Collection Title: Dravod

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 2 of 4 Next Last
Full Screen
7 articles on this page
Peryglon yr Oes

Peryglon yr Oes. Gan WILLIAM E. WILLIAMS. [PARHAD. ] Dymunwn gyfeirio at un peth arall yr ys- tyriwn fod perygl mawr ynddo sef Llen- yddiaeth yr oes." Bendith fawr i'r byd yw y rhyddid ganiateir i'r wasg er goleuo ac arwain yr oes mewn rhinwedd, moes, a chrefydd ond ynglyn a phob peth da mae'r drwg yn dilyn, ac yn dyfod i mewn, fe welir fod rhyddid wedi troi yn benrhyddid, a'r wasg wedi myned igyhoeddi pob math ogynyrch- ion lluaws mawr o honynt nad ellir ell galw ond sothach diwerth, yn wastraff ar amser i'w darllen, ac yn gwenwyno y meddwl, a'i wneud yn hollol ddiarchwaeth at y pur a'r sylweddol, sef y cynyrchion hyny sydd a thuedd ynddynt i ddatblygu, a choethi'r meddwl, ac yn enwedig Gair Duw. Y ffug-chwedlau yw y cyfryw lenyddiaeth ag sydd yn myned a bryd lluaws mawr o'r darllenwyr; sylwer nad ym yn condemnio pob math o ffug-chwedlau, na, credwn fod nifer dda o'r cyfryw a thuedd ynddynt i ddyrchafu moes, a'u bod yn gaffaeliad pwysig mewn amryw ystyron. Dywedir fod y wasg Gym- reig yn bur lan ar y cyfan yn y cyfeiriad hwn, ond fod yr un Seisnig yn bwrw allan nofelau mwyaf gwagsaw a thlodaidd, a thuedd ynddynt i grebachu meddyliau, ac i osod troell naturiaeth yn fflam." Oni ddylem fod yn ofalus iawn pa beth i roddi o flaen meddwl yr ieuanc a'r dibrofiad, y cyfryw nad ydynt eto wedi dyfod i allu gwahaniaethu a barnu cydrhwng pethau a phethau. Dywedir hefyd fod cryn lawer o lyfrau anffyddol, ac eraill sydd yn dilyn yn yr un cyfeiriad, ond yn meddu ar beth gwirionedd yn gymysgedig a'r gau, a hwnw wedi ei osod gerbron mewn arddull lefn a swynol," dichon mai yn y rhai hyn y mae rmvyaf o berygl i'r ieuengc- tyd, yn gymaint ag fod tuedd ynddynt i ddir- mygu'r hen wirioneddau sylfaenol y grefydd Gristionogol. "Wele gwnaethpwyd pob peth yn newydd" ydyw hi gyda hwynt, hen bethau a hen bobl nid ydynt fawr o werth yn eu golwg. Ofnwn fod amseroedd enbyd wrth y drws. Clywsom y dywediad hwnw am y llyffaint yn cael ei adrodd gan yr hen bobl, sef "fod y blwydd yn lladd y ddwyflwydd," mae hyn yn peri i ni ymholi, a yw prophwyd- oliaeth loan yn y Datgllddiad yn dechreucael ei chyflawni, sef "Ac mi a welais dri yspryd aflan tebyg i lyffaint yn dyfod allan o safn y ddraig, ac allan o safn y bwystfil, ac allan o enau y gau brophwyd." Diau mai dvnion a feddylir, dan arweiniad yr yspryd anan, yn dyfod allan o hono, ac oddiwrtho i wrth- wynebu, ac i ddifetha y saint, mewn athraw- iaeth a buchedd. Yn sicr mae'n amser peryglus i eglwys Dduw fyned i hepian, a chysgu ynghanol y fath beryglon. Priodol fyddai sylwi ychydig yn mhellach ar ddyled- swydd yr eglwysi yn ngwyneb hyn. Gelwir arnom i "ymwadu a ni ein hunain, i fod yn bur a diargyhoedd," ac i beidio cyd- ymffurfio a'r byd yn ei arferion. "Ac na chydymffurfiwch a'r byd hwn eithr yrn- newidiwch trwy adnewyddiad eich meddwl, fel y profoch beth yw daionus a chymeradwy, a pherffaith ewyllus Duw. Ac yr wyf yn attolwg i chwi frodyr, adnabod y rhai sydd yn peri anghydfod a rhwystrau yn erbyn yr athrawiaeth a ddysgasoch chwi, a chiliwch oddiwrthynt." Beth yw ein dyledswydd tuag at y byd annuwiol ? Ai gadael iddo redeg ei gwrs yn ei flaen, a ninau dewi a son." Diau nage, byddem felly yn sefyll yn y perygl o dynu arnom anfoddlonrwydd Duw, a chael ein tori ymaith, trwy esgeuluso cyflawni ein dyledswydd. Felly dithau fab dyn, yn wyliedydd y'th roddais i dy Israel; fel y clywech air o'm genau, ac y rhybuddiech hwynt oddiwrthyf fi. Oni leferi di i rybudd- io yr annuwiol o'i ffordd, yr annuwiol hwn a fydd marw yn ei anwiredd, ond ar dy law di y gofynaf ei waed ef." Onid ydym fel gwlad yn agored i farn Duw, yn gymaint ag fod tueddfryd cryf yn yr oes bresenol at wagedd a rhysedd. Ha fab dyn pan becho gwlad i'm herbyn trwy wneuthur camwedd, yna yr estynaf fy llaw arni, a thoraf ffon ei bara hi, ac anfonaf arni newyn, ac a doraf ymaith o honi ddyn, ac anifail." l'w barhau.

