Collection Title: Llan

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

Image 1 of 8 Next Last
Full Screen
1 article on this page
CWRS Y RHYFEL

CWRS Y RHYFEL. ADOLYGIAD YR WYTHNOS. ¥ LLANW LLWYDDIANT RWSIA. VERDUN O HYD. GROEG—Y BACHGEN DRWG. GWLEDYDD Y BALTIC ETO. CYMRU A'R FYDDIN. Wythnos lawn o ddigwyddiadau cy- ffrous a fu yr un ddiweddaf. Cafwyd datblygiadau newydd yn y sefyllfa ar fwy nag un maes. Parhau i godi mae LLANW LLWYDDIANT RWSIA gan ysgubo byddinoedd Awstria o'i flaen fel yr ysguba tonau'r mor y gwmon ar y traeth. Erbyn heno (noe Wener) mae y Rwsiaid wedi cymeryd o leiaf 200,000 o'r Awstriaid yn garoharorion. Dywedir heno fod o 50,000 i 100,000 arall wedi cael eu hamgylchu gan y Rwsiaid, ac nad oee Ie iddynt ddianc ond i dinogaeth Rwmania; ao, fel yr eglurwyd yr wythnos ddiweddaf, os hyny a wnant rhaid iddynt ildio eu hunain yn garcharorion i Rw- mania hyd derfyn y rhyfel. LLADD YN DDIDRUGAREDD. Pe bai y Rwsiaid wedi parhau i gymeryd -carcharorion fel yn y dechreu, tebyg yw y buasai eu nifer erbyn hyn yn llawer iawn mwy nag ydyw. Ond o fewn yr wythnos a basiodd, ta-a y cymerwyd llai I o garchar- orion, lladdwyd llawer inwy nag o'r blaen o'r gelyn Mae dau beth yn oyfrif am hyn, i 1. Yn ystod y pyt-befaos cyntaf, llwydd- odd y Rwsiaid i fyned o'r tu ol i adranau cryf o'r gelyn, gan eu dal felly mewn trap, lie y rhaid iddynt naill ai ildio neu gael eu lladd-a. dewisasant ildio. 2. Yr wythnos ddiweddaf erlid ar ol gelyn oedd yn ffoi a wnai milwyr Rwsia, gan eu tori i lawr wrth y canoedd a r mil- oedd. Gyda hyn, yr oedd y Rwsiaid oodd yn erlid-boohgyn ieuainc gan mwyaf na fuont mewn brwydr erioed o'r blaen, yn ystod y pythefnos blaenorol, wedi canfod a'u llygaid a chlywed a'u clustiau en- greifftiau ofnadwy o greulondeb bwystlfil- aidd y gelyn ar drigolion y wlad a enillwyd yn ol gan y Rwsiaid. Yr oedd yr hanesion a'r golygfeydd hyn wedi poethi cymiaint ar eu gwaed, wedi cynhyrfu eu digofamt a'u nwyd i'r fath raddau. fel na arbedent ain- ioes y ffoaduxiaid hyd yn oed pan daflai y rhai hyny eu harfau i lawr. "Lladd! Uadd oedd y cri,—a lladd didrugaredd a fu. i » ■» i Gallesid llenwi colotnau a hanesion cyffrMS am yr tyn a gymer^dle yn ystod yi erlid ar ol y gelyn. Ond boddloni raid S un ensraifft sydd yn dangos pa fodd y mae gwyfdor a chelfyddyd «n dyddiau m wedi trawsffurfio y dnll o O Gwvr wyr byddin orchfygedig gynt oedd Gwyr Xrch A rihai brawychus yw Gwyr Meirch Rwsia. Y CEFFYL A'R MODUR. "The Cossacks of the Don yw 3? a welir yn anil yn v papurau Wyr Meirch Rwsia. Afon fawr yw Don, gyda gwastadeddau eang uehelo bob tu iddi. "Oosac" yw brodor or gwa- tadeddau hyn. Ar y gwastadeddau megir oeffylavi bychain, cyflym, celyd, nid