Collection Title: Udgorn

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 3 of 4 Next Last
Full Screen
18 articles on this page
Advertising

AT Y CYHOBDO. DYMUNA MRS. WALIS THOMAS WNEUD YN HYSBYS FOD Y Gr W ALIA H OTE L, fu dan ADGYWEIRIADAU HELAETH yn ddiweddar, WEDI CAEL m HAIL-AGOR FEL Y uWALIA RESTAURANT, Pastry Cook & Confectionery Establishment. Dymun.n Mrs. Walis Thomas hefyd ddiolch i'r Cyhoedd yn gyffredinol am y gefnogaeth a gafodd yn y gorffenol, gan hyderu y caiff barhad o'r cytryw eto yn y dyfodol, a sicrha y bydd iddi wneud yroll yn ei gallu i deilyngu'r gefnogaeth. Spring Cleaning. Mae Glanweithdra yn anbebgorol angenrheidiol i iechyd. Y MAE William Parry, PAINTER, PWLLHELI, Yn cynyg BARGEINION DIGYFFELYB mewn pob math o Bapyr Papuro Tai o'r patrymau diweddaraf o lid. y pisyn i fynu. Mi!oedd c batrymau i ddewis o honynt. Mae yn rhaid eu clirio gan ei tod yn eangu ei fasnachdy. Hefyd pob math o Baent, Varnish, Gwydrau, Brushes, yr oil o'r quality goreu am y prisiau iselaf. Deuwch yn llu, ond peidiwch dod i gyd gyda eich gilydd. Cofiwch y Cyfeiriad :—Win. Parry, 6a, Gaol Street, Pwllheli. Yr unig oruchwyliwr yn Pwllheli a'r cylch tros HALL'S WASHABLE DISTEMPER. Attendance Notice, 1 Attendance Notice, Bydd Mr. Ranleigh Jones, L.D.S., R.C.S. (Edi.), SURGEON DENTIST, yn ymweled a Pwllheli bob DY DD MERCHER, yn aros gyda Mr. BOWEN, Groeer, High Street,; oily boreu dan 4 y prydnawn.

