Collection Title: Seren Cymru

Institution: The National Library of Wales

Rights: This resource is copyright of Baptist Union of Wales.

View full details

First Previous Image 3 of 16 Next Last
Full Screen
2 articles on this page
Trefna dy Dy

Trefna dy Dy. RHIF XX. (B) CWRDD Y BOBL ICUAINGC. Dywedwyd yn y "Seren" ddiweddaf nad oes dim gyferfydd ag angen yr aelodau ieuaingc i sylweddoli amcan eu haelodaeth eglwysig, a dyfnhau eu mwynhad 0 hethau ysbrydol, fel y gwna CYMDEITHAS YR YMDRECH. Arwyddair y Gymdeithas hon yw I Grist a'i Eg-]wys --Crist yn gyntaf a'i eg- lwys yn ail--yr eglwys i ffurfio cylch eu oieddwl, serch a'u g wieith-arw,ch fel canlyn- lad ymgyflwyniad personol llwyr i Grist. Pf-eithydd -factor- -p,wysig i ledaeniad Teyrn- as Dduw, yw aelodau leuaingc yn ymgys- egredig i Grist ac yn ymroddedig i waith yr eglwys yn achubiaoth y byd. Cyawysa Cyfamod y Gymdeithas honym- rwymiad gwirfoddol i ddarllen cyfran o Air Dluw a gweddio arno bob dydd. Sicrha hyn yr awyrgylch ysbrydol personol i bob aelod ieuangc cyn dod i'r cwrdd. Yn mhellach a-ddawa pob aelod, yn frawd a ffthellach addawa pob aelod, yn frawd a chwaer, barodrwydd i ymgymeryd ag un- rhyw waith o fewn ei allu ef neu ei gallu hi, er MANTAIS YR EGLWYS A GOGONJANT CRIST. Tyfu aelodau ymgysegredig felly yw nod mawr terfynol y Gymdeithas hon. G wneir trefniad wan RHAGLEN Y CWRDD gan Bwyllgor o'r aelodau leuaingc dan lywyddiaeth brawd o brofiad. Ar ddechreu tymhor y gauaf, etholir yr holl bwyllgor- au a'u cadeirwyr gan y Gymdeithas fel cyfangorph. Yn y rhaglen gosodir enw y brawd ieu- angc apwyntiedig i ddarllen yr adnodau sydd yn sail i'r Pwngc clan sylw. Yr wyth- nosau diweddaf hyn cawd ymdriniaeth ar y gwahanol weddau i weddi. Ychydig yw yr adnodau ddarllenir, a gwelliant yw hyn ar y darlleniad yn fyn- ych yn nghyrddau gweddi yr eglwys, lie y darllenir penodau meithion ac anmherth- ynasol, a'r darlleniad hwnw weithiau yn sal iawn, nes difetha y cwrdd gweddi ar ei gychwyniad. Os bydd dyn yn ddarllen- wr nodedig anmherffaith y rheol yw y dewisa efe benod o 30 a 40, ac weithiau 50 o adnodau. Gwelliant mawr yn y cyrddau gweddi fyddai darllen DIM MWY NA 12 ADNOD, a'r rhai hyny yn dal cysylltiad uniongyrch-. 01 a neges y cwrdd. Cenir unawd neu ddeuawd, &c., emyn- yddol gan rai o'r aelodau. iellaing ar ol darlleniad yr adnodau. Darllena aelod ieuangc bapur byr ar y pwngc dan sylw. Yna cymer y Llywydd y cyfarfod mewn llaw i wahodd adrodd- iad o adnodau ynglyn a'r pwngc neu an- erehiadau byrion, neu weddiau byrion. Pwysleisir BYRDER, EGLURDER AC UNION- GYRCHEDD Yn ol y Cyfamod addawa pob un i gymeryd rhan yn y cwrdd, a gwneir hyny ar ol ychydig brofiad yn ddioedi. Eir weithiau i weddi ddista.w gyflredinol. Cym- er llu ran gyhoeddus a'r cwbl o fewn W AWR. Dyna amrywiaeth. Peth mawr y cwrdd yw ei awyrgylch ysbrydol, a dyma'r arbenigrwydd ddylai berthyn i eglwys Dduw. Os nad yw ei hawyrgylch yn un ysprydol, yna nid eglyws mo honi ond "clwb." Treuliwyd y gauaf hwn gan ieuenctyd yr eglwys hon, ar linell Cymdeithas yr Ym- drech, ac ar adegau teimlid y Nef yn agos iawn iawn, Gweithiodd Pwyllgor Aelodaeth y Cwrdd ac ysgrifenydd neillduol weithgar y Gym- deithas yn dda. Rhwng gwaith y Pwyll- gor hwn a'r atdyniad ysbrydol yn y cyf- arfodydd wythnosol cyrhaeddodd yr aelod- aeth tua 90--ago i gwarter o aelodaeth yr eglwys. Cafodd y rhai hyn flas ar bethau ys- brydol crefydd, ac ni chwenychant mewn canlynirud barotoadau bydol rhai eglwysi