Collection Title: Llan

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 2 of 8 Next Last
Full Screen
11 articles on this page
CWRS Y RHYFEL

DADBLYGIADAU NEWYDDION YN VERDUN. Yn Belgium mae magnelau y Cynghreir- iaid wedi llwyr rwystro trefniadau y Ger- maniaid yn rhanbarth Dunes. Mae brwydr y Meuse wedi ei hail ddechreu eto gyda ffyrnigrwydd creulon gan y German- iaid, ac nid oes amheuaeth na cheir ymos- odiadau ffyrnicach eto gan y Germaniaid, gan eu bod bron gwallgofi oherwydd eu haflwyddiant parhaus. Buont yn defn- yddio eu magnelau yn ddibaid ddydd Iau a ddydd Gweaer, ac y mae lIe cyrf i gredu fod y Germaniaid yn bwriadu ymosod yn fwy egniol nag eriood i ddwyn pethau i ben yn Ffrainc, fel ag i'w galluogi i anfon miiwyr ychwanegol i Rwsia a manau ereill. DINYSTRIAD AGERLONG RW8IAIDD. Tra yr oedd yr agerIong Rwsiaidd, "Mercury," ar ei thaith o Odessa i Kher- son, ddydd Iau, gyda. 800 o deithwyr ar ei bwrdd, yn cynwys llawer o fyfyrwyr yn dychwelyd o'u gwyliau, tarawodd yn erbyn mwnfa ffrwydrol, a suddodd ymhen pum' munyd. Llwyddwyd i aohub llawer o'r teithwyr, ond ofnir fod nifer fawr wedi eu boddi. GWRTHWYNEBWYR CYDWY- BODOL. Cyhuddwyd amryw filwyr yn Ffrainc o wrthod cyflawni eu dyledswyddau, a ded- frydwyd rhai o honynt i gael eu saethu, ond cyfnewidiwyd hyn i ddeng mlynedd o benyd-wasanaeth, a dedfrydwyd amryw ereill i wahanol dymorau o garchariad. CYFYNGDERAU YR AWSTRIAID. Mae mesurau wedi eu mabwysiadu gan awdurdodau Awstria i orfodi holl ddeil- iaid tai drwy y deyrnas hono i roddi i fyny yn ddiymdroi llestri copr, pres, ac aloan, llestri ooginio, llestri bwrdd, badd- onau, teoelli, pwysau pres, cwpanau, dysglau, platiau, etc. Os na chydym- ffumr a'r gorchymyn darperir carchariad o un i dair blynedd, ao i ddirwyon yn oymedd 800p. DYDD LLUN. TALAETH BUKOWINA YN MEDD- IANT RWSIA. Mae y Cadfridog Brussflosff a.'i wyr wedi meddianu yr oil o dalaeth Bukowina. Meddianwyd tref Kimpolung, yn eithaf- oedd y de, ddydd Gwener ar ol brwydr galed, pryd y cymerwyd dros ddwy fil o harorion. Yr oedd Kuty, ar y cyffin- iau gorllewinol, eisoea wedi cwympo. Bu y gelyn yn brysur iawn ar y fhynt gog- leddol, a dioddefodd Hindenberg golledion • trymion yn Uluksfc. Ymoeododd y Ger- maniaid gyda ffyrnigrwydd yn Vilna, ond anfonwvd hwy yn 01 drwy rym bidogau. Y GERMANIAID YN NESU AT VERDUN. Dywedir fod y Germaniaid yn ymoaod yn greulawn a dibaid ar Verdun, ac wedi cyraedd o fewn i dair milldir i'r ddinas. MaA y Ffranood yn gofalu eu cadw o fewn y pollder hwnw, ond credir fod brwydr fawr gerllaw. Er na ohymerodd traed- filwyr lawer o ran yn y brwydro ddydd Sul, eto olywid y magnelau yn rhuo yn barhaus, a chymaint oedd y own fel yr oedd yn glywadwy mewn rhai parthau o Loegr. MEDDIANU LLONG LWYTHOG 0 YMBORTH. Tra yr oedd y llong "Brussels" ar ei