Collection Title: Dravod

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 2 of 4 Next Last
Full Screen
8 articles on this page
Moesoldeb y Wladfa

Moesoldeb y Wladfa. Diau fod hwn yn destyn y dylid talu ychydig sylw iddo. Dyma sylfaen gwar- eiddiad y byd. Y mae y wlad hono sydd a'i mhoes yn isel yn cael ei hystyried yn an- waraidd, neu o'r hyn lleiaf yn isel ei gwar- eiddiad. Teimlwn fod y testyn hwn yn un anhawdd ei drin yn briodol. Cymerwn unrhyw wlad dan haul, a chawn ynddi y ffieidd-dra mwyaf. Dywedir yn ami am Brydain ei bod y wlad fwyaf gwaraidd a christionogol yn y byd; eto i gyd pan edrychwn ar ei mhoes, cawn yno gymaint o anfoesoldeb ag a geir mewn ami wlad arall a ystyrir mewn gwirionedd yn mhell ar ol mewn gwareiddiad. Ni cheisiwn gyferbynu y Wladfa gyda un rhan o'r byd, er y gallwn ddweyd gyda sicr- wydd nad ydyw yn well na'rgweddill ohono. Pan ystyriom ein manteision, syn yw meddwl ein bod mor bell ar ol. Cawsom ein geni ar aelwydydd crefyddol, wedi tyfu i fyny yn swn pregethu'r Efengyl, yn ddeil- iad o'r Ysgol Sul, er hyny wele ni yn ymdrybaeddu yn y llaid, mewn tywyllwch ac anwybodaeth, twyll ac aflendid. Gwyddom ein dyledswyddau, ond ni feddwn ddigon o argyhoeddiad i'w cyflawni. Gwyddom y gwahaniaeth rhwng da a drwg; ond am fod gwneyd da yn gofyn penderfyniad ac egni, goddefwn gael ein tynu i lawr gan y rhan waelaf ohonom a rhoddwn y bai ar y diafol; ymgysurwn yn y ffaith nad ydyin yn waeth na'n cymydogion gallwn gyd ysgwyd llaw ar Iwyfan y gwendidau. Y mae cymdeithas wedi myned yn isel iawn pan gyferbyna ei beiau a'r bodau iselaf ohoni, boed iddynt fod yn y rnwyafrif neu yn y lleiafrif. Dylai cymdeithas feirnadu ei gweithredoedd yn ol ei rhinweddau ac nid yn ol ei diffvgion. Gresyn meddwl ein bod yn gwybod ein dyledswyddau ac heb wneyd ymdrech deg i'w cyflawni. Y mae yn drosedd yn erbyn dynoliaeth ac yn erbyn Duw i sefyll yn dawel yn ngwyneb pechod mewn unrhyw ffurf; heb wneyd yrngais i'w feddyginiaethu, pa un bynag a fyddom ni yn gyd-gyfranogion a'i peidio. Nid digon ymatal rhag gwneyd drwg, ond dylid gwneyd daioni codi cymdeithas, Ileshau ein cyd-ddyn a thrwy ddyrchafu dynoliaeth, wella ein hunain. Y mae arwyddion amlwg fod y Wladfa yn llithro yn gyflym ar y -,o,-Iwiei-ed, ac nid oes neb yn ceisio ei hatal. A raid i ni fyned i'r man iselaf y gall dynoliaeth ddirywio cyn troi yn ol ? Y mae rh yrldid wedi Illyned yu ben-ryddid yr vdym vn prysur fyned yn gaeth i flys a chwant. Os deil pethau i fyned fel y maent, gellir yn fuan gyhoeddi An- athema uwch ben y Wlada GYIIJreig. Beth yw achos y dirywiad moesol yi-na ? Credaf y gellir ei briodoli i ddau ddylariwad. Etifeddeg a chylchynion. Rhaid cyfaddef ein bod wedi etifeddu tueddiadau llygredig o'r gorphenol ond nid yw hyny yn rhoddi trwydded i ni eu datblvgu yn weithredol. Gofynir ymdrech