Collection Title: Udgorn

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 2 of 4 Next Last
Full Screen
16 articles on this page
Advertising

AT EIN GOHEBWYR. Aufoner erbyn BOREU SADWRN y fan bollaf Pob aichcbioo a thaliada,.i am Yr UPGOBN i'w haofou i'r GORUCHWTLIWB, 74, High Street, Pwllheli. Pob gohebiaeth i'w cyfeirio— YR UDGORN OPFICB, PWLLHELI. Bydd y 11 dda genyui dderbyn ^oheb- Uetbati oddiwrfcb ohebwyr ar fatei-icia Heil o rldyddordcb cyboeddus.

I NODION A HANESION

NODION A HANESION. Caiifoat ei Brawd yn Farw. Canfuwyd Morgan Jones, 45 mlwydd oed, yr hwn drigai gyda'i frawd yn Bronant, Waenfawr, yn gorwedd ar law r y gegin yn farw gan ei chwaer y dydd o'r blaen Yr oedd ei wddf wedi ei agor. Aberthu ei Fyvvyd. j Syrthiodd plentyn bychan i lye o ddwr ger glofa Stockfield. Chadderton, y dydd o'r blaen, a neidiodd dyn o'r enw Thomas Wensley i'r dwr ato i geisio ei waredu. Nid oedd Wensley yn gallu nofio, a bu ef a'r bachgen bach foddi. Enill 200p a Modur. Enillodd colotnen i Mr. P. Griffiths, Norwich, y ras ehedeg o Marennes am yr ail Hwyddyn yn olynol. Enillodd ddau can' punt o wobr, heblaw g wobr arbenig o gerbyd modur. V mae wedi enill i'w pherchenog dros bedwar cant o bunau o wobrwyon mewn dwy flynedd Marw'n Gant a Deg. Yr wythnos ddiweddaf bu farw Mrs. i Rebecca Clark, Wood Green, Liundain. ahiynganta deng mlwydd oed. Yr oedd ganddi wrthwynebiad cryf i gael ei chladdu yn Liundain, a pharchwyd ei dymuniad drvvy fynd a'i chorff i oiffwys yn mynwent Oving. sir Bu:k- ir.gham. Czergvbi a'r Bwrdd Hjsbysebu. Yn mhwyllgor Cymdeithas Gwellian- nau'r Dref, yn Nghaergybi yr wythnos ddiweddaf, pasiwyd yn unfrydol eu bod i dori eu cysylltiad a Bwrdd Hysbysebu Gogledd Cymru, gan yr ystyrid nad oedd Caergybi yn cael yr un sylw ag a gai trefi eraill ar y glannau, a'u bod yn talu 29p. am nemor ddim yn ymarierol. Teimlent nad oedd y Bwrdd wedi ym- ddwyn yn deg tuag atynt. ? Saethu ei Wraig a Hi'n Cysgu Yn Mrawdlys Stafford y dydd o'r blaen caed James Greenley yn euog o lofruddio ei wraig, a dedfrydwyd ef i g-ael ei ddienyddio. Dywedid iddo tod allan o waith yn hir, ac un bore saethodd ei briod pan oedd hi'n cysgu yn y gwely, ac yna iddo ladd un o'i ferched a cheisio sfiethl1 'r ferch arall yn farw, eithr di- angodd hi o'r ty er wedi ei chlwyfo'n erchyll. Byw wrth Hel Malwod Y dydd o'r b]aen gofynuyd i Percy Horner, tyst mewn cyngaws yn Haver- fordwest, beth oedd ei alwedigaeth. Hel nialwod," meddai. Wedi i'r barnwr gael distavvrwydd yn y llys eglurodd y tyst mai ei waith oedd mynd o gwmpas i hei nialwod ac y byddai yn eu hanfon i Bath a Br-istol, lie y caent eu gwerthu jn ol dwy i {■xeiniog y platiad. Cai groeso mawr gan y ffermwyr, meddai, gan yr ystyr- ient ef yu ddyn defnyddiol iawn ar ffarm. Gwttaio Hoel i'w Fynwes. Ceisiodd teiliwr o Blackburn o'r enw Jt)hn Fallon, »oi terfyn ar ei etnioes mewn modd o-ch %-I) iawn y dydd o'r blaen yn 01 Tel y dywedir. Cymerodd hoe'en chive modfedd o hydagwthiodd hi belled ag y gallai i'w fynwes wedi hvny pvvysodJ yn erbyn y inur nes ei ^vxihio i mewn ymhellach Clywodd un a letyjii gydag ef gymvrf yn yr j )stafell ac aeth yno. Tynodd yr hoeten u'i fynwes a chymerwvd y dyn i'r ysbyty ar unwaith Credir y gellir arbed ei fvwyd. Cybydd yn mynd yn Wailgof. Daeth hanes hynod i'r amlwg- mewn cyngaws ynglyn ag ewyllys yn Liundain yr wvthnos ddiweddaf. Ymddengys fod Edward Lyman, hen lane yn byw mewn bwthyn bychan, yn swydd Northampton wedi gadael ar ei ol eiddo gwerth mil o bunau ar ei ol. Yr oedd yr ymadawedig yn hynod gybyddlyd, meddir, ac un- cerddodd ddcng.milhir i arbed t zl,r tren. Yn ol fel yr honid yr oedd wedi gwneyd ei ewyllys gan adael yr eiddo i'r ddynes gadwai y ty iddo. Ymheo deuddeng rnis aetk Lyman yn wallgt t a chymerwvd ef i wallgofdv. Ar ol ei guneyd ni welwyd yr ewyllys, a dadieuai perthy-nasaii i i man nad oedd ewyllys wedi ei gwneyd n briodol, ac fod yr ymadawedig wedi marw yn ddi-ewyllys. Piisiiidd y rheithvvyr yn ffafr y copi o'r ewvilj v.'r cr«^t«TU rynd a! I a P. o'r eid-iC, Dau yn Cael eu LJadd gyda Cherbyd. Pan oedd cigyud o'r enw Arthur Thomas a jieddwas o'r enw David Davies yn mynd am gartref mewn cerbyd, yn agos i Aberg-waun, nos Sadwrn. troes y cerbyd a'i wyneb \n isat, gan lethu y ddau ddyn i farwol- aeth. Perthynai Davies i heddlu Penfro er's pedair blynedd ar hugain. Hunaniaddiad Milivvnydd. Dywed pellebyr o New York fod Mr. G. Sloane, y miliwnydd Americanaidd wedi rhoi terfyn ar ei einioes. Yroedc yn wael ei iechyd er's amser maith, a( yn cael "fweini arno gan fmaeth. Ei gwaethaf ymdrechion y famaeth i'w rwyslro neidiodd i lawr o ben pon ddeg a phedwar ugain o droedfeddi t uchder. Tan-Ddiffoddvvyr yn Cael eu Lladd. Bu tan dinystriol yn ngweithfeydc Mr. T. H. Haworth, Blackley, Man Chester, ddydd Gwener, a chafodd dai dan-ddiffüddwr eu lladd trwy i ddarn ( fur syrthio arnynt a'u claddu. Yr oedi y tan wedi ymledu tros erw o adeiladau meddir, ac achoswyd colled anferth a eiddo. has Ehedeg o LunJain i Paris. Mr. L Brock, Americanwr, enillodd y 1 as ehedeg o Lundain i Paris ac yn ol ddydd Sadwrn, a gwnaeth y siwrnai yn ol y cyflymder 0 71 militir yr awr. R. Garos, Ffrainc, oedd yr ail, efe yn hwy o awr a haner yn gwneyd y siwrnai. Bu raid i Arglwydd Carbery, oherwydd i'w petrol ddarfod, ddisgyn yn y Sianel, a chodwyd ef i fynu gan agerlong tuag at yr hon yr oedd wedi ehedeg. of n. ♦ Cwympo oddiar Beiriant Tren. Syrthiodd David Wallace, gyriedydd tren ur y Caledonian Railway, wrth toi olew i'r peiriant pan yn trafaelio rhwng Glasgow a Carlisle, Gwelodd y tan- i wr ei golli pan yn nesu at y stesion nesaf a stopiodd y tren i hysbysu'r signalman o'r ffaith. Wedi hyny aeth a'r tren yn ei flaen ei hun. Yna aed hyd y rheilffordd i chvvilio am Wallace a chaed ef yn gorwedd ger y rheiliau, ac wedi cael archoll ddofn i'w ben, a rhai o'i asenau a'i fraich chwith Medi tori + Y Trychineb ar y Dafwys. Yr wythnos ddiweddaf cynhaliwyd trengholiad ar gortf Syr Denis Anson a Mi-. William Mitchel!, y ddau lu foddi y nos o'r blaen pan allan gyda mintai yn mordwyo ar y Dafwys. Pasiwyd I rheilhfarn o I, farwolaeth ddamweiniol drwy foddi." Pasiwyd pleidlais o gyd- ymdeimlad a theuluoedd y ddau, ac amlygwyd llawenydd oherwydd fod d'jrpariadau wedi eu gwneyd tuag at gynal teulu Mr. Mitchell, yr hwn go'l- odd ei fywyd wrth geisio gwaredu y barwnig. „ Dirwyo Tafarnwr yn Ffestiniog. Y dydd o'r blaen cafodd Hugh \v.1 Hughes, frrwyddedydd y Railway Inn, Ffestiniog, ei ddirwyo i ddwy bunt a'r I costau am ganiatau meddwdod. Tystiai heddgeidwaid y gwelsent ddyn yn dod drwy fynedfa'r cefn yn ddiymadferth feddw, ond dywedai'r diftynydd na chafodd y dyn ond tri pheint o gwrw, a'i fod mor sobr a barnwr.—Yn yr un llys'cafodd Owen James, Ffestiniog, ei ddedfrydu i bythefnos o garchar am fod yo teddw ac am ymosod ar heddgeidwad yn Harlech. Dywedai'r heddwas y cafodd ei gicio a'i frathu'n greulon gar y carcharor. Yr oedd wedi ei gospi dros hancr cant o weithiau o'r blaen, meddid. < f Bwthyn Robert Burns mewn Perygl. Ceisiodd dwy suffragette ddioystrio y bwthyn lie ganed Robert Burns, bardd cenedlaethol yr Alban, yr wythnos ddi-I weddaf. Daliwyd y dd?y yn cesio tanio /M.? oedd wrth be!en ffrwvdrol. ond bu ymdrcch ff\rnig rhyngynt a'r gwyliwr a llvvyddodd un i ddianc ar ei beisicl. Yr oeddynt uedi rhoi hosanau am eu hesgidiau rhag gvvneud trwst. Yr oedd canoedd o greiriau gwerthfawr I yn y bwthyn a'r amgueddfa s^erllaw. Edrychir ar hen gartref Burns fel un o'u trysorau penat gan yr Y sg-otiaid, ac "edrychir ar ei ol yn ofalus. Nid yw ond cegin a siamber gyda thõ gwellt. Y Suffragettes a'r Brenin. Pan oedd y B: enin a'r Frenhities yn -y mynd trwy Perth ddydd Gwener neid- iodd dynes o ochr yr heol ac aeth am y modur Brenhinol. Yr oedd y Cwnstabl Scott yn eistedd wrth ochr y gyiiedydd a chydiodd yn y ddynes wallgo, ond 11%ydioiLl hi i gydio yn ochr y cerbyd eithr llithrodd ei throed a chafodd ei iiusgo felly am latheni lawer. Bu agos iawn i'r modlp- ddeoai ar eu hol fynd t osti. TaflodJ sulfiagette arall fwndel o hnpuraii at) nwdur H, enhino1 ychydig i ddiweddarach, a phan welodd nas ^.i!!odd ei daflu i'r modur, rhuthrodd in «g at y cerhyd ond cymerodd hedd- pfidwaid afjiel ynddi, y rhai a'i gwarch- odd rhag cael i i chamdrin gan y dyrfa y rhai oedd wedi cynddeiciogi oherwydd ei hymddygiad. Pan oedd y cerbyd yn mynd am yr Eglwys Gadeiriol yn Edinburgh ddwi.l Sul taflodd suffra- gette belen at y cchyd a dis;c}viodd ar JrlJ y

