Collection Title: Seren Cymru

Institution: The National Library of Wales

Rights: This resource is copyright of Baptist Union of Wales.

View full details

First Previous Image 10 of 16 Next Last
Full Screen
6 articles on this page
AT Y PARCH T HUMPHREYS YSGRIFENYDD UYSBC BLAENLLECHAU i

AT Y PARCH. T. HUMPHREYS, YSG- RIFENYDD U.Y.S.B.C., BLAENLLECHAU ¡ i Anwyl Frawd,Cofus i chwi yn ddiau i mi ysgrifenu atoch yn bersonol ychydig amser yn ol ynghylch taflen gwersi yr Undeb Ysgolion Sul Bedyddwyr Cymru. Siom i mi oedd cynwys eich ateb yn hysbysu nad oedd un cyfrwng dod o hyd y wers namyn y cyhoeddiad yr Undeb, sef yr 'Hauwr.' Er mwyn gwneyd achos Ysgolion Sul Hermon yn eglur i'r darllenwyr, rhaid nodi mai eleni y cychwynwyd gyda'r wers. Yn flaenorol, cymerai pob dosbarthei wers ei hun, a chydag athrawon medrus credaf fod yr ysgol wedi gwneyd gwaith go lew yn y gorphenol, yn enwedig felly y plant. Gan na fu galw am yr Hauwr yn flaenorol y mae rhan mwyaf deiliaid yr ysgol eisoes yn derbyn "Seren yr Ysgol Sul," ac nid yw yn mryd llawer dderbyn dau gyhoeddiad cyfielyb. Felly, chwi a welwch ar unwaith paham y cyfododd galwad am dafleni i law pob disgybl, yn nodi y wers am y flwyddyn. Nid da pan y gellir gwell, ac fy mhrofiad cyntaf fel arolygwr yn cychwyn gyda'r wers ydyw angen taflen, ac unfarn yw teimlad yr ysgol. Yn bresenol, dyma'r cynllun gym- eraf yn y mater; ysgrifenaf mewn llythyr- enau breision, darllenadwy i bob dosparth o'i eisteddle, yn hysbysu y wers 'Heddyw a'r 'Sul nesaf.' Wrth hyny, yn rhoddi cyf- leustra i'r athrawon (yn bendant) a'r dis- gyblion efrydu y wers ar hyd yr wythnos yn barod erbyn y Sul. Gosodaf yr hysbyslen lion ar cldeso y pulpud. Pe bae tafleni yn 11a w bob athraw a disgybl, byddai hyny yn fwy effeithiol, yn enwedig felly pan ystyriwn mewn ardaloedd amaethyddol nad yw bosibl i bawb ddilyn yr Ysgol Sul yn ddigoll yn nhymhor y gauaf Fy amcan yn ysgrifenu atoch trwy gyf- rwng y Seren" yw rhoddi cyfleustra i arolygwyr a chefnogwyr yr Ysgol Sul draethu eu barn a'u profiad yn y peth hwn. Dilynaf ysgrifau hyfforddiadol y Parch. E. Ungoed Thomas ar yr Ysgol Sul, parant un i f oddwl rhagorol. 'Nawr, frodyr, ogyng- hor, traethwch er mwyn gwneyd yr Ysgol Sul mor effeithiol ac y gall medrusrwydd eu harweinwyr selog ac aiddgar ei gwneyd. Llanfyrnach. D. G. BOWEN.

