Collection Title: Dydd

Institution: The National Library of Wales

Rights: This resource is copyright of Cambrian News Ltd.

View full details

First Previous Image 2 of 8 Next Last
Full Screen
4 articles on this page
Y RHYFEL

¡; Y RHYFEL. ADOLYCIAD YR WYTHNOS RHYFEL Y RHEILFFYRDD. Pan ddaw haneswyr y dyfodol i gron- iclo yn llawn weithrediadau y Rhyfel presenol, ac i'w gymharu a rhyfeloedd eraill, tebyg yw mai Rhyfel y Rheilffyrdd y'i gelwL. Ac nid heb achos, canys mai rheilffyrdd wedi bod yn elfen mor bwysig a dynion a magnelau yn y Rhyfel hwn o'r cychwyn. Dro yn ol yn yr ysgrifau hyn adgoffawyd yr hen air fod pob byddin yn teithioarei bol-yr hyn o'i ddehongli yw na iedr byddin wneud dim heb fwyd. Rhaid cael, bwyd i'r dynion, rhaid cael bwyd i'r magnelau mawr ac i'r rhych- ddrylliau bychain rhaid cael bwyd i'r ceffylau ac i'r ceir modur rhaid cael bwyd i'r awyrennau ac i'r peiriannau o bob math. Ychydig o'r bwyd angen- rheidiol hwn sydd i'w gael lie mae'r byddinoedd yn brwydro rhaid cludo'r bwyd iddynt o bellder daear. 0 eisieu rhagnelau mawr a'r bwyd angenrheidiol iddynt y gorfu i'r Rwsiaid gilio yn ol yn I Galicia o eisieu digon o fwydpwrpasol i'w fagnelau mawr y methodd Syr John French fwy nag u'nwaith fanteisio ar yr eniliion a gafodd yn Ffrainc. Felly er darpar o honom ni yma ddigon 0gyfavpar rhyfel i'n byddin, ni fydd y fyddin ddim gwell o hono os na ellir ei gludo, a'i gludo yn brydlon iddi. Ac yn ein dyddiau ni y rheilffordd yw prif-ffordd fawr pob cludo ar y tir. Trefnodd Germani flynyddoedd yn ol gynllun ei rheilffyrdderbyny Rhyfel hwn. Dyna paham y mae yn Rmedru yn i vi pan ymosodir yn gryf arni mewn uniJn fan, cael milwyr o le arall i gyn- orthwvor rhai sy'n gwrthsefyll yr ym- osodiad hwnw. Dyna sy'n cyfrif am fod Germani wedi gallu taro ergydion mor drwm un wythnos yn Ffrainc a'r wyth- nos wedyn yn Rwsia. Mae'r rheilffyrdd yn ymarferol wedi dyblu nifer milwyr Germani. <

