Collection Title: Adsain

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

Image 1 of 8 Next Last
Full Screen
6 articles on this page
HANES Y WESLEYAID YNG NGHORWENI

HANES Y WESLEYAID YNG NGHORWEN. ERTHYGL VII. Pa fodd bynnag am hynny, yr oedd ganddo chwaer yn bywyn Nghorwen, yn yr adegau y cyfeiriwn atynt, a byddai yn ymweledahi, yn achlysurol a pbregethai ar ei ymwelediadau, ar dref yn ddieithriad, a byddai dylanwadau sancteiddiol vn dilyn ci weinidogaeth effro a gafaelgar. Yr oedd \n bre^ethwr bywiog ac effeifchiol. Fel blaenor yr oedd yn un tra rhagorol. Tystiolae-im un afu yn aelod o'i restr, ei fod yn dyner a tbringar, ond hefyd yn ofalus a manwl. Dywedai yn fynych wrth aelodau ei Restr Da rnhlantanwyl i, gadewch i mi gael efch cyfarfod i; gyd yn y nefoedd." Dywediad ral 0 eiddo oedd, Gwisgwch eich crefydd bob aniser peidiwcli a, chadw eich crefydd gyda'ch dillad Sul ar fore Llun." Yr oedd yn ueddvwr mawr. Un arall a fu yn ddefnyddiol, tua'r un adeg ydoedd Mr. Richard Jones brawd y Pareh. David Jones y Cyntaf, fel yr adnabyddid ef yn y Cyfundeb (Beddgelert), a thad Mr. John Jones, Pickwick Street, Lerpw l, blaenor ffyddlon am flynvddau yn Mynydd Seion, Lerpwl. Gwasanaetbodd Mr. Richard Jones yrachos vng. Nghorwen fel pregethwr. Yn ystod y eyfnod yma y daeth Mr. John Evans (y Builder), o Llan- gollen, i breswylio i (J or wen, a bu yntau yn gymorth mawr, f'el blaenor, ac yn weithiwr egniol, ynglyn a holl symudia;-au yr Achos. Yr oedd Mr. Evans, yng Nghorwen, pan adeiladwyd y Capel yn 1.838, ac efe a ysgrif- ennodd banes yr Agor .iadi'r Eurgrawn yn 1839. Un o'r camgymeriadau mwyaf a wnaed ynglyn a'r Acbos yng Nghorwen, ydoedd aros mor hir heb adeiladu Capel helaetbach i ddal y gynuulleidfa, a inwy cyfleus i gynnal Cyfarfodydd Neillduol yr Eglwys, a'r Ysgol 8ul. Dywedir i yindrechion > gael eu gwneud droion, i ddwyn hynny oddiamgylch, ond o herwydd rhywbeth neu gilvUd, yr oedd yr all yn aflwyddianus. Fel y dy wedwyd eisioes, cynbaliwyd yr odfeuon yn yr Ystafell perthynol i'r Queen's Head, am y ddwy flynedd cyntaf. Yn y flwy-ddyn 1802, symudwyd i ystafell arall, a gyfaddaswyd gan Mr. Richard Jones, tad Mr. John Jones, a alwyd allan i'r Weini- dogaeth. Gwnaeth Mr. Richard Jones hynnv yn gwbl ar ei draul ei hun, o barch a chariad at yr Achos, gyda'r amcan goreu yn ddiameu ond yr btdd y lie yn rhy fychan, ac anghyfleus Nid oedd lie i'r achos gynhyddu ac ymddat- blygu. Adnabyddid yr Ystafell honno, gan drigolion y dref fel y Capel 'bach." Safai ar y tir ag sydd yn awr yn rhan o dy (cegm) Mr. Hugh Hughes, Boot Stores. Cynbaliwyd y moddion yn y lie hwn am 36 o fiynyddau. Yn y flwyddyn 1838, adeiladwyd capel cadarn a phrydferth, ar dir yn lied agos i'r lie y safai y Capel bach arno. Agorwyd ef Medi 5, .1838, a phregethwyd gan y Parch. Humphrey Jones, William Rowlands, Henry Wilcox, a Meistri John Owen, Cyffin, John Jones (Dol- gellau), ac E. Lloyd, Tyntwll, Llanfyllin. Yn mis Awst 1846-adeg y dwr mawr," fel y dywedir wrth son am yr adeg—mewn canlyn- iad i storm ofnad wy, llenwid heolydd y dref, a llifeiriant, a gariai i'w ganlyn laid a meini anferth o lethrau y Berwyn, a chyrhaeddodd y Capel fel lleoedd ereill, a llanwyd ef a Uaid a dwfr oedd yn ddwy lath o ddyfnder, gan ei niweidio yn ddifrifol. (I barhau).

s a Rom I Y RHYFEL

s a Rom Y RHYFEL. I Newyddion o Gogledd Ffrainc. I Y mae'r holl rwyd-waitb. o amddiffyniad Germanaidd i'r gogledd o Arras a ffurfiai gadarnle mawr cryf ar hvd ffrynt o tua deu- naw milltir yn cael ei ddifodi'n gyflym gan ymosodiad ffyrnig o eiddo'r Ffrancod, y rhai sydd wedi cael Imddugoliaeth fawr bwysig arall drwy gymeryd Ablain St. Nazaire. Yr oedd y pentref hwn wedi bod o help mawr i'r gelyn, gan mai oddiyma yr oeddynt ym medru rhwystro'r Ffrancod i symud ymlaen i gyfeir- iad Souchez, yr hwn le sydd ynghannol trefn- iadau amddiffynnol y gelyn. Gwnaeth y Germaniaid wrth-ymosodiadau drwy'r nos o gyfeiriad Angres, ond gwrth-safwyd yr oil gan achosi colledion mawr iddynt. Ar hyn o bryd nid oes dim a rwystra'r Ffrancod rhag bod yn fuan mewn safle i warchae Soucbez. Y maent yn symud tuag yno'n rymus o ddau gyfeiriad. Y mae Neuville St. Vaast yn awr yn cael ei ddal gan y Ffrancod ar y ddau dy, ac y mae popeth yn arwyddo y cymerir y lle'n fuan. Pan fydd Souchez a Neuville ym meddiant y Francod bydd cyfnewidiad pwysig yn yr amgylchiadau. Dywedir fod y Pryd- emiaid wedi gwneud cynnydd o'r newydd yn ystod y nos yug nghyffiniau La Bassee.

