Collection Title: Dravod

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

Image 1 of 4 Next Last
Full Screen
6 articles on this page
Pwyllgor Eglwysi Rhyddion y Wladfa

Pwyllgor Eglwysi Rhyddion y Wladfa. Cyfarfu y Pwyllgor uchod yn y Gaiman nawn Iau diweddaf, Gorph. 24ain, pryd yr oedd y cynrychiolwyr canlyaol yn bresenol Parchn. J. C. Evans, D. D. Walters, Tudur Evans, R. R. Jones, Bethesda a'r brodyr W. T. Griffiths, Rhydderch Iwan, Tair Helygen David Davies a G. N. Jones, Tir Halen D. F. Davies, Nazareth Daniel R. Evans, Edward Morgan, Evan Williams, Treorci. Gofynwyd am fendith ac arweiniad yr Ysbryd Glan gan y brawd W. T. Griffiths yna penderfynwyd a ganlyn i. Fod y Gynhadledd nesaf i'w chynal yn Ebenezer a Bethel, Tir Halen, a'r pwyllgor lleol I drefnu. 2. Siaradwyd gyda dwyster am y golled gafodd yr 'undeb drwy farwolaeth sydyn y blaenor a'r cynrychiolydd flyddlawn Br. R. E. Jones (Otro), a phasiwyd ein bod i ddan- fon llythyrau o gydymdeimlad a'i deulu, ac feglwys Sion, Bryn Gwyn. 3. Datgan ein llawenydd o ddeall fod y ddeiseb i leihau y diotai yn prysur gael ei arwyddo gan bawb yn gyftredinol. 4. Ein bod yn galw sylw yr Eglwysi all fod irlewn angen Beiblau a Thestamentau, fod cyflawnder o'r cyfryw i'w cael ar werth gan gynrychiolwr y Feibl Gymdeithas Am- ericanaidd, Parch. D. D. Walters. 5. Darllenwyd y llythyrau dderbyniodd y Br. D. R. Evans, oddiwrth y ddwy Gym- deithas Feiblaidd, sef y Brydeinig a'r Am- ericanaidd yna penderfynwyd fod casgliad- au y Wladfa tuagat y Feibl Gymdeithas i gael eu rhanu eleni eto rhwng y Gymdeithas Feiblaidd Brydeinig a'r Gymdeithas Feibl- aidd Americanaidd. 6. Ein bod yn ystyried rhoddi Ilythyrau cymeradwyaeth i bersonau teilwng yn rhan o waith y pwyllgor hwn, er i hyny gael ei anghymeradwyo gan "Cwrdd Misol y Meth- odistiaid." 7. Ceisio gan Gyfarwyddwyr y C.M.C., fod garediced a chaniatau i bob hysbysiad yn nglyn a'r Feibl Gymdeithas, gael ym- ddangos yn y DRAFOD yn ddi dal.-Dros y Pwyllgor, TUDUR EVANS.

