Collection Title: Llan

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 2 of 8 Next Last
Full Screen
1 article on this page
aWRS Y RHYFEL

yn fychan,—gwelir fod cyfanrif oolledion y gelyn mown un wythnos ar ddeg yn 1,962,672, neu yn agos i ddwy filiwn. Mae hyn ar gyfartaledd yn gwneyd naw ugain mil (180,000) bob wythnos. Ac mae'r coUedion hyn yn dal i barhau o hyd o wythnos i wythnos. 0 BA LE Y LLENWIR Y BYLCHAU ? 0 ba le ynte y llenwir y bylchau ofn- adwy beunyddiol hyn ? Canys fe'u llenwir o hyd hyd yn hyn. Dywedais eisoes mai nid dychymyg noetli yw y ffigyrau uchod. Cadarnheir hwynt gan ffigyrau swyddogol eraill. Cymerer er engraifft y difrod a achoswyd i'r gelyn gan ein hymosodiad ni a'r Ffrancod ar lanau'r Somme er dechreu Gorphenaf. Rhenir pob Byddin i niter o GorfThioedd (Army Corps). Rhenir pob Corfflu (Army Colrps) yn Adranau (Divisions). Gwneir pob Adran (Division) i fyny o Gatrodau (Regiments). Dug pob milwr ar ei wisg nod ei Gatrawd. Felly pan merir neb yn garcharor, neu os ceir corff milwr ar y maea ar ol brwydr, gellir gwybod. pa gatrawd y perthynai iddi, ac fel rheol pa, Adran hefyd. Cyfrifir Adran yn Myddin Germani yn thifo ar gyfartaleddd 12,000 (deuddeng mil) o wyr yn llinell y brwydro. Cafwyd, drwy nodau'r lladdedigion a'r oarcharorion Germanaidd yn mrwydrau glanauV Somme rhwng Gorphena.f laf a Medi 8fed, fod 58 Adran (Army Division) gwahanol, wedi bod yn cymeryd rhan yn y brwydro ar y maes. Gwna hyny gyfan- rif o 696,000 o filwyr Germani wedi bod yn ymladd yn un neu'r llall o frwydrau beunyddiol y Somme. Cafwyd, wrth gymharu'r ffigyrau o ddydd i ddydd nad oes yn aros heddyw yn llinell y brwydro ddim and 10 allan o'r 58 Adran gwreiddiol. Tynwyd 28 Adran allan o'r llinell brwydro am eu bod wedi cael eu rhwygo a'u tori i fyny i'r fath raddau fel na allent aros i wynebu tan brwydrau'r Somme heb eu liad-drefmi. Gyrwyd 11 Adran arall i rywle i orffwys. Erbyn hyn mae gweddillion y 28 Adran y soniwyd am danynt wedi cael eu gyru i rywle arall--gyda milwyr newydd o rywle yn llenwi eu bylchau. Cyfyd y cwestiwn eto ynte, o ba le y ceir y milwyr? Ceir yr ateb wrth ohwilio hanes gwahanol ranau o faes y rhyfel, a gweithrediadau awdurdodau milwrol Ger- mani o fewn y 18 mis diweddaf. Erbyn hyn, i bob dyben ymarferol, y Oaisar sy'n llywodraethu holl Fyddinoedd Germani, Awstria, Bwlgaria, a Thwrci. Cadfridogion Germanaidd sydd iddynt ymron oil. Ceir catrodau German aidd yn myddinoedd y tair gwlad arall; ceir cat- rodau Uuosocach o filwyr y tair gwlad hyny yn myddinoedd Germani. Drwy y trefn- iant hwn mae holl ddefnyddiau byddin- oedd y pedair gwlad yn Ita", y Caisar i wneyd a hwynt fel y myno. Llynedd, wedi agor ohono y rheilffordd drwy Serbia i Gaercystenyn, mynodd y Caisar gael symud o Twrci i Germani rai canoedd o filoedd o ddynion ieuainc Twrci na fuont erioed o'r blaen yn dwyn arfau. Yn Germani, gan swyddogion German- aidd. y'u dysgwyd i fod yn filwyr. Maent iheddyw yn brwydro yn myddin