Collection Title: Dydd

Institution: The National Library of Wales

Rights: This resource is copyright of Cambrian News Ltd.

View full details

First Previous Image 3 of 8 Next Last
Full Screen
11 articles on this page
RHYDYMAIN I

RHYDYMAIN. I Noson Lawen.—Cynhaliwyd gwledd a. chyngherdd ymadawol Mr. Hugh Thomas, Dolyddeulif, gan gor Rhydymain, nos Wener cyn y diweddaf yn Hywel Dda, Drwsynant. Daeth y cor ynghyd yn gryno at yr amgylchiad. Am 8 o'r gloch, mvvynhawyd swper rhagorol ddarparwyd ar ein cyfer gan Mrs. Roberts. Gwnaeth pawb gyfiawnder a'r danteithion rhagorol, a chlywais sibrwd fod rhai wedi bwyta gormod. Ar ol y wledd cafwyd cyngherdd pryd y cymerwyd y gadair gan R. Roberts, Ysw., Drwsynant, ac arweiniwyd gan Mr. Humphrey Jones, Wenallt. Yn ystod y cyngherdd cyflwynwyd anrheg, sef metronome hardd gwerth £ 2 12s. 6c. a phwrs o arian i Mr. H. Thomas-ar ran y Cor—gan Mr. David Griffiths, Hafod Meredydd, a chafwyd araeth gampus ganddo. Y rhai canlynol gymerodd ran yn y cyngherdd: :,Nlr. W. Edwards, Mr. John M. Jones, Mr. Edward Thomas, Mr. Humphrey Jones, Miss Maggie Williams, a Miss E. J. Thomas. Cyfeiliwyd yn fedrus gan Miss Eira James a Miss Cather- ine Griffiths. Hefyd cawsom selections ar y Gramophone gan Mr. Evan Williams, Llanuwchllyn. Terfynwyd noson nodedig o lawen gyda dadganiad gan y Côr. Un o'r Boys.I .1 I I

IICYFARFOD DOSBARTH DOLCELLAUI

II CYFARFOD DOSBARTH DOLCELLAU. I Cynhaliwyd y Cyfarfod Dosbarth yn I Hermon, ddydd Mercher, Mai 26ain, o I dan lywyddiaeth Mr. E. W. Evans, U.H. Cafwyd nin ddymunol iawn, a daeth nifer dda o'r gwahanol eglwysi ynghyd. Yng nghyfarfod y prydnawn, cafwyd ymdrin iaeth ar y mater-" Cadwraeth y Sabboth" —mater fu dan ystyriaeth yng Nghym- deithasfa Gwrecsam. Agorwyd y drafod aeth gan y Parch. D. O. Ellis, Hermon, a siaradwyd ymhellach gan y Parch. O. Lloyd Owen, Mri. Richard Evans, John Edwards, a Cadwaladr Roberts, U.H. Yn yr hwyr, cynhaliwyd y Seiat. Agor- wyd y drafodaeth ar y mater penodedig— Ie Ymgysegriad i waith Crefydd," gan y Parch. John Radcliffe, B.A., B.D. a Mr. David Williams, Bethel, Dolgellau. Siar- adwyd ymhellach gan y Parch. T. Mordaf Pierce, Mri. W. G. Jones, a Edward Wil- I liams, Council School. Cafwyd Seiat ragorol ymhob ystyr. I J. Francis Griffith, Y sg. f II

DEWRDER AWYRENWYR I

DEWRDER AWYRENWYR. I Dzunaw o Awyrenau yn cymeryd vhan. I Boreu dydd Iau, darfu i 18 o awyrenau Ffrengig ymosod ar ffactri bwysig yn Lud- wigshafen, yr Almaen, lie y troir allan I ffrwydbelenau i'r Fyddin Germanaidd. Torodd tan allan mewn amryw leoedd. Bu yr awyrenwyr am oddeutu chwe' awr yn yr awyr, a theithiasant bellder o 400 milldir. Darfu i Aglwydd Barrymore anfon Hong < yn llawn o flodau i'w gwasgaru uwchben y llecyn He y suddodd y Lusitania.