an- hebyg i ferlynod neu bonis mynyddau evmru. Mae pob Cosac yn dysgu march- ogaeth o'r cryd i'r bedd, a baban o Cosac vn roedru maichogaeth ymron cyn dysgu OOrdded. Maer march a'i farchog ymron mor galed a'u gilydd, a phob un o'r ddau vn medru byw ar bob tywydd yn yr awyr Lored ac ar ychydig o fwyd, a hwnw yn ami vn fwyd digon garw. Gyda hyn mae r rnarch a'i farchog yn gymamt ffryndiau !fr;; sfl-s ;«^RUA L_ haner anwaraidd a farchogant y oeffylau bychain, buan, hyn rhan amlaf a gwaew- ffyn blaenllym y paladr yn ami yn 8 neu 10. troedfedd o hyd, a'r waew ar flaen y ffon mor llym a bLaen nodwydd ddur. Dyma un o'r oorffluoedd Rwsiaidd a erlidient yr Awstriaid. Dychmyged y darllenydd yr olygfa. Ond heblaw y rhai hyn, sydd wedi bod yn enwog erioed fel Gwyr Meirch heb eu bath, yr oedd gan y Rwaiaid arf newydd na welwyd mo hono cyn y rhyfel preoenol, sef oeir modur rhyfel. Ceir yw y rhai hyn yn cario gynau peirianol (machine guns), tra criw y car yn cael eu hamddiffyn gan furiau haiarn y car ei hun. Dyma ger- bydau rhyfel mwy ofnadwy a dinystriol na cherbydau rhyfel yr hen Gymry gynt,— neu hyd yn oed eiddo Pharoah. Gwnaeth y Rwsiaid ddefnydd ma-wr ohonynt yn y tair wythnos ddiweddaf. Gyrent ymlaen ar hyd y ffyrdd i ganol rhengau y gelyn, a thrwyddynt, gan saethu tua'r ffrynt, ac i'r dde, ac i'r aawy. Dychmyged y dar- llenydd yr olygfa ofnadwy. Dacw'r cyflegrau trymion yn bwrw tan o'r nefoedd ar fyddin Awstria filltiroedd oddi wrthynt, a'r diluw tan yn waeth nag eiddo Sodom gynt. Yna, filltiroedd yn nea yn ol (gan fod y cyflegrau yn siaethu dros eu penau filltiroedd ymlaen), dyma'r ceir modur arfog yn rhuthro ar y gelyn, gan danio arno ymhob cyfeiriad, a thori drwy ei rengoedd. A thra'r ceir marwol hyn yn tedthio'r ffyrdd, wele heidiau o'r Cosociaid gwylltion yn carlamu ar hyd y lied y wlad o bob tu i'r ffyrdd a dramwyid gan y ceir, gan godi eu rhyfelgri oer, "Howra! Howra!" mewn ysgreohfeydd fel eiddo Indiaid Cochion America, nes gyru arswyd drwy galon pob gelyn a'u clywal. ADRAN BRYDEINIG YN RWSIA. Dro yn ol dywedais am yr adran gref o Fyddin Newydd Rwsia oedd wedi glanio yn Ffrainc ac yn cynprthwyo Joffre yn Verdun. Heddyw mae Adran o Fyddin Newydd Prydain wedi glanio yn Rwsia i gynorthwyo'r dewrion yno. i yru bwystfil rheibus Germani yn ol i'w ffau. Ac Adran o Wyr Ceir Modur Rhyfel yw yr adran hon. A gymerasant ran yn yr erlid ar yr Awstriaid yn Buoowina ni wyddis. Ond mae yn Adran gref a gwerthfawr y clywir llawer am eu gwronwaith cyn der- fydd y Rhyfel. CWYMP TSERNOVITS. Yr wythnos ddiweddaf rhagddywedais fod Cwymp Tsernovits. gerllaw. A hyny a fu. Syrthiodd y ddinas a'i chynwys i ddwylaw y Rwsiaid buddugoliaethus, a gyrwyd y gelyn ar ffo-a ffoi y