Collection Title: Dydd

Institution: The National Library of Wales

Rights: This resource is copyright of Cambrian News Ltd.

View full details

First Previous Image 3 of 8 Next Last
Full Screen
8 articles on this page
YN FFRAINC A FLANDERS II

YN FFRAINC A FLANDERS. I Cafwyd cenadwri oddiwrth Syr John French, yn hysbysu fod awyrenwyr Pryd- einig wedi tan-belenu Don, pum' milldir o La Bassee. Credir i ystordy cvfarpar ( gael ei chwythu i fyny. Niweidiwyd y rheilffordd, hefyd, a chymerodd amrvw o I adeiladau yn y dref dan. > Darfu i'r cyflegrwyr Prydeinig wneuthur JI galanastra mawr yn ffosydd y gelynion i'r de o Epinette. Darfu iddynt chwythu i fyny ystordy ffrwydbelenau. Darfn i'r I Ffrancwyr ddinystrio tanciau o nwy gwen- wynig perthynol i'r Germaniaid, rhwng 1 Argonne a'r Meuse. Hona y gelynion iddynt enill safle oddiar y Ffrancwyr ar Fryn 193, ger Tahure. Anfonodd Syr John French genadwri, ddydd Gwener, i'r perwyl fod y Prydein- wyr wedi ymestyn eu llinell yn agos i bymtheg milldir i'r de o Loos. I

IIYR ENCILlAD 0 BAGDADI

I YR ENCILlAD 0 BAGDAD. I Darfu i'r Prydeinwyr, ar ol eu colledion mawr, yn rhifo 4,567, ym mrwydr Ctesi- phon, encilio i lawr yr Afon Tigris. Ym- lidid hwy gan nifer fawr o'r Tyrciaid. Enciliodd y Prydeinwyr mewn trefn dda. Darfu iddynt adael dau gwch mawr ar yr afon, ar ol gofalu eu gwneuthur yn ddi- fudd i'r gelynion. Hona y Tyrciaid iddynt roddi un cwch < Prydeinig ar dan, iddynt gymeryd dwy long garient nwyddau, a chymeryd chwech o awyrenau oddiar y Prydeinwyr. Newyddion o Gaercystenyn a edrydd y bydd i'r Tyrciaid ymosod ar yr Aifft yn j gynar ym mis Ionawr. Bydd ganddynt, meddant, filoedd lawer o filwyr yn barod 1 i'r ymgyrch.

LLWYDDIANT PARHAOL Y RWSIAIDl

LLWYDDIANT PARHAOL Y RWSIAID. l Pellebrau o Teheran a edrydd i'r Rwsiaid enill buddugoliaeth yng nghyfeiriad Ham- adan. Derbyniodd y gelynion golledion dirfawr yn yr vmladdfa. Cvmerodd v Rwsiaid dref Ave, o'r fion y trefnant ym osodiadau pellach.

Y RHYFEL YN SERBIA I I

Y RHYFEL YN SERBIA. I Dengys newyddion o Serbia yn ystod vi- wythnos fod y sefyllfa yno am y pryd yn | bur ddifrifol, a bod milwyrFfrainc a j Phrydain yn cael eu gwthio yn ol gan y Bwlgariaid i gyfeiriad Groeg. Daeth y newydd yn gynar ar yr wythnos fod y Bwlganaid wedi ymosod yn ffyrnig ) ar safle ein milwyr ni i'r gorllewin o Lyn Doiran, gerllaw ffiniau Groeg. Llwydd- odd y gelyn i ruthro i linell gyntaf y ffos- ydd ond gyrwyd hwy vn ol drachefn gyda'r bidogau. Y dydd dilynol gWnaeth ant ruthr eilwaith, ac yr oeddynt mor ( niferus fel ag i orfodi ein milwyr i encilio a chymeryd eu safle ar linell newydd fwy yn ol. Bu raid cilio ymhellach ddydd Mercher, ac unioni'r llinell; ond dywed pellebr o Salonica fod y llinell newydd yn dal yn gadarn, er fod y gelyn yn parhau i ymosod, ac yn ymddangos yn benderfynol o dori trwodd. Hysbysir hefyd fod y Ffrancod wedi gor- fod encilio o Demir Kapu, a bod yr ymladd yn parhau. Dywed yr adroddiadau Ffreng g eu bod yn enc-il o amresymau hawdd i'w deall. Gan fod byddin Serbia am y pryd allan o gyfrif, dywedant nad yw presenoldeb milwyr Ffrainc yn angen- rheidiol ar dir Serbia. Tra yr hona'r Bwlgariaid oruchafiaeth fawr, g\vna'l' ad- roddiad swyddogol hwn o eiddo arweinwyr bydd n Ffrainc ynglir nad yw'n golygu mwy na bod y gelyn yn cymeryd meddiant o dir na cheisiwyd ei ddal rhagddynt.

