Collection Title: Dydd

Institution: The National Library of Wales

Rights: This resource is copyright of Cambrian News Ltd.

View full details

First Previous Image 3 of 8 Next Last
Full Screen
2 articles on this page
Y RHYFEL I

Y RHYFEL. Wythnos fythgofiadwy ydoedd y ddi- weddaf. Dydd Llun y Pasg torodd gwrthryfel allan yn yr Iwerddon. Dydd Mawrth darfu i longau gelynol dan-belenu Lowestoft ac Yarmouth. Dydd Mercher ymwelodd awyrenau gelynol a'r wlad hon. Dydd Iau collwyd y llong-ryfel Russell.' Dydd Sadwrn, cwympodd Kut. )  I I Y MOR A'R AWYR. j Gwnaeth y Germaniaid ymgais eithriad- j ol i'n dychrynu mewn mwy nag un ffordd yn ystod yr wythnos. Mentrodd adran o'i Llynges allan o'i lloches a daeth o fewn I cyrhaedd tan-beleniad i'n glanau, a bwr- iodd din ar Lowestoft ac Yarmouth, j Gwnaed yr ymosodiad ar y lie blaenaf tua I 4-30 fore Mawrth gan ysgwadron o ryfel- | longau. Pan ddaeth ysgwadron leol allan diangodd y llongau gelynol wedi iddynt It droi eu gynau ar ein llestri. Bu hefyd ymweliadau o eiddo'r Zeppel- I ins, ac yr oedd cysylltiad agos rhwng yr I ymgyrch lyngesol ac awyrol. Diau fod y Llynges elynol wedi cael allan, trwy ad- roddiadau gan y Zeppelins, fod y mor yn glir yn y rhan hon. Disgwylid yn ddiau am gydweithrediad effeithiol rhwng y llongau a'r Zeppelins yn ddilynol; ond ni fu llwyddiant fel a ddisgwyliwyd. Mae II llawer o son wedi bod am y perygl in Llynges trwy gydweithrediad yr awyr- longau a Llynges Germani. Hyd yn hyn nid yw gobeithion y gelyn yn y cyfeiriad hwn wedi eu sylweddoli, ac os yw'r hyn gymerodd le yr wythnos ddiweddaf yn ddangoseg o'u gallu yn hyn nid yw'r perygl oddiwrth ymdrechion o'r fath yn gymaint ag yr ofnwyd. TANBELENU LOWESTOFT. Yn ymosodiad y llongau gelynol ar Lowestoft a Great Yarmouth profwyd dau beth, sef fod saethu y Germaniaid yn dru- enus o wael, ac fod ychydig 9 longau-rhyfel bychain Prydeinig wedi llwyddo i'w gyru yn ol yn bur ddiseremoni. Mae'n wir iddynt wneuthur ychydig, niwed i eiddo a lladd pobl yn y lleoedd uchod. I bobl sydd yn llawn o lid a digllonedd y mae y gwrhydfi" hwn yn beth ardderchog iawn Yr oedd eu saethu yn wyllt a di- amcan. Dangosai fod y sawl oedd wrth y gynau yn dioddef oddiwrth nerfau gwan ac ar frys i ymadael. Y mae arwyddion amlwg, hefyd, fod llywyddion y Zeppelins yn dechreu dioddef oddiwrth eu nerfau. YMWELIADAU Y ZEPPELINS. I Nos Lun y Pasg talodd tair o Zeppelins Germanaidd ymweliad a'r deyrnas hon. Aethont drosodd i Swydd Norfolk. Yr oedd dwy ohonynt gyda'u gilydd, a daeth y llall ymhen haner awr ar eu hoi. Goll- yngwyd ffrwydrOn. Dydd Mercher, drachefn, talodd pedair Zeppelin ymweliad a Lloegr yn ystod y nos. Yr oeddynt wrth ben siroedd Kent ac Essex. Taniwyd yn galed arnynt gan fagnelau Prydeinig, a bu raid iddynt ddychwelyd heb wneuthur fawr niwed. Ymwelsont ar un siroedd drachefn nos Iau, ond heb wneuthur niwed o bwys. CWYMP KUT-EL-AMARA. RHODDI EU HARFAU I LAWR. Y mae Kut wedi syrthio ar ol gwrth- sefyll am 143 o ddyddiau. Nid oherwydd diffyg gwroldeb. y rhoddodd y Cadfridog Townshend ei arfau i lawr i'r Tyrciaid, ond oherwydd prinder bwyd, ac afiechyd yn y gwersyll. Bu'r Cadfridog Townshend, gyda'i fydd- in o 9,000, o fewn deunaw milldir i Bagdad. Ceisiodd y Cadfridog dewr gyrhaedd y dref hono, ond ffaelodd. Ar y dechreu yr oedd ganddo fyddin o 14,000. Pan ar fin cyrhaedd Bagdad, daeth adgyfnerthion i'r Tyrciaid, a bu ei gynllun yn aflwydd- anus. Gorfu iddo ef a'i fyddin ymneill- duo yn ol i Kut, lie y daliodd allan hyd yr eithaf. Aberthodd lawer, a dioddefodd yn enbyd cyn rhoddi ei arfau i lawr. Ddiwedd yr wythnos, cyhoeddwyd ad- roddiad am ymgais llong yn cynwys cyf- lenwad o ymborth i fynd i fyny ar hyd y j Tigris. Trodd yr ymgais allan yn feth- iant, a deallwyd ar unwaith fod y gobaith olaf am waredu y Cadfridog Townshend wedi diflanu. Ceisiodd y Fyddin Brydeinig anfonwyd i'w ryddhau wneud eu goreu i'w gyrhaedd mewn pryd, ond curwyd hwy gan elfenau natur. Methasant yn eu hymgais wrol oherwydd cyfarfod ag ystormydd a Ilif ddyfroedd. II Nid yw cwymp Kut o bwys milwro mawr. Darfu i'r Cadfridog Townshend achosi colled fawr i'r Tyrciaid. Yn wir, i yr oedd eu colled hwy lawn cymaint ag eiddo y Prydemwyr eu hunam. Er i'r fyddin hon fethu cyrhaedd Bagdad, fe lwyddasant i gadw byddin fawr o Dyrc- iaid oddeutu Kut, ac felly deneuo y bydd- inoedd Tyrciaidd oeddynt yn ymladd yn erbyn y Rwsiaid. Trwy hyn, a'u dewr- der, llwyddodd y Rwsiaid i enill Erzerum a Trebizond yn yr un wlad, sef Meso- j potamia. Erys gorchest y Cadfridog Townshend a'i filwyr yn hir yn nhraddodiadau milwrol Prydain. Rhifai'r fyddin yno agos i dair mil o filwyr Prydeinig a chwe' mil o India. > Cyn rhoddi eu hunain i fyny i'r Tyrciaid, darfu i'r Cadfridog Townshend ddinystrio I y gynau a'r arfau, etc., oeddynt yn y lie, rhag i'r gelynion gael defnydd ohonynt. Nid yw y Cadfridog Townshend ond 55 mlwydd oed, ac y mae ei yrfa filwrol yn un hynod ddisglaer. I YMLADD GER SUEZ. Bu ymladd caled i'r dwyrain o Gamlas Suez. Dydd Sul ymosododd oddeutu I pum' cant o'r gelynion ar safle Brydeinig yn Dueidar. Gorchfygwyd hwy. Lladd- wyd deugain o honynt, a chymerwyd 30 yn garcharorion., Dilynwyd y Tyrciaid go;rchfygedig gan filwyr Awstralaidd, a gollyngwyd ffrwydbelenau arnynt, y rhai 'I wnaethont niwed mawr. Yr un adeg ymosodwyd ar bentref bych- an oedd gerllaw gan dair mil o'r gelynion. Cedwid y pentref gan nifer bychan o feirch- filwyr Prydeinig, y rhai enciliasant o flaen y lluoedd. gelynol, cryfach. Yn Croydon, dirwywyd Walter Pardon, Acldiscombe, i £ 5 am gyneu tan gwyllt yn ei ardd yn ystod ymweliad awyrenau gelynol a'r lie YN Y GORLLEWIN. Bu'r gelyn yn hwy nag arfer heb wneud ymgais bellach i geisio tori trwodd i Verdun, gan foddloni yn benaf ar dan- belenu'r dref o bellder gyda rhai o'i gynau mawr. Aeth rhai o'r arweinwyr Ffrengig mor bell o'r diwedd a datgan eu barn fod > yr ymgais i dori trwodd wedi ei rhoi i fyny. Dywed y Germaniaid eu hunain yn ddi- weddar nad oeddynt o gwbl wedi meddwl am dori trwodd. Gwnaed ymosodiadau ffyrnig ar y mil- wyr Prydeinig yn ystod yr wythnos, a hyny mewn amryw bwyntiau ar y llinelh Yr oedd hyn drachefn yn cadarnhau rhai yn y syniad fod Verdun i'w rhoi i fyny, ac ymgais newydd i gael ei gwneud i dori trwy ein rhengau ni i Calais. Prin y, credwn y rhydd y gelyn i fyny'n llwyr yr t. ymgais am Verdun ne5 gwneud pobpeth posibl i lwyddo. SUDDO BAD TANFORAWL GELYNOL Dydd Gwener, caed newydd da, set fod llong-ryfel Brydeinig wedi suddo cwcli tan- suddawl Germanaidd, un o gychod dos- barth yr U." Yr oedd ganddi driugain o griw. Yr oedd yn un o gychod tan- suddawl mwyaf y Germaniaid, ac o'r mathau diweddaraf. éi)éi)éi)

