Collection Title: Dravod

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 2 of 8 Next Last
Full Screen
3 articles on this page
Dyttryn y Cdmwy

Dyttryn y Cdmwy. Hanes y Wladfa Gymreig, ei dechreu, ei datblygiad a'i dyfodol, a thraethiad amI ymgyrch a thaith i baith Patagonia. Gan LLWYD AP IWAN. 1, [PARHAD.] 11 Rhagtyr 20, 1893.-Ai- ol dweyd Adios" wrth Coyla a'i deulu lluosog, aethom tua phebyll Kiltsamal y Cacique a gyduabyddid gan Indiaid y gym'dogaeth hon, oeddynt o ran gwaed yn gvmysg o Tewelchiad, Aran- caniaid a Pampas. Yr oedd v pebdI rhyw chwe' miHdir i'r gogledd-ddwvrain ar was- tadedd Gcrhtsr. Pan gyrhaeddasom, vn siomedig i ui, nid oedd yn bresenol ond pedwar o'r dynion, merched oedd y gwedd- ill, yr oedd y dynion wedi mvned allan i hela. Yr oedd Mircelo, brawd Kiltsamal gartref, yr oedd wedi cvfarfod a damwain, ac o'r herwydd nis gallai fyned i hela. Yn enw ei frawd fe'n gwahoid i ddvfod oddiar gefn ein cefMau i yfed mati, yn y babell rho Idwyd clustogau i ni eistedd arnvnt. Yn y babell yr oedd Mrs. Kiltsamal a'i baban, a phedair neu bump o chwiorydd Marcelo vno yn gwtiio crwvn, vr oeddvnt ni ddigon glan eu gulwg, ac er vng nghanol eu prvsurdeb yn gwneud y quillangos vr oedd ganddynt foment feuuydd i wneud llvgad main i gvf- eiriad y dyn dieithr Yr oedd mam Mircelo yn un o ferched Anah o ran maint, nid oedd ganddi ond un llygad, ac un hanner i'w gwyneb wedi ei lapio mewn cadach ddigon budr ei olwg. Yr oe id puma wedi rhwygo yr hanner yma o'i gwyueb pan oe id hi allan un tro yn casglu coed tan. Aethom ar gefn ein ceffvlau eilwaith a theithiwyd i'r gogledd-orllewin am ddeng milldir hyd babell un Nicool, Indiad oedd wedi bod rhai blyuvddau* vng ngwasanaeth fy nghymdeithiwr. Ar o' bod yno am awr yn holi, aethom tua toldo Pedro Platero oedd filldir i fyny'r afon i'r E.N.E. VIIO gwelwyrl farchnadwr o'r enw Adtollio Steinfield gvd- a'i wagen a'i nwyddau i werthu i'r Indiairi. Pasiwvd y nos vn ei gwmni ef. Austrian oedd Hern Steinfield, dyn peniog ac wedi cael ysgol dda. Un trogwnaeth drip hvd at yr afon Santa Cruz, ar hyd godrau y Cordi lleras. Cangen o'r Sengner oedd yr afon ar Ian pa un y gwersvllern yn awr, a gelwir hi yn gyffredin yr Afon Sych, am ei bod weithiau yn sychu. Rhagfyr 21.—Dvchwelasom ar hyd lan yr Afon Svch hyd babell Nicool, ac o'r fan hon cyfeiriasom ein camrau i fwlch yn y gad well greigiog i'r gogledd-orllewin, tu hwnt i'r creigiau hyn gorweddai dyffryn afon y Sengner. Ar ol teithio pedair llech wele ni ar lan orllewinol vr afon, ac ar ol ei ddilvn i fyny an: ddwy lech yn rl-iagor, cyrtiaeddisom lyn Fontana. Yr oedd y rhan yma o ddyffryn y Sengner yn lied borfaog. Arch- wiliwyd yr holl