1 PWLLHELI

.1 PWLLHELI. CYHOEDDIADAU SABBOTHOL-Gorfl'. 12.1 Penlan (A.), am 10 a 6, Parch. J. Rhydderch, y Gweinidog. Capel Seisnig (A.) Cardiff Road, am 11 a 6-301 Parch E. M. Williams, Bolton. PenmouDt (M.C.), am 10 a 6, Parch. Simos G. Evans, B.A., B. D., Pwllheli. Salem (M.C.), am 10 a 6, Parch. R. W. Jones, M.A Bethesda. Capel Seisnig (M.C.) Ala Road, am 10 a 6, Parch D. J. Evans, B A., Pontygwaith. Taberuacl (B.), am 10 a 6, Parch D. M. Davies, B A., Bolton. Seion (W.), am 10. Cyfarfod Gweddi; am 6, Parch R. C. Humphreys, Llanbedrog, Hen Gapel y Bedyddwyr North Street, am 2, yagol. Yegol Genhadol (M.C.), Sand Street, am 10 a 6, Parch W. O. Roberts, Pistyll. Y&gol Genhadol North Street (A.), am 2, Ysgol. South Beach (M.C.), am 2 a 6, Parch. Hugh Jones Caernarfon. Tarsia (M.C.) am 10 a. 6, Parch Hugh Jones, Caernarfon. St. Pedr. 9.30 a 6 (Cymraeg), 11 a 6 (Seisnig) Parch J. Edwards, B.A., Ficer, a'r Parch T. Woodings, B.A., Curad. Cenhitdaeth Lydewig North Street, R.G., am 10-30, Offeren Sanctaidd, am 2, Ysgol am 6-30 Pregeth Gymraeg gan y Parch P, Merour, benedicsiwn. SIARAD AR ULSTER.—Nos Fawrth diweddaf bu Mr. Hatherley Jones yn anerch torf ar y Maes ar gwestiwn Ulster. Gofynwyd amryw gwestiynau iddo, ac yr oedd yno gyfartod bywiog a hwyliog iawn. Y TIRIOGAETHWYR.—Bu rhai o'r Tir- iogaethwyr lleol yn Mhenygroes ddydd Sadwra yn cymeryd rhan ar yr achlysur o agoriad y neuadd newydd yno at wasanaeth y 6ed Fataliwn o'r Royal Welsh Fusiliers. C y W i P, I A D.—Yn ein hadroddiad 0, weithrediadau Bwrdd y Gwarcheidwaid yn ein rhifyn diweddaf dywedasom i i Mr Samuel Roberts, Abererch, wrth-i wynebu y cynygiad i ostwng yr oed a; chodi'r tal ynglyn a blwydd-dal yr hen. J Cefnogi'r cynygiad wnaeth Mr Roberts. < LLONGYFARCH. Mae'n dda genym gael llongyfarch Undeb Corawl y Dref, a'u harweinydd Mr Norman McLeod, A.R.C.M., ar eu datganiad rhagorol yn Ngwyl Harlech yr wythnos ddiwedd- af. Cawsant gymeradwyaeth fyddarol gan y dorf fawr, a buasai raid iddynt ail ganu pe bae amser yn caniatau. Deallwn fod y cor yn bwriadu cynal cyngerdd yn ystod mis Hydref, a sicr genym y cant y gefnogaeth a haeddant. 0 Bwys I EISTEDDFODWYR.-Mae'n bwysig i'r oll fwriadant gystadlu yn Eisteddfod y Gwyr Ieuainc, a gynhelir Wyl y Banc, Awst 3ydd, gofio y rhaid i'r holl gyfansoddiadau fod yn llaw eu priodol feirniaid, a'r gelfyddydwaith yn Haw yr ysgritenydd, erbyn y i8fed o'r mis hwn. Hefyd mae enwau'r ymgeis- wyr ar y gerddoriaeth a'r adrodd i fod yn llaw'r ysgritenydd ar neu cyn y 25ain. YN DOD.-Deallwn fod y cyfeillion yn Tarsis wedi sicrhau gwasanaeth Cwmni Drama Caerdydd (sydd wedi ei ddewis fel un o'r ddau Gwmni goreu yn Nghymru i ymddangos ar lwyfan yr Eisteddfod Genediaethol ddechreu mis ,Medi) i berfformio yn Neuadd y Dref nos Fawrth, Medi yr 8fed. Teitl y ddrama yw Asgre Lan." Diameu genym y bydd y neuadd dan ei sang, gan fod canmoliaeth uchel i'r cwmni. MARWOLAETH.Gyda gofid dwys y coinodwn farwolaeth Mrs. Florence Masterman Edwards, anwyl briod y Parch. J. Edwards, ficer Eglwys St. Pedr, yr hyn gymerodd le am haner awr wedi chwech nos Sadwrn diweddaf, a hi'n 42 mlwydd oed. Dioddefodd Mrs. Edwards gystudd maith a llym iawn. Bu o dan weithred law-feddygol oddeutu blwyddyn a haner yn of, ond ofcr fu pob triniaeth a gofal. Yr oedd yn foneddiges nodedig o gymeradwy. Cleddir yn mynwent Bassaleg, New- port, Mynwy, yforu (ddydd MerCher)'11 Cynhelir gwasanaeth yn Eglwys St Pedr am bump o'r gloch y bore, pryd y cymerir rhan yn y gwasaoaeth gan y Parch. David Jones. B. A., ficer Aber- erch y Parch. T. Sheppard Jones. ficer Llannor, a'r Parch. T. Woodings, ciwrad. Wedi hyny angladd cyhoedd- /tro. ro A.. us If kirsat-y cor yn eu gwenwisg- oedd yn arwain yr orymdaith. Pasiwyd pleidlais o gydymrieimlad a Mr Edwards yn ei brofedigaeth lem gan bob eglwys yn y dref nos Sul. --0--

