Collection Title: Dydd

Institution: The National Library of Wales

Rights: This resource is copyright of Cambrian News Ltd.

View full details

First Previous Image 3 of 8 Next Last
Full Screen
5 articles on this page
IF CORFODAETH MILWROL

(Parhad o tudalen 2.) sydd yn feddiant cyffredin gan y tri wyr hyn ? Ai Gweriniaeth ? Na, canys gwrthodiad yw o bob rhyddid o eiddo'r bobl, ac o bob traddodiad anwyl gan galon y genedl rydd hon, ac o herwydd yr hwn draddodiad y mae ein gwlad wedi bod yn cario baner Rhyddid i'r Bobl drwy'r holl fyd. Militariaeth yw'r nod mown golwg gan y tri wyr hyn; nid militar- jiaeth fel angenrhaid miiwrol dros amser, eithr militariaeth fel sefydliad gwleidyddol dros byth. Geill fod mai methiant yw Gweriniaeth, ac mai cyfundrefn Prwsia sydd yn iawn. Eithr os mabwysiedir genym gynllun Prwsia o lywodraethu, gwnawn hyny ar ol ystyriaeth bwyllog ac ar seiliau digonol,—eithr ni fydd i ni gymeryd ein gwthio na'n twyllo i'w dder- byn drwy ddychryn disymwth a achoswyd i'r amcan hwnw, nac ychwaith drwy gyd- fradwriaeth gyfrwys a drefnwyd gan y bobl hyny a feddyliant fwy am enill y wlad drosodd i orfodaeth milwrol nag a feddyliant am enill y Rhyfel. Petae'r arf o wirfoddolrwydd wedi tori o dan law y Llywodraeth, rhaid a fuasai i ni lunio arf newydd yn ei Ie. Eithr nid yw wedi tori. Mae wedi cyfarfod a phob gofyn yn y gweithdy ac ar faes y gad. Gwnaed camgymeriadau,—lawer o honynt —fel y gallesid disgwyl o dan amgylch- iadau na bu eu cyffelyb. Eto i gyd, camgymeriadau oeddent na fedrai gorfod- aeth fyth eu cywiro. A fuasai genym heddyw un milwr yn rhagor ar y maes, neu un magnel neu un shell yn fwy nag y sydd genym, pe baem wedi, cael gorfod- aeth milwrol y dydd cyntaf y torodd y Rhyfel allan ? Gwyddom yn dda na fuasai genym canys gellir priodoli pob methiant a fu ar y dechreu ynglyn a gynau a shells, a chyfarpar arall o bob math, i anallu yr awdurdodau aruchel i ragweled ystyr a gofynion anferth y Rhyfel hwn. Nid diffyg parodrwydd y bechgyn i ym- restru; ac nid amharodrwydd dynion i weithio, ydoedd. Pan ddeallodd y pen beth oedd yn eisieu, ni chafwyd prinder dwylaw i'w gyflawni. YSBRYD LLAFUR.—Bu rai pethau anffodus ynglyn a Llafur—achosion lie yr arafwyd y gwaith yn fwriadol, a lie y daeth allan ar streic ddynion oeddent yn gweithio wrth bethau hanfodol i'n llwydd- iant. Trosedd yn erbyn y Wladwriaeth oedd y cyfryw bethau. Galwant am y celydd mwyaf llym ac am eu hatal mwyach yn y modd mwyaf penderfynol gan awdur- dodau ymhlith y dynion eu hunain. Eto na foed ini droi achosion unigol yn achlysur dwyn cyhuddiad cyffredinol. Gwna cy- huddiadau cyffredinol felly niwed an- rhaethol, canys cynhyrfant ysbryd digof- aint lie y dylem geisio enyn ysbryd o wasanaeth gwresog. Pwy heddyw a wada na ddarfu i Undebau