thaith o Rotterdam i Tilbury, cymerwyd meddiant o honi gan longau rhyfel Ger- man aidd, gan ei chymeryd i Zeebrugge. Yr oedd yn llwythog o ymborth, a chludai hefyd nifer o ymnoddwyr Belgiaidd. Heb- law hyn, cludai nifer o sypynau i garchar- orion Germanaidd yn oegr. DYDD MAWBTH. Y FFRYNT PRYDEINIG YN FFRAINC. Adroddiad Germanaidd a ddywed fod ymdreohion egniol i'w canfod ar y ffrynt Prydeinig yn Ffrainc ddyddiau Sadwrn a'r Sul, a chadarnheir hyn gan Syr Douglas Haig. Y SEFYLLFA YN VERDUN. Bu ymladd caled gan y ddwy ochr gyda magnelau gerllaw Dead Man Hill, saith mi fid ai haner i'r gogledd-orllewin o Verdun. Parha y gelyn ei ymoeodiadau ar y safleoedd Ffrengig i'r gogledd-ddwy- rain o Verdun, lie y mae brwydro caled a phendarfynol wedi cymeryd lie. Gwnaed ymdrecih gan y Germaniaid i ddinystrio y gweithfeydd Ffrengig, tair milldir i r gogledd o Verdun, ond aflwyddianus fu jt oil. Enillodd y Ffranood ychydig dir i'r dwyrain o Fleury. LLWYDDIANT PARHAOL Y RW8IAID. Ychydig fywiogrwydd arddangosir yn mrwydr Volhyrnia Orllewinol, er yr ad- roddir fod y Germaniaid wedi dwvn mil- oedd o filwyr yno o Ffrainc. Hawliant eu bod wedi oymeryd 11,000 o garcharorion yn ychwanegoli oddiar Mehefin 16. Myn- egir fod y Rwsiaid wedi enill tir ar y Steypa, yn Galicia. YR ITAXJAID A'R AWSTRIAID. Yn ol y newyddion diweddaraf, deallwn fod y byddinoedd Italaidd wedi ymosod yn drwm ar yr Awstriaid, ac wedi adfeddianu llawer o leoedd a gollasant yn flaenorol yn Assiero a Asiago. Cilio yn ol mae yr Awstriaid yn barhaus, gan ad:ael llawer o gyrff yn eu ffosydd. Bodola brwdfrydedd mawr yn Rhufain oherwydd hyn. DYDD MFRCHER. MEDDIANIAD ARSIERO GAN YR ITALIAID. Gan ddilyn eu buddugoliaethau yn y Trentino, mae yr Italiaid wedi llwyddo i enih yohwaneg o dir. Maent yn brwydro ar hyd Ilinell yn cyraedd o Val Lagarina i Val Sugana, y prif ffyrdd o Trent i'r de. Ar ol cymeryd Asiago, adrodda y Cad- fridog Cadorna ei fod wedi ail-feddianu Arsiero. Hysbysir fod yr A wstriaid yn ffoi ymhob man, gan adael ymborth ac arfau ar eu holau. Y GERMANIAID A VERDUN. Torwyd ar ddistawrwydd Verdun gan ymosodiad Germanaidd ar y rhan o bentref Fleury aydd yn meddiant y Ffranood. Gwnaed yr ymosodiad am ddau o'r gloch ddydd Mawrth, ond llwyddwyd i yru y Germaniaid yn ol gyda cholledion. Gwnaed ymoaodiadau pellach gyda magnelau yn mhellach ar y dydd ar lanau y Meuse, yr hyn a ddengys fod brwydro caled i fod eto. YMOSODIADAU GAN AWYR- LONGAU FFRENGIG. Gollyngodd awyr-longau Ffrengig 65 o dan-belenau ar longau Germanaidd ger- llaw glanau Belgium, sef llongau dinystriol ydynt wedi bod yn gwneyd ymosodiadau mynyoh o Zeebrigge, gan beri dinystr iddynt. BRWYDRO YN YPRES. Mae brwydro ychwanegol wedi bod yn nghyffiniau Ypres, a'r Germaniaid wedi ymosod gerllaw y gamlas, ond heb unrhyw lwyddiant. <

