Collection Title: Dydd

Institution: The National Library of Wales

Rights: This resource is copyright of Cambrian News Ltd.

View full details

First Previous Image 2 of 8 Next Last
Full Screen
1 article on this page
IF CORFODAETH MILWROL

IF- CORFODAETH MILWROL. LLYTHYR AGORED AT MR. LLOYD GEORGE. \SYLW.—Ceisir genym gyhoeddi yn Y DYDD gyfieithiad o Lythyr Agor- ed grymus Mr. A. G. Gardiner, golygydd galluog y London Daily News" at Mr. Lloyd George ar yr argyfwng gwleidyddol a achoswyd gan yr ymgais i wthio Gor- fodaeth Milwrol ar y deyrnas hon. Mae'r Llythyr yn ddiameu yn un o'r pethau mwyaf grymus a miniog a ymddangosodd erioed.] FY ANWYL LLOYD GEORGE,— Anturiaf eich anerch yn gyhoeddus heddyw am ddau reswm y naill yn bwysig a'r llall yn bersonol. Fy rheswm cvntaf yw mai ar yr hyn a wnewch chwi, yn fwy nag ar yr hyn a wna neb arall ar hyn o bryd, y dibynna ein cyfander fel gwlad yngwyneb y gelyn. Yr ail reswm yw fod ein cyfatlirach. a'n gilydd yn y gor- phenol y cyfryw ag a'm sicrha y bydd i chwi ddeall yr ysbryd yn yr hwn yr ysgrif- enaf, a'r amcanion sydd yn fy nghymell i wneud: Ni bu yr un cyfeillgarwch poli- ticaidd mor werthfawr genyf a'r eiddof a chwi nid oes gyfeillgarwch y buasai ei dori yn achosi cymaint poen i mi. Eithr ceir cwestiynau ydynt yn codi yn llawer uwch nag unrhyw ystyriaethau personol,—ac un o'r cyfryw yw yr argy- fwng sydd yn bygwth rhwygo ein gwlad. Ffolineb a gwaeth na ffolineb, a fyddai cau eijEV llygaid ein hunain neu eiddo'r cyhoedd mwyach i'l ffaith mai oddiwrth- ych chwi y daw y perygl i'n heddwch cartrefol. Ers cryn amser bellach buom ni, y rhai a fu yn gvfeillion i chwi, y rhai a ymiaddasom eich brwydrau ac a enillasom i chwi eich buddugoliaethau, yn ddistaw yngwyneb yr hyn a wnaethoch, gan obeith- io o honom y canfyddech chwithau y dibyn at yr hwn yr oeddech yn cyfeirio, ac y ciliech yn ol rliagddo ac ni fynem ddweyd yr un gair a'i gwnai yn anhawdd i chwi dvnu yn ol. Eithr nid yw yn bosiblaros yn ddistaw mwyach os ydym i osgoi v dibyn tua'r hwn y ceisir rhuthro y wlad. Rhaid yw gwynebu'r gwir. Heboch chwi o'i blaid, gallesid anwybyddu yr ymgais i wthio Gorfodaeth Milwrol arnom ond a chwi o'i blaid mae yr ymgais hwnw yn berygl i'w ofni yn fwy na'r perygl a ddaw i ni oddiwrth Prwsia. Canys nis gallwn ymladd ar ddau ffrynt. Nis gallwn wynebu'r gelyn ar y maes tra ninau fel cenedl wedi ymrwygo. Gallwn naill ai ymladd Prwsia, neu ynte ymladd a'n gilydd; eithr nis gallwn wneud y ddau. YR ARGYFWNG.—Na chamddealler fi". Pe nas gellid enill yn y Rhyfel hwn end yn unig drwy arosod Gorfodaeth Mil- wrol, nid oes neb yn ein plith a wrthwyn- ebai hyd yn oed y rheidrwydd atgas hwnw. Pa fodd y-gallem wneud ? "Nid oes dim yn ormod i'w dalu pan fo anrhydedd a rhyddid mewn perygl a phe y gofynid arnom fel rhan o'r pris roi i fyny y tradd- odiadau a anwylir fwyaf genym, rhodd- asem hyny hefyd pe y profid tu hwnt i amheuaeth fod angen gwneud. Eithr pa beth yw y gwir am yr ymgais presenol y sydd mor ddifrifol yn unig am fod-eich enw chwi yn cael ei gysylltu ag ef ? Oddiwrth bwy y daw, a beth ydynt y cymhellion y tu cefn iddo ? Nid yw » yn dod o'r unig Ie sydd ym meddu hawl i ddweyd wrthym pa beth a ddylem ei wneuthur. 