Collection Title: Dydd

Institution: The National Library of Wales

Rights: This resource is copyright of Cambrian News Ltd.

View full details

First Previous Image 2 of 8 Next Last
Full Screen
5 articles on this page
YR ARSYLLFA j I

YR ARSYLLFA. j Gweled fod rhai manau yn Nglanau y Ddyfi wedi bod yn brysur iawn ddiwedd yr wythnos. Yr oedd ugeiniau lawer o fechgyn ieuainc yn tyru tua'r Swyddfa yn Machynlleth, i restru eu hunain o dan Gynllun Arglwydd Derby, a'chafodd y meddygon ac eraill ysglyfaeth dda o'r amgylchiad. Gorfuwyd rhoddi i fyny archwilio yn y wedd feddygol ohono ddydd Sadwrn a chafodd y rhai a restrwyd y dydd hwnw eu harchwilio yr wythnos hon. Gweled fod rhyw ddosbarth yn Aber- ystwyth yn parhau yn ofnus ynglyn a chanliad yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn nesaf. Mewn Pwyllgor Gweith- • iol a gynaliwyd ddydd Gwener diweddaf, pasiwyd drwy fwyafrif o ddau i anog y Pwyllgor Cyffredinol sydd yn cael ei wneud i fyny o'r Guarantors, i gynal yr Eisteddfod ar gynllun llai na'r bwriad eyntefig, ac i wneud i ffwrdd a'r cystad- leuaethau mwyaf, fel na werid mewn gwobrau ond fel y canlyn :—Llenyddiaeth, 150 Cerddoriaeth, £ 150 Celfyddyd, £ 50. Yn ol y cynllun hwn, gwneir i ffwrdd a Prif Draethodau, y Prif Gystadleuaethau Corawl,-y Cymysg, a'r Corau Meibion, a'r Seindyrf Pres. Ond' gwneud hyn, ni\ fyddai eisieu ond guarantee o Gel- wir ynghyd v Pwyllgor Cyffredin, ol ar unwaitli, i benderfynu y mater. Dar Ilenwyd rhai adiariau o lythyr a dder- foyniwyd oddiwrth Mr. Lloyd George, yr hwn oedd yn gryf o blaid ei chynal. Pa reswm o gwbl," meddal, sydd dros anghe|ftiQgi; • flei^ddjaetji a cherddoraeth yn amser y rhyfel ? Gwaith da fyddai 'eyrLaly Eisteddfod mewn rhyw ffurf syml am ?w nwyddyn neu ddwv a hyderai y rho<^dai: 'Aberystwyth esianipi 6, hyn mew? dangos beth yw yr hyn a ddylai, Eisteddfod Gymreig fod yn ein gwlad." Hyderaf y gwrendy y Pwyllgor Cyffred- inol ar eiriau y gwron enwog o Griccieth, svddwedi addaw bod yn noddwr cefnogol lddi. Gweled fod ein cenedl wedi colli un o phrif gelrddorion eto yn marwolaeth Mr. D. Jenkins, Mus. Bac., Aberystwyth a'r Eisteddfod un o'i Beirniaid mwyaf medrus a chraff. Torodd ei iechyd i lawr rai misoedd yn ol, ac ofnid y prytl hwnw fod y terfyn yn agos ond gwellhaodd am ychydig, er i'r babell arddangos gwendid corphorol lied fawr. Pan ddaeth y terfyn yn awr, daeth i raddau yn lied annisgwyliadwy. Gwnaeth Mr. Jenkins argraff ar y genedl Gymreig, na ddileir byth mo hono. Bydd canu mwy ar ei Weithiau Cerddorol yn y dyfodol, y rhai a ystyrir yn orchest-weithiau mewn Cerdd oriaeth Gymreig. Gwnaeth