Collection Title: Seren Cymru

Institution: The National Library of Wales

Rights: This resource is copyright of Baptist Union of Wales.

View full details

First Previous Image 4 of 16 Next Last
Full Screen
3 articles on this page
O dan Big Ben

O dan "Big Ben," (Gan y Gwyliwr.) RHAGLEN Y LLYWODRAETH. Ddydd Mawrth gwnaeth Mr. Asquith yn hysbys y bydd y Ty yn codi rywbryd ym mis Awst. Cyn hynny bwriedir pasio yr adrannau angenrheidiol o'r Mesur Ariannol, a Chyllideb yr India (The Indian Budget), ac ystyried welliannau Ty'r Arglwyddi ar y Mesur Gwella G wyddelig. Cyn oodi o'r Ty bydd Mesur Datgysylltiad a Mesur Ymreol- aeth i'r Iwerddon wedi eu gosod ar Ddeddf- lyfrau'r wlad. Bwriedir cael Senedd-dymor newydd yn gynnar yn y gaeaf--yn dechreu rywbryd yn Nh a eh wedd e r cario yr adran- nau sy'n angenrheidiol o'r Mesur Ariannol i sierhau Cymorth-daliadau i'r Awdurdodau Lleol yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. PRIS HEDDWCH. Wedi cyfnewid y Mesur Gwella i'r fath raddau fel nad oes dim hanfodol o'r Mesur gwreiddiol yn aros, cyrhaeddodd yr Arglwy- ddi uchafbwynt eu traha ddydid Mawrth pan gynhygiodd Arglwydd Dunraven, ac y pas- iwyd, i ohirio gweithrediad Mesur Ymreol- aeth i'r Iwerddon hyd nes y bydidai Com- isi wn wedi gwneud ymchwiliad i berthynas gyfansoddiadol yr Iwerddon a rhannau er- aill o'r Deyrnas Gyfunol. Erbyn hyn, dyma'r pris a hawlir am heddwdh.gohirio'r Mesur hyd nes cael dyfarniad Comisiwn." Wedi brwydro am Ddatgysylltiad yng Nghymru am ddeugain mlynedd, a phasio Mesur Dat- gysylltiad ryw naw gwaith drwy Dy'r Cyff redin, cael Comisiwn' o Arglwyddi i wneud ymchwiliad i'r mater! Wedi i'r Gwy- ddelod ymladd am Ymreolaeth am wyth mlynedd ar hugain, ac o'r diwedd gyrchu yn llwyddiamius at y nod, dyma'r diweddaraf! cael Comisiwn o Arglwyddi i wneud ym- chwiliad i'r mater, a gohirio'r Mesur a basiwyd naw gwaith drwy Dy'r Arglwyddi er arcs eu dedfryd draws arglwydd iaethol! Ni bu Arglwydd Morley fyr o ddangos gwrthuni a thraha digywilydd y cynnyg. Atgofiodd1 hwynt ddarfod i Mr. Balfour ae Arglwydd Curzon gydnabod yn ddiweddar fod Ymreolaeth i Gatholiciaid yr Iwerddon mewn rliyw ffurf yn anochelad wy. "You talk of peril," meddai, "but your Amending Bill has only made collision more inevitable. If it is your last wbrd it is only an over- elaborate way of rejecting the Home Rule Bill, and you would have been more straight forward if you had rejected it openly." Siaradodd yr Arglwydd Beauchamp lawn cryfed a'r Arglwydd Morley. Y CANGHELLOR AI FEIRNIAID. Yn y ddadl ar y Mesur Ariannol ildiodd y Canghellor ar rai pwyntiau o bwys. Der- by niodd, er engraifft, egwyddor y gwellian- nau er atal codiad sydyn yn nhrethi'r ys- tadau. Y mae punt ychwanegol, er eng- raifft, ar ystad £ 100,000 yn arwaiii i dreth ychwanegot o £500, yn ol y trefniant gwrei- ddiol. Yn ol y gwelliant gweithia fel hyn. Bydd ystad o YLOO,000 yn talu yn ol £ 500 yn ychwanegol eithr £ l; £ 100,012, Y,12 yn ychwanegol, ac felly ymlaen hyd at ryw XIOO,500, pan fydd y dreth gyflawn yndod i rym. Cafwyd awr fywiog a diddorol ynglyn a'r cynnyg i ostwng y "Sinking Fund" o 24i o filiynai-L i 23 1 o filiynau. Syr F. Banbury a Mr. Faber a ddeuai yn bennaf o dan fflangell y Canghellor, a pha gyson- deb sydd i'r gwyr eithafol hyn ymosod ar Ly vvoclraeth a wnaeth gymaint eisoes i ddi- leu dyled yr aot-ileitt hwy eu hunain iddi? Mewn chwe blynedd," meddai'r Canghellor "talodd Arglwydd Goschen,—-eich Cang- hellor delfrydol-39 o filiynau o'r ddyled, mewn wyth mlynedd talodd y Llywodraeth bresennol 103 o filiynau. Y swm mwyaf dalodd Goschen mewn un flwyddyn oedd chwe miliwn, bwriedir talu y flwyddyn hon naw miliwn." A hyn gan y Llywodraeth a ddug i fod Flwydd-dal i hen bobl, ac Yswiriad Cenedlaethol. DROS Y BWRDD. Pan adygwyd ymlaen yn JNhy r Arglwyddi i'w ddarlleii yr ail waith y mesur er cym- eryd oddiar y cyfoethog ei ami "bleidleisiau taflwyd ef dros y bwrdd yn hollol ddiserem- oni, 119 yn ei erbyn a 49 o'i blaid. Daw y Mesur hwn, er hynny, o dan Ddeddf y Senedd. GWAITH Y SENEDD-DYMOR < PRESENNOL. Ddydd Gwener hysbysodid Mr. Asquith fwriad y Llywodraeth i roddi o'r neilltu am y gweddill o'r tymor presennol "Reol yr unarddeg o'r gloch." Felly mewn trefn i fynd drwy'r gwaith sydd ganddynt mewn llaw bydd raid i'r Ty eistedd yn cldiweddar- ach, a rhoddi bob prydnawn Gwener o hyn hyd y drydedd wythnos yn Aw-st at wasan- aeth y Llywodraeth. Wele grynhodeb o fynegiad y Prif Weinidog ynghylch y gwahanol fesurau (rhoddwn deitlau'r mesur- fl.]] vn Sifiisnio-V- .1 (1.) Mesurau y disgwylir en pasio:- Elementary Education (Defective & Element- ary Children). East African Protectorate Loan. British Nationality and Status of Aliens. Insurance (Part II.) Amendment. Criminal Jurisdiction Administration. Pa- tents and Designs. Milk and 'Dairy (Scot- land). Merchant Shipping Convention. Su- dan Loan. litermediate Education (Ireland). Coal Mines. Inebriates. Anglo-Persian Oil. Labourers (Ireland). Expiring Loans Con- tinuance. Public Works Loan. (2.) Mesurau a ddodir o'r neilitu.- Revenue. Irish Land. Hops Substitutes. General Medical Council. Checkweighing and various Industries. (3.) Mesurau a ohirir.—Education. Insu- rance (Part I.) Amendment. (4.) Mesurau y gobeithir eu pasio drwy gydsyniad yr Wrthblaid.-Two .Scottish Bills (Entail and Feudal Casualties) Housing. Plumage. Parliamentary Elections Polling Day. Small Landholders (Scotland). A OES HEDDWCH? Sibrydir fod y Llywodraeth a'r Wrth- blaid yn neshau at ei gilydd ar gwestiwn Ulster. Y cynnyg olaf yw derbyi-i pleidlair, Siroedd Ulster gyda'i gilylèUd ac nid ar wahan. Ond cyfyd aiihawster parthed Ty- rone, yr Wrthblaid am ei chynnwys gyda'r lleill, y Cenedla/etholwyr yn anfoddlon am fod mwyafrif preswylwyr Tyrone yn Gatholiciaid. o

