Collection Title: Llan

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

Image

A PHP Error was encountered

Severity: Warning

Message: A non-numeric value encountered

Filename: views/newspaper_view.php

Line Number: 100

1 of 8

A PHP Error was encountered

Severity: Warning

Message: A non-numeric value encountered

Filename: views/newspaper_view.php

Line Number: 103

https://cymru1914.org/en/view/newspaper/3688436/1" title="Next Page">Next Last
Full Screen
2 articles on this page
Advertising

CYHOEDDIADAU Y CENHADAETH CENEOLAETHOL (IWEL TUDALEN 5.

CWRS Y RHYFELI

CWRS Y RHYFEL. I ADOLYGrlAD YR WYTHNOS. BRWYDRAU OFNADWY. BUDDUGOLIAETHAU ARDDER- CUPG. CYFLWR GRESYNUS GROEG. Anaml y cafwyd er dechreu y rhyfel wythnoa lawnaoh o newyddion da i'r deynxas o bob rhan o faesi y gad. Dialier e hyd i edrych ar yr holl frwydno ymhob man fel un maes, a deuir i ddealltwriaoth, well o wir aefyllfa pethau. BRWYDRAU OFNADWY. Ni bu ond odid er dechreu y rhyfel frwydro mwy ffyrnig, mwy di-ildio, mwy di-drugaredd, nag a wolwyd yr wythnos ddiweddaf. Mae hyn yn wir am ymron bob rhan o'r mae&am Ffraimc, yr Eidal, Serbia, a Roumania..Mae R wsia. o bosibl yn eithriad. Cymeryd egwyl er cael eu gwynt yn ol wedi y rhuthriadau mawr diweddar y mae y Rwsiaid. Pan gaffont eu gwynt yr- 0 hyny yw pan 1 t-ut wedi sicrhau yr adgyflenwad cyfarpar angen- rheidiol o bob math, gellir disgwyl clywed o Rwsia, o bosibl, newyddion mwy cyffrous a chalonogol na hyd yn oed yr hyn a glywsom o Ffrainc yr wythnos ddiweddaf. GORCHESTWAITH YR EIDAL. Er na chafwyd yn y newyddiaduron nemawr ddim hanes ymddangosiadol bwysig o'r Eidal er's tro, eto i gyd parhejr yno i gyflawni gorchestwaith o ddydd i ddydd, o natur moir feiddgar a llwyddianuB ag a fuasai yn rhyfeloedd y gorffenol yn caell ei gyfrif ymhlith gorchestwaith mwyaf rhyfeloedd y byd. Arferid edryoh ar waith Napoleon Bonapart yn arwain byddin droe yr Alpau o Ffrainc i'r Eidal fel un o brif orcheet- gampau milwrol yr oesoedd. Eto i gyd mae yr hyn a wnaeth milwyr yr Eidal o fewn yr wythnosau diweddaf wedi taflu hyny i'r cysgod. Maent wedi enill budd- ugoliaethau ar y gelyn ar bon mynyddoedd doirgwaith uohter y Wyddfa. Maent wedi teithio yn fyddin fuddugoliaethus ar hyd Uwybrau na fedrai*r gedfr gwylltiom eu dringo. Nid rhyw ffigiwr barddonol o siarad, ond gwirionedd llythrenol yw hyn. Meddylier am gludo magnelau trymion o Feddgelert i gopa'r Wyddfa, nid ar hyd y ffotrdd, na llwybr, ond i fyny yn syth dros y clogwyni noeth a'r creigiau ysgythrog, & cheir rhyw ddrychfeddwl gwan am yr hyfi a wnaeth byddin yr Eidal. Buasai y peth yn anhygoelni bae ei fod wedi cael ei wneyd ganddynt. Er dangos ysprycf byddin yr Eidal cy- mietrer un emgraifffc yn unig. Yr ocdd dai-ii mawr o fynydd wedi cael ei ddymohwelyd gan dynameit yn ystod ymosodiadyr Eidal ar fyddin Awstria, claddwyd yn fyw nifer o filwyr o'r ddau tu. Ymhen hir a hwyr wedi hyny wele genadwri Cadfridog Awsfrriaidd at