Collection Title: Dydd

Institution: The National Library of Wales

Rights: This resource is copyright of Cambrian News Ltd.

View full details

First Previous Image 2 of 8 Next Last
Full Screen
4 articles on this page
TREM AR Y SEFYLLFA

TREM AR Y SEFYLLFA Y mae y blockade, sef ymgais yr Almaen i geisio newynu Prydain drwy suddo ein llongau ar y moroedd yn bythefnos oed. Suddwyd, yn ystod yr amser yma, wyth o longau Prydeinig, a chwech o rai perthynol i wledydd amhleidiol. Ychydig fywydau gollwyd, ac ni anmharwyd dim ar drafnid- iaeth fbrawl y deyrnas hon. Dywedir fod America wedi yinyryd yn y mater uchod, ac wedi cyflwyno cynygion cyfrinachol i Lundain-a Berlin. Ni wydd- is Hawer am danynt, ond credir na dder- bynir mohonynt gan. yr Almaen na Phryd- ain. Yn y Senedd dywedodd Mr. Asquith, y prif-weinidog, fod y Llywodraeth yn bender fyno 1 o warchae Germani mewn gwirionedd, a chadw pobpeth rhag myned i'r wlad na dyfod o honi. Gwneid hyn heb berygl i longau amhleidiol. Cafwyd gan y Prifweinidog olwg ar ag- weddau arianol a milwrol y rhyfel. Cyf- 1 wynai ddwy bleidlais i'r Ty am symiau aruthrol. Gwerir yn awr agos i ddwy filiwn y dydd. i Yr oedd y Prifweinidog, er hyny, ac er pobpeth, yn hyderus a gobeithiol. Y RWSIAID. O r dwyram daw newyddion calonogol am y Rwsiaid. Bu ymladd caled o am- gylch yr afon Niemen. Yn nechreu yr wythnos mynegodd yr Almaenwyr fod Przasnysz wedi syrthio i'w dwylaw, ac iddynt gymeryd 10,000 o Rwsiaid yn gar- charorion. Ond nid oedd hyny'n wir Yn He cael eu gorchfygu yma, y mae y. Rwsiaid wedi rhoddi curfa dost i'r gelynion, y rliai sydd yn prysur encilio. Y mae y ddwy fyddin yn ymladd ar lan afon am 150 milltir o hyd. Credir y bydd hon, pan y tyr allan, yn frwydr ofnadwy. Ceisiodd yr Almaenwyr dori rheiliau y rheillfordd o Grodno i Warsaw, ond meth iant fu yr ymgais. Fodcl bynag, 'croes- asant yr Afon Niftnen y tu uchaf i Grodno, a gwersyllasant ar y dde iddi. Beil y Rwsiaid eu tir ym Mwlch "y Car pathians. Yn Nwyrain Galicia buddug- oliaethodd y Rwsiaid, ac y maent yn ym (1Jsod ar Czernovitz- Ii ) YN Y SORLLEWIN. I Yn y gorllewin deil y Ffrancod a'r Pryd einwyr i lwyddo, os yn araf, eto yn sicr. Cafodd y Ffrancod fuddugoliaeth fawr yn Champagne a Perthes, a'r amgylchoedd Gadawodd yr Almaenwyr 3000 o feirw ar faes y frwydr. Yng nghymydogaeth La Bassee, lie yr enwogodd y Prydeinwyr eu hunain, ni fu llawei o ymladd oherwydd niwl a thvwvdd gwlyb. Yn St. Mihiel y mae y Ffrancod wedi ym lid vr Almaenwyr dros y bryniau deheuol yn nyffryn y MeuseJ W Enillodd y Cyd fyddinoedd frwydrau pwysig yn Flanders—Par ha a wyr en wyr y Cyd-fyddinoedd i wneuthur gwaith rhagorol. v

