Collection Title: Llan

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

Image 1 of 8 Next Last
Full Screen
1 article on this page
CWRS Y RHYFEL

CWRS Y RHYFEL. I ADOLYGIAD YR WYTHNOS. GWTHIO A BARIO DRWS YR OCHR DIRGELWCH Y BALKANS. CYFLOG PECHOD GROEG. CYFLOG PETRUSTER RWMANIA. GWLEDYDD Y BEIBL ETO. Un or pethau mwyaf dyddorql i'r neb a fedr wneuthur hyny yn ddeallus, yw olrhain Cwrs y Rhyfel yn N gwledydd y Beibl. Nodais d:ro yn ol hanes y brwydro gyffiniau Gardd Eden. Yr wythnos ddiweddaf cafwyd brwydro trwm a phwysig ar Faes Cenhadol Paul, ac ar y llanerch lie y disgynodd Noah a'i deulu o'r Arch. Pe ceid map o'r manau hyn yn nodi yr enwau Beibl aidd a'r enwau pre- senol ar y gwahanol leoedd, gwisgid Cwrs y Rhyfel a dyddordeb newydd i bawb a wyr rywbeth am y Beibl a'i hanesian, a medrai r neb a ddilynai'r ysrifau hyn gyda'r cyfryw fap o'i flaen, gael llawer, o addysg a goleuni newydd ar ami i beth tywyll iddo yn awr. M anylir yehydig yma ar ddigwyddiadau'r Rhyfel yr wyth- nos ddiweddaf yn Meusydd Paul "a Noah. DIRGELWCH Y BALKANS. Erys cryn lawer o ddirgelwch o hyd yn nghylch y digwyddiadau yn y Balkans. Tebyg y rhaid i ni aros tan ddiwedd y Rhyfel cyn y oeir esponiad rhesymol ar aml i beth sydd yn pyslio'r darllienydd ar hyn o bryd. Dirgelwch na eglurwyd mohono'n fadd- haol erioed yw paham y bu Cydfyddin Prydain a Ffrainc cyhyd cyn cyfryngu i helpu'r Serbiaid llynedd. Dirgelwch arall yw paham y goddefwyd cyhyd i Groeg "chwareu'r ffon ddwybig" yn y mater, gan gynorthwyo'r gelyn o dan drwyn aw- durdodau milwrol Prydain. Canlyniadau alaethus a fu i'r ddau. Yr wythnos ddi- weddaf yohwanegwyd eto ddirgelwch arall at rai blaenorol y Balkans. GWTHIO A BARIO DRWS YR OCHR. Fe gofia'r darlIenydd y gymhariaeth a wna,ed rhwng Germani fel ty ac iddo dri drws-ffrynt, oefn, ac ochr, ac mai'r Baljkans oedd haner dwyreiniol drws yr ochr, y 'seid dor" y soniwyd am dano. Awgrymais, cyn i hyny gymeryd lie, y gwelid Cydfyddin Salonica yn fuali iawn yn ceisio tori'r seid dor pwysig yma yn agored. Gwelir erbyn heddyw mai gwir oedd y gair, Ond wele ddirgelwch newydd. Cyn taro o honom ergyd ar y drws, a chyn hysbysu o neb fod hyny ar fedr cael ei wneyd, wele Fyddin Bwlgaria yn rhuthro yn sydyn i gau y drws lrwnw, a'i gloi, a'i fario, wedi iddo fod yn agored yruron 1;,1\1 y pen am fisoedd! Pwy a hvspysodd y gelyn o'n bwriad i ymosod? Cymerodd y Bwlgariaid y mesurau mwyaf effc-ithmi i ragflaenu ein hymosodiad ni drwy ymosod eu hunain ar ddwy ystlys ein safle ni. CYFLOG PECHOD GROEG. Erbyn hyn mae Groeg yn deohreu medi o fflrwyth ei thwyll tuag atom ni a'i brad tuag at y Serbiaid. Yr wythnos ddiweddaf meddianodd Byddin Bwlgaria ranau pwysig o diriogaeth Groeg. Rhaid 0° ma* anghymodlawn ar