Gadfridog yr Bidal, yn gofyn am gadoediad, hyny yw am atal brwydro dros amser penodedig. Dywedai fod nifer o filwyr wedi cael eu claddu pan ddymohwelwyd y mynydd, a. bod yr Awstriaid yn eu plith wedi oael eu hachub gan eu cydilwyr drwy eu rhyddhau o'u caethiwed. Ond, dywedai fod nifer o filwyr yr Eidal eto yn fyw o dan y dreigiau, ac os y oeid cadoediad y mynai yr Awstr- iaid aohub y rhai hyny hefyd. Ateb Cadfridog yr Eidal ydoedd, os oedd yr Awstriaid wedi cael cyfle ac amser i achub eu gwyr eu hxinain ac e.r hyny wedi gadael milwyr yr Eidal oedd yn eu hymyl heb geisio eu gwaTedu, fod hyny yn profi nad oedd yr un teimlad o ddynoliaeth yn awdurdodau milwrol Awstria. ac nad gwiw awneyd cytundeb o fath yn byd a hwynt. «Am hyny," ebe Cadfridog yr Eidal, "aed y frwydr ymlaen!" Ac ymlaen yr aeth nes gym yr Awstriaid ar ffo, a gwaredu y gweddill oedd yn fyw o fechgyn yr Eidal yn y graig. ¡ YN OL I SERBIA. Ymladd eu ffordd yn ol i'w gwlad eu hun y mae y Sorbiaid ar waethiaf holl ym- drechion gwallgof y Bwlgariaid i'w rhwystro. Cyfrifir y Bwlgariaid heddyw ymhlith y I creulonaf o bawb milwyr. Poenydiant, lladdant, treisiant y diamddiffyn ymhob man y cant gyfle. Ped adroddid haner y gweithredoedd erchyll a gyflawnasant yn Serbia o fewn y mis diweddaf, buasai yn ddigon i yru ias o ddychryn a digofaint drwy bob calon. Arferid cyfrif y Ger- maniaid yn ellyllon, ond ymddengys fod rhagor rhwng ellyll ac ellyll mown erch- ylldlra, a bod cr^ulouderau r Bwlgar yn taflu eiddo'r German i'r cysgod. I'r fath raddau mae hyn yn wir nes mae'r Ger- maniaid sydd yn brwydro ar gyffiniau Serbia pan yn ildio eu hunain yn garchar- orion yn gwaeddi:— "Germaniaid ydym ni! Nid Bwlgariaid mo honom I" A da y gwnant., canys cymaint yw di- gofaint y Serbiaid at y Bwlgariaid treisiol fel nad oes nemawr obaith i'r Bwlgar gael arbed ei fywyd os delir ef gan Serbiad. Meddylier ein bod ni, y Cymry, wedi golrfod ffoi o'n gwlad, gan adael ein gwragedd, a'n plant, a'n hen bobl ar ol at dr gelyn morlanfad a ohreulawi. ag ydyw'r Bwilgar; ac yna, fod cymorth yn dod a ninau yn ymladd ein ffordd yn ol i'n gwLad anrheithiedig, a gweled ohonom olion ofnadwy yr ysgelorderau a gyflawawyd yn ein cartlrefi ac ar ein han- wyliaid. Oni buasai yr olygfa a'r atgof yn awchlymu pob cledd, yn gwroli pob calon. yn nerthu pob braich 1 Rhowch eich hnnain felly yn lie byddin Serbia yn deohreu ad en ill eu gwlad o law y treisiwr a'r gorthryniydd, a chewcb ryw syniad gwan o uatur ofnadwy y bnvydro ar gyffiniau Serbia y dyddiau hyn. GWRHYDRI ROUMANIA. Mae hanesi y rhyfel yn Rountania vn cadanihau yr hyn a ddywedwyd o'r blaen yn y Llan. Mae cwrs y rhyfel yno wedi datblygu ymron yn hollo] ar y llinellau a awgrymwyd yma. Anelu at y bont fawr naw mintir dros y Danube, yn Dobrudja, a wnaeth Mack en- sen a'i fyddin gyniysg o Geirmaniaid a Bwlgariaid. Wedienil1 rhai brwydrau, daeth yntau wyneb yn wytieb â'i feistr. Bu brwydro caled ymron yr holl ffordd o'r afon