Collection Title: Dravod

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 3 of 8 Next Last
Full Screen
4 articles on this page
YR UNDEB EFENGYLAIDD

YR UNDEB EFENGYLAIDD, Er pan sylfaenwyd yr Undeb Efengyl- aidd" y mae blynyddoedd lawer wedi myned heibio, ac wrth edrych dros enwau y personau oedd yn i lawr garreg sylfaen yr Undeb Efengylaidd, a chanfod eu bod yn hufen meddwl, dysgeidiaeth, a chrefydd, pedwar enwad a'" bymtheg, ac wrth ddarllen eu gwelthiali clasurol a di- winyddol —■ gweithiau safonol — rhcsymt >1 oedd disgvçyl i'w gwaith yn sylfaenu yr "Undeb ddwyn ffrwyth ar eiganted trwy roddi meddwl y gwahanol envvadau isymud yn gyffreclino1 i'r un cyfeiriad, ac y mae wedi symud mor gyfiym nes y mae cri yn codi am Uno'r Enwadau. Pan gododd cynrychiolwyr pob enwad eu llaw dros y "Golygiadau Crefyddol," cod- odd Dr. Raffles i alw arnynt i foliannu yr Arglwydd am ei ddaioni; a phrin iawn caiff y blaenor y blaen," nad yw yr holl gynnulleidfa yn cydganu o un galon Praise God from whom all blessings flow; Praise Him all creatures here below, Praise Him above, ye heavenly host, Praise Father, Son, and Holy Ghost." Buasai yn hyfrydwch gan Eglwysi y Wladfa gael eistedd wrth draed yr enwog- ion sylfaenodd yr Undeb Efengylaidd i wrandaw arnynt yn traethu eu syniadau yn erbyn Unffurfiaeth ac o blaid Undpb ac i osgoi "Unffurfiaeth" ac i sylfaenu "Undeb" y ffurfiwyd ac y derbyniwyd gan yr holl gynnadledd y Golygiadau Efengylaidd. Pe byddai i'r Golygiadau Efeng-ylaidd arwain i Unffurfiaeth, awgrymai hyny fod y Gynnadledd wedi camgymeryd sylfaen Unffurfiaeth am syifaen Undeb Y mae coleddu y fath syniad am foment yn wrthun i'r neb sydd yn gwybod rhywbeth am y personau ffurfiodd y Golygiadau Efengyl- aidd. Gadewch i ni weled eto pwy ydynt: Dr. Candlish, Dr. Cunningham, Dr. Newton, Dr. Cox, Dr. Wardlaw, Dr. Raffles, Dr. Brown, Dr. Symington, Dr. Smyth ac eraill. Dyna i chwi gewri y gvvahanol enwadau fu'n fiurfio y G >lygiadau Efengylaidd, ac y mae pob enwad wedi datg'an eu cymerad- wyaeth i'r "Golygiadau Efengylaidd" fel sylfaen yr Undeb. Fel hyn y dywed un or rhai oedd yn y Gynnadledd y cyfeiriwn attl,-Dano-osir yn yr Ysgrythyr ygall yr athrawiaethau mwy- af peryglus gael eu dwyn i mewn dan ym- ddangosiad crefyddol; a gorchymynir i ni gilio oddiwrth y rhai sydd yn eu dysgu. Ond halogedig ofer-sain, gochel canvs cynyddu wnant i fwy o annuwiol leb. A'u hymadrodd hwy a ysa fel cancr: ac o'r cyf- ryw rai y mae Hvmeneus a Philetus. Eithr gochel ynfyd ac annysgedig gwestiynau, gan wybod eu bod yn magu ymrysonau.2 Tim. ii, 16, 17, 23. "Achanddynt rith duwioldeb, eithr wedi gwadu ei grym hi a'r rhai hyn gochel di. Eithr megis y safodd Jan nes a Jambres yn erbyn Moses, felly y mae y rhai hyn hefyd yn sefyll yn erbyn y gwirionedd dynion o feddwl llygredig, yn anghymeradwy o ran y ffydd.2 Tim. iii, 5, 8. "Eithr bu gau-brophwydi hefyd yn mhlith y bobl, megis ag y bydd gau-athrawon yn eich plith chwithau; y rhai yn ddirgel a ddygaut i mewn heresiau dinystriol, a chan wadu yr Arglwydd, yr hwn a'u prynodrl hwynt, ydynt yn tynu arnynt eu hunain ddinystr buan. 2 Petr ii, i. Fe wel y darllenydd nad ydym ond yn cyflwyno i'w sylw safle y dysgawdwyr, fu'n ffurflo y Goly-ladau Efengylaidd; yn ngolwg y byd safant yn y rheng flaenaf fel dysg- awdwyr, llenorion, a duwiolion; ac y mae pob enwad wedi cymeradwyo eu gwaith, ac nid oes cymaint ag un enwad wedi ei an- nghymeradwyo hyd y dydd hwn Os oes gan ein darllenwyr, neu yn fwy manwl yr eglwysi, eisiau gwybodaeth hel- aethach ar y mater hwn bydded iddynt ddarllen sylwadau Dr. Davies (Anibynwr), Dr. T. Rees, Swansea. (Anibynwr), a Dr. Edwards, Bala, (Methodist), a Dr. Abel Parry (Bedyddiwr). Y mae Pwyllgor yr Undeb yn y Wladfa yn eu cyflwyno i sylw yr Eglwysi, a chredaf nad oes gan ddim un o aelodau y Pwyllgor eisiau i gymaint ag un o'r eglwysi dderbyn y G- Jygiadau Efeng-ylaldd yn groes i'w chydwybod. Amcan y Pwyllgor yw gwneud lies i'r eglwysi trwy fabwysiadu yr hyn sydd wedi gwneud lies yn y gorphenol yn ol tystiol- aeth yr enwogion uchod. Goddefed ein darllenwyr i ni ddyweud nad ydym am gymeryd unrhyw sylw o ys- grifau sydd yn dwyn camdystiolaeth am bersonau ac am enwadau.