IUVYNCKOESI

IUVYNCKOES. I MARW. — Chwith iawn genym gofnodi marwolaeth Mrs. Catherine Roberts, Tywyn, a hi wedi treulio dros bedwar ugain o flynyddau yn mro ei genedig- aeth. Mae rhyw wagder mawr anes- grifiadwy i'w deimlo ar yr aelwyd heb yr hen fam aowyl, bur, a gonest, bob amser yn gwarchod gartref yn dda. j Wrth edrych ar ei chadair wag daw dagrau gloewon hiraeth i lygaid y syllydd, mor hoff oadd ganddi adrodd hanesion am yr hen amser gynt. Yr oedd ganddi gof dihafal, a dawn i drosglwyddo ei drysorau tel y mor. Carai yr hen "style" yn augerddol. Yr oedd cadeinid a gwreiddioldeb ei meddwl yn ei gwneyd yn un o farn anibynol, a gallai wynebu gelyn yn aiddgar a llym Yr oedd yn gyfeilles bur, ac ni thrafferthai i foddio undyn er mwyn budd. Y mae hiraeth dwfn yn mynwes yr ardal ar ei hol. Gad- awodd deulu lluosog i alaru eu colled. Mab iddi ydyw Mr. D. Roberts, Tyn- ryn, sydd yn wybyddus trwy'r wlad fel un sydd yn cario masnach eang. Heb- ryngwyd ei gweddillion gan dorf luosog iawn prydnawn Gwener, Mehefin 26ain, i fynwent Bryncroes. Gwasanaethwyd gan y Parchn. J. Williams, a Lodwig Davies.

ICEIDIO

I CEIDIO. MARW A CHLADDU.—Cafodd yr ardal dawel hon ei thaflu i gryn dristwch yn ddiweddar, a hyny oherwydd marwol- aeth sydyn Mr Harry Williams, Meill- ionen, yr hyn a gymerodd le fore lau, Mehefin 25am, ac efe yn 47 mlwydd oed Yr oedd yn meddu ar nodweddion deniadol iawn yn ei fywyd, a bu ei farw, fel ei oes ddilychwin, yn dangnefeddus iddo. Daliodd amryw swyddi yn ei ddydd yn nghapel Peniel, a dewiswyd ef yn ddiweddar yn flaenor yno. Dydd Mawrth dilynol (angladd anghyhoedd) cludwyd yr hyn oedd farwol o hono i orffwys i gladdfa'r teulu yn mynwent St. Ceidio. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch. E. T. Evans, ac yn yr Eglwys gan y Parch. J. Daniels, M. A. Gedy mewn galar ar ei ol fam oedranus, brawd, chwaer, a llu o berthynasau o bell ac agos, a'r rhai y mae ein cyd- ymdeimlad dyfnaf.

ILLAN BEDROG

LLAN BEDROG. Ddydd Sadwrn diweddaf ymunodd nifer o gyfeillion y lie uchod, a rhai yra- welwyr gyda hwy, am bleserdaith gyda cherbyd modur Abersoch. Cychwyn- wyd yn y boreu i gyfeiriad Beddgelert, ac wedi aros yno ychydig amser teith- iwyd i gyfeiriad Penygwryd ar hyd llethr y mynydd, lie y ceir un o'r gol- ygfeydd harddaf welodd llygaid. Yna trwy Capel Curig, a chyrhaeddwyd Bettws-y-Coed mewn amser priodol. Wedi cael y tath wledd i'r llygaid, yr oedd pawb yn awyddus am wledd i'r dyn oddi fewn, a sicr yw i bawb fwyn- hau eu hunain yn yr ystyr hon hefyd. Wedi cael cipolwg ar y lie prydferth ac atdyniadol hwn, cychwynwyd trwy Ddyffryn Conwy, trwy Drefrivv, nes dod i ddinas gaerog Conwy. Catwyd ychydig seibiant yno dilynwyd ymlaen am Fangor, yna i Gaernarfon, trwy Glynnog Fawr ac adref. Tystiolaeth pawb yw, na chawsant erioed y fath daith ardderchog a rham- antus. Teimlir yn ddiolchgar i'r gyr- iedydd am ei ofal a'i fedrusrwydd gyda'r cerbyd, ac yr oedd pawb yn unol yn rhoddi y ganmoliaeth uwchaf iddo, ac ni raid i neb ofni myned am daith gyda modur Abersoch dan ofal gyriedydd mor fedrus. Una'r Cymry a'r Saeson i waeddi Melus, moes mwy." --n