i'r mor. Gorchfygwyd MackeH- sen. Gorfu idd0, gilio yn ei ol tua Bwl- garia. Wrth encilio llosgwyd pob tref, a phentref, a fferm, a thy ar eu ffordd. Dyna ddiwedd goresgyniad y Dobrudja. Yn Transylvania casglodd y gelyn fyddin gref i geisio rhwystro'r Rouman- iaid i otrlifo'r wlad. Yno, fel yn y Dobrudja, cafodd y gelyn lwyddiant dros alnwr. Gorfu i r Roumaniaid, neu yn hytrach eu blaenfyddin, gilio yn ol drwy'r Bwlch yn y mynydd. Tybiai'r Caiser fod buddugoliaeth fawr yn ymyl. Bu llawen- ydd drwy yr oil o G-e/rma 11 i. Ond yn fuan, wedi cael adgvfnerthion, ail ymosodocM y Roumaniaid, gan adenill y tir a gollwyd. a sicrhau eu gafael ar Transylvania. YN RWSIA. Ar gyffiniau Rwsia y mae Hindeiiburg vn gwneyd ei mdrech fawr. Casglodd fvddinoedd mawrion. Taflodd hwynt ar draws llwybr byddin Rwsia. Ataliwyd hoim i fyned rhagddi--elthr nid yw y diwedd eto. A fuoch ohwi erioed yn sefyll ar bont yn croesi afon mewn llif? Trwy ryw ddamwain mae coed talfrig wedi cael eJl cludo n y llifeirianfc, ao wedi ffurfiorhag- fur i'r bont yn erbyn y llifeiriant, eithr perygl ac nid dyogelwoh i'r bont yw hyny. Gwir fod y dyfroedd yn croni o'r tu ol, a'r afon yn gymharol dawel, a'r tir o bob tu i'r afon yn v dyffryn islaw yn ymddangos yn ddiogel. Ond tra'r dyfroedd yn croni yr ochr uchaf i'r bont. ac yn iparhau i groni, mwy-fwv yr a perygl y bont a'r dyffryn islaw iddi. Pan ddaw pwysau 1 dwfH* yn ddigon, fe vagubir y bont ywaith, ac yna gwae y dyffryn islaw. Rhywbpth ielly yw hi ar Hindenberg ar gyffiniau Rwsia yn awr. Mae wedi llwyddo1 i atal byddin Rwsia ymlaen. Eithr croni mae'r dwfr. Pan ddaw digon o bwysau, fe chwelir y rhwystrau, a gorlifir y wliad tu ol gan lengoedd difemrr Rwsia. Dywedodd y Maeslywydd Brussiloff yr wythnos ddiweddaf, fod ei fyddin ef yn unig, o fewn corff y pedwar mis diweddaf, wedi achosi oolled o 800,000 i fyddinoedd y gelyn! Cynwysa hyn, wrth gwrs, y lladdedigion, dlwyfcdigion a charcharbr- ion. Dyna gyfartaledd o hanor can mil bob wythnos ar un ffrynt yn unig "Ac," ehe Brussiloff, "pan ddel cyf- lawndoir yr amsiea-, ni a symudwn ymlaen drachetfn gan ysgubo pob rhwysrtr ym- aith PERYGL GERMANI. Ac nid yw Hindenberg heb ganfod y perygl oddiwrth Rwsia. Fel y.rhagfyneg- wyd yn yr ysgrifau hyn, amoan Ilinden- burg o-edd casglu digon o nerth o fyddin- oedd i wneyd ymosodiad mawr ar Rwsia gan arfaethu ohono orchfygu Rwsia, ac yna troi yn ei ol i setlo Prydain a Ffrainc yn y gorllewin. I'r diben hyny galwodd gatrodau cyfedsp o filwyr goreu Germani yn ol o Ffrainc i chwyddo'r fyddin ocdd i orohfygu Rwsia. Ond druan ohono! Pan oedd y milwyr hyny haner y ffordd o Ffrainc i Rwsia, wele orchymyn bry3iog yn eu galw yn ol drachefn. Yr oedd byddin Prydaiji yn ymladd mor bonderfynol ar lnau7r Somme, nesi peryglu hoB lu Germani yno, a rhaid oedd cael y milwyr yn 01 yno i ddiogelu'r ffrynt yno drachofn! BUDDUGOLIAETH FAWR Y SOMME. Ar lanau'r Somme, fol yn y Dobrudja, ac yn Rwsia., cyflawnwyd yr