Collection Title: Adsain

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

Image 1 of 8 Next Last
Full Screen
3 articles on this page
HANES YWESLEYAID YNG NGHORWEN l

HANES YWESLEYAID YNG NGHORWEN. '? ERTHYGL X. i. ..1. SAMUEL JONES. Yn Llangollen y ganwyd Mr. Samuel Jones, ac yn y dref honno y treuliodd dymor boreuaf ei oes. Magwyd ef yn grefyddol ynglyn a'r Eglwys Wesleyaidd, a thyfodd i fyny yn llanc o rodiad dymunol. Yr oedd ar hyd ei oes yn llwyr ymwrthodwr oddiwrth fyglys a diodydd meddwol. Mynychai gyfarfodydd wythnosol yr Eglwys yn ffyddlon, a thystiai ym mlynyddoedd olaf ei fywyd ei fod yn ddyledus i'r cyfarfodydd hynny, am gynal- iaeth ei fywyd crefyddol. Got Alcan ydoedd wrth ei alwedigaeth. Pan yn fachgen prentis- iwyd ef ym masnachdy Ty Coch, Llangollen, a gwasanaethodd yn yr un lie am rai blyn- yddoedd fel crefftwr. Ar gychwyniad ei fywyd priodasol, symudodd i Gorwen, a sefyd- lodd fasnach fel gof alcan, ac wedi hyny fel haearn faelwr. Trwy ei fasnach, daeth yn adnabyddus iawn i gylch eang o gwmpas Corwen, bu yn neillduol o ddefnyddiol mewn gwahanol ffyrdd gyda'r Achos Wesleyaidd, yn ogystal ag mewn cysylltiadau ereill fel trefwr. Yr oedd yn wr o synwyr cryf, a gellid ymddir- ied yn ei ddoethineb yn ei boll gylchoedd a'i gyflawniadau. Fel cymydog yr oedd yn un o'r dynion mwyaf caredig a chymwynasgar yn y dref. Llanwodd le pwysig yn yr Eglwys Wesleyaidd. Bu yn arweinydd canu am flynyddaa, a chyfrifid yn gyffredinol eifod yn berchen dawn neilltuol ar gyfer caniadaeth y cysegr. Gwnaeth gymaint ag undyn i beri llwyddiant y cymanfaoedd cerddorol, yn y gylchdaith. Bu yn ffyddlon ar hyd y blyn- yddoedd gyda'r Ysgol Sul, a gwnaeth wasan- aeth mawr ynglyn a'r Maes Llafur yn yr Ysgolion. Yr oedd yn ofalus a ffyddlon yriglyn a phob swyddogaeth a ymddiriedwyd iddo yn yr Eglwys. Yr oedd yn nodedig am ei brydlondeb yn y moddion crefyddol- ynglyn ag ef, ni roddid lie i neb i ddweyd fod yr arweinydd canu yn anmhrydlon. Bu farw bore Saboth, Ionawr 14eg, 1912. Dyma yn canlyn y llinellau coffadwriaethot am datiO farnwyd yn fuddugol, yn Eisteddfod Corwen, 1912 :— 'E fu wr anwyl ond cofio'i rinwedd Ni threia'n hiraeth roi hwn i orwedd Gwr da i ddeuiyd o'i gryd i ddufedd, 0 glod i'w enwad, ein gwlad a'i annedd Corwen fyth o'i caru'n ei fedd—maby gan, A gwr a'i anian dan sel gwirionedd." (I barhau). j

IBWRDD UNDEB CORWEN

I BWRDD UNDEB CORWEN. Cynhaliwyd cyfarfod o'r Bwrdd uchod yn Nghorwen dydd Gwener dan lywyddiaeth Mr. D. W. Roberts (cadeirydd). Yr oedd hefyd yn bresenol Mri. E. P. Jones (is-gadeir- ydd), Thos. Williams, R. J. Chapman, Thos. Jones, R. J. Jones, R. 0. Roberts, Wm. Williams, Wm. Roberts, Thos. Dav; es, George Evans, Thomas Jones, Samuel Williams, W. Havercroft Jones, Samuel Davies, J. Roberts, J. Williams, Huw Roberts, John W. Jones, J. 0. Davies, Evan Morris, Col. S. Parr-Lynes, Mrs. M. Richards, Miss Walker E. Derby- shire (Clerc) L. Williams (Meistr) D. L. Jones a R. 0. Davies (Rheidweinyddion). I Cofnodion. Darllenwyd a chadarnhawyd cofno dion y cyfarfod diweddaf. Croesaw. Rhoddodd y Cadeirydd croesaw cynes i Col. Parr-Lynes a Mr John Williams, Trefnant, pa rai oedd yn bresenol am y tro cyntaf era amser maith. Arianol. Mewn Ilaw, 1534 2a. Od. II I Achos o Gynwyd. Derbyniwyd Ilythyr oddiwrth un o Swyddogion yr N.S.P.C.C. ynglyn ag achos bachgen o Gynwyd o'r enw David Williams, Mill Street, Cynwyd, 13 mlwydd oed, yr hwn sydd yn dioddef oddiwrth gwendid yn ei lygaid. Gofynai y Swyddog i'r Bwrdd dder- byn y bachgen i'r Cartref yn Fronbyfryd, oherwydd nad oedd yn gael cbwareu teg gan ei rhieni. Hefyd yr oedd y Meddyg yn anog iddo gael ei symud yno. Wedi ymdrafodaeth ar y mater pasiwyd iddo gael ei symud i Fronhyfryd ar unwaith. Adroddiad Pwyllgor y Contracts." Gosodwyd y contracts fel y canlyn I Bara a Chig, Mrs. M. Humphreys, Queens Chwegnwyddau, Mri. John Parry a'i Gwmni Llaeth ac Ymenyn, Mr. J. Roberts, Owen Glyndwr Hotel Esgidiau, Mr. J. Davies Hughes, Bristol House; Dilladau, etc., Mri. Jonathan Davies a'i Fab Glo, Mri. Edward Jones a'i Fab Coke, Cwmni Nwy Corwen Ironmongery, Mr. Bowen Jones; Eilliwr, Mr. David Jones. I Anrheg. I Danfonwyd amryw lyfrau at wasanaeth ddeiliaid y Sefydliad a'r Cartref gan Dr. Walker a Mr. Chapman. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch iddynt am eu caredigrwydd. Argraff u'r Ccf Liodion. Gohiriwyd y mater am pytbefnos.

