Collection Title: Darian

Institution: The National Library of Wales

Rights: The copyright status or ownership of this resource is unknown.

View full details

First Previous Image 2 of 8 Next Last
Full Screen
6 articles on this page
Advertising

BEVAN & COMPANY, Ltd, Wales' Largest Furnishers. FURNITURE FOR THE MILLION! WONDERFUL GROWTH OF OUR PIANOFORTE TRADE! We attribute the vast increase which has taken piece in our Musical Instrument Department to the fact that we are giving —:r ???t far better value than it is possible for any Firm solely dependent upon this B anch of Trade to supply. We cordially invite jm???????"?.yilL? ??u B Intending Purchasers to bring with them the best expert thev can get, and to critically examine the quality and value of our 

I Marwor Tanllydi

Marwor Tanllyd (GA M. H. CHARLES, GADLYS, ABERDAR.) Yr wyf fi, Rhys Owen o Gwm Rhondda, yn bump a deugain oed heddyw, a theimlaf er ys llawer blwyddvn bellach fod dydd pen blwydd yn meddu rhyw arbenigrwydd sydd yn peri i mi ofyn llu o gwestiyn- au rhy anhawdd eu hateb, ac yn dwyn i'm cof hefyd lawer o bethau y car- aswn am byth eu hangofio. Ond mynu wna fy nghalon daflu trem yn ol i'r gorphenol, ac adolygu'r daith. Gwelais droion chwenv yn dyrysu fy nghynlluniau, ac ami i greadur cas maleisus yn ceisio poethi'r ffwrn imi, "seithwaith poethach nag yr arferai fod"; ond ar fy lhvybrau, hefyd, cefais gymorth llawer Samaritan i wneyd fy mywyd yn oddefadwy. Mae rhyw duedd rhyfeddol yn y natur ddynol, yn enwedig lie y ca yr hen ddyn le i roi ei droed i lawr yn weddol drwm i vmddial. Dywedai Wellington unwaith, pan yn gweled Bonaparte yn cael y trecha arno "I will meet him at Waterloo." Yr oedd ysbryd talu'r pwyth yn ol wedi ei feddianu. Dyna fel y teimlwn inau pan yn ieuanc; os ymddygai unrhyw un yn wael tuag ataf, "I will meet him at Waterloo meddwn ynof fy hun. Hyderaf yn fawr fy mod crbyn hyn wedi gadael yr hen deimlad yna am byth wrth droed y mynydd. Daethum yma i'r Rhondda o sir Aberteifi yn ieuanc iawn, yn ddi- brofiad a diamddiffyn. Yr oedd rhyw ddyhead ynof am ddod i'r gweith- feydd" flynyd.doedd cyn hyny; ond gan mai fi oedd yr unig blentyn perswad- jodd fy mam fi i aros gartref. Bu fy nhad farw pan oeddwn yn rhy ieuanc i weled ei eisieu ond pan gymerwyd fy mam i ffwrdd, ciliodd pob seren o'm ffurfafen, a chredais mai yr unig fan goleu allasai fod ar y ddaear i mi mwy oedd y Rhondda. Cyrhaeddais yma ar brydnawn Sad- wrn. Gadewais awel iach glan y mor, am awel oer y mynydd a'i fil temtasi- yau. Y peth cyntaf a'm tarawai yr adeg hono oedd culni'r Cwm; blinai y mynyddau uchel fi, ac awn yn fyn- ych i'w copau er cael gweled y byd feddyliwn, ond 'doedd yno ddim i'w weled wedyn ond mynyddau. Yn union wedi i mi gyrhaedd es at y goruchwyliwr i ofyn yn ostynged- ig am waith, a llwyddais yn fy am- can. Sicrheais