Llafur fel rheol daflu eu hunain a/u holl galon i'r ymdrech. Gwir fod Undebau Llafur wedi ceisio amddiffyn eu buddianau eithr ai nid eu dyledswydd oedd gwneuthur hyny ? Onid yw cyfalaf yntau yn diogelu ei fudd- ianau ef ? Siaradais ag amryw ydynt yn gyfarwydd a'r. egnion mawr a welir heddyw yn y cylchoedd lie y troir allan gyfarpar rhyfel, ac yn ddieithriad llenwir pawb a syndod wrth ganfod yr oriau .meithion y gweithir, a'r ymgyflwyniad dirwgnach a ddanghosir gan gorff mawr y gweithwyr i gyfarfod a phob galw am eu gwasanaeth. Pan fo dynion yn gweithio saith niwrnod yr wythnos a deuddeg awr y dydd, nid eu calonogi yw awgrymu y rhaid eu chwipio at eu gwaith fel y dy- wcdir y chwipir milwyr Prwsia i'r frwydr. CHWARAE A'R TAN.—Myn rhai pobl ffol hoedena a'r gair drygsawr hwnw Penrheolwr." Galwant am ryw Ar- glwydd Chatham, neu Gynghor o Bu'np gydag awdurdod diderfyn nid ydynt yn credu mewn sefydliadau Seneddol cred- ant pe caem ryw Caesar i lywodracthu arnom, gyda byddin gref y tu cefn iddo i wneuthur ei air ef, ac i ofalu ein bod ninau yn gwneud, y byddai pob petti yn dda. Ond y llwybr sy'n arwain i wallgof- rwydd yw hyny. Golyga penreolaeth, gosod arnom un y bo ei air yn air ar bawb, rywbeth amgen na hynyna. Plen- tyn gwrthryfel yw penreolaeth o'r fath, ac nid trwy deithio llwybr gwrthryfel yr enillir y fuddugoliaeth a-r Germani. Nid oes neb a wyr yn well na chwi ffolineb a drygioni y sawl sy'n chwarae a than o'r natur yna; canys yr ydych chwi yn hanu o bobl sy'n mynwesu rhyddid nwch- law pob dim ar a feddant, pobl na fynant ormeswr i deyrnasu arnynt yng N ghymru mwy nag a fynant weled y diafol ei hun ar yr orsedd yno. Planwyd ysbryd gweriniaeth yn rhy ddwfn yn natur y bobl hyn i ganiatau iddynt byth wasan- aethu i amcanion unbenaethol neb, a llai fyth ar yr adeg pan ydym yn brwydro yn erbyn gormes unbenaeth. Canys daethom allan i'r maes i ddinystrio eilun j Prwsia ac nid i'w osod ef i fynv yn ein 1 plith ni ein hunain. Ac ni a'i dinystriwn os caniateir lie rhydd i yni rhydd ein pobl i weithredu. Mae yn eich gallu chwi yn fwy nag yng ngallu neb arall i ddwyn yni y bobl hyn i weithredoedd canys tu hwnt i I bawb dynion yr ydych yn gallu dal dust y werin, ac yn medru ei chyffroi i wneuthur gwaith mawr. j Eto i gyd, er hyn oil, ni fynn pobl y j wlad hon wrando ar genadwri Arglwydd Milner hyd yn oed pan y daw o'ch genau j I chwi. Gwrandawsant yn llawen arnoch yn y gorphenol, canys credent mai genych chwi y clywsant fynegiad mwyaf didwyll r eu dyheadau a'u gobeithion. Disgwyl- iant gael genych yr un ysbrydoliaeth eto yn awr yn nydd cyfyngder y genedl. j Edrychant atoch chwi i ddiogelu ysbryd y genedl rhag y rhwysg marwol sydd yn ei bygwth a chredaf nad yn ofer y disgwyl- iant.-Wyf, &c., A. G. G(ARDINER). éj?éj?(ÿ) .I