i gystadlu a pharotoadau y byd., Os ceir y bobl ieuaingc yn llawn o Grist a'i Eglwys," cant eu llawenydd a'u gorfoledd ynddo Ef. Mewn eglwysi llai na 80 o aelodau ef- allai nad yw y cwrdd hwn yn ymarferol, am nad oes ynddynt fwy na tuag 20 o bobl ieuaingc yn aelodau. Os bydd y nifer dan hyny golyga fod yr 20 hyny yn cymer- yd rhan mewn mwy nag un gwaith yr un noson,gweddio, siarad, a chanu unawd, &c. Pe gellid cael 20 mewn eglwys o 80 i daflu eu hunain yn llwyr i'r gwaith,' dad- blygent eu galluoedd yn gyflymach, ob- legict ymarferiad, nag aelodau cymdeithas o 50. Ni ddywedir yma un gair yn erbyn Cyr- ddau Dadleuol, Llenyddol a Cherddorol. Rhoddant gyfle i ddiwyllio y meddwl, i sicrhau hunanfeddiant wrth siarad yn gy- hoeddus, ac eangant wybodaethh y rhai gymerant ran ynddynt. Gall AMRYW 0 BRIF DDYNION CYMRU briodoli eu llwyddiant yn eu cylchoedd cy- hoeddus i'r cychwyniad gawsant yn y cyr- ddau hyn yn Nghapelau Ymneillduol Gwal- ia, ac ni ddywedir chwaith nad mantais i ieuengctyd ami i ardal yw talu sylw idd- ynt, ond gwaith mawr Eglwys Dduw yw pwysleisio a meithrin OCHR YSBRYDOL BYWYD y bobl ieuaingc. Os bydolir yr eglwys, ni all hi ysbrydoli y byd. Ni ddywedir gair chwaith yn erbyn cwrdd cystadleuol, a chyngherdd i roddi cyfleustra i blant a phobl ieuaingc yr Ysgol Sul i ymarfer a gwaith cyhoeddus mewn adrodd- iad a chan. Gwnant wasanaeth da. Bydd arweinwyr yr eglwysi a'r Ysgolion Sul os yn fyw i'w gwiaith, yn talu sylw i lioll ag- weddau bywyd yr ieuengctyd, ac yn cefnogi pob sefydliad wna. les iddynt, heb ddrwg gorbwysol, ond gofaler fod un nos o bob wythnos yn yistod y gauaf yn anghyfnew- idiol, fel y nos bwysicaf i'r bobl ieuaingc, oblegid mai y nos hono y ceisir sicrhau iddynt gywair a thon y bywyd ysbrydol mewn myfyrdod ar y Gair a Chymundeb a Duw vn 01 AWYRGYLCH Y NEF. Os cyrhooddir y nod hwn,a gellir, trefnir ganddynt gyfarfod arall, os bydd amser ar eu llaw,cyfarfod fydd yn hollol gyson a'u bywyd ysbrydol ar lineU Owrdd yr Ymdrech. Dim ond ca;el calon y cref- yddwyr ieuaingc YN UNIAWN GERBRON DUW" gellir ymddiried i'w chwaeth yn nhrefniad eu cyriddau eraill lie y caniata eu hamser hamddenol hwy, a nos gyfleus yn agored yn ysgoldy y capel. -==- Ji.. Ymfuda nifer mawr o ieuengctyd o'r eg- lwys hon fel o eglwysi mown trefydd 8.0 ardaloedd amaethyddol, yn gyflredinol, i drefydd ac ardal oedd poblog, "i gaol by w- oliaeth." Os gellir cael cwrdd y bobl ieu- aingc mewn eglwys felly, gellir ei gael yn rhwyddach a mwy llwyddianus mewn cyn- ulleidfaoedd yn rhifo amryw galloodd '0 ieuengctyd. Amcan yr ysgrif hon, yw nid hysbysebu y gwaith yn y lIe hWfidY tebygolrwydd yw i well gwaith gael ei gyflawni mewn lleoedd eraiU y gauaf hwn--ond enwi ALLWEDD I DDADGLOI dyrysbwngc-Problem-fawr y bobl ieu- aingc yn yr eglwysi, a'u cynulleidfaoedd. Os oes gan rhyw frawd weledigaeth arall, myneged hi. Oddiar sylwadaeth a phrofiad 0 wahanol fathau o gyrddau y bobl ieuaingc, gellir cymeradwyo i Bwyllgor Cymdeithas Pobl Ieuaingc Undeb Bedyddwyr Cymru a'i hyso-- rifenydd gwerthfawr a llafurus, ystyriaeth o'r ffeithiau uchod i'w gosod ar brawf v gauaf nesaf yn eglwysi Bedyddwyr Oymrn. Os rhoddir prawf ar y Gymdeithas hon, fel ag i'w chario allan yn ei Jlythyren a'i hysbryd, gan ysgrifenydd lleol 3ringyseg- redig, egniol, a dal sylw i holl fanylion y cyrddau--a chafwyd brawd ieuangc nod- edig felly yma--os gwiieir liyii, llonir calon pob gweinidoo- a threulia y gauaf wrth ei fodd yn ngwaith ei eglwys.