I LLITHFAEN

I LLITHFAEN PRIODAS.-Dydd Mawrth, Mchefin; 30am, yn Salem, Pwllheli, priodwyd Mr John (Vwen Jones, Trelor, gyda Miss Mary Griffiths, Gors, Llithfaen. Gweinyddwyd gan y Parchn. Henry Jones, Pensarn, Llandudno Junction (brawd y priodfab) a E. Sidney Morris, Llithfaen. Y gwas priodas oedd Mr John Stephen lones, Trefor (nai y priodfab) a'r forwyn oedd Miss Jennie Williams, Penygraig, Llithfaen (nith y briodasferch). Yr oedd yr bin yn popeth a ddymunid, a cheid arwyddion o barch, a dymuniadau da ar bob llaw. Darparwyd y byrbryd gan Mr. Jones, a Miss Williams, Gwest y Nant, ac yr oedd y cyfan y rhagorol iawn. Wedi gair o ddymuniadau da y Parchn. E. Sidney Morris, Henry Jones, Mr. O. Rowlands, Llanbedrog, a Mr. Jones, y Gwesty, ac wedi i'r priodfab gydnabod y geiriau catedig a ddywedid am dano ef a'i briod, ymadawodd Mr. a Mrs. Jones, i dreulio eu mis mel yn Han- dudno a'r amgylchoedd. Dymuna pawb hir oes, a phob llwyddiant, i'r ddeuddyn caredig hyn. -_f'

IMORFA NilFYN j

I MORFA NilFYN. j MARW TRIST.-Gyda gofid dwys y cofnodwn farwolaeth sydyn ac annis- gwyliadwy Mrs Catherine Davies, Pen- rhos. Ymddengys ei bod wedi myned ar ymweliad a'i nith, Mrs Cadben Williams, i Gravesend, a thra yno I daeth y diwedd. Ddydd Iau diweddat ? daethp?yd a'r corff yma i'w gladdu, a chymerodd y gladdedigaeth le ddydd Gwener diweddaf. Cydvmdeimlwn yn ddwfn a'r teulu yn eu trallod chwerw. I --C,

ABERERCH1

ABERERCH. 1 PRIODAS.—Yn Leeds, yn ddiweddar, unwyd mewn priodas Mr Owens, cyn- geidwad helwriaeth ar etifeddiaeth Broom Hall, a Miss Louisa Pritchard, merch Mr a Mrs Pritchard, Bryncoch. Y mae Mr Owens wedi cael ei ddyrch- afu i swydd o ymddiedaeth uchel yn nglyn a'i alwedigaeth yn Leeds, a hyny ar gychwyoiàd ei yrfa briodasol. Lwc dda iddo ef a'i rian deg yw dymuniad calon y pentrefwyr.

Mesur Ymreolaeth yn Nhyr Argfwyddi

Mesur Ymreolaeth yn Nhy'r Argfwyddi. PASIO'R AIL DDARLLENIAD. MWYAFRIF MAWR. Neithiwr, nos Lun, darllenodd Ty r Arglwyddi Fesur Gwelliannol Ymreol- aeth yr Iwerddon am ) r all waith gyda 273 o bleidleisiau yn erbyn 10. Cynygiodd Arglwydd Willoughby de Broke fod y Mesur yn cael ei wrthod yn gyfangwbl, a'r rhai a ganlyn get- nogodd ei gynvgiad-Arglwydd Desart, Arglwydd Oranmore a Brawne, Ar- glwydd Usk, Arglwydd Donoughmore, Arglwydd Mayo, Arglwydd Coventry, Arglwydd Aaran, Arglwydd Bessbor- ough, ac Arglwydd Farnham. Parhawyd y ddadl cyn yr ymraniad gan Arglwydd Milner a'r Iarll Roberts, 1 aril Desart, Arglwydd Peel, Arglwydd Killanin, Iarll Meath, Arglwydd Farn- ham, Iarll Carson, ac atebwyd gan Arglwydd Crewe. Yna ymranwyd ar y gwelliant, ac yr oedd y pleidleisio fel a ganlyn Tros yr ail ddarlleniad 273 Yu erbyn 10 Mwyafrif 263