NEWYDDION

NEWYDDION. Caed prisiau uchel am benwaig yn swydd Inverness, yr Alban, sef £ 10 y cran. Ym marchnad Berwick, yr wythnos ddi- weddaf, ceid £ 47 y pen am fustych tew. Lladdwyd neidr, fesurai dair troedfedd o hyd, yn Cullompton. Bwriada Esgob Birmingham ymweled a Ffrainc ar wahoddiad y Cadfridog Joftre. Dywedir fod glowyr Sir Gaerhirfryn yn enill cyflog o £ 5 yn wythnosol. Maent eisieu rhagor am weithio ar y Sul. Dydd Sadwrn, cyrhaeddodd crania y Frenhines er helpu merched diwaith, y swm o £ 169,324 8s. 10c. Cofnodir marwolaeth y Parch. George S. Barrett. Yr oedd yn gadeirydd Uadeb Cynulleidfaol Lloegr a Chymru yn 1894- Y mae George Hatto, y paffiwr Cymreig, wedi ymuno ag adran. awyrol y fyddin Brydeinig. Argymhellir Bwrdd Undebau y deymas i ddefnyddio margarine, yn lie ymenyn yn y tlottai. I Oherwydd iddo ffaelu cael esgusad'S1 milwrol i'w fab, darfu i Mr. D. Cromv Jones, Tregaron, grogi ei hun. Y mae Mrs. Sarah Taylor, sydd yn c i. tw siop fechan yn Hyde Road, West Gorton, Manceinion, yn 103 mlwydd oed. Mae. ei chwaer, sydd yn byw gyda hi, yn 97. Mae ar yr hen wraig eisieu byw i weled heddwch yn cael ei gyhoeddi.