RHYFEL YR EIDAL YNC NCHYMRU I

RHYFEL YR EIDAL YNC NCHYMRU. Mae cymeryd meddiant o reilffordd sy'n eiddo'r gelyn yn bwysicach lawer nag enill dinas gaerog. Ac erbyn heddyw gwelir yn glir mai un o amcanion mawr brwydrau yr Eidal yn erbyn Awstria yw sicrhau meddiant o'r rheilffyrdd a all j ddwyn byddinoedd Awstria, a'u bwyd o bob math, i ymosod ar yr Eidal. Ceisir ') yma egluro pa fodd a phaham y gweith- reda Cadorna (Maeslywydd mawr yr Eidal) yn ei ryfelgyrch presenol yn erbyn Awstria. Dyeithr i'r darllenydd cynredin yw tir yr Eidal, a mwy dieithr fyth yw rheil- | ffyrdd y cyffmiau rhyngddi ag Awstria. Ond gwyr pob darllenydd rywbeth am gyfundrefn rheilffyrdd Cymru yn eu cys- ylltiad a Lloegr. ,Cymerwn ynte reil- ffyrdd Cymru a'i chyffiniau i cgliiro,r sefyllfa vn vr Eidal. Rhaid peidio cario'r gymhariaeth yn rhv bell, ond a siarad yn gyffredinol mae yr hyn a ddywedi yma yn rhoi syniad go glir amy sefydfa rhwng yr Eidal ac Awstria Tyhier ynte mai Cymru yw yr Eidal; mai Gogledd Lloegr a'r Alban yw Ger- tnani ac mai Lloegr o Liverpool i lawr hyd at y Sianel »isni^, yw Awstria. Yn awr pe bae Awstria (Lloegr) yn ym-  osod ar yr Eidal (Cymru), gallai gludo ei byddinoedd in herbyn o Gaer i Fangor o'r Amwythig i Aberystwyth o Craven Arms i Gaerfyrddin ac Abertawe ac o J Henffordd drwv'r Fenni i Ferthyr, i Gas- j newydd, Caerdydd, a Chastellnedd. Mae'r J lleoedd hyn oil, Caer, Amwythig, Craven Arms, a Henffordd drachefn ar y Main Line sy'n rhedeg ar y cyffiniau rhwng Cymru a Lloegr, ac yn cysyljtu yn y fath fodd a threfi mawr a rheilffyrdd Lloegr fel y medrai Lloegr ddanfon byddin i'r naill a'r Hall o'r lleoedd hyn yn rhwydd iawn. Pe cymerai Byddin Cymru Colwyn Bay, dyweder, diogelai nid yn unig Llandudno, Conwy, a Bangor rhag ymosodiad Byddin Lloegr, ond diogelai i raddau pell holl Ddyffryn Conwy, a Ffestiniog. I Pe cymerai Byddin Cymru dinas Caer I (Chester) rhwystrai'r gelyn i ddod ymlaen tua Rhyl ar hyd un llinell; a thrwy'r Wyddgrug i Ddinbych ar hyd llinell arall; I' a thrwy Gwrecsam a Ruabon i Gorwen a'r Bala ar hyd llinell arall. Ond heb iddi feddianu Whitchurch hefyd, byddai'r gelyn I yn gallu ymosod wedi hyny ar hyd llinell Rheilffordd y Cambrian, naill ai o Whit- church neu'r Amwythig. Ond pe cym- erai Cymru Moat Lane dyna Machynlleth, ac Aberystwyth, a'r Bermo yn ddiogel. Pe meddianai Byddin Cymru Craven I Arms yn ogystal a Moat Lane, gallai adael yr Amwythigyn llaw'r gelyn, a buasai Dyffryn Tywi, a Sir Benfro, ac Abertawe yn ddiogel os na ddeuai'r gelyn drwy'r Fenni i Ferthyr neu Gasnewydd, ac oddi- yno ymlaen wedyn drwy Ddyffryn Nedd neu Fro Morganwg rhaid fvddai medd- ianu Pontypool Road i atal hyny. Gwelii felly pe bae'r gelyn yndal Caer, Amwytliie:, Craven Arms, a Henffordd, gallai ddwyn ei fyddinoedd lie y mynai ymron i Gymru. Olid pe collai r gelyn y lleill i gyd a chadw meddiant o unrhyw un o honynt, gallai drwy'r drws agored hwnw gyrraedd ymron unrhyw ran o Gymru, er nad mor gyflym a phe bai'r holl leoedd a enwyd yn i law.