lawer i ddyrchafu Cerddoriaeth ei wlad, a bydd y genedl yn ddyledus iddo byth am hyny. Cododd o safle gyffredin i fod yn Bi-offeswr yn y Brifysgol. Disgybl i'r diweddar Dr. Parry oedd efe, a phan fu y cerddor enwog hwnw farw, efe a gafodd ei le yn Ngholeg Aberystwyth. Os yw'rgweitb iwr wedi cael ei alw oddiwrth ei waith at ei wobr, fe erys ei Weithiau Clasurol, ei Anthem au, a'i Donau Cynulle dfaol, cyhyd ag yr erys tan can i wresogi'n tir yn Jsgwalia. Gweled fod rhai adranauO dtlyffryn Dyti: a manau- eraill, yn parotoi at gynal cyfarfodydd dechreu y flwyddyn yn ol cynllun Cyngrair yr Eglwysi Rhyddion. < Mae'r Parch. F. B. Meyer yn fyw i'r am-  serau fel Ysgrifenydd y Cyngrair. Lie j I mae "Hef" y Cyngrair Cymreig, os yw » wedi el ffurfio ar wahan i'r Cyngrair Seisnig ? Clywais am Bwyllgorau Cym- reig, a threfniadau, a chasgliadau, &c., o'r De, ond dim yn rhagor. Hyderaf y ceir cyfarfodydd da a bendithiol yn mhob man y cynhelir hwy. Diau y ceir, gan fod yr eglwysi yn dechreu parotoi ar eu cyfer. Cael cyfarfodydd o'r natur yma yw dy- muniad y Brenin hefyd a chael yr holl enwadau crefyddol i uno gyda'u gilydd mewn gweddi a moliant i Dduw y nefoedd. I Gweled mai Cyfarfod Misol neillduoi o dda a gafodd y Methodistiaid yn Maen- gwyn, Machynlleth. Yr oedd dau ddi- eithrddyn wedi eu galw at ddoniau cylch j y Cyfarfod Misol, sef y Parchn. Evans I Llanwrtyd, a T. Charles Williams, M.A., Porthaethwy. Cafwyd pregethau ac oed- feuon rhagorol iawn, a ehynulliadau Iluos- og. Yr oedd y Seiat Gyffredinol hefyd, a gynhaliwyd yn y boreu, yn un o r pethau goreu a gafwyd yn Machynlleth, o dan lywyddiaeth y Parch. Elias Jones, Drefnewydd. Y pwnc a siaredid arno ydoedd Arwyddion yr Amserau. j Gweled fod Cymreigyddion Machynlleth yn parhau i gael cyfarfodydd uwchraddol. Yr oedd araeth Mr. O. T. Jones, D.Sc., M.A., Aberystwyth, ar Ddaeareg Cyf- eiliog yn odidog; ar Parch. Canon I Davies, M.A. (Dyfrig), ar Yr Hen Ficer ( Pritchard," yn ddyddorol dros ben. Felly hefyd Mr. H. S. Roberts, Ysgolfeistr, Corris, ar Ambrose Lloyd,' yr hon a gafwyd nos Fercher diweddaf. Yn ychwanegol at werth yr araeth, canwyd rhai o Donau Ambrose Lloyd gan barti o dan arweiniad Mr. T. Powell. Gweled fod Dysgedydd y Plant am Rhagfyr yn diweddu'r flwyddyn hon yn dda iawn. Mae rhai darnau neillduol o dda ynddo mewn tameidiau byr a bardd- oniaeth. Hyderaf y rhbddir amlygrwydd iddo o flaen cynulleidfaoedd y Suliau hyn, ac yr ychwanegir at nifer ei dderbyuwyr. Gofaled y plant am dano. Mae'r Golyg- wyr,—y Parchn. Silyn Evans a P. H. Lewis, F. T.S.C.,—a r Cyhoeddwyr, yn haeddu hyn. GWELEDYDD, ?\  j .? @@?\ ¡