Cynhadledd Bobl euamcI

————— ? ?———— Cynhadledd Bobl !euamc. I Dymunwn gydnabod yn ddiolchgar ysgrif Arthur Llwyd yn y DRAFOD ddiweddaf ar y mater uchod. Dymunol hefyd yw canfod fod y naill a'r Hall o'r rhai sydd wedi ysgrifenu ar y Gyn- hadledd yn unfryd, unfarn, fod gwir angen am rhyw gyfrwng i'n deffro a'n symbylu i fwy o weithgarwch. Yr un pryd ofna Arthur Llwyd na fydd y "Gynhadledd," os ceir un, yn foddion i'n symbylu-na fydd iddi ateb y dyben mewn golwg "am fod y porth yn rhy glrl," ac hyd y gallaf gasglu, y porth cul hwnw yw yr Eglwys, oblegid gofyna 'Arthur Llwyd,' "Tybed fod yr Eglwys yn cynrychioli ardal ? ac ychwan- ega, Ofnaf nad yw." A chaniattau yr hyn ddywed "Arthur Llwyd," sef, fod Ilawer yn cefnu ar yr Eglwys y dyddiau hyn, rhaid hefyd ganiattau nad oes unrhyw gymdeithas yn ngwahanol ardaloedd y Wladfa sydd yn cynrychioli yr ardaloedd hyny yn well na'r Eglwys, ac felly naturiol yw gofyn i'r gymdeithas gryfaf o ran rhif, siallu, moes a chrefydd, am gyn- rychiolwyr i'r Gynhadledd. Anhawdd rhoddi cychwyniad i unrhyw symudiad ond trwy gyfrwng neu gyfryngau, a thybiwyd nas gellid cael gwell cyfrwng 1: a'r Eglwys yn yr achos hwn. Credaf y bydd y Gynhadledd yn rhyddd i bawb-" i undodwr fel y trindodwr" i'r Iuddew a'r Groegwr, i'r caeth a'r rhydd, i bobl ieuainc o bob gradd a chredo, a chrefydd—y mae crefydd yn reddfol, Nid oes genedl heb grefydd." Eto fel y dywedwyd dro yn ol, gwaith y Gynhadledd fydd gwneud ei threfniadau ei hun, ac mor bell ag y mae ein teimlad personol yn myned, da, a da iawn, fyddai genym weled dynion ieuainc yn rhoddi eu presenoldeb yn y Gynhadledd er iddynt fod wedi troi cefn ar yr Eglwys, neu wedi coleddu syniadau moesol, a duwinyddol, gwahanol i'r hyn elwir yn syniadau uniawn- gred. Nid yw "Arthur Llwyd," gallwn dybio, yn cydsynio a'r gwahoddiad roddwyd i'r gweinidogion i gyfarfod cynrychiolwyr o'r Eglwysi er ffurfio y "pwyllgor gweithiol." Ei gwestiwn yw, Ond paham y gwahodd- wyd y gweinidogion, a dim ond hwy ? Ni wahoddwyd y gweinidogion heb ymgynghor- iad a rhai o ddynion ieuainc mwyaf galluog a dysgedig y Wladfa. A phwy ond y gweinidogion ddylai arwain gyda symudiad- au cymdeithasol, a chrefyddol ? Ni fuasai genyf unrhyw wrthwynebiad i wahodd eraill yn ogystal a'r gweinidogion, yn wir yr wyf yn gobeithio y bydd i'r gynhadledd ddewis eraill ag sydd yn sicr o fod o gynorthwy a dylanwad er llwyddiant y gynhadledd. GaUaf sicrhau Arthur Llwyd" fod yr hyn sydd wedi ei awgrymu cyn hyn ynglyn a'r gynhadledd yn codi oddiar awydd mawr amryw i lesoli pobl ieuainc y Wladfa, a chan fod "Arthur Llwyd" yn credu fod "gwir angen rhywbeth amom ni ieuengctid y Wladfa, rhywbeth i ddeffro'r meddwl, a chreu ymchwil am wybodaeth,—rhywbeth a'n galluoga i ymryddhau oddiwrth y inater- ol, hyd y mae tnodd, a'n codi i fyny i fyd y meddwl," credwn ninnau mai y cynllun sydd wedi ei awgrymu sef cael Cynhadledd, yw y goreu, hyd nes ceir ei well, i gyrhaedd yr hyn y mae rhyw syched am dano yn ein plith. Os nad yw ffurfiad y "pwyllgor gweithiol" yn dderbyniol gan bawb, bydd gan y Gynhadledd awdurdod i ail drefnu y pwyllgor neu i wneud i ffwrdd a'r pwyllgor yn gyfangwbl; ond anhawdd rhoddi cych- wyn i'r symudiad heb gael nifer o bersonau fel cynrychiolwyr i drefnu ar gyfer y Gyn- hadledd gyntaf. Disgwyliwn y bydd i "Arthur Llwyd" fod yn gefnogwr mewn gair a gweithred i'r Gynhadledd a'i gweith- rediadau.

TrelewI

Trelew. Nos Iau, yr wythnos ddiweddaf, cyrhaedd- wyd diwedd haner cyntaf Rhaglen Cym- deithas Ddiwylliadol Camwy Fydd," a chlywid y rhai oeddynt bresenol yn dyweud wedi'r cyfarfod mai da oedd bod yno. Fel yr awgrymwyd yr wythnos ddiweddaf mater yr ymdrafodaeth oedd Etifeddeg a Cylchynion." Cafwyd syniadau clir a chryf- ion o blaid y naill a'r ]]all. Agorwyd y ddadl a chauwyd hi i fyny, am y cyfarfod hwnw, gan y Br. D. Ial Jones, ac nid oes eisiau dyweud iddo wneud y naill a'r llall yn fedrus a chymedrol. Cymerwyd rhan fedrus yn y ddadl gan y Bwyr. Harri Rpberts, John Howel Jones, Richard Williams, Ben Lewis, D. 0. Williams, R. E. Jones, Edward Jones, a'r Llywydd. Hefyd cafwyd chwareuad ar y crwth gan y Br. Ben Lewis, yr hyn oedd dderbyniol iawn. Gellid canfod yn gynwys y sylwadau ar Etifeddeg a "Cylchynion" fod y siarad- wyr wedi darllen yn eang a meddwl yn ddwys, y naill er ceisio profi mai "Cylch- ynion" sydd fwyaf eu dylanwad ar fywyd, a'r llall er ceisio dangos fod Etifeddeg yn dylauwadu yn gryfach na "Cylchynion yn ffurfiad cymeriad. Yr oedd y ddwy ochr mewn ysbryd rhag- orol-ysbryd ymchwilgar am wirionedd ac yn cydnabod yr anhawsderau i gadw Eti- feddeg a "Cylchynion ar wahan. Buaswn yn rhoddi crynhodeb o syniadau y naill ochr a'r llall onibae fod arnaf ofn gwneud cam a hwynt. Pwy wna roddi ysgrif ar y materion hyn yn y DRAFOD ? &46

