Collection Title: Llan

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 8 of 8
Full Screen
7 articles on this page
Lloffion o Fyd ac Eglwys

Lloffion o Fyd ac Eglwys. • (GaD Llygadgbaft.) DTWHDIR Fod sefyllfa pethau yn yr (Emerald Isle' yn gyfryw ag sydd yn galw am gytundeb buan cydrhwng y pleidiau gwrthwynebol neu ddogn gref o I Martial Law.' Nid oe. le i lwybr canol. Llwyddiant in cyd-wladwr enwog yn ei ymdrech. Fod yr Almaen hithau yn cael ei ckolled- Ion yn ei rhengoedd uwchaf-dyna Von Moltke yn ychwanegol at Von der Goltz a Von Schlieffen beth amser yri ol wedi myn'd —rhai o'i chadfridogion penaf. Dyna lefelu pethau ychydig rhyngddi hi a ninau. Nid yw angau dderbyniwr wyneb. Fod cychwyniad da wedi cael el wneyd yn y gynhadledd yn Paris, a gallwn ymddiried y mater yn dawel yn nwylaw dynion fel Mr. Bonar Law, Mr. Hughes (o Awsfcralla), ac Arglwydd Crewe. Mae yn amlwg fod yn mwriad y cyd-bleidwyr i wasgu ar wynt Germani mewn pwynt ac mae hi yn bur dyner ynddo, sef ei masnach. Fod Gwirfoddolwyr Dinbych wedi derbyn eydnabyddiaeth y Llywodraeth, a'u bod i ddyfod dan y Volunteer Act' ar unwaith dan y teitl, I lat. Batt. Denbighshire Volun- teer Regiment.' Mae y Gwirfoddolwyr i symud yn mlaen bellach. Fod Cenhadwr enwog gyda'r Methodist- laid Calfinaidd wedi croeBi ffiniau amser yn sydyn iawn yn ddiweddar-nid amgen y Parch. Hugh Roberts, Treffynon. Treuliodd fiynyddau lawer ar Fryniau Caaaia,' ac hefyd yn Britanny. Cyfrifid ef yn lied ddysgedig yn ei alwedigaeth fel Cenhadwr. Bu yn Benaeth y Coleg yn yr India gyda'i enwad. Cyhoeddodd Eir-lyfr Anglo-Khasiaidd, ac Y8- grifenodd yn helaeth ar yr iaith. Yr oedd ar yr amser bu farw yn brysur barotoi yr hyn a alwai I Celto-Briton Encyclopedia.' Go- beithio y gellir ei gwblhau. Bydd o wasan- aeth. Yr oedd yn enwog gyda'r enwad. Fod Cynghor Lleol Rhyl wedi pasio penderfyniad brwdfrydig y dydd o'r blaen yn llongyfarch y Llynges Bryd- einig ar ei buddugoliaeth ddiweddar, ac nid rhyfedd, oblegid fe ddywedir mai Yn. Rhyl y derbyniodd y ffigiwr amlycaf yn yr ysgarmes hono, nid amgen y Llynghes- ydd Beatty, ei addysg foreuol. Mae lluaws yn cofio y bachgen glanwedd, pert hwnw, ac yn eu plith Canon Nicholas, rheithor Ffllnfc, yr hwn, ar y pryd, oedd yn gurad yno. Diau y teimla Rhyl yn falch o fod yo 'gryd addysg i'r fath arwr. Fod H. Lunt, Llanberis, wedi dwyn allan gyfieithiad addas iawn o'r emyn adnabyddus 499 A. & M., ac fod E. Davies, L.T.S.C. (Pencerdd Callestr), wedi rhoddi sypyn da o honynt yn rhodd I gynulleidfa