i I CEFFYLAU MEWN PERYCL

CEFFYLAU MEWN PERYCL. Golygfeydd Cynhyrfus yn Llangollen. j Am ddeuddeg o'r gloch, nos Tau, torodd tail allan yn ystablau Fair View, Abbey I Road, Llangollen, eiddo Mr. W. Williams, deliwr mewn ceffylau. ) Galwyd ar y frigad dan i'r He, ond J oherwydd fod yr eira wedi cau y tyllau dwfr i fyny, buwyd am beth amser yn cael pethau yn barod. Achubwyd nifer | o geffylau a gwartheg gan y Cynghorydd Hiram Davies a'r Heddgeidwad Thomas Gallwyd cael dwfr i'r frigad, a gweith; iasant yn rhagorol. Achubwyd ceffy- gwertlifawr oedd mewn ystabl ar ei benl ci hun. Rhoddwyd y tan allan yn llwyr.

CERDYN NADOLIG

'CERDYN NADOLIG. Dymunaf mewn da amynedd—Wyliau Nadolig i'ch annedd, A mwynhau y b'och mewn hedd 0 Ganaan pob digonedd. Dolgellau. R. JAMES (Trebor). 6:)\2)

IART H 00

ART H 00. Y Gymdeithas Ddiwylliadol.—Cynaliwyd yr uchod nos Wener diweddaf, yn Ysgol y Cynghor, dan lywyddiaeth y Parch. E. J. Edwards. Dechreuwyd trwy ganu emyn. Yna caed unawd prydferth ar y berdoneg gan Miss Ceridwen Ellis, Erw- goed. Yn ddilynol, caed papyr addysg- iadol a gwerthfawr ar Gwyrthiau Crist," gan y llywydd, y Parch. E. Jones Edwards. Diolchwyd yn gynes iddo am ei bapyr rhagorol, a chafwyd sylwadau ar y testyn gan amryw o'r cyfeillion oedd yn bresenol, sef y Parch. J. Williams Davies, Mri. Morgan Williams, Walter Davies, a C. Roberts. Cafwyd unawd, Bendithiaist Goed y Meusydd," gan Miss Dilys Wynne; ac adroddiad hynod o dda gan Master Edwin Rowlands, Crogennan. Cafwyd cystadleuaeth enwau Lleoedd yn dechreu gyda llythyren nei ldud goreu al an o nifer dda o ymgeiswyr, Miss J. Ashton Jones, Pantyllan. Cafwyd noson ddifyr, a daeth cynulliad da ynghyd. Mwyn- hawyd y cyfarfod yn fawr. Cyfeiliwyd gan Misses Ceridwen Ellis a O. B. Jones.— Nos Wener nesaf, ceir papyr ar y testyn, Garddwriaeth a'i werth yn yr amser presenol," gan un o blant Arthog, Mr. William Williams, B.A., sydd wedi dringo i safle anrhydeddus fel Gardening In- structor yn Ngholeg y Brifysgol, Bangor. Diau y bydd pawb ar eu mantais o ddod i'w glywed, gan fod y testyn yn hynod o amserol. 6D6D6D

IETHOLIAD CLEVELAND

ETHOLIAD CLEVELAND. Dydd Gwener, gwnaed canlyniad Ethol- iad Seneddol Cleveland, swydd Efrog, yn hysbys, fel y canlyn Samuel. 7312 Knight 1453 Mwyafrif 5859 Y mgyrau yn yr etholiad diweddaf, yn Rhagfyr, oeddynt :—Samuel, 6870 Lewis, 5343. Safai Mr. Knight fel ymgeisydd bus- nes," a chaffai gefnogaeth Mr Bottomley golygydd John Bull. Cymerodd yr etholiad le oherwydd i Mr. Samuel-c-sydd eisoes yn Bostfeistr Cyffred- inol-gael ei benodi yn Ganghellydd Duc- iaeth Lancaster, yn lie Mr. Winston Churchill. 0 hyn allan ni chaniateir i gardiau post darluniedig gael eu hanfon i wledydd tram- or o'r wlad hon heb fyned trwy law y Cen sor. Caed allan fod ysbiwyr Germanaidd yn defnyddio y cyfryw er eu dibenion eu hunain. Trwy foddio.n fferyllol gallodil guddio cenadwri bwysig yn y cardiau hyn. V