Collection Title: Dravod

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

Image 1 of 4 Next Last
Full Screen
4 articles on this page
Pwyllgor Eglwysi Rhyddion y Wladfa

Pwyllgor Eglwysi Rhyddion y Wladfa. Dan y penawd uchod yn y DRAFOD ddi- weddaf ceir y penderfyniad catilynol:- Ein bod yn ystyried rhoddi llythyrau cyrn- eradwyaeth i bersonau teilwng yn rhau o waith y pwyllgor hwn, er i hyny gael ei anghymeradwyo gau Cwrdd Misol y Meth- odistiaid." Yn ei ysgrif olaf yn y DRAFOD, fel hyn y dywed y diweddar Br. R. E. Jones (Otro) am y Pwyllgor uchod,—" Y mae y Pwyllgor yn penderfynu pethau yn hollol ddifeddwl o'u pwysigrwydd." Yr oedd gan y Pwyllgor feddwl uchel o farn y Br. R. E. Jones (Otro), oblegid datganodd ei golled ar ei ol yn y geiriau hyn :—" Siaradwyd gyda dwysteram y golled gafodd yr undeb drwy farwolaeth sydyn y blaenora'r cynrychiolydd ffyddlawn Br. R. E. Jones (Otro)." Credu yn gryf yr oedd ef fod y Pwyllgor wedi gwneud cam- gymeriad, ac nid oes neb yn ameu nad oedd ef yn gywir yn ei farn. Pwy glywodd son am Bwyllgor Eglwysi Rhyddion mewn unrhyw wlad arall yn dweud fod rhoddi llythyrau cymeradwyaeth i bersonau teilwng yn rhan o'i waith ? Ai aelodau Eglwysig yn gyffredinol neu bregethwyr yn neillduol olygir wrth "bersonau teilwng"? Os aelod- au Eglwysig yn gyffredinol y mae Pwyll- gor yr Undeb" yn cymeryd hawliau yr Eglwysi oddiarnynt. Ond os y pregethwyr olygir wrth "bersonau teilwng" y mae y pwyllgor yn cymeryd hawliau Eglwysi Anibynol ac Anenwadol oddiarnynt yn ogystal ag hawl y Cyfarfod Misol. Onid y rheol gyda'r Anibynwyr a'r Eg- lwysi Anenwadol yw fod pregethwyr i gael papur cymeradwyaeth gan yr Eglwys y mae yn aelod o honi ? Pa Bwyllgor Eglwysi Rhyddion—heblaiv un y Wladfa-fuasai yn rhoddi llythyr cym- eradwyaeth i bregethwr heb iddo yn gyntaf gael llythyr cymeradwyaeth gan ei Eglwys ei hun? Heblaw hyny, Pa Eglwys neu enwad fuasai yn derbyu pregethwr yn aelod o honynt.yn Nghymru heb fod ganddo Iythyr oddiwrth yr enwad y perthynai iddo ? Peth arall y dylid rhoddi ystyriaeth iddo yw hwn Pa un ai y gymdeithas y mae un yn aelod o honi ai y gymdeithas nad yw yn aelod o honi sydd i benderfynu "teilyngdod personau i gael papur cymeradwyaeth ? Gan fod yr ateb ar y wyneb gwelir fod Pwyllgor yr Eglwysi Rhyddion wedi troseddu rheol ac arferiad cymdeithas. Y rnae'n amlwg fod y "Pwyllgor" yn ceisio cymeryd iddo ei hun yr hyn berthyn i'r Eglwysi, ac felly yn anwybyddu eu hawliau. Gwnaed yr un peth yn hollol gyda'r crecio