TANBELENU Y DARDANELLESI

TANBELENU Y DARDANELLES. I Y mae niter o longau rliyfel Prydeinig a jI Ffrengig wedi bod wrth y gwaith o dan- I belenu caerfevdd v Dardanelles, gan wneud cryn ddifrod. Canlyniad yr ymosodiadau diweddar yw fod pedair amddiffynfa wedi cael eu dinystrio'n llwyr yn y fynedfa i'r culfor. Yr oedd un o'r amddiffynfeydd hyn yng ngofal y Germaniaid. Y mae'r amddi- ffynfeydd wedi eu gwneud yn ol y cynllun- iau diweddaraf, ac y mae ynddynt ynau trymion. Y mae'r Narrows yn dechreu oddeutu un milltir ar ddeg o'r amddiffyn- feydd allanol, ac yma, yn ol pob tebyg, y bydd yr ymdrech fawr. Wedi'r tan-beleniad cvntaf, daeth tywydd anffafriol; ond ail-agorwyd y tan ar y pedair caerfa wyliant enau'r Culfor fore Iau. Yn arwain yn yr ymosodiad yr oedd y Queen Elizabeth, y ddiweddaraf o'r Super- Dreadnoughts, yr hon all luchio pelen dunell o bwysau ugain milltir o ffordd. Yn ol y newyddion diweddaraf y mae y llongau rhyfel yn dal i ymosod, ac yn gwneud gwaith ardderchog. Mae'r ymgyrch yn amlwg i'w chario allan gyda phob nerth posibl, a'r hyder yn cryfhau bob dydd y llwyddir i agor y drws i Rwsia anfon ei chyflenwad o rawn ac ymborth allan, a derbyn cyflenwad o arfog aeth ac angenrheidiau rhyfel i fewn. -0--

I ARTHOC J

ARTHOC.) J Y Gymdeithas Ddiwylliadol.Ca.iwyd gwledd ardderchog i ddiweddu y gyfres I cyfarfodydd am y tymhor, ynghyda chyf arfod ardderchog dros ben. Gwasan- aethwyd wrth y byrddau gan y chwiorydd I canlynolMrs. Williams, P.O. Misses I M. M. Ellis, G. Rowlands, M. 'Pugh, C. « Jones, a J. H. Jones, a gwnawd ganddynt drefniadau ardderchog er boddhad i bawb oedd yn bresenol Yr oedd 60 wedi dod i'r wledd, a phob danteithion o'r fath oreu wedi eu gosod o'u blaenau a mwynhaodd I yr oil oedd yn bresenol eu hunain yn ar- dderchog A ganlyn ydoedd rhaglen y cyfarfod gafwyd ar ol y wiedd, dan lyw- yddiaeth ddeheuig y Parch. J. Williams Davies. Dechreuwyd trwy gael piano- forte solo gan Mr. Goronwy Davies, Bee í Hive; Cystadleuaeth Stori Fer, 1, Mr. Elli6 J. Evans, Nantygwyrdd-ddail; Cys- tadleuaeth Dychymygion Cymreig, cyf- artal, Mri. Goronwy Davies a Gwylfa LI I Wynne; Am yr eglurhad goreu ar y I Ddiareb Y garreg a dreigla ni fwsogla," 1, Mr. Goronwy Davies Cystadleuaeth Deuawd, Y Lili a'r Rhosyn," 1, Miss I Sarah Davies a Mr. Robt P. Roberts; f Gystadleuaeth unrhyw Don o Lyfrau Cym- anfa 1915, 1, Mr. Mynorydd Wynne; I Chwareu ar y Berdoneg, Fairy Blossoms, f 1, Miss Ceridwen Ellis; Cystadleuaeth darllen darn a nodwyd ar y pryd o Car- trefi Cymru," 1, Miss Ceridwen Ellis. anwyd gan barti'r merched yn ardderchog dan a weiniad Miss Sarah Davies. Hefyd j cafwyd detholiad rhagorol dros ben o'r Y Ganaan Hyfryd," dan arweiniad Mr. i Robert Pugh, Erwgoed. Cafwyd ad- roddiad gan Mr. Morris C. Jones Unawd rhagorol Y Gloch," gan Miss Dilys Wynne Hefyd unawd rhagorol eto gan Miss Sarah Davies. Cafwyd cystadlu da ar y gwahanol gystadleuaethau. Cafwyd anerchiadau gan y Parch. J. Williams- Davies, a'r Mri. Morgan Williams a Cad- waladr Roberts. Cyfeiliwyd yn ystod y cyfarfod gan Misses M. Roberts, Ceridwen Ellis, ac O. B. Jones. Perffo miwyd Dranto chwaethus dros ben, dan y penawd Y Gwas Gwerthfawr." Cymeriadau. Mr. Williams, P.O. (Yr Amaethwr) Miss G. Rowlands (Ei Wraig) Mair Williams, Jennie Jones, R. J. Williams, D. Glynn Jones (Y Plant) Mr. Robert Pugh, Erwgoed (Y Gwas) Mri. Goronwy Davies, Mynorydd Wynne, W. Morgan Williams (Cyfeillion i Mr. Williams yr Amaethwr). Cafwyd hwyl iawn wrth eu gwrando. Drama deuluaidd ydoedd.— Cafwyd cyfarfod hynod o ragorol yng ngwir ystyr y gair, a chynulliad rhagorol o bell ac agos wedi dod ynghyd er fod yr hin braidd yn anffafriol. Diolchwyd.yn gynes i bawb am eu gwasanaeth yn ystod j y tymhor oedd yn diweddu. Yn ystod < y cyfarfod gwnaed casgliad i'r Milwyr Cymreig,—achos teilwng iawn yn yr argyfwng presenol,—a chafwyd casgliad sylweddol.—Beirniadwyd y gwahanol gystadleuaethau gan y brodyr canlynol:— Cerddoriaeth, Mr. Morgan Williams a Mr. D. J. Owen, Fairbourne Pianoforte Solo, Miss Roberts Amrywiaeth, Mri. Wm. Williams, C. Roberts, a Morgan Williams. I Pasiwyd cydymdeimlad a/r Parch. E. Jones Edwards yn ei- absenoldeb o'r cyfarfod oherwydd afiechyd, gan ddymuno iddo I adferiad buan. Y cyfarfod rhagorol a'r te oedd testyn siarad y boreu dilynol; ac yn wir yr oedd hefyd. Diolchwyd yn gynes i'r chwiorydd. Derbynied y cvfrj-w hyn.-(W. M. W., P.O.)