I COLLIR TRIUMPH I

I COLLI'R 'TRIUMPH' I I SUDDO YN Y DARDANELLES. I ACHUB RHAI O'R DWYLO. ) Cyhoedodd y Press Bureau yr hyn a gatilyn oddeutu 11.35 p.m. nos Fercher:— Hysbysa Ysgrifennydd y Morll s fod H.M.S. Triumph," pan yn gweithredu ddydd Mawrth yn Gallipoli, i gynorthwyo milwyr Awstralia a New Zealand, wedi cael ei tharo gyda thorpedo o fad-tanforawl, ac wedi suddo'n I Iuan ar ol hynny Dvw^dir fod y mwyafrif o'r swyddogion a'r dynion wedi cael eu hachub, yn cynwys y commander a'r capten. Ymlidiwyd y bad-tanforawl gan y destroyers oedd o gwmpas. Llestr 11,800 o dunelli oedd y Triumph," wedi ei badeiladu yn Barrow am y gost o V-845,479 a'i chwblhau yn 1904. Cynhwysai bed war o ynau 10 modfedd, a phedwar o rai 7.5 modfedd, ac yr oedd arni 700 o swydd- ogion a dynion. Yr oedd wedi gwneud gwaitb da yn erbyn y Tyrciaid. Nos Iau diweddaf cyhoeddwyd fod H.M.S. Majestic wedi cael ei suddo yn y Dardanelles gan submarine Germanaid'd. Achubwyd bron yr oil o'r dwylo.

I Her arall ir America

I Her arall i'r America. Mae Germani newydd roddi her arall i'r America, drwy geisio suddo y "Nebraskan," Hong fasnach Americanaidd yn hwylio o Ler- pwl am New York. Tarawyd hi ger traethau'r Iwerddon gan torpedo a danwyd o suddlong Germanaidd, heb fod yn nepell o'r fan lie suddwyd y Lusitania." Ni roddwyd rhy- budd o fath yn y byd i'r Nebraskan." Tar- awyd a niweidiwyd y llong yn ddirfawr gan y torpedo, a ffodd y criw am éÍ heinioes i'r cychod. Ond pan welwyd nad oedd y llong yn suddo, dychwelodd y criw iddi, ac hwylias- ant yn eu hoi i Lerpwl. Gan fod baner America a pbob arwyddion eraill o'i pherch- enogaeth Americanaidd yn amlwg ddigon ar y Nebraskan," ni eill Germani ddadleu n a camgymeryd hon am long Brydeinig a wnaeth y sudd-long. Mae hyn felly yn her pendant i'r America yn ngwyneb llythyr yr Arlywydd Wilson ar ol suddo'r Lusitania." Yn y llythyr hwnnw, fel y cofir, dywedodd yr Ar- lywydd yn groew y gelwid Germani i gyfrif am unrhyw niwed pellach a achosid gan ei sudd-longau i eiddo neu fywyd Americanaidd. Nid yw Germani hyd yn byn wedi ateb llyth- yr Arlywydd, ond mae yr helynt ag Itali yn ddigon o reswm dros yr oediad. Ond gellir, er hynny, cymeryd yr ymgais i suddo'r Nebraskan fel ateb mwy pendant a chlir na'r un llythyr. Tybir na fydd i'r Arlywydd ysgrifenu ynglyn a'r "Nebrasken hyd nes y caffo ateb i'r llythyr ynghylych Lusitania."

Gorchest Itali

Gorchest Itali. Am y tro cyntaf yn hanes rhyfel lynghesol y mae nifer o destroyers wedi cael eu hanalluogi drwy i bombs gael eu gollwng o llong-awyr. Llynges Itali all hawlio'r clod o gyflwyno'r cynllun hwn i sylw. Aeth un o'r llongau-awyr uwchben yr orsaf Awstriaidd yn Sebenico (i'r gogledd o Cattaro), ac ar ol dinistrio amryw destroyers drwy ollwng bombs, dychwelodd yn ddiogel a buddugoilaethus. Y mae'r Italiaid wedi bod yn fuddugoliaethus iawn mewn amryw frwydrau yn yr Adriatic, ac wedi suddo bad-tanforawl. Y mae'r Italian Alpine Brigade wedi croesi'r mynyddoedd eiraog dros ffiniau Tyrol a Trentino.

Pluo Twrci

Pluo Twrci. Dywedir fod ein milwyr yn symud ymlaen yn rhagorol yn y Dardanelles. Y mae'r Aws- traliaid a milwyr New Zealand wedi symud ymlaen yn foddhaus yn ystod yr ychydig ddyddiau diweddaf, ac y maent yn gwneud yn dda yn fwy i'r de. Sicrba gohebydd a Mitylene nad oes raid bod yn ddigalon o gwbl. Y mae'r Tyrciaid yn cael colledion mawr, a. dywedir eu bod ym myned yn brin o bowdwr. In ol gohebydd o Athens y maent wedi colli 60,000 yn y Dardanelles.