Eglwys Ffynnon Groyw. Mal hyn y rhed y penill cyntaf:— Fore'r Adgyfodiad hyfryd Unir corph ac yspryd pur Derfydd galar, derfydd gofid, Derfydd cur.' Diolch i H. Lunt am y eyfieithiad, ac i E.D. am y rhodd. Eto, fod Mr. Geo. Pughe Jones, Pwllheli, wedi breintio yr Eglwysi a lled-gyfieithiad o'r emyn 595 A. A M., Dros gyfeillion absenol.' Amserol iawn, a chyfieithiad rhagorol. Y penill cyntaf fel y canlyn :— Sanctaidd Dad, yn Dy drugaredd, Gwrando'n gweddi ni; Rhoddwn ofal bell anwyliaid I'th law Di." ,Unwaith eto, fod gan Ap Tre&yn (Fleer Nerquis, ger Wyddgrug, wrth gwrs), emyn gwreiddiol addas iawn i 1 Wyl y Cynhauaf.' Egyr y folawd yn dra phrydferth fel y can- lyn Cofio wneist, Greawdwr hael, Etto greaduriaid gwael; Trugareddau mawrion mad Sy'n dylifo dros ein gwlad., Annheilyngdod ydyw'r nOd Arnom ni erioed sy'n bod; Etto, lor, dyhidlaist Ti Rasol roddion heb ddim rhi." Cysylltir y don Maidstone gyda hi. Beth prydferthach ? Gellir cael yr emynau uchod ar delerau rhad iawa, ni gredwn, gan yr awdwyr. Fod y Parch. T. Glasfryn Jones, curad Mostyn, wedi derbyn cynygiad o fywoliaetb gan yr Arglwydd Esgob, ac fod y mater dan ystyriaeth ganddo. Fod y Canoniaid newyddion—Parchedigion R. Evan Jones, ficer Llanllwchaiarn, a Thomas Redfern, rheithor Dinbych, wedi ea rhoddi mewn meddiant o'u Stalls yn Eglwys Gadeiriol, S. Asaph yn ddiweddar, y naill yn lie y diweddar Canon Williams, Newtown, a'r llall yn lie y diweddar Canon Roberts, Col- wyn Bay. Gweinyddwyd gan y Tra Parebedig Ddeon Wynne Jones. Cynierodd yr Arglwydd Esgob ran, a chynorthwywyd gan yr Hybeirch Archddiaconiaid Lloyd, Thomas, a Fletcher, hefyd Prebendari Basil Jones, a Chanoniaid .W. LI. Nicholas a D. Grimaldi Davies. Fod y newydd am farwolaeth ddisyfyd y Parch. John Williams, ficer Bylchan, ger Din- bych, wedi peri syndod, a gofid. Gwnaeth waith rhagorol yno mewn byr amser. Aeth yr Eglwys a'r Ficerdy dan ryw weddnewid lad ebrwydd. Cydymdeimlir yn ddwys a'i briod drallodus. Fod tipyn o holi ymlith y bobol, I Beth a feddylir wrth y Genhadaeth Genedlaethol?' Cvffelyb i'r bobl hynn gynt. Pa wasanaeth yw hwn" Yr ateb goreu fyddai rhanu taflenl Deon Bangor a Chanon Williams wrth y miloedd trwy'r wlad, a'u cynghori I ddarllen y LLAN o wythnos i wythnos. Mai Deon Gwladol newydd Deoniaeth Rhos (olynydd y diweddar Ganon H. Roberts yn y swydd), ydyw y Parch. E. James Evans, ficer Llandrillo (Rhos-on-Sea ydyw yr enw ffasiyn- ol yn awr). Eiddunwn i'r Deon Newydd bob rhwyddineb a llwyddiant yn ei swydd bwysig.