wiad hon yn 1885-6 gan fin- tai J. M. Thomas a'r Rhaglaw Fontana, sef y wiad sydd yn gorwedd rhwng vr afon Cam- wy yn lledred 42° 30' S. hyd yr afon Sengner yn lledred 45° S., a hyd i'r tro yn yr afon Sengner yn agos i Ivii Coluapi sydd yn cyrhaedd hvd 46° S. Darganfvddodd v fintai honno y llyn hwn a'r llvn La Plata, llvn tu hwnt iddo sydd ym mherfeddion v mynyddoedd. Y mae llvn Fontana a'r gvrn- 'dogaeth yn un o'r golvgfeydd mwyaftaraw- iadol welir yn un man. Y mae y llvn o ddeutu pymtheng milldir o hvd a phedair o led yn y man lletaf, ac yspardyn o dir vn claddu ym mhell i'w ddyfroedd yn ei ben dwyreiniol. Amgvlchir ef gan fvnvddoedd ordoir gan goedwigoedd, yr uchaf o ba un ydyw Pico Katterfeldt ar yr ochr rideheuol. Gwaethaf y modd y mae v ddaear o'i gvJch wedi ei ridyllu gan y tucwtuco (Clenomvs Magellonica) i'r fath raddau nes gwneud teithio ar geffvl yn waith anhawdd a blin i'r anifeiliaid, a'u llenwi ac ofn parhaus. Rhagfyr 22.-Aeth y ceffylau ar ddisperod ond darganfyddwyd hwy wedi crwvdro hyd lan yr afon, lie vr oeddynt mewn porfa fras. Darganfvddwyd aur a mwnau eraill yn y gym'dogaeth hon o'r blaen, ac ar hvd y Sengner. Gwelsom ni hefyd ei liw mewn rhai golchiadau. Wedi cael digon ar arch- wilio, aethom yn groes i'r bryniau a gwer- syllwyd dros nos. Nid oeddym yn unig, daeth cadno coch o t'ewn ycfiydig latheiii at ein tan yn cael ei atdynu gan weddillion ein pryd bwyd. Nid oedd ergydion yllawddryll vi-i eiddyetirynu, o'r diwedd tarwyd ef yn ysgafn gan fwled a dihangodd i'r tywyllwch. Rhagfyr 23.—Teithiasom i gyfeiriad de- heuol gan gadw troed yr Andes ar ein Haw ride, a'r gwastadeddau ar ein chwith, ac yn cyfeirio tua bwlch oedd ym mhen gorllewin- ol y bryniau o'n blaen, ac a groeswyd gen- uym y dydd blaenorol. Tu hwnt i'r bwlch yma gwelsom wastattir ryfeddol braf, ac afon yn rhedeg drwyddo i'r dwyrain hvd draed y gadwen fryniog a nod- wyd, yna troiai yr afon yn ol i'r gorllewin trwy ddyffryn ffrwythlawn Goyet. Torai yr afon Goyet trwy gadwen o'r Andes, ac yn ol stori vr lndiairl yno casglai canghenau eraill, a ffurfiai yr afon Avsen, yr hon vmarllwysa i'r Tawelfor oddeutu lledred 45Q 20' S. Yr oedd y Br. J. M. Thomas wedi bod y ffordd hon vm misoedd \'r haf, a chawsant dywydd oer rvfeddol, yr oeddym ni yn cael tywydd campus i deithio. Ar lan vr afon yr oedd pabell, aethom tuag ati, a buan yr oeddym yn clebran ac yn mwynhau caredigrwydd dau Frodor adna- hyddai fy nahvmdeithiwr yn dda. Etlw un oedd Wenselao a'r llall Marcelo Yr oedd y cvntaf yn adnabod vr holl wlad hyd Santa Cruz, felly penderfvnwyd ei ddefnyddio fel arweinvdd i archwilio rhanau mewnol yr Andes i'r de o'r fun hon. Rhagfyr 24.