AR Y MOR

AR Y MOR. Y mae cychod tansuddawl Prydeinig yn cyflawni gwaith ardderchog ym Mor Marmora. Ar Rhagfyr 2il darfu i un o'r cychod hyn niweidio tren drwy saethu ati. Ar y 3ydd darfu iddi suddo cludlong Dyrcaidd, gan achub 42 o swyddogion a dynion. Ar y 4ydd, suddodd agerlong, gludai nwyddau i'r gelynion. Cariai 3,000 tunell. Hefyd, suddodd bedair o longau llai. Ym Mor yr Adriatic, darfu i longau- rhyfel Awstriaidd suddo llong-ryfel Ffreng- ig. Hefyd, suddasant nifer o longau oeddynt yn cludo arfau i filwyr Ffrainc. Ymosodwyd ar agerlong berthynol i'r Standard Oil Company ym Mor y Canoldir. Yn ol un adroddiad, llwyddodd yr ager- long i ddianc, ond yn ol adroddiad arall cymerwyd yr agerlong yn xhwym i borth- ladd anhysbys. Suddwyd yr agerlong Commodore (Harrison Line, Lerpwl). Cariai 5,800 tunell. Achubwvd yr oil o'r dwylaw ag eithrio y cogydd. Dydd Gwener, hysbyswyd fod yr ager- long Veria," 3,229 tunell; a'r agerlong Roegaidd L G. Goulandris," wedi eu suddo. Achubwyd dwylaw y ddwy long.

CYMERYD AS YN CARCHAROR

CYMERYD A.S. YN CARCHAROR. Tra yr oedd Capten Stanley Wilson, A.S., yn cludo llythyrau dros y Llywodraeth Brydeinig o ddwyrain y Mediterranean i Lundain, cymerwyd ef yn garcharor gan y gelynion. Teithiai mewn agerlong Roegaidd, yr hon a ataliwyd gan gwch tan-suddawl Awstriaidd. Taflodd rai o'r papyrau oedd yn ei feddiant i'r mor, a chymerwyd meddiant ohonynt gan y gelynion. Nid oeddynt o bwvs. Gallodd roddi papurau eraill, oeddynt yn werthfawr, i foneddiges Am- ericanaidd oedd ar fwrdd yr un agerlong ,Lg Y mae Capten Wilson yn Aelod Sen- eddol (Toriaidd) dros Adran Holderness, Efrog. @'S@

CARCHARORION PRYDEINIG I

CARCHARORION PRYDEINIG. Triniaeih Anynol. | Yn ddiweddar newidiwycl carcharorion clwyfedig rhwng Prydain a Germani Edrydd ein carcharorion ni, sydd newydd ddychwelyd o Germani, fod y Prydeinwyr yn cael eu trin yn waeth nag anifeiliaid vno ..Ymddengys mai y lie y trinid y carchar- orion Prydeinig waethaf yn Germani yd- oedd yn Wittenburg. Yn gynar yn y flwyddyn hon ysgubwyd y gwersyll uchod I gan glefyd y typhoid. Rhedodd y gwyl- wyr Germanaidd o'r lie, gan roddi bwyd i'r carcharorion Prydeinig drwy dwnelau I! o goed. Yna, ymwirfoddolodd chwech o swyddogion Prydeinig i fyned i Witten- burg i weinyddu ar y dynion. Darfu i bump ohonynt gael y clefyd, a bu tri farw. Cyn i'r clefyd adael y gwersyll, bu 1,600 feirw ohono, sef 1,000 o Rwsiaid, 500 o Ffrancwyr, a 99 o Brvdeinwyr. I I