Gallur WerinI

Gallu'r Werin. I Wrth siarad yu Bacup ar Weririiaeth a Christionogaeth dywedai y Parch. F. Ballard, o Lundain, fod hanes ar fin ail adrodd ei hun. Prun bynag ai llaw- enydd ai tristwch barai hyny, yr oedd gweriniaeth wedi dod i lywodraethu. Yr oedd yn dod megis ag yn Ffrainc a'r Amerig, ac yn Germani yr un modd. Deuai'r Weriniaeth yn y wlad hon yn gryfach a doethach o flwyddyn i flwy- ddyn, a phe baent ddim ond yn gwybod eu nerth ac yn peidio chware'r ffwl, megis ag y g\f nai llawer ohonynt gyda'r ddiod feddwol, chwareuon, a phethau eraill; a phe baent yn darllen yn fedd- ylgar a diwyllio eu meddwl, gallent reoli'r holl wlad yn awr. Ar un ochr yr oedd rhyw fiHwn a haner o bobl oedd yn meddwl mwy am eu hymborth a'u cerbydau modur nag am eu henaid, a'r rhai hyny yn ymrolio ynghanol cyfoeth. Ar y llaw arall yr oedd deng miliwn o bobl yn ymegnio ac yn ymdrechu yn nghanol brwydrau byw, a deng mil arall wedi eu llethu gan eu beichiau. Nid oedd o unrhyw tudd pregethu i'r bobl hyny—ni byddai ond ynfydrwydd. Pa fudd oedd canu emynau tlysion a duwiolfrydig, a llefaru moeswersi, os na ddygai hyny fwy o lawenydd a hyf- i rydwch i fywyd y trueiniaid y pregethid iddynt. A siarad yn gymhariaethol tybiai ef fod Cristionogaeth wedi bod yn fethiant trist. V Cristionogion i ryw raddau oedd yn gyfrifol an) fod y werin yn cilio lo eglwysi. Dylent gofio fod gan ddynion gyrff yn gystal ag eoeidiau, a dylent gymeryd amgylchiadau tymhorol 1 I dyn i ystyriaeth. Rhaid oedd iddynt ymarfer y Grislionogaeth hono a ddys- gir gan Grist yn y Testament Newydd. Dylent geisio ymgyraedd at unoliieth grefyddol, agv\edi arbenig yr hwn oedd amrywiaeth ac nid unffurfiaeth. Nis g-allent gael unoliaeth allan o unfFurf- iaeth, ac ni ddymunent unoliaeth rhwng y llew a'r oen, yr hyn a olygai tod yr oen oddimewn i'r llew. o

Yr Arddangosfa FrenhinolI yn yr Amwythig

Yr Arddangosfa FrenhinolI yn yr Amwythig. LLWYDD NANHORON. I Da genym weled enw C. H. Lloyd- Edwards, Ysw., Nanhoron, yri.ysg yr enillwyr yn yr arddangosfa uchod yr wythnos ddiweddaf. Allan o lu o entries cafodd y wobr gyntaf am y tarw bl" y dd Cymreig y drydedd wobr am y tarw Cymreig dwyflwydd, a chanmoliaeth uchel i heffer Gymreig o'i eiddo. Allan o dri-ar-ddeg o entries eniUodd y wobr gyntaf am y tri cnu gwlan goreu u edi ei gneifio yn 1914, a'r wobr gyntaf am y tri cnu gwlan goreu mewn dosbarth arall. Y r oedd rhai o bendefigion blaenat y deyrnas a chanddynt arddangosiadau yn y dos- barthiadau hyn Drwy haelioni arferol Mr. Lloyd- Edwards cafodd yr oil o weithwyr Nanhoron y fraint o dreulio diwrnod yn yr arddangosfa, a thalodd yr yswain caredig eu holl gostau.