Y Sefyllfa

Y Sefyllfa. Yn ystod y dyddiau diweddaf, am resymau nad ydynt oil yn weladwy i'r dyn ar yr heol' mae y sefyllfa mewn perthynas i'r rhyfel rhyw- fodd wedi ysgafnhau-y barometer ar i fyny. Mae hyn yn neillduol wir meddant hwy yn Llundain a'r gwersylloedd, lie mae pessimism ac optimism (termau sydd bellach mor gyff- redin ar lafar gwlad), wedi cyfnewid safleoedd, yr olaf yn cael yr oruchafiaeth ar y funyd. Ymddengys hyn dipyn yn hynod mor fuan wedi colli ein prif gadfridog, ond fe ddywedir mai mewn cysylltiad ag enw a dyfarniad di- weddar Kitchener ar y sefyllfa mae y teim- lad hwn i raddau raawr wedi codi. Gwyddys ddarfod i'r hen arwr gyfarfod nifer o'r aelod- au seneddol mewn cyfrinach ychydig cyn ei fordaith olaf, ac iddo lwyddo i roddi perffaith foddlonrwydd iddynt, ie, i hyd y nod ei wrth- wynebwyr penaf fel Syr Ivor Herbert. Rhaid fod el anerchiad yn rhywbeth o natur dat- guddiad, iddo Iwyddo i roddi boddhad i feirn- iad llym a diarbed fel ag y profodd Syr Her- bert ei hun yn ystod y misoedd diweddaf. Mae y wlad yn ffodus yn y ffaith fod Argl. Kitchener wedi cymeryd yr aelodau i'w ym- ddiriedaeth, ao wedi llwyddo i roddi gwedd newydd ar y sefyllfa. Dywedir hefyd ei fod wedi 1 newid ei fam parthed hyd y rhyfel. 'Tri mis neu dair blynedd' ydoedd ei ddy- farniad cyntaf, ond slcrheir ni yn awr ei fod yn obeithiol iawn y dygid hi i derfyn o fewn llai amser na'r olaf. Clywn ar bob llaw fod yr aelodau seneddol yn dychwelyd yn ol i Sant Stepan yn fwy calonog y tro hwn IJao mewn unrhyw amser blaenorol. Ond diau fod yna 'factors' eraill mewn gweithrediad sydd yn tueddu i ysgafnhau y sefyllfa ar y funyd, megys y rhagolygon am 'settlement' Gwyddelig (gpbeithio na'n siomer), a buddug- oliaethau didor a rhyfeddol Rwssia. Yr oedd gan y cKweddar Gadfridog Arglwydd Kit- chener rhyw afael rhyfedd ar y wlad, ac eto mae'n ffaith fod yna rbyw symudiad o ddrwg argoel' ar droed yn ddiweddar yn Nhy y Cyffredin yn enwedig, i geisio siglo ymddir- iedaeth y wlad ynddo. Diolchwn fod y fath gwmwl wedi cael ei chwalu i'r pedwar gwynt, a hyny trwy ei gyfryngiad ef ei hun cyn iddo ymddiosg o'i arfogaeth, a myned i orphwys fel ag yr oedd ganddo gyfiawn bawl i wneyd. Diau yr oedd wedi cwblhau ei waith—wedi gosod i lawr seiliau eedyrn buddugoliaeth derfynol yn fuan neu yn hwyr, ac erys y Cpum miliwn' o wirfoddolwyr dewrwych a gododd yn ei wlad, yn awr ei chyfyngdra, yn golofn oesol i'w athrylith milwrbl a'i wlad- garwoh. Nid oes yn aros yn awr ond i'w ddilynwr a'i feirniaid hefyd adeiladu yn ddygn effro a phenderfynol ar y sail a osododd iddynt, a chario allan fam i fuddugoliaeth. Huned mewn hedd bellach hyd y boreu dpdwydd hwnw pryd y bydd yn rhaid i'r mor ynt^u roddi i fyny ei feirw.'