livd yr oesau a fu (1) Y Groegwr .a'r'Bu]gar (2) Y Groegwr a'r Twrc, (3) Y Bwlgar a'r Twrc. I Eithr yn awr, drwy gynllwyn y Caisar, I a'i dad na raid el enwi, wele r ddau olaf wedi ymgymodi a'u gilydd, ac awdurdodau Groeg yn caniatau iddynt feddianu ei thir Canys danfonwyd' allan orchymyn gan Lywodraeth Groeg i. r awdurdodau milwrol ar iddynt gilio yn oj ynhoh man o flaen y gelyn pan groeeai y ter^yn, gan ganiatau I iddo feddianu y trefi a'r ai^ddiflFynfcydd ar ei lwybr tua Salonica. Gwnaeth Byddin Bwlgaria hyny y pyth- efnos diweddaf, gan feddianu safleoedd pwysig ar y rheilffyrdd, yr afonydd, a bylchau y mynydd-dir, a'i galluoga i wrth- sefyll ein Cydfyddin o Salonica ar ei ffordd i Serbia. MACEDONIA. Rhan o'r yspail a gafodd Groeg ar oil Rhyfel y Balkans rai blynyddoedd yn ol oedd adenill darn mawr o Macedonia oddiar y Twrc. Megys canwyll ei lygad yw Macedonia i'r Groegwr cenedlgarol. Gwerthfawroga'r gwir Roegwr Macedonia yn fwy ond odid nag odid unrhyw ddarn arall o'r wlad. Tan ar ei gnoeai yw gweled y gelyn yn sathru y tir santaidd. Ac eto, fel y crybwyllwyd, gorchymyn Llywodraeth Groeg i'r awdurdodau mil- wrol oedd iddynt ildio'r lie i'r Bwlgar traws heb daro ergyd er ei amddiffyn. Ond oeir hen ddihareb Gymreig a, ddywed mai tair galwad y sydd na ddylai neb droi clust fyddar iddynt. nid amgen 1- Galwad ei Dduw, 2. Galwad ei Wlad. 3. Galwad ei Deyrn. Ac y rhaid i bawb gyfrif awdurdod yr alwad yn y drefn uchod. Hyny yw, rhaid ufuddhau i Alwad Duw cyn ystyried Galwad Gwlad na Theyrn a lie bo Galwad Teyrn yn groes i Alwad Gwlad fieu Dduw, mai Duw a Gwlad sydd i gael y flaenor- iaeth ar Alwad y Teyrn. A chyda llaw wrth fyned heibio, da fyddai i bob Cymro, yn anad neb, gadw'r heii Driawd mewn oof y dyddiau hyn pan y mae mewn perygl o gael ei anwybyddu gan lawer. Ond ufuddhawyd i orchymyn y Triawd gan Roegwyr gwlad gar ol brofasant yr wythnos ddiweddaf roai trech gwlad nag Arglwvdd. Er gcxrcbyniyii o'r Brenin i'r 1 91 Cadfridogion Groegaidd gilio yn ol o flasn. y Bwlgariaid yn Macedonia, gwrthod ufuddhau a wnaeth rhai ohonynt, 'er eu clod anfarwol. Yn mlaenaf yn eu plith ceir y CADFRIDOG CRISTQDOWLOS, oedd mewn awdurdod ar ran o Fyddin .Groeg yn Macedonia. Gan anwybyddu gorchymyn y Blrenin a'i Lys galwodd Cristodowlois ar bob Groegwr gwladgarol a theilwng o'r enw i amddiffyn Macedonia riiag y gelyn. Ufuddhaodd Cadfridogion is, ac aanddiffynasant eu cadarnfevdd yu ddewr. Mewn un man lladdwyd y milwyr Groegaidd oedd yn amddiffyn castell neu amddiffynfa yn erbyn y Bwlgar oil. Mewn lie arall lladdwyd hwynt oil ond dau. Dyma waed goreu Groeg yn gorfod talu am bechod y Brenin. Crewyd cynwrf ofnadwy drwy'r holl wlad. Ymgasglai llu o Roegwyr gwladgaror at faner Cristo- dowlos megys