hwnw dro yn ol—gwneud peth na freudd- wydiodd Pwyllgor Eglwysi Rhyddion un- rhyw wlad arall erioed am dano. Beth tybed fydd barn Pwyllgorau Eglwysi Rhydd- ion yr hen wlad am benderfyniad Pwyllgor Eglwysi Rhyddion y Wladfa ynglyn a'u hawl i roddi llythyr cymeradwyaeth i ber- sonau teilwng er i'r Eglwys beidio rhoddi un ? Dyma farn y "Darian" o dan y penawd CYFFES FFYDD PATAGONIA. "Gofyna "Pryderus" farn deg a phwyllog gohebwyr y Darian" ar Gyffes Ffydd Eglwysi Rhyddion Patagonia. Mewn difrif, y mae yn anhawdd iawn bod yn bwyllog uwchben y fath fater. Mae gweithrediadau ceidwadol yr Eglwysi hyn yn ddigon i beri i ddyn feddwl mai rhan fawr o'u gwaith ydyw erlid rhyddid allan o'r byd." Dylid anfon i'r Darian" i ddweud mai nid yr Eglwysi sydd yn geidwadol nac yn gyfrifol ond y Pwyllgor. Y mae y Wladfa yn cael cam. Y mae yr un mor anhawdd bod yn bwyll- og uwchben penderfyniad diweddaf y Pwyll- gor ynglyn a chymeryd hawliau yr Eglwysi oddiarnynt—fel y dywed y Darian y mae gweithrediadau ceidwadol yr Eglwysi hyn yn ddigon i beri i ddyn, &c. Pan ddywedwyd wrth y rhai oedd tu cefn i'r credo rhyfedd hwnw fod gan y Meth- odistiaid Gredo eisoes, yr ateb roddwyd oedd, mai credo i'r Anibynwyr a'r Eglwysi Anenwadol ydoedd. Pwyllgor Eglwysi Rhyddion yn myned at y gwaith o wneud Credo i'r Anibynwyr! Pwy glywodd am y fath beth o'r blaen ? Dyma eto waith i'r Darian a newydduron eraill Cymru, sef, clorianu gwaith y Pwyll- gor yn ystyried fod rhoddi llythyrau cym- eradwyaeth i bersonau teilwng yn rhan o'i waith, ie, cofier, pan nad yw yr Eglwys y mae un yn aelod o honi wedi rhoddi llythyr iddo fel pregethwr. Onid gwaith yr House of Lords yn myned a hawliau yr House of Commons oddiarno yw hyn? Gwyddom beth wnaed i'r House of Lords, a dylai Pwyllgor Eglwysi Rhyddion y Wladfa gym- eryd rhybudd mewn pryd. Gwell i ni feirniadu ein gilydd na bod yn destun beirn- iadaeth a chondemniad yr hen wlad. I ba beth y chwareuir gyda phethau mor gysegredig ? Trwy benderfyniadau fel y rhai yr ydym wedi cyfeirio atynt, a phethau eraill cyffelyb, yr ydym yn gyflym golli ein gafael ar ein pobl ieuainc mwyaf craff a dysgedig, y rnaent yn ddigon cryf eu ham- gyffredion i weled trwy weithrediadau per- sonau, a chollwn hefyd gydymdeimlad Eg- Iwysi Cymru perthynol i bob enwad. Os oes rhywun yn ameu, anfoner y penderfyn- iadau ynglyn a'r "Credo" ac ynglyn a llyth- yr cymeradwyaeth i bregethwr i gael barn unrhyw enwad, neu unrhyw Bwyligor Eg- lwysi Rhyddion, arnynt yn Gymru.