MOUNT CALVARY DANYGRAIG ABERTAWE

MOUNT CALVARY, DANYGRAIG, ABERTAWE. Cynhaliwyd eyfarfodydd pmgethu neilltuol yn y capel uchod Gorff. 7, 1914, er mwyn dathlu un flynedd ar ddeg o weinidoigaeth y Parch. E. Myrddin Thomas, ar yr eglwys. Gwasanaethvvyd. gan y gweinidog, a'r Parch H. C. Mander, Mt. Pleasant, Abertawe. Yn ystod y deng mlynedd diweddaf ych- ydig ydyw'r eglwysi a f;edr rotLdi gwell eyf- rif ou goruchwyliaeth na'r eglwys hon. Pan sefydlodd Mr. Thomas yma yn 1903, yn olynydd i'r Parch. W. Maurice, rhifai yr aelodau dan 80; heddyw, rhifant dros 200. Yn fuan wedi ei sefydliad cliriwyd y ddyled oddiar y festri a wasanaethai fel capel. Bu Mr. Thomas yn ddigon craff i weled fed y lie yn rhwym 0. gynhyddu,yn herwydd ei safle ddaearyddol ynglyn a'r dociau. Yn argyhoeddedig felly, trefnodd gynlluniau; pennodwyd Pensaer ym mher- son W. Beddpe Rees, Yswain, Caerdydd, ac aed ati o ddifrif i aklieiladu y capel hardd presennol. Deil eisteddleoedd i 850, a'r neuadd 650, ia'r hen festri tua 450. Gwelir felly fod yna ddarpariaeth i yn agos 2,000 o bobL Oostiodd yr oil dros £ 3,000. Ymhen blwyddyn wedi agoriad y capel, gosodwyd organ newydd i fewn; costiodd dau cant a banner o bunnoedd, a thalwyd am Idani. Heblaw cyfarfod a llogau trymion tynwyd corff y ddyled i lawr tan ddau oant 00 bun- oedd. Gweithia Mr. Thomas yn galed gyda y bobl ieuainc. Mae yr Ysgol Sul y dryd- edd fwyaf yn Abertawe. Cydnabyddir ef yn drefnydd diail. I hyn, a bendith Duw ar ymdrechion diymffrost y priodolir y llwyddiant eithriadol hyn. Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion am liynny yr yaym yn llawen. GOH.