IGEIRWIREDD

I GEIRWIREDD. "Pohl anrhydeddus yw "y rhai ni driywed- ant gelwydd." Cymer oddiwrthyf ffordd y celwydd," meddai Dafydd, a diau y gvvyddai ef fod geirwiredd yn Ilwybr ysblenydd i an- rhydedd. Er fod y ffordd hon yn arw a chwmpasog gan anhawsderau, &c., y mae yn ddiogel. Cospau trymion ddisgynant ar gel- wyddwr darostyngir ef i'r llwch ac yno yr erys. Y mae Gehazi, Ananias a Saphira, yn nghyd a Ruth Pierce (o Devizes, swydd Wilts), y rhai a fwriwyd yn gelaneddau meirw gan Dduw, yn engreifftiau o ddigtei Duw at y celwycldwr. Ffieiddir anwiredd gan bob clyn rhesymo! am mai darostwng a dinystrio a wna; a chywir yw desgrifiad Daniel Ddu o hono "Colyn v D 1 yw celwydd-gwenwynig Wyn anwar aflonydd Gvr ar ei faith daith drwy'r dydd Eneidiau yn annedwydd." Nid oes un cymeriad yn fwy iselivael na'r dyn nas gellir credu ei air ac o'r tu arall, nid oes yr un dyn mwy anrhydeddus yn y wlad na'r dvn y gellir credu ei air yn ogystal a'i lw."—(Trwy law NEFYDD).

I DYNION GALLUOG MEWN GWEDDI

DYNION GALLUOG MEWN GWEDDI. Gweddiai Wesley ddwy awr y dydd, ar adegau fwy. Yr oedd muriau ystafell John Fletcher wedi ei "staenio" gydag anadliadau ei weddiau, gweddiau weithieu drwy'r nos. Dywedodd Luther,—" Pe buaswn yn ffaelu gweddio am ddwy awr bob boreu, buasai y diafol yn siwr o gael goruchafiaeth arnaf cyn v nos." Penderfynodd Esgob Ashbury godi o'i wely am 4 yn y boreu, mor amled ag y medrai, i weddio a myfyrio. Samuel Ruth- erford a godai o'i wely am dri o'r gloch y boreu i gyfarfod a Duw mewn gweddi. Rt. Murray a McCheyne a weddient am ddwy awr bob boreu. John Welch a dreuliau wyth neu ddeg awr bob dydd mewn gweddi; dy- wedai os na weddiai ei fod yn gweld y di- wrnod yn un gwael. Yr oedd y sanctaidd Payson wedi treulio olion pen ei liniau ar y planciau celyd y gweddiau arnynt, gan mor ami a hir y gweddiau. Dr. Adoniram Judson a dreuliai amryw oriau yn y dydd mewn gweddi, a bu y gwedcliau hyny o'i eiddo yn offeryn i gychwyn y grefydd Gristionogol yn Burtnah. Teimlodd Christmas Evans werth a nerth gweddi, trwy ba un yr oedd wedi gweld nerth yr un Dwyfol, sef yr Ysbryd Glan. Ac amryw eraill sydd yn dystiolaeth- au byw o effeithiolrvvydd gweddi. {Crynhodeb gan N. H. CADVAN).