lety gan hen wraig mewn bwthyn bach yn ymyl v gwaith, pr hon fu yn hynod o dyner i mi, ac a ddyferodd wrthyf lawer cyngor pan oeddwn yn wan heb gar na chyfaill. Y peth cyntaf wnes bore Sul oedd gwisgo yn fy nillad gore a gofyn am y capel. Hoffai fy lletywraig y gofyn- iad yn fawr, a chyfeiriodd fi i'r capel. "Gobeithio y parwch chi fyn'd i'r capel, y machgen i," meddai. "O gwnaf, cefais fy nysgu i fyn'd i'r capel, meddwn. Ond, Och fi, dysg- wyd fi i wneyd rhywbeth arall hefyd, nid gan fy mam, mae ei dwylaw hi yn hollol lan oddiwrth hyny, ond pan yn fachgennyn ieuanc iawn yn gwasan- aethu mewn ffarm, fy meistr yn ddia- con cyfrifol, dysgwyd fi i yfed y "dablen gartre," yr hon a'm harwein- iodd i lawer o brofedigaethau. Mae tablen gartre" sir Aberteifi a sir Benfro wedi dinystrio miloedd o fech- gyn glanw edd, ac nid oes- gwcll enw i'w roddi arni na thablen ddamniol. Gwawrio wnelo'r dydd pan yr hyrddir hi o'r tir. Wedi cyrhaedd y capel, y cyntaf welais yn y sedd fawr oedd John Hughes y goruchwyliwr. Nid oedd gweinidog yno ar y pryd, a gwelais mai John Hughes oedd y goruchwyl- iwr yn v capel hefyd. Yn y gyfeillach y noson hon rhoddodd i mi gynghorion gwerthfawr, a dechreuais feddwl fod fy syniadau cyntaf am dano yn gyieiliornus. Dyn cryf ysgyrnog oedd John Hughes; cerddai bob amser gydag osga a awgrymai nad oedd ofn dyn arno, ac y disgwyliai i bawb blygu i'w orchymyn. Llywodraethai yn y g\\aith a gwialen haiarn, ac nid oedd wi". i neb anllfuddhall iddo vn v capel. J Mewn sedd arall, heb fod yn mhell o'r sedd fawr, cisteddai dynes tua chanol oed, a merch ieuanc wrth ei hochr. Denodd y ferch hono fy mryd yn lan y noson hono, ac nid hir y bum cyn dod i wybod mai merch John Hughes y "gaffer" oedd hi. Dywedai llawer o bethau wrthyf nad oedd wiw i faehgen tlawd fel fi feddwl am Gwen Hughes, merch v "gaffer," ond cofiais na chafodd John Hughes ei eni a llwy aur yn ei enau, ac mai dyn wedi gweithio ei ffordd i fyny oedd ef, ac fod digon o le i fyny i minau, a'r dyfodol yn llawn o bosibil- rwydd. i 1 V-nderfynais y v buaswn ryw ddydd yn '"gaffer" fel John Hughes, a Gwen Hughes yn wraig i mi, a gweddiais am nerth I lwyrymwrthod a'r "dablen" felldi- gedig. Breuddwydiais ganoedd o freuddwydion yr adeg hono-breudd- wydio nos a dydd, ac adeiladu myrdd o gestyll yn yr awyr, ac er nad yw y breuddwydion wedi eu sylweddoli, na seiliau'r cestyll mor gadarn ag y dymunaswn iddynt fod, eto i gyd, wrth edrych yn ol, diolchaf am y breuddwydion, cadwasant fi lawer tro uwchlaw'r don. Aeth tair blvnedd heibio, ac nid oeddwn wedi siarad gair a Gwen Hughes, er fy mod yn ei charu yn angerddol. Y r oedd rhyw ymwybydd- iaeth ynof y buasai ryw ddydd yn dod yn eiddo i mi, a dywedai rhywbeth wrthyf o hyd am ddringo—dringo. Hoffwn edrych arni bob cyfle gawn, a deliais ei llygaid lawer gwaith yn edrych arnaf