Rwsia yn tori y ddau fwlch mawr a nodwyd yn rhengoedd y gelyn, Yr oedd lllawer, hyd yn oed o'r awdur- dodau milwrol, wedi dechreu credu fod rhes ar ol rhea o warchffosydd yn ei gwneyd yn anmhosibl i ymosodydd, boed cyn gryfed ag y bo, i dori trwodd. Gwelid mai felly y mae tua Verdun, lie mae'r Germaniaid yn curo wrth y porth ddydd a nos er's pedwar mis. Gwelsom ninau yr un peth Uynedd yn y Capel Newydd (Neuve Chappelle) a Loos. Llwyddasom ar draul colledion anferth, i dori trwy rheng gyntaf: ac ail reng y gelyn yn y ddau. le, ond methwyd gwthio ymlaen drwy'r drydedd reng,—ac ail ffurfiwyd llinell y gelyn yn gadarnach nag ydoedd cyn yr ymoaodiad. Felly, tybiai JIawer mai gwarchae am gyfnod diddiwedd a fyddai raid wneyd yn Ffrainc gan nad oedd obaith llwyddo i dori trwodd. Am yr un rheswm hefyd ychydig, yn wir, y nesaf peth i ddim, a wnaeth y Gwyr Meirch yn y Rhyfel yn Ffrainc er's dros flwyddyn. Mae Catrodau y.Gwyr Meirch wedi oael eu troi yn wyr traed i ymladd yn y gwarchffosydd fel Infantry. Ond mae'r Rwsiaid wedi dangos mai camgymeriad yw"r ddau. Profasant ddau beth gwerthfawr, sef: 1. Ei bod yn bosibl tori drwy reng- oedd cadarnaf y gelyn, i ddyfnder o filltir, neu ddwy, neu dair, fel a wnaed yn Loos a Neuve Chap- pelle, ond am ddeg, ugain, neu ychwaneg o filltiroedd. 2. Fod gwaaanaeth Gwyr Meirch mor bwysig yn y Rhyfel presenol ag a fu erioed. Amddiffynid llinell Byddin Awstria- gan o bymtheg i ddeunaw rhes o ffosydd, gyda dyrysni gwifrau cryf rhyngddynt. Ond torodd y Rwsiaid drwyddynt oil. Weli tori drwy yr amddiffynfeydd hyn, rhuthr- odd y Cosaciaid,—Gwyr Meirch Rwsia-i mewn, gan wthio ymlaen ar eu bunion nes myned o'r tu oefn i'r Awstriaid oedd yn amddiffyn y llinellau. Dyna'r modd y daliwyd cynifer o garcharorion. Heb gymorth Gwyr Meirch anmhosibl fuasai dal chwartor,y carcharorion a ddaliwyd y pythefnos diweddaf. PA FODD Y TORODD TRWODD. Dengys hanes ymgyrch mawr y Rwsiaid fod eu llwyddiant i'w briodoli i ddau beth, sef: 1. Cyflenwad digonol o gyflegrau trymion, gydag ystor ddihysibydd o shels nerthol; a 2. Tori'r bwlch yn ddigon llydan fel na allai'j* Fyddin ail ymuno yr ochr draw i'r bwlch cyn i'r Gwyr Mearoh ruthro drwy'r bwlch llydan. A chyda hyn, fod digon o adgyfnerthion yn barod wrth law i ruthro ymlaen i gynorthwyo bob tro, ac ymhob man, y bo galw. Dywedir na bu erioed, oddigerth o am- gylch Verdun, y fath ufferno dan ag a daflwyd gan y Rwsiaid i lineJlau yr Awstriaid, chwalwyd yr holl warchglodd- iau yn gydwastad a'r llawr; llanwyd yr holl warchffosydd gan y ffrwydriadau nerthol; ysgubwyd yr holl ddyrysni gwifrau ac amddiffynfeydd eraill o flaen y corwynt tan—a hyny ar ffrynt o ddeugain i dri ugain milltir. Yna, trwy y drws mawr agored hyn y rhuthrodd Gwyr Traed a Gwyr Meirch Rwsia i mewn. COLLEDION AWSTRIA. Cyfnfa'r Germaniaid eu hun fod Awsitria wedi colli yn ystod y pythefnos diweddaf ddim llai na 400,000 o wyr yn brwydro ar' Rwsiaid. Mor ddifrifol yr ystyrir y safle fel y gelwid catrodau yn ol ar frys o Mesopotamia, o Gaercystenyn, ac o'r Trentino. Mae buddugoliaeth odidog Rwsia wedi rhoi iddi yspail rhyfel digon i arfogi yn llawn fyddin newydd eto o 250,000. 