Collection Title: Dydd

Institution: The National Library of Wales

Rights: This resource is copyright of Cambrian News Ltd.

View full details

First Previous Image 3 of 8 Next Last
Full Screen
7 articles on this page
TINC AR CLYCHAU ADCOF

TINC AR CLYCHAU ADCOF, Am y diweddar Mr. OWEN TUDUR, Asiedydd, Dolgellau. Llaw a chalon, dyna Tudur, Cyn, ac Ymgom, dyna'i nef; Gyda'i gyn cabolai'r derw, Gyda'i ymgom llonai'r dref: Rhoddai'i galon yn ei Ymgom, Rhoddai'i feddwl yn ei Gyn, Cyn, ac Ymgom Owen Tudur Oedd yn llawn o honno'i hun. Medrus law, a chalon gynes, Troediad chwim, a thymer dda; Dawn oraclaidd a hylifol, Chwarddiad lion, fel hinnon ha',— Dvna Owen Tudur, ddoniol; Fab athrylith, Teyrn y Cyn; Dwfn y credai mewn cyfeillion, Dyfnach credai ynddo'i hun. Pwy ffyddlonach i'w gyfeillion, Pwy fwy moesgar gyda'i well; C16d pa Gerfiwr a ehedodd Dros yr Arran fawr, mor bell! Pwy a hoffai'n fwy ein gwlgddoedd, Gwleddoedd lien, a gwleddoedd can, Gwleddoedd uchel-wyliau Seion, Brasaf wleddoedd Cymru lân Pwy anghofia byth ei sanad Pendefigol, rhwysgfawr ef; i Pwy anghofia ei ddiwydrwydd, j A'r gyfaredd yn ei lef: Ond bu farw'r Cyfaill gwreiddiol, Marw'n brysur fel bu fyw; Heddyw'n ymyl Owen Arran, Owen Tudur, distaw yw. /V w Pari Huws. I A W. Pari Huws. I

iISLAWRDREF

i ISLAW'RDREF. Cafodd Cymdeithas Ddi\j^flliadol y lie uchod wledd o de a bara brith yn ddi- weddar yn Ty'nyceunant ac y mae y pwyllgor yn ddyledus iawn i'r teulu am eu caredigrwydd yn rhoddi lie cyfleus a phob- peth at ein gwasanaeth. Yr oedd y para toadau dan ofal Mrs. Hughes, Erw-wen, I a Mrs. Jones, Cefnrowen isaf, a chynorth- I wywyd wrth y byrddau gan chwiorydd y lle.-Yn yr hwyr cafwyd cyfarfod adlon- iadol, dan lywyddiaeth Mr. W. M. Hughes, Bodlondeb, ac arweiniwyd yn hwyliog gan Mr. Thomas Edwards, Dolgellau. Aed drwy y rhaglen ganlynol :-Canwyd Hen Wlad fy Nhadau gan yr Arweinydd i ddechreu Adroddiad, Dringo'r Ysgol,' gan Maggie Roberts Pedwarawd, Dia- dem,' gan barti Mr. John Williams Deu- awd, Y Gwcw,' gan Misses Lizzie a Laura Jones Can, Gyda'r Wawr,' gan Mr. T. Edwards Can, Chwech o Eifr,' gan Mr. John Williams Adroddiad gan John H. Roberts Dadl, Y Ffasiwn,' gan Misses Lizzie Evans a Laura Jones Adroddiad, Mae pobpeth yn codi,' gan Thomas A. Roberts Deuawd, Clychau Aur Glyn- ceiriog,' gan Thomas Edwards a Miriam Williams Can, Hen brocer bach gloew fy nain,' gan David John Davies Ped- warawd, 'Blodau'r Grug,' gan John W. Evans a'i barti; a chafwyd detholiadau hefyd ar y Gramaphone dan ofal Mr. John Jones.

I j ATEB COFYNIADAU YNCLYN AR RHYFEL

I j ATEB COFYNIADAU YNCLYN A'R RHYFEL. CARCHARORION RHYFEL YN GERMANI.—Dywedir fod y driniaeth ga carcharorion Prydeinig yn Germani yn well mewn rhai manau nag y bu. I'r neb fo ganddo gyfeillion yn eu plith, gohebed a The Hon. Secretary, Prisoners of War Help Committee, Savoy Hotel, London, W.C." Os am ddanfon llyfrau oddynt, goheber a Mr. Alfred T. Davies, Welsh Education Department, Whitehall, London." < MORWYR LLONGAU MASNACH SY'N GARCHARORION.-Nilae Bwrdd Masnach newydd gyhoeddi rhestr o For- wyr Llongau Masnach Prydain a ddelir yn garcharorion yn Germani, A wstria, a Thwrci. Gellir gweled y rhestr mewn unrhyw Mercantile Marine Office yn y I deyrnas hon. MILWYR AC ERAILL AR GOLL.- Mae llawer o'n milwyr a'n morwyr, ac eraill, na wyddis yn y wlad hon ai byw ai marw Hwynt. Mae Cymdeithas y Groes Goch wedi trefnu i wneud ymholiad am y cyfryw. Goheber a Lord Robert Cecil, 29, Arlington Street, London, W. os mynner gwybod am rai o'r cyfryw na cheir eu hanes ffordd arall. ATHRAWON ELFENNOL A'R RHYFEL.Mae awdurdodau addysgol y deyrnas un ac oil yn gwneud a allont i hwyluso mynediad myfyrwyr y Colegau ac athrawon i ymuno a'r Fyddin a'r Llynges dros gyfnod y Rhyfel. Hysbysa Swyddog Addysg y cyfrifir blwyddyn neu'r Llynges fel blwyddyn yn y Coleg tuag at gael Tystysgrif Athraw —os bydd awdurdodau'r Coleg ei hun yn cymeradwyo hyny. Hefyd am y rhai nad ydynt yn y Coleg ond a fwriadent eistedd arholiad, ond a ymunasant a'r Fyddin cyn yr Arholiad, gwneir darpar- iaeth arbenig i gyfarfod a'r amgylchiadau. COLLEDION YN Y RHYFEL.—Er cymaint colledion Prydain yn y Rhyfel- tua 300,000 erbyn hyn o WYT wedi eu lladd, eu clwyfo, neu eU carcharu—mae colledion Germani yn anrhaethol fwy. Dywedir fod Germani wedi colli dros bedair miliwn (4,200,000), ac Awstria dros ddwy filiwn a haner (2,526,000) er dechreu v rhyfel, cyfanrif i'r ddwy wlad o 6,726,000 er dechreu'r rhyfel. Dywedodd Mr. Asquith yn Nhy'r Cyffredin fod Prydain yn awr yn gwario tair miliwn o bunnau ( £ 3,000,000) bob dydd at gario y Rhvfel ymlaen. —4 ■ 1