wythnos ddi- weddaf yr hyn a ragfynegwyd yn yr ys- grifau yn y LLAN. Wedi enill o honan grib y mynydd-dir, a gwynebu ar y dyffryn yr ochr draw, gosodwyd holl linell; byddin Germani mewn enbydrwydd. Allwedd y llinell oedd tref Comblep. Fel yr eglurwyd mewn ysgrif flaenorol1 saif Combles tua. haner y ffordd rhwng Bap- aume ar y gogledd, a Paronno yn y de. Y tair tref yma oedd nerth a chadernid holl linell Germani yn y rhan berth hono. Tybiai awdurdodau milwrol Germani fod Combles yn anorchfygadwy. Cyhoeddodd papurau Grermani hyny bythefnos yn ol. Yn y grrediniaeth hono casglwyd yno ystor holaeth o gy far par rhyfel o bob math, a hc,riiai'r Grermaniaid holl allu Ffrainc a Phrydain i enill y lie. Fel mater o ffaith gallasai byddin Pry- dain fod wedi dinystrio'r dref er's pythef- noe yn ol, fell na adewid yn faen ar faen ac uis datodid. Wedi cyraodd pen y Vryn- iau, rhwydd fuasai tanio'r magnelau jiaawrion nes chwythu'r holl le i ddifanoon. Dyna a wnaethai'r Germaniaid mewn eyffelvb scfyllfa. Eithr nid felly nyni. Tref Ffrengig yw Combles, er ei bod yn Kwylaw'r golyn er's yn agos i ddwy flyn- edd. Felly mynem arbed y lie hyd yr oedd I va bosibl. Gymaint oedd pwvsigrwyckl y lie yn ngolwg Hindenburg fel y rhoddodd orchy- myn caeth y rhaid amddiffyn y lie hyd y diwedd, ac y rhaid i'r milwyr yno gymeryd eu lladd on yn hytrach nag ildio. Mor llythyrenol y eeigiodd y milwyr ufuddhau i'r goirchyniyn, fel pan y cymetrwyd y lie yr wythnos ddiweddaf nid oedd ond 100 o ifilwyr yn aros yn fyw J'no, a'r rhai hyny viiiron oil wedi eu clwyfo. I Y nosion cynt yr oedd miloedd ohonynt wedi ceisio dianc ar hyd y ffordd fawr tua Bapaume. Nid oedd ond un ffordd ar hyd yr hon yr oedd yn bosibl iddynt ddianc. Ac yr oedd byddin Prydain o'r gogledd, a byddin Ffrainc o'r de, wedi dod mor agos i'r ffordd hono fel yr oedd 'machine guns' y ddwy yn medru ysgubo'r ffordd o glawdd i glawdd. a'r meusydd o bob tu. A thrwy'r nos tywtlPtwyd y bwledi yn llifeiriant di- ddiwedd. Erbyn y bore yr oedd cyrff y Grermaniiaid yn gorwcdd ya golaneddion gan lenwi'r ffordd a'r meusydd oddiam- gylchl I Rhyw ddwy filltir i'r gogledd o Combles mae pentref Morval. Gerllaw i'r pentref mae chwareli enwog. Yr oedd y rhai hyn wedi cael eu cymhwyso gan y Germaniaid i fod yn gestyll oedyrn i wrthsefyll pob ymosodiad. Yr oedd yr holl dir o dan j pentref wedi cael ei ridyllu gan dwnelau a ffyrdd tanddaearol yn cysylltu a phob ty yn y pentref. Tybid nad oedd yn bosibl enill lie mor gadarn. Eithr ei enill a wnaed gan ddewrion Prydain yr wythnos ddiweddaf. Lie arall enwog a enillwyd oedd Thiepval, pentref mawr ar yr ucheldir ar un gongl i'r maes. Dyma'r lie y metshwyd ei enil genym dri mis yn oJ, a bu yn ddraan yn ein hystlys byth oddiar hyny. Nid oedd wiw symud ymlaen gan adael gelyn o'r tu oli yn Thiepval. Wedi ei enill yr wythnos ddiweddaf egiurwyd y dirgelwch. Ni bu castell nac amddiffynfa erioed ar wyneb daear mor gadarn ag y gwnaetlt peirianwyr