—Yr oedd yn ddiwrnod tesog a braf odiaeth, ac yn lie dychwelyd i'r "Campamento general," eymerasom bob ei geffvl a ffwdd a ni i archwilio y gym'dog- aeth hon. Yr oedd dwfr i'w gael ym mhob cvfciriad, i'r gogledd yr oedd llvn bychan, a chyn i'r afon Goyet droi yn ol o'r dyffryn vr oedd cangen fawr yn ymuno a hi redai o'r de ddwyreiniol, ac un arall yn ol hanes y Brod- orion ddelai or gogledd-orllewin. Yr oedd coed gwasgaredig dros yr holl wlad a helwr- iaeth ddigonedd. Yr oedd yr Indiairl wedi bod allan vn hela ac wedi dychwelvd ac amrvw o estrysod tewion. Yr oedd Wence- lao vn berchen ar gi carw (staghound) rhag- orol dda, brid nas gwelir yn Patagonia, ond v dosbarth ci goreu ellid gael i'r paith yd\'w. Rhagfyr 25. —Ar ol cytuno a Wencelao i fod yn arweinvdd i ni i'r de ym mhen diwrnod neu ddau, cychwynodd T. Davies a minnau i gyfeiriad y Campamento gene- ral." Yr oedd y wlad o'n blaen yn glir o fanwydd, ond yn doredig iawn y ffordd y teithiem. Vn agos i blanhigfa fechan o goed ar ochr bryn, wele garw coch neu huemnl. Rhyfedd iawn ydyw arferion yr anifail gwyllt hwn. Ar dir agored, os ar gefn ceffyl, gellir weith- iau fyned o fewn hanner cant lIath atynt. Nid oes frys artiyiit redeg o'r golwg, os na glvwant swn neu deimlo arogl yr heliwr. Bryd arall, y maent yn ryfeddol o swil a tjwvllt. ac yn ymgolli yn y cysgodion mewn moment. Eu lliw ydyw coch tywyll, ac y mae gan v bwch gyrn canghenog. Y mae eu cig fel rheol yn fras a brau. Pan y gwelant bob! am y tro cyntaf y maent vt sefyll eu tir yn svnfyfvriol hyd yn oed wedi eu' taro gan fwled. Gwelais daro anifail fel hvn ddwy waith ac hyd yn oed dair gwaith cyn iddo symud, a phan yn paratoi i saethu y bedwaredd ergyd, syrth- iodd yr anifail i lawr yn farw, heb i ni oddi- draw gael arwydd fod vr anifail wedi ei daro gan fwled o gwbl. Os deuir ar draws gyrr svdd yn cynnwys o bedwar i wyth o geirw, dvlesid vn gVlltaf saethu y fyn hynaf vn y ddeadell, y mae y gweddill yn lie dianc yn sefyll a svnfyfvrio. Wedi teithio oddeutu chwech llech daeth- nm i dir porfaog, a chan fod y prydnawn yn hwyrhau, penderfvnwyd gwersyllu o dan dwinpath unig ar lan nant fechan, a dyma y modd y treuliwyd ein Dydd Nadolig. Wedi lleffetheirio y gaseg a rhwymo y mul wrth v twmpath, gwnaethom ein gwel- vau rhyw chwe' Hath i ffwrdd. Rhoddwyd y eig wrth ben ein gwelyau a'r eer ar dop v cig, yna eisteddasom i lawr i fwvta ein ciniaw Nadolig. Wedi gorphen bwyta a chlirio'r llestri, golchi y platiau a'r sospon (saucepan), aed i dotian mati. Tra yn sipian y gwyrdd, dywedai bob un ei stori ues teimlo yn gysglyd, ac i'n gwelyau a ni. Yr oeddwn wedi bod yn cysgu am rai or- iau pan y deffrowd fi gan ffroen chwythiad- au y