ATEBION I OFYNIADAU

ATEBION. I OFYNIADAU. BLWYDD-DAL I FILWYR CLWYFEDIG. Yr wythnos diiweddaf rhoddwyd manyl- ion am y blwydd-dal a ganiateir i weddwon ac amddifaid milwyr a gollant eu bywyd yn y rhyfel presenol- Yr wythnos hon cyhoedda'r Llywodraeth manylion am y symiau wythnosol a delir i forwyr a milwyr a analluogir, drwy glwyfau neu ddrwg arall a geir yn y Rhyfel, yn hollol neu mewn rhan, i ddilyn eu gwaith. Ca milw. cyffredin a analluogir yn hollol, 25s. yr wythnos. Ca Non-commissioned Offi- cers o 27s. i 31s. yr wythnos, yn ol eu gradd. Os bydd yr analluogrwydd mewn rhan yn unig, a'r dyn yn medru gweithio rhyw gymaint, ca'r cyfryw dal wythnosol ag a wna i fyny gyda'r cynog y tybir y dylai fedru enill y symiau a nodwyd uchod. Caniateir hefyd 2s. 6c. yr wythnos ar gyfer pob plentyn a anwyd cyn iddo gael ei an- alluogi, tan y byddo'r plentyn yn 16 mlwydd oed.

CLOWYR CYMRU A GWYUAUR SULCWYN J

CLOWYR CYMRU A GWYUAU'R SULCWYN. -Apeliodd y Llywodraeth yn aaer at Lowyr y Deyrjias i beidio cymeryd ond un diwrnod (y Llun) yn unig o wyliau'r Sul- gwyn gan fod cymaint o angen glo. Apeliodd arweinwyr y dynion eu hunain yr un mor daer atynt. Troi clust fyddar a wnaeth llawer at yr apel. Mewn pedwar pwll glo perthynol i Gwmni'r Cambrian, 4,700 o ddynion ddaeth at eu gwaith fore Mawrth allan o 8,514 a ddisgwylid. Yn Nosparth Tredegar'dim ond un gweithiwr o bob tri a ddaeth. Ni weithiwyd o gwbl yn Nosparth y Blaena lie y ceir 8,000 o ddynion. Cyfartaledd bychan ddaeth at eu gwaith yn Nyffryn Aberdar. Rhyw un o bob tri a ddaeth yn rhai o byllau Merthyr a Dowlais. Yn awr pan mae swydd newydd wedi cael ei chreu i Mr. Lloyd George, ac y bydd y cyfrifoldeb am gyf- lenwi pob cyfarpar rhyfel yn gorffwys ar ei ysgwyddau ef, gellir bod yn sicr y ceidw efe lygad manwl ar ol pob esgeuluswr o hyn allan. I COST Y RHYFEL.—Dengys Adroddiadau Swyddogol y Llywodraeth fod y wlad hon yn unig wedi gwario ym mis Ebrill eleni ar gyfartaledd ?14,000,000 bob wythnos, neu ar gyfartaledd ddwy filiwn o bunnau'r dydd bob dydd o'r mis, ar y Rhyfel. Mewn geiriau eraill costia'r Rhyfel yn awr fwy mewn wythnos nag a delir o Flwydd- dal i Hen Bobl mewn blwyddyn. Dyma reswm sy'n apelio at bob un yn y Deyrnas I i wneud ei oreu i gaiio'r Rhyfel ymlaen yn egniol er mwyn ennill buddugoliaeth lwyr a buan.