finau, a gwelais y gwrid yn codi i'w gwyneb, a rhoddai hyny ljjiwer o fwynhad i mi, a chofiwn eiriau "Ceiriog "Ond coelio mac'm calon fod ysbryd eill sibrwd a thi, Eill ddywedyd y cwbl i ti." Gweithiais yn galed yr adeg hono, a sicrheais dystysgrif yn yr ail ddos- barth i fod yn oruchwyliwr mewn glofa. Pan yn dychwelyd o'r arholiad, yr hon gynhelid yn Nghaerdydd, di- gwyddais fyned i mewn yn ddam- weiniol i'r un cerbyd a Gwen Hughes a'i mam. Yn awr yr oedd yn rhaid i mi siarad, oblegid yr oeddym yn aelodau yn yr un capel ac yn Gymry. Dynes dawel addfwyn oedd mam Gwen, a deallais yn union nad oedd wedi cael arfer ond ychydig iawn o'i barn ei hun, ac fod 11aw haiarn John Hughes yn plygu pawb yn ei gartref hefyd. Gwyddwn fod Gwen yn meddu ar fwy o benderfyniad na'i mam, a siaradai'n fynych am ei thad, a chesglais ei fod yn ei golwg yn arwr heb ei fath. Blinai hyn fi i raddau, am na ddarfu i mi ganfod dim ynddo ond gwr caled. Ymhell cyn i mi gyraedd pen y daith, yr oedd Gwen Hughes a minau wedi dod i ddeall v naill y liall yn hynod o dda, a phan orfu I-ni aros am i iii aros ?tin yspaid yn Ngorsaf y Porth, aethom allan L gerdded ychydig, ac ,-no, ar ben pellaf y platfform, y rhoddais ddadganiad, mewn modd digon trwsgl, o'm teimlad tuag ati. Ni ddarfu iddi ddangos y mymryn Ileiaf o syndod, ond dywedodd yn dawel,— Y r oedd wn yn gwybod yn eitha da bo chi'n meddwl am dano i. Dar- llenais hyny yn eich llygaid ddegau o weithiau. "Gobeithio fy mod inau yn iawn yn fy narlleniad o'ch llygaid chwithau," meddwn;-a chydiais yn ei llaw, ac ni wnaeth yr ymdrech leiaf i'w thynu vn 01. Ddowch chwi allan am dro nos yfory?" meddwn, gan ddisgwyl yn daer am atebiad cadarnhaol. "Oni bai am fy nhad," meddai, "nid wyf yn credu y byddai un rhwystr ar y ffordd." "Eich tad," meddwn mewn syndod. "Beth sydd a fyno efe a'r mater?" Dywedaf i chwi yn awr. Mae Tom Powell, gaffer y lofa nesaf atom, yn fy mhoeni er ys misoedd. Dywed ei fod yn fy ngharu, ond yr wyf fi yn ei gashau, a'r gwaethaf vw ei fod wedi enill ymddiriedaeth fy nhad mor llwyr. Yr ydych mewn oedran i bender- fynu mater fel hwn eich hunan, goelia 1. "Yr wyf yn ddigon hen, mae'n wir, ond mae fy nhad yn agos i mi, ac wedi gweithio yn galed er enill y safle mae ynddi, ac ni charwn er dim achosi poen a gofid i fy rhieni." Ddowch chi allan nos yfory ?" meddwn yn frysiog, gan fod v tren yn dod. "Deuaf," meddai hithau, "byddaf am saith o'r gloch gerllaw siop Jones y Draper." Daeth y tren, a chyn hir yr oeddem ar ben y daith. Yn yr orsaf yn cvfar- fod Mrs Hughes a Gwen yr oedd John Hughes a Tom Powell. Es allan yr un pryd a Gwen, ond ni wnaeth John Hughes gymaint a chydnabod fy modolaeth. Yr oedd wedi ei lyncu mewn edmygedd o Tom Powell, a gwelais ei fod ynddo ei hun wedi pen- derfynu tynged Gwen. Ond cododd yntau gestyll yn yr awyr. (I'w barhau.)