No title

Y mae i bwy bynag sydd a'i fwriad ar fyned i'r cylch priodasol, ddewisiad da o WEDDING CARDS yn Swyddfa'r DRAFOD.

Cynyrchion Eisteddfod Trelew II 1909

Cynyrchion Eisteddfod Trelew 1909. Cyhoerldwyd y goreuon yr adeg honno. Erys rhai ysgrifau yn llaw y Beirniad hyd heddyw. Barnwn y bydd y canlynol yn ddyddorol i lawer o'r darllenwyr y dyddiau hyn ac fe 'u dodir un ar y tro pan fo gofod. 1 w I LLYTHYR O'R WLADFA AT GYFAILL MEWN GWLAD DRAMOR." Y Wladta Gvnireig," Tachwedd y 26ain, 1909. by Nghyfaill, Heddyw, cynhaliwn ein Heisteddfod flynyddol yn Nhrelew, a chan edrych ar y cyfryw fel yspeithell, gwnaf fy ngoreu fel gwladfawr, i gilio y niwl oddiwrthi er eich galluogi i weled gogoniant y "Wladfa." iaf.— Y WLADFA FEL GWLAD I FYW YNDDI.- Rhaid ydyw symud ymaith y meddylddrych fod y Wladfa yn gysgod o unrh yw wlad arall, nid ydyw felly; mae'n wlad rydd, vn anni- Ljnol o bob cynorthwy. Mae ynddi ddigon o gyfoeth i ddiwallu pob angen a ddichon ymaflyd yn ei phreswylwyr. Nid ydyw wedi ei gorlenwi a thrigolion nac ychwaith ag uurhyw beth niweidiol, megis prinder tir- oecld, prinder gwaith, &c. Ceir fod mwy o lawer yn cael ei allfori nag a ddygir i mewn. Ceir Ilawer o bethau annymunol yma mae'n wi r, ond rhaid ydyw i lawer o'r cyfryw a'u dioddefa gyfaddef fod yrol) yn troi yn destyn diolchgarwch. 2il FEL LLE I LAFURIO YNDDI.—Prif alwed- igaeth y gwladfawyr ydyw ainaethu a'u prif gynhyrchion ydynt alfalfa a gwenith. Ceir yma hefyd lawer iawn o anifeiliaid gan lawer o'r ainaethwyr ac o ganlyniad ceir fod prin- der gweision yn beth pur gyffredin. Gan fod newydduron yn cael eu cludo yma, yr ydym yn gallu cadw mewn cyffvrdd- iad agos a gwahanol wledvdd tramor. Cawn fod llawer iawn o drueni i'w ;allfod yn y mwyafrif o honynt; prinder tiroedd bwyd- ydd arian, &c., ond am y Wladfa, nid oes y nesaf i ddim o'r cyfryw i'w cael. Yr oedd ymenyn yn brin iawn yma ychydig yn ol; gwartheg (buchod) ddigon i'w canfod, ond ymenyn, we], allan o'r cwestiwn. Tybiaf y byddwch wedi synu fod y fath beth yn bosibl yn ngwlad yr amaethu. Nid ydyw hyny ond peth bach iawn o'i gydmaru a'r gwahanol bethau nad ydynt i'w cael yna. Pa wla-i all ymffrostio yn hyn, sef nad oes o fewn i'w therfynau un nad oes ganddo sicrwydd y bvdd yn sicr o ddigon o gynhaliaeth corph yfory, er iddo fwytta yr oil ag oedd yn y ty heddyw ? YFo-r-fenaf ar unwaith Y Wladfa." Mwy na hyny, os bydd dyn yn myned ymhell oddicartref, nid oes angen iddo betruso rhyw lawer ynghvlch llawer o barotoi i'r daith mae pawb o'r bron wedi dysgu y wers bwysig hono o frawd- garwch." Hysbysir ni yn ami fod yna gyf- raith ar gyfer y cyfoethogion, a chyfraith i'r tlodion hefyd. Nid felly yn y Wladfa, mae pawb yn parchu eu gilydd, a gallaf ysgrifenu oddiar brofiad, dyma wlad gwerth byw ynddi. Soniwch yn ami am eich trydan, eich gwa- hanol beirianau galluoedd cyfleusterau addysg, &c., ond beth