Llys Ynadon Pwllheli I

Llys Ynadon Pwllheli. Ddydd Mercher, Gorffenaf I étt.- Gerbron J G. Jones, Ysw., yn y gad- air; yr Henaduriaid Maurice Jones a G. Hughes Roberts W. Thomas, Ysw., a J. Hughes Parry, Ysw. Meibion a'u Mam. — Gwysid Hugh Griffith a Thomas Griffith, Bodferin, gan Mr Hugh Pritchard, clerc y gwat- cheidwaid, am esgeuluso talu at gynal eu mam, yr hon sy'n derbyn 8s. ,yr wythnos o elusen 'blwyfol.-Gwnaed archeb o chwe'cheiniog yr wythnos yr un yn eu herbyn. Esgeuluso'r Ysgol.—Gwysiwyd Hugh Evans, Ty Canol, Bryncroes, am esgeuluso anfon ei blentyn i'r ysgol. Tystiai'r tad fod y bachgen yn wael, a thaflwyd yr achos allan. Gwnaed archeb presenoldeb yn erbyn Ellen; Rowlands, Church Street, Nefyn, yn erbyn yr hon y dygid yr un cyhuddiad. -Catodd achos John Jones, Fron Ter-' race, Nefyn, ei ohirio hyd Medi, er gweled a fyddai diwygiad yn cymeryd lie yn y cyfamser. Cyjiogi Plentyn.-Gwysid Rober t Evans Tyddyn Cae, am gyflogi bachgen ag oedd yn rhy ifaoc i adael yr ysgol. Gorchymynwyd iddo dalu chwe' swllt o gostau.

I EFrN I

EFrN. I I CYFARFOD ORDEIXIO. — Nos Lun a I dvdd Mawrth diweddat, 0rdioi\\ yd I Mr. Id ris Thomas, Abercynon, "IC("d yn fyfyriwr yng- Ngholeg y Bedyddwyr yn Mangor, yn weinidog ar eglwvsi yr enwad yn Morfa a Nefyn. Cymel wyd rhan y cyfarfodydd gan Dr. Owen Davies, Caernarfon y Prifathro. Silas Morris, M. A., Parchn. D. Wyre Lewis, Rhos, Ruabon Ben Mowells, Aber- cynon J. Phillips, Llanaelhaiarn a R. Edwards, Penygroes. Yr oedd Mri Gvvilym Morris a W. J. Thomas, o Goleg Bangor, yn breseuol. a Mr. Swift Jones, Dolgellau a Mr. a Mrs. Lloyd, Abercynon. Da oedd genym weled mam y gweinidog ieuanc yn bresenol. Hyderaf y bydd llwyddiant mawr ar weinidogaeth ein cyfaill ieuanc yn y cylch.-UN OEDD YNO.

Eisteddfod Genedlaethol Bangor

Eisteddfod Genedlaethol Bangor. NIFER Y CYFANSODDIADAU. Wele nifer y cyfansoddiadau sydd wedi eu derbyn ar wahanol destynau yr Eisteddfod Genedlaethol eleni :— Traethawd ar Hanes Cymru yn oes y Frenhines Elizabeth- 3, Drama Gymraeg neu Saesneg- i i Rhangan-14. Pryddest y Goron—29 Awdl y Gadair- 4. Telynegion—45. Emyn—3. Beddargraff Pencerdd Gwalia 26. BeddargrafF M. T. Morris"- 17. Marwnad i'r Athro. J. M. Davies— 10. Englyn y Graen- I 24. Traethawd, Dylanwad Llenyddiaeth y Cyfandir ar Lenyddiaeth Cymru"—3. Hanes Bangor-4- Traethawd beirniadol, "Mynyddcg" —Neb yn ymgeisio. Traethawd—" Safun byw a chyflog -8. Traethawd, "Athroniaeth Eucken —9- Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg— 5. Tair Chwedl Gymraeg-27. Cyfieithu Telynegion o'r Gymraeg i'r Saesneg- 14, Casgiiad o Gerddi G%c- i i. Unawd—18. -0-