Ffrwydriad mown Bag Llythyrau

Ffrwydriad mown Bag Llythyrau. ANAFU DYN YN DDIFRIFOL. DigwyJdodd ffrwydriad yn un n o'r hagiau lIythyrau gludid gyda'r tren o Blackpool i Manchester yn hvvyr nos Sadwrn. Yr oedd Barlow, y guard, yn I dosranu'r bagiau pan yn sydyn ffrwydr- odd/ un o honynt gan roi chwech o I tagiau eraill ar dan. Er wedi ei anafu yn ddifrifol yn ei ddwylo a'i freichiau Uwyddodd Barlow i ddiffodd y fflamau, a thaflodd y bagiau oedd yn mudlosgi i lawr o'r tren. Ataliwyd y tren a sym- udwyd y llythyrau i orsaf Preston, lie bu'r gwasanaethyddion wrthi hyd bryd- nawn Sul yn do.sranu llythyrau, ac yn eu hanfon ar eti ffordd i ben eu taith. Yn y bag ffrwydiodd cafwyd darnau o hotel fechan, a gwelwyd y bu sulphuric acid ynddi Bu agos i'r van fynd ar dan, ond llw\ddodd Barlow i ddiffodd y fflamau. Yr oedd holl gynwys y bag wedi eu dyfetha. Bernir yn ddiamheuol mai gwaitb y suffragettes ydoedd.

i A Ddylai Clerigwyr ddysgu Pafflo i

A Ddylai Clerigwyr ddysgu Pafflo ? BARN Y TAD BOUDIER. Ynglyn a'r ymrysonfa paffio gymerodd le yn Liundain y nos o'r bfaen rhwng Fred Welsh a Ritchie, gwasanaethid fel Meistr y Seremoniau gan y Tad Boudier, yn lie y Parch Everard Digby, yr hwn nis ymgymerodd a'r swydd oherwydd awgrym Dr. Paget, Esgob Stepney. Dywedai y Tad Boudier wrth ohebydd ei tod yn credu'n gryf mewn paffio. Y mae 'n beth rhagoroI i'r clerigwyr, meddai, gan fod gormod o hen wragedd yn yr Eglwys yn barod. Y mae'n dysgu disgyblaeth a hunan-reolaeth. Ceidw fechgyn ieuainc o'r tafarnau, oherwydd ni bydd yr un paffiwr effeithiol byth yn slotian nac yn byw bywyd oter. Byddai ef bob amser yn mynnu cael croes techan i fynu yn yr ystateil lie byddai'n paffio. Nid yw yn debyg y gwna neb ddim y bydd arno gywilydd ohono yn mhresenoldeb y groes, medd- ai. Nis gall neb gablu tra bo hono'n y golwg Cyn yr ymrj sonfa rhwng Welsh a Ritchie dywedai Boudier Bum yn pregethu ddydd Sul, heoo byddaf yn rhoi anerchiad, brydnawn yfory byddaf mewn cyfarfod esgobol, a'r nos byddaf yn gwelçdy paflio