ag yr ymgasglai Bechgyn Dewrion a Gwladgar Cymru gynt at luman Own Glyndwr. Teyrnfradwriaeth yw hyn, ond ffydd- londeb disigl yw i Alwad Gwlad sydd bwysicach na Gorchymyn Teyrn. Gesyd eu gweithred wladgar y Brenin a'i Lys mewn penbleth. Os oondemnio'r. Gwlad- garwyr a wna'r Brenin, cyfyd i'w erbyn en hun deimladau dyfnaf oenedl; os cy- meradwyo y Gwladgarwyr a wna. enilla wg a digofaint, y Caisar, ac o bosibl goll- yngir Own Rhyfel vn rhydd i ysglyfaetbu gwlad Groeg. Dyna gyflog pechod Groeg yn dechreu cael ed dalu. CRYFHAU BYDDIN SALONICA. Soniwyd ynia yr wythnos o'r blaen mai Un Achos, Un ac Un Cynllun oedd gan Brydain a'i Chynghreiriaid oil yn y Rhyfel presemol. Ni chafwyd erioed brawf cldriach iia, chadarnach o gywirdeb hyn nag a, gafwyd yn natblygiad y sefyllfa vn Salonica yr wythnos ddiweddaf. Glaniodd ytio Adran o Fyddin Rwsia, ac Adran o Fyddin yr Eidal. Gwneir y Gyd-Fyddin yn Salonica felly i fynv yn awr o Ffrancod. (2) Prydeinwyr, (3) Rwsiaid, (4) Eidalwyr, (5) Serbiaid, (6) Montenegriaid—-a'r oil ^li ffurfio Un Fyddin o dan lywodraeth Un Maeslvwydd —v Maeslvwydd Sarr.ail. Yn yr undeb hwn y gwel v Caisar- ei berygl mwyaf. LLANERCH Y BRWYDRO. Lie bu Paul yn pregetliu Efengyl Tywysog Tangnefedd i'r Macedoniaid gynt y mae y brwydro yn cymeryd lie y dyddiau I hyn. Thessalonica y Testament Newydd yw canolbwynt. yr ymdrech a phrif wersyll ein Cyd-Fyddin. Pe bae o'i flaen Fap o Wledydd y Beibl gwelai'r darllenydd fod ymasodiad y gelyn ar y Gyd-Fyddin yn (Thea) Salonica ar ffurf haner cylch mawr, yn ymestyn o Berea yn y gorllewin i Neapolis yn y dwyrain, a bod (hebdaw Thessalonica) Apolonia, Amphipolis, a dinas Philipi, oil y tu fewn i'r haner cylch. Nid dyna'r enwau a gewch yn y papur newydd, ond dyna'r lleoedd. GWOBR PETRUSDER RWMANIA. Disgwyliwyd yn hir ac yn ofer am i Rwmania ddod allan o'n tu ni yn y Rhyfel. Prin y gellir, 0' bosibl, ei beio hi fel yr haedda Groeg gael ei beio. Ni thorodd Rwmania yr un cyfamod wrth beidio cynorthwyo Serbia. Ar y Haw arall., buasai ei pherygl yn fawr pe y daethai hi allan yn erbyn Germani cyn i Rwsia ddatblygu ei gallu milwrol ar y naill law, a Phrydain a Ffrainc yr un modd yr ochr arall i Bwlgaria. Wrth fesur a phwyso gweithredoedd Rwmania, rhaid cofio tri pheth: — pheth: — 1. Fel y gwelwyd uchod, peryglti einioes y wlad a fuasai iddi ddod allan o'n tu ni pan oedd nerth mil- wrol Germani a Bwlgaria yn gryfach na'r eiddo Rwsia a ninau i'w ham- ddiffyn. 