ARGR AFFWAITH

ARGR AFFWAITH. Am bob math o Argraff waitt, I ymofyner yn Swyddfa'r "Leader" a'r "Darian," 19 Cardiff Street, Aberdar

Eisteddfod Gadeiriol Minny Street Caerdydd

Eisteddfod Gadeiriol Minny Street, Caerdydd. Testyn y Gadair-" Yr Aelwyd Gymreig. Denodd y testyn tlws a barddonol hwn feirdd gwych i ganu arno. Daeth un a deugain o awenyddion i'r gystad- leuaeth, ac y mae mwyafrif o'r prydd- estau yn wir dda. Syhvn arnynt ar antur ac nid fel y safant yn y gystad- leuaeth. Bugail y Mynydd.—Pryddest ragorol, llawn o feddwl. Gresyn fod cynifer o wallau sillebol mewn cerdd mor dda. Afradlon.-Cerdd sionc a melysj ond nid oes iddi ddyfnder na gwir galon yr aelwyd Gymreig. Can y bardd heb feddwl digon cyn cychwyn. Tant Hiraeth.—Can semi a dirodres, ond heb feddu llawer o angerdd. lorwg.-Cerdd lithrig o naws awen- yddol ond heb feddu na dyfnder nac uchder. Peredur.—Nid cystal a'r rhai blaen- orol o dipyn, arwynebol yn hytrach yw y gerdd hon. Nid oes llawer o chwaeth na barddoniaeth mewn cwplet fel hyn. Daw'r eneth Ion, frysur hulio'r bwrdd, O'i ffordd mewn braw v gath a'r ci red ffwrdd!" Rhwng y Bryniau.—Pryddest llawn o deimlad ac anwyldeb. Hapus Luddedig.—Cerdd a llawer o deilyngdod ynddi, ond mae ynddi lawer o linellau cloff ac afrwydd, a lluaws o wallau mewn odlau. Wrth y Tan.—Cerdd dyner a lion ei hysbryd. Hoff genym eistedd wrth ei than. Y Ddraig Goch.Cerdd dda iawn, a'i hysbryd yn iach a llawer tant barddonol ynddi. Hafod y Cwm.—Cerdd dlos a hyfryd. Yr oedd yn ein swyno wrth ei darllen. Bachgen o'r Wlad.—Nid cystal. Ceir yn hon llawer o bethau da, ond tuedda i gymysgu ffigyrau ac nid yw yn hedeg yn uchel, ond ymgais dda er hyny. Adlais.-Pryddest lied arwynebol yw hon, a rhai darnau anystwyth ynddi. Nid yw barddoniaeth yr aelwyd Gym-I reig yn cael lie ynddi. Awel Burol y Bore. Pryddest ys- twyth a glan, yn dweud llawer am nod- weddion yr aelwyd Gymreig ond heb eu barddoni. Oudochiad.—Agor yn dda a dymunol, darnau gweinion yw rhai canol y gerdd. Nid yw v bardd ar ei oreu o bell ffordd. Mab yr Hafod.—Pell o'r gadair yw cerdd ac ocllau fel hyn. Trist yn odli gyd Chalfari; Wern gyda thrachefn Fam gyda mam. Rhaid i Mab yr Hafod" ddysgu odli yn gywir cyn an- turio eto i faes cvstadleuaeth. Awenydd y Wawr.—Cerdd ysgafn ei cherddediad a diniwaid ei hawenydd- iaeth. Gallasai y bardd ragori. Deigr ap Deigron. Ceir lluaws o darawiadau barddonol iawn yn y gerdd hon, a lluaws o'r rhai mwyaf anfarddon- ol hefyd. Tuedda i gymysgu y ffigyrau yn awr ag eilwaith, megis "Cyfandir- oedd yn boddi," etc. Bugail yr Hafod. Cerdd hwylus iawn, a thant awenyddol per yn seinio trwyddi, ond nid chwaethus mewn pryddest i'r aelwyd Gymreig yw y gair "dresser. Llion.-Cerdd wir dda a than yr ael- wyd Gymreig yn gynes iawn ynddi, ond nid hapus gweld y bardd yn newid ei fesur mor sydyn yn ei benill cyntaf, a synaf hefyd weled cynifer o odlau amhur mewn cerdd mor awenyddol a hon. Llywarch Hen.—Pryddest dda iawn. Ambell odl amhur ac ambell linell an- ystwyth. Hen Gymro.—Cerdd yn darllen yn hyfryd iawn, ond rhyfedd mor amhur mae ei hodlau. Gerallt y Cymro.—Darllena hon eto yn lied lithrig, ond lied gyffredin yw ei hawenyddiaeth. Ni cheir tlysni yr ael- wyd Gymreig ynddi. Acen Hiraeth.