0Modi Budd

-0- Modi Budd. ODDIAR BROFIAD POBL PWLL- HELI Yi ydyrn yn ffodus iawn yn wir i elwa oddiar brofiad ein cymydogion. Bydd mynegiadau cyhoeddus trigolion Pwllheli ar y pwnc a ganlyn o ddydd- ordeb a budd i filoedd o'n darllenwyr. Darllenwcb y mynegiad hwn. Nis geliir cael gwell prawf. Ar Awst 29am, 1911, dywed Mrs. M. Griffith, 193, King'shefid Street, Pwllheli Cetais oerfel årwy eistedd ar welhglas gwlyb, a rhaid fod hyn wedi effeithio ar fy elwlod, oherwydd dechreuais ddiocldef oddiwith drwbl yr elwlod a'r yswigen. Yr oedd y dwr yn gymylog a dnvg, ac yr oedd yna anhwsder mewn rhyddhau yr yswigen. Teimlwn fy ngorff yn chwyddedig a t ii r v,, n-i. Dioddefwn lawer oddiwrth boenau ergydiol cyflym yn y cefn. Byddai unrhyw ymegniad ychwanegol yn fy llethu yn lan, ac ar adegau byddai fy nghetn mor boenus fel nas galtwn bron symud. Er i mi roddi prawf ar lawer o gyffeiriau ni dderbyniais ddim rhyddhad hyd nes y defnyddiais Doan's Backache Kidney lills. Lie methodd y cyffeiriau eraill Uwyddodd y feddyginiaeth hon. Yn avr y mae y dwr yn naturioJ a'r poeuau d'r teirnlad chwyddedig wedi fy ngadael. Nis gallaf ddweyd gormod mewn canmoliaeth i'r feddyginiaeth irdderchog hon." (Arwyddwyd) Mrs. M. Griffith Ar Ionawr 3iain, 1914 — tros ddwy jiynrdd, yn ddiutddarack — dywed Mrs. Griffith :—" Pa btyd by nag y cymeraf Doan' s Pills gwnant irni lawer o les bob amser. Ni ddefnyddiaf ond y feddyginiaeth yn unig ar gyfer fy anhw) ller. Byddat bob amser yn cymeradwyo Doan's i bawb glywaf yn cwyno oddiwrth eu ctfn Os oes genych y fath arvvydd digam- syniol o anhwylder ar yr elwlod neu'r yswigen a chasgliad, neu grafel, poen- au yn y lwynau a'r cefn, chwydd drdpsi, anyslwythder yn y cymalau a'r gewynau, cryckymalau, a theimlad o syrthni parhaus, a thrymder, bydd i'r profiad uchod cich calonogi. Y mae Doan's Pills yn gymorth arbenig i'r elwlod cyrhaeddant achos y drwg- dyna'r pam fed y gwellhad yn pnra. Pris 2s. ge. bocs, chwe' bocs am 13s. ge.; gan bob siopnr, neu oddiwrth y Foster McClellan, Co., 8, Wells Street, Oxford Stic^t, London, W. Peidivvch gofyn am kidney pills, gofyn- wch yn eglnr am Doan's Backache Kid- ney Pills, yr un math ag a gafodd Mrs. Griffith.

I Beior Storstad

I Beio'r Storstad. I DIM BAI AR CAPTEN KENDALL. Yn y Ddirprwyaeth Ymchwiliadol i drychineb yr Empress of Ireland, caed fod y gwrthdarawiad wedi digwydd drwy i'r Storstad newid ei clnvr.s, ac nru y llestr hono'n unig ocdd i'w bcio aiii y digwyddiad alaethus.