2. Cyfatlirach i'r Caisar yw Brenin Rwmania. er nad yn berth vn as agos iawn. 3. Nid oes gan Rwmania ddim i'w golli wrth fod yn ffryndiau a, Ger- mani pe gorchfygai'r Caisar ni, na dim i'w enill ond diogelwch. Mae ganddi lawer i'w enill, a dim bellacli i'w giolli, os daw allan o'n hoohr ni, ac os gorchfygir Germani genym. I ddeall y paragraff olaf rhaid cofio fod yn agos i haner y Rwmaniaid, o ran gwaed ac ach, yn byw o dan lywodraefch Hun- gari, yr ochr draw i'r mynyddoedd o Rumania. Uchelgais pob Rwnianiad cenedlgarol yw cael y Rwmaniaid sydd ar wasgar yn Traiissylvania (rhan o Hun- gari) yi, ol yii ddeiliaid Brenin Rwmania. Golygai hyny gael tir Transylvania hefyd yn rhan o Frenhiniaeth Rwmania. Nid oes obaith i Rwmania: srael hyn 1. 'Os bydd Germani yn fuddugol- iaethus ar ddiwedd y Rhyfel. 2. Os bydd i R wmania fwrw ei choelbren gyda Germani ac i ninau orchfygu yn y Rhyfel. Prin y geill Rwmania ddisgwyl syl- weddoli ei gobaitli cenedlaethol ychwaith 3. Os enillwn ni v fuddugoliaeth yn y Rhyfel a hithau heb roi cynoithwy i ni. Mae felly i Rwniania gymhellion cryf i ddod allan o'n tu ni, os geill hi wneuthur hyny heb beryglu ei gwlad a'i darostwng i cq safle alaethus Belgium a Serbia. Ond er maint ei pherygl rhaid fydd i Rwmania fentro os yw i enill dim oddiwrth y Rhyfel. PAFLE FILWROL RWMANIA. I ddeall anhawster Rwmania dylid oofio fod Awstria yn ffinio a, hi ar y gogledd, Ser. bia ar y gorllewin, Bwlgaria a'r y dehau, a Rwsia. yn rhauol ar y dwyrain. Gwelir Jelly fod gelynioii Prydain yn ei ham- gylchu ar dair o'r pedair ochr iddi-gan fod Serbia yn nwylaw'r gelyn. Nid yw gaUjU mi,lwrol Rwmania yn ddigon i'w galluogi nac i ymosod nac i amddiffyn yn effeithiol fwy nag un o'r tair ochr. Cyn y geill hi yn ddiogel fentro allan i fa,es y gad yn erbyn Germani bydd- yn ofynol iddi gael naill ai aanddffyniad Rwsia yn erbyn yr Awstriaid ar y gogledd, neu am- ddilfyniad Byddin Salonica yn erbyn y Bwlgariaid ar y dehau. Sicrheid y cyntaf pe croesai Byddin Rwsia. fynyddoedd Car- pathia gan feddianu rhan o Hungari. Sicrheid yr. ail pe ymosodai Byddin Salonica yn y fath rym ar Bwlgaria fel ag i orfodi y wlad hono i alw ei holl filwyr i wrfahsefyll yr ymosodiad. FPIIV, o 1 Iphan y daw Rwmania allan bydd iddi n&iU ) ai (a) Ymoeod ar Awstria yn y gog- ledd, neu (b) Ymosod ar Bwlgaria yn y daheai, canys, fel y dangoswyd, nid yw ei nerth milwrol yn ddigon iddi allu gwneyd y. ddau ar yr un pryd. Ymddibyna ar Gwrs y Rhyfel pa un o'r ddau a wna Rwmania. Os enilla Rwsia oruchafiaeth mor fawr ar Awstria na bydd perygl y bydd Byddin Awstria yn troi ar Rwmania, a'i rhwygo, yna try Rwmania gyfeiriad ei Byddin tua Bwl- garia gan ymosod yno. Os, ar y Haw arall, y bydd datblygiad ymosodiad Cyd- Fyddin Salonica ar Bwlgaria, yn ddigon cryf i alw am roll allu Bwlgaria i'w wrth- sefyll, yna gellir disgwyl i R wmania. ddanfon ei Byddin dros y mynyddoedd i Hungari er mwyii adfeddianu Transyl- vania. Dangoswyd eisoes fod ymosodiad y Bwlgariaid yr wythnos ddiweddaf yn cy- meryd lie ar