Germani yn erbyn Rwsia, yn erbyn Rumania, yn erbyn yr Eidal, ac yn Ffraino. Gwnaeth yr un peth a. Bwlgaria. Ceir oyfran faelaeth o wyr ieuaino Bwlgaria yn ymladd mewn gwlad estronol, pan mae amgen gartref yn Bwlgaria am bob dyn y gellir ei gael. Ceisiodd y Caisar wneyd yn gyffelyb yr wythnos ddiweddaf a byddin Groeg. Fis yn ol rhoddodd ei air ar lw mewn du a gwyn ar bapuir na ohaffai na Bwlgar na German oaod troed yn Kavala (Neapolis), na Drama (Philippi), nao eraill o ddinas- oedd Groeg. 0 fewn y pythefnos di- weddaf meddianodd y gelyn y dinasoedd yn Groeg y tyngodd drwy lw na chaffai milwfr o'i eiddo osod troed ynddynt. Yn Neapolis a Philippi cymerodd yn garqhar- orion holl fyddin Groeg oedd ar y pryd yn y ddau le. Dywed rhai eu bod yn 25,000. Cludwyd hwynt ymaith i Awatria. Ei amcan yn ddiamheu oedd eu eysylltu ag un nen arall o fyddinoedd Germani, &'u gorfodi i ymladd dros y Caisar lie y mynai efe. Dyna'r tal a ddyry efe i'w frawd- yn-nghyfraith, Bronin Groeg am ffydd- londeb diwyro hwnw wrtho o'r dechreu. LLEIDR A CHAETHGLUDYDD YW'R CAISAR. Amlwg erbyn hyn mai caethgludo milwyr Groeg a wnaeth y Caisar. Mae Llywadraeth Groeg, rhag ofn y bobl gan mar chwerw'r teimlad drwy'r wlad, newydd yru gorohymyn pendant i'r Caisar i ddychwelyd y caethgludedigion hyn yn ol i Groeg yn ddiymdroi, Gesyd hyn y Caisar mewn anhawster mawT. Os cydsynia, cydnebydd gerbron y byd mai lleidar dynion ydyw, a daros- tyngir ei falohter i'r llwch drwy orfod ohono roddi yr yspail i fyny. Oa gwrthyd, yna. m eill Brenin Groeg gadw ei orsedd am ddiwrnod os na ohyhoedda yntau ryfel yn erbyn Germani. Na thwyller neb pan gyhoodda Groeg ryfel yn erbyn Germani. Nid o gariad atom ni nac o ddymuniad i'n cynorthwyo, and yn unig er mwyn tawelu'r ystorm sy'n oodi ymhlith y Werin yn arbyn y Goron. Ni haedda Groeg yr un diolch felly am ymuno yn awr. Pefcae wedi eadw ei chy- tundeb i gynorthwyo Sorbda pan ddech- reuodd y rhyfefl, btrasai llwybr y Oaisar i Gaercystenyn wedi cael ei gau, a ffyn- honell ei adgyflenwad o filwyr o Asia wedi ei sychu ymhedi cyn yma. I'w cynorthwyo i ddwyn trouliau aruthrol y rhyfel, lladrataodd y Caisar yr wythnos ddiweddaf ddeugain miliwn o bunau o ariandai Belgium. I'w alluogi i gael dynion nowydd i'r fyddin, caethgludodd niferi mawr o wyr ieuaino Ffrainc a Belgium o'u cartrefi i Germani, gan ou gorfodi i weithio yno fel y medrai ef ryddhau gwoithwyr Germani, a'r milwyr oedd yno for 'Homo Defence,' i'r fyddin. Meddylier sut y buasai yma yn y wlad hon pe caem ddynion o wlad arall i lenwi lie y canoedd o filoedd o filwyr sydd yn segur yma, ac y rhyddhoid pob gweithiwr a fewn oed milwrol, ymhob man i'w gor- fodi i'r fyddin, y fath ychwanegiad mawr a fyddai hyny i'n byddin. Dyna wnaeth y Caisar. DIRGELWCH SEFYLLFA RUMANIA ETO. Erys y sefyllfa yn Rumania yn ddir- gelwch i lawer eto, yn benaf am na chy- merasant d-rafferth i ddeall y sefyllfa ddaearol, ac amcan y gwahanol syniadau o eiddo y byddinoedd sy'n gwTihwynebu eu