Collection Title: Dravod

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 2 of 4 Next Last
Full Screen
3 articles on this page
AT EIN GOHEBWYRI

AT EIN GOHEBWYR. Y mae'r ysgrifau canlynol rnewn Haw,— diolch am danynt :A. H. Gohebydd In- terested Cynyrchion Eisteddfod Trelew Moriesin, Gwyliedydd ac X.

11 zl l CPeryglon yr OesI

11-??", z:l -l ?  ,C> Peryglon yr Oes. Gan WILLIAM E. WILLIAMS. [PARHAD.] Fe wel yr ystyriol nad oes yn y cyfryw bethau duedd leiaf at adeiladu cenedl, mewn purdeb a sobrwydd, ond yn hoUol i'r gwrthwyneb, Wrth eu ffrwythau yr adna- byddwch hwynt." Pa ffrwyth ddisgvvylir ynghyfeddach y gwin a'r ddawlls, "A gasgl rai rawnwin oddiar ddrain neu ffigys oddiar ysgall?" Yr oedd y ddawns mewn bri mawr yr hen amseroedd, ymhlith y pagan- iaid, ond ni lyddai y ddau ryw byth yn ymgymysgu a'u gilydd, ond y naill ar vvahan. Yr oedd yr arferiad weithiau yn cymeryd lie gyda'r gwyliau crefyddol, ar achlysuron o lawenydd cyhoeddus. Byddai mintai o wragedd yn gyffi-edill yn myned trwy eu hymarferiadau crefyddol, megis y gwelir yn hanes Miriam ar lan y mor coch, yr hon a gymerodd dympan yn ei llaw, a'r holl wragedd a aethant ar ei hol hi a thympanau ac a dawnsiau, etc. Sylwer nad oedd pob dawns yn cael ei chario ym mlaen yn yr un dull, na chyda'r un amcan, yroedd llygredig- aeth yn rnynu eu ffordd trwy yr arferion hyn, a chondemnia yr hen genedl hyny yn fawr, trwy alvv rhai o'r dulliau yn "ddawlls yr ynfydion," a diau mai at hyn y cyfeiria Michael merch Saul (er ei fod yn gam- gyhuddiad) pan y dirmygai y brenhin Dafydd wedi iddo fod yn dawnsio o flaen arch Duw. 0 ddrwg, nid oes ond drwg i'w ddis- gwyl," ni ddisgwylir oddiwrth y dull y mae'r gwleddoedd a'r dawnsiau yn cael eu cario ym mlaen yn ein dyddiau ni, ond amhuredd moesol, sef darostyngiad ar y lledneisrwydd hwnw a weddai i'r ddau ryw yn eu cyfath- rach a'u gilydd. Dymunwn gyfeirio yn mhellach at chwar- euon yr oes, megis troedio'r bel, &c. Nid oes amheuaeth nad yw Iluaws mawr o arweinwyr yr oes bresenol yn wahanol iawn eu barn i'r hen dadau am y priodoldeb o achlesu'r chwareuon, condemnient hwy bob rhialtwch gyda'r llymder mwyaf, tra y cymer amryw o wyr cyhoeddus fantais ar y Ilwy- fan ac ambell un y pwlpud i'w cymeradwyo. Gwelsom waith ryw ohebydd mewn newydd- iadur yn moli gwr o urddau am gymeryd rnantais wrth bregethu nos Sul i gymeradwyo chwareu, ac i frolio ei hun "fel ffustwr cyfarwydd, ac yn ben ar y cwbl yr oedd wedi bod yn dra llwyddianus fel athraw yn y grefft hono, am ddarfod iddo ddysgu un o'i neiod i arfer ei ddyrnau, a'r peth cyntaf a wnaeth hwnw wedi myned o hono i Goleg Caer ydoedd rhoi curfa i ben ffustwr y lie hwnw. Y fath sothach gwael i roddi o flaen cynulleidfao bechaduriaid ;onid gwell fuasai i'r gwr parchedig ddysgu'r bobl fod yn bryd i'r byd roddi heibio "ddysgu rhyfel mwyach," a throi'r cleddyfau yn sychau, a'r gwaewffyn yn bladuriau. Diameu fod hyn yn damaid wrth fodd calon aelodau'r Boxing Schools; pa un