Gohebiaethau

Gohebiaethau. LLYTHYR AGORED AT ARTHUR LLWYD. Wyddost ti beth Arthur? Parodd darllen dy lythyr yn Y DRAFOD cyn y ddiweddaf gryn lawer o hyfrydwch i mi, gan dy fod fel un o wyr ieuanc y Wladfa yn teimlo cymaint o ddyddordeb yn y symudiad daionus sydd ar gael ei gychwyn, sef" Cyohadledd y Bobl Ieuainc," da genyf ddeall dy fod yn cydnabod gyda pharch amcanion rhagorol y brodyr sydd wrth wraidd y symudiad. Eto carwn yn fawr roddi gair bach o gynghor i ti. Yr wyf yn meddwl dy fod yn ddigon gostyng- edig i'w dderbyn, yn gymaint a'th fod yn honi y gostyngeiddrwydd mwyaf wrth lunio dy stori allan. Mae yn dy ysgrif rai ymad- roddion y carwn wneud sylw o honynt, er peri i ti fod yn fwy gwyliadwrus yn y dyfodol wrth gyfeirio at dy gyd-ddynion, ond y mae yn hawdd maddeu i ti dy gamgymeriadau, gan mai ieuanc a dibrofiad wyt, a bod ambell i air yn llithro trwodd megis yn ddiarwybod, er dy fod yn ymddangos fel hen law a'r gwaith. Y mae dy waiih yn cyfeirio at ein gweinidogion gyda phob parch, ac ar yr un anadl megis, yn dyweud fod "rhai (o honynt) yn dda, a rhai yn ddrwg." I mi y mae brawddeg fel yna yn ymddangos yn ymad- rodd caled, brwnt, ac anghristionogol, yn gymaint a dy fod yn cyfeirio at gylch bychan o'r brodyr, y mae brotia bod yn bersonol, saith o weinidogion on ide. Mae yn rhaid a chymeryd y cyfrif lleiaf fod dau o honynt yn ddrwg, a'r gweddill yn dda, gobeithiaf glywed dy fod wedi "edifarhau mewn sach lian a Iludw," am beth fel hyn, cofia'r gorchymyn, Na chabla y swyddogion ac na felldithia benaeth dy bobl." Yr oeddwn yn meddwl ar ddechreu dy lythyr, dy fod yn lied ffyddiog gyda golwg a'r symudiad, ond dyma ti yn dechreu troi ar dy sawdl yn y fan, ac yn hel bwganod, ac yn ofni na ddaw hi ddim. Dyma rai cwestiynau a ofyni: "Paham eglwysi'r Wladfa mwy nag ardaloedd ?" Paham gweinidogion y Wladfa, a dim ond hwy ?" Onid yw'r ddau gwestiwn yn gwrth- ddyweud eu gilydd. Ac yn enw pob rheswm pa dramgwydd mae eglwysi'r Wladfa, a'r gweinidogion wedi ei wneud i ti, a ydynt yn hollol anghymwys i'r gwaith, neu a wyt a dy lygaid ar rhywun cymhwysach, a barnu oddiwrth yr hyn a awgrymi, fod y rhai sydd wedi cefnu ar eglwysi'r Wladfa, gam nes ymlaen. Yr eglwysi wedi myned yn rhy fall i'r cyfryw aros ynddynt. Mi fydda i yn tueddu i feddwl am rai fel yna mai yr elfen Phariseaidd sydd yn mynu gwthio ei hun i'r golwg, dynion yn tybied eu hunain yn well na phawb eraill. Eto dywedi, "Deuwch ataf fi, bawb," meddai Prophwyd mawr Pal- estina." Paid byth Arthur Llwyd, a darnio brawddegau yr Ysgrythyr i ateb dy bwrpas dy hun, pe buaset yn dyfynu'r frawddeg yn gyflawn buaset yn gweled ar unwaith pa ddosbarth wahoddir gan Prophwyd mawr Palestina," onid y rhai "bliuderog a llwyth- og" a wahoddir ganddo, rhai yn teimlo beichiau eu pechodau, ond er ymdrechu, yn methu ymddiosg oddi wrthynt. Oni rydd Ef nerth i'r diffygiol, a chryfder i'r dirym." A all yr amheuwr gonest" fyned ato tra yn y sefyllfa yna o ran ei feddwl ? na all, am nad yw yn credu ynddo. Onid dyma nod- wedd y rhai oil fyn yr Athraw mawr, es- mwythau eu beichiau, a'u dolurian, sef y "blinderog a llwythog ?" Dyna un peth arall nad wyf yn ei gymeradwyo, sef dy waith yn rhoddi clipau i'r credwr wrth basio. Wel di, beth bynagam anwybodaeth unrhyw un sydd yn credu yn Nghrist Iesu, bydded ef mor ddistadl ag y bo, mae yn llawer pellach yn mlaen o ran ei gyflwr, nag unrhyw Un- doclwr a'r amheuwr mwyaf gonest. Credaf na ddigi wrthyf am ychydig eiriau plaen fel hyn, yr wyf yn caru dy les. Paid byth a hel bwganod, a dechreu ofni, a hyny cyn i'r "Gynhadledd" gychwyn, welais i erioed ddaioni o'r bobl hyny sydd byth a hefyd yn ofni a grwmblian, wna nhw fawr ddaioui i unrhyw gymdeithas, mae'r Beibl genyf yn dyst, ti wyddost hanes Gideon, iddo ef oddiar gyfarwyddyd Dwyfol, roddi can- iatad i'r oil o'r rhai ofnus ymadael a'r fyddin, a'r canlyniad fu i 22,000 gymeryd mantais o'r cyfle. Felly cynghoraf dithau i ymwroli, ac ymdaflu a'th holl egni, i gydweithio a'r bobl sydd a'u calon yn y gwaith, ti a'u cei yn llawer gwell dynion o bosibl, nag oeddit wedi meddwl am danynt, a dywed wrth dy gyd-ieuengctyd, "deuwch gyda ni, a gwnawn ddaioni i chwi." 'RHEN FFARMWR. 4044,

AT MISS EVA SPANKHURST GYNT JONES

AT MISS EVA (SPANKHURST GYNT) JONES Diwygio, pwyllo, os bellach-hyn wneir O'r oeraidd ftau afiach, F'anwyl, down ninnau'n fwynach Ein dau, ac i ysbryd iach. Cewch gusan bur, gysur-iach—wir afiaith, Ni phrofwyd anwylach; Hi ddychwel, y fin-fel fach, I ni bwyll-a thawn bellach I A. H.

CYHUDDIADAU YN ERBYN U S A

CYHUDDIADAU YN ERBYN U. S. A. Y mae agwedd yr Unol Dalaethau Gogledd America tuag at Mexico yn peri gryn bryder i rai, ond gwrthoda Syr Edward Gray a gwneud unrhyw nodiad ar yr anghydfod. Dywed cynrychiolwyr y gwahanol wledydd fod yn ofynol i'r Llywodraeth yn Washington naill ai cydnabod yr un yn Mexico, neu gym- eryd ycyfrifoldeb am gyflwr pethau y 11 Mexico.