Deoniaeth Llanbadam Fawr

Deoniaeth Llanbadam Fawr. GWYL GORAWL Y RHANBARTH DDEHEUOL. w** Cynhaliwyd hon eleni yn Eglwys L»lan- ddeiniol ar y 7fed o Fehefin. Dae cor&u yr Eglwysi canlynel yn gryno ac yn brydlon i'r wyl:—Llanddeiniod', Llanilar, Llangwyryfon, Lledrod, Llanaian, a Llan- fibangel-y-Creuddyn. Yr oedd yr hin yn ddymunol, a chafwyd gwyl lwyddianus iawn o'r deohreu i'r diwedd. Dechreuwyd gwasanaeth y boreu am 11.30, pryd y dar- y lHthiau gan y Parchn. H. M. Williams, Lledrod, a D. Jenkins, Llan- gwyryfon; a phregethwyd gan y Parch. Harry Morgan, rheithor Beaumaris, Sir Fon, a chefnder i ficer Llanddeiniol. Am haner awr wedi dau y prydnawn, dar- llenwyd y llith gan y Parch. J. F. Lloyd, Llanilar, a phregethwyd gan y Parch. W. J. Williams, ficer Gwnws. Eto,, am haner awr wedi pump yn yr hwyr, darllenwyd y llithiau gan y Parch. T. R. Davies, Llan- fihangel-y-Creuddyn, a'r Parch. J. R. Davies, Llanbadarn, a phregethwyd eto gan Reithor Beaumans. 0 dan law fedrus yr arweinydd, Mr. John Jones, Dolauafan, yr oedd y gerddoriaeth trwy'r dydd o safon uchell. Canwyd yr anthem, 'Yr Arglwydd yw fy Mugail' (Hywel Idloes), yn yr oil o'r gwasanaethau. Hawdd oedd teimlo fod yno rhyw nawB rhyfedd yn y pregetbau a'r canu. Hawdd hefyd oedd gweled fod yr arweinydd wedi ei foddhau gan gerddoriaeth yr wyl. Hir gofir y canu fa ar 'Capel Cynon' ar derfyn yr wyl. Yr oedd gofal y gwasanaethau yn Haw y fioer, y Paroh. J. M. Lewis, a llan- wyd dyledswyddau yr 'intoner' gan y Parch. D. A. Thomas, ficer Llanafan, tra y ohwareuwyd yr harmonium gan Mr. Evans, ysgolfeistr Bronant. Darparwyd bwyd i'r oorau yn yr Ysgoldy, ac i'r dyeithriaid yn y 'Long Room,' tra y dar- parwyd bwyd i'r offeiriaid gan y Parch, a Mrs. J. M. Lewis yn Carrog. Yn ychwanegol at yr offeiriaid a enwyd, gwel- soan hefyd fioer Llianrhystyd, yn bresenol. Casglwyd y swm o £4 3s lie at dreuliau'r wyl yn yatod y dydd.

Lloyds Bank Limited

Lloyd's Bank, Limited. An announcement appeared last Satur- day morning! in some of the London papers stating that Lloyds Bank Limited had in- augurated a plan for helping holders of War Loan Bonds and Stock in the cashing of coupons. The Bank is prepared to make immediate payment in cash for coupons and dividend warrants presented at any of its 900 Branches throughout the country by holders who have no banking accounts.

EIN CYHOEDDIADAU EGLWYSIG

EIN CYHOEDDIADAU EGLWYSIG. ffBydd yn bleser gan y Manager anfon coplau o'r LLAN, Yr Haul a'r Perl, i'r mllwyr sydd ar y mae?, nen vn parotol, smi-ilm ond pris y papur a chnt v elndtad. set y. LLAN am Chwarter, 1/71. „ am Haner Blwyddyn, 3/3. Haul" am Chwarter, 1/- „ am Haner Blwyddyn, 2.1- Perl" am Chwarter, 4c. „ am Haner Bwydrlyn, 9o <

LLANGADWALADR SIR DDINBYCH

LLANGADWALADR. SIR DDINBYCH. Y SULGWYN.—'Wele y Sulgwyn eto wedi ymgolli yn y gorphenol—yn cael ei rifo gyda y Suliau gwynion eraill y cawsom y fraint o'u mwynhau yn y blynyddau a aethant heibio. Ond y mae yn rhaid i ni addef fod y Sulgwyn diweddaf, yn hanes llawer teulu, fu gynt yn ddedwydd a chyfan, yn ddiwrnod du a thywyll iawn, cymylau duon a thrwchus profedigaeth angladdol wedi gordoi llawer aelwyd gysurus. Gwelwyd tuhwnt i amheuaeth ar y Sulgwyn eleni fwy o wisgo dilladau duon nag a welwyd erioed yn hanes y byd. Amlwg yw mai ffrwyth molldigedig y rhyfel presenol ydyw hyn. Yn y gwasan- aeth hwyrol daeth torf ynghyd i dalu gwarogaeth o barch i un oedd yn anwyl genym yn y gymydogaeth, sef neb llai na'r diweddar Mr. John Jones, Pantglas ucha. Traddododd y Ficer bregeth angladdol am dano. Dygoddi dyaid o blant i fyny, pa rai sydd yn addurn anrhydeddus i'w goffadwriaeth. Diddaned yr Arglwydd y teulu galarus yn y brofedigaeth liem sydd wedi eu goddiwedclyd.—Llew Gwalia.