DEONIAETH Y RHOSJ

DEONIAETH Y RHOS -.J NBWYDDION.-A gaf ofyn i'm cyfeillion yn y ddeoniaeCh hon anfon ychydig newyddion i mi i Llysfaen Rectory, Colwyn Bay, erbyn boreu Llun bob wythnos. Ni ralml gael ond ffeithiau sychion os hoffa'r. cyfeillion hyny, fe. geisiaf finau eu nyddu i'r LLAN yr wythnos hono. Maeyn aiiichon i mi wybod beth sydd yn myn'd ymlaen drwy'r ddeon- iaeth heb glywed, o herwydd. nid pethau i'w dyfalu yw ffeithiau, ond pethau i'w gwybod. HANM -Diebon fod rhai na wyddant pl'e mae ddeoniadth wladol. y. Rhos. Os gwydd- ost rywbeth am Ogledd Cymru o gwbl, ddar- llendyd, ti wyddost am lan y mor, o'r Rhyl i Llandudno, hyny yw, o enau afon CLwyd i enau afon Conwy; wel, dyna lIemae crynswth pwysigrwydd deoniaeth wladol y Rhos. Mae'n wir nad yw Rhyl na Llstndudno yn y ddeoniaeth, ond mae'r ddwy dref bwysig yma, megisdau borth i'r ddeoDith, an bob pen iddi., Ond mae Colwyn Bay, Colwyn, ac Abergele, a'r rhan fwyaf o camp pwysig Kinmel yn y ddeoniaeth. Hen ddeoniaeth wladol Rhos a Rhjfoniog, gynwysai yn y canol oesau, bron yr oil o'r wiadtolwir-yn awr yn Sir Ddinbych,' yw sail ein ddeoniaetb ni heddyw. Dyma hen derfynau yr hen ddeoniaeth-o'r Foryd, yn ngetiau afon Clwyd, ar hyd glan y mor i Landudno, yna i fyny afon Conwy bron i'w tharddiad, er mwyn cymeryd Yspytty Ifan i fewn, yna ar draws y wlad gan gynseryd plwyfi Llangwm, Cetrig-y-drnidiou, Llatifi- hangel-Glyn-Myfyr i fewn, ar., i Nantyglyn, gan redeg oddiyno i lawr afonig Ystrad, i afon Clwyd, ac i ganlyn y Glwyd yn ol i'r Foryd. Dyna ddeoniaeth wladol Rhos a Rhyfcmiog fel ei eawn yn y flwyddyn 1535, a pharbaodd fel hyn am dros dri chan mlyiledd ar ol hyn. Yn y flwyddyn 1844, penderfynwyd ei rhanu yn ddwy ddeoniaeth—Llanrwst a Dinbycb. Aeth yr hen enw Rhos a Rbyfoniog o'r goUvg, Rhyfoniog byth i ddod i'r golwg mwy. Yn 1881 bu rhanu drachefn, ac aeth y ddwy yn dair-Llanrwst, Dinbych, a. Rhos—yr hen enw Rhos yn ail-yrnddangos. Ffurfiwyd dion- iaeth newydd yRhos ynte yn. 1882, tfrwy gymeryd Abergele, Bettws, St. George, Llanel- ian, Llanfairtalhaiarn, a Llysfaen, o ddeon- iaeth Dinbycb, a Llandrillo, a Cholwyn, o ddeoniaeth Llanrwst. Yr wyth plwyf yma, gyda'u plant, sydd yn ffurfio deoniaeth y Rhos heddyw. I Gyda'u plant' meddwn, gan olygu Colwyn Bay, Brynmaen, Towyn, a Thro- farth, plwyfi newyddion wnawd o rai o'r wyth hen blwyf uchod yn benaf. Y deuddeg plwyf yma ynte ydyw deoniaeth y Rhos heddyw. Mae ynddi drefi, chwareli, digon o amaethu a garddio, mynyddoedd a m6r, castelli a phalasau, ymwelwyr haf wrth y mil- oedd ar filoedd, ac Eglwysi gyda'r harddaf, a gwaith Eglwysig gyda'r bywiocaf, yn Mhryd- ain Fawr.

CAPEL BANGOR

CAPEL BANGOR. Drwg genym gofnodi marwolaeth Maggie Davies, anwyl ferch Mr. a Mrs. John a Mary Davies, Dolpandy, yr hyn a gymerodd it ddydd Mawrth, yr 20fed cyfiaol, yn 13eg mlwydd oed, ar ol ond ychydig ddiwrnodau o gystudd. Yr oedd yn ferch fechan hardd, mwynaidd, a gwon ar ei gwynebpryd bob amser, a phawb yn hoff o honi. Yr oedd yn aelod ffyddlawn yn eglwys y plwyf, ac yn yr Ysgol Sul. Nid oedd braidd byth yn absenol o'r gwasanaethau os byddai yn iaeh. Cladd- wyd ei ^weddillion y dydd Sadwrn canlynol, pryd y daeth lluaws ynghyd i gydymdeimlo a'r teulu yn eu profedigaeth. Gweinyddwyd wrth y ty gan y Parch. M. Morgan, ficer, a chauwyd Pererin yr lesu I yn sotiiaru8 gan blant yr ysgol ddyddiol, o ba un yr oedd yr ymadawedig yn ddisgybl, dan arweiniad Misses Adams a Morris, yr athrawesau. Yn yr Eglwys, darllenwyd y Psalm gan y Parch. T. Pugh, a'r llith gan y fioer, a chanwyd yr emyn Perl yr Iesu (R. L. Roberts) gan y gynulleidfa yn beraidd iawn. Nis gallesid dewis emyn mwy tarawiadol ar yr achlysur. Gellir dweyd fod y ferch ieuanc heddyw yn berl yn nghoron Iesu. Yn ddisglaer mewn gogoniant yn canu iddoglod. Gweinyddwyd ar Ian y bedd drachefn gan y Ficer, a chan- wyd Lead Kindly Light' gan gdr o fechgyn, aelodau Ysgol Sul y Drindod, Aberystwyth, pa rai oeddynt ar ymweliad yn y lie (Sunday School Trip). Rhodd wyd arnryw blethdorch- au ar ei bedd gan berthynasau a chyfeillion, ac un hardd iawn gan blant yr ysgol ddyddiol.