gilydd. Gellir dweyd yn gyffredinol fod y gair o fynegwyd yn yr erthyglau hyn yn y LLAN am y pythefnos diweddaf wedi cael ei gyf- lawni yn natblygiadau y sefyllfa, yr wyth- nos a aeth heibio. Edrycher eto ar y plan o sefyllfa y gwledydd yn y Balkans yn eu perthynas a'u gilydd, ac ar y desgrifiad a nodwyd yn y LLAN yr wythnos ddiweddaf o aafleoedd y gwahanol fyddinoedd, a deallir yn well y datblygiadau diweddaf, a safle a phosibl- iaethau y gwahanol fyddinoedd. Rhaid edrych ar DRI MAES GWAHANOL yn y Balkans fel y mae pethau heddyw, a deall cysylltiad hanfodol y tri maes hyn, a'r byddinoedd sydd yn brwydro arnynt, a'u gilydd. Y MAES CYNTAF—TRANSYLVANIA At ein hamcanion presenol gellir cyfrif Transylvania fel y rhan hono of Awstria sy'n ffinio a. Rumania ar y gogledd ac a godlewin Rwsia. Yn eysylltu a Tran-1 sylvania mae Hungari, y rhan bwysioaf mewn rhyw ystyr o holl Awstria. Byddai enill Transylvania gan y Rws- iaid a'r Rumaniaid yn golygu enill Hungari. Byddai enill Hungari yn peryglu yr oil o Awstria; yn cau y drws rhwng Germani a Bwlgaria; ao yn galluogi y gelyn i fyned i mewn yn llifeiriant mawr drwy ddrws y cefn i Germani. Gwelir felly mor hanodol bwysig yw i Germani i gadw Transylvania,. Mae byddinoedd Rwsia a Rumania eisoes wedi enill lianer Transylvania. Ymdrech mawr Germani yn awr yw eu gyru yn eu hoi dros y terfyn. YR AIL FAES—Y DOBRUDJA. Yr ail faes yn y Balkans yw y Dobrudja. Darn a'r atrfordir yn Ru- mania, rhwng yr afon Danube a'r Mor Du yw y pabrudja. Mesura tua 200 milltir o hyd o'r gogledd i'r de, ac o haner can' milltir i 150 milltir o led o'r gorllewin i'r dwyrain. Rhywbeth tebyg J yw felly o ran maintioli i Gymru. Ffinia a Rwsia o du'r gogledd, ac a Bwlgaria o du'r dehau; i'r dwyrain mae'r Môr Du, ac i'r gorllewin yr afon Danube a gweddill gwlad Rumania. Bwlgaria j oedd pia'r rhan fwyaf ohono hyd o fewn tair neu bedair blynedd yn ol pan, fel canlyniad y rhyfel yn y Balkans, y medd- ianwyd y tir gan Rumania. Mewn un man yn unig yn y Dobrudja y oeir rheil- ffordd yn croesi'r Danube. Enw'r lie yw Tserna Voda. Yno mae pont flw-i- dros yr afon. Dros y bont hono y rhaid i fyddin Rwada a byddin Rumania groeai'r afon Danube i gyraedd Bwlgaria, tua ohan' milltir oddi yno. Ma.eJr bont yma yn bont hynod a phwysig. PONT NAW MILLTIR 0 HYD YDYW. Mae'r bont yn dair rhan, gan fod corsdir (tebyg i'r hyn a welir ger Dyfi Junction, rhwng Machynlleth ac Aberdyfi) o bob tu i'r afon, tra'r afon ei hun'vn llydan iawn yno. Ar y Dobrudja yr ymosododd y German- iaid a'r Bwlgariaid, fel yr amlygwyd yr wythnos ddiweddaf. Enillaeant ddwy dref bwysig ar lanau'r Danube, sef Turtucai a Silistria. Enill, neu ddinystrio Pont Taerna Voda oedd eu hamcan. Yr oedd dau beth syanddynt mewn golwff wrth hvnv sef:- 1. Rhwystro byddin Rwsia. i gyraedd Bwlgaria dros y tir. 2. Gdrfodi'r Rumaniaid i alw eu byddin yn ol o Transylvania. i amddiffyn eu gwlad a'u prif ddinas. Rhaid mesur llwyddiant neu fethiant ymosodiad Bwlgaria ar