Marwolaeth Mr Cadwaladr Roberts Pencerdd Moelwyn Blaenau Ffestiniog

Marwolaeth Mr. Cadwaladr Roberts, Pencerdd Moelwyn, Blaenau Ffestiniog. Gollyngwyd ein hen gyfaill anwyl o'i hir gaethiwed nawn Llun diweddaf, a rhyddid gogoneddus meibion Duw yw ei ran dragwydd- ol mwy. Nid hawdd yw traethu ei oes dan gymylau'r diwedd er fod eu cysgodion wedi disgyn yn drwm ers tro. Yr oedd efe yn fab 61 mlwydd oed y Llungwyn diweddaf, a'i ysbryd mor siriol y boreu hwnw ag eiddo'r fronfraith a ganai gerllaw ei dy. Gweithiodd yn galed fel chwarelwr ac fel cerddor, ac yn y ddau gymeriad yma, yn ogystal ag fel criBtion pur a dilychwin, bydd ol ei draed yn weddiadd ar ein mynyddoedd am gyfod maith a'i esiamplau teilwng yn ysbrydiaeth i filoedd. Cafodd yrfa lwyddianus fel Arweinydd Cor- awl, ac ar wahan i enill prif lawryfon ein heisteddfodau, ychwanegodd at anrhydedd canu Cymru. Bydd melus gof am dano yn America a Chanada yr unig chwerwder bell- ach fydd yr ystyriaeth na cheir ei wel'd na'i glywed mwy. Cuddiad ei gryfder yn y cyf- eiriad twn oedd ei allu i gael yr ieuengctid at eu gilydd a dawn i'w cadw gyda'u gilydd. Yr oedd parhad Cor Tanygrisiau a Phartl'r Moel- wyn yn ddihareb yn y wlad. Nis gallasai ein hen gyfaill ymffrostio mewn llawer o ddysg ond gwnaeth y defnydd goreu o hyny oedd ganddo. Nid cristion yn Nhanygrisiau oedd Mr. Cadwaladr Roberts, ond cristion yr ocbr draw i'r werydd yn ogystal. Dyna dystiol- aeth bendant y bechgyn fu gydag ef yn America a Canada. Nid gwisg i'w tbynu a'i roi oedd ei grefydd, ond egwyddor Jywodraeth- ol ei fywyd, Bu yn Flaenor y Gan ac yn Ddiacon i'r Eglwys yng Ngharmel, Tan-y- grisiau, am y rhan helaethaf o'i oes, a llan- wodd y naill swydd a'r llall i foddlonrwydd yr Eglwys, ac gogoniant i Dduw. Dyrchaf- wyd ef i'r Fainc Ynadol rai blynyddoedd yn ol, a rhoddodd anrhydedd ar y Fainc drwy weithredu yn agored a chydwybodol ymhob achos. Nid dynion mawr ond dynion gonest yw cryfdwr gwlad a diogelwch cenedl. Coll- odd briod hawddgar a dysgedig yn moeth- der brwydr bywyd, a chladdodd lawer o'i obeitbion yn medd ei anwyl wraig. Cafodd gystudd maith a phoenus, ac onibae am ei ysbryd nwyfus a di-ildio, buasai wedi marw er's tro. Nid oes yn aros ond un fercb, yr hon sydd wedi gweinyddu arno gyda ffydd- londeb deilwng, ac fel y dywed Elfed :— Cyfoeth hon fydd cofio'i thad." Mae i'w chwaer a'i frodyr, ymhell ac agos, gydymdeimlad yr ardal, a chryn gynvsgiaeth iddynt hwy ac i'w plant fydd coffadwriaeth gwr a weithiodd mor rhagorol, aca orphenodd ei yrfa mewn llawenydd. Claddwyd ei wedd- illion dydd Gwener yn y Dan, canwyd yn y cynhebrwng gan Gor Meibion y Moelwyn. Traddodwyd pregeth angladdol yn Nghapel Carmel, nos Wener, gan y Parch. John Hughes, Jerusaleoa.BPYFD.IR.