Collection Title: Dravod

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

Image 1 of 4 Next Last
Full Screen
5 articles on this page
Addysg y Wladfa

Addysg y Wladfa. Anfantais arall yw anghysondeb y plant i'r vsgol. Os bydd rhai plant yn absenol o'r ysgol y mae'r ymdeimlad yn meddianu 'r athraw y bydd raid iddo ail adrodd yr un peth dranoeth, ac os cyll rhai wythnos neu ychwaneg cyll yr athraw ddyddordeb yn y plant a chollant hwythau ddyddordeb yn yr ysgol. Y mae eu cyd-ddisgyblion wedi myned y tu hwynt iddynt, a'r canlyniad yw y rhoddir hwy mewn dosbarth is a theimlant y symud- iad yn sarhad arnynt, a'r tebygrwydd yw y byddant yn absenol y dydd canlynol. Gor- wedd y bai ar y rhieni, dylent ar bob cyfrif anfon eu plant i'r ysgol yn gyson er rhoddi pob chwareu teg i'r athraw. Cywtlydd o beth yw gorfod galw ar yr awdurdodau i orfodi rhieni i anfon eu plant i'r ysgol. Y mae hyuyna yn brawf digonol nad yw y rhieni hyny yn gwerthfawrogi addysg. ADDYSG FOESOL.-Y brif ysgol yw y cartref, yma y mae cyfleusterau goreu i ddysgu moes- oldeb, yma y mae ffurfio cymeriad ond gan fy mod wedi traethu ar hyn i raddau yn flaenorol ymataliaf. Y mae yr ysgolion dyddiol yn fan cyfleus iawn i ddysgu moesoldeb a moesgarwch. Dylent feithrin yn y plant gariad at rinwedd, i bwysleisio cymeriad pur, a gwylio eu hym- ddiddanion tra yn yr ysgol. Ond ysywaeth nis gall athraw sydd yn estron i iaith y eu gwylio yn briodol, cant gyfleustra rhagorol i arfer geiriau anweddaidd, a thrwy hyny feithrin teimladau ac arferion anfoesol. Fe glywais blaut yn siarad yr iaith fwyaf isel yn nghlywedigaeth yr athraw, a'r rheswin ei fod yn caniatau meddai oedd nad ydoecid yn eu deall. Os ydym yn ymddiried ein plant i athrawon dylem fod yn sicr nad ydynt yn caniatau iddynt fod yn anfoesgar, na siarad yn anfoesol. Yr Ysgol Sul yw yr un sydd yn arbenig ar gyfer rhan foesol ac ysprydol dyn, ond rhaid dweyd ei bod yn mhell o gyrhaedd ei gwir am can nid yw namyn cysgod o'r hyn ddylai ac a allasai fod mewn gwirionedd. Yn y lie cyntaf nid oes yn y rhan fwyaf o'r capelau le cyfleus i roddi gwersi i'r plant a'r bobl ieuanc; dylasai fod yn mhobeglwys ystafell neilltuol, lie y gellid crynhoi y plant a'r bobl ieuanc i fan nad oes neb i dynu eu sylw. Tra y maent ar wasgar mewn un ystafell pa mor eang bynag y byddo, y mae rhywun o ryw ddosbarth yn tynu eu sylw. Diffyg arall yw nad yw yr athrawon yn parotoi gwersi ar gyfer eu dosbarth, mewn Ilawer ysgol y mae athraw newydd bob Sul, am nad yw yr un ddewiswyd yn gwneyd ei ymddanghosiad ond unwaith y mis, y canlyniad yw nad yw yr athraw a'r dosbarth yn deall eu gilydd. Dylasai y maes llafur fod y goreu posibl dylai yr athraw greu brwdfrydedd yn y dis- gyblion, ac yn enwedig i blant dylai y gwersi fod yn ymarferol, chwaethus a deniadol. Treulir amser gwerthfawr gyda phethau di- fudd. Pwy oedd tad Adda neu Nebuchod- onosor ? Pwy yw yr Efe, hwn ? neu, Pwy sydd yn Ilefaru ? neu Pa faint o ddarnau oedd yn siaced fraith Joseph ? Fel pe bnasai hyny o'r pwys mwyafer eu hiachawdwriaeth. Dylai fod y wers yn symbyliad i'r disgyblion i wrthwynebu drwg a charu daioni. Carwn weled yn mhob Ysgol Sul fwy o ymdrech i roddi sylfaen i gymeriad ydeiliaid. Beth pe rhoddai yr athrawon ar yn ail anerchiad neu gynghorion ymarferol i'r dosbarthiadau gyd- a'u gilydd, am ddeg neu bymtheg munud ar derfyn yr ysgol. Rhywbeth i gyfarfod ag anghenion yr oes. Nid son yn barhaus am yr lddewon, Adda ac Efa yn Ngardd Eden, miloedd o flynyddaedd yn ol. Dylent ym- gydnabyddu a hanes a hwnw yr hanes goreu ac nid rhyw straeon ofergoelus acanwaraidd. Y mae arwyddion yr amserau yn gofyn am ystyriaeth ddwys arweinwyr yr Ysgol Sul. GWERINWR.

