Collection Title: Dydd

Institution: The National Library of Wales

Rights: This resource is copyright of Cambrian News Ltd.

View full details

First Previous Image 2 of 8 Next Last
Full Screen
3 articles on this page
YN FFRAINC

YN FFRAINC. Mae'r galluoedd cyfunol yn dal i ennill tir yn Ffrainc, ac yn myned o fuddugol- iaeth i fuddugoliaeth. Yn ol yr adrodd- iadau diweddaraf gwnaed ymosodiadd nawr gan y Prydcinwyr brydnawn Sul ar hyd linell o 3,000 o lathenni. Mae pentref Eaucort l' Abbaye yn awr yn ein mcddiant, ac y mae tri chant o garcharor- ion heyfd wedi eu cymeryd. Mae'r Tanks y tir-longau Prydeinig sydd yn gwneud gsvaith mor ragorol, yn dal i helpu'r niilwyr yn eu hymdrechion. Mae'r Pryd- einwyr hefyd wedi cymeryd nifer o garcharorion ar hyd y llinell o Ypres i Meuve Chapelle., Y RWMANIAID. I Hysbysir fod y Rwmaniaid wedi croesi y Danube, a'u bod yn awr yn Bwlgaria, I y tu ol i fyddin Mackensen, ac yn ei ■ pheryglu. Newyddion diweddaraf a ddyw ed fod y bont dros ba un y croesant x Wedi cael ei dinystrio gan monitors yr A,a,striaid. 0 MACEDONIA. Mae y Cydfyddinoedd wedi ymosod yn Macedonia gyda chanlyniadau rhgaorol. Mae y Cydfyddinoedd wedi ymosod yn Macedonia gyda chanlyniadau rhagorol. Mae milwyr Ffrengig a Serbaidd sydd yn myned ym mlaen am Monaster wedi J cymcryd Peterak, Vbslin a Soviel. I'r j dwyrain o'r Afon Struma, mae y Prydein- wyr wedi gyru y Bwlgariaid o Zenikoy, ac y maent yn awr o fewn saith milltir i Seres, a'r Ffrancod o fewn 1S milltir i Monaster. Y RWSIAID. Mae y Rwsiaid yn gorfod brwydro yn Jf'yrnig ar eu ffordd i Lemburg, ac y mae j y gelyn yn dod ac ychwaneg o fihvyr 1 w cyfarfod. Mae y Rwsiaid yn parhau er hynn y i ddod yn mlaen, ac yn Galicia iddydd Llun cymerasant ill o garcharorion yn gwneud 5,000 mewn tri diwrnod. GROEG. be Brenin Groeg a'i weinidogion unwaith eto yn datgan eu parodrwydd i ymiino, vn y Rhyfel o'n hochr ni. Hysbys- irfod y newvddiaduron wedi eu gorchymyn i beidio cyhoeddi erthyglau ymosodol ar Venezelos, ac i beidio cyhoeddi newyddion a glywir am fuddugoliaethau Germanaidd. Nid ydyw y galluoedd yn dangos fawr a ddyddordeb yn v gweithrediadau. DWYN ZEPPELIN ARALL T I.AWR. I _d_ I PEDAIR 0 FEWN MIS. Yn ol yr adroddiadau diweddaraf gwn- ¡ aeth nifer o Zeppelins ymosodiad ar Brydain nos Sul. Gollyngwyd ffrwyd- I beienau ond ni wyddid ar y pryd faint o ddifrod a wnaed. Talodd rhai o'r awyr- teagau ymweliad a chyffiniau Llundain. i Bn i un Zeppelin, ddisgvn i'r ddaear mewn Samau, yrg Ngogiedd Llundain, ac wrth ddisgyn yr oedd yn goleuo'r wlad am filltiroedd. Dyma'r bedwaredd Zeppelin i gael ei dwyn i lawr ger Llundain o fewn mis. J I