II Y STAMP DIMAI 11

I Y STAMP DIMAI 11 I Gwneir gwrthdystiad yn erbyn gwneud i ffwrdd a'r stamp dimai, fel y cynygir yn y Gyllideb, a hyny am y rheswm y golyga I golled fawr i fasnachwyr ac ereill ar hyd a lied y wlad. Eisoes y mae'r Trysorlys wedi cael ar ddeall fod y cynyg yn un an- mhoblogaidd, yn neillduol am ei fod yn ymyryd a newyddiaduron ac a'r post- gardiau darluniadol. Mae'r mater dan I ystyriaeth y Canghellor, a chredir yn gryf i y newidir peth ar y cynllun gwreiddiol mor J bell ag y mae a wnelo a'r stamp dimai. Anfonwyd 1,500,000 o gopiau o lyfrau a. I chylchgronau trwy y llythyrdy in milwyr.

ACHCS RHYFEDD 0 FAGILLT

ACHCS RHYFEDD 0 FAGILLT. Traddodi Dvn Dall i Selylf ei Brawf. Yn Nhreffynon, yr wythnos ddiweddaf, cyhuddwyd John David Hughes (a ddy- 'agillt, o fyned 1'r wedid oedd yn ddall), o Fagillt, o fyned i'r I Co-operative Stores viii Magillt, yn oriau man boreu Sul Dywedid, oddeutu 2 o'r gloch y boreu Sul dan sylw, i wr ieuane a drigai y drws nesaf i'r Stores gael ei ddeftro gan swn ei gi yn cyfarth. Wrth glustfeinio clywai ¡ dwrf yn y Stores. Deftrodd, a deffrodd ) j ei dad, ac anfonasant am yr heddgeidwaid Pan ddaeth yr heddgeidwaid yno, cawsant j y cyhuddedig yn y Stores, heb gau ei i esgidiau, ac yn chwysu yn drwm. I Dywedodd, mewn hunan-amddiffyniad  iddo fyned i'r siop wedi deall fod y drws yn agored, a phenderfynu aros nes v de?i heddgeidwad yno. I Traddodwyd ef i sefyll ei brawf. ? j • &Jf1/2)

I MARW MR KEIR HARDIE

I MARW MR. KEIR HARDIE. I O'y Pwll Glo i'r Senedd. Gofidus genym gofnodi marwolaeth Ntr. J. Keir Hardie, A.S., yr hyn a gymerodd le braidd yn sydyn brydnawn Sul yn Glasgow Yr oedd Mr. Keir Hardie wedi bod ytr wael er's blwyddyn. Cafodd ergyd ysgaiis, o'r parlys yn Nhy'r Cyffredin. Ym mis Mehefin cynghorwyd ef gan ei feddyg i < gymeryd chwe' mis 6 orphwys. Teithiodcl trwy y Gogleddbarth, a bu am beth amser yn byw yn Glan Sannox, Arran, ond dyeh. welodd i Glasgow i dy ei frawd-yag- nghyfraith yn Clarkston. Trodd ei afiech- I yd yn pneumonia, a dydd Mercher symiid- wyd ef i Nursing Home, lie y bu farw. Ganwyd Mr. Keir Hardie yn Ayrshire 3m 1856. Bu yn gweithio yn y pyllau glo oY ( adeg pan oedd yn saith mlwydd oed kyd nes yr oedd yn 24 mlwydd oed. Treuliotid [ weddill ei oes i hyrwyddo Undebiaetii Llafur a Sosialaeth. Er's 1900 yr oedd wedi cynrychioli Merthyr Tydfil yn y Senedd. Cymerodd ran flaenllaw yn yr ymgais a wnaed i geisio sicrhau cynrychiol- aeth Lafur Annibynol yn y Senedd. Efe oedd Cadeirydd y Blaid Lafur A nnibyncrf. j ac am gyfnod bu yn gadeirydd y Blskl Lafur Seneddol. Yr oedd Mr. Hardie yn siaradwr hyawcil ar y llwyfan, ond cyfrifid ef yn dipyn o benboethyn, a'r canlyniad oedd y byddai yn ami yn methu yn ei ymgais i weila pethau. Eto rhaid addef ei fod yn ddym o argyhoeddiadau dyfnion, a threuliodd ei nerth yng ngwasanaeth gweithwyr y wlad. I I

I SUDDO ACERLONC 0 LERPWL

I SUDDO ACERLONC 0 LERPWL Y mae agerlongau Llinell Harrison (Ler- pwl) wedi dioddef yn fawr oddiwrth gael j eu suddo gan gychod tansuddawl Germare- | 1 aidd. Y ddiweddaf on i gyfarfod y I dynged yma ydyw y Chancellor (45&S tunell). Adeiladwyd hi yn 1895. ) Adroddir yr achubwyd yi* oil or dwylaw. I Darfu i amaethwyr Sir Gaer gasglu y J swm o £ 18,000 at gynorthwyo y dioddef- wyr yn Belgium; Ffrainc. afSerbia.