DORA

DORA. [Talfyrwyd o'r Sunday School Chronicle]. Marion gwrandewch hyn," dywedai Mr. Richards wrth ei wraig pan yn darllen newyddiadur tua blvvyddyn yn ol Daeth hanesyn hynod iawn o Nawdd-dy "(Asylum) Entwood. Dygwyd dynes o'r enw Jane Story i'r sefydliad ddeng mlyn- edd yn ol, yr hon oedd wedi llwyr an- nghofio ei hunan :—ei henw, o ba Ie yr oedd, na dim-dim. Yn sydyn yr wyth- nos ddiweddaf daeth ati ei hun—i lawn ymwybyddiaeth, ac ymofyna yn daer "pa le y mae y plentyn ? Sicrha mai mamaeth oedd hi, a'i bod yn cymeryd y pleiityii at ei nain i Exeter. Cyrhaedd- asai i orsaf Waterloo, a dododd y plentyn i eistedd yn un o'r ystafelloedd disgwyl. —Nis gwyddai ddim wedyn. Os nad ei dychymyg hi yw hyn, y dirgelwch sydd yn aros ydyw, beth ddigwyddodd i'r plentyn." Llygadrythodd Richards a'i wraig ar eu gilydd. Gwyddent hwy beth ddigwyddasai i'r plentyn. Yr oeddynt hwy yn ngorsaf .Waterloo, ac yr oedd geneth fechan yn cer- dded o gwmpas, ac yn y diwedd dynesodd at Mrs. Richards gan estyn ei llaw atiadywed- yd' Granni." Nid oedd yno neb yn talu dim sylw iddi. Ymofynasant, ac arosasant yn hir gan ddisgwyl a holi. Yn y diwedd cymerasant hi gyda hwynt i Portsmouth ac ymlaen l'w cartref yn Ynys Gwyth. Sylw- asant ar newydduron i weled ddeuai crybwyll lad am y plentyn, eithr ni welsant awgrym yn uulle. Gan nafeddai Mr. a Mrs. Richards ddim plant edrychent ar y plentyn megis rhodd Duw. Galwasant hi Theodora ystyr yr hyn ydyw Rhodd Duw." 0 fel y carent hi. Ond sut yn awr? Mae yn eglur fod rhywun arall a hawl fwy na hwy iddi. "John," meddai y wraig, "mi ataliwn ein tafodau, fel na chaiff neb wybod. Byddwn t farw pe cymerid Dora oddiwrthyf." Atebai y gwr, "Welwch chwi hen wraig, fe friwiai hynny fin nan lawn cymaint. Ond yr hyn sydd iawn sydd yn iawn, a rhaid i ni wneud hynny. Ni fu raid i ni roddi nemawr i fyny am wneud yr hyn oedd yn iawn hyd yn hyn. Darfu i Dduw ein liwyddo hyd yma, a rhaid i uinnau beiclio rhuso wrth yr aberth rnawr cyntaf. Onid ydych yn cofio y modd y darfu Abraham roddi i fyny Isaac? Rhaid i mi fyned a gwneud ymholiadau." "Purion. Ewch ynte John. Ond—" a thorodd yr hen wraig i wylo yn druenus. Aeth John, eithr gyda chalon drom ac aeth wythnos heibio cyn iddo ddychwelyd ond yr oedd sirioldeb yn ei lygad yn datgan fod rhywbeth rhyfeddol wedi digwydd. Ebe fe Yr oedd y ddynes yn yr Asylym wedi dod i gofio pob peth yn gryno. Enw iawn Dora yw Graham, unig blentyn swyddog niilwyr a'i wraig; a hwy aethent i India. Preswyliai y nain yn Exeter. Bu y fam druan farw o'r geri marwol ar fyrder wedi glanio yn Bombay, ac ni wybu ddim o an- ffodion ei phlentyn. Bu farw y nain agos yr un pryd, ac ni allai ei thad ddyfod drosodd i chwilio am ei blentyn. Rhoes y peth i gyf- reithwyr yn LIundain i chwilio yr oil a allent: eithr yr oeddynt hwy yn chwilio am ddwy- y famaeth a'r plentyn. Aeth Richards at y cyfreithwyr a gwefrebasant at Major Graham, tad Dora, a dyma y wefreb anfonodd yn ateb: Gadewch i Richards gael gofal y plentyn am y pum mlynedd nesaf. Yr wyf yn anfon llythyr." Pan ddaeth y llythyr yr oedd' yn llawn o ddiolchiadau arti eu gofal cariadus am Dora fach. Yr oedd efe wedi priodi eilwaith a barnai y byddai well i Dora aros gyda hwy nes y tyfai i oed, ac amgauodd swm mawr o arian i roddi addysg iddi megis weddai i wr o'i safle ef. Ein plentyn ni ydyw hi eto," meddai Mrs. R. Yr oeddwn i wedi ei rhoddi ym- aith. Mae hyn megis ei derbyn o farw yn fyw." Ebe Mr. R. "Ydyw, a'r goreu yw na ddarfu i ni fod yn gildyn a'l chadw yn ol yn llech- wraidd. Prawf tost oedd, ond diolch i Dduw daliasom ar yr iawn. V mae megis Abraham ac Isaac drosodd drachefn." 4+++