0 fewn corff y flwyddyn a aeth heibio bu genym mewn awdurdo d Lywodraeth Ryddfrydol, ac y mae genym Lywodraeth Gyfunedig o'r ddwy blaid. Cawsant o'u blaen holl ffeithiau y problem mawr hwn. Hwynthwy yn unig a wyddant y gofynion milwrol, y gofynion trafnidiol, y gofynion gweithfaol ac ar- ianol. Os, tra ym meddu yr holl wybod- aeth hyn, ac ar gymhelliad taer eu cyng- horwyr swyddogol, y dywedasent wrth y wlad mai Gorfodaeth Milwrol oedd yr unig arf a'n galluogai i enill y Rhyfel a phe y medrent brofi i foddlonrwydd nad oedd dewis arall yn bosibl, *yna buasai y genedl yn derbyn y dyfarniad, gyda gofid mae'n wir, ond yn deyrngar er hyny. AWDWYR Y CYTHRWFL.—Eithr pa beth a fu hanes yr ymdrech hwn ? Deilliodd o'r ymgyrch mwyaf ffiaidd yn y Wasg Seisnig a sarhaodd erioed synwyr a rheswm y wlad hon. Nid oedd yr un athrod yn rhy faleisus i'w claflu arnom fel gwlad. Darlunid ni i olwg ein Cynghreir- iaid fel cenedl o yslacwyr ;—ie, ni, y rhai heb ein cymorth y buasai y Rhyfel wedi terfynu er ys talm ie, ni, y rhai a, ysgubasom foroedd y byd gan garcharu Germani o fewn ei glannau elhun ie, ni y rhai a godasom Fyddin wirfoddol, na welodd y byd erioed ei chyffelyb, Byddin mor enfawr fel nas medrai ein gwlad ei chyllenwi ag arfau a chyfarpar digonol ie, ni, y rhai a gariasom ymlaen ryfel mawr yn y Dardanels, a ysgubasom Germani allan o'i Threfedigaethau, a ddygasom ran oedd beunydd yn cynhyddu yn y I Rhyfel yn Ffrainc a Fflanders, a gyflen- wasom Rwsia a Ffrainc ag angenrheidiau rhyfel ie, ni, y rhai o'n cyfoeth a fen- thyciasom cisoes i'n Cynghreiriaid y swm o £ 250,000,000, ac ar fasnach y rhai y dibyna yn hollol y cyflenwadau hyny o'r America y mae eu cael yn gyson yn golygu buddugoliaeth, ac y byddai methu eu cael yn golygu colli'r dydd yn y rhyfel. Ac os athrodwyd ni fel cenedl, athrod- wyd hefyd, yr un modd, y swyddogion uchel yn y rhai y mae gan y wlad ym- ddiried. Methodd yr ymosodiad ar Arglwydd Kitchener drwy y ffyrnigrwydd amryfus a'r hwn y'i gwnaed eithr mwy cyfrwys a mwy peryglus a fu y bradwr- iaethau gwenwynig yn erbyn Mr. Asquith, Syr Edward Grey, ac eraill. I chwi, yr hwn y mae arnoch gymaint dyled i fawr- frydigrwydd a theyrngarwch y Prif Wein- idog, a chwithau wedi bod mor hael yn ,eich amlygiad o'ch dyled iddo, gwn y rhaid fod yr ymosodiadau hyn arno yn boen ac yn atgasrwydd. Eto nis gallwch fod heb wvbod fod defnydd wedi cael ei wneud o'ch enw chwi i osod min a phwys- lais ar yr ymosodiadau hyn fod eich rhinweddau wedi cael eu tra-dyrchafu er mwyn taflu eich blaenor a'ch cyd-swyddog- ion i anfri mwy dwfn. .AMCAN Y CYTHRWFL.A phaham y gwnaed hyn ? Dywedir wrthym. yn ddiamheu mai am fod gwirfoddolrwydd, yr egwyddor o wasanaeth rydd mewn Gwladwriaeth rydd, wedi profi yn fethiant. Pwy sy'n dweyd mai methiant a fu ? Nid Arglwydd Kitchener, yr hwn a, wvr, canys dywedodd ef. yn Nhv'r Arglwyddi