Collection Title: Dravod

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 2 of 4 Next Last
Full Screen
7 articles on this page
Peryglon yr Oes

Peryglon yr Oes. Gan WILLIAM E. WILLIAMS. TPARHAD.] Deuwn gam nes ymlaen eto, i ddechreu'r ganrif ddiweddaf, gwelwn fod Cymru oil o'r naill ben i'r llall megis yn gorwedd mewn tywyllwch, bro a chysgod angau, pan gododd yr hen ddiwygwyr seraphaidd, gan deithio trwy ogledd a deheudir Cymru, a gwasgar goleuni a gwres yr efengyl, i'r hen arferion llygredig, sef chwareu'r bel ar dalcen yr eglwysydd, a'i throedio ar y meusydd ar ol dyfod o'r gvvasanaeth crefyddol ary Sabbath, orfod cilio i raddau mawr, yn lie meusydd cochion, yr oedd porfa glas i anifail a llysiau at wasanaeth dyn a'r wlacl yn sobri ac yn troi i wasanaethu Duw. Rhyfedd y fath gyfnewidiad sydd yn cymeryd lie pan y mae yr eglwys yn cyflawni ei milwriaeth, ac yspryd Duvv ymsymud yn mhlith yr olwynion Eto, onid oedd cyflwr moesol Cymru wedi diryvvio yn fawr cyn i'r diwygiad diweddaf dori allan yn y flwyddyn 1904 — 5, yr hwn a fu o fendith anmhrisiadwy pa faint bynag o flaeleddau oedd ynglyn ag ef, yr oedd y bendithion a (idaeth trwyddo yn llawer mwy, gwelwyd yn eglur fod yr hen arferion ag ydoedd yn arwain dynion ar gyfeiliorni yn colli eu gafael ar y werin. Nid oedd bias ar fyned i'rtafarnau, y byrddau billiard a'r foot- ball match yn cael llonydd a'r clybiau golf hwythau wedi myn'd, yn lie llwon a rheg- feydd, y canu maswedd a'r comic songs, clywid sain can a moliant i Dduw, a halogwyr dydd yr Arglwydd wedi troi i ddilyn moddion gras ac i wedclio ar Dduw. Ond beth a gly wir heddy w o Gymru a pha beth a welir yn y Wladfa ? Gyda galar yr ydym yn gorfod cyfaddef fod yr hen arferion eto yn prysur orlifo tros y wlad. Un sylw pellach eto ar droedio'r bel. Fe welir yn eg!ur mai dyma'r chwareu mwyafpoblogaidd, ac mai hyn sydd wedi cael gafael dynaf ar rai dosbarth ohonom. Ni ddywedwn fod chwareu'r bel ynddo ei hun yn bechod, na chwaith y gall ymarfer ychyaig fod yn llesol dan rai amgylchiadau, ond y mae y fath swyn gyda'r dull presenol o chwareu fel y credwn fod mwy o lawer yn cael ei colli nag sydd o enill yn yr ymgais. Mae'r gystadleuaeth ynglyn a'r arferiad sef y naill ardal yn erbyn y llall yn achosi'r pleidiau golli arnynt eu hunain, ac yn lie bod yn llesol y maent yn lladdfa i'r corph a'r meddw], ac y mae amser gwerthfawr yn caei ei dreulio yn ofer, ac y mae yr awydd at foddion gras a di- wyllio'r meddwl yn edwino, mae'r llafur corphorol y fath yn ami fel y rhaid cael rhan fawr o ddydd yr Arglwydd os nad yr oil yn ami i ddadluddedu ac yn ami fel y mae'r gwaetha'r modd, os na byddis wedi cael digon o ymarferiad yn ystod yr wythnos mae'n rhaid treulio'r Sabbath at hyny. Dros ba hyd y goddefir i'r pethau hyn fyned yn mlaen, "a thewi a son." Beth ddisgwylir o'r distawrwydd ? Dywed y gwr doeth Oherwydd na wneir barn yn erbyn gweith- red dclrwg yn fuan, am hyny calon plant dynion sydd yn llawn ynddynt i wneuthur drwg." Ephraim sydd yn ymborthi ar wynt. Ephraim a ymgysylltodd ag eihrnod: gad iddo. Ephraim a ymgymysgodd a'r bobloedd. Estroniaid a fwyty ei gryfder, ac nis gwyr ef: ymdaenodd penwyni ar hyd-ddo, ac nis gwybu efe." Onid oes perygl i ninau fyned yn bell i dir gwrthgiliad heb yn wybod i ni ein hunain. Teimlwn y dylem fel eglwysi lefaru yn groew ar hyn er atal rhwysg y gelyn yn y cyfeiriad hwn, ai nid gormod fyddai i'r rhai nad yw yr arferiad wedi myned yn demtas- iwn iddynt roddi heibio'r dull yma o chwareu yn lie bod yn esiampl i eraill, a throi at rywbeth arall atebai yr un diben, er ymarferiad i'r corph ac adloniant i'r meddwl. Oni addysgir yr egwyddor yma i ni yn yr ysgrythyr sef 11-1 ymwadu a ni ein hunain a chyfodi'r groes." Dywed yr apostol Paul hefyd am dano ei hun os yw bwyta cig yn rhwystro fy mrawd, ni fwytaf fi gig fyth." I'w barhau.