PENRHYNDEUDRAETH

PENRHYNDEUDRAETH. CLADDEDIGAETH.-Dydd Sadwrn, Meh. 24ain, cymerodd claddedigaeth (cyhoedd- us) Mr. Hugh David Williams, 66, Vandyke Street, Liverpool, le yn mynwent Eglwys y Drindod, am haner awr wedi dau o'r gloch. Hunodd yn yr Iesu ddydd Mawrth yn 82 mlwydd oed. Yr oedd y corph wedi cyrhaedd i dy ei ferch, Mrs. Glyn, Eryri Terrace, y noson gynt. Gwas- anaethwyd yn y ty yn Liverpool gan Mr. Griffith Jones, yr hwn sydd mewn gofal o Eglwys St. Deiniol, Liverpool, a Gwilym Mathafarn. Yr oedd Mr. Williams wedi bod am flynyddau meithion yn aelod aelog a gweithgar, ac yn athraw yn yr Ysgol Sul yn St. Deiniol, a bydd ei le yn wag yno. Bu am oes hir cyn hyny yr un mor ddefn- yddiol yn Egwlys y Drindod, Penrhyndeu- draeth. Gwasanaethwyd yn y ty gan y ficer y Parch. J. Hughes, ac yn yr eglwys a'r fynwent gan y Ficer a'r Parch. Gwilym Rees, rheithor Llanbrynmair (mab-yn- nghyfraith). Gedy ar ei ol i alaru eu colled dair merch a pedwar mab, a nifer mawr o wyrion (mael un ferch a dau fab yn Califfornia). Mae ein cydymdeimlad llwyraf a'r teulu oil yn eu trallod a'u profedigaeth, ac yn enwedig gyda Miss Ellen Williams, yr hon oedd wedi bod yn gofalu am ei thad mor anwyl am hir amser. Duw fyddo yn nawdd ac yn nodded iddynt oil, ac a godo ereill i lanw y bwlch gwagj yn yr eglwys oherwydd dyrchafu o hono ein hanwyl frawd ymadawedig i fyd gwell i fyw. Yr oedd wedi bod yn was ufudd, gostyngedig, ffyddlon, a theyrngar i'r Athraw Mawr. 0 hyn allan gwyn ei fyd. Traddodwyd pregeth angladdol gan y Fioer nos Sul. Yr oedd yr arch wedi ei gorchuddio gan flodau-dorchau.

LLANRHYSTYD

LLANRHYSTYD. Y GWA8ANAETHAU BLYNYDDOL.—Cyn- helir y gwasanaethau enwog hyn, fel arfer, dyddiau Mawrth n. Mercher cyntaf yn Gorphenaf. Bydd y gwasanaeth cyntaf nos Fawrth, Gorphenaf 4, ac yna bydd gwasanaethau y boreu, prydnawn a'r hwyr dydd Mercher, sef dydd mawr yr wyl. Mae onwogion wedi adda-w dyfod yma i bre- gethu y flwyddyn fawr ac ofnadwy hon.