HAWLIAU CYMRU

[ HAWLIAU CY-MRU. Blinir y rhengau Ymneilltuol eto gan beth ansicrwydd ynglyn a'r Ddeddf sydd i sicrhau cydraddoldeb crefyddol i ni fel Cymry. Ac nid yr ochr Ddatgyssylltiol sydd o bwys yn ol pob golwg. Sylwedd ola'r ymgyndynwyr fod hynny yn an- ocheladwy., Yr anan—dyna i gyd sydd yn blino'r Eglwyswyr. Nid oes dim arall yn ymddangos yn werth ystyriaeth pan eir at wreiddyn pethau. Rhowch y I gvaddol,-rhowch y degwm a'r glastir a'r mynwentydd iddynt, ni wath gan y cwbl ohonynt ddim ffeuen am y gweddill. Dyna'r casgliad y gorfodir pawb diragfariti i ddod iddo. Maent yn ddiweddar yn ceisio cael gwell telerau i'r clerigwyr ynglyn a'r bywiolaethau newyddion y penodir hwy iddynt. Dygodd Due Devonshire fil i fysg yr arglwyddi i atal y Ddeddf rhag. dod i rym hyd ar ol y Rhyfel, ac edrych arni fel un basiodd, nid ym Medi 1914, ond wedi i'r terfvsg Ewropeaidd orffen. Y mae llawer o enill yn hyn i'r Eglwyswyr, ac y mae llawer o golled ac o berygl ynddo i'r Ymneilltuwvr. Rywfodd enillwyd v Prif-weinidog i gredu hefyd fod cwvn gyfreithlon gan yr Eglwys, ac addawodd ail-ystyried rhai pethau. Rhwng y cwbl, nid vdym allan o'r coed." Y mae'n aruthrol bwysig i ni fod ar ddihun. Chyfrifa'r ffaith fod Rhyfel yn bod ddim gyda/r Torïaicl. i'w cael i acktel llonydd i bwnc fel hyn eithr daliaht i gynhenu a dadleu o hyd. Mor bell ag yr awn ni,- mae'r frwydr drosodd ar Gwestiwn Dat- gyssvlltiad a Dadwaddoliad eithr mynant hwy ei wneyd yn bwnc cvnen a chwestiwn a chyffro o hyd. Os bradychir Cymru Ymneilltuol pan y mae ar ei goreu yn llenwi y rhengoedd i fyned i faes y gad, nid anghofir byth mor brad