bersonol ar ran pob unig- olyn i wrthsefyll y gwendidau hyn, a dylai cymdeithas yn y cyfangorph geisio gwella y cylchyniou i'r fath fodd fel 11a byddo temtasiynau yn dyfod i gyfarfod ag ef. Ysywaeth nid dyma ymgeisia cymdeithas yn y Wladfa yn hytrach na rhoddi rhwystrau ar ffordd y drwg, rhoddir cyfleustra i gyflawni gweithredoedd sydd yn hollol groes i ddeddfau moesoldeb. Wedi dyfod ohonom i wlad newydd sydd yn gofyn cymaint o lafur i gael pethau tymhorol i drefn, anghof- iwn ein dyledswyddau i ran oreu dynoliaeth, caiff y bywyd uchafei aberthu er mwyn yr isaf Dychmygaf glywed llais un yn dywedyd Yr ydym yn cael pregethau rhagorol bob Sul, cyfarfodydd gweddi yn yr wythnos, cyfarfodydd llenyddol a diwylliadol. Beth arall sydd eisieu ? Gwir ein bod yn cael yr holl bethau da hyn, ond beth yw yr effaith ? Nid ydynt yn llesoli ond yr ychydig, tra y maent yn rhoddi cyfleustra i eraill i gyflawni gweithredoedd llygredig, pa rai sydd yn ein tynu fel cenedl i warth moesol. Y mae yn hen bryd i'r Wladfa ddeffro o'i chysgadrwydd a dyfod yn fyw i'w dyledswyddau. Y mae adeg cyhoeddi rhyfel yn erbyn anfoesoldeb yr oes wedi dyfod. Y mae eisiau milwyr i'r rhengoedd gyda phenderfyniad di-ildio. Chwi dadau a mamau ystyriwch yn ddi- frifol beth fydd tynged eich plant. A garech iddynt gyflawni. gweithredoedd y bydd cywilydd genych eu harddel. Y mae eu dyfodol yn dibynu i raddau helaeth arnoch chwi. Os syrthiant nid hwy eu hunain fydd yn y gwarth. Y mae amryw yn y Wladfa sydd yn barod i'w hudo i ddistryw. A ydych am aros yn swrth a difeddwl pan y mae y drwg ar ei oreu yn ceisio cael gafael ynddynt? Chwi eglwysi'r Wladfa er mwyn y Duw ydych yn ei addoli, ymddeffrowch i'ch dyledswyddau glanhewch gymdeithas o'r gwarth sydd yn ei goddiweddyd. A yw yr Eglwys wedi myned yn rhy lwfr i wrth- wynebu pechod ? A ydych am fod yn gyfranogion ? Os ydych y mae dinystr sicr yn eich haros. A ydych yn teimlo nad oes angen ? Edrychwch o gwmpas, gwelwch y gweithredoedd, gwrandewch ar ymddiddan- ion, syllwch ar yinddygiadau. Pa le mae yspryd y seintiau dewr, y merthyron, etc. ? A yw y cwbl yn ofer ? Chwithau Weinidogion y Duw Goruchaf, pa le mae eich ymdrechion ? A yw y gallu dwyfol wedi colli ei effaith ? A ydych chwithau yn digaloni ? Y mae eich cyfleus- tra yn arbenig y mae dynoliaeth yn disgwyl wrthych. Pa le mae sel yr hen dadau ? Pa le mae hyawdledd y diwygwyr? A yw y cyfan wedi marw ? Chwithau athrawon ein hysgolion dyddiol, y mae genych gyfleustra rhagorol i argraffu ar feddwl y rhai bychain i garu y pur, a'r glan, a'r aruchel. Y mae y llywodraeth yn eich gorchymyn i addysgu y plant i fod yn ddinasyddion gonest. geirwir, i allu llywodraethu eu hunain yn ngwyneb pob temtasiynau. Ffurfiwch gymeriadau glan, meddyliau clir, delfrydau uehel, ac yna daw ein Gwladfa i fod yn addurn i Argentina. GWERINWR.

