Collection Title: Dydd

Institution: The National Library of Wales

Rights: This resource is copyright of Cambrian News Ltd.

View full details

First Previous Image 2 of 8 Next Last
Full Screen
3 articles on this page
BECHGYN CYMRU I

BECHGYN CYMRU. I Y CAM A WNEIR A HWYNT. f CWENDID. A BAI Y BRIFYSGOL. CAN DR. SHARE-JONES, PRIFYSGOL LERPWL. t Bythefnos yn ol cyhoeddasom adrodd- iad o ymweliad Dirprwyaetho Gymru, ju-cael ei harwain gan Mr. E. T. John, JILJS., at Arglwydd Selborne, Llywydd BVrdd Amaethyddiaeth, yn gofyn am fwy gan y Llywodraeth i anghen- len a hawliau ffermwyr Cymru. Da genym allu cofnodi yr wythnos hon fod lies ■ wedi deilliaw cisoes o'r ymweliad hwnw, yn gymaint a bod Cyngor Cenedl- aethol Amaethyddiaeth Cymru i gyfar- ¡ fodo hyn allan bob mis yn lie bob hanner bIwyddyn, a bod yr awdurdodau yn Llun- dain yn cymeryd mesurau eraill i roi sylw priodol i anghenion amaethyddiaeth yng Nghymru. Dengys hyn yr hyn a ellir ei wneud wrth fod yn ddyfal ac yn daer mewn ceisio. Treiswyr sydd yn cipio Eafrau gan y Llywodraeth, ac nid y bobl dawel amyneddgar na flinant byth mo'r awdurdodau. Yr oedd sylwadau Dr. Share-Jones, o I Brifysgol Lerpwl, yn y cyfarfod hwnw 'mor eithriadol o gyfaddas i gais y Dclir- prwyaeth, ac yn rhoi goleuni mor newydd aranfanteision.,Bechgyn Cymru, fel mai pleser yw genym roddi yr wythnos hon rhydd-gyifeithiad o grynodeb llawn o'r hyn a ddywedodd. Dylesid o bosibl egluro mai Proffeswr mewn Meddyginiaeth Ani- feiliaid (Veterinary Science) yw Dr. Share- Jones ym Mhrifysgol Lerpwl. a'i fod yn cael ei gydnabod fel un o awdurdodau penaf yr oes ar y wyddor bwysig hono. Ebe Dr. Share-Jones :— Fel Cymro, fel Rheolwr un o Golegau Cymru, fel Rheolwr Adran yn un o Brif- ysgolion Lloegr, ac fel Arholwr un o Brif- ysgolion yr Alban, da genyf gael dweyd ychydig ar Addysg y Brifysgol. Cymhell- [ wyd ft gan fy mhrofiad personol i dynu I cymhariaeth, yn enwedig rhwng Cymru a'r Alban, o'r manteision addysgol a fwynheir gan fechgyn y ddwy wlad. Er cymaint cynydd a wnaed gan addysg yng Nghymru er pan sefydlwyd ein Prif- ysgol, rhaid cydnabod fod y cynydd hwnw wedi bod ymron yn hollol ar hyd dau lwybr yn unig, sef yn y Celfyddydau (Arts) a'r C,-Nvyddorau (Pure Science). Allan o bob cant o'r bechgyn a enillant raddau ym Mhrifysgol Cymru, ceir fod o leiaf o 60 i 70 dionynt yn graddio yn y Celfyddydau hyny yw: B.A.) Syndod mawr yw na thelir dim sylw i'r galwedigaethau hyny y rhaid cael Trwydd- | ed i'w harfer. Er engraifft, ni cheir yng Nghymru heddyw gymaint ag un Meddyg a gafodd ei holl addysg galwedigaethol na'i rfr-wydded fel Meddyg, yn ei wlad ei hun. ) Mae yr un peth yn wir am Feddyg Anifeil- I ,¡aid, am Ddentydd, a galwecligaethau cytfelyb. Y canlyniad naturiol yw, os na bydd gan fachgen o Gymro rieni fedrant fforddio ei ddanfon i Loegr neu'r Alban i gael ei addysg, ofer iddo freuddwydio am j ymgymeryd a'r galwedigaethau hyn. Yn awr, ni all Prifysgol roi gradd ond yn unig yn y gwybodaethauhyny y bo ) gatiddi y cyfleusterau a'r