mae byth Mae y cyflymaf eu traed—neu eu oerbydau —erbyn hyn yn dringo lletlirau ysgythrog mynydd-dir Carpathia o'r lie y gyrwyd y t-I Rwsiaid yn eu hoi flwyddyn yn ol. Ceis- iant yno wneyd aiyiddiffynfeydd y Bylchau (Passes) drwy'r mynydd-dir yn gadarnach. A rhaid iddynt wneyd, a o-wileya yn fuan, oanys mae'r Cosaciaid gwyllt a'r ceir modur chwyrn ar sodlau y ffoaduriaid— ac mae'r Bylchau yn y mynyddoedd yn arwain i wastadeddau breision Hungari, ar gynhaeaf mawr meusydd ffrwythlon yd hwn yr ymddibyna Awstria,, ac i raddau Germani. hefyd, am ddefnydd bara y gae-af dyfodol. Os medr y Rwsiaid dori drwy'r Bylchau hyn, a chyraedd gwastade< £ l Hungari, a dinystrio y cnydau yd yno, hyd yn oed pe y gorchfygid hwynt wedi hyny buasent wedi tori asgwrn cefn gallu Awstria yn y Rhyfel. VERDUN 0 HYD. Ar ol seibiant am rai dyddiau, wele'r brwydro ffyr nig am Verdun wi ail gychwyn, a chyrff y lladdedigion yn cael eu pentyru ar eu gilydd yn fwy nag erioed. Anhawdd gwybod beth sydd yn cymeryd He y tu ol i linell Byddin Germani. Pe y gwypem hyny gallesid cael rhyw syniad am allu'r gelyn i wrthsefyll yn hir eto. Dywedir fod 180,000 o filwyr Germani yn sefyll Rwsia yr wythnos ddiweddaf. Tybir fod ymoaodiad newydd y Germaniaid ar Verdun wedi cael ei fwriadu ganddynt yn awr er gwneyd i Joffre. gredu fod gallu'r gelyn ger Verdun mor gryf ag erioed. Ond gan nad beth am hyny, er tywallt ohono V I _a_ afonydd o waed., ychydig iawn o dir newydd a enillwyd ganddo hyd heno. GWRHYDRI'R CYMRY YN FFRAINC Da yw darllen fod y Royal Welsh Fusiliers o'r diwedd yn dechreu cael eu cydnabod am eu dewrder gan yr awdur- dodau milwrol yn Ffrainc. Yr wythnos ddiweddaf cyflawnasant wrhydri dihafal, gan yru'r gelyn ar ffo ar ol un o'r ymosod- iadau mwyaf peryglus a wnaed eto gan y Germaniaid ar line Prydain. Nid dyma'r tro cyntaf i'r Cymry ar faes y gwaed ddangos fod yspryd canlyn- wyr Owen Glyndwr a Llewelyn, a Char- adog, eto yn fyw. Ond, ysywaeth, ychydig o gydnabyddiaeth a roddwyd i weithred- oedd nerthol yr Adranau Cymreig yn ad- roddiadau swyddogol yr awdurdodau. GROEG, Y BACHGEN DRWG. Bydd tad, neu athraw, weithiau yn gorfod cospi bachgen drwg, nid er mwyn cospi yn gymaint ag er mwyn diwygio y bachgen. A Groeg yw Bachgen Drwg Ewrop. Cymerodd ei ddenu gan gyfeillion drwg-Germani, Awstria, Bwlgaria, a Thwrci. Gwir na ddaeth allan yn gy- hoeddus i wneyd niwed i ni ac i gynorthwyo ein gelynion. Yr wythnos ddiweddaf, galwyd ef i gyfrif am ei droseddau. Attl- iodd Prydain a Ffrainc bob Hong i hwylio nac i mewn nac allan o borthladdoedd Groeg. Yr oedd prinder bwyd yn gan- lyniad naturiol, a'r wlad yu dochreu dioddef. PAHAM Y COSPIR GROEG? Gofyna rhai pobl, yn eu hanwybodaeth, paham y beiddia