IMahomet ar Twrc

Mahomet a'r Twrc. PENNOD IV. Pan oedd Twrci yn trosglwyddo Tripoli i Itali yr oedd pedair llywodraeth arall yn ymbarotoi i ymosod arni. O fewn wythnos i'r dydd yr arwyddodd Twrci y cytundeb am Tripoli, cyhoeddwyd rhyfel yn ei herbyn gan Montenegro, Servia, Bwlgaria, a Groeg. Mae yn amlwg fod pobl y gwledydd hyn yn awyddu am ryfel er ceisio gwaredu eu cer- aint sydd yn gwaeddi dan oithrwm y Mos- lemiaid. Ar ddechreu y rhyfelawd hwn di- gwyddodd arweddion anghyffredin. Ni ym- yrodd y galluoedrl Ewropeaidd hyd nes yr oedd amryw frwydrau wedi eu hymladd, a Thwrci yn colli. Ymdclengys fod teimlaclau y cenhedloedd wedi newid—eu cydwybod yn peri iddynt oddet i'r gorthrymedig gael cyfle i enill eu rhyddid. Arwedd arall; fod rhyfelwyr Twrci wedi colli eu hyder anorch- fygol. Mewn mis o amser colli y gad yn y gogledd, gorllewin a de, a ffoi o'r maes yn anhrefnus, a phan yn encilio drwy bentref- ydd, yn llofruddio y preswylwyr yn wyr, gwragedd a phlant am eu bod yn Gristion- ogion, ac am yr un esgus yn lladd pob cIwyf- edig syrthiai i'w dwylaw. Lladd pob car- charor tra y mae eu gelynion yn porthi mil- oedd o garcharorion, a gweini ar glwyfedig- ion ar y maes ac mewn ysbyttai. Aeth yu chwyldroad yn y brif ddinas a lladdasant eu prif gadlywydd ar yr heol. Yn y cyni hwnw aeth y Twrc i geisio heddwch, ond yr oedd inor ystyfuig fel y gohiriwyd cynadledd yn Llundain heb ddod i delerau. A bu atal ar ymladd oherwydd llymder tywydd gauaf. Ni chytunai y cynghreiriaid am gadoediad. Yr oedd Groeg a'i llynges yn yrnlid llynges Twrci, ac yn cymeryd ynys ar ol ynys tra'r lIeill ar y tir yn gwarchau amryw gaerfeydd. Y bwysicaf oedd Adrianople, dinas fawr yn Macedonia, ac am honno yr ymgyndynai Twrci waethaf. Ond aeth yr ymosodwyr heibio gan gymeryd trefydd a phurthladd- oedd rhyngddi ar Mor Marmora nes gorfod i Adrianople roddi arfau i lawr oherwydd newyn. Y gaeraf bwysig nesaf ydyw Scutari, porth- ladd ar lau Mor Adria ger terfyu Albania. Y mae Scutari arall, ger Constantinople, ar ochr Asiaidd culfor Bosphorus. Daeth y lie hwnw yn enwog adeg Rhyfel y Crimea fel ysbytty cleifion a chlwyfedigion milwyr Prydain, ac yno yr enwogodd y ddiweddar Florence Nightingale a gweinyddesau y Groes Goch eu hunain. Mangre arall yw Scutari y miri presenol, yn mynyddoedd y Balkan, ar ffin Albania i'r de, a Montenegro i'r gogledd Ac y mae Awstria a'i bys yn y brywes yn y fro honno. Nid yw foddlon i Servia na Montenegro gael poithladdoedd yn Mor Ad- ria ac y mae perygl mawr yr achosa hyn ddadl a dyr yr undeb sydd yn nghyngorau y Galluoedd Ewropeaidd. Y mae i Albania arbemgrwydd. Gwlad fynyddig debyg i Montenegro ydyw, a honna y bobl eu bod o haniad Celtaidd-rhan o fyddin Bran aeth o Brydain oesau cyn bod Caisariaid yn Rhufain. Cafodd Bran god euraidd drom gan y dinaswyr am arbed dinas Rhufain ac aeth tua'r dwyrain. Gad- awodd ran o'i lu yn ngogledd Ital dan enw Longobardi (yn awr Lombardy), ac yn myn- yddoedcl y Balkan ymsefydlodd ail ran, a hwy yw yr Albaniaid. Aeth trydedd ran yn mlaen i Asia a sefydlasant yn Galatia. Mae yr Albaniaid yn wahanol hyd heddyw i'r tylwythau sydd yn eu oylchynu yn eu hiaith a'u harferion gwledig a'u gwisgoedd. Gwisg- ant lodbais (kilt) fel Gaeliaid ucheldir Scot- land, ac ymdebygant mewn man bethau eraill er eu bod ar wahan er's dwy fil a haner o flyneddau. O'u cwmpas y mae amryw gen- edloedd Sclafonaidd a Groegiaid, a'r oil yn ymlynu wrth yr Eglwys Ddwyreiniol. Ond ymddengys fod nifer fawr o'r Albaniaid yn ffyddloniaid Mahomet," a rhan arall o hon- ynt yn babyddion. Y cynygiad yn awr yw gwneud Albania yn dalaeth anibynol. Mae y galluoedd Ewropeaidd wedi peri i Montenegro adael Scutari; ac y mae Prydain a Ffrainc wedi anfon rhai llongau rhyfel i wylio y glanau a pheru i'r ymosodwyr arswydo a chilio draw. Eithr y mae Groeg a Servia wedi anfon byddin i helpu y Montenegriaid a'u cefn- dryd yn Rwssia yn cynhyrfu o'u plaid ac yn gwaeddi Meiklith ar Awstria." Anfad waith vvnaeth rhyw Iuddew gwallgo yn saethu brenin Gl"Oe,dyn ag iddo gym- eriad ardderchog. Diau yr achosa flinder a rhwystr yn y cytlafareddu. Ymddengys mae cynllun y gwladweinwyr hyd yn hyn yw cadw baner y Gau Broffwyd i chwitio ar ddau ysinotyu yn Ewiop am ysbaid eto. i Constantinople a rhimyn bitch o dir ar lan y Mor Uu; a'r 2 Albania ar arfordir Mor Adria. Ond yn ol y newydduron y mae perygl i blisgyn yr undeb sydd rhwng galluoedd Ewrop dori a rhwygo yn yfiflon. Diau y cawn ddadblygiadau rhyfedd yn y llythyrgodau nesat. Ebrill 15, 1913. i$t