No title

Y mae i bwy bynag sydd a'i fwriad ar fyned i'r cylch priodasol, ddewisiad da o WEDDING CARDS yn Swyddfa'r DRAFOD. Hefyd VISITING CARDS gystal ag y gewch yn y Brif Ddinas, am brisiau yn nghyraedd pawb.

I Crefydd yn 01 yr hen Fugail

Crefydd yn 01 yr hen Fugail. Yn ol yr hen fugail nid ydym bob amser ar y tir iawn gyda golwg ar grefydd. Dyma ddywed ef Mae llawer o bobol fase'n leicio gwneud y peth sy'n iawn yn meddwl mai gwasan- aethu 'r Arglwydd yw gweiddi a bloeddio nes byddan nhw wedi crygu wrth foliannu Ei enw Ef. Nawr mi ddwedaf wrthych chi sut yr wyf fi'n edrych ar hyn yna. Yr wyf fi 'n gweithio i Tomos yma. Nawr pe baswn i'n gwneud dim ond eistedd o gwmpas y ty yma '11 dweyd dyn mor dda yw Tomos, ac yn canu caneuon iddo, ni faswn i ddim yn gwneud y tro i Tomos o gwbl. Ond pan fyddaf yn gerio fy ngheffyl ac yn rhoi fy amser i chwilio a chrwydro yn y bryniau i weld bod popeth yn iawn hefo 'r anifeiliaid, ac nad ydyn nhw ddim yn diodclef o eisio dwr neu fwyd, ac nad oes neb yn eu lladrata nhw, wrth wneud felly mi fyddaf yn gwas- anaethu Tomos fel y mae arno eisio cael ei wasanaethu. A hyn yna ydwyf fi '11 feddwl yw crefydd mae ar Dduw eisio gwasanaeth heblaw moliant." A. H.

Y Gymanfa Ganu

Y Gymanfa Ganu. Br. Golygydd, Wedi gweled eich sylwadau caredig a phwrpasol ar y Gymanfa Ganu gynhaliwyd yn Trelew, teimlwn yn hyf ar golofnau eicli newyddur i wneyd sylwadau pellach arni. Pasiodd ei chyfarfodydd yn Gaiman yn ddymunol iawn, y tonau cynulleidfaol yn myned yn well o gryn dipyn nag yn Nhre- lew. Efallai fod hyn i'w briodoli i fod mwy o ddydclordeb wedi cael ei dalu i'r tonau, gau gynulleidfaoedd y cylch. Yr un peth ellir ddweud am y plant a'u gwaith hwythau. Nawn Sadwrn diweddaf o fis Mai cyfarfu Pwyligor y Gymanfa. Teimlem fod eisieu cadw bywyd yn y symudiad. Pasiwyd ychydig benderfyniadau fel a ganlyn :—Ein bod yn cymeradwyo cofnodion y cwrdd blaenorol. Ein bod yn diolch i bawh ag oedd wedi gwasanaethu ddyddiau y Gy- manfa. Fod y Cadeirydd i ymholi parthed argraphu y rhagleni yn Swyddfa'r DRAFOD ar gyfer y Gymanfa ddyfodol. Fod y gweddill sydd ar law o'r Rhagleni i'w dosbarthu rhwng yr eglwysi canlynol :Esquel, Cwm Hyfryd, a Sarmiento, dan ofal y Parch. Esau Evans, Dalar Evans a David Jenkins. Cyfrif Arianol y Gymanfa. DERBYNIADAU'R FLWYDDYN 1913: Gwerthwyd o Ragleni werth 144.90 Casgliadau ddyddiau'r Gymanfa 54.90 Gweddill arian y tren 1. 50 Capel Gaiman 12.00 $213-3° Dyledus i'r C. M. C. ddechreu y flwyddyn 1913 50.20 Am Ragleni 102.75 Mewn llaw yn yr C. M. C. 60.35 $213.30 *4.