Y Llaw Groesawus

Y Llaw Groesawus yn cael ei hestyn o Llangybi Mae teimlad o ewyllys da. yn y modd y llefara y trigianydd hwn o Llangybi, ao ni aiff ar goll gan ein darllenwyr yn Llan- bedr. Mae mor adfywiol ag yagydwad llaw cyfaill cywir. Dyma. fe i elwa arno:- Mr. T. Daviee, o Church Cottage, Derry Ormond, Llangybi, ger Llanbedr, a ddywed:—Yr wyf wedi dioddef poenau poenau echrydus yn fy nghefn, wedi eu hachosi yn ddiameu drwy wylchu a chael anwyd, ac felly effeithio ar yr elwlenod. Yr oedd yn boenau Ilym ambell waith, a phrin y gallwn blygu wrth fy ngwaith. Bangoeai. y dwfr arwyddion o anhwylder yr elwlenod, gan ei fod yn ddrwg ei liw, 11 yn boenus, ao yn ysgaldio pan yn oeiaio ymwared. "Gan y gwyddwn fod fy ngwraig wedi ei gwella drwy gymeryd Doan's backache kidney pills, cymerais inau rai, a. rhaid i ifii ddweyd iddynt wneyd llawer o les i mi, ac ymhen amser oefais lwyr ryddhad. Bydd i mi eu defnyddio eto os canfyddaf unrhyw arwyddion o'r anhwylder, gan y gwn yn awr pa mor dda ydynt at yr an- hwylderau hyn. "(Arwyddwyd) T. DA VIES." Os yw pob anwyd ao oerfel yn effeithio ar y oefn ac ar y dwfr, 08 yw yr ymdrech leiaf yn eich diffygio. os teimlwch yn ddi- galon ac yn gysglyd annaturiol, neu oe dioddefwch oddi Wrth y grafel, carreg, crydcymalau, neu'r gymalwst, bydd i Doan's backache kidney pllls eich gwella fel ag y darfu iddynt weTla MT. Daviw. Ar werth gan yr holl fasnachwyr, neu 2s. 9c. y blychaid oddi wrth Fo^ter- McClellan Co., 8, Wells Street, Oxford Street, London, W. Peidiwch gofyn am backache neu kidney pills,-( rofynwch yn I bendant am Doan's backache kidney pills, yr un fath rai ag a gafodd Mr. Da vies.

C ASTELLNEW YDDEMLYN

C ASTELLNEW YDD-EMLYN. Ar y Llungwyn, yn EgIwys y Drindod Sanctaidd. caidwyd Gwyl Gerddorol Corau Eglwysig Dyffryn Teifi. Mae hon yn hen sefydliad bellach, ac er dyddiau Foo Llechid, o dan wahanol arweinwyr, mae llawer wedi ei wneuthur er diwygio oerdd y cyssegr, ac mae'r Eglwyswyr wedi dod i djenmilo balchder mawr yn yr hen wyi. Barn pawb yn ddieithiiad oedd fod yr wyl eleni yn un o'r rhai goreu gafwyd, a'r canu yn bobpeth a ddymunid. Yn yr oil gwehd teymged ddyladwy o Iwydd a pharch ivr arweinydd a'r hyfforddwr, Mr. D. Jenkins, C.M., Felindre, arweinydd Cor Meibion Bargoed Teiff. Coronwyd ei ymdrechion a'i lafur a. llwyddiant hynod o gymeradwy; ac mae gan Eglwyawyr cylch yr wyl achos gwirioneddol i ymfalchio yn y ffaith fod ganddynt arweinydd mor hyglodus yn eu mysg. Teilynga y corau, yr arweinyddion, a phawb oeddynt yn ymwneyd a'r wyl air o glod a chymeradwy- aeth. Bu gwasanaethau boreuol a phryd- nawnol. Yn yr wyl cynrychiolid Eglwysi Castellnewydd-Emlyn, Llandyfriog, lagn- gynllo, Llangeler, Capel Mair, St. James, Llanfairorllwyn, Cenarth, Penboyr, St. Barnabas, Bangor Teifl, Henllan. Llafar- ganwyd y gwaaanaethau gan y Parch. D. T. Alban, ficer Aberteafi. Pregethwyd yn hyawdl gan fioer Aberteifi a'r Parch. I. Harries Williams, rheithor Manordeifi. Darllenwyd y llithoedd gan y Parchn. H. Jones, Llandyfriog; Gruffydd Evans D.G. Emlyn; D. Jenkins, fPenboyr, a W. J. Evans, Llanfairorllwyn. Yr an- them oedd 'Teyrnasoedd y Ddaear.' Cy- merwyd yr unawd gan Mr. Johnny Jones, Groesrffordd, Felindre, a'r wythawd gan Misses Jeannie Jones, Llandyfriog; E. A. Evans, Teify View; Mrs. D. L. Evans, Woodlands; Miss Davies, Lan Cottage, a'r Mri. J. Jones, Groesffordd; J. Jones, Llainffald, Felindre; D. J. Rees, Nant- grylan, a Richard Griffiths, Llandyfriog Haedda Miss Maurioe, Castellnewydd- Emlyn, air o glod am ei rhagoroldeb fel organyddes. Ysgrifenydd yr wyl yw Rheithor Llangynllo, a'r trysorydd yw Mr. James Davies, Llwyngwern Henllan Yr oedd cynulliad gwych yn y ddau was- anaeth a phawb yn teimlo fod yr oil yn Uanw disgwyliad a dyheuad y gwir Eglwys- wr yn ystyr oreu'r gaiv.—John y Gwas