Trelew

Trelew. CYMDEITHAS NEWYDD.-Ar yr uegcyfisol penderfynwyd gall amryw o'r trefwyr sefydlu Cymdeithas Gymrodol o dan yr enw Soc- iedad Counopolita de Socorros Mutuos del Chubut." Aelociaeth tnvy gyfrauu$1.50 y mis. Gydag untrydedd en vvyd y 130LJwyr canlynol yn bwyllgor darbodoi Llywyud, Roman Bertoldi Ysgritenydd, Jose M. Car- valhosa Trysorydd, Isaac Colieti Swydd- ogion, E. Cabral a J. Macias. Pob many 1.011 parthed aelodaeth i'w gael gan y trysorydd. Derbynir yn ddiwahan feib.on a merchedyn aelodau.- Y COMISIWN.

Treorci

Treorci. Bydd yn dda gan luaws cyfeillion Mr. W. E. Williams, Erw Fair, Treorci, ddeall ei fod yn graddol wella, a gobeithiwn y caiff adfer- iad i'w gynnefin iechid yn fuau. Y mae ef yn fyw i bob gwaith a phob symudiad cre- fyddol yn y Wiacifa, ac wedi bod felly am gyfnod lied faith ac nid hawdd yw hebgor dynion felly o unrhyw gylch o gymdeithas.

COSTAU BYW YN CANADA

COSTAU BYW YN CANADA. Y mae Mr. Crothers, Gweinidog LIafur Canada wedi cyflwyuo i'r Senedd adroddiad sydd yn dangos fod costau byw yn Canada wedi cynyddu yn 01 6^ y cant yn ystod y flwyddyn ddiweddaf.

CYNYDD POBtOGAETH BUENOS AIRES

CYNYDD POBtOGAETH BUENOS AIRES. Yn ol y cyfrif diweddaf, y mae poblogaeth Buenos Aires wedi dyblu mewn rhif o fewn y deng mlyuedd diweddaf; Chicago yn unig sydd wedi cynyddu mwy na Buenos Aires mewn rhif yn ystod yr un cyfnod.

CYNYDD POBLOGAETH DEHEUDIR CYMRU

CYNYDD POBLOGAETH DEHEUDIR CYMRU. Y mae cynydd poblogaeth Deheudir Cymru yn 39,000 yn flynyddol, ac mewn angen am 8,500 o dai newyddion bob blwyddyn i fyw ynddynt.

Y LLWYNOG AR OEN

Y LLWYNOG A'R OEN. I gadw'r llwynogod oddiwrth yr WYll bach yn y 110s, y mae rhai o amaethwyr Cymru yn goleuo lampau a'u gosod yina a thraw ar eu meusydd, a dywedir nad yw y llwynog yn barod i lofruddio'r oen yn ngoleuni'r lamp- goleuni yn noddfa i'r oen bach.