moddion angen- I rheidiol i gyfranu addysg ynddynt. Ym J Mhrifysgol Cymru gellir enill gradd mewn Amaethyddiaeth. Ymhlith y testynau i'w hastudio am y radd hon ceir Coedwigaeth, a Iechydyddiaeth Anifeiliaid. Ond nid oes ym Mhrifysgol Cymru y trefniant pri- odol i alluogi myfyriwr i fyned i mewn fel y dylasai wneud i anhebgorion gwybodaeth drwyadl o'r materion hyn. Ym Mhrif- ysgolion yr Alban y mae yn dra gwahanol. Yno gellir cael gradd mewn Meddyginiaeth Anifeiliaid-yr hyn nis gellir ei gael yng Nghymru. Y rheswm am hyn yw fod gan Prifysgolion yr Alban drysorfeydd na feddir gan Brifysgol Cymru Y canlyn- iad yw fod llawer o Ymchwilwaith (Re- search Work) yn cael ei wneud yn yr Alban, a dim yng Nghymru. Canlyniad arall yw hyn Drwy Gymru belbaladr ceir bechgyn o deuluoedd tlawd a godwyd o'r tu allan i Gymru, wedi dod i'n plith ac ymsefydlu fel Meddygon, etc. Croesawir hwynt gan y Cymry—ond nid peth dymunol yw edrych ymlaen i'r dy- fodol a gweled parhad cyfundrefn sy'n galluogi'r estron i sefydlu mewn galwedig- aeth enillfawr yng Nghymru, tra'r alwed- igaeth hono yn cael ei chadw allan o gyr- haedd y Cymro fo'n perthyn i'r un dos- barth mewn cymdeithas a'r estron. Hoffai Cymru i'w bechgyn hi gael o leiaf gystal manteision ag a fwynheir gan fechgyn yr Alban, i ddod I: yn Raddedigion mewn Coedwigaeth, mewn Meddyginiaeth Ani- feiliaid, a'r cyffelyb, a gweithredu y gal- wedigaethau hyn yng Nghymru. Ond cyn y gellir gwneud hyn rhaid sefydlu adranau newydd ym Mhrifysgol Cymru a thuag at hyny rhaid cael rhoddion helaethach gan y Llywodraeth. Mae gan Gymru heddyw gyfle neillduol i wneud enw iddi ei hun, ac i agor llwybrau 1 newydd mewn bywyd i'w phlant, ym maes Meddygaeth Gymharol (Comparative j Medicine) Hon yw Meddygaeth y dyfodol. Gall Cymru sefydlu Ysgol Meddygaeth Anifeiliaid, ac Ysgol Meddyg- aeth Trofannol (Tropical Medicine) mewn cysylltiad ag Ysgol Meddygaeth* Ddynol (Human Medicine). Mantais i'r tair Ysgol a fyddai iddynt gyd-weithio a'u gilydd, yn neilltuol mewn Ymchwilwaith. Gwneir hyn ym Mhrifysgol Lerpwl er mantais iddynt oil. Fel, y mae pethau ar hyn o bryd ceir mwyafrif bechgyn Cymru yn sathru ar sodlau eu gilydd i un dosbarth o alwedig- j aethau yn unig. Astudiant yn galed, j abertha eu rhieni lawer i'w cadw yn yr Ysgol a'r Coleg, a phan ddont allan wedi j enill gradd, gorfodir hwy i foddloni ar ) gyflog y gall unrhyw grefftwr da ei fenill wrth y fainc. Yr hyn a ofyna Cymru heddyw yw rlioi chwareu teg i fechgyn talentog Cymru, i gymhwyso eu hunain yng Nghymru at y galwedigaethau hyny na cheir pawb yn rhuthro .iddynt, ond galwedigaethau na fedr y bachgen tlawd o Gymro?byth obeithio enill gradd a thrwydded ynddynt o dan yr amgylchiadau presenol. Gymaint a fydd Cymru ei hun ar ei mantais o gael ei bechgyn ei hun yn gallu graddio ac enill trwydded gartref, a gweithredu yng Nghymru alwedigaethau a'u galluogant i ddaclblygu adnocldau. naturiol eu gwlad eu liunain ■ s- 6OéY?6:J Addysgir pum' cant o ferched yn Ne Cymru mewn gweithfeydd cyfarpar.