ydynt o'u cydbwyso a gwahanol elfenau natur ? Nid ydynt yn ddim. Ysgol oreu y byd, beth ydyw ? YsgoI brofiad. Eto nid yw y Wladfa yn amddifad o lawer o'r manteision geir yna, ceir ynddi ysgolion elfenol, ac hefyd ysgol ganolraddol, ie, a'r ysgolfeistriaid yn y mwyafrif yn wladfawyr. Nid ydyw y trefydd yma yn fawr iawn, nac ychwaith yn lluosog ond nid ydym yn brin o nwyddau er y cwbl, a chredaf pe buasai Prydain Fawr yn cynwys llai o'r hyn a ym- ffrostia ynddynt, sef ei threfydd mawrion, buasai llawer llai o eisieu ynddi heddyw. Beth ydyw canlyniadau byw mewn tref i'r mwyafrif o'r bobl gyffredin ? Byw yn uwch na'r amgylchiadau. Beth ydyw canlyniadau y byw da ? Tlodi. Dyna i chwi beth nas ceir yn y Wladfa, er i ddyn fod yn gwasan- aethu dyn arall, pur ychydig o'r meistriaid sydd yn esgeuluso eu gweision, Beth mae ysgol brofiad wedi ei ddysgu i Brydain Fawr erbyn heddyw ? Ha, gyfaill, tra y bydd dyn yn edrych ar ddyn arall megis anifail, ni cheir heddwch, cariad brawdol, mwynhad o fywyd, &c. Bu raid i'r hen wladfawyr ddioddef llawer, adysgodd y wers yna iddynt barchu eu gilydd, Cas gwr na charo'r wlad a'i mago," ie, ond casach gwr na charo'i frawd. Gwir fod bryniau Gwalia yn feddianol ar dlysni anghyffredin, ond beth ydyw prydferthwch natur i'r aderyn bach sydd wodi ei garcharu, er iddo ei weled trwy y cyfryngau adewir i hyny yn ei garchar ? Dim ond poen hiraethus am ryddhad nad ydyw i'w gael. Yn y Wladfa y ceir y rhyddid, ond yna y ceir y prydferthwch nas gellir ei fwynhau am fod carchar amgylchiadau yn gryfach na'r dymuniadau. Gwir yw nad ydyw y Wladfa yn feddianol ar y prydferthwch geir yna eto i gyd ceir yma rhyw elfen ag sydd megis yr eiddewyn ymblethu o amgylch y dderwen, nisgall dyn gasau y Wladfa mae yr elfen yna yn cydio- ac yn glynu wrtho hyd y bedd. Hawdd ydyw i ddyn ffurfio barn, onide (?). Clywais fod yr hen iaith yn brysur fatw allan yna. Gresyn os ydyw felly, y Wlaclfa yn dal i fyny a Chymru'n tynu i lawr. Hyderaf nad ydyw felly. Dodais fod yr Eisteddfod yn ysbeithell yn un o'r tudalenau blaenaf. Nid oes ond ychydig o'r Ispanaeg yn rhaglen yr wyl. Beth am ragleni Eisteddfodau Cymru ? Llawer iawn o'r iaith ddieithr i'w ganfod, ie, a'i glywed ar y llwyfanau. Peidiwch dweud fod Cymru yn esiampl i'r Wladfa yn hyn o beth. Un o'r pethau pwysicafwelir trwy yr yspeith- ell ydyw, fod ymdrech neillduol yn cael ei wneud er hyrwyddo yr hen iaith yn yr hon y ceir mwynhad gwirioneddol. Os na cheir tro buan, bydd y gair nid yn "Cymru Fydd," ond "Cymru Fu" a'r Wladfa Sydd. Hyderaf na fydd i'r ychydig hyn eich gwneuthur yn ansefydlog, ond yn hytrach G lawer, greu mwy o awyddfryd tanllyd y Cymro i ymdaflu eich hunan yn llwyr i lafurio a gwasanaethu eich cyd-genedl; a gwneud eich goreu er hyrwyddo yr Hen Iaith Gym- raeg yn ei phrydferthwch a'i thlysni. Terfynaf gyda'r cofion goreu attoch, Eich cyfaill, CARACTACUS."