ITameidiau gan Hwn ar Hall

I Tameidiau gan Hwn a'r Hall. A ydyw parch i'r hen a'r profiadol wedi yrnado o'n plith ? Yr ydym yn adgofio y cyfnod pan fyddem yn coledd rhyw barch ac edmygedd tuag at y sawl fyddent wedi bod yn llafurio am flynyddau cyn ein geni. Teimlem ryw wylder yn eu gwyddfod—yn wir, teimlem ein hunain yn fychain, ac yn eiddil iawn. Hwy .wedi cyflawni gwaith mawr, a ninnau yn dechreu agor ein llygaid ar fyd llenyddiaeth. Ond, hyd y gallwn farnu, y mae'r sawl sydd ne^vydd ddodd allan o'r "plisgyn," yn y cytuod fiwn, yn teimlo en hunain yn ogyfuvvch ag unrhyw lenor neu fardd o fewn yr holl w lad." -0- Sefvdlodd Dr. Barnado gartrefi i blant anghenus ac aniddifaid, ac er mwyn eu disgyblu a'u cyinhwyso i droi allan i'r byd, ae i ddj fod yn ddinasyddion da a lIw.\ dd- ianus. Er pan v dechreuodd ar ei waith dyngarol yn 1816 hyd Fedi 30, 1907, y mae 64,4.13 o blant digart efwerli cael nodded ac adciysg ac ym-eledd tymhorol ac ysbrydol yn y cartrefi hyn." "Mae Ceredigion yn un o siroedd amlycaf CYlliru am fagu enwogion. A pha ardal yn y Sir honllo a ragola ar Dalybont yn y cyfeiriad yma. U11 o feibion enwog Talybont vw y Parch. D. Adams, B.A. (Hawen), Lerpwl, yr hwn a anwyd viio ragor na 60 mlynedd yn ol (erbyn-hyn 67 mlynedd yn ol), ac yno hefyd fel ei dad, y diweddar Mr. John Adams, y dechreuodd bregethu. -0- Felllenor a bardd, y mae ei fuddugol- iaethau yn llu ac anrhydeddus. Nid oedd ennill cadeiriau Maldwyn ac Abermaw, a Choron Eisteddfod Treg iron, ond ei baratoi i dderbyn llavvryfon pwysicach yr Eisteddfod Genedlaethol, megis y Goron am ei Arwr- gerdd ar Ii Cromwell"; y ^30 a'r Tlws Aur gwerth Z5, am ei draethavvd ar Heg >1 y £ \o am ei draethavvd ar Foeseo, &c; a banner y wobr o £ 4.0 am ei draethawd ar Ddadblvgiad," pryd yr ydoedd yn gydradd a'r Prifathraw, Parch E. Griffith Jones B.A." -0- Dywedodd Jowet" Gwelais hedyn dair mil o flynyddoedd o oed, yn dechreu tarddu ar ol ei vvlvchu a dwfr cynes. Gwelais enaid oedd yn vmddangos yn farw yn bywhau ar ol y dracht cyntaf o Ddwfr y Bywyd." -0- Gofynwch bethau mawr gan Dduw. Disgwylivvch bethau mawr trwy Dduw. Mentrwch bethau mawr tros Dduw." -0- "Gwobr am wneyd un ddyledswydd yw nerth at wneyd un arall." --0- Rhaid cael dewrder moesol cryf i wneyd y pethau mawr hyny a eilvv y byd yn bethau bychain." -0- Y dyn nad yw yn gwneyd dim yw y dyn nad yw yn gwneyd camgymeriad." -0- "Y rhai a lafuriasant trwy fwyaf o anhaws- derau yw y rhai a wnaethant fwyafyn mhob oes, a'r rhai a fethasant yn ol pob ymddangos- iad ar y pryd, yw y rhai a fu yn fwyaf llwyddiannus." -0- "Nid ydym yn deall fod beirdd llawer rhagorach yn awr yn fyw mewn un rhan o'r byd nag sydd yn Nghymru Bydded iddynt gadw eu golwg ar gedyrn yr hen oesoedd, y rhai y mae llifeiriant amser wedi methu eu hysgubo ymaith na'u gorchuddio." -0- "Yr elfen gyntaf sydd yn anhebgorol mewn barddoniaeth yw bywyd. Dyma sydd yn gwneyd caniadau Homer mor swynol: nid oes ynddynt ond ychydig o'r hyn a feddylir yn y dyddiau hyn wrth y gair "arddunawl ond y maent oil yn llawn bywyd." -0- "Yr oedd llawer o flaen Dewi Wyn wedi gweled y dyn tlawd yn Dwyn ei geiniog dan gwynaw Rhoi anghen un rhwng y naw" and fe deimlodd Dewi wrth ei weled, nes y rhedodd ei deimlad allan yn ffrwd agerddol o farddoniaeih mor nerthol a dim yn yr iaith Gymraeg." -0- Os bydd dyn yn medclu "llygad i weled anian, calon i deimlo anian a dewrder igyd- fyned ag anian," y mae yn rhwym o fod i ryw fesur yn fardd, pa un a fydd ef ei hun yn deall hyny ai peidio."