Collection Title: Dravod

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 2 of 4 Next Last
Full Screen
8 articles on this page
rrrrI ELFENAU LLWYDDIANT GWLAD

.r_ /é"r"r/r/ I ELFENAU LLWYDDIANT GWLAD. Nid oes dim llesad yn deilliaw i'r hwn sydd yn edliw beiau, nac i'r hwn yr edliwir beiau iddo. Etto cymwynas fawr ag un yw dangos iddo ei feiau os gellir gwneud hyny meWIl ysbryd cariad-ysbryd diwenwyu. Tafler golwg trwy Jenyddiaeth gwahanol genhedloedd a gwahanol oesau y byd a gwelir mai y cenhedloedd a'r oesau sydd wedi pwys- leisio fwyaf ar eu beiau a'u camgymeradau sydd hetyd wedi gwneuthur y camrau mwyaf breision a chyflym mewu dadblygia'" cym- deithasol a chrefyddol. Rhaid wrth argyhoeddiad o fai cyn y gellir cael diwygiad, cyn y gellir cael adenedigaeth yn y byd cymdeithasol yu ogystal ag yn y byd crefyddol. Gwyddom mai peth digon anymunol i wlad yn ogystal ag i berson unigol yw edrych ar ei beiau, ar ei diffygion, ac ar galllyniadau ei difaterwch a'i hesgeulustra yn y ,-orph,.iiol. Yr un pryd rhaid cofio mai y w'ad bydd yn rnagu digon o ddewrder i syllu ar, ac i ddat- guddio ei beiau yw y wlad sydd yn meithrin oreu elfenau ei dadblygiad. Dyna hanes Germany. Dyna hanes Prydain Fawr. Dyna hanes Cymru fach. Ac os yw y Wladfa am gael ei rhestru gyda', gwledydd yna yn ei hymdrechion dyngarol rhaid iddi hithau fel hwythau gyfrif ei beiau, eu condemnio, a'u gadael. Ond sylwi gwelir fod gweithrediad- ati y prif wledydd yn cael eu beirniadu yn llym nid yn unig gan eu caseion ond hefyd gan eu caredigion. Pwy bynnag garo wlad fwyaf sydd lymaf wrth ei diffygion a'i difater- wch. Yr hwn sydd yn caru pechadur fwyaf sydd hefyd lymaf with ei bechodau. Troer am foment i Prydain Fawr. Pwy ddywed nad oedd John Bright, Disraeli, a Gladstone yn caru eu gwlad, a phwy hefyd sydd heb wybod fod yr enwogion hyn yn llym wrth ddiffygion a beiau eu gwlad. Y mae gweniaeth yn wenwyn i wlad yn ogystal ag i bersonau. Onid caredigion Cymru sydd wedi ymosod lymaf ar ei phechodau, ei gweudidau, a'i di- frawder? Beth oedd eu hamcan ? Cyd- attebwn, yn ddiameu, mai codi Cymru oedd eu hamcai ac nid ei darostwng. Rhaid deffro gwlad i'w pheryglon nid yn bennaf o gyfeiriad ei gelynion oddiallai ond o gyfeiriad ei gelynion oddimewn—ei heg- wyddorion, a'i balchder. Digiodd llawer wrth ddiwygwyr crefyddol, llenyddol, a gwleidyddol Cymru; ond i ddiwygwyr Cymru yn y naill gangen a'r llall, y gwelir ac y codir heddyw gofgolofnau i'w cadw mewn cof, ac i ddatgan parch iddynt, ac edmygedd y genedl o honynt fel ei chymwynaswyr pennaf. Rhaid i ninnau yn y Wlacifa oddef i'n beiau a'n diffygion, a'n difrawder gael eu ddangos os