CAN MLWYDDIAETH PENUEL BANGOR

CAN MLWYDDIAETH PENUEL, BANGOR tkt Olygydd Seren Cymru." Fel un wedi treulio rhagor nag ugain mlynedd yn y weinidogaeth yn Mangor, er gydag enwad arall, caniatewch i mi ddiolch yn gynhes iawn i'm eyfaill y Parch. J. H. Hughes, Manchester, am y pryd blasus gog- inia yn y llyfryn dyddorol dan y penawd uchod. Mae hanes gwerth i'w adrodd yn ngorphenol Penuel: ac nid ydyw yn dlawd mewn rhagolygon ychwaith ar sefydliad ein cymydog,—y Parch. J. Arthur Jones, yn weinidog ar yr hen eglwys barchus. Ond peth arall bar i mi eich trafferthu. Wrth adrodd am y Parch. John Evans yn ymsefydlu yn Mangor yn 1840, cyfeiria Mr. Hughes at waith y gweinidog llafurus hwnw yn mynu cofrestru capel y Bedydd- wyr yn fuan wedi ei ddyfodiad, acychwan ega: —" Rhoddodd John Evans esiampl i Ymneillduwyr Bangor, a dygodd yr hyn ellir ystyried yn Ddiwygiad i'r dref." Os. wyf yn deall ystyr y geiriau hyn, golyga Mr. Hughes mai John Evans oedd y cynt- af i gael capel Ymneillduol wedi ei gof- restru i weinyddu priodasau ynddo yn Man- gor. "Nid yw hyn yn ffaith." Digwydda fod ger fy, mron yn awr Gof-restr Bedydd- iadau Eglwys Anibynol y D

AT AELOD 0 YSGOL

AT "AELOD 0 YSGOL." Bwriedir ateb eich gofyniadau teg a rhes- vmol ar ol Arholiad vr Y sgolion Sul yn tons V Mawrth. E. U. T.

AT Y PARCH W T FRANCIS ABERAMAN

AT Y PARCH. W. T. FRANCIS, ABERAMAN. Anwyl Syr,Gwelwch yn dda fy hysbyisu a ydyw "gweithiau barddonol" y diweddar Barch. T. T. Hughes, Mountain Ash, ar gael? os ydynt pa le y gellir eu cael? Anfonaf y cais hwn atoch fel un a fu y blynyddoedd olaf o fywyd Mr. Hughes yn treulio llawer o amser gydag ef a chwithau yn weinidog yn Aberduar. Gwelwch yn dda ateb drwy y "Seren." Ydwvf. D.