Hyn ac Arall

Hyn ac Arall. Yn ol arwyddion yr wythno.s hon yn y wasg, nid yw y rhagolvgon am uniad hyd yn oed yr Anibynwyr a'r Methodistiaid yn edrych yn ddisglaer iawn. Erbyn hyn mae nifer dda or ddau enwad wedi Ilefaru, ac yn ol a ellir gasglu nid yw y Methodist- iaid yn debyg o bleidio. Ysgrifena Prif Athro Prys, Aberystwyth, gwr galluog a dylanwadol yn y corph ar y pwngc, a gwelir nad yw ef yn frwd iawn dros uniad, a chredaf mai nid y ff ordid iawn i symud at uniad yr enwadau, yw oeisio uno yr Anibynwyr a'r Methodistiaid. Cydolyga ef a'r Parch. Tecwyn Evans mai doethach a hawddach fyddai uno y Wesleyaid a'r Methodistiaid Calfinaidd. Mae Llywydd yr adran Saesneg o'r Meth- odistiaid yn ysgrifenu yn erbyn yr uniad. Tybia ef fod oefnogwyr uniad yn gorliwio y manteision o undeb, ac yn gorliwio yr anfanteision o fodolaeth gwahanol enwadau Ymddengys fod arweinwyr yr Anibynwyr yn fwy pleidiol i uniad, ond eglur nad ydynt hwy oil yn unfarn ar hyn. Ysgrifena Prif Athro Rees, Bangor, a'r Parch. D. Adams, Lerpwl, yn ffafriol, ond ceir ysgrif Saith gan y Parch. O. L. Roberts, Lerpwl. yn y Tyst yn nodi llu o anhawsterau ar ffordd uniad y ddau enwad. Cefnoga ef undeb agosach rhwng y pedwar enwad, yn hytrach nag uniad. Dadleua Golygydd y Tyst fod Cynghor yr Eglwysi Rhydd- ion yn bodoli er sicrhau undeb agosach rhwng yr enwadau, ond y dylid ymgeisio at rywbeth gwell a mwy sylweddol. —Ar ol sylwi ar yr hyn ysgrifenir ac a leferir tueddwn i gredu y terfyna -yr oil mewn dim ond son a swn. Amheuwn yn awr a gynelir Cynadledd o gynrychiolwyr y ddau enwad. Un ddadl arferir dros un- iad yr enwadau yw y gwastraff arianol i adeiladu capelau a chynal gweinidogaeth gan y pedwar euwad, pan y byddai dau