ydym am ddatblygu mewn crefydd, mewn gwybodaeth, ac mewn gwleidyddiaeth. Tuedda rhai i ddigio pan feiddia rhywun nodi ein beiau, a'n diffygion, a'n difrawder. Tybient fod pwy bynnag ddywed air yn erbyn arferion a beiau a difrawder y Wladfa yn elynion trwyadl ac anghymodlawn iddi. Ni wnaed fwy o garngymeriad erioed. Ei chyfeillion ydynt ac nid ei gelynion os eu hamcan yw gwella'r Wladfa. Y wlad a fyn sylweddoli ei phechodau a'i chamgymeriadau yw y wlad sydd yn car- lamu nerthtraed i'w dinystr ei hun. Pa wlacl sydd heb ei diffygion? A theiinla caredig- ion gwlad eu dyledswydd i bwysleisio pech- odau a diffygion gwlad yn ogystal a dangos yr egwyddorion, o'u mabwysiadu, wna ei dyrchafu. Gelynion gwlad yw y rhai hyny sydd am guddio ei beiau oddiwrthi, am gadw draw bob diwygiad cymdeithasol a gwleidyddol, ac yn digio wrth eraill am gyffwrdd a'i diffygion ac am geisio ei deffro o'i chysgadrwydd a'i ac am gelsio el I t!l symbylu i weithgarwch. Dylem fel Cymry y Wladfa sylweddoli ein safle oddiwrth y ffaith mai nid Cymry ond cenhedloedd eraill, ac eithrio ychydig, sydd yn llenwi swyddi y Wladwriaeth yn y Wladfa. Onid oes gan ffaith fel hon ei chenadwri i ni? ac onid yw yn herio pob prophwydoliaeth am lwyddiant y Wladfa os na wnawn ym- ysgwyd a 11 driiigo llwybrau serth clod ? Ofer i neb brophwydo llwyddiant y Wlad- fa Gymreig os nad yw y brophwydoliaeth hono yn-seiliedig yn gyntaf oil ar lwyddiant egwyddorion yr Efengyl yn ein plith ni fel Cymry, ac yna ar lwyddiant plant y Cymry mewn arholiadau sydd yn eu cymhwyso i lenwi swyddi y Wladwriaeth yma—arhol- iadau sydd yn eu cymhwyso i fod yn Gyf- reithwyr, yn Feddygon, yn Athrawon ac Athrawesan graddedig yn y wlad hon. Yri gydmarol ddiweddar, hyd yn nod yn hanes Cymru, cenhedloedd eraill oedd yn gwneud ei deddfau ac yn eu gweinyddu, a'r Cymry yn weision iddynt. Nid felly y mae pethau yn Nghymru heddyw. Cymry o waed coch cyfa'" sydd yn ffurfio deddfau chwyldroadol Prydain Fawr, deddfau sydd yn enill sylw ac edmygedd pi-if (ieyrtiasoedcl y byd, y rhai sydd yn barod i roddi teyrnged o glod i Gymru fechan am ei gwasanaeth trwy ei chynrychiolwvr i'r gwledydd mawr. Cymry ddewisir yn awr i brif swyddi y Wladwriaeth yn Nghymru, a dirmygir gan oreuon Cymru unrhyw Gymro—Dic-Shon- Dafydd—sydd a'r duedd leiaf ynddo i ddi- ystyru ei iaith a'i genedl. Dylai pob gwlad ieuanc efrydu yn fanwl gamrau gwledydd eraill i envvogrvvydd, a dylem ninau yn y Wladfa ddarllen hanes Cymru orthrymedig yn torri ei chadwyni ac yn cerdded 1 fyny o'i chaethiwed i ryddid, a syllu yn fanwl ar bob cam o'l lieicido, a phen- derfynu dilyn ei chamrau. Heb hyn nid oes w;r lwyddiant.