I CYFARFOD DOSBARTH DOLGELLAU

I CYFARFOD DOSBARTH DOLGELLAU- Cynhaliwyd y Cyfarfod Dosbarth yo Bethel, Dolgellau, ddydd Iau, Rhagfyr 9fed, dan lywyddiaeth y Parch. T. Mordaf Pierce, yn absenoldeb y llywydd, Mr. E. W. Evans. Dechreuwyd trwy ddarllea a gweddio gan y Parch. E. Trevor Evans.™ Cadarnhawyd dewisiad y materion can- lynol at y flwyddyn 1916 Ionawr, yF Salem, Llywodraeth Duw ar y byd:- Parch. O. Lloyd Owen a Mr. John Wynne Mehefin, Llanelltyd, Gwylia ar dy droed- pan fyddech yn myned i Dý Dduw,' Parch. Hywel Parry a Mr. D. R. Jones* Bethel. Rhagfyr, Bethel, Y Grasusau. I sy'n aros," 1 Cor. xiii. 13, Parch. Joha Radcliffe, B.D., a Mr. Lewis jaiiies. Dewiswyd Mri. R. C. Evans ac Edward Williams, Salem, yn archwilwyr llyfrau yr eglwysi. — Derbyniwyd adroddiad am yr hyn wnaed yn ystod y Sabbath DirwestoL I Cafwyd fod Dirwest wedi cael sylw arbenig eto eleni. Rhoddwyd croesaw calonog; a siriol i'r Parch. Hywel Parry i gylch y Dosbarth, ar ei waith yn ymgymeryd a gofal bugeiliol eglwysi Siloh, Rhiwspardya a'r Brithdir. Dymunwyd ei lwyddiant yn ei gylch pwysig, gan ddymuno bendttb yr Arglwydd ar ei lafur. Estynwvrd y croesaw gan y Parch. E. Jones Edwards a Mr. Richard Mills. Etholwyd y Parch. E. Jones Edwards ym i Llywydd am y flwyddyn 1916, a phea- odwyd amryw frodyr i weithredu ar wa- hanol bwyllgorau y Cyfarfod Misol. Gwnawd coffhad tyner am y diweddar Mr D. Parry-Owen, y Brithdir. Gwr anwyl a charedig iawn oedd Mr. Parry- Owen. Cymerodd ran flaenllaw yn sef- ydliad yr Achos yn y Brithdir, a gweith-" j iodd yn ddiwyd a gonest hyd y diwedd I' er sicrhau ei lwyddiant. Fel ysgol-feistr enillodd barch a chymeradwyaeth yr ardal i gyd. Bydd y gollecl yn fawr ar ei of I yinliol) cylch. Hefyd, gwnaed coffhad tyner am y di- weddar Mr. Robert Lewis, Islaw'rdreL Gwr t a.wel ac unplyg iawn oedd Mr. Robert Lewis, a bu yn ffyddlon iawn ir Aches yn Islaw'rdref am (iynyddoedd lawer. An- fonwyd cydymdeimlad at Mrs. Parry- Owen, a Mrs. Lewis, Dylfrydan, ac at amryw frodyr sydd mewn gwaeJedd a phrofedigaeth. Galwyd sylw at Gasgliad y Forward Movement," gan Mr. Cadwaladr Roberts, ac at yr Wythnos Wecldfo, a'j- CyJch- gronau, gan y Llywydd. Diweddwyd gan y Parch. Hywel Parry J. Francis Griffith, Y s'. Gadawodd Mr. E. M. Owen, Grosveatvr Gardens, Llundain, y swm enfawr e £ 205,298 ar ei ol. Gadawodd lIOO i'w was, a'r swm o 1150.000 i Fyddin yr lach- awdwriactli.