Geiriau Cymraeg a Sbaeneg

Geiriau Cymraeg a Sbaeneg. Y mae'n ddiameu bod amryw o ddarllen- wyr Y DRAFOD wedi sylwi ar y tebygrwydd sy rhwng rhai geiriau Cymraeg a geiriau Sbaeneg o'r un ystyr, neu o gyffelyb ystyr, ac wedi meddwl, te allai, tybed fod y geiriau hyn yn tarddu o'r un gwreiddiau. Dyna, mewn gwirionedd, yw'r ffaith. Y mae yn y Gymraeg tua phumtheg cant o eiriau o dardd- iad Lladin, ac nid oes angen son mai Lladin yw'r Sbaeneg agos i gyd. Dodaf yma rai enghreifftiau nad ydynt, o bosibl, heb eu dyddordeb. CYMRAEG. SBAENEG. LLADIN. perygl peligro periculum poen pena poena tyner tierno tener torth torta torta ysbryd espiritu spiritus ysblennydd esplendido splendidus modd inodo modus meistr maestro magister pobl pueblo populus urdd orden ordo cebystr cabestro capistrum castell castillo castellum pur puro purus trist triste tristis corff cuerpo corpus gwin vino uinum gwain vaina uagina llyfr libro liber rhod rueda rota sych seco siccus Gwelir yn y geiriau Sbaeneg peligro, tierno, y trawsddodiad sy'n digwydd yn rhai o eir- iau'r iaith honno. Yn y ddwy enghraifft hyn, sy'n tarddu o'r Lladin periculum, tener, y mae 'r cydseiniau r, I ac n, r wedi newid eu lleoedd. Yn y Lladin periculum y mae'r r o flaen yr c, a'r I ar ol yr c; ond yn y Sbaeneg peligro y mae 'r I o flaen yr g, a'r r ar ol yr g. Felly hefyd yn y Lladin tener ceir n-r, ond yn y Sbaeneg tierno ceir r-n, hynny yw, llythrennau 'r gair Lladin wedi eu trawsddodi. I fod yn darddiad cywir o'r Lladin dylai peligro fod yn periglo a tierno fod yn tienro. Perthyn i'r un dull o draws- ddodi llythrennau y mae geiriau Cymraeg fel aped yn lie ateb, a glywir ar wefusau am bell i hen Gymro. Sylwer ar un peth arall dyddorol yn y rhestr uchod, sef yr anhawster a deimla 'r Cymro cystal a'r Sbaenwr i seinio sp neu sb ar ddechreu gair. Rhaid iddynt roi rhyw lafariad o flaen y cydseiniau hyn a dywed y Cymro jysbryd, a'r Sbaenwr espfritu, yn lie sbryd, spiritu, o'r Lladin spiritus. ARTHUR HUGHES.

Family Notices

Geni. Williams.-Mehefin iaf, priod Mr. James Williams, Trelew, ar fab-ei enw yw Elwyn.

YR HEN GOP

YR HEN GOP. 'R Hen Gop Ar y top 'rwyt ti,-hwre! 'n gryf O'r iawn grefydd, 'leni; Uwch, uwch fo'th nod, i'thvgodi I egwyl braf ar binagl bri A. H