Marwolaethau Sydyn

Marwolaethau Sydyn. Y mae cynnifer o farwolaethau sydyn mewn amser mor fyr—ychydig wythnosau, yn destun sylw a siarad ac ymholi pa beth all fod yr achos o honynt. Ond ymddengys mai nid yn y Wladfa yn unig y cymer hyn le ond hefyd yn Nghymru. Fel hyn y dywed un o Gym- ru: Y mae y flwyddyn eleni yn nodedig am farwolaethau sydyn, ac nid oes odid un papur newydd a ddaw i'n dwylaw nad oes cofnodiad am farwolaeth sydyn." Cymerant le yma yn mhlith y naill genedl fel y llall, ac o fewn yr ychydig fisoedd diweddaf y mae nifer lied fawr wedi eu symud yn hynod ddirybudd. A oes modd tybed, osgoi hyn ? Gwyddom fod modd bod yn barod-yn yr awr ni thybioch y daw Mab y Dyn. —

Cymry yn yr Andes

Cymry yn yr Andes. JIWBILI YR YMSEFYDLWYR. "Y mae Jiwbili yr ymsefydlwyr Cymreig yn Patagonia i gael ei ddathlu yn 1915, trwy agor neuadd goffadwriaethol yn Trelew, yn Nyffryn Chubut. Y mae y defnyddiau ad- eiladu eisoes wedi eu hanfon yno o Brydain, Y mae cyfarfodydd diolchgarwch am y cynhauaf wedi eu cynnal yn Nyffryn Chubut am y cynhauaf toreithiog gaed yno. Gwerth- odd un ffermwr dros ddwy dunell o afalau o'i berllan, pa un oedd heb fod dros hanner acer o led. Gwnaed casgliadau tuagat y Gymdeithas Feiblaidd Brydeinig ac Americanaidd yn eglwysi Bryn Crwn, Bethel (Tir Halen), Gaiman, Treorci, Tair Helygen, Nazareth, ac Ebenezer, Dyffryn Chubut. Mewn rhai pethau y mae yr ymsefydlwyr yno yn fwy Cymreig hyd yn oed na'r Cymry yn yr Hen Wlad. Y mae Dr. Mihangel ap Iwan, mab y diweddar Barch. Michael Jones, Bala, wedi bod yn gwasanaethu yn Buenos Aires er's oddeutu ugain mlynedd, ac y mae yn awr yn cynnyg nifer o fan ddaliadau yn Cwm Hyfryd, a cheir yr hysbyslen yn Gymraeg. Y mae y fferinydd oddeutu 60 o aceri, a chynnygir hwy am oddeutu 2oop yr un. Y mae y ffordd haiarn i gael ei hestyn i Nant y Pysgod, gyda changen i dref Esquel. Yn mhellach i fyny yr Andes, yn 'CWIT1 Cut,' ceir arwyddion o ddadblygiadau hefyd. Ceir capel newydd yn y Cwm, gyda'r Parch. Es?u Fvans, gweimdog Annibynol, yn gwein- idogaethu. Ceir cyfarfodydd pregethu yno yn rheolaidd, yn ogystal a chyfarfodydd llenyddol, ac ysgol gân.O'r Faner. +

No title

Pe buasai cerbydres yn cychwyn am yr haulyn y flwyddyn hon (1913), ac yn myned yn ol.tri deg milldir yr awr, ni fuasai yn cyraedd yno hydg dri chant a phum deg a dau o flynyddoedd/buasai hyny yn y flwydd- yn 2265. ,K2sa ■■ Yr ochr oreu i gysgu yw y dde, oherwydd inai ar y.chwith y mae yr afu.