CYRFA VC 1 I

CYRFA V.C. < I — Yn ystod tri mis o amser daeth a ganlyn i ran yr Is-gadben Cyiil Gordon Martin (5th Field Royal Engineers) Ei glwyfo ddwvwaith. I Enill y D.S.O Enill y V.C. Nid yw ond 22 mlwydd oed, ac y mae yn ea,l adgyfnerthiad iechyd yn East- I bourne. Dywed ei fod yn dyheu am fyned i'r rhyfel eto, er ei fod, meddai, yn cymeryd oddeutu wythnos o amser i un gynefino gyda'r gynau.

TAN DIFAOL 4

TAN DIFAOL. 4 Deg o Denluoedd yn Ddigartref. Dydd Gwener, hysbyswyd fod canol pentref Melbourne, ger Hitchin, wedi ei ddinystrio gan dfin- Llosgwyd pymtheg o dai yn llwyr, a gwnaethwyd deg o deuluoedd yn ddigartref. N "— J\ H- I

t HI fFRWYDRIAD MEWN LLONGI

t HI fFRWYDRIAD MEWN LLONG. Colli yn agos i 300 o Fywydau. .i- Dydd lau, chwythwyd y llong brydeimg —The Princess Irene-yn yr afon Medway. Digwyddodd y ffrwydriad am 11-15 c/r gloch y boreu. Gymaint oedd nerth y ffrwydriad fel y toi wyd ffe.nestri yn Sitting- bourne, wyth milldir o bellter ar draws yr Afon Medway. Suddodd oddeutu dwy filltir o belltero Sheerness, a hyn mewn chwarter awr o amser. Hyi a wyddis ni achubwyd ond pump allan o tua 300. Deuwydo hyd i 50 o gyrff. Yr oedd oddeutu cant o ddyn- ion yn gweithio ynddi ar y pryd, llawer ohonynt yn fechgyn. Agerlong ydoedd, ond wedi ei chyfaddasau fel llong-ryfel- V' v. 7    —< $ >— ? ?.

I Y CABINET INEWYDD YN CYFARFODII

I Y [CABINET INEWYDD YN CYFARFOD. II Dydd Iau cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Cabinet Cenedlaethol." Parhaodd am oddeutu dwy awr. Arhosodd amryw o'r aelodau ar ol i giniawa gyda'r Prifweinidog. Cymerodd Mr. Lloyd George, fel Gwein- idog Defnyddiau Rhyfel, No. 6, Whitehall Gardens, fel ei swyddfa swyddogol. Deallir i Mr. F. E. Smith, y Twrne Cyff- redinol newydd, gael ei wneuthur yn Farchog gan y Brenin ar ei apwyntiad i'r swydd. Nid yw ond 43 mlwydd oed. j j-  r:'

0t 11 ULYNU ARCLWYDD FISHER

"0: t 1,1 ULYNU ARCLWYDD FISHER. Y mae y Brenin wedi cadarnhau apwynt- iad Syr Henry G. Jackson, K-C.B-, K.C.V.O., F.R.S., i fod yn Benaeth Bwrdd y Morlys yn He Arglwydd J. F'sher, a ymddiswyddodd. Bydd i'r Llyngesydd Syr Arthur I-, Wilscn aros yn, J swydd fel cynghorydd i'r Bwrdd Llyngescl. Brodor o Swydd Efrog yw Syr H. B. Jackson, a dywedir ei fod yn wr galluog iawn. —^

AELONAU LLAFUR YN Y WEINYDDIAETH

AELONAU LLAFUR YN Y WEINYDDIAETH. Yn ychwanegol at Mr. Henderson, sydd wedi ei benodi yn Llywydd Bwrdd Add. y mae ereill o'r Aelodau Llafur wedi en dwyn i mewn i'r Weinyddiaeth newydd, sei Mr. Wm. Brace (Morganwg), a G. H. Rob- erts (Norwich), y naill fel is-Ysgrifenvdd Cartrefol, a'r llall fel Chwip, swydd a lenwid gan y diweddar Mr. Wm. Jones. J