ganol Maes Cenhadol Paul. Clywir heddyw y rhyfelgri lie gynt y clywid yr Apostol Mawr yn ppegk-thu Efengyl Tywysog Tangnefedd. Ar yr un pryd yr oedd Byddin Twrci yn Asia yn dringo llethrau'r mynydd-dir lie y disgynodd Noah a'i deulu o'r arch ar &,y ol y diluw. Drwy ruthr cryf ac anisgwyliadwy llwyddodd y Twrc i ddal Adran o Fyddin Rwsia yn Mynydd-dir Ararat yn an- mharod. Gorfu i'r Rwsiaid gilio yn ol, gan adael trefi a Muah, a enillwyd ganddynt oddiar y Twrc dro yn ol, eto yn ganddynt oddiar y Twrc dro yn ol, eto yn Haw y gelyn. Ond erbyn hyn mae Rwsia, ar ol derbyn adgyfnerthion, wedi ymoeod o'r newydd ar y Twrc yn nghyffiniau Llyn y Fan, ac wedi adenill drachefn v ddwy dref, gan gymeryd rhai miloedd o'r Tyrciaid yn garcharorion, a gvru'r gwedd- ill unwaith eto ar ffo. Gwthio ei ffordd ymlaen tua'r Rheil- ffordd fawr sy'n rhedeg o Gaercystenyn i Bagdad, yw nod ac amcan Byddin Rwsia. Unwaith y torir ac y delir y Rboilftordd hon gan Rwsaa, rhaid fydd i'r Twrc yn Asia fyw ar ei adnoddau ei hun gan na fedr mwyach dderbyn cymorth o Ewrop. y .1 TRIP YSGOL SUL I MESOPOTAMIA! Llawer a, glywyd yn y Rhyfel presenol am ysgil a lbeiddgo*wch Morwyr Prydain. Eithr hysbyswyd yr wythnos ddiweddaf am un o'r gweithredoedd mwyaf beiddgar y clywodd y byd erioed am dano. Os edrycliir ar Fap da, o'r Rhyfel yn y Dwyrain gwelir fod Byddin Gcrdd Eden wedi gwneyd oi ffordd tua Bagd.d a thua Kut ûl Amara, o Ur y Caldeaid, ar hyd yr afonydd Euphrates a Tigris. Dwy afon fawr fordwyol ydyn^a ffinient Ardd Eden gynt o bob tu. Ond coir ynddynt hwnt ac yma fanau bas fel y rhaid caelllongau ysgafn i'w mordwyo. Diffyg hyny mae'n dra, thebyg ocdd yn cyfrif am yr oediad beius mewn danfon adgyfnerthion a chyf- arpar, a bwyd, a rheidiau craill, i'r Fyddin Brydeinig yn Kut d Amara. Ond yn Mhrydain ceir nifetr o bleser- longau yegeifn fordwyant afonydd, a rhanau tawel o foroedd Prydain, i gludo plesordeithwyr air y dwr. Dyma hoff ddifyrwch trips Ysgolion Sul y Deyrnas. Llongau yageifn, gwan, ydynt, heb ofyn ond ychydig ddyfndcr dwfr i'w nofio, ac "heb eriocd gael eu bwricdu i farchog na gwynebu ton an gcirwon y oefnfor. t, Daeth i fryd yr awdurdodau niai dyma'r llongau pwrpasol i fordwyo'r Euphraes a'r Tigris. Ond pa fodd i'w cael o Brydain drwy For Ystormus Biscay, dros For y Canoldir, drwy'r M6r Coch, a Chefnfor India i For Persia a genau'r Afon Euphrates, oedd y cwestiwn. Rhaid dilyn y llwybr hyn ar y map cyn sylweddoli ei hyd a'i oeryglon. Anturiodd Morwyr Prydain y gotchwyl. Hwyliasant- nifer o'r pleserlongau bychain ysgteifn hyn drosi ddau gefnfor yr holl ffordd o Brydain i For Persia, a heddyw clywir chwibanogl "Penny Steamers" bach Prvdain yn deffro tf.welwch Gwas- tadedd Dura, lie gynt v bu chwibanogl