Germani bentref Thiepval. Yr oedd y ddaear o dan, ac o amgylch y pentref, yn rhwydwaith o gadaxnfeydd. Yr oedd dinas tanddaearol wedi cael ei chreu yno o fewn y deunaw mis diweddaf. Yno y oeid ymguddfeydd i gyflegiau ao i 'machine guns'; ystrydoodd tanddae.arol wedi eu goleuo a. thrydan, ac yn arwain i ystafelloedd bwyd, a gwely; yno y oeid neuaddau digon eang i gynwys mil neu bymtheg, cant o filwyr. A'r oil o dan y ddaear, ac mor ddwfn, a'u nenfwd wedi ei gadarahau gan drawstiau haiarn fel nad oedd y %hpls a chwaient y tai yn y pontref ar y ddaear yn poryglu ond ychydig areo- wylwyr y ddinas o dan y ddaear. Nid rhyfedd fod Maeelywyddion Germani yn credu yn ddiysgog nad oedd modd i'r un ymosodiad, gan nad pa vior gryf, pen- derfynol, a ffyrnig a fyddai, fyth gario'r lie. Ond trwy ddewrder, penderfyniad, a dyfais Prydeinwyr, yn cael eu cynorthwyo gan y Tir-longau a ddisgrifiwyd yr wythnos ddiweddaf, daeth Thiepval hefyd yn eiddo i ni yr wythnos ddiwaddaf. Ac wrth ad- enill Thiepval torwyd y barau heyrn oedd yn diogelu drws mawr y ffordd tuag Arrafl o du'r gogledd. Bellach dylifa ein byddin drwy'r drws hwnw. Tra yr wyf yn ys- gfifenu hyn mae magnelau mawr ei byddin yn tywallt diluw tan ar y wlad y tu hwnt i Thiepval ar y ffordd tuag Arras, lie yr erys y Germaniaid eto mewn nerth. Dyma yn ddiameu y frywdr fwyaf a phwysieaf a enillwyd genym yn Ffrainc er brwydr fawr y Marne ddwy flynedd yn ol. DYDD BARN BRENIN GROEG. Gwawriodd hefyd yr wythnos ddi- weddaf ddydd barn Brenin bradwrus Groeg. Mae y wlad wedi codi. Gwiria Irroeg heddyw'r hen ddiareb, "Trech gwlad nag arglwydd." Mae Venizelos—^Gladstone a Chromwel Q^oeg—wedi codi Baner Genedlaethol Groeg, nid yn erbyn y Bronin yn gymaint ag yn erbyn y Germaniaid yn y llys, y rhai a werthasant eu gwlad i'r gelyn. Mae holl wlad Groeg yn berwi gan ddigofaint am ganiatau o'r Brenin i'r Bwlgariaid, gelynion tTadiadol Groeg, i osod troed ar dir y deymas, ac ildio o'r awdurdodau milwrol ran o'r fyddin a nifer o drefi i'r gelyn hwnw. Taenir heddyw bob math o straeon am y Brenin a'i Lys. Ond ychydig o bwys a osodir mwyaoh ar yr hyn a wna'r Brenin. Mae Venizelos yn arwain y Groegiaid i ryddid. BA BRYD Y DAW R RHYFEL I BEN ? Anmhosibl yw dweyd pa bryd y terfysa y rhyfel. Dywed Mr. IJoyd George fod y diwedd yn y golwg, ond ni ddywed p& mor agtoa neu pa mor bell y mae y diwedd hwnw. Mewn ymgbm a newyddiadurwr yr wythnos ddiweddaf dywedodd M* Lloyd George mai dal i ymladd a wna Prydain pe y parhai y rhyfel am ugain mlynedd! "Yr ydym wedi talu gorniod mewn gwaed a bywydau gwerthfawr," ebe efe, "i wneyd heddwch nes b'om wedi tori a, difodi gorines militariaeth Gennani, ac nes bo'm wedi enill a sicrhau heddwch mwyach oesau'r ddaear." Cydnebydd pleidwyr flkrmani ym America fod Germani wedi colli, ond tybiant y parha y rhyfel hyd 1918. Hyn sydd sicr, fod Prydain, Ffrainc, Rwsia, a'r Eidal yn gwneyd trefniadau i gario y rhyfel ymlaen hyd yr haf nesaf o leigf.