—Cerdd Ian a nwyfus. Mae gallu gan yr awdvvr i linio llinell gain. Alitud.-Cerdd felys iawn, glan a byw ei hysbryd. Taw.—Yr ydym yn mhell islaw "All- tud" ac "Acen Hiraeth" yn awr. Lied gyffredin yw hon. Nid bardd yn ei iawn bwyll osodai Cymreig i odli a Cymreig. Mae swn anaddfedrwydd yn y gerdd hon o'r dechreu i'r diwedd. Morgan.—Cerdd yn llawn o dan Cym- reig yw hon a'i cherddediad yn felys dros ben. Ym Mwthyn Cymru.—Cerdd loew a hyfryd yw hon hefyd, ond heb fod yn ddigon Cymreig ei cherddediad. Un Mewn Dychryn yn Dechreu.—Nid yw cystal a'r un flaenorol, mwy arwyn- ebol o lawer, a chan yr awdwr ar antur. Dan y Derw.—Emynol ei harddull yw y gerdd hon, ac heb fod yn taro o gwbl i fyd swyn yr aelwyd. Dechreu Canu. Melys dros ben. Hoff genym gwmni hwn. ond pa fodd y Ilithrodd dawn ganddo i odli a hwyr? Pie 'roedd clust v bardd? Yn y mesur hwn, rhaid cael yr odl union. Abad.-Cerdd feddylgar, ond mae yn ddi lawer o odlau gwallus a diofalwch. Nid persain yw prin a gwin yn y brif odl. Sur Esperance.—Cerdd lan a nwyfus eto, ond nid yw dyfnder gloewder yr aelwyd Gymreig yn cael ei gyrhaedd ynddi. Hen Adgof Hiraeth.-Dyma un yn can fel y myn. Nid oes ganddo namyn na chorfan nag odl gywir. Dylasai cys- tadleuydd fel hwn ddangos ei gynyrch- ion ar bob cyfrif i rhyw fardd profiadol cyn danfon i gystadleuaeth. Nid Twm o'r Nant.-Lled gyffredin yw y gerdd hon hefyd ar y cyfan, er fod amibell gwplet go dda ynddi. Nid yw ei hargraff yn gywir o hyd ychwaith. Alltud y Liethrau.-Cerdd ragorol yw hon. Gwyr yr alltud sut i ganu yn llednais a pher. Ifor Emrys.—Go hen ei harddull yw y bryddest hon. Mae ei hodlau yn hynod o amhur hefyd. Yr ydym allan o awyr- gylch awenyddol y testyn ynddi. Rhaid i Ifor Emrys feddwl ilawy a saernio vn well. Mab ei Derw.Pryddest fendigedig yw hon. Glan ei gwisg a'i llinellau wedi eu saernio yn gelfydd, a chedwir ni yn awyrgylch swynol yr aelwyd Gym- reig o'r dechreu i'r diwedo. Selah.—Llawer o deilyngdod yn hon, ond mae ei hodlau hithau yn amhur iawn. Can y bardd ar garlam heb aros digon i ganu ei darluniau. Adsain yr Adfail. Cerdd hyfryd a swynol ond nid awenyddol bob amser. Nid barddoniaeth yw lilnellau fel hyn At Genhedloedd o ddysg uchel Llifa heddyw ei chyfaredd, Drwy gyfryngau cerdd a novel Can y bardd a deddf y Senedd." A pha fodd y syrthiodd y bardd i hep- ian gydag odli geinferch a Cromlech? Yr Hen Gadair Freichiau.—Pryddest a llawer o wir farddoniaeth ynddi ond yn colli mewn cyfanrwydd swynol yn aelwyd Gymreig. Tan Twm Ergo. Cerdd soniarus iawn. Mae llu o bethau rhagorol yn hon. Dyna ni bellach wedi mynd dros y Pryddestau i gyd, a gellir dweud yn ddi- trus fod y mwyafrif o ddigon yn wir deilwng o'r gadair, ond y mae yma am- ryw er hyny yn rhagori mewn teilyng- dod, sef Bugail y Mynydd; Rhwng y Bryniau Wrth ei than Hafod y Cwm Llion; Alltud; Morgan, ac Alltud y Lethrau. Ond y mae un arall sydd yn apelio yn gryfach atom ac yn cydio yn ddyfnach yn ein calon, sef Mab ei Derw, felly cy- hoeddir ef yn wir deilwng o eistedd yn Nghadair Eisteddfod Minny Street, Caerdydd, am y flwyddyn 1913. Ar air a chydwybod, BEES REES (Teifi). Caerdydd.