GLANOGWEN BETHESDA

GLANOGWEN, BETHESDA. YMWELIAD MIL WYR.—Deallwn fod Sergt. Evan Edward Thomas, Gordon Terrace a'r Pte. Willie Evans, High Street, wedi bod gartref o'r Cyfandir am ychydig ddi- wrnodiau o seibiant. Da oedd genym eu gweled yn edrych mor iaoh a siriol d.r ol bod trwy galedi a pheryglon rhyfel aiii fisoedd. Y mae'r ddau wedi myned yn ol at eu dyledswyddau erbyn hyn. Eiddunwn Dduw yn rhwydd iddynt. NEWID PWLPUDAU.—Hwyr y Sul di- weddaf, gawsanaethwyd yn yr Eglwy. uchod gan y Parch. E. Davies, rheithor LlanlLechid. Traethodd Mr. Davies y genadwri yn felus ac effeithiol fel arfer. Aeth ein parchus gurad i lanw lie Mr. Davies i Llanllechid. Y CANON YN GWELLA.-Bydd yn liawen- ydd gan luaws oyfeillion a chydnabod Canon Jones ddeall ei fod yn graddol ond sicr wella o'i afieohyd. Dymunwn iddo lwyr adferiad buan. Bydd ei amser yn y Cathedral i fyny ddiwedd y mi8 hwn. Croesawn ef yn 01 yn galonog pan ddaw i'n plith. MARW A CHLA DDU.-(;yda gefid yr hysbys- wn am farwolaoth Mrs. Grace Jone., anwyl brlod Mr. Riohard Pryce Jones, Gerlan, Bethesda, yr hyn gymerodd le ddydd Llun,' Mehefin 19eg, yn 26 mlwydd oed, gan adael baban mis oed heb fam a phriod tyner I 'alaru at el hoi. Cymerodd y gladdedlgaeth le y dydd fa. oanlynol yn Glanogwen, pryd (r daeth luosog yoghyd idalu y gyznwynas olaf Iddi. Gwasanaethwyd wrth y tt, yn yr eglwys, ac ar lao, bedd, gan y Parch. 'D Thomas, ourad. Cafodd gladdedlgaeth anrhVd- eddus iawn. Duw daeno el aden gyigodol dros y baban bach heb fam, a'r tad yr hwn sydd mewn dwfn alar ar 01 priod hoffua. Heddwch fyddo I'w llwch hyd foreu gwyn yr adgyfodlad mawr. Drwg genym gofnodl msrwolaeth merch fechan Mr. a Mrs. Wil. liams, Braichmelyn. Gyrfa fer a gafodd ar y ddaear cymerwyd hi ymaith tra nad oedd ond blwydd oed, a phrofodd hyny yn fraw a gofid mawr i'w rhieni. Rhy oer oedd hln- lawdd ein daear ni iddi gartrefu. Trawt- blanwyd hi o ardd y ddaear i'r ardd baradwya- aidd fry, ac i uno gyda llu o blant yn ber1, ngboron leau. Rhoddwyd ei gweddilllon I orwedd yn erw Duw yn Glanogwen dydd Sadwrn, Mehefin 24ain. Gwaianaethwyd yn yr anJadd gan y Parch. D. Thoman, curad. Cydymdefmlir 4'r rhieni yn eu galar ar ol un oedd anwyl yn eu golwg. Y SUL.—Pregethwyd yn Glanogwen hwyr y Sui diweddaf gan y Parch. J. Jar vis, ourad Penmaenmawr, (Serlan gynt, oddiar y testyn, Pwy y mae dynion yn ddywedyd fy mod it Mab y Dyn.' Llawenydd oedd genym glywed Mr. Jenls yn pregethu mor bur. Yr oedd yr eglwye yn lied lawn, ao amlwg ydoedd oddiwrth y jgrwrandawiad astud fod pawb yn I" erthfliwrogi fel prejjetfTwr. Brysied ym, sto.- W. HR. y

Advertising

ARGRAPFU RHAD. OYFLYM. A DB6TLUS TN SWYDDFA'B "LLAK."