I Cael CorfF Hamel

I Cael CorfF Hamel. I AR FORLAN FFRAINC. Hysbysir fod pysgotwyr y tuallan 1 Hardelot wedi darganfod corff ac y tybir mai corff Gustav Hamel yJyw. Yr oedd y corff wedi dadgytansoddi gormod i'w symud, ond cymen>Jd y pysgotwyr feddiant o fap Seisnig gaed yn y dillad. -0--

Iabolygiab

I abolygiab. I BEIRDD GWERIN EIFION A'U GWAITH, &c. I GAN CYBI. Dioich yn fawr i'r awdwr am y copi. Wrth ty modd. Byddaf yn ami yn meddwl i'm ty hun, beth ddaw o'r llond troliau o rwbel llenyddol eistedd- todol Cymru, yn draethodau, yn eng- lynion, ac yn rhibyn-di-rhes o'r hyn elwir yn tarddoniaeth ? A'. i'r domen I yr ant ? Anaml y clywir son am danynt ar ol dydd mawryr Eisteddfod, a'r eadeirio 'crand,' a'r gwaeddi A I oes heddwch ?' n ddiarneu fod yna rai pethau da yn eu plith, gwerth eu cadw, and ar goll yr a y rhan fwyat o honynt, mor bell ag y gwn i. Dywed- ais fod llyfr diweddaraf Cybi wrth fy modd. Pa'm r Am fod ei gynwysiad mor anghyffredin o dda ? Nage, end am tod ei gynwysiad mor anghyffredin o gyffredin. Mae yma amrywiaeth, lion a lleddf mae yma ddityrwch ddigon, mae yma ddifyrwch diniwed a didarwg mae yma dynu'r lien yn ol, a datguddiad o rediad meddwl y gvvahanol genedlaethau mae yma fywyd yn symud o'n blaen-yr hen gymeriadau yn 4 martshio' o'n blaen mewn procession grand,' ac yn gwneyd eu salute fel yr hen sowl- diers gynt, ac yn tafia wrth ein traed swpyn o fiodau, ffrwyth eu meddwl a'u dvchymyg hedegog. Dyma'r pa'm fy mod yn hoff o'r llyfr. Bydd galw mawr am dano, 'rwyf yn s iwr o hyny, mor siwr ag y gall dyn fod o beth o'r fath. Cwmni dityrus dros ben yw yn y tren, yn y gwely (os yn methu cysgu), wrth y tan, yn wir, llyfr yw i'w gadw yn y boced bob amser, ac i'w dynu allan a'i fwynhau bob munyd hamddenol Gallaf ddychmygu Uafur mawr, ac amynedd yr awdwr yn hel y fath drysorau at eu gilydd. Coeliar yr awdwr pan ddywed fod ymi waith I blynyddau,' a mawr ein diolch iddo. Campus o beth hefyd yw y darlumau. Yn wir, bydd rhaid i'r llyfr yma gael He ar silff y ffenest' fach ymhob ty gvveithiwr trwy Ogledd Cymru ac unwaith y ca' y Deheuwr afael arno, bydd raid iddo yntau hefyd ei gael Mae ynddo rai darnau yn cyffwrda a'r teimlad byw. Mae bywgraffiad byr a i chryno y gwahanol gyfansoddwyr yn glod i'r awdur; a gallaf ei sicrh.u y mwynheir ei dameidiau blasus gan oawb, yn enwedig y dosbarth gUvith- iol, a'r adran amaethyddol,-gweision a morwynion fFermydd, yn og) stal a'u mheistriaid a'u mlieistresi. NI,.)rfa," Y Lldii a'r Dyviysogacth. (I'w barbau.)