mul. Codais mewn moment, a gwelais yug ngoleuni y Hoer yr anifail yn tynu neith crwmp ar y rhaff oedd yn ei gylymu wrth y twmpath. Camais ym mlaen er gweled a oedd y rhaff wedi ei rhwymo yn ddigon sicr. Pan yn myned ym mlaen neidiodd puma o'r twmpath yn groes i'r nant a safodd yn y gwellt rhyw ddeuddeng llath oddiwrthym, gan gadw fy llygad ar y puma, dynesais ar ei ol tuag at Tom, rhoddais gic iddo ilw ddeffro a gofyn am fy nryll. Nid oedd yn bosibl argyhoeddi Tom fod yno puma yn y fan, ac yr oeddwn inau yn anmharod i dynu fy llygad oddiar y dywalgi rhag ei golii o'm golwg yn hollol. OCr diwedd estynodd fy nghydymaith y dryll i mi, a chan nad oedd digon o oleuni i anelu yn deg, codais ei ffroen tua'r lleuad, a gostyngais ef yn araf tua'r corph tywyll oedd yn y glaswellt o'm blaen, y funud y taniais gyda gwawch a naid i'r awyr glaniodd y glew yn y nant. Pan wisgais fy nillad a rhoi ergyd arall yn y dryll, aethum i edrych am dano, a dvna He y b-tili-n am ddwy awr yn chwilota. Wedi tor- iad y wawr gwelsom ef i fyny y nant yn amcanu ymlusgo i'r geulan, ond yr oedd ei hanner ol wedi ei barlysu, gan fod y fwled wedi myned trwy ei feingefn. Ergyd o'm Ilawddryll trwy ei benglog or- phenodd y gwaith, a llusgwyd y sgerbwd i'r gwersvll. Pan welodd y mul ef, aeth i dym- her wyllt, brathai a chiciai yr ysgerbwd nes oedd yn rhybedio. (Ilw barhau.) —————— .4 ——————

Llain neu Dewi Llwyd

Llain neu Dewi Llwyd. Ymledu wnelo'r llain Heb rwyg yn nghais y Hew Am gynyg i Lloyd George Y fath anrhydedd tew Pob Cymro'n ddewr ei ysbryd, cwyd I gadw gwyl i Dewi Llwyd. Yr hen arferiad ffol 0, aed yn awr i bant, chadwer gwyl bob blwydd I George lie Dewi Sant: Y Cymry'n anrhydeddus gwyd I gynal gwyl i Dewi Llwyd. Hawddamor it' Lloyd George, Hoff arwr Prydain Fawr, Dy glodydd sydd ar led Pob cwr o'r byd yn awr A miloedd draw o'r Ffrancod gwyd I gadw gwyl i Dewi Llwyd. Er Ilygad-dynu'n hir Y Cymry ar ei ol, Na rodder mwy ddim cred I hen draddodiad ffol: Ni fu, nid oes, a byth nichwyd, 0, rhoer ei dydd i Dewi Llwyd. 'Does eisieu chwilio mwy Am gelloedd cudd y sant; Mae Lloyd yn amlvvg wr Trwy'r byd ar fryn a phant: Poh gwaraidd wlad ei llais a gwyd Roi'r cynta o Fawrth i Dewi Llwyd. Wei, brysiwn, rhoddwn barch I'r cawr o Walia Wen Hoff garwr rhyddid pur Pob gwlad o dan y neu Er mynd i'r bedd ei hanes gwyd Am oesau'r byd am Dewi Llwyd. R. C. EVANS (Carnofardd). Ovando, Mont. t

Colledion Prydeinig

Colledion Prydeinig. Diwedd mis Tachwedd diweddaf yn Nhy y Cyffredin, rhoddwyd y cyfrif canlynol o'r colledion Prydeinig Swyddogion. Milwyr eraill. Lladdwyd 37,876 620,828 Clwyfwyd 92,644 1,939,478 Ar goll. 12,094 347,051 142,634 2,907,357 Cyfanswm 3,049,991