Enwogion o Gymru a Ragorasant mewn Amryfal Ganghenau o Wyddoniaeth

Enwogion o Gymru a Ragorasant mewn Amryfal Ganghenau o Wyddoniaeth. Dan y penawd uchod ceir a Fy mhrif amcan yn y D larlith hon ydyw galw sylw at rai o'n cydgenedl, a weithiasant eu ffordd, trwy ymdrech a llafur diwyd, i enwogrwydd yn yr ymryfal ganghenau budd- iawl o'r gwyddiannau a'r celfyddydau. Mor foreu a chanol y bedwaredd ganrif, y canfyddaf impyu o Gymro yn cael ei feithrin yn Bangor is y Coed, yr hwn yn fuan a enillodd enw a dylanwad tra mawr trwy yr holl fyd adnabyddus ac er annghymeradwyo o honom ei syniadau fel duwinydd, y mae yn rhaid i ni gydnabod enwogrwydd ei gyrhaeddiadau mewn dysgeidiaeth. Yr gwr hwn ydoedd Morgan, yr hwn a uyfenwir Pelagius, ond a elwli- Moi-ieti yn yr hen goflyfrau Cymreig acyn gyssylltiedig a'i enw ef ynddynt, dywedir ei fod "y dys- gerJicaf yn yr hoi I fyd." Edrychwn etn tuag athrofa tref Fynwy, neu Dy Ddewi, a gvvelwn yno efrydydd ienanc, o'r enw Asser, yr hwn ydoedd fab i Tudwal, fab Rhodri Mawr, medd yr achlyfr- au Cymreig. Aeth y son am ei ddysgeidiaeth ar led cymmaint, fel y gwahoddid ef i lys y brenin Seisnig Alfred, tua'r flwyddyn 880, gan yr hwn y'i derbynid gyda phob caredig- rwydd a pharch a mawr daer a fu y brenin am iddo aros gydag ef yn wastadol. Ond pan omeddai, yn wylaidd, gydsynio a'r cais hwnw, y brenin a wasgai arno am ranu ei amser rhwng yr athrofa yn Nhy Ddewi a'i lys yntau a chyda'r cynnygiad yma, wedi ymgynghori yu gyntaf a'i frodyr, y cyd- syniodd Asser. Rhoddai y brenin doeth hwnw roddion gwerthfawr ac anrhydedd yn bentyrau ar Asser, ar gyfrif ei chwaeth goethedig, a'i ddysgeidiaeth aruchel. Tybir yn gyffredin iddo gyfieithu yr hen gyfreith- iau Cymreig i'r brenin Alfred, yr hwn a gafodd lawer o gyinhorth drwy hyny at ffurfio deddflyfr i'r Saeson. Trwy ei ddylanwad ef hefyd y dywedir brif ysgol Rhydychain gael ei sefydlu a bernir ei fod ef yn un o'r athrawon blaenaf yno, ac iddo dreulio gweddill ei oes yn archesgob Ty Ddewi."

IYR YSGOL SUL I

YR YSGOL SUL. Wele yn dilyn farn un o ddynion mwyaf craff Cyrnru ar ddylanwad yr Ysgol Sul ar y bobl:- Yr oedd crefydd yn ei ffurf uchaf, sef y ffurf Biwritanaidd a Phrotestanaidd yn sicr o ddirywio yn fuan os y collai yr Ysgoi Sul ei gafael ar y wlad. Nid oedd yn amheu nas gallai Cristionogaeth mewn ffurfiau is fyw wedyn. Nid oedd ar Babyddion, Uchel Eg- lwyswyr a'u cyftelyb angen Ysgol Sul. Gallai y ffurfiau hyny ar grefydd, lie y telir i ddyn- ion am ei ffarmio, fyw heb Ysgol Sul. Ond yr oedd Cristionogaeth yn y ffllrf ag yr oedd wedi ail eni Cymru yn ddyledus i gynllun gwirfoddol yr Ysgol Sul, ac os ccllai yr Ysgol Sul ei gafael ar y genedl byddai y golled yn anadferadwy, ac nis gallai unrhyw ffurf fo yn ymddiried crefydd i ddwytaw swyddog- ion taledig wneud i fyny am y golled.