LLANBEDRPONTSTEPHAN

LLANBEDR-PONT-STEPHAN. Y CYNGOR EGLWYSIG.—Cynhaliwyd cyfar- fod blynyddol pwyllgor arianol y cyngor uchod nos Wener, pryd y penodwyd y Parch. W. Ll. Footman yn gadeirydd Mr. W. Lewis, Arfryn, yn ysgrifenydd, a Mr. H. Denis Davies yn drysorydd. Penderfynwyd cyhoeddi mantol-len o'r cyfrifon ar fyrder. Y DDIWEDDAR MRS. LLOYD. Claddwyd gweddillon marwol y ddiweddar Mrs. Lloyd, Dolgwm House, yn mynwent eglwys y plwyf prydnawn Iau, pryd y gweinyddwyd gairy Parchn. Ganghellydd Jones, D. J. Evans, a R. Keble Williams. Angladd preifat ydoedd, a'r prif alarwyr oeddyntY Parchn. Saun- ders Lloyd, R.N., a T. Lloyd, Cricklewood (meibion); Mrs. Davies a Miss Rosie Lloyd (merched); Master Arthur Davies (wyr). Chwareuwyd yr organ yn efifeithiol iawn gan Mr. A. G. Harries, Ormond House. CSNHADAETH MASHONALAND. —Cynhaliwyd gwasanaeth chwarterol ymbiliadol y genhad- aeth hon prydnawn Sul yn Eglwys St. Padr. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. R. Keble Williams, yr hwn a ddarllenodd lythyr dyddorol oddiwrth y Parch. G. P. E. Brodrick, un o'r cenhadon. Y FARCHNAD FISOL.— Dygwyd cyflenwad helaeth o berchyll i'r farchnad fisol ddydd Llun, a gwerthwyd hwy am brisiau yn am- rywio o 35s. i 40s. y pen. Am hen leir cafwyd o 3s. 6c. i 5s. y owpl rhai feuainc o 4s. 6c. i 7s. Oc. y ewpl.-X.

TAIRGWAITH GWAUNCAEGURWEN

TAI'RGWAITH, GWAUN-CAE-GURWEN. EGLWYS Djtwi SANT.—Sul diweddaf, Mehe- fin 25ain, cynhaliodd yr Eglwys uchod ei gwasanaethau blynyddol, pryd y gwasanaeth- wyd gan y Parch. Aldred Williams, Golden Grove. Gwasanaeth y boreu am 10.30 yn Saesneg. Llafarganwyd y gwasanaeth gan Mri. Charles Renowden a W. Ellis Williams, a phregethwyd gan y Parch. Aldred Williams. Prydnawn am 2.30 yn Gymraeg, llafargan- wyd y Litani gan y Parch. Evan Davies, Cwmgors, a phregethwyd gan y Parch. Aldred Williams. Yr oedd yr eglwys yn or- lawn. Gwasanaeth y nos am 6, Cymraeg a] Saesneg. Llafarganwyd y gwasanaeth gan Mri. Charles Renowden a W. Ellis Williams, a phregethwyd yn y ddwy iaitb gan y Parch. Aldred Williams.—Mon-fab. ■ — i