Cyngor Dosbarth Lleyn 1

Cyngor Dosbarth Lleyn. 1 Ddydd Mercher, Gorffenaf yr 8fed.- Mr Griffith Evans, yr is-gadeirydd yn llywyddu. Ydafell,oedd Liweision Ffermydd.—Hys- bysodd y Swyddog Meddygol y bu'n ddi\eddar yn gweled yr ystafelloedd lie yr oedd y gweision yn cysgu mewn tair o ffermydd yn y dosbarth, ac y dymunai wneyd sylw cyffredinol ar y mater.—Yn ami yr oedd gweision yn cysgu mewn ffermydd uwebben ystab- lau a beudai. Yn gytTredin yr oedd yr awyr boeth ddeuai oddiwrth yr anifeil- iaid yn cyraedd i'r llofftydd hyny rhwng y lloriau neu drwy agenau, ac yr oedd y llofftydd mewn rhai amgylch- iadau yo rhy gyfyng. Dylai y gweision gael moddion i ymgeleddu eu hunain, i sychu eu dillad, ac i ddarlkn gyda'r nos. Pan ddeuai'r amser prioaol i hyny, argymhellai fod holl ystafelloedd cysgu y gweision yn ffermydd y dos- barth i gael eu harchwilio.-Cynygiodd Mr Morris N. Jones eu bod yn mab- wysiajdu'r adroddiad, a chefnogwyd ef gan Mr David Griffith, Aberdaron. Sylwodd Mr J. T. Jones ei fod yntau'n cytuno a'r hyn ddywedai y Swyddog, ond ei fod yn ffaith y carai y gweision gysgu uwchben y beudai yn hytrach nag yn y ty, gan y gallent fynd a dod yr adeg y mynent, yr hyn nas gallent pe'n cysgu yn y ty. Er hyny, credai y dylai'r ystafelloedd gael eu gwneyd yn addas iddynt gysgu ynddynt.—Amheuai Mr R. O. Roberts a oedd argymhellion y Swyddog Meddygol yn ymarterol, a sylwodd Mr O. Williams y dylai y ffermwyr fod yn gwybod yn well am yr anhawster ynglyn a'r mater hwn na neb arall-Sylwodd Mr J. Pierce fod y Pwyllgor Iechydol wedi bod yn ystyried y mater ac yn cymeradwyo argymhell- ion y Swyddog. Credai ef nad oedd yn iawn i Mr J. T. Jones ac eraill feirniadu gwaith y pwyllgor, a hwythau heb fod yn brescnol ynddo er yn aelod- au ohono.—Yn y diwedd mabwysiad- wyd yr adroddiad. Pont ),nysgoch.-Hysbysodd yr Arol- ygydd fod Pont newydd Ynysgoch wedi ei chwblhau, ac fod y draul yn fwy o 27p. na'r amcangyfrif.—Talwyd gwar- ogaeth uchel i'r arolygydd (Mr D. H. Parry) am y gwaith wnaeth ynglyn a'r borit. Cynygiodd Mr J. R. Jones, Ty Engan, yn herwydd fod y gost wedi mynd yn uwch na'r amcangyfrif, fod y ddau Gyngor Plwyf yn mynd yn gyfran- og gyda'r Cyngor Dosbarth am y gost i, ych wanegol. S),Iwodd Mr J. T. Jones y methai a gweled fod unrhyw rym yn nghynygiad Mr J R. Jones gan fed y Cyngor wedi cytuno ar i'r ddau Gyngor Plwyf dalu 30P.-Cyoygiodd y Parch T. E. Owen fod y Cyngor Dcsbarth i dalu'r gost ychwanegol gan eu bod wedi cytuno ar 30P yr un gyda'r plwyfi. Eiliwyd ef gan Mr G. W. Davies, ac eiliwyd Mr J. R. Jones gan Mr Robert Jones.—Dywedodd y Clerc nad oedd yn sicr nes gweled yr oheb- iaeth prun a oedd y Cynghorau Plwyf i dalu haner y gost, prun a fyddai'n 6op. neu ragor, ai peidio. Yr oeddis wedi gofyn i'r Cyngor Sir am gyfraniad hefyd, meddai.—Yn wyneb yr hyn ddywedai'r Clerc pasiwyd i ohitio y mater am fis. Ynglyn a Meddyg. Hysbysodd y Clerc ei fod wedi ysgrifenu at feddyg, yn uno] ag argymhelliad y Pwyllgor lech- ydol, i o!yn am eglurhad, gan "fod y Pwyllgor wedi cael hysbysrwydd gan y Swyddog Meddygol, ei fod yn ym- ddangos fod y meddyg wedi peidio hysbysu am achos o dwymyn goch. Yr oedd ef (y Swyddog), meddai, wedi mynd i weled y claf, yr hon a ddywed- odd wrtho ei bod wedi dod gartref" o fferm arbenig chwech wythnos yn ol yn dioddet oddiwrth y dwymyn goch. Nis gwyddai a oedd y meddyg wedi hysbysu'r achos ai peidio.-Dywedal y Clerc fod y meddyg wedi ateb i'r perwyl ei fod dan yr argraff ei fod wedi hysbysu'r achos, yn arbenig gan fbd y Swyddog Meddygol a'r Arolygydd wedi bod yno. Wedi i'r Cyngor drafod y mater am gryn amser pasiwyd, yn uno! ag argymhelliad y Pwyllgor Iech- ydol, i gymeryd moddion cytreithiol yn herwydd yr esgeulusdra honedig.