YMGOM GYDA MR LLOYD GEORGE

YMGOM GYDA MR. LLOYD GEORGE. RHAIU DINYSTRIO MILWRIATH PRWSIA. Dydd Gwener cyhoeddwyd ymgom gaf- odd Mr. Roy W. Howard (Americanwr), gyda Mr. Lloyd George, (Gweinidog Rhyfel y wlad hon). Ebai Mr. Lloyd George, "Nid yw diwedd y rhyfel yn y golwg. Byddai i waith Unol Dalaethau'r America, y Babaeth, neu 'unrhyw wlad anmhleidiol arall gynyg telerau heddwch yn awr yn weithred an- oeth ac yn un fuasai yn ffafrio'r Almaen. "Nid yw Prydain wedi dechreu ymladd eto. Y mae Prydain wedi buddsoddi miloedd o'i bywydau goreu i brynu rhydd- id dyfodol gwareiddiad. Nid yw y budd- soddiad yma i gael ei daflu ymaith. ) "Darfu i Brydain Fawr ymyryd yn y I rhyfel hon ar dir chwareu teg. Nid oedd am ganiatau i genedl fechan gael ei sathru dan draed. "Gofyna Prydain am chwareu teg yn y rhyfel hon; nid yw wedi cael hyny bob amser. Nid yw wedi cwyho am na chafodd I chwareu teg. Nid yw, ychwaith, wedi gofyn i wlad arall gwyno drosti. "Yn awr, pan y mae y llanw wedi troi ychydig o blaid y Cydfyddinoedd, nid ydym yn foddlawn i derfynu'r rhyfel, er fod yr Almaen yn gwichian, ac er fod. rhai dyngarwyr a'u hamcan yn dda efallai yn ceisio awgrymu telerau heddwch. "Am ddwy flynedd cafodd y milwyr Prydeinig amser caled. Nid oes neb wyr 1 hyny yn well nag ef ei hun. Yr oedd ar ol I mewn cyfarpar ac mewn disgyblaeth. Gwelodd fod y Cydfyddinoedd yn cael eu euro ymhob man. Er hyny ni ofynodd i'r gwyddfodolwyr na'i. feirniad i atal y rhyfel am ei bod yn un greulon. Ni ofynodd ychwaith, am i reolau rhyfel gael eu newid. Cymerodd ei guro, hyd yn oed pan gurwyd ef fel ci. Yr oedd yn gi dewr er hyny. Arhosodd ei amser. "Beth wnai'r Almaen yn ystod yr amser. yna. A oedd yn poeni am y lladdfa fawr? Nac oedd. Siaradau am feddianu i Belgium a Poland. Pan feddyliodd yr Almaen fod y diwedd y fyddin Brydeinig yn agos yr oedd ami eisiau ymladd hyd y diwedd. Gwaddid y milwyr Prydeinig. Caiff yr Almaen ei dymuniad yn awr. Y mae y rhyfel hon yn ymdrechfa hyd y diwedd. .,Dviai'y bvd wybod nas gallwn ddiodd- ef ynlyriad yn ar. Nid oedd yr Almaen I na'i chefnogwyr yn gofidio pan 'yr aeth I miloedd o Brydemwyr ieuanc dibrofiad i faes y gwaed i gael eu dinystrio gan nwyon I gwenwynig, eu cigyddio a'u malu gyda ') ffrwydron. Ceir pobl yn wylo yn awr  wrth feddwl beth sydd wedi dyfod i gwpan yr Almaen. Yr oedd y bobl hyn a'u xlygaid yn sychion ar ddechreu'r rhyfel, pan yr oedd yr Almaen yn fuddugoliaethus. "Nid oes ymyriad i fod yn awr, pan y mae Prydain yn barod i roddi terfyn bythol tl-irywad. ar filwriaeth Prwsia." "Am ba hyd y pery'r rhyfel?" gofvn- odd yr Americanwr. "Nid ydym yn myried-wrth awrlais nac alamanac yn y Fyddin Brydeinig. Nid yw amser yn cyfrif. Y canlymad sydd yn cyfrif. Cymerodd ugain mlynedd i Brydam i goncro Napoleon. Yr oedd y pymtheg mlynedd cyntaf o'r ugain yn rhai tywyll i Brydain. Ni chymer ugain mlynedd 1 ennill y rhyfet hon, ond faint bynag o amser a gymer rhaid buddugol- iaethu. "Nid ydym ond newydd ddechreu gorchfygu. Nid ydym yn cario'r syniad y terfyna'r rhyfel yn fuan. Ond nis oes gennym amheuaeth leiaf pa fodd y bydd iddi derfynnu." "Beth am Ffrainc?" gofynwyd. "Nid yw y byd eto wedi gallu gwerth- fawrogi dewrder a mawrfrydigrwydd Ffrainc. Erys Ffrainc hyd y diwedd. Efallai eich bod chwithau yn meddwl am y Ffrancwr, fel eraill, ei fod yn ardderchog mewn ymosodiad ond salw mewn amcldi- ffyniad. Profa hanes Verdun nad yw y syniad yma yn un cywir. Mae Frainc wedi ymladd y brwydrau meithaf yn hanes y byd. Prawf ei hanes yr ymladda hyd t wedd yn y rhyfel hon hefyd." I "A beth am Rwsia?" "Erys Rwsia hyd farw. Araf oedd i'w chynhyrfu ond araf fydd i dawelu. Mae digllonedd Rwsia yn fawr iddi gael ei gorfodi i fyned i ryfel mor sydyn. ac mor amharod." I "Na ni cheir bradwyr na rhai yn tynnu yn ol ymysg y Cydfyddinoedd. Ym Mhrydain y mae dioddef mawr, ac fe aiff yn fwy eto. Y mae dychrynfeydd y rhyfel yn ofnadwy. Bu'm yn Ffrainc yn y ffosydd. Safwn, megis yn nrws uffern. Gwelais fyrddiynau yn ymdaith i'r ffwrnais. Gwelais hwy yn dyfod ohoni a'r tan wedi enyn arnynt a'u cyrff wedi eu dryllio. Ni ddylid byth mwy oddef hyn yn y byd. Yr unig ffordd i'w atal yw cospi hyd yr eithaf y sawl sydd yn gyfrifol am adnynt. Dyna bender- fyniad Prydain." @@@

I CYFA RCHIAI PRIODASOLI I

CYFA RC-HIAI) PRIODASOL. I Mr. R. John Roberts, Riverside. "Gwell hwyr na hwyrach," gyfaiJI tirion I'th gyfarch di a'th briod wiwlon; I'r rhwyd y deuaist heb yn wybod 'Does baU ar allu y menywod. Ti gwrddaist lawer meinwen hawddgar, Ac ar dy daith rhai hyuod ddengar, Ond diflana eu holl ragorion Yn y wyryf a gadd dy galon. Cenaist lawer o hen alawon Ti geni fwy i serch dy galon; Boddlon wyt a hynod serchog, > Yn nghwmni'r rhian o Ffestiniog. Nid ydyw priodi ond peth bychan, Byw i bwrpas goron-a'r cyfan, Gwneud eich goreu i gydymdynu, Dyna wynfa aelwydydd Cymru. Wrth derfynu, goddefwch i mi Ddymuno'n dda, a llwyddiant i chwi, Ac os daw stormydd ar eich gyrfa Fe ddywed ffydd—daw dydd o hindda. Dolgellau. TREBOR.