v CURAD YN MARW AR OCHR Y FFORDD

v CURAD YN MARW AR OCHR Y FFORDD. Yr wythnos ddiweddaf, cynhaliodd Crwner Croesoswallt ymchwiliad i achos marwolaeth y Parch. John Davies, curad West Felton, yr Amwythig. Caed ef yn farw ar ochr y ffordd yn gynar foreu Llun. Yr oedd yn 56 mlwydd oed, ac ni fu yn gurad yn West Felton ond am ychydig wythnosau. Dychwelwvd rheithfarn iddo farw o achosion naturiol..

CWEITHFEYDD ARFAU I OCLEDD CYMRU

CWEITHFEYDD ARFAU I OCLEDD CYMRU. Ddydd Iau, bu y Mri. Ellis W. Davies. A.S., ac R. T. Jones (Ysgrifenydd Undeb y Chwarehvyr) yn ymweled a Mr. Leonard Llewelyn, yn yr ystafell Arfau Rhyfel, White Hall, Llun da in, er cael ymdrafod- aeth ar y priodoldeb o dioi shediau chwar- eli, etc., yn weithfeydd i droi allan arfau a defnyddiau rhyfel, etc. Adroddir fod perchenogion y chwareli eisoes wedi anfon at Mr. Lloyd George yn rhoddi manylion am y peirianau, etc., yn y gwahanol chwarelau iddo. Gofynodd Mri. Davies a Jones ai onid oedd modd sefydlu gweith feydd er troi allan ffiwydron yn Sir Gaer- narfon megis ag y gwnaethpwyd yn Sir Feirionydd. Addawyd rhoddi ystyr- iaeth fanwl i'r cais. > i

I EISTEDDFOD TOWYNI

I EISTEDDFOD TOWYN. Cynhaliwyd yr uchod ddydd Iau di- weddaf, yn yr Ystafell Gynull- Un cyfar- I fod gynhaliwyd eleni, ac yr oedd dan ar- weiniad y Parch. T. Gwilym Roberts. Cadeiriwyd gan Mr. Owen Jones, Bryn- gwyn. Be rniadwyd y cerddorion gan Mr. J. Charles McLean, Porthmadog a'r ad- rodd gan y Parch. D. T. Davies, Llwyngwril; y farddoniaeth gan y Parch. W. Pari Huws, B.D., Dolgellau, a'r traetb- odau gan Dr. Prys Williams, Arthog, a Mrs. E. Morgan Williams, B.A. Enillwyd y prif wobrwyon fel y canlyn: Cystadleuaeth Gorawl, Y Nant a'r Blod- euyn," 1, C6r Towyn. C6r Merched, (a) Bugeilio'r gwenith gwyn (b)" Llwyn- on (c) Clychau Aberdyfi," 1, C6r Towyn. Her-unawd, unrhyw alaw neu unawd, 1, Miss M. E. Jones, Post Office, Bow Street. Unawd Soprano, Telyn- au'r Saint," 1, Miss M. E. Jones, Post Office, Bow Street. Unawd Tenor, 'Merch y Morwr,' 1, Mr. Davies, Dyffryn- Un- awd Baritone, "Reverge," 1, Mr. H. Humphreys, Llanegryn- Unrhyw gan neu unrhyw unawd (cyfyngedig i gylch Estumaner), Miss Dora Morris, Towyn a. Mr. Josiah Jones, Aberllefenni, yn gyd- radd. Cystadleuaeth canu penillion, 1, Miss Roberts, Cynfal, Bryncrug. Deu- awd, Mae Cymru'n barod ar y Wys, Mri. J. H. Williams, a Davies, Dyffryiu Unawd ar y crwth, 1, Master Marshall Lloyd; 2, Glynne Jones, Towyn. Ad- rodd, Dafydd a Goliath," ) Mr. W. O. Ellis. Abergynolwyn. —~

BONTDDU I NI

BONTDDU. N Mr. Gol. Yr ydwyf yn sicr fod y rhan fwyaf o ffermwyr o'r Ganllwyd i'r Dyffryn, o'r un farn a mi yn yr achos hwn,-Fod yn ddyledswydd arnaf gydnabod ein diolch- r garwch i Mr. Lewis Davies, Muriau Coch- ion, am ei waith yn lladd cymaint a deg o lwynogod mewn dau fis o amser. Nis gwyddom faint ein colled mewn defaid ae wyn trwy y fath nifer o lwynogod. Felly a gaf fi ofyn i chwi fel ffermwyr roddi eich presenoldeb yniliob lladdfa hyd y mae yn bosibl i chwi Nehman.