10 Diwygiad yn LlanelliI

-0 Diwygiad yn Llanelli. Y mae diwvgiad wedi tori allan yn Llanelli. Er's peth amser y mae'r Parch. Stephen Jeffreys wedi bod yn cynal cyfarfodydd mewn neuadd gen- hadol yno, a godwyd lawer blwyddyn yn ol gan Seintiau'r Dyddiau Diweddat. j Bu yno gyfarfodydd nodedig o bryd i bryd, ond yr wythnos ddiweddaf, yn ol fel yr hysbysir, bu yno gyfarfodydd mwy angerddol na dim welwyd o'r blaen. Dywed y gweinidog a'r gynnll- eidfa yr ymddangosodd Crist iddynt o'r tu ol i'r pulpud, a'r Goron Ddrain yn amlwg ar ei ben. Parodd y weledig- aeth orfoledd mawr, a buwyd yno yn addoli-rn canu a gweddio-L-ani oriau lawer. Cynhelir cyfarfodydd yn yr awyr agored hefyd, ond nid ydynt mor angerddol a'r rhai a gynhelir yn y neuadd. Mae'r lie yn orlawn bob nos, a llawer yn cymeryd rhan yn y cyfar- fodydd ar yr un pryd.

IMarwr Parch Gomer Lewis

Marw'r Parch. Gomer Lewis. Bu farw'r Parch. Gomer Lewis nos Sadwrn yn y Drefach, Caerfyrddin, lie yr oedd yn treulio ychydig wyliau er budd ei iechyd. Yr oedd yr ymadaw- edig yn ddeg a thrigain mlwydd oed, ac yn un o'r gweinidogion mwyaf adnabyddus ymysg y Bedyddwyr yn Nghymru. Bu am flynyddau yn gwein- idogaethu ar eglwys y Bedyddwyr yn Abertawe. j

Cyngor Tref Pwliheli I

Cyngor Tref Pwliheli. Nos Fawrth. Go ilenaf y 7f d.— Presenol: Dr. R. Jones Evans. y Maer; yr Henaduriaid O. Wynne Griffith, R. Ivor Parry, a W. Eifl Jones Cynghor- j wyr Lewis Jones, E Jones Griffith, j W. M. Toleman, R. Albert Jones, T. W Thomas, Hugh Pritchard, ynghyd a swyddogton y Cyngor. Cydymdcimlo.—Ar gynygiad y Maer pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r Parch J' Edwards, ficer, ar farwolaeth ei briod. l'i- Jleddlu ag Eiddo"r Cyngor.Y sgrif- enai'r Arolygydd Owen i alw sylw at niwed honedig oedd dau blentyn wedi ei wneyd i eiddo'r Cyngor yn yr Happy Valley. Mynai rhi o'r aelodau nad oedd wneio'r Cyngor ddim a'r peth, ond mai mater i'r heddlu i'w benderfynu ydoedd.-Sylwodd y Dirprwy-Glerc mai eiddo'r Cyngor oedd yn cael ei niweidio, ac mai gofyn am gyfarwyddid ynglyn a'r cyfryw yr oedd yr heddlu.- Yn y diwedd pasiwyd, os yr ystyriai yr heddlu yn ddoeth erlyn ynglyn a'r mater, y rhoi y Cyngor bob cymorth iddynt i gyflawr.i eu dyledswyddau. I Mordwyo ar y Sul. B u trafod maith ar yr hyn basiwyd mewn pwyllgor o'r Cyng- or ynglyn a rhoi cychod allan ar y Sul. Yr oedd y pwyllgor wedi pasio yn unol a chais Cymdeithas Ddirwestol y Dref, i ofyn i'r cychwyr beidio rhoi eu badau allan ar y Sul, a chytuno i derfynu'r dityrion yn yr Happy VaHey ddeg o'r gloch bob nos.-Dywtdai Mr W. M. Toleman nad oedd ef yn credu y dylid ymddwyn gyda chychod yn wahanol i fel y gwoeid gyda pherchenugion modurion, a phethau eraill-Siarad- odd Mr R. A. Jones i'r perwyl y tybiai y gwnai rhwystro i'r cychoj gael eu rhoi allan ar y Sul ddrwg i'r dref fel ymwelfan, oherwydd hyny yr oedd yn cynyg fod y mater yn cael ei ail-ystyr- ied.-Sylwodd yr Henadur Anthony nad oedd y pwyllgor ond yn unig yn apelio at y cychwyr, nid oeddynt yn eu gortodi.-Ar gynygiad Mr Hugh Pritchard, yn cael ei eilio gan Mr T. W. Thomas, pasiwyd mabwysiadu penderfyniad y pwylIgor-dim ond Mri W. M. Toleman ac R. Albert Jones yn pleidleisio yn erbyn. Llwybr Newydd.-Yr oedd Hythyr wedi ei dderbyn oddiwrth y Mri S. Andrews a'i Fab yn cytuno i agor llwybr o'r forlan i Garreg Fechan, os yr ymgym- srai y Cyngor a'r gost o'i gadw, ac i dalu swm bychan o rent, ac i'r cytundeb gael ei derfynu trwy chwe mis o rybudd gan y naill ochr neu'r Hall.— 1 Pasiwyd fod i'r Y sgrifenydd Trefol dynu allan gytundeh i'w gyflwyno i ystyriaeth Mr Andrews, ac fod y Maer a'r Henadur W. Eifl Jones yn ymweled a'r lie er gweled faint o waith oedd yn angenrheidiol ar y lie.