y tri bwli mawr, Prydain, Ffrainc, a Rwsia ddysgyblu gwlad fechan fel Groeg ? Pa hcwl oedd gcnym i _ym- yryd a hi, fwy nag oedd gan Germani i ymyryd a Belgium, cyn iddi hi ymosod arnom ni ? Ar y wyneb m'r cwestiynau yn ym- ddangos yn rliesymol, a'r gyffelybiaeth yn gywir. Ond ar y wyneb yn unig yr ym- ddengys felly. Dyma'r ffeithi-au:- 1. Y tair gwlad Prydain. Ffrainc, a Rwsia, a fynasant cu rhyddid i'r Groogiaid o gaethiwed y Twro. 2. Wedi enill eu rhyddid i'r Groegiaid, cymerodd y tair gwlad y Groegiaid o dan eu hadenydd, fel na, chaffai neb eu gor- mesu mwy. 3. Un o'r amodau yn y cytundeb a wnaed rhwng y Groegiaid a'r tair gwlad a enwyd oedd, fod Groeg i gael ei llywodr- aethu yn gyfansoddiadol gan Frenin drwy Senedd etholedig gan. bobl rydd-yn ym- arferol yr un fat ag y Ilywodraethir Pryd- ain Fawr gan y Brenin a'r Senedd jrma. 4. Ond, yn ei awydd i gynorthwyo ei frawd-yn-nghyfraith, y Kaiser, darfu i Frenin Groeg geisio caethiwo y genedl, a llywodraethu yn unbenaethol, ac nid yn 01 ewyllys y bobl, na thrwy eu oynrychiol- wyr—gan mai felly yn unig y medrai chwarae castiau er cynorthwyo'r Kaiser a'n niweidio ninau. Trodd Venizelos, Prif Weinidog o ddewisiad y bobl, allan o'i swydd, a'i Gabinet gydag ef,-f-el pe bae Brenin Lloegr yn gyru Mr. Asquith, a Mr. Balfour, a Mr. Lloyd George, a Mr. Bouar Law oddeutu eu buaues heb ofyn i Senedd nac arall. Pan wrthdystiodd v Senedd, dadgorfforodd hono. Nid yw'r Senedd sydd yno heddyw yn eyiirychio-li un rhan o dair or etholwyr, ac mae'r Cabinet oil, a phenaethiaid y Fyddin, yn gefnog- wyr i Gennani. Yn groes i bob cytundeb ac addewid, rlioisant yr amddiffynfeydd ar y terfynau rhwng Groeg a Bwlgaria i 9 n fyny i'r gelyn, fel y caffai hwnw well cyfle i ymosod arnom ni yn Salonica. Anogai a chefnogai yr heddgeidwaid wehilion cymdeithas i ymoood ar bawb a ffafrent. Brydain, a chynorthwyai'r heddgeidwaid hyn y drwgweitlrredwyr. 5. Peryglid felly nid yn unig ddi- ogelwch Byddin Prydain a Ffrainc yn, Salonica, ond hefyd ryddid trigolion Groeg ei hun. CHWIPIO BRENIN GROEG. Yr wythnos ddiweddaf penderfynodd y Tair Gwlad chwipio Brenin Groeg am dori o hono i/ cyfansoddiad. Yr oedd y tair gwlad wedi ymgyfamodi trwy lw flvnydd- oedd yn ol y mynent ei diogeln i'r 'Groeg- X iaid. Galwasant arno:- 1. I ddadgorffori'r Fyddin, fel y gallai y dynion fyned yn ol gartref i weithio ac i bletdlcisio. 2. I droi y Cabinet Anghyfansoddiadol allan, a chreu un newydd fuasai yn cyn- nrychioli'r bobl. 3. I ddadgorffori y Senedd, cynaJ: ethol- iad cyffredinol yn unol a'r cyfansoddiad, a llywodraethu o hyny allan yn gyfansodd- iadol drwy y Senedd. 