TYSTEB DR HARRIES TREHERBERT

TYSTEB DR. HARRIES, TREHERBERT. Mr. Gol.Gwn y caniatewch air bach parthed y mudiad teilwng uchod, er mwyn cefnogi apel daer Mr. David James (Defyn- nog). Y mae Dr. Harries yn enw teuluaidd ymhlith Bedyddwyr Cymru, ond nid yw ein hybarch frawd, fel rhai, yn fawr ei fri a'i barch oddicartref, ond yn llai felly yn ei fro ei hun. Os am weled Dr. Harries yn ei barch a'i ogoniant deuer i Dreherbert ac i Libanus at bobl ei ofal, i ba rai y mae wedi gweinidogaethu am yn agos i 26 ü flynydd- au. Y mae wedi bod yn pregethu am yn agos i 60 mlynedd. Y mae wedi cyfoethogi llenyddiaeth ein gwlad ni ag erthyglau, ysgrifau a barddoniaeth-wedi swyno cyn- ulleidfaoedd a'i bregethau byw, athrylith- gar, ac y mae ei fwa'n gryf hyd heddyw. Y mae y Dr. yn prelgethu cystal heddyw ag erioed,' glywir yn ami o enau pobi ei gyn- ulleidfa. Ond pa ryfedd? y mae yn gweith- io yn galed yn awr. Nid oes nemor weinid- og heddyw yn treulio cymaint 0 amser yn ei fyfyrgell ag ef. Y mae yr "hen ddisgybl' yn ei le o hyd wrth draed yr Athraw Maw. Ai ar y llofft y mae Dr. Harries yn byw, 'nhad"? gofynnai mab ysgrifenydd y llin- ellau hyn yr wythnos o'r blaen. 'Pam'? gofynnwn inau. Oblegid mai i'r llofft y mae Miss Harries yn mynd1 a'ch negesau bob amser," meddai yntau. le, i fyny y mae wedi byw, ac yn byw o hyd, gyda'i lyfrau, a chyda'i Dduw. Nid yw ein brawd ychwaith yn un sydd wedi ennill arian mawr erioed. Na, bu am flyn- yddau lawer yn llafurio yn ffyddlon dros ei Dduw, a chodi teulu mawr sydd yn 'gredit' idiclo ef a'i wraig anwylaidd, ar gyflog y byddai bechgyn 15 a 16 ped heddyw yn oodi eu trwynau arni. Felly nid: oes perygl y bydd y dysteb hon yn ychwanegu at gyfoeth wedi ei gasglu eisoes. Da gennyf ddweud fod eglwysi Treherbert Ð bob enwad wedi cydio' yn y mater o ddifrif. Amheuthyn oedd clywed brodyr oddiwrth y Methodistiaid, y 'Wesleyaid a'r Annibynwyr yn siarad mor barchus am dano yn y Pwyllgor nos Sul diweddaf, er yn cydnabod ei fawr Isel fel Bedyddiwr. Yn sicr befyd bod cannoedd ar hyd ailed y wlad wedi cael bendith drwy bregethau ein hybarch frawd. Wel, dyma gyfle i'r cyfryw ddangos eu parch iddo mewn modd sylweddol.Amen mewn darn o aur--ja thalu eu dyled i Dduw am dano. Hyderwn y daw yr enwad yr ymflrostiwn gymaint yn ei egwyddorion allan i ddangos bod ganddo rhywheth heblaw egwyddorion meirw. Dangosed ei gariad tuag at un o'i arweinwyr mwyaf galluog, selog a ffydd- lon—un sydd wedi profi ei hun ar hyd y blynyddau yn weinidog da i Iesu Grist. Byddwn ni ar ein hennill; y mae llvvydd- iant cenadwri'r groes yn ymddibynu i raddau helaeth ar ein parch ni, a'n gwerthfawrogiad o'r hwn sydd yn ei thradclodi. Y mae tu- edd ynom i anghofio hyn, y dyddiau pres- enol. Y mae bywyd gweinidogaethol Dr. Harries yn gorffen yn ei ogoniant. Y mae ei Arglwydd megis yn gosod sel ei gymer- adwyaeth a'i foddlonrwydd ar ei waith trwy ychwanegu at rifedi ei eglwys yn Libanus lawer o rai a hyderwn a fyddant gadwedig Y mae 22 yn awr yn y gyfeillach. Dangoswn ninnau ein parch diffuant i un y mae yr Arglwydd wedi ac yn ei gymer- adwyo mor amlwg, a'n diolchgarwch befyd iddo am alluoedd, athrylith, brwdfrydedd a bywyd hunanaberthol ein hybarch frawd1, trwy gyfranu at ei dysteb. Bydd hynny yn sirioli nawnddydd un o broffwydi Duw, v yn yr oes hon. Derbynir unrhyw gyfran yn ddiolchgar gan Mr. D. James (Defvnnog), Delfryn, Treherbert, Ysgrifennydd y dysteb. Yr eiddoch, Bethany, Treherbert. SAMUEL JONES.