u Tair o Enethod Bychain yn Boddi

-u Tair o Enethod Bychain yn Boddi. Bu digwyddiad cyffrous iawn yn Bolton nos Sadwrn,—bu foddi tair o enethod bychain mewn Hyn yno. Eu henwau oedd Annie Newton, deuddeg oed Elsie Newton, ei chwaer, un-ar- ddeg oed, ac Annie Hilton, deuddeg oed. Aeth y tair am dro rywbryd yn y prydnawn ac ymddengys iddynt fynd cyn belled a'r Hyn a elwir Rumorth Lodge rhwng Bolton a Lostock. Wedi cyraedd yno tynasant eu clocsiau a'u hosanau ac aethant i gerdded hyd lan y llyn, yn ol fel y tybir. Nid oes neb a wyr i sicrwydd sut y digwyddodd y trychineb, ond credir i un o'r genethod fynd i le rhy ddwfn a suddo. ac i'r lleill geisio ei gwaredu a suddo eu hunain. Clywyd hwy yn gwaeddi gan ddyn ieuanc yr hwn aeth yno ar unwaith ac a neidiodd i'l dwr, ond methai a gweld dim ond eu hetiau yn nofio ar y wyneb. Daeth bechgyn eraill yno'n fuan, a llwyddwyd i gael un o'r genethod i'r lan, ond yr oedd yn hollol farw. Ym- hen rhyw haner awr caed corff y ddwy arall i'r lan. Plant i ddau lowr oeddynt. Yr oedd eu clocsiau a'u hosanau ar y Ian yn agos i'r lie y caed eu cyrff.

0Llys y ManDdyledion Pwllheli

-0- Llys y Man-Ddyledion Pwll- heli. Gorffenaf 7fed -Gerbron y Barnwr William Evans. IAVVN-DALIAD.—Gwneid cais ar ran gweddw, merch ac wy'r y diweddar William Williams, creigiwr o Drefor, yr hwn gyfatfu a dannvain angeuol yn y chwarel, am i'r swm o 228p. 2 o iawn- dal ganiatawyd gael ei dalu iddynt yn ran-Jaliadau. Gwnaed archeb am i 2op. gael eu talu ar unwaith, a'r gwedd- ill yn 01 3p. y mis. TAL CYNHALIAETH —CTwysid Griffith Roberts, Rhydyclafdy, gan Hanah Wil- liams, Penrhos, am y swm o 17P. 18s., J sef gweddill honedig o ddl cynhaliaeth. j—Caniatawyd 13P. 18s.

0 j Carson yn AnobeithioI

-0 Carson yn Anobeithio. RHYBUDDIO'I GAN LYN WYR I YMBAROTOI With anerch ei bleidwyr yn Larne dywedai Syr Edward Carson mai ar- weinydd gau a fyddai pe gwaeddai heddwch ac yntau heb weled unrhyw arwydd ohono. Yr oedd yn rnedd w J y gwyddai am bopeth oedd yn mynd ymlaen yn y byd gwleidyddol, ond yr oedd yn orfod arno ddweyd nas gwelai unrhyw arwydd o heddwch. Nis gwelai ddim ar hyn o bryd ond tywyllwch a chysgodion, a fhaid oedd iddynt tod yn barod.