0 Y Gymanfa Ganu

-0. Y Gymanfa Ganu. Gyda phob dyledus barch i'r emyn-don a'r salm-don nid ydynt ar y goreu ond cyfryngau cul i ddiwylliant gerddorol gyflawn. Nid yw dadblygiad cerddorul Cymru yn bosibl ar wahan i'r Cymanfaoedd. Tuedcla'r Eistedd- fod o flwyddyn i flwyddyn i fyned yn fwy clasurol. Y cantorion detholedig wasanaeth- ant yno, ond yn y Gymanfa y gwelir y werin ar ei goreu yn rhoddi mvnegiant o'i galluoedd cerddorol. Y bobl gyffredin fydd yma yn canu-plant y gweithwyr. Ie, yn wir, y gweithwyr, eu gwragedd, a'u plant yw asgwrm. cefn y Gymanfa yn Nghymru. Iechyd i ben a chalon dyn yw sylwi ar hyn. A phwy all fesur gwerth moesol a chrefyddol sefydliad fel hwn sydd yn gallu dal y miloedd pobil ieuainc ar ddydd gwyl i ganu mawl i'r Gor- uchaf. Goreu i gyd pa gyntaf y bydd i ar- weinwyr crefyddol y genedl sylwi ar hyn, ac ymdrechu cefnogi mwy ar y Cymanfaoedd Canu fel sefydiiadau crefyddol. -0 Tariany Gweithiwr.

Ysgoldy Lie Cul

Ysgoldy Lie Cul. Nos Wener, Mehefin 13eg, cynhaliwyd Cwrdd Amrywiaethol yn y lie uchod. Y cadeirydd ydoedd y Br. James Rowlands, ac arweiniwyd gan y Br. Griffith N. Jones. Aed drwy y rhaglen ganlynol :—Can gan y Br. W. O. Evans; anerchiad gan y Cadeir- ydd deuawd gan Mair ac Aeron Griffiths adroddiad gan Willie J. Owens adroddiad gan Miss Nellie Williams deuawd gan y Br. William Evans a'i gyfaill; Cystadleuaeth y llythyren, goreu Willie John Owens a Elfed Rowlands can gan y Br. Griffith N. Jones adroddiad gan Miss Lizzie Evans; can gan y Br. James Rowlands; cystadleuaeth areithio heb enwi y testyn, goreu y Br. John Owen can gan Mrs. Pritchard adroddiad gan Miss Rachel Jones can gan y Br. W. O. Evans; can gan y Br. Griffith N. Jones; adroddiad gan y Br. Lemuel Roberts can gan y Br. Edward J. Evans. Diweddwyd cwrdd da trwy i'r Br. Lewis A. Jones ganu Hen Wlad fy Nhadau."

I Priodi

——— ——— Priodi. Dydd Mercher diweddaf yn nghartrefy briodasferch, unwyd mewn glan briodas Miss Marion M. Thomas, Castell Twan, a Mr. Domingo Errecaborde. Ceir y manylion yr wythnos nesaf.

Advertising

VISITING CARDS gystal ag' y gewch yn y Brif Ddinas, am brisiau yn ng-hyraedd pawb yn Swyddfa'r DRAFOD.