Rumama felly, nid yn ol maint y tir a enilla, neu yn methu enill (neu ddinystrio) y bont fawr y son- iwyd am dani. Os enilla, neu os dinyetria y bont bydd wedi enill buddugoliaeth fawr. Os metha, bydd wedi Cwrdd a gorohfygiad peryglus iddi. Cadwed y darllenydd felly ei lygaid or hianes y bont, ac felly y geill farnu oreu ai llwyddo ai methu mae Bwlgaria yn erbyn Rumania. Hyd yn hyn meifchu a wnaeth. Tra yr wyf yn ysgrifenu nme brwydr fawr yn oael ei hymladd tuag ugain milltir oddiwrfch y bont Yn y cyfamser mae llynges Rwsia ar lanau'r Mor Du yn bygwth gosod byddin Bwlgaria mewn enbydrwydd drwy lanio byddin Rwsia o'r tu ol i fyddin Bwlgaria. Os llwydda i wneyd hyny, bydd byddin Bwlgaria mewn trap yn y Dobrudja. Y TRYDYDD MAES-CYFFINIAU SERBIA. Y trydydd maes yw y cyffindir rhwng Groeg a Serbia. Edrycher eto ar ddos- parthiad y byddinoedd a roddwyd yn y LLAN diweddaf, a gweler perygl y Bwl- gariaid sydd ar diriogaeth Groeg. Mae'r Serbiaid wedi enill buddugol- iaethau pwysig, ac wedi croesi'r terfyn yn ol i'w gwlad eu hun. Bygythir y?tly- ddetheu byddin Bwlgaria yno hefyd o'r gorllewin. Gellir disgwyl datblygiadau pwysig yno yn fuan. Gwelir felly berthynas y tri maes a nodwyd, a'u giliydd. Os llwydda'r Bwlgariaid yn y Dobrudja effeithia yn fanteisiol i'r Germaniaid yn Transylvania gan y cilia'r Rumaniaid yn ol i amddiffyn eu gwlad eu hun. Os llwydda'r Rwsiaid a'r Rumaniaid yn y Dobrudja effeithia ar y brwydro yn Serbia, yn gymaint ag y bydd rhaid i'r Bwlgariaid yno gael eu galw adref i am- ddiffyn eu gwlad a'u prifddinas exi hunain, tra y rhoddir nerth ac yspryd newydd i'r ymoaod ar Transylvania. DYDD IAU, Medi 21. BUDDUGOLIAETH I'R RUMANIAID Mae y Rumaniaid wedi meddianu prif dref rhanbarth Fogaras, ac y mae llawen- ydd y trigolion yn fawr iawn. Rumaniaid yw y rhan fwyaf o drigolion Transylvania, gan y dengys y oofrifiad diweddaf fod 78,000 o'r boblogaeth yn Rumaniaid, a'r gwedd,ill yn ddyeithriaid. Gwnaed gwr- hydri gan y Rumaniaid, gan mai un cwmni yn unig o honynt aethant yn gyntaf i fewn i'r lie. Gwynebwyd hwy gan luoedd o Awstriaid a Hungariaid, ond daliasant yn eofn, gan anfon am adgyf- nerthion, y rhai ddaethant yn union- gyrchol gyda'r gerbydres. Mor fuan ag y daethant at y dref, neidiodd y milwyr allan o'r cerbydau, gan ruthro rywsut i'r dref, a gorfodasant i'r gelyn ffod yn ddi- oed, a meddianasant y dref. GERMANI YN OFNI AWYRLONGAU PRYDAIN FAWR. Dywedir fod y Germaniaid wedi eu llanw a, braw gan y ffaith fod gan Brydain lawer mwy o awyrlongau na hwy, ac y mae Huaws o honynt wedi creu Uawer o ddifrod yn Flanders, gan ymosod ar ystorfeydd pylor a lluestai y Germaniaid. Rhedai y milwyr a'r trigolion i rywle. i ymguddio, a theyrnasai dychryn drwy yr holl wlad. Llwyr ddinystriwyd llawer o weithfoydd awyrlongau y Germaniaid, lladdwyd nifer o filwyr, tra y clwyfwyd llawer mwy. DIFROD GAN Y BWLGARIAID. Gan fod y Bwlgariaid yn ofni y bydd Monastir yn cael ei meddianu yn fuan, mae y giwed yn gwneyd