I I BETH MAER EIDAL YN El WNEUD j

I BETH MAE'R EIDAL YN El WNEUD. Rhywbeth tebyg i'r uchod, cysylltiad Cymru a Lloegr, yw cysylltiad yr Eidal ag Awstria,—oddigerth fod Mynydd-dir uchel a llydan hefyd ar y cyffiniau yn gwneud meddiant o'r rheilffyrdd yn bwysicach j fyth i'r naill a'r Ilall, Amcan amlwg Cadorna a Byddin yr Eidal yw meddianu'r cyfryw bwyntiau i pwysig ar y rheilffyrdd ag a'i gwna yn il amhosibl i Awstria na Germani ddwyn byddinoedd i'r Eidal. Fel y rhed y Great Western o Lundain i Gasnewydd a Chaerdydd, ac felly trwy Ddeheudir Cym- ru, felly rhed rheilffordd fawr o Vienna, prif-ddinas Awstria, drwy Villach i Venice, tref gyfoethocaf yr Eidal. Ac fel y rhed y London & North Western o Ogledd Lloegr a'r Alban i Gaer ac felly i Ogledd Cymru, rhed rheilffordd fawr o Germani drwy Franzenfeste i Verona, tref fawr arall yn ngogledd yr Eidal. Ac, fel > cysylltir Caer a Chaerdydd gan reilffordd fawr, cysvlltir Villach a Franzenfeste gan reil- ffordd fawr yn rhedeg argyffinian gogledd yr Eidal- Eto fel mae llinell y Cambrian. a'r rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberyst- wvth, vn cysylltu gogledd a de Cymru, ac felly yn gosod yr oil o Gymru yn agored i fyddin a fyddai'n teithio naill ai o Gaer neu o Gaerdydd, felly mae rheilffyrdd yn rhedeg ar, draws yr Eidal ac yn ei gosod hithau yn agored i ymosodiad naill ai o I Franzenfeste neu o Villach. Unwaith j y medr yr Eidal feddianu Villach, ni all Awstria ddwyn byddin i'r Eidal ond yn unig trwy Germani. Os medr yr Eidal feddianu a dal Franzenfeste, yn ogystal a Villach, dyna atal byddinoedd Germani ac Awstria i gyrraedd yr Eidal. Amcanu at wneud hyny y mae Cadorna a Byddin yr Eidal yn awr.

V I MYNECIADAU IW COFIO

V I MYNECIADAU I'W COFIO. II Ymhlith mynegiadau dynion cyhoeddus yr wythnos a aeth heibio ag y dylid eu cadw yn feunyddiol mewn cof, ceir a I ganlyn:— LLOF RU DDION Y LUSITANIA.— Yn llygaid cyfraith pob gwlad wareidd- iedig ymgais fwriadol at lofruddio personau diniwed, oedd suddo'r Lusitania.Syr Edward Carson yn yr Ymchwiliad swydd- ogol i suddiad y Lusitania. PARHAD Y RHYFEL. Fel hen filwr dywedaf yr ymddengys i mi y pery y Rhyfel am flwvddyn arall, os nad am fwy na hyny.Syr Ifor Herbert yng Nghaernarfon. PAN DDAW'R GERMANIAID YMA Os nad ydym yn barod bawb o honom i uno a'n gilydd gan anghofio pob gwahan- iaeth er mwyn gorchfygu Germani, os nad ydym oil yn barod i wneud ein rhan, bob un yn ci ffordd ei hun, i drechur gelyn, byddwn wedi methu yn ein dyled- i swydd, ac yn ol pob tebyg gwelir pentrefi a chartrefi y deyrnas hon yn cael eu han- rheithio gan yr ellyllon a'r treiswyr Ger- manaidd anynol.Canol Wilberforce yn pregethu yh Westminster Abbey. PERYGL OFNADWY CYMRU.- Mae pobpeth gwerthfawr, pobpeth an- wyl gan y Cymro, heddyw yn y fantol- Mae ein bodolaeth ei hun mewn perygl, a rhywbeth mwy pwysig hyd yn oed na hyny, rhyddid Ewrop, ïe, rhyddid yr holl fyd, mewn perygl yn y Rhyfel yma. Y Parch. John Williams, Br-ynsiencyn, yn Neuadd y Dref, Caernarfon. BLE MAE BECHGYN ARDALOEDD GWLEDIG CYMRU ?—" Nid yw haner bechgyn ardaloedd gwledig Cymru wedi sylweddoli ein perygl oddiwrthteHhylldra barbareiddiwch Germani- Pe y darllen- ant hanes y Rhyfel sylweddolent byny, ac yna ni fuasent yn aros ar ol yn ddifater fel y gwna llawer o honynt heddyw. Syr Osmond Williams, yng Nghaeinaifon- GALW'R MAWRION I GYFRIF.— "Os, ar ddiwedd y Rhyfel, y bydd yn bosibl dod o hyd i swyddogion uchel pres enol Byddin Germani, y rhai ydynt euog o'r holl erchyllderau ofnadwy a wnaed gan y milwyr a'r suddlongau, ac os, ar ol prawt teg y ceir hwynt vn euog, y'u condemnlr hwynt i farwolaeth, credaf mai cytiawn fydd gwneuthur hyny." Y Deon Inge o Saint Paul's yn Llundain-