30,000 ARALL 0 GARCHARORION. Wedi ysgrifenu yr uchod daeth gair fod y Rwsiaid wedi cymeryd 30,000 arall o garcharorion. Mae y cyfranif am y pythefnos diweddaf felly dros 150,000, neu ar gyfartaledd 11,000 bob dydd. Ymihliith y carcharorion oeir un Maeslywydd, tri Chadfridog, 2,500 o awyddogion milwrol. Ymhlith yr yspail mewn cyfarpar rhyfel yn unig ceir 163 o gyflegrau, 266 o machine guns, 130 o beirianau at daflu bombs, a 32 o beirianau at daflu mines, heblaw digon o reifflau i arfogi byddin o 250,000. Cymerwyd hefyd amryw beirianau a cherbydrtesi rheilffordd, gyda'u lwythi o fwyd, dodrefn, a chyfarpar; nifer o beir- ianau chwil-oleu ('search-lighta'); glo, concrete at gryfhau'r gwarchffosydd, can- oedd o dunelli o wifrau pigog, a phethau eraill sy'n profi llwyredd y fuddugoliaeth a sydynrwydd anisgwyliadwy yr ymos- odiad. BRWYDR ARALL AR Y MOR. Dangoswyd yr wythnos ddiweddaf mai un o ganlyniadau buddugoliaeth Llynges Prydain yn Mrwydr Fawr Jutland fuasai gwanychu yn ddirfawr allu ymosodol Ger- mani yn Mor y Baltic. Cafwyd yr wyth- nos ddiweddaf brawf amlwg o hyn. Yr oedd tua dwain o longau masnach, Athaner dwsin o longau rhyfel bychain a dwy criwaer ryfel o eiddo Germani yn eu gwarohod, yn croesi Mor y Baltio tua Libau gan gludo milwyr a chyfarpar i Fyddin Germani yn Libau, pan ymosod- wyd arnynt gan ran o Lynges Rwsia, yn (cael ei chynorthwyo gan nilfer o sudd- longau Prydeinig. Byr fu parhad y frwydr. Suddwyd deg o'r Hongau mas- nach, a'r ddwy oriwser. a ffodd y lleill am nodded i un o borthladdoedd Sweden ger- Uaw. Dengys hyn beryglon Llynges Ger- mani hyd yn oed yn y Baltic. ABERTHU I MOLOCH YN VERDUN. Un o bechodau yageler yr Israeliaid gynt, am yr hwn drosedd llabyldio yn farw oedd y gosp, oedd gyru eu plant drwy'r tan i Moloch. A ohyfrifa'r dyfodol ymhlith peohodau mawr Germani yn y Rhyfel pre- senol yr aberthau diddiwedd yn Verdun, lie dydd ar ol dydd y gyrir ganddi oreuon ei phlant drwy uffern o d&n er boddio uchelgais gwallgof y Caiser. Mewn erthygl yn y LLAN yn ddiweddar rhoddais amcangyfrif colledion y German- iaid wrth geisio enill Verdun yn haner miliwn. Tybiai rhai y ffigwr yn llawer rhy uchel,ond yr wythnos ddiweddaf cafwyd dau gorff swyddog uchel yn Myddin Germani ar faee Verdun ddyddiadur yn yr hwn yr oedd cyfrif swyddogol (ond cyfrin- achol) awdurdodau milwrol Germani yn gosod colledion y Germaniaid o gwmpaa Verdun hyd ddiwedd Ebrill yn 450,000. PAHAM YR ABERTHIR CYMAINT. Parhau wna'r brwydro ddydd a nos o amgylch Verdun, a'r colledion yn daJi yn fawr. Paham ynte y parheir yr ymdrech wallgof sy'n oostio mor ddrud? Ceir yr allwedd i'r dirgelwch mewn dwy neu dair o ffeithiau sydd erbyn hyn yn hvsbys, sef 1. Mae'r awdurdodau milwrol yn aicr- hau'r bobl sydd gartref mai enill maa Germani bob dydd. Cyhoeddasant eu bod wedi enill Bryn y Meirw, ac Amddiffynfa Vaux, dri mis cyn eu henill. Er mwyn gwneyd i'w giair ymddangos yn wir i'r bobi parhaent yr ymdrech am y ddau le er tywallt ohonynt afonydd o waed wrfAh wneyd. Ofnant yn awr y tyr gwrthryfel allan gartref os daw'r wlad i wybod mai methiant yw'r ymdrech i enill .1 Verdun. Byddai eu gwaith yn rhoi heibio'r ymosod ar Verdun yn gyfystyr a chydnabod eu bod wedi cael eu gorchfygu vno a byddai'r canlyniadau gartref yn alaethus. Unwaith yr enillant Verdun ga-Ilent hawlio eu bod wedi enill buddugoliaeth fawr. 2. Yn y rhagolwg am ymgais am wneyd hoddweh mae yn bwysig i'r gelyn fod yn