Advertising

66 A DlENYDDIflD pflq frEIDfl." QAN Y PARCH. GANON W. WILLIAMS, Jeftieyston. (O'r Haul am Chwefror). Wedi ei argraffu ar garden mewn Coch a Du. Cyfaddas i'w osod mewn tai, ysgoldai, a Phyrth Eglwysi. Pris, drwy'r post, 2c., neu y dwsin. I have not seen anything approaching the Diagram in beauty and eiiect." Bendith ar eich pen am ddwyn peth mor efleithiol alJan." WELSH-CHURCH PRESS PRINTING Co., LTD., LAMPETER. ABGRAFFU RHAD, CYFLYM, A DESTLUB YN SWYDDFA'R LLAN." ADGOFION GAN "HENAFGWR sun HYBARCH DAVID EVANS 1ROHDDIAOON LLANBLWY. DriB. Is. gyda'r post. Gwneir goscynglad aylweddol i Ysgolion Sul, Cyfarfodydd Llenyddol, dco. Anaml y ceir llyfryn mwy oymwys at wobrau yr Ysgol Sul a Chyfar- ';J.'jydd Llenyddol. Telerau arbenig, 8s. y lvain, y prynwr i dalu'r post TEILWNG 0 YLW. LLWYDDIANT ANARFEROL PERL Y PLANT, DAN OLYGIAKTH Y P ARCH. CANON CAMBER-WILLIAMS LAMPETER. Y Cyhoeddiad Cymraeg Goreu Blan Ac yn fwy poblogaidd nag erioed. Amryw nodweddion newyddion am 1916. Oa am geiniogwerth dda, myner ef. Ceir samplau yn rhad drwy anfon i'r cyfeiriad iscd Yr archebion i'w hanfor. MANAGER "PERL" OFFICE LAM PETER THE GREATEST REMEDY OF THE AGE «Pi CURES RELIEVES TOOTHACHE HEADACHE EFFECTIVELY CHECKS RHEUMATISM, NEURITIS, &c. Recommended by the Medical Profession and pronounced to be SAFE. SURE. PALATABLE. Prices Single Potoders, lick each. Boxes of 1 dozen, 111i To be obtained of all Chemists and Stores or direct from the Manufactory, Dewi House, Ann Street, LLANELLY. 28 EDITIONS PRINTED ALREADY THE EVER POPULAR HYMN BOOK. HYMNAU YR EGLWYS (ELIS WYN 0 WYRFAI Words only, la., la. 3d.'2s. 6d Worda only, large type, 2s., 2s. 6d., 4a. 3d Words and Music (Old Notation), 2s 6c., Jø., Words and Music (Solfa), 2a. 6d., 3&, to Special and Reduced■ Terms jor Chows on Application COMMON PRAYER and HYMNAO'R EGLWYS bound together in one volume. Just the thing for a Birthday or Christmas Present, or for a Sunday School Prize. Issued two styles Leather, gilt edges, 3/6 Cloth, red edges, 2/6 CARMARTHEN: Published by W. SPURRELL & SON IU I ANWYD, PESWCH, INFLUENZA.—Mae rhai'n gyda ni bob amser. Pair hinsawdd gyfnewidiol fod Ilawer o ddioddef oddi wrth Peswch, Bronchitis, Pas Dolnr Gwddf, Crygni, Caethdra. Diffyg AnadL Y mae yr hen Feddyginiaeth Davies's Cough Mixture etto ar y blaen, ac yn cael ei gwerthfawrogi yn fwy nag erioed, .bob amser wrth law, yn felus, yn cynnhesu y frest, yn rhyddhau y phlegm. Bydd doae mewn pryd yn ddigon. 1B. Se. a 3s. (postage 3c.)-HUGH DAVIES, Chemist, MACHYNLLETH. 'SARZINE BLOOD MIXTURE. OROEN IACH A GWAED PUR.-Dyna yr hyn y mae I Sarzire Blood Mixture' yn ei sicrhau, a dim arall. Nid J W yn honi gwella pob peth, fol yr Yankee Patent Medicines, ond os blinir chwi gan groen afiach, ysfa, pimples, toriad allaa Scurvy, dol- uriau, penddynod, &c., yn tarddu o waed drwg ac anmhur, mynwch botelaid o I Sarzine Blood Mixture' gan y Druggist nesaf atoch, 18. lie. a 2a. 6c. y botel, neu gyda 3c. at y cludiad yn ychwanegol, oddiwrth y perchenog, HUGH DAVIES, CHEMIST, MACHYNLLETH. MOLRAT. Ysgrifena John Pryse, Maesymeirch Blinid ni acw gan Dyrchiod; cynyddent bob blwyddyn, fel yr oedd y tir a golwg ddifrifol arno, ac yr oedd arnaf gywilydd o hono, ond clywais fod Mr. Hugh Davies, Chemist, Machynlleth, wedi dyfeisio peth i'w lladd yn ddidrafferth iawn.—Ei enw ydyw Molrat,' mewn packets Is. 6c. yr un. Prynais packet, a rhoddais ef yn ol y cyfarwyddyd am ben pryfaid genwair a rhoddais y rhai hyny yn llwybr y Twrch. Ni chododd y twrch mwy." Argraphwyd a chyhoeddwyd gan Gvnnni y, Wasg Eglwysig, ac argraphyddc Gymreig, Cyfyngedig, Caxtor Hall. Mehefin 30, 1916.