bynag, teitnlwn fod hyn yn engraiftt o'r hyn fyddai yn cymeryd lie yn ami yn nhywyllwch y canoloesoedd. Beth yw y casgliad y deuiriddo yngwyneb y ffaith fod chwareuon yn dyfod i gymaint o fri yn yr oes hon ? Credwn eu bod yn arwydd ddigamsynioi o ddirywiad crefyddol ac yn arwain i benrhyddid moesol. Nodwn un engraifft o'r ysgrythyr er ategu hyn cyfeiriwn at hanes cenedl Israel wrth odre mynydd Sina, pan alwodd Duw Moses i'r mynydd, i Aaron yn ei absenoldeb ar gais y bobl, wneuthur llo aur i'w addoli, yn ol hen arferion yr Aiphtiaid eilunaddolgar, a chy- hoeddasant wyl. A'r holl bobl a godasant yn fore dranoeth ac a offrymasant boeth- offrymau ac a aberthasant aberthau hedd a'r bobl a eisteddasant i fwyta ac i yfed, ac a godasant i fynu i chwareu." Gwelwn oddi- wrth yr hanes fel y mae dynion da yn fynych yn gwneud camgymeriadau er boddio'r lluaws. Dyma genedl oedd ychydig ddyddiau yn flaenorol, pan wrandawsant ar lais yr Arglwydd o'r mynydd, gyda'r difrif- weh mwyaf yn barod i dyngu llw o ffyddlon- deb i Dduw. Ni wnawn yn ol yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd. Dyna genedl gyfan pobl gysegredig yr Arglwydd, wedi sobrei- ddio; ac mor fuan yn colli llywodraeth arnynt eu hunain, ac yn ohwareu o flaen y llo aur yn ol hen arferion y paganiaid. Ni a welwn mai absenoldeb crefydd ysbrydol yn mhlith y paganiaid eilunaddolgar oedd yn peri fod chwareuon mewn cymaint o fri. Oni welir hyn yn nechreuad y cyfnod Cristionogol, ac os dilynwn yr hanes i lawr hyd deyrnasiad Siarl yr aill yn Lloegr, ni a welwn yr un peth, pryd y mynodd y brenin i'r llyfr Book of sports gael ei argraphu'r drydedd waith, a dywedir mai'r canlyniad fu i bob melldith bron y gallesid ei ddychmygu dderbyn cefnogaeth. O'r ochr arall ar ol cyfnod o ddiwygiad gwelir trwy waith yr hen Buritaniaid yn pregethu, rhybuddio ac addysgu'r bobl, atal gryn lawer ar rwysg y gelyn, ac i luaws mawr adael yn llwyr yr hen arferion Hygredig. Fiv barhnu. I'zv bai-h(7u. M—-1

Gohebiaethau

Gohebiaethau. To the Editor of the DRAFOD, Trelew. Dear Sir,—In answer to Cymro may I remind him that in my last letter it is stated that I am not in the habit ot answering anonymous correspondence. Mr. Evan Pugh's kind and able answer, for which I take this opportunity of thanking him, seemed to me quite sufficient. However if Cymro will have the politeness to call on me, I shall have much pleasure in answering any questions he likes to ask.—Before doing so however I should advise him to not only read but to study the 13th chapter of 1St Corititlilaiis.-I remain, Yours truly, PERCY E. CLASS. I AMGRYMIADAU CYMRO. Br. Golyg3'dd.