cymaint o alan- astra ar y dref ag sydd bosibl, ac yn own- camdrin y trigolion yn gywilyddus. Nid yn unig gwnant hyn, ond y mae pentrefi cyfagos yn cael eu hanrheithio ganddynt. MILWYR GROEGAIDD YN UNO A'R CYNGHREIRIAID. Adroddir o Athens fod 150 o filwyr Groeg, dan y Cadben Carapano, wedi uno a'r Cynghredriaid yn ychwanegol at y rhai oeddynt wedi uno o'r blaen. Dydd GWENER. Y BRWYDRO AR Y SOMME. Parhaodd y Germaniaid eu hymdrechion i adfeddianu aafleoedd a gollasant nos Feroher a boreu lau. Gwnaed un ym- osodiad gan allu cryf ar filwyr New Zea- land yn nghanol noe, ond siomedig iawn ydoedd yn ei ganlyniadau, gan i'r milwyr nid yn unig orfodi y Getrmaniaid i ffoi ar frys, a chymeryd llawer o garoharorion, ond llwyddasant i feddianu ychwaneg o dir, ac ymdaith yn mhellach na'r safle a feddianent yn flaenorol. Ymddengys fod y milwyr Prydeinig yn ymosod yn barhaus ar ffosydd y Germaniaid, ac yn cyflawni gwaith da. VERDUN. Drwy gyfnes o ymosodiadau, Tn y Ffrancod wedi llwyddo i aymud y Tywyaog Coronog a'i lu yn mhellach o Verdun. Cymerwyd dros gant o German- iaid yn garoharorion, a meddianwyd eu ffoeydd mewn lluawa o fanau. Gwthiodd y Ffrancod eu ffordd gan' Hath yn mhellaoh yn nghoedwig Vaux-ChapitraJ Y DOBRUDJA. Rhwystrwyd byddin Mackeneen i symud yn mhellach o fewn dwsin o filldiroedd o reilffordd BukareetConstanza. Addefa yr awdurdodau yn Berlin hyn, a dengys ad-1 roddiad Rumanaidd mai canlyniad ydoedd hyn i frwydr a gymerodd le ar yT holl flrynt yn oydredeg a'r rheilffordd. FFRYNT SALONICA. Ymleddir yn ffyrnig ar aden chwith y Cynghredriaid yn nghyfeiriad Monastir. Lhryddodd y Serbiaid i beri i'r Bwlgar- iaid ffoi. Mae ein milwyr o fewn pum' milldfr i'r ffindir. HELYNT YN CRETE. Hysbysir fod trigolion Crete wedi cyfodi mewn gwrthryfel; yn erbyn Brenin Groeg, yr hwn ni fynant ei lywodraethiad drostynt yn hwy, ac y maent wedi ffurfio Uywodraeth o'r eiddynt eu hunain. Dydd Sadwrn. YMDRECHION OFER Y GERMAN- IAID. Nos Iau a dydd Gwener, darfu i'r Ger- maniaid wneyd ymdrechion caled i fedd- ianu Combles oddiar y Cynghreiriaid, ond ni lwyddasant, a bu raid i'r Iluoedd Ger- manaidd ddychwelyd yn ol i'w ffosydd ar ol dioddef colledion trymion. Bu y milwyr Prydeinig yn alluog i wella eu safle ddydd Gwener, a thrwy ymosodiad sydyn llwydd- odd y Ffrancod i feddianu adeilad cadam oedd yn meddiant y Germaniaid. Hysbysir yn swyddogol fod y Ffrancod, oddiar ddechreu y brwydro ar y Somme, wedi cy- meryd 34,050 o garcharorion, a'r Prydean- iaid 21,750, yn gwneyd cyfanrif o 55,800. FFRYNT SALONICA. Mae llongau Prydeinig wedi bod yn tan. belenu y llinellau Bwlgarajdd yn Neohori, gerllaw genau y Struma., a dywedir fod atalfa yn cael ei roddi ar fordwyad pob llong ar lanau Groeg. Wrth wthio ymlaen yn nghyfeiriad Monastir, mae y Sferbiaid wedi cymeryd cant yn ychwaneg o garoharorion. Y DOBRUDJA. Fel canlyniad gorchfygiad Mackenzen, mae y rheilffordd rhwng Constanza a'r Danube i Bucarest yu awr yn rhydd oddi- wrth bob bygythiad. Parhaodd