Gohebiaethau

Gohebiaethau. Br. Gol.— Yn eich rhifyn am Mai 23ain, ymddangosodd ysgrif gan y Br. Joze Sanchez yn yr hon ar ol gwyntyllio'n ofalus ryw swm diwerth o chwedlau gwrachaidd, a cheisio profi i'ch darllenwyr mai us oeddynt a yn mlaen i gyflwyno rhifres o gynghorion i drigolion y Diriogaeth a chymeradwya ddioddefgarwch fel rhinwedd anhebgor a lledawgryma'n anuniongyrchol na ddylem fynnu eiu hawliau gwleidyddol, ond rhoi ein holl wasanaeth i'r gwr sy'n dod i'n llywod- raethu ni. Nid wyfyn adwaen Dr. Lamarque, ond yr wyf yn adwaen y Br. Sanchez yn dda a hofifwn wybod ar ba efengyl y mae ef wedi sylfaenu'r athrawiaeth hon, a charwn ofyn ai o bulpud u bara beunyddiol neu oddiar allor cynffoneiddiwch y mae yn ei phregethu. Mae'r wasg o drugaredd yn rhydd i wyntyllio gweithrediadau ac ymddygiadau dynion cyhoeddus yn Argentina, ac mae'n bryd i'r Wladfa ei defnyddio i'r pwrpas hwn w. Dylai'r Br. Sanchez atgofio yr hen ddywed- iad doeth "fod y werin yn cael y llywodraeth- wr fyddont yn haeddu." Mae ein Gwladfa feallai yn un o sefydiiadau mwyaf datblygedig y Weriniaeth, ac yn anaml y cyfarfyddir a'r alillythretiol- yi-na,diolch i ymdrechion diflino a llafur cariad ei sylfaenwyr teyrngarol—ac heblaw hynny y mae yn gymharol lan oddiwrth erchyllderau anfad profa y carcharau a chofnodion y llysoedd barn hyn. Mae gan y Gwladfawyr brofiad chwerw o'u llywodraethwyr yn y gorpheno!. Nid ydym Ilywodraethwyr yii y lor p heiiol. Nid ydytii wedi anghofio eto rai?gweithrediadau brofant na fu rhai o'n rhaglawiad yn deilwng o'n hymddiriedaeth bob amser. Dyma rai cwestiynau sy'n hawlio atebion. Pa fodd y collodd un dyn ei ffarm ar ol llafurio am flynyddoedd i'w thrin ai datblygu ? Ac ynglyn ag achos pwysig y camlesi. Pwy rwystrodd gynrychiolydd y Wladfa fyned i Buenos Aires er mwyn i un arall gael cyfle i fyn'd yno o'i flaen i roi rhwystrau ar y ffordel ? Pwy ofynodd am agoriadau llifddorau em camlesi ac i bwy y bwriedid eu trosglwyddo? Llawer sydd wedi ei ddweyd am Dr. Lamarque a'i weithrecliadau fel Rhaglaw Santa Cruz, ond o bosibl nad yw'r cofnodiad o'r amgylchiadau yn ddigon cyflawn i gyf- reithloni barn derfynol ar ei gymwysterau fel Rhaglaw i ni, ond credwn y dylem gael mwy o sicrwydd parthed ei weithredoedd a'i ymodygiadau yn y gorphenol cyn rhuthro i'w gymeradwyo na'i anghymeradwyo fel un teilwng nac anheilwng o'n hymddiriedaeth a'n gwasanaeth. Mae safon gwareiddiad a datblygiad Argentina yn condemnio defnyddio mesurau fel y rhai ddywedir a ddefnyddiwyd at athraw yn Santa Cruz, ond a ddefnyddiwyd hwy sydd gwestiwn heb ei brofi i ni yma, y mae y naill o hoiiorn yn gwrthdclyweud y llall a dengys hyny nas gallwn draethu barn derfynol. GALENSE. Mr. Golygydd.A fyddwch mor garedig a chaniattau i mi gongl fechan o'r DRAFOD i gyflwyno fy niolchgarvvch am y cydym- deiinlad cynes a ddanghoswyd tuag attom fel teulu yn ystod yr afiechyd diweddar a'm goddiweddodd. Lluaws mawr o gyfeillion ■ fu ar ymvveliad personol a mi. Derbyniais hefyd iythyrau o wahanol fanau, sef oddi- wrth Mr. Daniel R. Evans, Tyddewi, dros Gynhadledd yr Eglwysi Rhyddion a gyn- haliwyd yn y Gaiman, Ebrill I 7eg; Parch. Tudur Evans, dros Pwyligor yr Undeb," a Mr. Llewelyn Williams, dros y Cyfarfod Misol." Derby niais rai llythyrau oddiwrth bersonau unigol, sef Mr. D. Ial Jones a'r Parch. R. R. Jones, Trelew. Gwnaeth Y DRAFOD hefyd sylw caredig o honof, parodd yr oil i mi syndod nid'bychan, am nad oedd- wn erioed wedi dychmygu yn y mesur lleiaf, fy mod wedi gwneud dim yn haeddu unrhyw sylw cyhoeddus; pa un bynag am hyny, diolchaf o galon i'r oil am eu meddyliau da o honof, a'u cydymdeimlad tuag ataf, bu yr oil i mi yn sirioldeb nid bychan, yn eli i'm calon, ac yn gordial i'm hysbryd. WILLIAM E. WILLIAMS.