APEL AT YMNEILLDUWYR GOCLEDD CYMRU I

APEL AT YMNEILLDUWYR GOCLEDD CYMRU. I Mae llythyr Arglwydd Derby wedi dwyn ein gwlad i argyfwng newydd ynglyn ag ymrestru fel y teimlwn y dylem fel Ym- neillduwyr apelio at ein dynion ieuainc i ymateb cydwybod i'w gwlad a'u crefydd yn y dyddiau dyfodol. Fel y gwyr pawb, yr ydym yn casau rhyfel a'n holl galon, a mwy yw ein casineb ato heddyw nag erioed, ond teimlwn fod hanes erchyll y Rhyfel ofnadwy hwn ar du y gelyn a'r amcan sydd gan y gelyn mewn golwg, sef ysigo Prydain Fawr am byth, a mathru pob peth sydd anwyl genym fel gwlad a theyrnas, yn galw arnom i wneud pob egni ac aberth er sicrhau goruchaf- iaeth deg ar y galluoedd fyn ein difetha. Ni charem weled gorfodaeth, filwrol mewn grym yn ein plith ystyriwn y byddai, hyny yn ymyryd a'n rhyddid per- sonol ac a chymeriad milwrol y sawl y gorchymynid iddo ymuno fel, er mwyn gochel hyn a sicrhau buddugoliaeth ar sylfaen o wirfoddolrwydd personol, yn ogystal ag egwyddorion rfiawrion* eraill, y dymunem ar ein dynion ieuainc i ddwys ystyried eu sefyllfa, a dangos pob parod- rwydd i wneud a allant dros yr egwyddor ion mwyaf cysegredig ganddynt hwy eu hunain a'u tadau o'u blaen. Oaiff pob un a. ymuna yn awr y fantais o ddewis pa adran o'r Fyddin y carai ym- uno a hi (ni cheir hyny pan y daw galwad nesaf y Llywodraeth) a rhydd hyn gyfle iddynt i ymuno a'r Fyddin Gymreig ag y mae adran o honi yn awr yn gwersyllu yn Conwy a Kinmel Park. Bydd eu swydd- ogion yn y cylch hwn yn Gymry, a chant hwythau bob chwareu teg i enill safleoedd yn y fyddin ar sail eu teilyngdod eu hunain. Gofelir am danynt gan Gaplaniaid a Gweinidogion Cymreig, a bydd y Brigadier General Owen Thomas yn arolygu eu holl. symudiaclau yn filwrol a moesol. Credwn fod yn bwysig iawii 1 rieni Cymru, y mae eu haberth eisoes mor fawr, i sicrhau y lie iachaf a glanaf i iechyd corff ac enaid eu plant, a chredwn y cyrhaeddant yr amcan hwn drwy gymhell ymrestriad yn y Fyddin Gymreig. JAMES CHARLES, Cadeirydd Undeb Cynulleidfaol Cymru, Dinbych. 0. L. ROBERTS, Liverpool. R. P. WILLIAMS. SILAS MORRIS, M.A., Bangor. HENRY REES, Dolgellau. ELLIS JAMES JONES, M.A., Rhyl. R. E. MORRIS, M.A., Wrexham. T. CHARLES WILLIAMS, M.A., Porth- aethwy. HUGH JONES, D.D., Bangor. THOMAS HUGHES, Portdinorwic. RICHARD LLOYD JONES, Prestatyn. 1

LLINELL ER COFFADWRIAETH

LLINELL ER COFFADWRIAETH Am fy nghyfaill, Robert Lewis, Dyffrydan. Aniddan fu. ei flynyddoedd,ond dyn Dewr, da ei weithredoedd, Caredig, cywir ydoedd, Hynaws, teg, a gonest oedd. CYFAILL. Cyrhaeddodd yr agerlong Baltic i Efrog Newydd gyda gwerth £ 2,000,000 o aur ar ei bwrdd.