y frwydr am bum' niwrnod, a hysbyswyd ddydd Sadwrn fod y Rwsiaid a'r Rumaniaid wedi encilio. Erbyn dydd LIun, yr oeddynb wedi meddianu aafleoedd cryfion rhyw ddeuddeng milldir i'r de o'r rheilffordd. Dydd Mercher, cyhoeddwyd o Sona fod brwydr galed yn cael ei chario ymlaen, at chyhoeddwyd o Berlin ddydd Iau eu bod yn methu myned ymlaen yn mhellach. Yr oedd y Rumaniaid dan lywyddiaoth y Cadfridog Averescu effeithia ei fuddugol- iaeth air Dobrudja, a gweithreda ar y galluoedd Bwlgaraidd yn Macedonia. Dydd LLUN. YMOSODIADAU AWYRAWL CAN DDEUDDEG 0 ZEPPELINS. Ymwelwyd a. gwahanol ranau o Loegr nos Sadwrn a dydd Sul gen ddeuddeg o Zeppelins Germanaidd, y rhai wnaethant lawer o ddifrod. Uundain ydoedd prif gyrohfan yr ymosodiadau, ond cafodd y llofruddwyr nosawl fwy nag y bargeinias- ant am dano gan ein hawyr-longeu a mag- nelau amddiffynol. Llwyddwyd i ddwyn i lawr un Zeppelin otdd yn fflamiau, yr hon a ddisgynodd mewn ocve maip yn Essex. Lladdwyd y llywydd a'i griw un ai drwy gaol eu llioogi i farwolaoth neu mewn canlyniad i neidio allan o'r Zeppelin cyn iddi gyraedd y ddaear fel polen o dan. Gorfodwyd i un anall ddisgyn i lawr yn Essex, lie y cymerwyd y awyddogion a'r dwylaw i'r ddalfa gan heddgeidwad noill- duol. Ymwelodd Zeppolinj ereill a'r sir- oodd dwyreiniol a chanolbarthol a swydd. Lincoln, a chawsant dderbyniad hollol wahanol i'r hyn ddisgwylient. Hyd y gwyddia ar hyn o bryd, cyfanrif y rhai laddwyd ydoedd 30, tra yr anafwyd 110. Saif rhestr Llundain fel y canlyn: Lladdwyd. Clwyfwyd. Dynion 17 46 Merched 8 37 Plant 3. 17 28 99 Mewn un dref yn y friroedd canolbarfchol lladdwyd dau ac anafwyd 11, tra yr ofnir fod dau gorff arall; wedi eu claddu dan falurion tf. Achoswyd llawer o golledion ynglyn a thai, ystorfeydd, a ohan din. mewn gwahanol fanau. Y BRWYDRO AR Y SOMME. Yn ughyffiniau y Somme, mae awyr- longau y Prydeaniaid a'r Ffranood wedi bod yn hynod brysur ddiwedd yr wythnos. Bu awyrenwyr Ffrengig yn cymccryd rhan mewn 85 o frwydrau awyrawl, yn y rhai y bu raid i 38 o awyrlongau y gelyn ddisgyn, rhai o honynt wedi eu dinystrio yn hollbl, a'r lledll wedi eu anmharu. Dinystriwyd wyth o awyrlongau y gelyn gan y Prydedn- iaid. Gwnaed rhuthr o 130 milldir i wlad Germani gah awyrenwyr Ffrengig, a than- belenwyd tref fawr weithfaol Mannheim. Achoswyd 1 lawetr o ffrwydriadau, & chan- fyddwyd tan mawr. Tanbelenodd 50 o awyrlongau Prydeinig ar gyd-ffordd rheil- ffordd, lie y llwyr ddinystriwyd dwy ger- bydres yn cludo cyfarpar rhyfel. Ym- ddengya fod y tan-beleniadau rhwno- yr Ancre a'r Somme y ffyrnicaf erioed. Dtdd Mawbth. Y SEFYLLFA YN GROPG. 0 New^dion o Athena a fynegant fod digwyddiadau pwysig ar fin cymeryd lie. Un peth sydd sicr, 8ef fod M. Veneroloa jmadael o'r ddinas am Salonioa a ^>WT^a(^ o osod ei hun fel ar- weanyild y gwrthryfelwyr. Mae y gwrth- ryfel wedi bod yn llwyddianus yn Creta, a r gwTthryfelwyr, tua 3000 o rif, wedi meddianu swyddfeydd y Llywodraeth yn Canea., y brif-ddinas.