I Manion

I Manion. Caed ffermwr yn gcrwedd yn farw yn ei berllan yn Meiling, Ormskirk. a llaw- ddr} II wIth ei ochr. Ddydd Sul bu farw geneth ieuanc yn Doncaster. Cafodd ei tharo g-an fellteo y dydd Mawrth blaenorol. Cafwyd dynes o Seaforth yn gorff ar y ti-aetii ger Ramsey ddydd Llun, ac nis gwydd:s prun ai o fwiiad ynte o ddamwain y bu toddi. Traddodw\d Emily firiffiiii^ a Cynan Jones i sefyll eu prawf yn y frawdlys gan ynadon Gvvrecsam, ddydd Liun, ar y cyhuddind o roi goisaf Coedpoeth ar dan Dychrynodd plentyn yn Maryport wrth droi cwpanaid o de am ei ben, a bu farw. Boddodd plentyn bychan yn Nghroes- oswallt drwy :-Yllh:o i lyn o ddwr, yn ■•t.'os i'r hwn y chwareuai. Diangai gwallgofddyn uiwy heolydd Londonderry ddydd Llun a niter o ddyn- ion ar ei ol yn ceisio ei ddal. Pan yr oeddynt ar fin ei ddal rhedodd am yr laton, neidiodd iddi a bu foddi. Yr oedd ffermwr yn Lurgan v dydd o'r blaen yn mynd allaii i saethu, ac anelodd ei wn yn chuareus at nifer o fechgyn, heb feddwl tod ergyd ynddo. Tynodd y glicied ac aeth yr ergyd i fynwes un o'r bechgyn, gan ei ladd yn y fan

Advertising

Sales by Messrs. Bobl. Parry & Son. .n GARREG FECHAN, PWLLHELI. SALE OF HOUSEHOLD FUR- NITURE. IESSRS. ROBT. PARRY & SON i\ have been instructed to SELL BY PUBLIC AUCTION at the above place on FRIDAY, JULY loth, 1914, the following HOUSEHOLD FUR- N ITU RE. viz.: Glass Cupboard, Eight Day Clock, Settle, Several Tables, 2 Round Ta!'• Vs. 4 Odk Chairs, 2 Arm Chairs, Fender and Fire-irons China- ware. including Willow Pattern Plates and Dishes, Ornaments, &c 2 Chest of Drawers, Easy Chair, 2 Iron Bed- steads, Feather bedding, Wicker Chair, s Locking Glasses, Bedroom Chairs, Copper Kdtle, Brass Candlesticks, Lamps, Pictures, and several other am Jos. Sale to commence at i p.m. Terms Cash. 5, Salem Terrace, PwllheM. Carnarvonshire Education Committee. MEMBERS of the Education Com- -? r,i!tee?i!! condrct Enquiries at the Cefnfae.> Council School, Bethesda, on Saturday, July iith, at 2 p m., and at the lown Hal>, Portmadoc on Mon- day, July 13th. at 3 pm, with a view to ascertaining the extent of the demand for Supplementary Courses and deter- mining how far such Courses can be provided in the County Schools. The Committee invite the presence of all interested in Education. EVAN R DAVIES, Secretary of Education, June joth, 1914. PWLLHELI Chair Eisteddfod. SPECIAL PRIZE OF F.1 Is For a Bust, carved in Marble, of the Ri?ht Hon. D L?oyd Ceor?e, M. P. Stones supplied gratis by the British & Welsh Marble Quarries Co., Ltd., Aberdaron. Competitors please address the Manager—Mr E. J. Evans, Ty Ne- wydd Hotel, -Xberd-Ar(-,n. The winning exhibit to be the property of the prize giver. j Competition closes on Wednesday, I Jut) 29th, and should be forwa Jcd to the Hon. Sec,- D. JOHN JONES, 74, High St., Pwllheli. Recreation Ground PWLLHELI, BANK HOLIDAY, AUG. 3rd. i Alliletic Sports i & Cycle Races First Eveut 2-30. Admission 6d. For list of events apply, F. E YOUNG, Hon. Sec. For Sale. FOR SALE. Cheap. IRON FUEL -i- STOVE. Practically new. Suit- able for Laundry or Tailors. Apply- H \\1. Office ot this paper. Yn Eisiau. GOFALYDD am Bodegroes Lodge. '?' G?edd? neu wr a ??raig- heb blant. Ymofyner a E. Perkins, Bodegroes, Pwllheli. I) \CHGEN cryf tel Apprentice i'r I JJ Ironmongtiy 1 rade. Ymcfvner a james Williams, West End Stores.