Gohebiaethau

Gohebiaethau. To the Editor, Sir,— Recently in a conversation with a resident of more than 30 years standing, he told the following tale :— For more than 25 years I have had the Deeds of my property, and thinking them to be legally completed and correct, I undertook the task of improving my property in many ways. But alas one day Mr. Inspector came to see my Title-deed which when inspected was said to be incorrect. What is wrong with it Mr. Inspector? It requires the sig- nature of the President. Whose fault is that? for I paid all the charges and was told that it was all right. What will it cost to have it made right ? The cost will be only that of sending it to Buenos Aires as the work will be done in offices where the employees are paid by the Government. Believing him to be correct I placed it in the hands of a Mr. Solicitor in Trelew who charged $30.00 which were paid at the time. My documents having been returned I went for them and asked what were the charges ? He cooly said $330.00. What are $330.00 charged for ? For the tramities (transits) necessary for the signa- ture of the President. However, as I had to go to Rawson I thought it not amiss to inquire if the Inspector was right. On consulting the Chief Magistrate of the Territory who is a Lawyer of considerable eminence, he adviced me to refuse to pay and dispute the account. As this is a matter that affects the Honour of the Nation, and as we all appear to be equally concerned, will someone who knows what that Law is, tell us what course we should take and how ? Possibly during the next 25 years another sharp Lawyer may find another flaw, and we will have to pay an- other $300 or $6jD and Sl)" on without end. Thanking you in anticipation, INTERESTED. 44pi

Y GWYBED SYN GAS

Y GWYBED SY'N GAS. Y gwybed sy'n gas yn casglu budreddi Swniant a bvvytant o fore hyd hwyr Gan faeddu'r papurau ar hyd yr holl furiau, A gwneuthur fy mwthyn yn llanastr lIwyr; Gwnant wawd annymuol o'r lIestri coginio, A phigant eu trwynau—greaduriaid diras Disgynant l'ii coffee yn llafnau anedwydd Wei unwn y cydgan—y gwybed sy'n gas. Wrth roddi fy hun ar fy hyd i orphwyso, Gan ddisgwyl cael llonydd i gysgu yn fwyn, Y pryf a ddisgyna yn ddistaw o'r ceiling, A dawiisiayii ddigwilvcidargopafyiihi-wyn, Os gwueir i mi giuio o amryw ddanteithion, Y gwybed yw'r cyntaf i brofi ei flas Gwnant wledd anrhygarog o'r tatws a'r pwdin- Wel, unwn y cydgan—y gwybed sy'n gAs. Bryd Te wedi hyny, ceir mwy yn troseddu'; Gan faeddu y llestri, neu rywbeth fo gwaeth. Y lladron digwilydd, anrheithiant fy menyn, Ac wedyn ymdrochant yn nghanol fy llaeth. Pa ddiben yw siarad am Job a'i arnynedd Mae'n rhaid aty gwybed gael chwanego ras. O! gwybed sy'n piff, mi ai deliais o'r diwedd, Na, methais by jingo-y gwybed sy'n gas.

Y DIWEDDAR CAPTEN SCOTT

Y DIWEDDAR CAPTEN SCOTT. Y mae y Brenin wedi anrhydeddu gweddw y divveddar Capten Scott gyda'r teitl o Lady. Y mae y swtn o f i 5o,ooo wedi ei gasglu tuag at gynhaliaeth teulu Capten Scott a theuluoedd y rhai gollodd eu bywydau gydag ef pan yn dychwelyd o'r Pegwn Deheuol.

AWYRLONG DDIRGELAIDD

AWYR-LONG DDIRGELAIDD. Adroddir am ymddanghosiad Awyr-long ddirgelaidd yn hedfan uwchben rhan o Loegr, a thybir mai perthyn i Germany y mae hi. Y mae y Senedd wedi pasio mesur yn avydur- dodi y gwylwyr i saethu at unrhyw awyr- long wrthoda ddyfod i lawr pan roddir ar- wydd i hyny.

0 LLUNDAIN I BUENOS AIRES MEWN DEUNAW DIWRNOD

0 LLUNDAIN I BUENOS AIRES MEWN DEUNAW DIWRNOD. Y mae llinell y Royal Mail yn bvvriadu i rai o'u llongau forio o Llundain i Buenos Aires mewn deunaw diwrnod trwy beidio galw yn y Porthladdoedd rhwng Rio de Jan- eiro a B. Aires. Medi nesaf y bydd Y Ilongau hyn yn dechreu rhedeg.