CYNLLUN Y WEINIDOGAETH YN NGHWRDD DOSBARTH ABERDAR

CYNLLUN Y WEINIDOGAETH YN NGHWRDD DOSBARTH ABERDAR. Yn nglyn a'r symudiad uchod cynaliwyd dau gyfarfod pwysig yn Nghalfaria, Aber- dar, ddydd Mercher, lonawr yr 28ain, pan y dechreuwyd symud gyda'r gwaith pwysig sydd o'n blaen fel enwad yn Nghymru. Ymwelodd y Prifathraw W. Edwards, D.D., a chwrdd gweinidogion YI cylch fis yn ol er cael ymgynghor,i ar y ffordd oroul I weithredu, a barnwyd mai doeth fuasai cael trafodaeth ar y cwestiwn yn y Cwrdd Dosbarth, ac yna fod cynadledd i'w galw yn cynrychioli yr holl eglwysi. Penderfynwyd gofyn i bob eglwys yn y cylch anfon ohwech o gynrychiolwyr i'r Gynadledd, ac atebwyd yr apel gydag un- frydedd mawr. Ni sylwasom fod unrhyw eg- Iwys heb gael ei chynrychioli, a theimlid dyddordeb mawr yn y gwaith oedd genym i'w wynebu. Dewiswyd yn llywydd Parch. J. Griffiths, Calfaria, yr hwn sydd a'i holl enaid o blaid llwyddiant y Cynllun. Wedi anerchiad cyn- hes ganddo ar amcan y Gynadledd galwyd ar ddau frawd i arwain mewn gwecldi, sef y Parch. W. R. Lewils, Cwmaman, a Mr. John Jones, Abernant. Yna cawsom anerch- iad brwdfrydig gan Dr. Edwards. Cwynai nad oedd yn teimlo yn agos i gryf, a gobeithiwn na fydd iddo orwneyd pethau yn yr argyfwng pwysig yn ein hanes fel enwad. Bydd ei arweiniad, ei ddylanwafli a'i frwld- frydedd yn fantais fawr er dwyn i ben yn llwyddianus y gwaith a wynebir genym. Dangolsocld y Dr. fel y mae gwir angen am symudiad o'r fath hwn yn ein hanes fel enwad. Rhoddodd enghreiphtiau torcalonus o frodyr yn llafurio yn galed yn y weinid- ogaeth am gydnabyddiaeth anheilwng o fach. Teimlem wrth ei wrando, os yw Bed- yddwyr Cymru am gadw'r tir a enillwyd ganddynt, heb son am enill tir newydd, fod yn rhaid wrth y Cynllun Gweinidogaethol. Calonogwyd ni' hefyd gan y Dr. trwy adrodd am rai rhoddion ac addewidion teil- wng sydd wedi eu derbyn ganddo yn barod. Synem ddeall fad rhyw gant a haner o weinidogion yr enwad eisoes wedi addaw dros ddeuddeg cant o bunau, cyfartaledd o tuag wyth bunt yr un. Gwir a ddywedai, os bydd i leygwyr yr eglwysi wneyd yn debyg i'r gweinidogion, bydd llwyddiant y Cynllun yn sicr. Ar ol y Dr. bu y Parch. W. A. Williams Pontypridd, yn ateb cwestiynau ac yn egluro yn fanylach ddarpariadau y Cynllun. Gwy- ddis ei fod ef wedi gwneyd mwy na neb arall er symud yr enwad rhagddo gyda'r mater pwysig hwn. Gwnaeth eisoes fwy nag a wyr neb mewn ymholiadau i hanes am- gylchiadau gweinidogion a lafuriant yn yr eglwysi lleiaf, a dwyn ystad wirioneddol pethau i oleuni dydd. Teimlwn yn hyderus iawn gan fod Mr. Williams wedi ymdaflu gorph ac enaid i'r gwaith hwn fod llwydd- iant yr achos yn sicr. Wedi gwrando ar y brodyr, pasiwyd i gymeradwyo'r Cynllun yn gyhes i sylw'r eglwysi gan eu hanog i'w weithio allan. Penderfynwyd fod i bob eg- lwys apwyntio dau frawd gyda'r gweinidog, ar y Pwyllgor Cyffredinol, ac fod y pwyligor hwnw i gyfarfod ymhen mis. Dewiswyd hefyd saith o frodyr yn Bwyllgor Gweith- iol i drefnu ychydig ar y gwaith ar gyfer y Pwyllgor Cyffredinol. Diolchwyd yn gyn- hes i'r ddau frawd am ddod yma i'n hanerch a'n cyfarwyddo. j Ni chawsom fod yn y Cwrdd Cyhoeddus yr hwyr, ond disgwylid y ceid cyfarfod gwych gan fod y Parch. W. A. Williams a brodyr ereill o'r cylch i anerch. Cafwyd cvchwvn rhasrorol i'r gwaith yn na'hylch Aberdar. E. CEFNI JoNiBS.

0NODION 0 FLAENAU FFESTINIOG

0- NODION 0 FLAENAU FFESTINIOG. Cywiriad.Gwelir yn y "Dyddiadur" am J eleni enw y pregethwr ieuangc o Seion, Ffestiniog, D. Garfield Owen, fel D. E. Jones. Carwn gywiro mai D. G. Owen ddylai fod. Mae y brawd ieuangc wedi pasio Arholiad Cymanfa D. Ff. a Meirion y flwyddyn ddiweddaf yn llwyddianus, ac ar hyn o bryd yn Ysgol Hyfforddiadol Clynog Fawr yn Arfon; ac yn barod i lanw pulpud yr eglwysi yn Arfon a Mon, &c. Cofier am < dano; mae yn meddu dawn felus. j Newid dwylaw. -Dyna fu hanes yr eglwys < yn Seion gyda'r gwaith pwysig oarwain y canu. Wedi blynyddoedd o lafurio gyda'r gwaith dymunodd y brawd Humplirey Wil- j liams roddi arweinyddiaeth y canu i fyny, | ac er's tro bellach dewiswyd yn unfrydol y brawdadnabyddus 0. T. Jones, L.T.S.C., J (Pencerdd Ffestin), i'r swydd. Efe wedi ei