Trelew

» Trelew. Wythnos i neithiwr cynhaliwyd un o gyf- arfodydd wythnosol "Cymdeithas Camwy Fydd," a chafwyd cynnulliad da a chyfarfod hwyliog. Canwyd yn ystod y cyfarfod gan y Fonesig Cordelia Jones, a'r Bonwr Robert E. Hughes, a chafwyd adroddiad gan y Fonesig Gwladys Jones—gwerthfawrogwyd y canu a'r adrodd ac nid heb achos. Darllenwyd papur ar bleser gan y Br. D. O. Williams ac yr oedd, fel y sylwyd, ol Ilafur ar yr hyn ddarllenwyd. Siaradwyd yn dda ar ei gyn- wys gan y Br. Richard Williams a gwelwyd ar unwaith nad oedd y ddau Williams o'r unrhyw feddwl ynghylch yr hyn sydd yn cyfansoddi pleser, a'r hyn sydd yn cynyrchu rhinwedd. -x- Mewn pwyligor gyuhaliwyd yma dydd Mawrth diweddaf, trefnwyd i gynnal Cyman- fa Bregethu yr Undeb ganol y mis nesaf yn Moriah a Trelew. Ceir y manylion yr wythnos nesaf. Yr wythnos hon gyda'r Mitre cychwynodd y Br. Evan Coslett Thomas ar ymweliad a Chymru. Bwriada ymweled a Canada a'r Unol Dalaethau cyn dod yn ol. Eiddunwn i'r Br. siriol fordaith dawel.

No title

Y ddynes benderfynol ei barn ddywedai ei bod yn casglu cynorthwy at liniaru poen dos- barth neillduol o dlodion, pryd y gofynwyd iddi "A oedd hi'n siwr fod y tlodion rheini, druain, yn dioddef." "Siwr iawn," attebai yn finiog, o ran mi fyddaf yn ymweled a nhw yn feunyddiol ac yn siarad hefo nhw yn eu tai am oriau bob dydd." Barned y darllenydd pwy yw y dioddefydd mwyaf.