Ystorom AngtiyfFredin

Ystorom AngtiyfFredin. GWLAWOGYDD TRYMION. Yr oedd yr ystorm o fellt a thafanau a gwlaw a dorodcl.,Iros ranau o'r wlad ddydd Sadwrn yn un o'r rhai mwyaf gerwin mewn cof. Er nad oes hanes fod bywydau wedi eu colli gwnaed cryn ddifrod ar eiddo gan y llifogydd mewn llawer man. Yr oedd y gwiaw yn tywallt yn gen- lIif yn Mangor a'r eyffiniau, ac yr oedd yr ystrydoedd wedi eu gorlifo cyn pen ychydig funudau, ac nis gallai'r carth- ffosydd gario'r dwr ymaith gan mor drwni y gwlawiai. Ni welwyd yno wlaw cyffelyb meddir er's tros bum' mlynedd ar hugain. Yr oedd yr ystorm yn ffyrnig anghyff- redin hefyd yn Bermo a'r cylch. Gwnaed ditrod ar ffcnestr siop yno gan fellten, ond yn ffodus ni niweidiwyd neb er fod y siop yn llawn o bobl ar y pryd. Saf- odd amryw finteioedd eu dal gan yr ystorm ar Gader Idris, a chawsant anturiaeth gyffrous. Collodd rhai eu ffordd yn y niwl, a buont yno am oriau lawer. Ni bu'r fath ystorm yn Rhyl er's ugain mlynedd, y gwlaw yn disgyn yn genllif. Yr oedd y mellt yn llachar anghyffredin, a chafodd pobl oedd yn ymochel yn un o'r heolydd ddihangfa gyfyng. Disgynodd llechi o ben y to i lawr yn deilchion wrth eu traed. Yr oedd y bobl a ddeuent gyda'r treu yn gorfod cerdded o'r orsat drwy ddwr hyd at eu gliniau. Yr oedd llifogydd i-nawr yn Nolgellau hefyd, a chafodd buwch i Mr Thomas Price, Brithdir, ei lladd gan fellten. t Gwnaeth wlaw trwm hefyd yn Mhorth- madog, Pwllheli a manau eraill.

I u Bronwen yn Ymosod ar Fachgen

I u Bronwen yn Ymosod ar Fachgen. Ymosododd bronwen ar fachgen bychan yn Clifton, ger Penrith. Dring- odd hyd ei ddillad, a brathodd ef yn ei wefus wedi hyny cydiodd a'i danedd yn ei fraich. Daeth mam y bachgen yno, a churodd y fronwen ymaith gyda chribyn. Bu raij galw meddyg at y bachgen. --o

I Etbolpgtab

Etbolpgtab. B&IRDD GWERIN EIFION A'U GWAITH, &c: 11 GAN CYBI. 1 Diolch i chwi, Cybi, am roi adgyfod- iad i'r hen gymeriadau, a'u doniau, o'r hen fedd lie yr oeddynt yn gorwedd yn anghof. Bydd genyf dameidiau, yn bosibl, o'r Hyfr o dro i dro, er mwyn i'r darllenydd gael amcan go lew. o'i gyfansoddiad, a phrysuro i brynu copi o hono iddo ei hun. Clywch Owen Jones, Plas Gwyn, Abererch, ar y test-yn, Cyfarchiail wrth gyfiogi gwas. A wnei di beidio diogi, ond bod yn ddyn dygyn ? A wnei di beidio ymyraeth y nos hefo morwyn ? A wnei di beidio rhegu, a wnei di beidio rhwygo— Rhywbeth yn dy feddwl, beth bynag a fyadt^ ? A wnei di oeidio caru ac yfed cwrw, Nes iti ymfaeddu a myned yn teddw ? Ac a gynulli di ormod o ganwyllau, Yn hwy nas pery gwaith nos a borau ? A wnei di beidio cario ysfa i fyn'd i bedair croesffordd, At rai heb wylder gyda'u twrw a'u bal- dordd ? A wnei di rwan dyngu na wnei di ddim d'engyd ? Ac wrthyf fi dywed, a wvt ti'n ddyn diwyd ? Clywch eto Richard Roberts (Rhydd- erch Eifion) ar r Fenyw Falcims. Hoeden lan mewn sidanau,—a swyna'r Disynwyr o'r llanciau Mal aeres a mel eiriau. Mwyn i gyd yw menyw gau.' Eto :— Am naddu Ilwya' A chafnu clocsia', > Bydd son am dwca Die Dyma rigwm digri' gan Watkin Williams, Llanarmon, am rai o blant brawd neu chwaer iddo- Pan elo Jack yn deiliwr, A Wac yn siopwr drud, A Richard bach yn graswr, Yn troi oddeutu'r yd, A Catsan yn wniadwraig, Yn troi o bobtu'r tan, A Rhobert yn delynwr Yn chware r tannau man." Mi ddiweddaf, y tro yma, trwy roi f dau benill o eiddo Robert Williams, Rhydyclafdy, ar I Y Funwent "Bro marwolaeth, oer, yw'r fynwent, Pawb yn dawel yno sydd, Heb ddychymyg, gwaith, na chyffro Yn eu hargel-wely pridd Nid oes yno ddim gwybodaeth Aoghof dir yw enw'r fan, Lie mae'n gorwedd hen ac ieuanc Yn hen fynwent oer y Llan. Yn y fynwent mae brenhinoedd, Ymherawdwyr yr un wedd, A'r tylodion, heb wahaniaeth, 0 dan len yn ngwaelod bedd Hen ryfelwyr uchelgeisiol, Rhai fu'n ddychryn yn y byd Cewri'r Ffydd, yr hen dduwiolion, Yn y fynwent maent ynghyd." MORFA, yn Y Llan a'r D"gogaeiil.