yr wythnos hon mai ardderchog a fu. A bore tranoeth cyhoeddodd Arglwydd Northcliffe (percheri y Times a'r "Daily Mail") bostlen o dan y teitl Kitchener ar fethiant ymrestraeth gwir- foddol." Troscdd oedd y cyfryw bost- len. Mewn unrhyw wlad arall lie mae rhyfel, ymddygasid tuag at fel yr ym- ddygir at drosedd cyhoeddus. Pan gofir yr ymjlrechion mawr i'w wneud yn fethiant nid rhyfedd a fuasai gweled ymrestru gwirfoddol yn troi yn fethiant. Eithr ni bu yn fethiant. Buddugoliaethodd ys- bryd y wlad ar bob brad-gynllun i'w gadwyno; a'r fuddugoliaeth hono yw pecliod mawr ein pobl yn llygaid eu gelynion. Canys nid oes a fyno yr amcan sydd wrth g fn yr ymgais hwn ddim o gwbl a'r rhyfel. Bum yn siarad y dydd o'r blaen a Chadfridog enwog yn y Fyddin, a gofyn- ais iddo beth a feddyliai am y fyddin sydd ar hyn o bryd yn y ffrynt. Y fyddin oreu yn y byd yw," ebe fe. A y fyddin newydd a olygwch ?" gofynais drachefn. Ie," atebai, canys nid oes ond ychydig yngweddill o'r hen fyddin." Yna aeth ymlaen i siarad am orfodaeth milwrol. Yr oedd ei feddwl yn hollol agored ar y cwestiwn, a nododd yn dcg iawn y rhesymau dros ac yn erbyn gorfodaeth. Eithr tarawyd fi yn gryf gan ei air olaf. Dyma ydoedd Wrth gwrs mae genym yn y Fyddin, fel y sydd gartref, rai sydd yn ffymig o blaid gorfod- aeth. Credaf y byddai yn well gan rai o honynt enill i gael gorfodaeth milwrol yn y wlad hon nag enill y Rhyfel." Y TRI CYDSWYDDOG.—A'r fraw- ddeg yna at galon yr holl ymgyrch. N i ddaeth y cri am orfodaeth oddiwrth y Llywodraeth, canys gwyddant hwy fod gwcithrediad rhydd i yni'r bobl. yngwa- hanol ddyledswyddau'r wlad ynglyn a'r Rhyfel, yn hanfodol i'n llwyddiant. 0 ba le, ynte, y daeth y cri am orfodaeth ? Mae genych un o'ch hen gyd-swyddogion yn y Cabinet yn unig i'ch cefnogi, Mr. Winston' Churchill. Ni ddywedaf ddim am dano ef. Mr. Churchill yw—Mr. Churchill. Am y gweddill pwy yw arweinwyr y groesgad ? Arglwydd Milner, Arglwydd Curzon, ac Arglwydd Northcliffe ydynt. Yn awr nid wyf am gydgymysgu eich amcaniofi chwi a'r eiddynt hwy. Gan n'ad pa beth a all eich cymhellion chwi fod, nid gwrth-werinol mohonynt. Dichon y gallant godi o gyffro meddyliol, neu eu bod yn gymhellion personol, neu yn unrhyw beth, ond nis gellir dirnad am danynt eu bod yn wrth-werinol. Eithr pan gymerir y tri Arglwydd a enwais fel arweinwyr y mudiad hwn, mae genym hawl i ofy* joa beth yw eu hanes, ac am ba bethau y, safant ym mywyd y genedl ? Nid oes raid eich adgoffa chwi; nid oes raid adgoffa'r wlad o hanes y tri wyr hyn. Gwyr pawb o honom pa beth a olyga Prwsianyddiaeth Arglwydd Milner. Ys- grifenwyd ef mewn llythyrenau bras yn hanes yr ugain mlynedd diweddaf sym- iwyd ef i fyny yn y frawddeg a hyrddiwyd ganddo at eich Cyllideb chwi eich hun chwe mlynedd yn ol. Gwyr pawb o honom pa beth a wnaeth Ymerodroliaeth Arglwydd Curzon yn yr India, yr hon o dan ei reolaeth ef a ddygwyd i fin gwrth- ryfel. A gwyr pawb o honom am Ar- glwydd Northcliffe. PRWSIANYDDIAETH YNTEIGWER- INIAETH ?—Pa gymhelliad politicaidd (Parhad ar tudalen 3.)