—Gyda'ch caniatad dangosaf ychydig 0 aneirif wallau a chamgymeríadau y gwr merchedaidd (sic) hwnw ymguddia ynghysgod trugarog yr enw- Cymro. TYIJaf eich sylw 37n gyntaf at y ddau lythyr ymddangosodd yn eich rhifyn diwedd- af agosaf at eu gilydcl-sef yr eiddo Stran- ger" a'r eiddo "C37mro"; un o honynt yn tystio yn gywir ragoriaeth undeb a chyd- weithrediad mewn masnach, a'r lIall trwy eiriau angharedig, llyfn a chas, yn bloeddio mai cystadleuaeth, bwriad drwg ac anghar- iadoldeb, yw rhinweddau Efengyl Mab Duw. Nawr am ei gamgymeriadau i. Fod ei lythyrau yn foneddigaidd. A dweud y Heiaf, Br. Golygydd, maent yn annheilwng o un sydd wedi clywed y geiriau Gwnewch dda i bawb ac yn enwedig i'r rhai sydd o deulu'r ffydd." 2. Mai denu ydyw amcan Mr. Class. Br. Golygydd, ei amcan ydyw gwneutbur claioni. Teimlaf fod y Wladfa yn adnabod Mr. Class yn ddigon da erbyn hyn i wybod hyny yngwyneb holl ymdrechion "Cymro" i brofi i'r gwrthwyneb. Os hawlia "Cymro" ddaioni yr amcan,- dywedaf fod model ei ymgeisiad ato yn rhyfedd a llewydd-yn hollol wrthwynebol i orchymyn ei Greawd- wr. Rhodd gwybodaeth bob amser ydyw ehangder meddwl a gwellhad cymdeithasol yn y bywyd ysbrydol a'r moesol yn ogystal a'r materol. On id goreu i bawb po mwyaf fydd genym yn y Wladfa ? 3. Mai cystadleuaeth ydyw Cristionogaeth -ac fod rhaid i'r Wladfa wylied rhag "wahanol gynllwynion yr Eglwys Sefyd- ledig i ddenu plant, merched, a dynion merchedaidd (fel y dywed Cymro). Geiriau arall o eiddo Cymro: pa mor ddengar o chudd yw dylanwad y Cymdeithasau Eg- lwysig. Siarada am yr Eglwys Sefyd- ledig fel pe tai yn lledaenu achosion anfoes- oldeb ac am ei hofifeiriaid fel dynion yn awvddus am aelodau er mwyn eu danfon yn bendramwnogl i'r trueni tragwyddol. Mae'n resyn meddwl fod y fath lythyrau a Cymro yn cael ymddangos ymhlith dynion sydd yn galw eu hunain yn Gristionogion. Nid pregethiad yr Efengyl yn gymaint ac ymarweddiad y Cristionogion eu hunain fydd yn peri i anffyddwyr y Wladfa i gyffesu Ifydd Crist wedi ei Groeshoelio. Gochelwn, Br. Golygydd, na fydd ein cen- figen a'n geiriau cas ni vn Mae yn y Wladfa yma ddigon o bechodau yn ddigon uchel eu penau, fel ag i ofyn am holl werth pob Cristion, 'gyda'u gilydd, i'w stampio allan—pechodau ydynt sydd yn distrywio cymdeithas ac yn difrodi teuluoedd, ac yn hollol annheilwng o wlad y menyg gwynion. Cariad ac undeb ydynt ganolbwynt Crist- ionogaeth Fy mhlant bychain, cerwch eich gilydd, fel y cerais i chwi." 4. Fod Rhyddfrydiaeth ac Ymneillduaeth yn bodoli mewn dyn mewn cyfartaledd i'w gilydd. 0 anwybodaeth chwerthinus athru- enus Tybed fod Cymro yn anvvybodus o'r ffaith fod yn yr Hen Wlad filoedd o Eglwys wyr Rhyddfrydol ac hefyd o Ymneill- duwyr UndebolM! Rhyddfrydwyr ydyw nifer fawr Esgobion Prydain Fawr mewn gwladwriaeth. Yn enw rhewm pa wahan- iaeth i'ch bywyd ysbrydol chwi a minall i ba blaH boleticaidd y pertliyiiwii os utudd- hawn i reolan'r Ysgrythyr (Rhuf. xiv. 5) "Bydded pob un yn sicr yn ei feddwl ei hun." ? 