Trefforest ar Cylch

Trefforest a'r Cylch. I Bethania, Capel y Methodistiaid, Coedpenmaen, yr oedd tynfa tyrfa nos Iau, Ionawr 22ain, i wrandaw y Cor dan arweiniad medrus y brawd, y blaenor, a'r arweinydd rhagorol, Mr David Lewis. Testyn y gyngherdd oedd "Coron y Flwyddyn." Cawsid y gyngerdd fis yn ol, a thynasai y fath sylw fel y taer gveisiwyd hi eilwaith, a chredwn wrth agwedd y dyrfa bydd galw buan am dani eto. Cawsom ddwy alaw, un gan Mr W. Lewis, a'r llall gan Tom Jones, a rhagorol oeddent. Canwyd y berdoneg gan Miss Hancock, a'r organ gan Mr D. Jones. Hardd yn wir oedd y Brenin ar ei orsedd, a'r goron ar ei ben, sef y brawd Tom Lewis. Hapus oedd ym- drech y misoedd am y "Goron," ond Rhagfyr aeth a hi am eni Ceid- wad Dyn. Cadeiriwyd yn fedrus fel arfer gan y Cynghorwr T. Taylor. Mrs Jones, o ochr y Tramroad, a aeth adre yn da wel mewn oedran teg. Saer yn ngwaith Cadwyni Pontypridd oedd Mr J. Jones, ac ef a'r teulu yn byw gynt ar Heol Merthyr. Treul- iasant flynyddau yn y He, a'r plant mewn cylchoedd hapus. Dioddefasai Mrs Jones yn hir, ond daeth y diwedd er galar iddo ef a'r plant. Swn cynnydd sydd yng ghraig-y- Fforest o hyd. Er fod cryn bwyso ar y blwch, eto mae y blwch yn llawnach nag y bu erioed. Prawf yw hyn o ofal a threfn. CYFAILL JOHN.

Advertising

  Cadewch imi slarad a chwi am I I Cadewch Iml .ial'Ad a chwl am I Mae i!dr btegO! m ¡ wifrau'r pellebr. Rheolir a maethir J ???? ?????? -??S????. hwy gan ran o'r ymennydd adwaenir  fel y canolfan gieuol. Dibynna '—< B cyflwr y canolfannau g11 mol ar gyflwr yr iechyd corfforol. l'al1 amherir yr iechyd corfforol cyd-ddioddefa'r Bfe «? ? ?t ? nerfau. Yr adeg hynny y pcenir ni ??\   ? ?? gyda nerfau "-cur pen, niwralgia, ??<  ? AH gwendid gieuol. Mewn achosion W ?"?? felly 'does dim tebyg i Wincarnis,' w ?'??<'?7 ?W ??y Wincarnis' w I ? Gwin y Bywyd.' Mae Wincarnis' f I ? fl yn fwyd cryf i'r nerfau sy'n gweith- ??''    ? redu'n union gyrchol ar y canol- fannau nerfol ac a rydd iddynt n fywyd tiewydd a bywiogrwydd newydd. Mae'r canlyniad yn rhyfeddol. Dechreuwch wella'n RHAD Anfonwch am brawf-gostrel rhad o 'Wincarnis' -nid ei flas yn unig, ond digon i wneud Ilea. Amgauer tri stamp ceiniog (i dalu'r cludiid). COLEMAN & CO., LTD., W. 169. Wincarnis Works. Norwich. iff y  y Bywyd" I ft Cymeradwyir gan dros 10,000 o Feddygon. J Cymeradwyir gan dros 10,000 o Feddygon.  r:<   y ?' N MIRACULOUS EFFECTS! I have suffered from Pile and Gravel-for four years, during which time I was quite disabled, and never, during this time, had a whole night's rest. I was at last induced to try a box of your Pile and Gravel Pills, and incredible as it may appear, after I had taken but a few doses, I felt as if I had had another body. Encouraged by the effects of one box, I took another, and now I am free from all pain, a living testimonial to the miraculous effects of these Pills. Yours truly, D. WILLIAMS, Penralltwen, Newcastle Emlyn. IMMEDIATE RELIEF! I feel happy in bearing testimony to the efficacy of your Pile and Gravel Pills in my own case. Also in numerous other painful cases of long standing in which your Pills have given immediate relief, and in a short time effected a perfect cure so the weak in faith may be assured of their efficacy to accomplish what they are professed to do. Yours truly, THOS. PHILLIPS, Grocer, etc., Caeremlyn, near Whitland. Y mae y Feddygini aeth werthfawr hon i'w chael mewn tri ffurf. No. I, George's Pile and Gravel Pills (label wen) No. 2.-George's Gravel Pills (label las) No. 3.3eorge's Pills for the Piles (label goch.) Gwerthir y Pelerii Byd-glodus hyn yn mhob man, mewn Blychau 1/ a 2/9 yr un. Gyda'r Post am 1/2 a 2/10. Goohelwch Dwyllwyr I-Gofynwoh yn eglur am ".George's Pills," a gwelwch eich bod yn eu cael. PERCHENOG- J. E. GEORGE, N|.R.P.S., HIRUDIN, ABERDARE.