4. I ddiswyddo y swyddogion hyny yn y Fyddin a'r Heddlu oedd wedi tori ar an- mhleidgarwch y wlad. Rhag gorfod dioddef gwaeth, ildiodd y Brenin. Danfonwyd y Cabinet oddeutu eu busnes, penodwyd Cabinet newydd, gor- chymynwyd dadgorffori'r Fyddin a'r Senedd, cynhelir Etholiad Cyffredinol, a diswyddir y sawl a werthasant eu gwlad i'r gelyn. Gwelir felly mai amddiffyn iawndereu, Gwerin Gwlad Groeg. ac nid ymosod ami, i a wnaeth Prydain a'i Chynghreiriaid. GWLEDYDD Y BEIBL ETO. Unwaith eto wele Wledydd y Beibl yn dod i'r amlwg yn y Rhyfel. Hjawlia Twrci lywodraethu dros y rhan fwyaf o'r gwledydd Mahometanaidd, ac edryohir ar y Swltan fel Pen yr Eglwys Fahometan- aidd. Ond wele wrthryfel wedi tori allan i'w erbyn gan ei ddeiliaid mwyaf solog dros Fahometaniaeth. Cyfrifir Mecca yn ddinas Santaidd Mahomeniaeth fel y cyfrifir Jerusalem yn ddinas Santaidd yr Iuddew, ac fel yr edrychid gynt ar Llangedtho fel dinas Santaidd Mothodistiaeth Cymru. Ac o Mecca y torodd y gwrthryfel allan, ac y lledodd yr wythnos ddiweddaf drwy'r gwledydd nes cyraedd o hono hyd yn Bagdad ei hun. Yr Arabiaid, disgynydd- ion Ismael gynt, sydd yn arwain yn y gwrthryfel-ac mae perygl Twrci a'r Swltan o ganlyniad yn fawr. Gellir gweled datblygiadau pwysig yn y dwyrain yn fuan. DYDD GWENER, Mehefin 23. Y BRWYDRO YN VERDUN. Ymosododd y Germaniaid yn ffyrnig nos Fercher ar Dead Man Hill (wyth milldir i'r gogledd-orllewin a Verdun), ac ymosodasant dair gwaith yn nghyffiniau Vaux (pedair milldir o Verdun). Gorch- fygwyd hwy gyda cholledion dirfawr, ond llwyddodd y Germaniaid i enill safle rhwng dwy goedwig. LLWYDDIANT PARHAOL Y RWSIAID. Gwnaed tri o ymosodiadau gan y Cad- fridog Hindeinbeirg ar ffrynt ogleddol y Rwsiaid, ond methodd enill unrhyw dir. Yn ngorllewinbarth Volbynia, mae brwydro caled yn myngd ymlaen, ond oddigerth fod y Rwsiaid wedi cymeryd dwy lil o garoharorion yn ychwanegol, gan wneyd cyfanrif o 182,000, nid yw y can- lyniadau yn hysbys. Ar y Strypa, yn Galicia Ddwyreiniol, mae y Rwsiaid wedi cymeryd rhai ffosydd, ond ceidw y Cad- fridog Bothmar ei safleoedd. Y n y de, mae y Rwsiaid wedi ymdaith 51 milldir o Czernovitz. PENDERFYNIAD BRENIN GROEG. Hysbysir fod Brenin Groeg wedi pen- derfynu cydymffurfio a, chais y Cyrighredr- iaid i ddiarfogi ei fyddin, i gael etholiad gyffiedinol, ac i gael gwared o'r heddgeid- waid dan ddylanwad Germani. Ym- ddengys hefyd fod y Bwlgariaid wedi ym- adael yn llwyr o Albania, a chredir eu bod wedi myned i Monastir i rwystro ymdeith- v iad ar ran y Cvnghreirwyr. DYDD SADWRN. MILWYR GERMANAIDD YCHWAN- EGOL I GERMANI. Gan fod yr awdurdodau Germanaidd vn canfod nad oes llawer o obaith iddynt yn Rwsia, mae cant o gerbydresi yn llwythog o filwyr Germanaidd wedi eu hanfon yno. Hefyd mae galluoedd cryfion o fagnelwyr i fyned yuo yn ddioed.