5. Fod ystad yr Eglwys wredi ei cham- ddarlunio i ni yn Nghymru. Anghywir, Foiiwrl Gwir oedd pob gair a glywais i yno. Tel-fviiaf yii awr er nad wyf wedi dod yn agos i derfyn awgrymiadau Cymro. Efallai y bydd eisieu cywiro gwallau yr wythnos nesaf. YugwYIJeb hyn i gyd, Br. Golygyrld, on id ydych yn meddwl y buasai yn well i ni i oleuo ychydig o'n hunain trwy offeryn- oliaeth y DRAFOD, ar byncian Henyddiaeth yn lie gwastraffu papur ag amser yn ymgecru a "chickio" yn ein plith ein hunain—yr hyn nid yw deilwng o'r enw rhagorol ar ba un y'n gelwir—Cristionogion. Yr eiddoch yn gywir, D. J. WILLIAMS. YSGOL MR. CLASS. Gan fod cyfeiriadau wedi eu gwneud gan Mr. Class ac hefyd gan Mr. D. J. Williams, at waith y Golygydd yn caniatau i ysgrifau Cymro ymddangos yn y DRAFOD, a chan fol y naill a'r Hall yn ce'sio gwneud eu hacbos mor lan nis gallaf wneud yn well na chyflwyno i ddarllenwyr y DRAFOD vvybod- aeth narl yw Cymro wedi ei roddi, a gwybod- aeth mae'n debyg na fuaswn yn ei roddi onibae fod ysgrifau Mr. Class a Mr. Williams yn galw am hyny. Rhyw bythefnos yn ol galwodd Mr. D. J. Wilfams fy sylw at ysgrif "Cymro" yn y DRAFOD—drwg oedd genyf ar y pryd iddo wneud hyn, ond da genyf erbyn hyn, oblegid rhoddodd gyfle i mi ofyn cwestiynau iddo yn bersonol. Dywedodd Mr. Wilitaiiis wrthyf mai nid Church Mission School ycloedd ysgo] Mr. Class, ond mai private venture ydoedd, a dywedodd hefyd nad oedd y Girls' Fi-leii(Ily Society yn cael syhv yn ei ysgol. Dywedais wrth Mr. Williams fod y Gli-Is' Frleiicily Society yn cael sylw yn yr ysgol, ac fed ysgrif wedi clod i law ag oedd yn cydnabod hyny. Mae'n debygna wyddai Mr. Williams hyn, ond dylasai wybod neu beidio ateb nad oedd sylw yn cael ei roddi i'r Girls' Friendly Society yn yr ysgol. Gofynais drachefn i Mr. Williams a Dedd yr athrawes wedi bod yn Genhades Eglwys- ig, ac wrth ofyo rhoddais Mr. Williams ar ddeall fod genyf wybodaeth ynglyn a'r mater nad oedd Cymro wecli ei roddi Yl) ei ysgrif. Atebodd Mr. Williams fod yr athrawes wedi bod yn Genhades Eglwysig. Gofynais drachefn Quid oedd yr athrawes yn parhau yn Genhades Eglwysig? Atebodd yntau ei bod. Un cwestiwn arall, Mr. Williams, meddwn innau Onid yw yr athrawes yn derbyn cydnabyddiaetli o'r Genhadaeth Eglwysig? Amlwg mai o'i anfodd y gorfu i Mr. Williams ateb ei bod. Yn awr fel hyn y saif pethali Dywed Mr. Class yn ei ysgrif yn y DRAFOD mai nid Mission School ydyw ei ysgol ond mai "private venture." Dywed Mr.: Williams fod yr athrawes yn Genhades Eglwysig, ac yn derbyn arian o Drysorfa y Genhadaeth hono. Tybed felly nad Mission School ydyw ? A ydym i ddeall fod y Genhadaeth yn talu cyflog i'r Genhades neu yr athrawes tra y mae hi yn cael ei defnyddio gan Mr. Class i gadw ysgol sydd yn "private venture ? Gwn fod son wedi bod am roddi y Gol- ygydd yn y carchar am adael i'r gwir ym- ddangos ar dudalenau y DRAFOD-y gwir sydd yn lladd. Atebais fy mod yn foddlon i fyned i garchar os oeddynt hwy am fy ngharcharu ar draul gwadu y gwir. Teimlwn yn fraint cael myned i'r carchar dros y gwir yn y Wladfa, ac er fod Mr. Williams yn gosod y Wladfa yn hynod anffyddol a phechadurus, gwn fod yn y Wladfa ganoedd fuasai yn foddlon i fyned i garchar fel fy hunan yn hytrach 11a gwadu y gwirionedd. Pobl sydd am wadu er mwyn carcharu j eraill sydd yn beryglus. Troseddais yn